Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Advertising
Ye BRYTHON CYMRBIG. Ar werth drwy Geredigion, a rhanau o Siroedd baerfyrddm a Morganwg; a danfonir yn rhad gyda r Post am Is. Id. y Chwarter, 2s. 2d. yr Haner. Blwyddyn, &c., gyda blaandal. Y telerau am goel yw Is. 3d. y chwarter. —0— Telerau am Jfyib)siadau. MASNACHOL— i waith x swllt y fodfedd (un g lofn) yr wythms Il"o et0 eto 'to 26 & 52 4d. eto eto eto HYSBYSION CYHOEDDUS, ARWERIHIADAU EIDDO 4d. Y llinell, yr wytbnos. ARWERTHIADAU DODREFN, 3d. Y HINDI, yr WYTHNOS. RHYBUDDION T LLYWODRAETH, ANERCHION ETHOLIADOL, 6d. y llinell, yr wythnos. I Hysbysiadau Rhad (gyda blaendal) o ddosbarth yr Yn Eisiau," 12 gair neu lai, 6d., a Dimai am bob gair ychwanegol. Cyhoeddir hysbysiad dair gwaith am brig dwywaith.
Newyddion Cyffredinol.
Newyddion Cyffredinol. Y mae y Farwnes Patti-Cederstorm wedi penodi dydd Iau, Mai 30ain, fel dyddiau ei chyngerdd elusenol yn y Gwyn Hall, Castellnedd. Os bydd i'r bwriad o adeiladu rheil- ffordd ysgafn o Gorwen i Bettwsycoed y t, gael ei gario i weithrediad, dygir rhai o'r golygfeydd prydferthaf yn Nghymru o fewn cyraedd ymwelwyr. Y mae mudiad wedi ei gychwyn i'r dyben o gynal cyfarfod cyhoeddus mawr yn y Pavilion, Caernarfon, gyda'r amcan o gymeryd dan ystyriaeth anghydweled- iad Chwarel y Penrhyn. Bydd amryw aelodau Seneddol yn bresenol. Gwesteion Cymdeithas Genedlaethol Gymreig Lerpwl yn eu ciniaw Ddygwyl Dewi Sant eleni fydd Arglwydd Faer Lerpwl, ei Anrhydedd y Barnwr Bowen Rowlands (Cofnodydd Abertawe), a Mr Leif Jones, M.A. 1 Y mae dau-ar-hugain o fechgyn ystablau yn rhanbarth Mai-1 borough o Wiltshire yn dioddef oddiwrth effeithiau gwenwyniad. Tybir iddynt yfed cwrw arsenig. Bu rhai o'r bechgyn mewn sefyllft6 ddifrifol. I' 0 dan ewyllys Mrs Davies, Breck- nock Villa, Llundain, y mae cymunrodd t o 200p i Eglwys Annibynol Gymreig f Troedyrhiw, lOOp i Eglwys Annibynol I Gymreig King's Cross, Llundain, a 100p i Goleg Coffadwriaethol Aberhonddu. Y mddengys mai dydd Mawrtb, yr wythnos ddiweddaf, oedd y diwrnod oeraf a gafwyd y gauaf presenol. Yr oedd y tymheredd o 12 i 15 gradd islaw y cyfartaledd am y 30 mlynedd di- weddaf. Gyda'r hyn sydd yn ymddangos yn debyg i awdurdod dda, dywedir mai y geiriau olaf a glywyd oddiar wefusau y Frenhines oeddynt, Albert! Albert! Albert Un arall o'i hymadroddion olaf ydoedd, 'O! na ddeuai Heddwch.' ar gylch- daith. Cynhaliodd y cor gyngerdd ardderchog yn Middlesbrough nos t Fercber. Y mis nesaf, mewn atebiad i wahoddiad cynes, ymwelant &'r Ynys Werdd, pryd yr ymddangosant am dair noson yn Belrast. +. Y Cadben Cbittendon sydd wedi ei benodi yn is-gadben y Prince of