Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

NOD/ON SENEDDOL ----

News
Cite
Share

NOD/ON SENEDDOL [GAN EIN GOHEBYDD ARBENIG.] Anghyfartalwch Cosbedigaethau. Yn Nhy yr Arglwyddi, ddechreu yr wythnos ddiweddaf, galwodd Arglwydd Herschell sylw at y gwahanol farnau a goleddid mewn per- thynas i'r egwyddorion a ddylent reoleiddio llymder y cosbedigaethau i ba rai y dedfrydid drwgweithredwyr, ac ar yr anghyfartalwch yn y dedfrydau a basid mewn achosion o gyffelyb bwysigrwydd. Gofynodd ei arglwyddiaeth a wnai y Llywodraeth benodi Dirprwyaeth Fren- hinol, pwyllgor, neu ryw gyfrwng cyffelyb, i wneyd ymchwiliad i'r gyfundrefn gosbawl bres- 1. 9 enol, ynghyd a'r egwyddorion wrth ba rai y dylid ei gweinyddu ac hefyd, ai nid oedd yn bosibl lleihau yr angliyfartaledd a ddigwyddai cl mewn cosbedigaethau, a'u gwneyd yn fwy effeithiol. Addefodd yr Arglwydd Ganghellydd bwysig- rwydd y cwestiwn. Yr oedd y ffeithiau yn ddigon adnabyddus, ac yr oedd yr holl gwestiwn yn wir deilwng o ystyriaeth Llywodraeth ei Mawrhydi, ond yr oedd gofal mawr yn angen- rheidiol er gochelyd unffurfiaeth gormodol mewn cosbedigaethau. Yr oedd y cwestiwn, yn ei farn ef, yn fwy cymwys i ddadleuaeth nag i ymchwiliad drwy Ddirprwyaeth Frenhinol neu bwyllgor. Wedi i Arglwydd Coleridge, Iarll Kimberley, ac amryw eraill, gymeryd rhan yn y ddadl, y rhai, yn ddieithriad, a gondemniant y gyfun- drefn bresenol o gosbedigaeth, gadawyd y cwestiwn heb ddyfod i un penderfyniad. Y Mesur Tir (Iweiddon). Nos Lun, cynygiwyd ail ddarlleniad Mesur Pryniad Tir (Iwerddon) gan Mr. A. J. Balfour, heb araith. Cododd Mr. Parnell, yr hwn a dderbyniwyd gyda banllefau o gymeradwyaeth gan yr Wrth- blaid, i gynyg gwrthodiad y Mesur, a siaradodd am awr a deng munyd. Sylwodd fod dygiad y Mesur ymlaen yn gydnabyddiaeth o gyfiawnder yr hyn a hawlid gan y blaid Wyddelig naw mlynedd yn ol, pan ffurfiwyd y Land League, sef y dylai y tir-ddeiliadaeth feddianol gael ei seiydlu. Pa fodd bynag, dadleuai fod y Mesur yn un annigonol. ac na wnai ond un rhan o bedair fanteisio oddiwrtlio ei fod yn dihysbyddu credyd lleol heb ymgynghori a'r bobl Wyddelig; nad oedd yn cynwys un ddarpariaeth ar gyfer y rhanau o'r wlad ag oedd wedi ei gorboblogi ei fod yn anniogel i'r trethdalwyr Prydeinig, am fod y gwarantiadau yn dwyllodrus, annigonol, a diwerth. Ei gynygiad, can belled ag yr oedd yn ddealladwy, ydoedd-rhoddi ir tir-berchenog gynifer o flynyddau o bryniad ar yr amod ei fod i ostwng ardrethoedd ei denantiaid ag oedd wedi derbyn gostyngiad yn barod gan y Llys Tirol i safon foddhaol. Diweddglo ei araith ydoedd- Yr wyf yn dymuno cynyg fod y Mesur i gael ( ei ddarllen yr ail waith." Creodd y lapsus lingucr, difrifol hwn daranau o chwerthin yn y Ty, a phan ganfu y Brenin Anghoronog ei gamgymeriad, dywedodd mai yr hyn a feddyliai ydoedd—fod y Mesur i gael ei ddarllen ymhen y chwe' mis i'r diwrnod. Yr oedd yn amlwg nad oedd ei wrthwynebiad i'r Mesur ond ffu-ei fod yn ei wrthwynebu i foddio ei ganlynwyr anghymodlawn. Yr oedd ei araith drwyddi yn wan, cawdelog, a chymysg- lyd-drwg diobaith. Dywedodd Twruai Cyffredinol yr Iwerddo-i, yr hwn a'i canlynodd, nad oedd cynygiad Mr. Parnell i ddarilen y Mesur yr ail waith ond canlyniad rhesymol yr