Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
Ye BRYTHON CYMRBIG. On Sale throughout Cardiganshire and part Gf the Counties of Carmarthen and Glamorgan, and sent Post Free for Is. ld. per Quarter 2s. 2d. per Half Year, &c., prepaid. The Credit charge is Is. 3d. per Quarter. -0- Scale OlCharges for Advertisements. „ BADE— Insertion is. per inch (single column) per Insertion, 13 do 6d. do. do. do. 26 & 52 4d. do. do. do. PUBLIC NOTICES and PROPERTY SALES 4d. per line, per insertion. SALES OF FURNITURE 3d. per line, per insertion GOVERNMENT NOTICES & ELECTION ADDRESSES 6d. per line, per insertion. Cheap Prepaid of the "Wanted Class" 12 words or under, 6d., and a Half-penny for each additiona word. Three insertions for the price of two.
Advertising
Ye BRYTHON -CYMREIG. Ar werth drwy Geredigion, a rhanau o Siroedd Caerfyrddin a Morganwg; a danfonir yn rhad gyda'r Post am Is. Id. vy Chwarter, 2s. 2d. yr Haner Blw^yddyn, &c., gyda blaendal. Y telerau am goel yw Is. 3d. j chwarter. -0- Telerau am Hyib)siadau. MASNACHOL— i waith x swllt y fodfedd (un g lorn) yr wythn s 13 eto 6d. eto eto eto 26 & 52 4d. eto eto eto HYSBYSION CTHOEDDUS, ARWERTHIADAU EIDDO 4d. y llipell,; yr wytbnos. f ARWERTHIADAU DODREFN, 3d. y llinell, yr wythnos. RHYBUDDION Y LLYWODRAETH, ANERCHION ETIIOLXADOL, 6d. y llinell, yr wythnos. Hysbysiadau Rhad (gyda blaendal) o ddosbarth yr ''Yn Eisiau," 12 gair neu lai, 6d., a Dimai r, am bob gair ycliwanegol. Cyhoeddir hysbysiad dair gwaith am bris dwynvaitil.
Newyddion Cyffredinol.
Newyddion Cyffredinol. Yr oedd y Pab o Rufain yn 91 ralwydd osd dydd Sadwrn diweddaf. Pasiodd Mesur Diwrnod o Wyth Awr i Fwnwyr ei ail-ddarlleniad yn Nby y Cyffredin ddydd Mercher, drwy fwyafrif o 13. Yn ol y cyfrifiad a wnaed ar y laf o Ragfyiy y mae poblogaeth yr Ymher- odraeth Ellmynig yn 56,345,014. Y mae'hyn yn gynydd o bedair miliwn er 1895. Dydd Sadwrn cafwyd ystorm ofnadwy o wynt, yr hwn a achosodd ddifrod ,anaele a choll bywydau yn Neheudir Cymru ac ar y glanau, Blinir Deal gan bla o lygod mawr, y v rhai a wnant lawer o ddifrod. Anfon- wyd deiseb at y Gorfforaeth ar y mater, ond mynant hwy nad ydynt yn gyfrifol. Y mae y Gorfforaeth wedi rhoddi dynion ar waith i'w dal, a lladdasant rhyw 800 ohonynt. Cynhaliwyd amryw gyfarfodydd dydd Sul gan weithwyr Rheilffordd Dyffryn Taf i ystyried agwedd y cyfarwyddwyr mewn perthynas i'r cynygiad i sefydlu Bwrdd Cymodol a'r caestiwit o gadw yn eu gwasantieth yr estroniaid a ddygwyd i mewn pan oedd y dynion yn sefyll allaD ynystodyr nnghydfod diweddaf. Newyddion. o Chicago a hysbysant fod Mr Daly, maer Limerick, wedi bod y yn anerch 2,000 o Wyddelod yno ddydd Sal. Dywedodd fod cynhyrfwyr Senedd- ol wedi bod yn fradychwyr i'r achos Gwyddelig, ac apeliodd at bob H „ OwyddeI i fod mewn heddwch a Lloegr ond. yn unig cyhyd ag y gallai y blaid ddwyn arfau a nwyddau rhyfel i'r Iwerddon i barotoi ar gyfer gwrthryfel • agored. Cyhuddwyd dyn yn Northampton o ;ymosod ar yr heddgeidwad ychydig ddyddiau yn ol. Dadleuid am i'r vnadon fod