Wales's Light Horse,' y corphlu o Gymry a gyfodwyd yn Ne Affric gan y Milwriad Thomas, o Sir Fon. t Y mae y Cadben Chittendon yn frawd-yn-nghyfraith i Mr G. Percy Thomas, Caerdydd. Yn nghyfarfod nesaf Pwyllgor Cy- ffredinol Cyngres Genedlaethol yr Eg- lwysi Rhyddion, i gael ei gynal yn Nghaerdydd, derbynir dirpr .vyaeth oddi- wrth y Bedyddwyr Cymreig i drafod y cwestiwn o gaeth-gymundeb, a'i ber- tbynas a'r mudiad yn Nghymru. Un rhyfedd ydoedd cyfarfod Cyngor Trefoll Ipswich, y dydd o'r blaen. Yn gymaint ag mai hwnyma oedd cyfarfod cyntaf y ganrif, anfonodd y Maer wahoddiad i Esgob Ipswich a'r gweinid- ogion Ymneilldnol i wasanaeth corawl yn ystafell y Cyngor. Ni chymerodd cyffelyb ddigwyddiad le yn y fwrdeisdref er's 700 rplynedd. Y mae rhieni y wlad hon yn parhau i ddilyn y ffasiwn ffol o enwi eu plant ar ol gwyr mawr, neu y sawl ddigwyddo fyned a sylw y cyhoedd ar y pryd. Dengys adroddiadau y cofrestrwyr plwyfol yn ystod y tri mis diweddaf fod cryn lawer o blant wedi cael eu galw yn Edward ac Alexandra. Diffyg chwaeth a synwyr cyffredin ydyw peth fel hyn. Cymer dienyddiad cyntaf y ganrif le ddydd Mawrth nesaf. Y truan a orfydd wynebu byd arall yw Silas Solomon, yr hwn a gollfarnwyd am loftuddio ei gefnder yn Mile Lane. Y mae yn bwyta ac yn cysgu yn dda, ond dyna ddywed, 1 Buaswn yn dymuno pe buasai pob peth drosodd.' Y mae y Parch Dr Pan Jones, Mos- tyn, yn bresenol yn brysur gyda'r gwaith o ysgrifenu hanes Coleg Presbyteraidd Caerfyrddin. Y mae y gwaith i gyn wy darlun a bywgraffiad o bob efrydydd a hyfforddwyd yn y Coleg, a phob pro- ffeswr fu yn y Coleg er ei sefydliad. Y mae cyhoeddiad ffurfiol Eisteddfod Genedlaethol Cymru am 1902, yn Bangor, wedi cael ei benodi fel y 5ed o Awst. A oes Eisteddfod Genedlaethol i' fod yn Neheudir Cymru yn 1903 ? Hyd yn hyn nid ymddengys fod unrhyw symudiad yn y cyfeiriad hwnw. Wele gyfle i Aberystwyth yn awr. Ysgrifena Syr Theodore Martin, byw- graffydd y Tywysog Cydweddog, i'r newyddiaduron Mewn llawer o ba- pyrau cyhoeddir paragraph ffol yn fy hysbysu i fel bywgraffydd swyddogol dyfodol y Frenhines. Y mae hwn mor ffol fel na fuaswn yn cymeryd sylw ohono oni b'ai fod llawer yn cymeryd fy nistawrwydd fel cadarnhad i'w wirion- ionedd. Yroll a ddywedaf yn awr ydyw ei fod yn hollol ddisail.' Yn mhlith y rhai a ymrestrodd yn ddiweddar yn Cape Town, y mae Mr Harry Evans, partner o ffirm Paterson a'u Cyf., fferyllwyr Gahwyd Mr Evans yn Leicester, ond er hyny cyfrifa ei hun yn Gymro, a chymer lawer o ddyddordeb yn y Cape Cumbrian Society.' Y mae efe hefyd yn falch o'r ffaith ei fod yn wyr i'r anfarwol Ffynonhenry.' Penodwyd ef yn is- gadben Yn y gyfiol newydd