Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
Y BRYTHON CYMIMIDIG. On Sale throughout Cardiganshire and part of the Counties of Carmarthen and Glamorgan, and sent Post Free for 1s. Id. per Quarter 2n. 2j. per Half Year, &c., prepaid. The Credit charge is Is. 3d. per Quarter. —o— Scale olCharges for Advertisements. RADE- í Insertion is. per inch (single column) per Insertion, 13 do 6d. do. do. do. 26 & 52 4d. do. do. do. PUBLIC NOTICES and PROPERTY SALES 4d. per line, per insertion. SALES OF FURNITUBE 3d. per line, per insertion GOVERNMENT NOTICES & ELECTION ADDRESSES 6d. per line, per insertion. Cheap Prepaid of the "Wanted Class" 12 words or under, 6d., and a Half-penny for each additiona word. Three insertions for the price of two.
Advertising
Ye BRYTHON CYMBRIS. Ar werth drwy Geredigion, a rhanau o Siroedd Caerfyrddin a Morganwg; a danfonir yn rhad gyda'r Post am Is. Id. y Cbwarter, 2s. 2d. yr Haner Blwyddyn, &c., gyda blaendal. Y telerau am goel yw Is. 3d. ) chwarter. -0- Ip:ø' Tehran am HyJt1 siadau. '"). MASNACHOL— i waith 1 swllt y fodfedd (un g lofn) yr wythnis 13 eto 6d. eto eto eto 26 & 52 4d. eto eto eto HTSBYSION CTHOEDDUS, ARWEHUIIADAC EIDDO 4d. y llinell, yr wythnos. ARWERTHIADAU DODREFN, 3d. y llinell, yr wythnos. RHYBUDDION T LLYWODRAETH, AKIRCHION ETHOLIADOL, 6d. y llinell, yr wythnos. Hysbysiadau Rhad (gyda blaendal) o ddosbarth yr Yn Eisiau," 12 gair neu lai, 6d., a Dimai am bob gair ychwanegol. Cyhoeddir hysbysiad dair gwaith am bris dwywaith.
-------Newyddion Cyffredinol.
Newyddion Cyffredinol. Llonwyd trigolion Lancaster yn fawr pan ddeallasant fod yn mwriad Arglwydd Ashton i gyflwyno cerfddelw o Buddug yn anrheg i'r dref. Bydd y cerflun yn werth tair mil o bunau. Dydd Iau, yn Mrawdlys Mynwy, rhyddhawyd y carcbaror Morris Evans, yr hwn a gybuddid o fod wedi llofruddio yr hen wreigan a drigai niewn bwthyn yn St Mellon's. Y mae Mr Osmond Williams, yr afeloc^ newydd dros Sir Feirionydd, yr hwn sydd yn dir-berchenog ei hunan, wedi rhoddi rhybudd ffurfiol o'i fwriad i ddwyn i ,¿ mewn Fesur Tir Cymreig newydd. Yn y British Monthly am fis "Mawrth, ceir datlaniau o amryw o wyr cyhoeddus Cymru, yn cynwys y Proffeswr Tyssil Evans, Caerdydd y Prifathraw Probert, Bangor; a'r Parch H. Cernyw Williams; Corwen. Y nos Sabbath olaf yn Mawrth y rhifir y bobl. Can' mlynedd i'r tro hwn y dechreuwyd y cyfrifiad deng mlwyddol yn Mhrydain. Y pryd hwnw poblog- aeth Llundain ydoedd 888,198. Y tro fcesaf bydd oddeutu 6,000,000. Prydnawn dydd Gwener diweddaf, vn Aberteifi, claddwyd Mrs Sage Hilliar, yr hon oedd wedi cyraedd yr oedran mawr o 104 mlwydd. Gweddw Mr Joseph Hilliar, eilliwr, ydoedd, a bu yn trigianu yn y dref am 50 mlynedd. Yn y Swyddfa Dramor, ddydd Mawrth, cyuhaliwyd cyfarfod o aelodau y Weinyddiaeth bresenol ae aelodau o'r Weinyddiaeth o'r blasn er mwyn penodi ar bwyllgor bychan i gwblhau y trefniadau ar gyfer cael coffadwriaeth