yn dirion ar bwys y ffaith ei fod ef yn dad i ddeuddeg ar hugain o blarit-saith ar hugain ohonynt yn fyw, athri yn y rhyfel. Am fod y gwyr mawr yn credu yn nghyfiawnder y rhyfel, ac er mwyn y tri mab o ryfelwyr, cafodd yntau fyned yn rbydd ar ddim ond dirwy ysgafn. Dirwywyd perchenog tafarndy yn Birmingham, ddydd Gwener i 5p a'r costau am werthu cwrw yn cynwys 87 gronyn y galwyn o halen cyffredin, yr hyn oedd 37 gronyn uwchlaw y safon a gydnabyddir gan y gyfraith. Dywed- odd Swyddog Meddygol Iechydf ei bod » yn enill i ddarllawyr i roddi swm mawr v o halen yn eu cwrw, gan ei fod yn i ychwanegu syched. Yr amddiffyniad oedd, nad oedd unrhyw safon cyfreithiol wedi ei osod. w Dywedir ar awdurdod dda fod rhag- olygon disglaer o flaen Port Talbot. Y mae gwaith dur newydd ar fedr cael ei gychwyn yno, yr hwn, pan gwblheir ef, a dt-y allan y mathau trymaf o nwyddau dur. A mcangyfrif y draul o adeilan u y gweithfeydd newydd hyn ydyw 100,000p. Hefyd, y mae yr English Celluloid Company,' y rhai sydd yn perchen am- ryw o weithieydd mawrion ary Cyfan- dir, wedi penderfynu prydleisu tir yn y Duffryn, gerllaw Port Talbot, i'r dyben o adeiladu gweithfeydd a chanoedd o anedd-dai i'r gweithwyr a gyflogir gan- ddynt. Gofynwyd i rieni yn Nghaerdydd i roddi eu barn ar y cwestiwn a ddylid dysgu yr iaith Gymraeg yn Ysgolion y Bwrdd yn y dref. Dydd Mawrth gwnaed y farn yn gyboeddus. Hysbysid y rhieni os y dysgid y Gymraeg, y byddai yn rhaid rhoddi o'r neilldu rhyw J fater arall. Rhanwyd tair mil ar ddeg o bapyrau pleidleisiau, ac o'r rhai hyn dycliwelwyd 8,792 wedi eu llenwi. Yr oedd y canlyniad fel hyn — Yn ffafr y Gymraeg 4,061 Yn erbyn 4,731 Mwyafrif yn erbyn 670 Nos Sadwrn diweddaf, yn y Trosedd- lys Canolog, Llundain, gerbron yr Ar- glwydd Brif Farnwr, terfynwyd prawf Herbert John Bennett ar y cyhnddiad o lofruddio ei briod yn Yarmouth ar yr 22ain o Fedi drwy ei thagu a. charrai esgid ar y traeth oddeutu haner nos y noswaith bono. Yr oedd y prawf wedi para ar hyd yr wythnos, a thynaisylw pawb yn herwydd creulondeb y weith- red ysgeler. Er i'r carcharor gael ei amddiffyn gan rai o oreuon y dadleuwyr, cafwyd ef yn euog, a dedfrydwyd ef i gael ei ddienyddio. Mae corachod fforest y Congo, y rhai a dalasant ymweliad a Syr Harry John- ston yn Uganda, yn, awr, yn ol hysbys- rwydd o Mengo, wedi cyraedd Toru. Daeth eu cyfeillion o'r fforest i'w cyfar- fod, a threuliasant amryw ddyddiau i edrych dros yr anrhegion a roddwyd iddynt gan Syr Harry Johnston. Mae yr oil o'r corachod wedi datgan eu bwr- iad i beidio dychwelyd i fforest y Congo, ac y maent yn treulio eu holl amser oddeutu y Sefydliad Prydeinig. Dywed- asant yn gyfrinachol wrth Arabiad eu bod yn bwriadu teithio ar draws y tir i gyfarch y Brenin newydd gydag ar- ddangosiadau o serch teyrngarol, ac ni fynant gredu y ffaith fod y cefnfor yn chwareu ei donau heilltion ac uchel rbyngddynt a'r wlad lie mae'r Brenin yn preswylio. Ymledu wna rhyfel y dafarn yn Nhalaeth Kansas, America. Y mae Mrs Nation a'i cbymdeithesau yn barod wedi eyflawni