o delynegion Cymreig a gyhoeddwyd gan Ficer Llanidloes-I Beirdd Cymreig Heddyw a Doe'-y mae nodyn cyflwynedig yn dwyn tystiolaeth i'r cysylltiadau caru- aidd rhwng yr awdwr a'r diweddar Esgob Lloyd, o Fangor, yr hwn a'i penododd ef i'r fywoliaeth :—' Er cof am Daniel Lewis Lloyd, fel meistr, cydysgolor, esgob, fy nghyfaill am 30 mlynedd, yr wyf yn cyflwyno y cyfieith- iadau byn o'r iaith a garai efe oreu,' Dydd Iau bu Mr Lefroy, Prif Aroly- gwr Cangen Ysgolion Ail-raddol y Bwrdd Addysg, yn cyna! ymchwiliad yn Llanbedr i gais y Bwrdd Ysgo! i sefydlu ysgol ail-raddol i enethod yn y dref hono. Yr oedd Ysgolion Sirol Tregaron a Llandyssul, ynghyda Chorff Llywod- raethol sir Aberteifi, yn gwrthwynebu y cais ar y tir y buasai y cynygiad yn effeithio ar nifei y disgyblion yn y cyfryw ysgolion. Yn Llys Ysgariaeth Llundain, ddydd Mercher, o flaen y Barnwr Barnes, tafl- wyd allan ddeiseb Mr Thomas Evan Jones, Merthyr Tydfil, yr hwn a geisiai ysgariaeth oddiwrth ei wraig ar y cy- huddiad iddi ymddwyn yn anweddus gyda Dr Albert Victor Moreton. Dy- wedodd y Barnwr fod y weddyg, yn gadael y llys heb ystaen ar ei gymer- iad. Y mae Bwrdd Llywodraeth Leol am roddi gwell bwyd idlodion y tlotty. Ond ymddengys nad yw hyn wrth fodd rhai Byrddau Gwarcheidwaid. Mewn cyfarfod o Fwrdd "Gwarcheidwaid Eton, dydd Mawrtb, dywedodd Meistr y Tlotty fod y draul o borthi y tlodion yn y ty yn 6c yr un. 0 dan y drefn newydd barnai y byddai yn ddeg ceiniog Dywedodd y Clerc y gallai y Bwrdd Llywodraeth Leol wneyd i ffwrdd a Bwrdd Eton am wrthod. cydymffurfio j i u gorchymyn, a dewis Bwrdd arall. Y mae ty yn Llanelli yn llawn o nadroedd. Ymlusgant ar hyd y llawr, gan ddringo i'r cypyrddau, ar hyd y dodrefn, ac hyd yn nod beiddiant fyned i'r gwelyau. Gwnaeth trigolion y ty yr oil yn eu gallu i'w dinystrio. Pan aed i chwilio, cafwyd ugeinau o wyau nad- roedd, y rhai, pe cawsant lonydd, a fuasent yn ychwanegu cryn lawer at y pla. Mae y dynion sydd yn ngwasanaeth Cwmni Rheilffordd y North Eastern yn teimlo yn dia di^ofus oherwydd ym- ddygiad y cyfarwyddwyr yn penderfynu dal cyflog diwrnod oddiar y rhai hyny o'r gweithwyr a gawsant golli diwrnod ar yr achlysur o angladd y Frenhines. Dywedir yn mhellach hefyd na bydd i'r dynion a alwyd at eu dyledswyddau y diwrnod hwnw gael eu talu ond yn ol yr amser y buont yn gweithio. Mae y person neu y personau a gyf- lawnasant chwech o lofruddiaethau yn Rhan Ddwyreiniol Llundain yn ddi- weddar eto heb gael eu darganfod gan yr awdurdodau. Mae yr heddgeidwaid, hyd yn byn, heb dd'od o hyd i'r Eidalwr hwnw a saethodd dair o ergydion at Eidalwr arall, o'r enw Antonio Diratto, yn Car-street, Stepney, yr