genedlaethol i'n diweddar Frenhines. Tra yu cloddio mewn tir. yn Faver- sham, swydd Kent, daeth garddwr o hyd i flwoh alcan yn cynwys arian- nodyn am 94p, amryw o archebion llythycdy, modrwyau ac oriaduron Yr oedd yr ieuengat o'r oriaduron yn ddeng mlwydd oed. Yr eedd y ddiweddar Frenhines Bnddug yn dra phryderus yn nghylch ei ffermydd yn Windsor. Dymunai ar i'w mhab hynaf, y Brenhin, gymeryd gofal 9 ohonynt; ac iddo ef y roddes hi ei; holl wartheg, yr rhai ydynt yn rhagorol o ran eu hansawdd. i Y mae y, Brenin, erbyn hyn, wedi cwblbau y,trefniadau gyda golwg ar ymweliad y DLic ar Dduces Cernyw ag Awstralia. Bydd iddynt adael y wlad hon Mawrth yr 16eg, a gobeithiant gyraedd Melbourne Mai y 6ed, ac yr agorant y Senedd Gynghreiriol ar Mai y!: 9fed. i Y mae y Meistri John Hill a'i Fab, ( y gwneuthurwyr teisenau, &c., adna- byddus o Ashton-under-Lyne, newydd anfon tair tunell 0 plum pudding i gael ei rann ymhlith y sawl sydd mewn angen yn Bethesda a'r ardal yn herwydd anghydwelediad Cbwarel y Penrhyn. Ymddengys fod tipyn o gynhwrf yn V bodoli ymhlith pregethwyr Cymru am gyflog gwell. Ynglyn i Chyfarfod Misol gy y nesaf Methodistiaid Calfinaidd Cymreig Dwyrain Morganwg, cynhelir cynhad- ledd neillduol o ddiaconiaid yr holl eglwysi i ystyried y cwestiwn. Y mae y gwifrau uwcbben yr heolydd ynglyn a thramffordd drydanol newydd Merthyr yn peri i'r hen bobl ddyfalu cryn lawer. Clywyd un ohonynt yn dweyd y dydd o'r blaen, lWei fe gliwas lawar dydd am rhywn yn hela scitsha 1 droa y wires, ond fe fyddwn ni yn cal yn draggo deni nw byewa i.' Yn Rugby, y dydd o'r blaen, deuwyd o hyd i lyffant byw mewn lwmp o lo. Fel y gallesid tybio, y mae hyn yn tynu sylw y naturiaethwyr yn y cwmpasoedd. Cedwir ef yn awr mewn llestr gwydr. Ni fedd geg, ond y mae iddo ffroenau by chain. ) Ar ol arosiad maith yn Lloegr, y mae y Parch J. T. Lloyd, y gweinidog Pres- byteraidd adnabyddus 0 Johannesburg, wedi hwylio ymaith am Cape Town dydd Sadwrn diweddaf, lie yrerysmewn gofal eglwysig am bed war mis. Y mae teulu Mr Lloyd eto yn Johannesburg. Hysbysa y newyddiaduron Cymreig Americanaidd farwolaeth y Parch Eben- ezer Richards, un o weinidogion Cym- reig blaenafyr Unol Dalaethau. Addysg- wyd Mr Richards ar gyfer y weinidog- aeth yn Ngholeg y Bedyddwyr, Hwl- ffordd, ac ar derfyn ei yrfa yno, dros 50 mlynedd yn ol, aeth i America. Yroedd yr ymadawedig yn 77 mlwydd oed, ac yr oedd yn awdwr lluaws o weithiau. Tybir, o fewn cylch y Llys, nad yw yn debygol y bydd i'r Brenin wneyd ei ferch hynaf yn Dywysoges Freribinol- yn un peth oblegid fod ei chwaer, yr Y mherodres Frederick, yn dal y teitl o Dywysoges Frenhinol ar hyn o bryd, ac nid yw yn wybyddus fod dwy wedi dal y teitl yr un amser. Heblaw hyny, y mae yn wybyddus fod y Dduces o Fife yn hoffi bywyd syml a chartrefol yn well a chan ei bod wedi priodi deiliad dichon nad yw yn addas i'r safle. Dydd Mawrth Ynyd cadwyd yr hen arferiad o daflu y