araith a draddodasai. Kgwyddor y Mesur ydoedd—nad oedd yn ym- Wlleyd ag unrhyw ystad yn ei chvfanrwydd, ond â deiliaid uuigol. Nid oedd Syr George Trevelyan, wrth gwrs, yn ystyried eynllun y Llywodraeth yn fanteisiol i'r Iwerddon, am ei fod yn cynwys pob math o denantiaid-drwga da. 0, ddyfnder doethineb! Parhawyd y drladl gan Mr. Ambrose, Iarll Cavan, Dr. Wallace, Mr. J. A. Bright, ac eraill Cafwyd araith forwynol odidog gan Mr. Albert Bright. Dadleuai fod llawer o'r ardreth- oedd Gwyddelig wedi eu gostwng lawn ddigcn eisoes. Yr oedd holl adranau y blaid Gladston- aidd yn cyduno i wrthwynebu y Mesur o Mid- lothian i Cork—(chwerthin)—ond oil yn am- l'ywio yn eu rhesymau dros ei wrthod. (Chwerthin mawr.) Dywedodd fod ei dad, yn ystod yr ychydig ddyddiau olaf 0'1 fywyd, wedi dweyd wrtho lawer gwaith ei fod yn ystyried Act Ashbourne yr unig beth ag oedd eriood Wedi gwneyd llawer o ddaioni i'r Iwerddon. Cafodd y sylw effaitli drydanol ar y Ty. Dywedodd Mr. W. H. Smith ei fod yn gobeithio y byddai i'r ddadl derfynu nos Ivu. Gwrthwynebwyd y cynygiad gan Mr. H. Fowler, a rhai o'r aelodau Gwyddelig. Wedi hyny gohiriwyd y ddadl hyd ddydd lau. Y Mesur Trwyddedol Newydd. Ddydd Mawrth, mewn atebiad i gwestiwn, dywedodd Mr. W. H. Smith y byddai i ddarbod- ion y Mesur Trwyddedol newydd y cyfeiriwyd ato gan Ganghellydd y Trysorlys ynei Gyllideb, yn ddiamheuol, gael eu hestyn i'r Iwerddon. Nis gallai ef roddi unrhyw sicrwydd pendant y dygid y Mesur i mown cyn ail ddarlleniad Mesur y Gyllideb, ond cymerai ofal y byddai i'w ddarpariaethau cyffredinol gael eu gwneyd yn hysbys. 401 Gostvngiad Toll y Te. Ymffurfiodd y Ty yn Bwyllgor ar gynygion y gyllideb, y cyntaf o ba rai ydoedd gostyngiad o 2c. y pwys yn y doll ar de. Dywedodd Mr. Picton ei bod yn ddrwg gan- ddo fod Canghellydd y Trysorlys yn cynyg gwastraffu ei weddill (surplus) drwy fan gyf- newidiadau, pryd y gallasai ddwyn oddiamgylch lesiant cyffrtdinol y dosbarthiadau gweithiol drwy roddi iddynt "fwrdd brecwast rhydd." Dywedodd Mr. Goschen mai eramcau ydoedd dosbarthu y gostynpiad yn y trethi yn ol am- Sylcbiadau y rhai oedd yn eu talu. (Cymerad- wyaeth.) Yr oedd yn sicr y profai y gostyngiad yn y dretli ar dai anedd, hefyd, yn fantais arbenig. Dynaunai Syr William Harcourt roddi pwys neillduol ar yr egwyd dor o raddoliad tretlii, yr hon oedd wedi. ei gosod i lawr gan Ganghellydd y Trysorlys, yn olamgylcliiadau y rhai oedd yn eu talu. Yr oedd yn sicr na fyddai i'r doll ar de aros yn y fan lie yr oedd. (Clywcli, clywch.) Buasai yn dda ganddo weled yr oil o'r doll ar aQedd-dai yn cael ei symud. > Dywedodd y Cadeiryd(I nad oedd yn rheolaidd i ddadleu holl gynygion y Gyllideb, i'r hyn yr atebodd Syr W. Harcourt nad oedd ofe ond dilyn Canghellydd y Trysorlys. (Chwerthin.) Ar ol peth siarad pellach, pasiwyd y pender- fyniad fod y gostyngiad yn nholl y te i ddyfod i weitsjrediad ar y cyntaf o Fai. Toll y Currants, Addawodd Canghellydd y Trysorlys wneyd ymchwiliad i'r dymunoldeb o ohirio y cyf- newidiad yn nholl y currants hyd fis Awst er cyfleusdra i'r fasnach. Dywedodd Syr W. Harcourt fod y bobl am enrrants rhad mor fuan ag oedd bosibl. a'i fod yn gobeithio y gwnai Canghellydd y Trysorlys feddwl am fantais y cyhoedd o flaen