Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

EILLIO PENAU GWRAGEDD GWEDDWON.

News
Cite
Share

EILLIO PENAU GWRAGEDD GWEDDWON. Hysbysir am ddigwyddiad rhyfedd o: Bombay, sef cyfarfod cyhoeddus o eillwyr Hindwaidd, i ystyried y cwestiwn o anmhriodoldeby gwaith o eillio penau yr Hindwaid, ac felly eu hanharddu am en bywyd. Ymgynullodd 400 o eillwyr, ac III, o honynt, o'r enw Babajee More, a ddarllenodd bamphled yn iaith Mahratti, yn mha un y sylwai fod eillwyr yr hen aQiserau yn ddedwydd a boddlon ond yn ddiweddar, fel pe byddai melldith Wedi disgyn ar eu penau, yr oedd eu gwaith wedi syrthio ymaith, ac yr oedd- ynt wedi myned yn dlawd. Nis gellid ^yfrif am y felldith ond trwy y ffaith eu "°d yn cyflawni pechod mawr wrth eillio penau y gweddwon tlawd a diniwed. Yr 9?dd yn groes i reolau ysgrythyrau yr Hindwaid, ac nid oedd amheuaeth nad oedd melldithion y gweddwon wedi isel- hau eu galwedigaeth. Ar hyny, pasiodd y cyfarfod benderfyniad unfrydol nad oedd un eilliwr i eillio pen unrhyw A^eddw ac os gwnai, y byddai iddo gael ei esgymuno.

GOLYGFA DDYCHRYNLLYD.

.. YMLADDFA FFYRNIG GYDA LLEWPARD.

y GENHADAETH EGLWYSIG, YN…

. Y GWAHANGLWYF.

—-—♦—___ CYFARFOD DADQYSYLLTIOL…

CLWB YR HUNAN-LADDWYR.

GOGLEDD CYMRU.

1 AMERICA.

- FFEIRIAU Y BALA AM 1890.

[No title]

Advertising