grampog i fyny yn Ysgol Westminster. Cymerodd hyn le yu y neuadd fawr. Ar ol i'r prifathraw ddarllen enwau y bechgyn oedd i gyatadlu, taflodd y gogyddes y grampog i fyny, a mawr fu yr ymdrech rhwng y hecbgyn am dani. Bachgen o'r enw Graham a lwyddodd i gael y darn mwyaf, a rhoddwyd iddo gini y deon. Haner diwrnod o wyl gafodd y bechgyn aflvyddian us. Dydd Mercher, ymwelodd y Mri Pete, Curran, ac Isaac Mitchell, perthyiiol i Gyngrair Undeb y Crefftau, a Bangor a Bethesda, a gwnaethant ymchwiliad i anghydwelediad y chwarelwyr. Gwrthod- odd Arglwydd Penrhyn a Mr Young eu derbyn. Hysbysa cynrychiolwyr y Cyngrair wyr y Wasg, fod gan y dynion, ar wahan i'r ymosodiad a wnaed ar y cymerwyr, gwynion gwirioneddol, a bod y cythruddiad er yr anghydfod di- weddaf wedi dyfod yn annioddefol. Mewn cyfarfod ffarwel a gynhaliwyd yn Ngwrecsam yr wythnos ddiweddaf, anrhegwyd y Parch W. Hopkyn Rees, y cenadwr Cymreig o Chi-Chpu, China, a phwrs o aur, sef cyfraniadau ei gyfeill- ion yn ardal Gwrecsam tuagat y drysorfa a godwyd er gwneyd i fyny y golled a achoswyd gan y Boxeriaid, y rhai a ddis- trywiasant boll 1.1do Mr Rees yn Chi- Chou, yn cvnwys llyfrell o dros 800 o gyfrolau. Y mae y swm 0 110p eisoes wedi ei godi tuag at y drysorfa hon, 4C y mae rhagor i ganlyn. Hwyliodd Mr Rees am China ddydd LIun diweddaf. Bardd Cymreig, yr hwn a ofna y bydd i'r rhyfel a'r Boeriaid fod yn ddechreuad diwedd gogoniant Prydain, a ymfflam- ychodd yr englynion a ganlyn I waradwydd y daw Prydain— a chyll Ei chan mewn wylofain 'E ddaw o'i rhwyag cyn hir ddrain Arafed, cofied Rufain. Swn ochain sy'n ucbel-hyd ein gwlad- Hen gwyf cledd a magnel Arafer gwaedgwn rhyfel, A rhoer Joe rhwng muriau'r jel. Mae Mr W. R. Bousfield, yr Aelod Seneddol dros Ogledd Hackney, wedi cael gwaredigaeth gyfyng rhag boddi. Yr oedd ar y rhew yn Hendon, dydd I Sadwrn, pryd y torodd y rhew, ac y syrthiodd cyfaill iddo i ddwfr ugain troedfedd o ddyfnder. Cymerodd Mr Bousfield afael yn llaw ei gyfaill dair gwaith i geisio ei godi i fyny, a phob tro y gwnaeth hyny torodd y rhew, nes o'r diwedd y syrthiodd yntau i'r dwfr. Yn ddilynol llwyddwyd i waredu Mr Bousfield a'i gyfaill o'u sefyllfa beryglus gyda rhaffau a phlanciau. Penderfynodd Sehiadnr Prif Ysgol Dublin, dydd Mawrth, gyflwyno y gradd o Ddoctor Llenorol i Arglwydd Roberts. Cyflwynwyd y gradd o Ddoctor y Gy fraith i'w Arglwyddiaeth ugain mlynedd yn ol, pan adnabyddid ef fel Syr Frederick Roberts. Dywedai Dr Abbott fod y milwr enwog wedi ysgrifenu llyfr ai-dderchog, yr hwn oedd yn ddigon i'w addasu i dderbyn y gradd yma; ond yr oeddynt yn gosod yr anrhydedd arno nid yn unig- am ei lyfr ond oblegid ei weithredoedd yn ogystal. Cafwyd engraifft nodedig o'r gallu mawr sydd ynglyn a'r swyddogaeth o grwner yn Belfast ddydd Mawrth. pryd y cymerwyd Mr Alexander Carlisle, yr hwn sydd yn rheoli oddeutu deuddeng mil o bobi yn iard adeiladu llongauHar- land a Wolff, i'r ddalfa, am