Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

NODION 0 FON.

News
Cite
Share

NODION 0 FON. GAERWEX.—Un o'r arwyddion cryfaf o ad- fywiad Eglwysig yn Mon, ydyw yr ymdrech a wueir mewn gwahanol blwyfi gyda'r Ysgol Sul, a chaniadaeth y cysegr. Y mae yr undebau corawl a'r cyfarfodydd llenyddol yn d'od yn bethau cyffredin gyda'r Eglwyswyr yn y sir, ac nid oes amheuaeth nad oes lies mawr yn deilliaw i'r Eglwys oddiwrth y cyfryw. Ddydd Sadwrn, y 19eg cynfisol, cynhaliwyd gwyllenyddol Ysgol Sul yr Eglwys, yn Ysgoldy Gwladwriaethol Gaerwen. Perthynai y cyfarfod i blwyf Gaer- wen yn unig. Llywyddwyd gan Mr, C, F. Priestley, Hirdrefaig, gan yr hwn y cafwyd anerchiad byr ond pwrpasol, ar aracan y cyfar- fod. Y arweinydd ydoedd y Parch. E. B. Thomas, curad-niewn-gofal Heneglwys. Y peth cyntaf ar y rhaglen ydoedd can, Iaith anwyl ein gwlad," yn wir dda gan Mr. W. S. Jones. Anerchiadal1 gan y beirdJ. Er fod y Gaerwtn wedi magu beirdd o fri, tipyn yn farwaidd oedd yr awen ar yr amgylchiad pres- enol. Ni ddaeth ond un ymlaeu, sef Mr. W. Thomas, Rhosfain, vsgrifenydd gweithgar a sslog y cyfarfod, 'ac fel hyn yr ymffiamychodd ef i'r llywydd :— Ein Priestley, o prisiwn ei beraon—i'r gadair Fe godwyd ein gwron, Boneddwr o ddysg yrnysg gwyr Mon Dyludwp i djdodion. Un cymwys, a dwys ystyriol—Cynghorwr Ein Cynghorau Sirol Nid corwynt croes a droes yn ol Ein gwron tra rhagorol." Beirnadacth yr arweinydd ar y llawysgrifau. St. Matthew v. 1—12—goreu, Edward J. Jones, Llosg'rodyn ail, William Parry, Glan'rafon. yn I Pregethwr xii. 1—goreu, Owen Phillips, Ponc- 'rodyn. Can gan Ap Glaslyn. Beirniadaeth Mri. R. Williams a J. Evans ar y Ffon çoreu, Owen Thomas, Rhosgoch, Gaerwen ail, William Evans, Cross Keys. Cystadleuaeth ar ddadganu y don Ellacombe clyfarnwyd parti yr Ysgol Genedlaethol, dan arweiniad Mr. R. Jones, yr ysgolfeistr, yn wir deilwng o'r wobr. Beirniadaeth Mrs. Grilxith a Miss Williams, y Rheithordy, ar y sat?brlers-dyf.,trnwy(i Ellen Williams,, Tynllain, ac Elizabeth Phillips, Ponc- 'rodyn, yn gydradd. Beirniadaeth Gwilym Berw ar yr englynion i'r "Fedydclfaen "—goreu, Mr. J. Lewis Jones, Llosg'rodyn ail, "Cynan" (yr hwn ni ddaeth ymlaen). Cystadleuaeth ar ganu Nunc Dimittis ar y chant Barnby"- gwobrwywyd parti yr ysgol ddyddiol, dan ar- weiniad eu hathraw. Cyytadleuaeth ar adrodd y Te Deum"—goreu, Owen Roberts, Tyddyn- uchaf ail. Elizabeth Phillips, Ponc'rodyn, ac Ellen Williams, Tynllain, yn gydradd. L, 'Iriawd ar y Cryfchau, gan y Misses Pryce, Tref- draeth Rectory, yn drä meistrolgar, a chawsant gymeradyryaeth uchel, Cystadleuaeth ar ddad- ganu y deuawd, Y ddeilen ar yr afon" (0. Al,w)-goi-eu, Parti o Landdanielfab, Beirn- iadaeth (iwilym Berw ar y penillion ar •'Amser"—-goreu. Mr. W, B, Jones, Berw Mills ail, Mr. W. Tljomas. Conway House. CAn gan Mr, W. S. Jones, Cystadleuaeth mewn d, Irileii byrfyfyr (rhan o awdl fuddugol yn Eisteddfod Pwllheli) goreu, Mr, Thomas Wil- liams, Ty'npwll Can, Bwthyn yramddifad," Miss Bark<;r, Llanerchymedd, Beirniadaeth Gwilym Hwfa a'r Arweinydd ar y "Taith lythyr o Ceint i Holland Arms Station." Tra- ddododd Gwilym Hwfa ei feirniadaeth yn dra doniol a hwyliog. Goreu, Mr. E. J. Jones, Llosgrodyn