Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
AT Y OYHOEDD. --'-
AT Y OYHOEDD. DDARLI/ENWYR CRAFFUS,-r-Wele hanes rhyfeddol a theilwng, am Y PROFFESWR JOSEPH THOMAS f Josephus Eryri), 33, CLARENCE STREET, MOUNT PLEASANT, LIVERPOOL. ( Professor of the Remedial Power of the Electric Fluid Medical Magnetism, and Ga7vanism, and Practical Phrenology). yn raeddyginiaethu. trwy y Fywydol Elfen. wedi i bawb a nhob peth fethu, yr hwn sydd er's blynyddoedd meithion gerbron y cyhoedd fel meddyar. a'r gwelliadau hynod a wnaeth wedi peri ayndodi Gymry, Saeson, a lluaws o'r Cyfandir, Sylwer'ar y llythyr hwn sydd fel y canlyn :— "Aethum at Proffeswr Thomas tan effeithiau an- ^yd trwrn ar fv ngluri. Yr oedd yn anesmwvth a phoenuB angerddol am amser maith, nes yr oedd fy nghyfensoddiad drwvddo yn gwanhau. Gwnaeth- um brawf ar bob moddion i'w dadgloi, ac i liniaru y boen, cyn dyfod ato, megvs vmdrochi yn y mor, mewn ffynhonan. acl mewn baddau, &c., ond y cwbl yn iiollol ofer. Nid oedd y nos yn dymhor gorphwys i mi, na'r dydd yn adeg o lawenydd, gan mor fawr fy mhoen. Cefais ef yn hollol ddifost—dywedai fel dyn gonest y cymmerai dinyn o amser. fel ag yr oedd wedi cyhoeddi ugeiniau o weithiau fod pob hen anhwylder vn gofyn llawer o wythnosau o brawf, pan na bydd y rhai na fu cynddrwg a chvhyd o amser yn gofyn cymmaint. Sicrhai y gwnai ei oreu i mi. a gwelais m fod yn ddyn i'w air. Gwell- haodd fi yn hollol. Effeithiodd nid yn unig ar fy nglun, ond ar fy holl gyfansoddiad. Symmudodd hoenau echryslon iawn. trwy foddion tyner iawn. Sylwer mai nid a'r neirianau y mae yn gweithredu bob amser, fel y eyff redin, ond defnyddia natur ei hun, sef yr elfen wefrol fywydol, er fod ganddo y peirianau goreu a ddyfeisiwyd erioed, pa rai a all gymhwys at lygad plentyn. yn gystal ag at y cyf- ansoddiad mwvaf cawrfilaidd. Yn sicr fe ddylai ei gvmywysderau gael eu cyd- nabod yn gyhoeddus. Gwir nad yw yn fyr o lythyrau canmoHaeth "—buom yn darllen canoedd o honynt, oddiwrth bersonau pwysfawr a geirwir. wedi derbyn'gwelliadau hynod. rhai o honynt yn ail i wyrthiaa. ac y mae croesaw i unrhyw un gael eu gweled (gan eu bod yn llawer rhy luosog i'w cy- hoeddi), a gwneud yr ymchwiliad manylaf yn eu eyIch. Y mae Proffeswr Thomas "yn deall natur, ac yn medru gwneud y defnvdd goreu o honi. Y mae yn nodedig o fedrus, fel y mae canoedd yn dystion. Y mae yn myned ar gynydd yn barhaus. Trwy brofiad a myfyrdod, ymae wedi cael amrai bethau newyddion yrc allan yn ddiweddar, sydd yn sicr o fod yn wasan- aethgar iawn. Dymunaf y llwyddiant mwyaf iddo i symmud ymaith wahanol boenau y ddynoliaetb. Sylwer, a dealler, v geill pawb weled fv enw i a ewyllysiant ond ymofyn gvda Proffeswr Thomas, a chael llwvr foddlondeb o barth gweled digonedd o dystiolaethau, ac enw pob nn yn gvflawn ac eglur, a'r cyfeiriad yn berffaith amlwg a dididwyll. Mae nifer mawr o hvsbysiadau