dystryw ar y diotai mewn amryw o dre6, a dydd Mercher diwedd- af dyma Mrs Mary Sheriff, o Danville, a'i cbymdeithesau yn ail gychwyn ymgyrch chwilfriwiol yn Wichita. Aethant 0 amgylch gan wneyd y tafarn- dai yn gandryll ac yn gyrbibion a neb yn beiddio ymyraeth i atal y dwylaw ditiysti-iot Nodsvedd ryfedd o'r ymgyrch yw fod y newyddiaduron yn cymeryd y distryw fel difyrwch. Ni ddangosant gydymdeimlad o gwbl a'r tafarnwyr. I lawr yn nghalon dyn ychydig o bareli sydd i'r dafarn a'i gwaith erchyll. Ai y gwragedd a'r 1 ?5 merched, wedi y cwbl, sydd i goncro y ddraig yn ei ffau ei hun ? Cyrhaeddodd y Cwmni Archwiliadol perthynol i'r African and Trans-Con tinental Telegraph Line i Ujiji (Llyn Tanganyika, German, East Africa), Rhagfyr 3ydd, ar ol archwilio bron yr oil o'r wlad o Karema. I fyny i'r adeg breSenol y mae llinell wedi ei gosod i lawr am oddeutu tri ugain milldir tua'r gorllewin i Kassanga—hyny yw, y mae yn rhedeg yn awr o Kituta, ar yr ochr ddeheuol i Lyn Ta,uganyika, i fyny ar hyd glanau dwyreiniol y llyn hwnw. Mae y wlad w,edi ei inarcio a, phegynau i fyuyi Karema, gant a haner o fill- ditoedd i'r gogledd o Kituta, ac y mae yr archwiliad rhagbaratoawl rhwng Karema a Ujiji yu. myn'd yn mlaen yn awr. Bydd i'r llinell wedi hyny fyn'd o amgylch glanau deheu-ddwyreiniol o'r Victoria Nyanza, gan groesi rheilffordd Uganda yna daw at, a chanlyna oror- au Abyssinia, ac wedi troi ychydig i'r gorllewin gweithia i lawr at y Nile. Mae gwaith Mr O'Donnell, yr Aelod Seneddol Gwyddelig, yn gwneyd ymgais i draddodi araeth yn Nhy y Cyffredin, y noson o'r blaen, yn yr iaith Wyddel- aeg, yn adgoffa y ffaith fod chwech o wahanol ieithoedd yn bod yn yr Ynys- oedd Prydeinig. Yn wir, fe ddywedir gan awdurdod pur dda fod oddeutu tri chwarter miliwn o drigolion yr Ynys- oedd Prydeioig nad ydynt yn alluog [ i siarad yr iaith Saesonaeg. Haner canrif yn ol, yr oedd miliwn o'r Cymry heb fod yn alluog i siarad yr iaith Seisnig, ac hyd yn nod heddyw fe ddy- wedir fod haner y nifer hwnw heb fedru siarad ond yr iaith Gymraeg yn unig. Yn ngbanoly ganrif ddiweddaf, hefyd, yr oedd oddeutu tri miliwn o bobl WyddeHg yn siarad yr iaith Wyddelaeg, ac fe ddywedir fod deng mil ar hugain eto nas gallant siarad ond yn y Wyddel- aeg yn unig. Y mae un peth tra rhyfedd a dyna yw hyny, tra y mae Cymru deyrngarol wedi glynu wrth ei 0 9 hiaith mor fiyddlon a chyffredinol, mae yr Iwerddon, yr hon nad ystyrir mor deyrngarol, wedi mabwysiadu y Saesonaeg fel ei hiaith gyffredinol. Mae deugain mil o drigolion Ucheldiroedd yr Almaen yn siarad y Gaeleg, a'r un iaith arall. Siaredir Manaweg yn Ynys Manaw, lie y cyhoeddir y cyfreithiau yn Saesonaeg a Manaweg; ac yn Ynysoedd y Sianel, gydag yn agos i gan' mil o boblogaeth, yr iaith a arferir yn gyffredin ynddynt ydyw y Firancaeg. Y mae felly chwech o wahanol ieithoedd yn cael eu siarad yn yr Ynysoedd Pl-ydeinig-y Saesonaeg, n y Gymraeg, y Ffrancaeg, y Fanaweg, y Wyddelaeg, a'r Gaeleg. Crewyd cyffro anarferol yn Abertawe dydd Sadwrn gan y newydd trist fod Mr