Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

HANES CAPEL SEION.

News
Cite
Share

HANES CAPEL SEION. ANGHYDPFURFIABTH YN MHENTRESPLIT. GAN "ARSYLLYDD." PENOD III. Capel Newydd. Dyna ddyn penderfynol yw Dafydd William y Siop," meddai ei bleidwyr y diwrnod ar ol y cyfarfod liynod, hanes pa un a roddwyd mewn rhifyn blaenorol. Yr ydym yn dweyd pleid- wyr, am mai Dafydd William, y siopwr, oedd mewn gwirionedd y ceffyl blaen yn yr am- gylchiad hwn. Yr oedd amryw bethau yn tueddu i roddi yr anrhydedd yma ar y siopwr. Nis gellir dweyd oi fodyn un oedd yn berchenog ar gymhwysderau neillduol i fod yn arweinydd plaid neu 44 glic o bobl, os nad oedd tipyn o ystyfnigrwydd cynhenid a pharch diledryw i'w fympwyon personol i'w cyfrif fel cymhwysder- au. Pan oedd ei ganlynwyr yn oyfeirio ato fel 0 dyn penderfynol, mae lie i gredu mai ystyfnig- rwydd oedd ganddynt mewn golwg. Y mae, i ryw raddau, debygolrwydd lied agos rhwng penderfynolrwydd ac ystyfnigrwydd, ond er hyny i gyd y mae yna wahaniaeth dirfawr. Y mae y dyn penderfynol yn ymgolli yn y dyn ystyfnig unNN aith y;gwrthoda gydnabod rheolau Uywodraetliol cymdeithas, un o ba rai ydyw y rheol sydd yn galw ar y lleiafrif i ymostwng, nid i opiniyna.u, ond i benderfyniadau a rheol- aeth y mwyafrif. Yr oedd chwerwder y teim- ladaii oerld yn digwydd bodoli cydrhwng y ddwy blaid ar y cwestiwn o gyflog eu gweinidog y cyf- ryw, fel nas gellir prophwydo unrhyw ganlyn- iad gwabanol i'r hyn a ddigwyddodd, byd yn nod pe byddai pleidwyr y gweinidog wedi colli y dydd. Capel newydd oedd swm a sylw- edd holl feddyliau Dafydd William, y siopwr, a John Jones, y glowr, ac eraill o'r frawdolaeth mor fuan ag y gwybyddwyd fod y fantol wedi troi yn eu herbyn, a 44 chapel newydd," mwy na tliebyg, fyddai swm a sylwedd y blaid arall pe hyddai y fantol wedi troi yn eu herbyn liwythau; felly nis gellir, gyda phriodoldeb, ofidio am a fu." Yn ychwanegol at ystyfnigrwydd Dafydd William, yr oedd ei amgylchiadau bydol yn rhoddi iddo awdurdod ychwanegol fel arwein- ydd y blaid wrthwynebol. Nid oedd yn un o'r dynion hyny a elwir yn 14 siopwr mawr," ond drwy gynildeb cybyddlyd a profits afroaymol, yr oedd Dafydd William, nid yn unig wedi medru sofyll o dan gclledion misol gwyr yr hen gownt, at ba rai y cyferiodd yn y cwrdd, ond yr oedd liefyd wedi llwyddo i 44 ddodi ceiniog fach naill ocbr," meddai y bobl oedd yn profl&su gwy- ,-tal bod rhywbeth am y mater. Yr oedd y ffaith fod ganddo res o dai, a elwid yn 14 Williams' Terrace," hefyd yn cadarnbaxi y gosodiad. Yr ydym wedi cymeryd petli rliyddid drwy gyfeirio ato fel Dafydd William, oblegid fel Mr. Wil- liams, y Siop," yr adnabyddir gan y Uiaws ac oni bai nad oedd etholiad ddiaconaidd wedi cy- meryd lie yn Nebo er's blynyddau lawer, mwy na thebyg y buasai yn ddiacon, ac fel y cyfryw yn un o'r rhai blaenaf yn y set fawr." Er ei fod y tuallan i gylch y weinyddiaetli ddiaconol, yr oedd Mr. Williams, y Siop yn cymeryd rhan lied bwysig yn nhrafodaethau eglwysig Nebo, ac fel y cyfryw yr oedd ganddo ei bleid- wyr, pa rai a edrycbent arno fel dyn o bwys a dylanwad am ei fod yn gwerthu tê a siwgr, caws ac ymenyn, &c. Oherwydd y gwabanol bethau yma, nid yw yn rbyiedd fod siop Dafydd William yn llawn iawn (nid o gwsmeriaid, ond o'i bleidwyr yn yr achos dan sylw) y nos ddilynol i'r cyfarfod, yn yr hwn y gorchfygwyd hwy. Yr oedd Dafydd William