ail, Mri. J. Kvans, Shop Newydd, a John Thomas, Half Moon, yn gydradd. y Can gan Ap Glaslyn. Cystadleuaeth y Llwy Bren "-rrorcu. Naddwr," ond nid atedodd i'w enw. Cystadleuaeth ar ganu oddiar y •• Modulator." Dyfarnwyd Ellen Williams, Ty'nllain, a M. Thomas, Conway House, yn gyf- artal oreu. Anerchiad gan yr Hybarch Arch- ddiacon Pryce, M.A. Cafodd ei sylwadau ym- arferol a da dderbyniad cynes gan y dorf oedd yn bresenol, Sylf.ienodd ei sylwadau ar ddy- wediad Cattwg Ddoeth, sef, Gwell na dim, gysgod brwynen," Ynxdyiniodd yn ddeheuig ar yr amrywiaeth a ganfyddir ymhob peth ac ymhob man drwy natur, it dangosodd fel y mae y naill ddosbaybli yn ymddibymu ar y Hall. Cystadleuaeth ar ddadganu y doij Siloah goreu, Parti o Eglwyn: y Gaerwen, dan arwein- iad Air. Jones, yr ysgolfeistr, Alawort Cymreig ar y Crythnu gan y Mi sses Pryee, yn rhagorol. Beirniadaeth Mr. J. L. Jones itr y prif draeth- awd, sef" Y ( r/ge d o gymeryd enw Duw'yn ofer." Cafwyd traethawd rhagorol gan Mr: W. B. Jones, Berw Mills, ac anogwyd ef yn fawr i'w gyhoeddi yn rhanau yn y Cyfaill Eglwysig. Can gan Ap Glaslyn. Cynygiwyd y diolchiadau arferol gan y Parch. G. W. Griffith, y rheithor, ac yna terfynwyd y cyfarfod gyda chan gan Mr. W. S. Jones. t afwyd cyfarfod gwir dda ymhob ystyr o'r gair. Y mae y Rheithor a'r pwyllgor yn haeddu clod am eu llafur caled I gyda'r achos, ynghyd a Mr. Jones, yr ysgolfeistr. Yr oedd yma welliant mawr ymhob peth ar gyf- arfod y llynedd. Yn sicr fe ddaw hwn i gael ei ystyried fel gwyl nynyddol ynglyn ag Ysgol Sul y Gaerwen. Ai oni fyddai yn bosibl cael dau gyfarfod y flwyddyn nesaf, ac hefyd beth feddyl ai y pwyllgor o gael ychydig ysnodenau i'r bonedcligesau arwisgo y buddugwyr ? Nid ydym ond yn awgrymu hyn. Yr ydym yn credu fod zel yr ysgrifenydd yn ddigonol i bob peth bron, ond iddo ef ystyried y peth. CLADDEDIGAETH.—Yr un diwrnod, claddwyd gweddillion marwol Mr. Hugh Lewis, Neuadd Wen, tad y Parch. W. Lewis (Gwilym- Berw), Llandudno, yn mynwent Gaerwen. Bu farw yn 76ain mlwydd oed Yr oedd yn ddyn tawel a diymhongar, ac yn gymydog caredig. Er ei fod yn Ymneillduwr zelog a chydwybodol, ac yn flaenor gyda'r corff yn Alhensarn, Gaerwen, eto yr oedd ganddo barch mawr i'r Eglwys. Nid oedd yn cydfyned ag Ymnoillduwyr erlidgar a thrystfawr yr oes bresenol. Perthynai i ysgol yr hen dadau Methodistaidd. Daeth tori liosog a pharchus i dalu y gymwynas olaf iddo. Gwasanaethwyd wrth y ty gan y Parch. Robert Hughes (M.C.), Gaerwen, ac yn yr eglwys ac ar lan y bedd gan y Parch. G. W. Griffith, rheithor Gaerwen; D. J. Lewis, D.G., Llauidal1; J. Owen, Llangwyllog a Coedana, ac E. B. Thomas, Heneglwys. Yn yr eglwys, canwyd yr hen emyn anwyl, Bydd myrdd o ryfeddodau Ar doriad boreu wawr," ar y d6n Denton's Green ac ar lan y bedd, canwyd un arall o'i hoff emynau, sef Mae fy mrodyr adre'n myned Draw yn lluoedd o fy mlaen," ar y don I Eiflonydd.' Cafodd gladdedigaeth I., anrhydeddus. Huned mewn lie(id.-Talaii-ton.

LLASERFYL.

GORSEINON.

GLYNDYFRDWY.

HIRWAUN.

DOWLAIS.

GLYNTAF.

'RHYL.

LLANRHAIADR, D.C.,

MANCHESTER.

Cyfarfod Dadgysylltiol yn…

Dinbych a'r Cylchoedd.

[No title]

Advertising

HENDY GWY-N L AR DAF.