Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
PENBRYN A'R CYLCH.
PENBRYN A'R CYLCH. YMDRECHFA AREDIG-Cyuhaliwyd yr uchod eleni dydd Mawrth, Chwefcor 19eg, ar gae perthynol i'r boneddwr parchus, sef Capt S. fl. Jones-Parry, Tyllwyd. Llywydd, Mr W. R. Jones, Dyffrynceri, Rhydlewis is-lywydd, Mr D. Morris, Cadwgau, Olyo- arthen; ysgrifenydd, Mr D. R. Evans, Penlone Bowls trysorydd, Mr D. O. Jones, Lion, Bettws; amserydd, Mr T. Evans, Bronial. Beirniaid Yr aredig, Mri G. Davies, Alltycordde, Glynarthen; H. Evans, Nantgwylan, Penrhiwpal a T. James, Capelgwnda, Glynarthen ceffylau, Mri T. Davies, Bronwion, a E. Rees, Pengelli pedolaa, Mr S. Jones, Blaenpant Lodge drynau aradr, Mr J. Thomas, Cilbronau Lodge. Daeth 16 o erydr i'r maes, a dyma'r goreuon Dosbarth I. (Prif Gampwyr)-1, Mr E. Evans, Rhydhir, Cilrhedyn; 2, Mr J. Griffiths, Waun, Rhydlewis. Doebarth II. (Campwyr) — 1, Mr E. Davies, Ffosyrhendy, Beulah; 2, Mr D. M. Beynon, Pantygenau, Glynarthen 3, Mr J. Davies, College-mawr, Glynarthen. Dosbarth III.—1, Mr J. T. Davies, Fronlas, Beulah (yr unig ua orphenodd yn amserol yn y dosbarth hwn). Dosbarth IV.-I, Mr T. W. Evans, Pen- sarnddu 2, Mr W. Williams, Tyllwyd. Dosbarth V-I, Mr J. Jones, Pwllyr- heyrn 2, Mr B. Drvies, Alltycordde. Yr Aradr goreu ar y cae-Mr E. Evans, Rhydhir. Ceffytau-l, Mr E. Evans, Rhydhir 2, Mr D. Davies, Pensarnddu. Pedolau-1 a 2, Mr A. Griffiths, Pen- garreg, Llanybyther. Drynau Aradr-1. Mr T. Jones, Pilbach, Glynarthen 2, Mr 0. Rees, Brongest. Oyflwynwyd dros y pwyllgor gan Mr G. Davies, Alltycordde, ddiolchgarwch gwresog i Mr W. R. Jones am lywyddu, ac yn arbenig am ei baelioni yn cyfranu 2p at dreuliau'r ymdrechfa. Nid oedd yfeirniad- aeth ar yr aredig wedi rhoddi boddlonrwydd cyffredinol, ac amlygodd rai personau hyny yn gyhoeddus, pryd y dadganodd y beirn- iaid drachefn eu bod wedi gwueyd eu gwaith yn onest a chydwybodol.
DIHEWID.
DIHEWID. MARWOLAETHAu.-Blin genym orfod cof- nodi marwolaeth Sarah Ellen, merch ieuanc Mr a Mrs Williams, Ffosdwn, Dihewid, yr hyn gymerodd la ar y 6ed cynfisol. Hefyd, ar y 9fed cynfisol, bu farw y brawd ieuanc Evan Lloyd, mab Mr a Mrs Evans, Maes- meillion. Cafodd y ddau hir gystudd yn y darfodedigaeth. Buont yn mynychu yr ysgol ddyddiol yr un adeg, ac yr oeddynt yn yr un dosbarth. Cymerwyd hwynt yn wael yr un amser, a buont farw yr un wyth- nos, oddeutu yr un oedran, sef 14 mlwydd. Yr oedd y ddau yn meddu ar alluoedd meddyliol tu hwnt i'r cyffredin. Yr oedd nifer yr adnodau ddysgodd y gyntaf ar ei chof yn ystod ei misoedd olaf bron yn anghredadwy.
CEINEWYDD.
CEINEWYDD. Y BEDYDDWYR AC UNDEB Y CEi.-Mae y gair ar led fody Bedyddwyr wedi gwrthod uno 'l' Undeb, ond nid gwir y gair, oblegid ni chawsant gynyg. Y crybwylliad cyntaf glywodd y Bedyddwyr am y mudiad oedd yn Ngbapel y Towyn. mewn cyfarfod dir- westol undebol (yn cynwys y Bedyddwyr) chwech wythnos yn ol, pryd y cyhoeddodd Mr Thomas, Brynarfor, fod pwyllgor o chwech o'r Towyn a chwech o'r Tabernacl wedi trefnu cynal wythnos o gyiddau gweddio ac wythnos o bregethu. Ni dder- byniodd y Bedyddwyr wahoddiad gynt na chwed'yn. Penderfynodd y Bedyddwyr, gan hyny, nos Lun, Chwefror 18fed, i ym- gadw o'r cyrddau weddïo a'r cymundeb, ond i fynychu y cyrddau pregethu.