hwn ychydig oriau wedi h, ny a fu farw yn Ysbytty Llundain. Credir mai Mrs Whelan, o doughy swydd Kilkenny, ydyw y person hynaf ar hyn o bryd yn yr Iwerddon, yr hon s-ydd wedi cyrhaedd ei chant a phedair- ar-ddeg mlwydd oed. Merch ydyw i'r gof hwnw abedolodd geffyl Myles Byrne,, y gwrthryfelwr, ac am y weithred hono cafodd ei grogi yn y fan, wrth lorp trol, gan yr Yeomen, yn mhresenoldeb ei deulu; ac yn eu mysg yr oedd Mrs Whelan, yr hon sydd yn cofio am y weithred hono yn dda. Mae yr hen: wraig yn byw mewn angen mawr ar hyn o bryd. Anfonodd yr Archdderwydd Hwfa Mon i'w ddisgybl o'r Orsedd, y Brenin lorwerth VII. (yr hwn a dderbyniwyd i gylch yr Orsedd yn Eisteddfod Genedl- aethol ddiweddaf Caernarfon), genadwri ^OD&yfarchiadol iddo ar ei esgyniad i Or- sedd yr Ymherodraeth Brydeinig. Dan- fonodd ei Fewrhydi i'r Archdderwydd genadwri mewn atebiad, wedi ei bar-! wyddo Albert Edward.' Dyma, mae'n debyg, un o'r ychydig gydnabyddiaethaul a anfonwyd gan y Brenin ei hue i'r lluaws genadwriaethau Ilongyfarchiadol: a ddanfonwyd iddo. Yn nghyfarfod Pwyllgor Gweithiol y! Bwrdd Addysg Cymreig Canolog, a gy- nhaliwyd yn yr Amwythig dydd Sad- wrn, dan lywyddiaeth Mr A. C. Hum. phreys-Owen, A.S., darllenwyd goheb- iaeth oddiwrth ysgrifenydd trefol Caer- dydd, yn cynwys gwahoddiad calonog i'r' Bwrdd Cymreig Canolog 1 osod swyddfa. y Bwrdd yn arosol yn Nghaerdydd, aei yn cynyg i'r Bwrdd, os derbynid y gwa- hoddiad, chwarter erw o dir yn Mharc Cathays yn rhad ac am ddim fel safle i'r swyddfa. Penderfynodd y pwyllgor fod eu diolchgarwch gwresocaf yn cael ei gyfleu i Gorfloraeth Caerdydd am y cy- nyg a wnaethant, yr hwn a roddir ger bron y Bwrdd yn eu cyfarfod haner- blynyddol nesaf a gynhelir yn Llan- gollen ar yr 17eg o Fai. Yn Ashill, Norfolk, yr oedd yn angen- rheidiol cael cyflenwad newydd o ddwfr i Burchal), gan fod yr hen ffynon, yr hon oedd yn 155 o droedfeddi o ddyfnder, yn dechreu arddangos arwyddion o an- mhuredd. Ymgynghorwyd a'r Proffeswr Stone gyda'r bwriad o gael dwfr yn nes i'r wyneb. Ar ol tori cangen fforchog o bren helyg aeth ef i wneyd ymchwiliad ar y tir gyda'r wialen hono. Yn sydyn trodct y wialen a syrthiodd tuag ato, pryd y mynegodd ef y byddai iddynt ganfod dwfr pur a da mewn dytnder o r bum' troedfedd ar hugain yn y llecyn • hwnw. Decbreuodd y torwyr ffynonau ar y gwaith o agor ffynon yn y fan, ac ar ol cyraedd dyfnder o 24| troedfedd caw- sant fod yno ddigonedd o ddwfr, yr hwn yn fuan a ddangosodd ddyfnder o dair troedfedd ar ddeg. Yn yr hen ffynon, yr hon nad yw ond ychydig latheni o'r fan, nid oes braidd ddim dwfr. Bu y cyn-Frenin Milan, o Servia, farw yn Vienna, dydd Llun