iddo beidio rhoddi ei bresenoldeb mewn trengholiad ynglyn a marwolaeth dyn oedd wedi cael ei ladd yn yr iard. Ysgrifenodd Mr Carlisle at y crwner ar ol derbyn y wys i ddweyd nas gallai ef daflu dim goleuni ar y mater. Dygwyd Mr Carlisle oflaen y crwner, a chafodd ei ryddhau ar yr amod ei fod yn rhoddi ei bresenoldeb yn y trengholiad gohiriedig. Cymer amryw arferion tra rhyfedd le ar ddydd Mawrth Ynyd. Yn High Wycombe yr oedd gloch y grampoor I yn cael ei chanu oddeutu deg o'r gloch boreu y diwrnod hwnw. Yn Dorking, ar waethaf yr heddgeidwaid, cicid v bel droed ar hyd yr heolydd. Arferiad rhy- fedd arall yw eiddo chwarelwyr yn Ynys PL,rbeek. Y mae yn rhaid i'r rhydd- freiniwr a brioda dalu ( swllt y briodas.' Ond Dydd Mawrth, Ynyd yr oedd y rhyddfreiniwr olaf a briododd yn rhoddi pel droed yn lie swllt. Os metha a gwneyd hyn, bydd i'w wraig golli bob buddiant yn y chwarel, a rhwystrir ef i gymeryd egwyddorwas. leithyddes ardderchog yw y Frenhines Wilhelmina. o Holland. Heblaw ei gwybodaeth o'r Malayaeg, gall siarad y Ffrancaeg, yr Ellmynaeg, a'r Saesneg mor hyawdl ag y gall yr Is-Ellmynaeg, ei hiaith ei hunan, a medda wybodaeth led dda befyd o'r Rwsiaeg a'r Eidalaeg. Mae ei haddysg gyffredinol wedi cael ei ddwyn yn mlaen o dan arolygiaeth ei mam, y Frenhines Emma, ac y mae hi yn cael ei bystyried yn foueddiges bynod o ddiwvlliedig. Yn niysg pethau ereill gellir crybwyll ei bod yn meddu gwybod. aeth tu hwnt i'r cyfffedin 0 ddysgedigion yn y gyfraith, mewn milwriaeth, ac mewn morwriaeth. 5 Nis gellwch roddi tair blynedd i mi am y trosedd cyntaf,' meddai James Smith wrth y Barnwr Wright yn Mrawdlys Mynwy dydd Mawrth, yr hwn oedd newydd gael ei ddedfrydu i'r cyfnod hwnw ar y cyhuddiad o fod yn feddianol ar arian drwg r Gallai eich bod yn iawn,' meddai y Barnwr, gan ymgynghori ar yr un pryd a llyfr y gyfraith, ond yr oedd yn amlwg nad oedd yn sicr ar y cwestiwn, ac felly gofynodd, Paham yr ydych yn gwneyd gwrthwynebiad yn erbyn oich dedfryd ?' Y trosedd cyntaf ydyw, ac nid lladrad,' eglurai Smith gyda'r parodrwydd mwyaf, 4 ac yr wyf wedi gweled hyny yn y newyddiaduron.' Edrychodd y Barnwr eilwaith ar y llyfr, ac wedi hyny hysbys- odd Smith y byddai iddo os y canfyddai fod y ddedfryd yn gyfeiliornus ei chyfnewid. Mewn darlith a draddoddodd o flaen t Sefydliad Brenhinol Prydain Fawr, cyfeiriodd Dr A. Macfayden at rai ffeithiau yn dwyn cysylltiad a ihifodti y gronynau o lwch all fod yn yr awyr. Mewn rhan agored o gyrion Llundain canfyddodd ddeugain mil o ronynau o lwch mewn cubic centemetre o awyr, tra mewn llathen yn nghanol Llundain yr oedd y rhifedi yn bum' can' mil. Yr oedd yr awyr wedi ei lenwi i'r graddau o naw gwaith cymaint yn y Ddinas nag yn y cyrion. Gwelir fod hyn yn cyfeirio at y gronynau o lwch, ond nid ydyw hyny yn golygu, yn y gradd lleiaf, fod pob gronyn yn cynwys bedyn clefyd neu afiechyd. Ni chanfyddodd Dr Macfayden ond un microbe ar gyfer