CAERWEDROS.
CAERWEDROS. DIRWEST. -Cynhaliodd Cymdeithas Ddir- westol y lie uchod ei chyfarfod misol rheol- aidd nos Wener diweddaf. Yn absenoldeb y cadeirydd penodedig, y Parch W. Grif fiths, Nanternis, llanwyd y gadair gan Mr E. T. Parry (Ap Plenydd), y llywydd. Yr oedd hwn yn gyfarfod rhagorol. Wele'r rbaglen :-Auerchiad gan Ap Plenydd. Ton gan Gor y Plant, dan arweiniad Mr J. O. Thomas, Felin Newydd. Adroddiad, Y Cadfridog, y Bachgen, a'r Hotel,' gan Mr JE. T. Jones, Llanlwydd. Cystadleu- aeth cyfieithu geiriau cyfartal, Mrs Capt G. ;0. Griffiths, y Caban, a Miss Jones, Brynheulog. Anerchiad, Mr D. O. Evans, Glyn'rodyn. Unawd, Miss Jones, Frondeg. Triawd, Mr Ben Thomas (Llew y Bryn), Brynderw, a'i gyfeillion. Anerchiad, Mrs Capt G. O. Griffiths. Cystadleuaeth dar- llen barddoniaeth gorea, Mr D. O. Evans. Araeth ddifyfyr goreu, Mr Tydu Jones, Cilie. Anerchiad, Y perygl o arfer diod- ydd meddwol yn y teulu,' gan Tydu. Diau mai dyma yr amheuthyn mwyaf ydym wedi ei gael yn mysg anerchiadau y gymdeithas er y cychwyn. Hyderaf y bydd i swyddog- ion llygadgraft yr Undeb fod mor ffodus a sicrhau gwasanaeth Tydu i draddodi yr an- erchiad wir amserol a galluog hon yn un o gyfarfodydd nesaf yr Undeb yn y cyf- arnser, gallaf eu sicrhau fod gwledd yn eu haros. Canodd y cor 1 Y Cusan Olaf,' dan arweiniad Mr S. Jones, Castell.
TBEFIUS.
TBEFIUS. NODACHFA. Cynhaliwyd hon dydd Mercher wythoos i'r diweddaf yn ysgoldy y plwyf, pryd yr oedd hufen cymdeithas y gymydogaeth wedi dyfod ynghyd i'n cynorthwyo ni gyda'r amcan daionus sydd mewn golwg gan ein Rheithor parcb'us a'i briod, wrth gynal y nodachfa hon aa ereill sydd i ganlyn, sef casglu croofa arianol er adeiladu ty i'r ysgolfeistres bresenol.' Rhaid i mi roi ar ddeall yn y fan hon mai ysgol wirfoddol (voluntary school) yw ysgol y He, a phan alwn i gof fod yn ofynol cael rhywbeth yn agos i 200 o bunau bob blwyddyn i gario gwaith yr ysgol yn mlaen yn ei cbyfangorff, a hyny heb osod dim hatling o drethi ar y plwyfolion, gwelwn mai nid gorchwyl bychan sydd gan y Rheithor i'w gyflawni, a rhaid ei fod yn fawr ei ddylanwad a'i barch cyn y medra gael y ddau ben llinyn yn nghyd. Hyn- yna o eglurhad ar yr ysgol. Wel, fel y dywedais, yr oedd dydd y bazaar yn ddiwrnod pwysig genym ni yn y plwyf, dydd gosod careg sylfacn cronfa arianol adeilad yr ysgolfeistres, a phan gofiwn fod y boneddigesau canlynol ac amryw ereill wedi addaw bod yn bresenol neu gyfranu tuag at y bazaar, gwelwn ar unwaith nas gallai dim ond llwyddiant perffaith i ganlyn, sef Mrs Davies-Evans, Dolaubach Mrs Lewes, Miss Lewes, a Miss Florence Lewes, Llanlear Mrs Griffiths, Gelly; Mrs Hughes, Neuaddfawr Mrs Morris, LlaDy- byther Mrs Davies, Llanllawddog Misses Williams, Nantcwnlle; heblaw y dyrfa garedig ddaeth o Lanbedr, ac yn eu plith gellir enwi y Parch J. W. Evans, B. A., Mr a Mrs W. Davies, London House; Mrs Edmunds, Cedar House Mrs Jones, Bush Miss Herbert (dylaswn ddweyd yn y fan hon fod Miss Herbert, College-street, wedi bod mor garedig a pharotoi afternoon tea ar raddfa eang i'r boneddigesau a'r boneddig- ion y rhai a dalent 6c yr un am dano, arian pa rai a drosglwyddid i'r gronfa cyffredinol. Can' diolch iddi am hyn) Mrs Davies, Station-terrace Nurse Roberts Mr D. Watkins, cyfreithiwr heblaw nifer ereill nas cofiaf wrth eu henwau. Drwy gael y b Jbl hyn i gymeryd