diweddaf. Yn ddiweddar yr oedd wedi symud i balas newydd oedd wedi cael ei ddodrefnu iddo gan Lywodraeth Awstria. Yr oedd yn orawyddus am weled ei fab cyn marw, ond nid oedd y Brenin Alexander, na'r Frenhines Natalie' gydag ef pan y bu farw. Danfonodd y Brenin ei swyddog at ei dad, ond cyr- baeddodd hwnw yn rhy ddiweddar, ac oblegid hyny ni chymerodd cymodiad 'le rhwng y Brenin a'r cyn-Deyrn. Mewn atebiad i bellebyr a ddanfonwyd i'r Frenhines Natalie i'w hysbysu am gyflwr difrifol y cyn-Frenin Milan, derbyniwyd atebiad oddiwrth y Frenhines o Biarritz i'r perwyl y buasai yn d'od i Vienna os oedd ei phresenoldeb yn wirioneddol angenrheidiol. Cyrhaeddodd y genadwri yma chwarter awr cyn marwolaeth y cyn-Frenhin. Yr oedd y diweddar Deyrn yn saith a deugain oed, ac nid yw wedi gadael dim eiddo ar ei ol. Er fod Milan, yn ystod blynyddau olaf ei fywyd, wedi achosi llawer 0 drafferth a thraul i Awstria, y mae y cydymdeimlad llwyraf ag ef yn cael ei amlygu yno yn awr, ac y mae yr Ymherawdwr Francis Joseph wedi rhoddi gorchymyn ei fod i gael angladd milwrol fel prif filwriad yn y fyddin Awstraidd. Bydd i'r angladd gymeryd !Ie yn Kronchdal, un o'r monachdai mwyafcysegredigyn Smyrna. Fe ddywedir, yn baner swyddogol, fod y cyn-Frenin wedi amlygu ei ddymuniad yn berffaith eglur i beidio cael ei gladdu yn Servia. Cyhoeddwyd adroddiad Dr Buchanan yn nglyn a'r ymchwiliad i'r helynt o 1 9 wenwyniad arsenig yn y cwrw, y dydd o'r blaen, gan Fwrdd y Llywodraeth Leol. Mae yr adroddiad wedi ei ddydd- io lonawr 25ain, ac y mae, o angen- rheidrwydd, o natur ragbaratoawl ac anmhenderfynol. Gan na wnaed y darganfyddiad o arsenig mewn cwrw yn bysbys i'r cyhoedd hyd nes yr hysfcysodd Dr Reynolds ei fod wedi canfod hyny nid oes ystadegau cyflawn yn ymwneyd a'r cwestiwn yn ddichonadwy. Y mae y mwyafrif o'r achosion sydd ar gael yn d'od o Manceinion a Salford-dwy fil o'r blaenaf a mil o'r diweddaf. Cymerodd un-ar-bymtheg-ar-hugain o farwolaethau le yn Manceinion o Tachwedd 25ain i lonawr lOfed. Yn ol yr adroddiad ymddengys fod amryw o'r rhai a fuont feirw yn yfwyr trymion, tra o'r ocht arall yr oedd llawer o gymedrolwyr wedi dioeddef oddiwrth yr haint. Bu y dar ganfyddiad o fodolaeth arsenig mewn cwrw gan y cyhoedd yn foddion i roddi terfyn arno ar y pryd, ond cwynir fod rhai darllawyr wedi grwgnach i gymeryd cwrw yn ol, pan y profwyd iddynt ei fod yn cynwys gwenwyn arsenig. WI Cynhaliwyd Cynhadledd Ddirwestol yn Manceinion ddydd Mawrth, pryd yr oedd yn bresenol gynrychiolwyr o bob rhan o'r wlad i drafod yr hyn a adna- byddir fel awgrymiadau Adroddiad Ar- glwydd Peel. Ymgynullodd y gynhadl- edd yn y boreu, ac .yr oedd