J. Holbein Rosser, unig fab Mr J. H. Rosser, Disgwylfa, Sketty, wedi marw, yn 19 mlwydd oed, mewn can- lyniad i gamgyrneriad meddyg. Y rri. ddengys ei fod yn dioeddef gan gulr anwydol yn ei ben, a nos Wener diweddaf aeth at Dr Daniel Evans, Abet tawe, i ymofyn maddyglyn. Rhoddodd y niaddyi: gostrelaid iddo, ac aeth adref. Yn ddiweddarach yn y nos, aeth i'w ystafell-wely, a llyncodd y meddyglyn. Yn ebrwydd clywyd gwaeddiadau; a phan aetth ei rieni i'w ystafell cafwyd ef yn dioddef oddiwrth arteithiau dirboenus gwenwyniad car. bolic acid. Y cwbl allai ddweyd oedd, Mae Dr Dan wedi rhoddi y meddyglyn cyfeiliornus i mi.' Aeth ei dad ar fyrder i geisio cynorthwy meddygol, a phan gyrhaeddodd adref a thri meddyg gydag ef, yr eedd y gwr ienanc wedi marw Cynhaliwyd trengholiad nos Sadwrn yn mhreswylfod Mr Rosser, ger bron Mr Glyn Price, y trengliolydd. Rhoddwyd tystiolaeth, "ymhlitli ereill, gan Dr Daniel Evans, yr hwn a addefodd ddarfod iddo wneyd camsyniad drwy gymeryd un botel ynile y Hall oddiar ei ddesc, ac fod yr hon a roddodd i'r trancedig mewn camgymeriad yn cynwys carbolic acid. Yi, oedd y ddwy botel yr un faint, ac o'r un lliw.—Dygwyd rheithfarn i'r perwyl ddarfod i'r trauc- edig gyfarfod a'i farwolaeth mewn can- lyniad i ddamwain drwy iddo gymeryd llwnc o wenwyn a roddwyd iddo mewn camgymeriad gan Dr Dan Evans. Yr oedd Arglwydd Penrhyn yn llyw- yddu nos Wener diweddaf yn nghiniaw Gwyl Dewi Sant yn Mangor. Wrth gynyg y 11 wncdestyn, I Dinas a Masnach Bangor/ sylwodd y Cynghorwr Huw Rowland nas gallai efe help gwneuthur cyfeidadat y cwmwl presenol oedd ar fasnach y ddinas. Pe gallasai ei Ar- glwyddiaeth ddweyd wrthynt y noson bono ei fod wedi llwyddo i sicrbau 'heddwch gydag anrhydedd,' buasai pawb yn falch. Yr unig luchedyn o obaith yn yr helynt presenol ydoedd y ffydd gyffredinol yn Arglwydd Penrhyn ei hun.—Pan gododd Arglwydd Penrhyn ar ei draed, derbynwyd ef yn frwdfrydig. Dywedodd fod Mr Rowland, a siarad yn iaith pysgotwyr, wedi taflu pluen drosto ef drwy ei wahodd i wneyd mynegiad ar fater difrifol a phwysig. Ond teimlai nadoedd efe mewn sefyllfa o gwbl i wneyd y fath fynegiad, oblegid fod yr holl fater yn gorphwys gyda phobl ereill. Gallai y bobl ereill nad oeddynt yn gweithio ddychwelyd os dewisent. Hwynthwy oeddynt i ddweyd y gair os oeddynt yn dewis gweithio, a gallent ddychwelyd yn awr. Nis gallai lai na dymuno na buasai pobl yn edrych ar y pwnc hwn, ag oedd yn effeithio ar fas- nach Bangor, drwy wydrau llai golygfyr, ac yna hwy a welent fod yn y satiad a gymerasai efe egwyddor fawr yn rhedeg odditano-r-a'r egwyddor fawr hono yr oedd .efe yn ymladd drosti, sef.rhyddidy gweithiwr.. Gallai ddweyd wrthynt fod canoedd o ddynion y funyd hono a ddy- munent ddychwelyd at eu gwaith, ond ni feiddient wneyd hyny. Paham ? Nid oedd arnynt ei ofn ef (Arglwydd Pen- rhyn) na'r rheolwyr. Y na ofn beth oedd arnynt 1 Yr oedd arnynt ofn gor- mes anweledig ag y gwyddent yn eithaf da oedd yn bodoli yn eu plith, ac mewn canlyniad i hyny yr oedd masnach Bangor yn dioddef.