rhan yn y gwaith, a'u dwylaw yn fynych yn eu pocedau, heblaw y nifer fawr ddaeth yma o'r gymydogaeth, gwelwn ar unwaith fod cychwyniad go lew wedi bod. Yr wyf yn meddwl fod pawb wedi cael eu boddloni yn hollol. Trueni na fuasai ychwaneg o'r penny dips yno erbyn yr hwyr. Dyma beth sydd a myn'd' artio. Erbyn y tro nesaf gobeithio y cawn lonaid trol o nwyddau yn y gangen hon. Cyn terfynu y cyfarfod, cynygiodd ein Rheithor bleidlais o ddiolch- garwch i bawb fu a rhan yn y gwaitb. Eil- iwyd ef gan Mr Llewellyn O. Davies, cyf- eiriadau yr hwn a amcanwyd yn fwyaf neillduol at osod allan sefyllfa yr ysgol a'r mudiad presenol oedd gerbron y cyfarfod, a chyfeiriodd yn bwrpasol iawnaty rhwym- edigaethau mawr ag oedd arnynt hwy yn Nhrefilan i'r Rheithor a'i briod am gymer- yd arnynt gymaint o lafur a gofal nad oedd raid iddynt ei wneuthur. Derbyriiwyd y sylwadau hyn gyda banllefau cymeradwyol i'r Parch T. C. Edmunds a Mrs Edmunds. Deallaf erbyn hyn fod y swm sylweddol o 31p wedi eu casglu y prydnawn hwn. Bravo ( CYFARFOD.-NosWener diweddaf, mewn gwahoddiad i hysbysleni a welid ar y par- wydydd, y rhai a anfonwyd allan gan ein haelod ar y Cyngor Sirol, Mr Daniel Jen- kins, Pentrefelin, daeth nifer o drethdal- wyr Tre61an a godreu plwyf Nantcwnlle ynghyd i Ysgoldy Trefilan er mwyn ystyr- ied (1) y priodoldeb o gael Travelling Dairy School' i'r gymydogaeth yn ystod y gwanwyn, ac (2) adgyweirio heol Llwyn- brain. Cymerwyd y gadair gan y Parch T. C. Edmunds, B.A., cyfeiriadau yr hwn oedd yn ffafrio? iawn i'r ddau fudiad, a galwodd ar Mr Dan Jenkins i egluro y cyn- llun oedd ganddo mewn golwg i ddwyn y ddau amcan hyn i ben. Gwnaeth Mr Jenkins hyny yu ei ddull deniadol arferol, a'r canlyniad fu cael unfrydedd bollol ar y ddau gwestiwn. Ffurfiwyd pwyllgorau gweithiol a dylanwadol i symud yn y blaen gyda'r gwaith. Penodwyd y Parch T. C. Edmunds yn gadeirydd, a Mr Llewellyn O. Davies yn ysgrifenydd i'r ddau bwyllgor. Gyda golwg ar heol Llwynbrain, dangoswyd yn y cyfarfod fod angen mawr i'w hadgy- weirio drwy i bawb bron oedd yn bresenol roddi ei enw ar restr y tanysgrifwyr nes i'r gronfa gynorthwyol gyraedd y swm o 13p. Wedi y cyfarfod uchod, bu i'r personau a apwyntiwyd i edrych i mewn i'r mater gy- farfod ac arolygu yr heol, a deallaf fod y gwaith eisoes wedi dechreu. Peidiwn gad- ael iddi mwy nes y derbynir hi i mewn yn mhlith heolydd ereill Undeb Caron. GWLEDD DE.-Prydnawn dydd Mawrth Ynyd y cynhaliwyd hon. Gwyl flynyddol yr Ysgol Sul ydyw, treuliau pa un sydd yn gyfangwbl yn cael eu dileu gan y foneddiges garedig, Mrs Griffiths, Gelly. Rhyfedd mor gynes yw achos Trefilan gan Mrs Griffiths, ac aneirif yw y cymwynasau ellir briodoli iddi ynglyn ag Eglwys y Plwyf. Caffed flwyddi lawer eto o iechyd fel y parhao i wasgar cymwynasau fel hyn o bryd i bryd yw dymuniad pobl Trefilan i gyd. Gan mai gwyl flynyddol yr Ysgol Sul ydoedd, deallir ar unwajth mai y cwrdd tê' oedd dechreuad y rhaglen, a tS a theisen gampus gaed. Ar ol i bawb gael ei wala a gweddill cliriwyd y byrddau erbyn cyngerdd yr hwyr, Dechreuodd hwn am 6.30 drwy i'r Parch T. C. Ed- munds, B. A., yn gyntaf gyfeirio yn fyr at waith mawr yr Ysgol Sul a'r ddyledswydd oedd ar bawb i'w mynycho yn gyàon, a gwneyd y defnydd priodol o'r addysg gyfrenir ynddi. Yn dilyn hyn rhanodd lyfrau defnyddiol yn wobrwyon i'r rhai fu yn fwyaf