pob 38,000,000 o'r gronynau 0 lwch yn awyr agored Llundain. Yn awyr ystafell mewn 184,000,000 o ronynau o lwch, nid oedd ond un hedyn heintus i'w ganfod. Mor foddhaol ydyw y wybod- aeth yma, pan yi edrychwn ar y lleng o afn ronynau o lwch mewn ystafell yn mhelydrau yr haul yn, gwau drwy eu gilydd, neu a defnyddio geiriau Tyndal Yn symud o gwmpas.' Hysbysir o Efrog Newydd fod Mr Tesla wedi awdurdodi gwneyd yn hys- bys fod yr arian angenrheidiol wedi eu sicrhau, a bod y gwaith o ddarparu y peirianau wedi cael ei ddechreu i gario ei gynllun ef allan o bellebru heb gyf- rwng gwifrau ar draws y cefnfor. Bydd ei drefniant ef yn barod at wasanaeth y byd masnachol yn ystod y flwyddyn bre- senol. Bydd y draul, meddai Mr Tesla, yn annhraethol lai na chyda'r gwifrau tanforawl, a gellir danfon cenadwriftetb- au yn llawer cyflymach. Mae y dyfeis- ydd yn hawlio, tra y mae trefniant Signor Marconi yn gyfyngedig i bellder cymharol fychan, fod ei eiddo ef yn di- fodi pellder, ac yn gwneyd pellebru o Efrog Newydd i Lundain, Paris, neu Calcutta mor rhwydd ag ydyw pellebru ar hyn o bryd o Efrog Newydd i Brook- lyn. Prif bethau y ddyfais ryfedd yma ydyw yr offerynau i ddanfon a derbyn y cenadwriaethau. Y ddaear yn bytrach na'r gwifrenau ydyw y cyfrwng cysyllt- iol. Mae y genadwri yn cael ei hanfon gyda gwifrenau i'r ddaear, ac y mae yr offeryn derbyniol wedi ei gyfaddasu yn y fath fodd fel ag i fod mewn undeb a'r danfonydd. Digon tebyg y gwisg y Brenin ei goron cyn y bydd ei ddelw ar y llythyr- nodau y mae hyn yn sicr felly os mai yn A wsf; neu Medi y cymer y coroniad le. Rhaid i'r Llywodraeth, yn y He cyntaf, wneyd i ffwrdd a swm mawr o Ivthyrnodau sydd yn meddu delw y Frenhines. Dy wed awdurdodau y Llythyrdy mai yn raddol y dygir del w y Brenin ar y llythyrnodau, ac mai yn raddol y tynir yn ol ddelw y Frenhines. Y tebygolrwydd yw y cymer hyn 0 ddwy i dair blynedd o amser. Dygwyd y llythyrnodau ceiniog i rym yn 1840, a hyny yn ystod teyrnasiad y Frenhines Buddug. Nis gellir newid lliw y llythyr- nodau dimai, ceiniog, neu ddwy geiniog a dimai heb gynhadledd ryrfgwladwr- iaethol tebyg i'r un a fu yn Washing- ton yn ddiweddar pan newidiwyd llythyrnodau dimai i fod yn wyrdd. Gyda golwg ar arian, yr arferiad yw gosod gwyneh un teyrn i edrych i gyfeiriad gwahanol i deyrn blaenorol. Os dilynir y rheol yma gyda golwg ar lythyrnodau, bydd gwyneb y Brenin yn edrych i'r ochr dde. Bedair blynedd yn ol, a phedair blynedd a deugain yn ol, ymddangosodd delw y Brenin, y. pryd hyny Tywysog Cytorur ar lythymodau Ymherodrol Newfoundland a New Brunswick. V?