Hide Articles List

4 articles on this Page

CHWYLDROADAU Y RHYFEL. !

News
Cite
Share

CHWYLDROADAU Y RHYFEL. Yr ydym yn byw mewn amseroedd enbyd. Ai tybed y bu cynifer o chwyl- droadau mor bwysig mewn amser mor fyr ag sydd wedi bod o fewn llai na dwy nynedd yn awr? Nid ydym yn credu. Y maent gan mwyaf yn rhai nad allsem ddychymygu yn miaen Haw am danynt. Byddem yn arfer meddwl fod lawer o bethau ag yr oeddym ni yn berchen arnynt, ac nad oedd gan y Llywodraeth nac arall hawl i'w cyS- wrdd. Ond nid felly y mae. Fe fu dad- leu mewn cylchoedd penodol mai da fu- asai i'r Llywodraeth brynu y rheil- Syrdd, eithr gwelid fod anhawsderau ar y ffordd nad ellsid mynd drostynt. Ond ar ddechreu y rhyfel, gyda chyff- yrddiad ysgrifbin a gair gwefus, wele y rheilffyrdd yn nwylaw'r Llywodraeth- yn eiddo iddi mewn effaith; ac y mae'r canlyniadau yn Iluosog, yn cyraedd yn mhell, a llawer cylch o herwydd hyny yn goddef anfantais a cholled, Mewn ffordd debyg cymerwyd y llongau dros- odd gan y Llywodraeth. Erbyn hyn y mae rhyddid a gwirfodd gyda'r nlwr- -iaeth ar fynd o'n dwylaw-beth bynag o ddwylaw y rhai sydd mewn oedran milwrol. Buwyd yn tybied yn Mhryd- ain, hyd yn lied ddiweddar, fod hyn mor anhebyg o ddygwydd i ni ag a fu- asai i'r haul godi yn y Gorllewin. Ond erbyn hyn wele orfod yn gyfraith y wlad. Yr ydym dan ddeddf y gad yn gystal a deddf y nlwriaeth. Y mae teymasoedd ac ymerodraethau eraill yn gwbl gydnabyddus a deddfau o'r fath, a ninau wedi bod yn eu cyfrif hwynt fel pe'n is i lawr ar raddfa gwareiddiad Yn awr wele ninau fel hwythau, ac yn ymostwng mor dawel ag y gallwn. Nid ydym yn eiddo i ni ein hunain. Nid nyni biau ein meddianau, na'n harian, end fel y gwel y Llywodraeth yn dda. Y nos Sadwrn o'r blaen wele holl awrleisiau ac oriaduron Cymru a Lloegr wedi mynd drwy oruchwyliaeth ddyeithr dros ben. Drwy orchymyn deddf Senedd symudwyd bysedd yr am- seronau bob ag un awr yn miaen. Nid fel y myno dyn y caiff o gadw'i gloc na'i "watch." Clywsom am ryw wein- idog wedi gomedd cydffurno a'r ddeddf, ond o'r herwydd collodd ei gynulleidfa ddwywaith y Sabboth o'r blaen beth bynag. Arbed goleuni dydd ydyw'r dy- ben yn ol enw'r Mesur. Ond nid dyna ydyw. Wrth gwrs ceir awr ychwaneg o ddydd yn ystod oriau effro drwy fis- oedd haf, ac awr ychwaneg o nos yn ystod oriau cwsg. Ond yr hyn arbedir ydyw goleuni celfyddydol-y ganwyll, y nwy, a'r trydan; a chan y rhaid cael glo i gynyrchu nwy a thrydan, bydd ar- bediad pwysig ar y glo, yr hwn sydd lawer prinach nag arfer, a llawer o alw am dano i ddybenion eraill. Y mae newyddiaduron wedi bod yn dadleu yn erbyn y cyfnewidiad, o achos, er es- iampl, oni ddylynid yr un cynllun gyd- a'r amser yn America, y byddai new- yddion marchnad America yn dod yma ddiwrnod yn ddiweddar. Y mae fferm- wyr a garddwyr wedi bod yn achwyn peth hefyd, am nad allant hwy ddech- reu ar waith y dydd yn ddim cynarach nag o'r blaen. Er codi o'r ffermwyr a'r garddwr awr yn foreuach, ni chwyd y gwlith oddiar laswellt y maes na ffrwythau'r ardd fynyd yn gynt. Nid yw trefnidedd awrlais yn cyffwrdd y gwlith. Fodd bynag, bydd