cyson yn mynychu yr Ysgol Sul yn ystod y fiwyddyn. Y mae modd gwella yn y eysondeb. Gwelais ychwaneg yn teilyngu cydnabyddiaeth yn y cyfeiriad hwn. Ymrodded pawb i gael gwobr yn yr wyl nesaf. Wedi hyn daeth gwobrau i'r rhai hyny ag ydoedd wedi bod yn adrodd adnodau, penodau, a Salmau, ac yr oedd 01 llafur i'w weled fan hyn, yn neillduol gyda'r plant bychain. Carem wel'd cynydd y dosbarthiadau II., IV., V., VIT. Bydded i'r rhai hyn ddechrey o ddifrif yn awr. Yn dilyn eto awd drwy raglen faith a blasus mewn adrodd, dadleu, a ohanu, ac yr oedd y cyfan yn dapgos chwaeth yn newisiad testyoau oddigerth yr adroddiad o Hen gwrcyn du Rhysyn Joe.' Gellir gwneyd heb ddarnau fel hyn mewn cyfarfod yr Ysgol Sul, ond os oes raid wrthynt, dysger, ac nid darllener hwynt. Wel fel pobpeth da a blaeus arall, yr oedd terfyn i fod a hwn, a chyii gollwng y bobl ilw cartregoedd, talodd ein Rheithor bleidlais o ddiolch- garwch gwresog i roddwraig y t6 (Mrs Griffiths, Gelly), i'r gyfeilyddes ardderchog (Miss Florence Lewes, Llanlear), ac i bawb fu yn cymeryd rhan yn y gwaith. Eiliwyd ef gan Mr Llew. 0. Davies, pa un a gyfeir- I iodd at lywyddiaeth ddeheuig, amyneddgar y cadeirydd, sef ein parchus lafurus Reithor, a derbyniwyd y bleidlais gyda chymeradwyaeth gyffredinol a thanbeidiol. Terfynwyd y cyfarfod drwy ganu Duw gadwo'r Brenin a Hen wlad fy Nhadau.' CYNGOR SIROL.-Bellach y mae prydles y Cynghorwyr wedi dyfod i ben, ac nid oes dim ond awn etholiadau i'w glywed o bob tu, ond yr ydym ni yn rhanbarth Nant- cwnlle yn gorphwys yn dawel arein harfau, gan foddloni oegoi y cynhwrf a'r anghydfod sydd yn deilliaw o bron bob etholiad drwy ddychwelyd yn ddiwrthwynebiad ein haelod presenol, Mr Dan Jenkins, Pentrefelin. Yr wyf yn ystyried iddo fod yn aelod boddhaol hollol, ac wedi mynychu y pwyllgorau yn gyson iawn, ac yn cymeryd rhan amlwg yndaynt. Folly yr wyf yn meddwl mai penderfyniad doeth oedd ei ail ethol fel hyn. Gobeithio y gwnaiff ein gwasanaethu yr un mor ffyddlon yn y tair blynedd nesaf a'r rhai sydd wedieu treulio, ae yna gall wynebu yr etholwyr yn bur galonogol am brydles ychwaiiegol.-L. 0. D.
ILLANCRANOG.
LLANCRANOG. YR YSGOL FRYTANAIDD.-Fel ycrybwyll- wyd yn YE BRYTHON yr wythnos ddiweddaf fod eyfarfod o drethdalwyr y plwyf uchod wedi cael ei alw i'r amcan o edrych i fewn i safle yr Ysgol Frytanaidd, am y rheswm Dad oedd reports yu cael eu cyhoeddi, ac yr oedd y trethdalwyr yn hollol ddyeithr i hanes yr ysgol. Cynhaliwyd y eyfarfod ar y 18fed cynfisol yn yr ysgoldy. Nis gallaf roddi hanes manwl ohono am y rheswm y buasai fy ysgrif yn myn'd yn rhy faith, ac y buaswn yn trethu gormod ar ofod y BRYTHON, ond ceisiaf roddi yr hanes mor fyr a chyflawn ag sydd yn bosibl. Cymer- wyd y gadair gan Mr Evans, C.S., Cefn- cwrt, yr hwn a Nnaeth araeth gref ar y dechreu ynglyn ag addysg y plwyf. Galwodd y Cadeirydd ar y rheolwyr i siarad yn gyntaf yn eu tro, sef y Mri E. James, Gilfach D. Rees, Glyncoch J. Williams, Pantygelli; J. Thomas, arfor J. Jones, Pen'rallt D. Owen,jHaven Castle; Samuel Jones, Dolgoy; a J. Davies, Lletty. Cafwyd fod yr ysgol mewn agwedd lewyrchus yn ol cyfrif yr ysgrifenydd, ac wedi derbyn grant ardderchog y llynedd, a bod digon o arian yn weddill-os wyf yn cofio yn iawn, yr oedd oddeutu tri-ugain punt mewn Haw. Gofynodd Mr Davies, Lletty, pa uh ai o ansawdd dda addysg y plant neu o rifedi'r plant oedd y grant ardderchog yna wedi d'od, ond methwyd a'i ateb y pryd hyny. Digon tetyg y cawn oleuni ar y mater y tro nesaf. Fel yr awgrymwyd eisoes, yr oedd rhai o'r plwyfolion am newid yr ysgol yn Fwrdd Ysgol, neu yn hytrach gwneyd gwell trefn ar yr hen, os oedd modd, ond yr oedd y mwyafrif mawr yn erbyn ei throi yn Fwrdd Ysgol, am y rheswm y buaaai y trethi yn myned lwer yn drymach.