y- gweithred- iadau yn gyfrinachol, ac yn yr hwyr cynhaliwyd cyfarfod cyboeddus yn y Free Trade Hall. Galwai Syr William Houldsworth, A.S., yr hwn a lywyddai gyfarfod y prydnawn o'r gynhadledd, ar i holl ddiwygwyr dirwestol ymuno i gefnogi awgrymiadau Adroddiad y Llei- afrif. Siaradodd Arglwydd Peel hefyd ar y priodoldeb o weithredu yn undebol, gan ddatgan y farn fod yr amser wedi d'od i weithredu ynglyn a'r mater. Am- ddiffynodd ef y cynllun a gysylltir a'i enw, ac wrth gyfeirio at y rhan boblog-i aidd o'r cwestiwn, dywedai fod yr yn, y adon presenol wedi profi eu hunain yn fyr ynglyn a'r gwaith o gario allan y deddfau trwyddedol presenol. Mabwys- iadwyd penderfyniad yn unfrydol yn rhwymo y gynhadledd i sicrhau deddf- wriaeth, arlinellau Adroddiad Arglwydd Peel, mor fuan ag y byddo modd. Siar- adodd Arglwydd Peel hefyd yn y cyfar- fod a gynhaliwyd yn yr hwyr yn y Free Trade Hall. Llywyddid y cyfarfod gan y Parch Dr McLaren, ac yn mhlith y rhai a gymerasant ran ynddo yr oedd yr Arglwyddes Henry Somerset a Deon Hereford.
Y Rhyfel yn Neheubarth Affrica.
Y Rhyfel yn Neheubarth Affrica. DYDD GWENER. Y mae symudiad unedig y colofnau Prydeinig yn Nwyreinbarth y Transvaal yn cyflym ddwyn oddiamgylch argyfwng yn y rhan hono o'r wlad. Hysbysir yn swyddog- ol fod y Cadfridog French wedi cymeryd convoy oddiar y Boeriaid, yn cynwys 50 o wageni, 15 cert, a 46 o garcharorion, ar draul clwyfo dim ond un o'n ,d>nion m.: Adroddir fod gallu cryf .etaar sollaa -De Wet, yr hwn, yn ol hanes, sydd o'r diwedd wedi croeai yr ofon i Cape Colony. DYDD SADWRN. Y mae ymdaith colofn j Mtlwriad De Lisle yn Cape Colony, yr hwn a gerir allan yn erbyn anhawsderau dirfawr, o ddyddor- deb neillduol i'r Dywysogaeth. Y (mae corphlu o draedfilwyr marchogol Cymreig yn y golofn, ac y mae yr. hanes am* y modd y darfu i'r corphlu hwn, dan yr Isgadben Derry, wneyd rhuthrgyrch am a rhyddhau Calvinia, :a'r derbyniad a gawsant, yn odiaeth o ddarllenadwy. Hysbysir am frwydrau celyd pellach gerllaw Colesberg, yn Cape Colony, yn y r,hai,y darfli i'r Prydeiniaid, er fod nifer llawer lluosocach yn eu herbyn, yru y gelyn ar ffo. Dydd Mawrth y idigwyddodd hyn. Daeth gallu y Milwriad Plumer i'r lie mewn pryd, a'r dydd dilynol adnewydd- wyd y frwydr, a gwthiwyd v Boeriaid vn mhellach yn ol. J Nid oes yn awr yr un amheuaeth yn nghylch safle gallu De Wet. Cymerodd y frwydr ag ef le mewn ftrdal focha,n oddeuta haner y ffordd rhwng cyffordd bwysig De Aar a Norval's Pont, a diamheu mai amcan De Wet yn myned i Cape Colony y gy- mydogaeth hono ydyw, ceisio cymeryd Phillipstown. Unwaith y syrth hono i ddwylaw y Boeriaid, byddai y aymundeb rheilffordd a