y newidiad yma yn fantais dda i rai sydd mewn masnachdai a swyddfeydd. Cant hwy awr ychwaneg o ddydd i ymfwynhau ac i gael ymarferiad. Rhyw chwyldro mawr yw hwn, a rhyfedd mor ddidrwst y daeth o amgylch, er ei fod yn cyn- wrdd mor agos a'n rhyddid. Ond cym- er hyn oil Ie o herwydd y rhyfel, a thrwyddo, yn ol yr amcangyfrif, arbed- ir dwy nliwn a haner o bunau-swm rhyfeddol-ac etc ni chyferfydd ond a thraul haner diwrnod o'r rhyfel. Nid yw ond briwsionyn. "Cesglwch.fel na choller dim." Chwyldro mawr arall ag yr ydym yn ei ganol ydyw yr un yn nglyn ag add- ysg. Y mae miloedd o athrawon wedi ymuno a gwahano! adranau y fyddin, ac nid oes ond ychydig, mewn cymhar- iaeth, o'r gwagleoedd wedi eu IIanw yn effeithiol. Y mae degau o filoedd o ef- rydwyr wedi ymuno a'r fyddin ar ganol cwrs eu haddysg. Y mae llawer o gol- egau wedi eu cau, a llawer iawn o'r athrofeydd nad oes ond ychydig iawn o efrydwyr ynddynt. Hyderwn y dychwel Iluoedd o honynt adref. "Mae gobaith gwr o ryfel." Ond bydd gyrfaoedd addysg y mwyafrif o honynt wedi eu tolcio'n anobeithiol. AiS' o leiaf un genedlaeth heibio cyn yr ad- ferir effeithiolrwydd addysg yn ein gwlad. Buasid yn teimlo yn fwy tawel pe y gallesid eadw addysg y plant yn erreithiol; ond y mae Haweroedd* o athrawon goreu yr ysgolion elfenol a chanol wedi myned i'w ffordd. Y mae addysg ar gyfer y pwlpud, y ddesc, a chadair yr athraw; ar gyfer y gyfraith, fferylliaeth, a meddygiaeth, yn ddi-cs wedi eu hysigo. Ychwaneg, wele seil- iau ad'dysg y plant—gobaith yr oea sydd yn ymyl-gwedi eu siglo i'r gwaelod. Y mae addysg, yr h<)n yr ydym wedi arfer rhoi pwyslais ami fel un o'r anhebgorion, wedi cael dyrnod drom. Beth fydd y canlymadau? Heblaw hyn oil, wele fasnach y ddlod mewn syfrdan; ac ni all neb, dldyry reswm a chydwybod ar waith. alaru am hyny. Y mae hi wedi bed yn lapio am dani yn mhob ffordd drwy'r amseroedd. Yn mthob etholiad senedd- ol y mae ei deiliaid hi, ebai Syr T. P. Whittaker, bob amser yn bleidwyr i'r ymgeisydd fydd yn erbyn diwygiadau trwyddedol. Pan gwyd y cwestiwn o benodi Ynadon gwneir pob ymdrech y gellir ei ddychymygu i sicrhau penod- iad rhai ffalriol i'r fasnach. Tynir y gwifrau yn y tren, drwy bob moddion, i sicrhau rhai ar y PwyIIgorau gwylio fydd yn gyfeillion i'r fasnach. Y mae y tafarnwyr yn talu sylw parchua i'r heddgeidwaid, ac yn cyfranu gyda doethineb gofalus at wahanol achosion, tystebau, etc. Y mae y darllawyr gyda Ilygad agored yn rhwymo y cwmni o gyfreithwyr i'w gwasanaethu, ac y mae un o honynt yn glerc i'r Ynadon. Drwy bob ffordd y mae gwraidd y pren ac y mae'r fasnach yn ofnadwy gref. wedi tyfu'n ddwfn ac i 'bob cyfeiriad, ac wedi gwneyd difrod annirnadwy; a bu'r Senedd yn ormod o nawdd iddi. Ond wele'r Senedd o'r diwedd yn "troi y tu min" ati hithau, yn llyffetheirio'i chaTnrau, ac yn ei rhoi mewn cadwyn- au tynion. Nia gwel y fasnach etc fyth mo'r dyddiau euraidd a wlelodd. Y mae hithau mewn chwildro, ac o chwildro i chwildro nid hawdd i broff- wyd na dewin ddamcan beth i'w ddya- zwyl nesaf.—O'r "Genedl."

Advertising

-HAMMOND. IND.-I

Advertising