—Siaradodd y rheolwyr i gyd (oddigerth un neu ddau) yn gryf yn erbyn Bwrdd Ysgol, am y rheswm a nodwyd. Cwynent bron i gyd fod y cwbl yn ddyeithr iawn iddynt hwy, ac yr oedd hyny i gyfrif am eu hesgeulusdra i bresenoli eu hunain yn mhwyllgorau yr ysgol.—Wedi i'r rheol- wyr gael siarad i gyd, galwodd y Cadeirydd ar rai o'r ctynion cyhoeddus ereill oedd yn bresenol i siarad.-Cafwyd areithiau tan- 11yd gan y rhai hyn bron i gyd, yn ymylu i fod yn erbyn y Bwrdd, ond yr oeddynt hefyd am wneyd eu goreu gydag addysg y plwyf.—Dywedodd Mr Jones, Bwlchclawdd, fod yn dda ganddo ef gael ar ddeall fod cy- maint o arian yn weddill yn Haw y trysor- ydd, ond dywedodd ei fod yn credu y dy- lasai rhan ohonynt fod wedi cael eu gwario ar yr ysgoldy.- Dywedodd Mr J. Jones, Llainwen, ei fod yn gweled dau fai amlwg iawn ag oedd wedi bod ar y rheolwyr, sef cad oeddent wedi rhoi eu presenoldeb ar y pwyllgorau fel ag y dylent, ac hefyd yr oeddent wedi bod yn rhy gynil gyda'r arian, a gwnaeth gyfeiriad fod eisieu eu newid i gyd, er cael gwell rhai yn eu lie.— Gofynodd y Parch L. Evans, B.A., a oedd hawl gan un nad oedd yn dretbdalwr ddweyd ei farn a chafodd ganiatad i siarad. Cafwyd araeth gref ac amserol iawn gan- ddo, a rhoddodd ei farn yn ddiofn. Dangos- odd ragoriaeth Bwrdd Ysgol ar un Fry- tanaidd mewn gwahanol agweddau, ond bawdd oedd deall nad oedd y mwyafrif yn cydolygu ag ef. Dywedodd fod yn ddrwg ganddo ddeall fod y syniad wedi cael ei roi allap na chelai Mr Davies, yr ysgolfeistr, wasanaethu pe digwyddai yr ysgol ei newid, ond ceisiodd argraffu ar feddyliau y trethdalwyr nad oedd hyny ond siarad gwag. Dywedai fod Mr Davies yn wr profedig, ac yn llawn mor gymwys i wasanaethu dan y Bwrdd ag yr oedd yn bresenol. Trueni na roddid mwy o ddistawrwydd i rai oedd yn siarad. Os digwyddai rhywun fod yn groes ei syniadau i'r mwyafrif, yna byddai y lie yn ferw gwyllt trwodd, ac y mae yn gywilydd dweyd mai rhai o'r rheolwyr oedd waethaf. Er engraifft, pan oedd Mr Evans yn siarad, codai dau neu dri ohonynt ar eu traed i aflonyddu arno, er gwaethaf y Cadeirydd. Nid oeddwn yn synii cymaint am yr un arall oedd yn aflonyddu ar y pryd. Y mae yn syn nas gall dynion, sydd yn galw eu hunain yn rheolwyr' ysgol, fod ychydig yn fwy bpneddigaidd. Cynghorwn hwynt i ddysgu rheoli tipyn arnynt eu hunain yn gyntaf, cyn meddwl y gallant reoli dim arall. :Yr wyf yn sicr na chynhaliwyd cwrdd mwy afreolus erioed.—Gofynodd Cadbpn Morgan, Rockland Villa. os oedd yn bosibl gael gwel'd report yr ysgol am y flwyddyn sydd wedi myned heibio ond er chwilio, methwyd cael gafael ynddo.— Cynygiodd Mr J. Jones, Bwlchclawdd, fod y cyfarfod yn cael ei ohirio hyd nes y byddai y reports yn d'od i law, a cbael gwybod pa fodd y QlØte yr yegolion an. uylchynol yn gweithio ac eiliwyd gan fttr J. Griffiths, Gwndwn. Felly terfyn- wyd oyfarfod maith heb fod rhyw lawer yn fwy gwybodus o hanes yr yagol.-Un o'r Flioyf,
TROEDYRAUR.