eiddo y fasnach. Wedi hyny pasiwyd y penderfyniad hwn a'r holl benderfyniadau eraill. Llafur a Chyfalaf. Yn yr eisteddiad hwyrol, mewn Ty llawn, Galwodd Mr. Bartley (Ceidwadwr) sylw at y cysylltiadau presenol cydrhwng cyfalaf a llafur, a cliynygiodd benodiad pwyllgor i wneyd ym- chwiliad i'r amrywiol gynlluniau drwy y rhai y gallai y llafurwr, mewn ychwanegiad at y gyflog a enillai, gyfranogi o'r elw deilliedig oddiwrth y gwaith a gyflawnai. DadJeuai y byddai rlianu yr elw yn fanteisiol i'r cyflogwyr a'r cyflogedig. Condemniodd Syr J. Colomb yn yr ymad- roddion llymaf ymddygiad y cynhyrfwyr proffeswrol oedd yn ymyraeth mewn ymryson- aurhwng cyfalaf a llafur yn unig er cyraedd poblogrwydd. Barnai Mr. Bradlaugh y cyrhaeddid amcan Mr. Bartley drwy roddi mwy o allu i'r adran lafur o'r Bwrdd Masnacli. Protestiodd Mr. Bradlaugh yn gryf yn erbyn ymddygiad personau neillduol y rhai, drwy eu hymyriad, oeddynt wedi bod yn achos i undebau y crefft- wyr wario symiau mawrion o ariau a ellid gysegru. at well dibenion. Yr oedd Mr. C. Graham yn gwingo yn ddy- chrynllyd o dan y ftlangell, ac yr oedd mor feiddgar fel yr heriai orchymyn y gadair. Gwnaeth lawer ymgais i siarad, ond ynghanol bloeddiadau angbymeradwyol y Ty gorfu iddo eistedd i lawr. Dywedodd Syr M. Hicks-Beach ei fod yn methu deall, os oedd yr enillion i gael eu rlianu, pa fodd y gellid goclielyd rlianu y colledion hefyd, fel mater o fusnes. Addawodd grynhoi yr noil hysbysrwydd ag oedd yn bosibl dyfod o hyd iddo, a'i gylioeddi fel adroddiad Parliament- aidd. Dywedodd Mr. Burt fod yn dda ganddo lywed atebiad haelfrydig y Llywodraeth i'r cynygiad, a tliynodd Mr. Bartley y cjmygiad yn ol. Cau ar y Sul yn yr Iwerddon. Y prif fater fu dan sylw Ty y Cylrredin. Idydd Mercher, oedd Mesur y Gwirodydd Meddwol (Iwerddon). Cynygiodd Mr. Lea ail-ddarlleniad y Mesur, )'T hwn a gynygiai wneyd Act 1878 yn barhaol, yn lie ei hadnewyddu o flwyddyn i flwyddyn Eel y gwneir yn bresenol. Yr oedd yn cynyg hefyd estyn ei gweithrediadau i bump o ddinas- aedd eithriadol o dan yr Act, a lleihau nifer yr 3riau i gadw y tafarnau yn agored ar ddyddiau Sadwrn. Cynygiodd Mr. P. Macdonald wrthodiad y Mesur. CefnoiTwyd y Mesur gan Dwrnai Cylfredinol yr Iwerddon, yr hwn. pa fodd bynag, a ddy- wedodd y gwnai yn mhwyllgor gynyg gwell- iantau i gyfyngu yr oriau ar y Sul yn y trefi a gauid allan yn bresenol o weithrcdiad yr Act yn hytrach na'u llwyr gau. Gwrthwynebwyd y Mesur gan amryw o'r aelodau Parnellaidd. Yr oedd Mr. Parnell yn absenol, ond darllenodd Mr. John O'Connor ran o araith a draddodasid gan Mr. Parnell yn erbyn cau y tafarnau ar y Sul. Edrychodd Mr. Gladstone i fewn. ond ni ddywedodd air ac yr oedd Syr William Harcourt -,).r fainc ftaenaf yr Wrfchblaid mor ddistaw a'r bedd. Ymranodd y Ty- Dros yr ail dclarlleniad 242 Yn erbyn 78 Mwyafrif dros 164 Y Merchant Shipping Act. Nos Ian, yn Nhy yr Arglwyddi, cynygiodd Arglwydd Herschell ail ddarlleniad y Mesur uchod, amcan yr hwn ydoedd—gwella Act a basiwyd yn 1876 er diogelu bywydau ar y mor. Ar ol cryn ymdrafodaeth, darllenwyd y Mesur yr ail waith, a chyflwymvyd ef i bwyllgor ar fesurau cylfredinol. Y Mesur Tir Gwyddelig. Yr oedd disgwyliad mawr am araith Mr. Gladstone ar y Mesur Tir i'r