Kimberley a rhanbarth gor- llewinol y Drefedigaeth yn cael ei beryglu oddeutu ugain milldir i'r gogledd o De Aar Junction. Yn ffodus, gwarchodir Phillips- town yn. dda, a gall y bydd y colofnau ehedol a fa er's rhai dyddiau mewn oy- ffyrddiad a'r gallu Boeraidd yn alluog i'w troi ymaith oddiwrth y; rheilffordd, a gor- fodi y gelyn i ymladdjbrwydr fawr' ar y gwastadedd. DYDD LLUN. Anfonodd Arglwydd Kitchener frysnegea o De Aar ddydd Sad wrn i'r Ysgrifenydd Ahyfel, yn dweyd fod De Wet a'i gadla wedi croesi y llinell yn Buartman's Siding, i'r gogledd 0 De Aar, dydd Gwener. Ym- osodwyd arno yn ffyrnig, 'ac er iddo lwyddo i ddinystrio y rheilffordd mewn dau le, coll- odd Maxim, nifer o.wageni, ceffyliu, a dyn- ion. Ymddengys ddarfod i De Wet fyned tua'r gorllewin dydd Sadwrn, yn cael ei ddilyn gan y Milwriad Plumer, yr hwn sydd yn enwog ar gyfrif y gwaith a wnaeth o amgylch Mafeking, a'r hwn a fawr gan- molid yn nghenadwriaethau Iarll Roberts. Os oes gwr ar y maes yn deall gwaith y veldt, y Milwriad Plumer ydyw hwnw, a chydag ef y mae gan De Wet i ymwneyd.
Advertising
Ye BRYTHON CYMREIG. On Sale throughout Cardiganshire and part of the Counties of Carmarthen and Glamorgan, and sent Post Free for Is. ld. per Quarter 2s. 2d. per Half Year, &c., prepaid. The Credit charge is Is. 3d. per Quarter. -0- Scale 07 Charges for Advertisements, BADE— Insertion is. per inch (single column) per Insertion. 13 do 6d. do. do. do. 26 & 52 4d. do. do. do. PUBLIC NOTICES and PROPERTY SALES 4d. per line, per insertion. SALES OF FURNITURE 3d. per line, per insertion GOVERNMENT NOTICES & ELECTION ADDRESSES 6d. per line, per insertion. Cheap Prepaid of the "Wanted Class" 12 words or under, 6d., and a Half-penny for each additiona word. Three insertions for the price of two.
■*11111————i LLANDYSSILIO-COCO.
■* 1111 ————i LLANDYSSILIO-COCO. MARWOLAF,TH. -Ch with gan luaws fydd clywed am farwolaeth Mr Thomas Davies. Panne, yr hyn gymerodd le dydd Llan, Chwefror 11 eg. Bu Mr Davies yn wael ei iechyd er ys rhai misoedd, ac yn ddi- weddar gwelwyd arwyddion fod y diwedd gerllaw. Yr oedd yn 78 mlwydd oed, a bu yn warcheidwad yr Eglwys am 50 mlynedd. Cymerodd jr angladd le dydd Sadwrn diweddaf, ac yr oedd ycynhebrwng yr un mwyaf welwyd yn yr ardal er ys blynyddau. :Claddwyd ef yn mynwent Llandyssilio-gogo, a gweinyddwyd wrth y ty gan y Parch D. -Richards, ficer y plwyf, yn yr Eglwys ac wrth y bedd, cynorthwywyd efgn y Parch Stephen Jones, rheithor y Ceinewydd y Parch Thomas Jones, ficer Penbryn, a'r Parch T. M. Williams, ficer Llanarth. Mae cydymdeimlad cyffredinol a'r weddw a'r saith plentyn sydd yn eu galar ar ei ol.— | Cymydog.