TROEDYRAUR. BWRDD YSGOL. Cynhaliwyd cyfarfod o'r Bwrdd uchod prydnawn dydd Llun, Chwefror 18fed, yn Ysgoldy Newgate, Rhydlewis. Yr oedd yn biesonol Y Parch R. J. Lloyd, rheithor Troedyraur (cadeirydd) tylri W. R. Jones, Dyffryn- ceri J. Powell, Blaenwern T. Davies, Bronwion H. Morris, Pantybwla J. J ones, Capel Cynon D. Davies, Crosslan S. Owens, Brithdir T. Evans, Troedyr- aur J. M. James, Broniwan D. Thomas, Felincwm a D. Davies, Towerhill. Gan fod yr Ysgrifenydd ^oherwydd a6echyd yn absenol, pasiwyd i Mr W. R. Jones gofuodi y gweithrediadau. Ar gynygiad Mr Jones, ac eiliad Mr T. Davies, cafodd Mr Daniel Rees, Derwenlas, Brongest, ganiatad i fod yn bresenol yn ystod y cyfarfod. Y mater nesaf oedd dewis ysgol- feistr i ysgol Brongest. Yr oedd 33 wedi anfon apeliadau am y swydd. Darllenodd y Cadeirydd amryw o'r apeliadau, a'r llythyron cymeradwyol iddynt, a dynwyd allan fel y goreuon ohonynt. Awgrymodd Mr T. Davies fod tystiolaethau cymeradwy- ol Mr S. Williams, Aberhosan, Machyn- lleth, yn profi ei fod yn ysgolfeistr ardderchog. Amlygodd Mr W. R. Jones y carai ef gael golwg ar i-eports ei ysgol. Yr oeddent yn gryfach tystiolaethau iddo fel ysgolfeistr, na llythyron cymeradwyol pregethwyr ac ereill oud nid oedd un o honynt wedi d'od i fewn. Yna cododd Mr D. Davies, Towerhill, a chynygiodi fod Mr S. Williams, Aberhosan, yn cael ei ddewis yn ysgolfeistr ysgol Brongest. Eiliodd Mr H. Morris. Cynygiodd Mr W. R. Jones welliant, fod Mr E. J. Lewis, Aberavon, yn cael ei ddewis. Eiliodd Mr T. Evans. Dros Mr Lewis pleidleisiodd Mri W. R. Jones, T. Evans, J. Powell, a D. Thomas, sef 4. Dros Mr Williams, Mri D. Davies, H. Morris, T. Davies, J. M. James, S. Owens, a D. Davies, sef 6. Yna cyhoeddodd y Cadeirydd fod Mr Williams wedi cael ei ddewis. Awgrymodd Mr J. Powell i ni ddewis un arall eto, rhag ofn i Mr Williams wrthod. Cynygiodd Mr T. Davies fod Mr Lewis i gael cynyg arni os digwyddai i Mr Williams omedd d'od. Eiliodd Mr H. Morris. Pcnderfynwyd i Mr Jones anfon ar unwaith at Mr Williams, gan ddymuno arno dd'od mor fuan ag oedd yn bosibl iddo. Pasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch i Mr W. R. Jones am ei hynawsedd yn gwasanaethu fel ysgrifenydd ar y pryd.
ABERPORTH.
ABERPORTH. LLONGDDRYLLIAD.-Yehydig amser yn ol taflwyd llong heb hwylbren na llyw ar draeth y Munt, ger Ynye Aberteifi, a boreo dydd Gwener diweddaf llusgwyd ei gan agerlong i draeth Aberporth, lie y gorwedd yn awr. Prynwyd hi gan Mr Thomas, Plas, Aberporth, yr hwn sydd yn bwriadu ei hadgyweirio os gellir gwneyd hyny, a'i gwneyd yn gymwys i hwylio eto.
LLANDYSSI LIO- COCO.