Iwerddon, am fod cryn amheuaetli mewn perthynas i'r cwrs a gymerai. Cododd Mr. Gladstone yn nghanol llongyf- archiadau ei ganlynwyr, a datganodd ei ofid ei fod yn cael ei orfodi gall argylioeddiad gorlethol i wrtlrwynebu y Mesur. Cyfeiriodd yn fyr at gynygiad Mr. Parnell, dau brif bwynt yr hwn oeddynt—dymuniad eang i wneyd eyfiawncler a'r Iwerddon fel cyfangorif, a'i ddymuniad i beidio alltudio y tirfeddianwyr or wlad. Wedi hyny cyfeiriodd at y darpariaethau yn y Mesur ag oedd yn anghymeradwyo, ond y rhai a ellid wella mewn pwyllgor. Prif ddiffyg y Mesur ydoedd—ei fod yn cynyg llesoli, nid y genedl yn gyffredinol, ond dau ddosbarth—y tir-arglwyddi a'r tenantiad. Yn y Ile nesaf, aeth ymlaen i enwi ei brif wrtliwynebiadau i'r Mesur:—(1), Ei fod yn cynyg gwneyd yr Iwerddon yn ddy- ledwr yn erbyn ewyllys y bobl, fel yr amlygid hi gan gorff mawr eu cynrychiolwyr (2), Y dull yr oedd yn cynyg defnyddio arian y wlad hon (3), Ei fod yn sefydlu cyfundrefn o dir- berchenogaetli wladol; ac (4), 0 dan y trefn- iadau gwirfoddol a ddarperid gan y Mesur, elai y fivyaf, os nid yr oil, o'r benditliion a fwriedid i'r tenantiaid i logellau y tirfeddian- wyr. Prif wrthwynebiad Mr. Gladstone i'r Mesur ydoedd—y gwnai amaethwyr yr Iwerddon wrthod talu eu dyledion ar ol prynu eu tyddyn- od. Yn ol Mr. Gladstone, nid yw y bobl Wyddelig ond cenedl o gnafiaid diegvfydclor ac a no nest. Mae hyn yn athrod ar y genedl Wyddelig, ond ar yr un pryd y mae Mr. Glad- stone yn awyddus i ymddiried iddynt fywydau a meddianau y dosbarth toyrngarol a gonest o'r boblogaeth. Atebwyd of i bwrpas gan Mr. Goschen. Dy- wedodd fod y Llywodraeth o'r farn y gwnai y Mesur setlo i raddau helaeth y cwestiwn tirawl yti yr Iwerddon. Nid oeddynt yn gwthio y Mesur ar y bobl Wyddelig, ond yn ei gynyg iddynt, ac yr oeddynt yn gobeithio y gwneid defnydd helaeth o hono. Yr oedd yn edrych ar y gwarantia.dau a gynygid yn hollol ddiogel, ac yr oedd o'r farn fod y fath ragocheliadau wedi eu gwneyd fel nad oedd dim perygl i un rhan o'r baich syrthio ar y trcthdalwr Prydeinig. Sylw- odd fod Mr. Parnell yn cynyg yn union yr un securities. Well clone, Goschon Parhawy;! y ddadl hyd un o'r gloch foreu dydd Gwenor, a gohiriwyd hi drachefn. Mesur Mabwysiad Plant. Yn y Ty Uchaf, ddydd Gwener, cynygiodd larll Meath ail ddarlleniad Mesur, amcan yr hwn ydoedd atal rhieni neu warclieidwaid fydd- ent wedi rhoddi eu cydsyniad i fabwysiadu eu plant gymeryd meddiant o honynt nes y gallent foddloni yr ynadon lleol y buasai hyny yn fan- teisiol i'r plant. Gwrthwynebwyd y Mesur yn gryf gau yr Arglwydd Ganghellydd fel mater o egwyddor. Siaradwyd yn erbyn y Mesur hefyd gan Iarll Kimberley, Arglwydd Cranbrook, ac amryw eraill, a thrwy ganiatad tynwyd ef yn ol. Good riddance. Pwyllgor Cyflenwad. Cafwyd dadl faith, yn Nhy y Cyffredin, mewn pwyllgor cyflenwadol, ar y gaethfasnach. ac ni phasiwyd ond un bleidlais yu eisteddiad y boreu, ac yn yr eisteddiad hwyrol cymerodd llawer o wtig siarad le. Yr oedd y bleidlais i'r gwasanaethau trefedig- aethol dan ystyriaeth pan gododd y Ty am chwarter wedi un. Nid oedd nemawr ddyddor- deb yn ngweithrediadau y ddau eisteddiad.

AMKYWION.

Nodion o Ddeoniaeth Llanrwst

LLANFAIR D.C.

RHUTHYN.

HENDY GWY-N L AR DAF.