wedi bod yn tynu allan raglen yr ymgyrch drwy'r boreu a'r prydnawn. Pan ddaetli ei bleidwyr o'r gwaith, ac wedi iddynt yf<;d y cawl a bwyta y cig, aethant yn unionsyth, a chyn cymeryd amser i ymolchi eu gwynebau ac ymddiosg o'u dillad gwaith, i siop Dafydd William i glywed y newyddion di- weddaraf. Clywsant fod y gwr tal, ysgyrniog, wedi bod yn y station yn cyfarfod y Parch. Ephraim Llwyd, ac fod y cyfrylv wedi pasio y siop fel pe yn ysgyrnygu danedd ar Dafydd William fod y bobl yn Mhentresplit yn bwriadu rhoi tysteb i Dafydd William, ond fod "gwyr Nebo" yn dweyd mai hen beqhadur oedd ef-mai dim ond swlit y mis yr oedd yn gyfranu at y weinidog- aeth, ac y dylai fod cywilydd arno ymddwyn yn y modd y darfu iddo at Mr. Llwyd, a llu o bethau cyffelyb. Wedi adrodd yr hyn oil a glywodd i glustiau yr haner dwsin neu ragor oedd yn eistedd ar wahanol bethau yn ei siop gan ysmocio, dywedodd Dafydd William ei fod wedi bod yn siarad a dyn oedd yn oadw Coffee Tavern gerllaw, fod ganddo ystafell fawr gyfleug, mai dim ond 5s. yr wythnos yr oedd yn ofyn am gynal cyfarfodydd ynddi ar y Sul, ac felly ei fod ef, Dafydd William, yn barnu yn ddoeth i gymeryd y lie ar unwaith, a chynal gwasan- aeth yno, hyd nes y gellid gwneyd y parotoadau i adeiladu Capel Newydd." Felly y bu. Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf yno y Sul dilynol, a buont mor ffortunue a cliael dyn ieuanc oedd yn parotoi i'r coleg mewn ysgol tref gyfagos, i bregcthu dwy bregeth iddynt am saith a chwecli. Yr oedd tua deugain yn bres- enol, ac yr oedd y pregethwrieuaucyn "anterth ei ogoniant," meddai llhw, gan nad beth oedd Lyny. Os oedd deugain yn bresenol y Sul cyntaf, yr oedd yn sicr fod tua tbriugain yn bresenol yr ail Sul, oblegid yr oedd y sou mai split oedd yn cwrdd yno wedi myn'd ar led, ac yr oedd llawer nad oeddynt yn arfer mynychu He o addoliad yn bresenol gyda'r amcan o weled pa fath fodau oedd y rhai hyn, a'r fatli wasan- aeth crefvddol oeddynt yn gario'n mlaen. Yr oeddynt wedi bod yn addoli yn y Coffee Tavern am tua chwe' mis, pan y cyhoeddwyd fod careg sylfaen eu capel newydd i gael ei osod yn mhresenoldeb Mr. John Salathiel, yr hwn oedd newydd dd'od i Bentresplit o, dyn a wyr le, i dreulio gweddill ei oes yn mysg y pentrefwyr heddycblon a didwrw (?), a'r hwn hefyd oedd wedi rhoddi deg punt at y capel, neu, fel y dywedai Dafydd William, at yr achos da Dichon fod awydd gwybocl ar y darllenydd sut y casglwyd digon o arian i gychwyn y capel. Wei, yn y lie cyntaf, cafwyd deg punt oddiwrth Mr. John Salathiel, ac yehydig bunoedd oddi- wrth foneddigion eraill Pentresplit, y rhai a roddeut, nid am eu bod yn teimlo dros gyfiawn- der y mudiad, ond oherwydd nad oeddynt am fod ar ol mewn 41 hyn o beth." Rhoddwyd llyfrau casglu i bob aelod, rhoddodd Dafydd William y Siop bum' punt, yr aelodau eraill tua cboron yr un. ac felly, rhwng yr oil, casglwyd "in clittii' piint ond gau fod y capel i gostio o dri i bedwar cant, a chan fod y contractor yn erfyn cael security cyn dechreu fod talu i lawr i fod ar y diwedd, benthyciwyd y gweddill drwy gyfreitliiwr—y diaconiaid (oblegid yr oeddynt wedi ethol y cyfryw) i fod yn feichniafon. Gosodwyd y gareg sylfaen, a llawenycliodd yr holl bobl, gan ddechreu siarad am fugail Yr wythnos nesaf 44 Dewis Gweinidog- I Breeze' arall."

LLITH " CLWYDFAB."

Eglwys a Gwladwriaeth.

[No title]

Advertising