LLANDYSSI LIO- COCO. CVNGOR PLWYF. Cynhaliwyd cyfarfod rheolaidd o'r Cyngor hwn noa Fercher, Chwefror 13eg, pryd yr oedd yn bresenol Mri T. Jones, T. Morgans, D. Evans, Evan Jenkins, a'r ysgrifenydd.— Darllenwyd cof- nodion y cyfarfod blaenorol, a chadarn- hawyd hwynt.—Penderfynwyd fod y awm o 2p i gael ei roddi tuag at adgyweirio y llwybr sydd yn arwain o waun Berthyronwy allan i'r brif.ffordd.-Galwyd sylw at sefyll- fa Pont Talgarreg, a gorchymynwyd i'r ys- grifenydd anfon at arolydd y ffyrdd yn ei chylch.—Gohiriwyd y mater o gael llwybr cyhoeddus allan o Cellie i ben Ion Pwll- yrhesg, gan nad oedd Mr T. Davies yn bre- senol.-Bydd i'r Cyngor gynal un cyfarfod eto cyn diwedd y tymor. CYNGOR SIROL. Nos Lun, Chwefror 18fed, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus o drethdalwyr yn Ysgoldy Gwenlli er dewis aelod i gynrychioli y plwyf ar y Cyngor Sirol. Cafwyd cynrychiolaeth dda o'r canol a'r rhan uchaf o'r plwyf, ond ni ddaeth cymaint ag un o'r rhan isaf.—Cy- merwyd y gadair gan Mr T. Jones, is-gad- eirydd y Cyngor Plwyf. Wedi egluro am. can y cyfarfod, gofynodd y Cadeirydd a oedd gan y trethdalwyr rywun i'w gynyg.- Yna cododd Mr E. C. Evans, cynghorwr dosbarthol, i fyny, a dywedodd nad oedd ef o blaid myned allan o'r plwyf i gael aelod os oedd yn bosibl cael person cymwys yn y plwyf, a chan fod y rhan isaf wedi cael y fraint o ddewis aelod oddiar gy- chwyniad y Cyngor Sirol, dywedodd ei fod yn credu y dylasenfc fod yn foddlawn iddynt hwy (y rhan uchaf) gael dewis y tro hwn, a'i fod ef yn dymuno cynyg Mr T. G. Thomas, Crugyreryr Factory, fel person cy- mwys.—Eiliwyd hyn gan Mr Thomas Mor- gans, Waunlwyd.-Siaradodd ereiil ar gy- mwysderan Mr Thomas fel dyn craffus a goleuedig, yn gwbl gynefin a. dwy iaith, fel person sydd yn teimlo dyddordeb mawr yn ngweithrediadau y Cyngor Sirol, ae fel gwladgarwr a phlwyfgarwr.—Rhoddodd y Cadeirydd y mater gerbron y cyfarfod, a phasiwyd ef ynunfrydoI.-Diolchodd Mr Thomas iddynt am eu teimladau da, a'r an- rhydedd oedd wedi ei osod arno, a sicrha- odd y trethdalwyr, oa byddai iddo gael ei ethol i'w cynyychioli ar y Cyngor Sirol, y gwnai ei oreu i ddwyn oddiamgylch bobpeth fuasai er budd i'w gydblwyfolion a'r air yn gyffredinol, CAPEL Y CRVCIIAU.-Nos Wener, Mawrth laf, cynhelir cyngerdd mawreddog yn N ghapel y Crugiau. Mae Mr Conwil Evans, Miss Phillips, Castellnewydd-Emlyn, ac amryw ereill i gymeryd rhan ynddo. Deall- wn fod yr argoelion yn dda. Y mae ym- drechion y boneddigesau gyda'r tocynau yn cael eu coroni a. llwyddiant, ac y mae rhag- len y cyfarfod yn llawn, Gwnawn roddi crynodeb o'r hanes yr wythnos nesaf.
Helgwn Neuaddfawr. ---
Helgwn Neuaddfawr. Dydd Llun, Mawrth 4ydd; cyfarfyddir yn Cribin a dydd Iau, Mawrth 7fed, yn Pantdefaid Cross Roads; y dau ddiwrnod am 10.30 y boreu. 4
CYMRU LAN-GWYL DEWI.
CYMRU LAN-GWYL DEWI. TUNE, • Dear old Wales.' 0 Gymru, wlad anwylaf, Anwylaf tan y nen, Lie bynag af, fy nghalon Dry 'nol i Walia wen Wrth gofio'th holl rinweddaa Fy mynwes sydd ar d&n, A chanaf Ddydd Gwyl Dewi • I foli Cyraru lan. Cymru l&n, gwlad y gin, Tra saif dy fryniau mad, Bydd moli'n hiaith a'n gwlad I mi yn wir fwynhad, Hen Gymru lan. Gwlad enwog ei gwroniaid, Er gwaethaf gormes hy' Safasant oil fel cewri, Dros ryddid Cymru Fu.' I gadw'n wyrdd ei henwau Cydunwn, fawr a man, Gy&egru Dydd Gwyl Dewi I foli Cymru lan. Cymru lân, &c. Tra'n parchu gwlad yr estron, Tra'n dysgu estron aeg, Boed ini godi I Cytnru, A Chymro, a Chymrseg.' Boed i ni gadw'n calon Yn bur i wlad y gfin, A chadw Dydd Gwyl Dewi I foli Cymru lan. Cymru lan, &c. J. N. CROWTHER. Cefnfaes Board School, Bethesda.
Etholiad Cyngor Sirol Cered'.'igion.