* Parhau i dynu sylw pob Cymro gwlad- garol a chenedlgarol y mae yr ymgais i geisio gael gan y Llywodraeth 1 gydna- bod y Dywysogaeth fel rhan o'r Ymher- odraeth Brydeinig drwy osod ei har- wyddlun ar y faner Frenhinol. Dydd Mawrth diweddaf cynhaliwyd cynadledd' rhwng yr aeilodau Seneddol Cymreig a phenaduriaid > sydd yn gysylltiedig a Chymru ynglyn a'r mater hwn. Cofus ddarfod ir svmudiad hwn gychwyn yn y flwyddyn 1898, pryd y gosododd Tywys- og Cymru yn bersonol 0 flaen y ddiwedd- ar Frenhines ddeiseb arwyddedig gan bum' cant o ddynion a merched Cymru, yr hon a'i trosglwyddodd i'w Gweinidog- ion i'w bystyried. Yn y diwedd amlyg- odd Argiwydd Salisbury ei werthfawr- ogiad o deimladau y Cymry, ond dywedai fod y symudiad yn un hynod o newydd, ac nad oedd ef yn ystyried fod yr adeg hono yn un briodol i wneyd cyfnewidiad mor bwysig ar y Faner Frenhinol, yr hon a benderfynwyd yn adeg coroniad ei Mawrhydi drwy orchymyn yn y Cyngor, ac sydd wedi parhau yn ddigyfnewid byth er hyny. Byddai yn angenrheidiol (vchwanegai y Prif Weinidog) gosod y cynygiad o flaen y Frenhines, ac ofnai ef y byddai gwrthwynebiadau cyfansodd- iadol ac herodrol yn milwrio yn erhyn i'w Mawrhydi roddi ei chydsyniad i wneyd cyfnewidiad nior bwysig. 0 dan yr amgylchiadau yna y mae y cwestiwn wedi cael ei ail godi yn bresenol. Os y bydd i'r Brenin Iorwerth VII. gydym- ffurfio a. dymuniadau- y Dywysogaeth, gall ei Fawrhydi roddi hyny mewn grym drwy gyhoeddeb, fel ag y gwrTaed gan y ddiweddar Frenhines ar ei hesgyniad i'r Orsedd mewn canlyniad i wahaniad Hanover oddiwrth yr Ymherodraeth Brydeinig.
Advertising
IMPORTANT NOTICE. 5 TONS SUGAR (No. 1 CRYSTALS) TO BE GIVEN AWAY. WM. MORRIS JONES, GROCER, abebatboh; Has been instructed by the NON.ADVER TISxNG TEA CO. to give away, free of charge, 4lbs. No. 1 Sugar Crystal to all buyers of one pound of their GOLDEN TIP 2/- TEA. P.S.—The above offer is subject to the advance, if duty will be increased on Tea in the forthcoming Budget. WM. MORRIS JONES, SOLE AGENT, ABERAYRON. WILL NOT BURN OR SMART. R. W, WOOLCOCK'S ARABIAN OIL EMBROCATION Farmers DO NOT BE Deceived. (, "V17HEN buying Embrocation insist upon having R. W. Woolcook's Arabian Oil Embrocation, then you will not be deceived, because it gives entire satisfaction wherever used. Write for large Pamphlet giving full particulars, testimonials, etc. NOTE.-It stands unrivalled. I have curel horses after they have Seen given up as incurable, and ordered to be shot. It does not burn or smart. The hair grows the same color as before, and it does not heal too quickly, but slowly and surely. Testimonials and all particulars wrapped around every bottle, CAUTION. Do not use burning or smartiug Embrocations. It is cruelty. It is used for Swellings, Bruises, I g Itch, Greasy and Cracked Heels, Burns, Scalds, Bites, Stings, Harness Chafes, Sore Shoulders, Sores and Abras- ions of all kinds, Rheumatism, Sore Teats, Swollen Udders, Joint Oil, Scab and Maggots on Sheep, Mange In Horses, Dugs, and Cats, Lice on Cattle. No bath. ing or binding required. Flies will not touch any part where the. Oil is applied. Should be in every Farm ready for use. i Sold by all' Chemists, Saddlers, etc., or direct from PROPRIETOR R. \V. WOOLCOCK, CARDIGAN.