Advertising
P REPAR ATO RYSGHOOL- CRIBYN. -J MASTER-REV. D. EVANS. Successes already obtained- 2 Matriculation (London and Welsh 1st Division). 2 Responsions (Oxford). 2 External School at Manchester College Oxford (£75 per annum). 0 1 St. David's College. 1 Trevecca (2nd on list, 1899). 31 other successes. Terms on Application, Coals! Coals! Coals! .rvi{; 'f! Cia am Bris Rb symmol. .& For Coals Cheap and Good, enquire at the TIYY" OFFICE, LAMPETER STATION. 'f l J tÎ" 4 1 Basic Slag! Basic Slag! For -bi 175 per ton and upwards. [1369 WILL NOT BURN OR SMART. R. W. WOOLCOCK'S ARABIAN OIL EMBROCATION FARMERS Do NOT BE DECEIVED. WHEN buying Embrocation insist upon having R. W. Woolcock s Arabian Oil Embrocation, then you will not be deceived, because it gives entire satisfaction wherever used. Write for large Pamphlet giving full particulars, testimonials, etc. NOTE.-It stands unrivalled. I have cure! horsea after they have been given up as incurable, and ordered to be shot. It does not burn or smart. Tho hair grows the same color as before, and it does not heal too quickly, but. slowly and surely. Testimonials and all particulars wrapped around every bottle. CAUTION. — Do not use burning or srpartiug Embrocations. It is cruelty. It is used for Swellings, Bruises, Itch, Greasy and Cracked Heels, Burns, Scalds, Bites, Stings, Harness Chafes, Sore Shoulders, Sores and Abras- ions of all kinds, Rheumatism, Sore.Teats, Swollen Udders, Joint Oil, Scab and Maggots on Sheep, Mange in flotses, Dogs, and Cats, Lice on Cattle. No bath ing or binding required. Flies will not touch any part where the Oil is applied. Should be in every Farm ready for use. Sold by all Chemists, Saddlers, etc., Is each, or direct fro in PROPRIETOR R. W. WOOLCOCK, CARDIGAN. CONDITION POWDERS ..<I.. MbSm ragjH FOR HORSES, Prepared from the Recipe of aD eminent Veterinary Surgeon. Requires no Confinement or Altera- tion of Food during their use. Highly recommended for all diseases of the Skin, Cracked or Greasy Heels, S'welled Legs, Mange, Hidebound, for Dulness or Roughness of the Coat, purifyir gthe Blood, improving the general condition, and giving a fine Glossy Coat. To Horses in low condition a course of these Powders never fail to restore to thsir proper health. Price is. per Paclcet. CLEANSING DRENCH FOR Cows. ,9.d. peri PoCeket. H CLEANSING DRENCH" (Cyffyr Carth. add). -Drwy roddi hwn i'r fuwch yn fuan ar ol bwrw Ho, symudir y bryeh. a glanheir y corff oddiwrth bob arimburedd arall. Nid oes gyfFyr mwy poblogaidd na hwn ar werth. Gwyr y cyhoedd yn dda am ei effp.ithiau daionus. Mewn dognau naw ceiniog yn un. CARDIGANSHIRE POULTRY POWDER. For the rearing of all young broods of Game or Poultry, nothing better can be found; it is essentially valuable for Producing Eggs the yerit- round. Os am ddyblu'r Wyau, a chadw'r Ffows yn ach a chryfion, mynwch "Cardiganshire Poultry Powder" Roderick Evans. Nid oes dim yn well i atal Clefyd ar y Ffowls. Sold in Packets, 3d. and 9d. each. CARDIGANSHIRE PIG POWDER. -N- THRIVING PIC POWDER. It never fails to put Pigs in a Healthy Condition. It makes them Relish their Food. It acts as a Tonic on Weakly Pigs. COMPOUNDED FROM A VALUABLE RECIPE. 9d. per Packet. All the above Prepared only" by RODERICK EVANS, CHEMIST & SURGEON-DENTIST, 1398] LAMPETER,