Etholiad Cyngor Sirol Cered- igion. Dydd Gwener diweddaf oedd y dydd olaf i enwi ymgeiswyr am seddau ar y Cyngor uchod. Ymddengys fod y rhai canlynol wedi eu; henwi a'u dychwelyd yn aelodau o'r Cyngor newydd yn ddiwrthwynebiad Bow-street.—Mr Henry Bonsall. Llanbadarn "Fawr.—Major John G. Bonsall Fronfraitb. Llanddewi Brefi. -Mr David Davies, Werndriw, Llanio Road. Ceinewydd.-Mr Evan James Davies, Glyn, Ceinewydd. Llanfarian.-Mr M. L. Vaughan Davies, A.S., Tanybwlch. Llangeitho.—Mr Thomas Davies, Pantybeidy Hall, Llangeitho. Llanwnen.-Mr William Davies, Ffynonfair, Llanbedr. Llanwenog.—Mr James Jones, Caelan, Llany- byther. Trefeirisj.—Mr JohnHugh Edwards, Terrace- road, Aberystwyth. Gogledd Llandyssul.—Mr Daniel Evans, Glan Teifi, Llandyssul. Strata Florida.—Mr Edward Evans, Gteat Darkgate-street, Aberystwyth. Llanarth.—Mr Morgan Evans, Llanarth. Llangranog,—Mr Thomas Evans, Cefncwrt, Llangranog, Llandyssul. Cwmrheidiol.-Mr William Evans, Penybont, Ponterwyd. Llanll wchaiarn. Y Parch William Griffiths, Arwerydd, Maenygroes, Ceinewydd. Llandygwydd.—Y Milwriad John R. Howell, Pantgwyn, Boncath, R.S.O. Nantcwnlle.—Mr Daniel Jenkins, Ysgol y Bwrdd, Llanycrwys, Llanwrda, R S.O. Lledrod. Mr David Jenkins, Ponterwyd, Blaenpennal, Tregaron. Felinfach.—Mr Evan Evans, Greengrove. Llanilar.-Mr Benjamin Jones, Brynda, Llan- gwyryfon. Penbryn.—Mr David Jones, Cwmbedw, Rhyd- lewis, Llandyssul. Llangoedmore.—Mr David Samuel Jones, Case tell Maelgwyn Farm, Boncath. Talybont.-Alr Edward Jones, Elgar Housew Talybont. Taliesin.—Mr David Williams, Tre'rddol. Llandyssilio-gogo.-Mr Thomas Thomas, Crug- yreryr Factory, Talgarreg, Pontarfynach.—Mr Richard Gwmryn Jones, Waunyradar, Pontarfynach. Goginan.—Mr J. R. James, Peithyll, Bow Street. Aberbane.-Dr David Lloyd, Adpar, Castell- newydd-Emlyn. Ysbytty. — Mr Thomas Morgan, Tymawr. Ystrad Meurig. Troedyraur.—Mr Thomas Morris, Pantseirifawr, Glynartben, Llandyssul. De Liaudyssul.-Pareti T. Pennant Phillips, Oswald Villa, Llandyssul. Aberjfetwyth (Ward Rhif 2)—MrD. C. Roberts. Tregaron.—Mr D. J. Williams, Abercoed, Tre- garon. Bortn.—Mr J. M. Williams, Brynbwl. Cymer brwydrau etholiadau Ie yn y rhandir- oedd canlynol Aberaeron.—Mr E. Lima Jones, Bridge-street, fferyllydd, yr aelod ymneillduedig, a'r Parch Thomas Gwilym Evans, gwemidog Annibyol. Aeron.—Mr John Jones, Union, Aberarth, a Mr Thomas Jenkins, Bronfre-uchaf. Nid ydyw yr Uch-gadben Price Lewes, Tyglyn Aeron, yn ceisio ail-etholiad. Ciloonnin.-Dr Jenkyn Lewis, Llanon, yr aelod ymneillduedig, and Mr Jenkin Morgan Jones, Penwern. Llansantffraed.—Mr Evan Morgan, The Green, Llanon, aelod ymneillduedig, and Mr Lewis Davies, Portland-street, Llanon, gornch- wyliwr yswiriol. Llanrhystyd.—Mr D. Morgan James, newydd- iadurwra darlithjdd, a Mr John Ellis, Pen- cwmcanol. Llanfair.-Mr John Jenkin Davies, Blaenwaun Stores, Llanbedr, yr aelod ymneillduedig, & Mr ReeR Williams, Penlone, Llettymaes. Llannhangel-y-Orenddyn.'—Mr David Morgan, Lodge Farm, Trawscoed, a Mr John James, Nid yw Mr W. Evans yn oynyg ei hun am ail-etholiad. ABERYSTWYTH. Cymer etholiad le mewn tair Ward yn mwr. deisdref Aberystwyth, ac enwyd y personai can- lynol :— Ward Rhif 1.—Mr Robert Doughton, Great Darkgats-street, yr aelod ymneilldugdi- a Mr R. J. Jones, South Marine-terrace. Ward Rhif 3.—Mr Robert Ellis, Terrace-road, yr aelod ymneillduedig, a Mr T. E. Salmon, Terminus Hotel. Ward Rhif 4.—Mr Evan Hugh James, Crugiau, Rhydyfelin, yr aelod ymneillduedig, a Mr John Morgan, The Larches, Llanbadarn- road.