y naill amser ar ol y Hall yn y cyhoeddiadau er's llawer o flynyddoedd yn cyn- wys rbestr helaeth iawn o enwau rhai yn sicrhau gyda thystiolaethau, eu bod wedi cael eu meddygin- iaethu trwy Ddymgyrchiad y corph dynol y wir Fywydol Elfen ganddo ef, er na lwyddodd neb arall i wneud dim lies iddvnt. Geill yr ymofvnvdd hefyd weled enwau nifer luosog iawn o bob dosparth o bobl, uchel ac isel radd, y rhai a iachaodd efe y cyfryw o herwydd llawer o ystyriaethau, a phethau rhesvmol gwir deilwng, ac esgusodol, a chwennych- ant fel fy hun. yn hytrach i'r cleifion ac eraill weled eu henwau gyda Proffeswr Thomas ei hun. nag yn gyhoeddus. Dymunwyf iddo bob llwyddiant i iachau y cleifion. GOHEBYDD." (Gwelsom enw y Gohebydd;" ac enwau llawer- oedd eraill. Gallwn yn hawdd ddeall fod personau yn teimlo anfoddlonrwydd i gyhoeddi eu henwau trwy y Wasg, eto nid yw y ffeithiau yn llai gwir.— Un o'r Golygwyr).
Advertising
0XTON & Co.'s SEWING MACHINES, for DRESSMAKERS St TAILORS, with stand, £ 5 5s. OXTON'S REPAIRING MACHINES, for REPAIRING OLD BOOTS, £ 10 10s. complete. W I LLC OX & GIBBS—NOISELESS FAMILY SEWING MACHINE from £ 8. It is the simplest; least liable to get out of order; best made; runs the stillest; runs the easiest; runs the fastest; requires the least mechanical skill to use it; has the best hem- mers and feller has no equal. OXTON & Co., 122, BOLD STREET, LIVERPOOL, Importers and Exporters of ALL KINDS OF SEWING MACHINES, NEEDLES, SPRINGS, THREADS, TO SUIT ALL MACHINES. MACHINES REPAIRED. AGENTS WANTED. LIVERPOOL. YSGOL I FECHGYN A GWYR IEUAINC CYMREIG. YXiS'ELIH ysgol yn neillduol ar gyfer y dosparth uchod, MR. J. HUGHES, 32, ANDERSON STREET, EVERTON. Yn ychwanegol at y canghenau arferol o ddysgeidiaeth, rhoddir arbenigrwydd. i astudiaeth o'r laitk Seisnig. Caniateir cyfeiriad am gymmeradwyaeth. at y boneddigion anlynol :-Parchn W. REES, D.D.; J. THOMAS N. STEPH- IIRS; W. HOBEBTS; H. E. THOMAS. Anfonir hysbyslen yn cynwys y telerau a phob manylion, ond gyru am un yn ol y cyfarwyddyd uchod. [46 S C H 0 0 L. R U A B 0 N N Rs. EVANS, (Widow of the Rev. T. E. Evans, late of Manchester.) I- NTENDS receiving a limited number of Young Ladies to Board and Educate, at Offa Cottage, Ruabon, where every .attention will be paid to domestic comfort and Moral and Jieij»'ious Instructions. Tht Usual Modern Accomplishments in French, Music, and Drawing, taught. Ten us will be forwarded on Application. A YU EISTEDDFOD GENEDLAETHOL I'W CHTITITAI, YN RHUTHYN, AWST 4YDD, 5ED, A'R 6FED, 1868. GELLIE cael Ehe^tr o'r Testynau a'r Gwobrwyon ond anfon Stamp ceim'og i'r Tsgrifenydd Cyffredinol, EHYDDEECH O EON Ehtl,
AT EIN GOHEBWY^
AT EIN GOHEBWY^ Daeth i law Pall Mall, W. Gwyr"" X>„T,„ Jno. Richards Waunlwyd/T. A. «viS, E. Hughes, Yr Hen Deil- Tl^adoc^63' Ca6remg* «tyn, Gwflym Y]-Wedi gorfod gohirio cyhoeddi y pethau uchod, er mor dda ydyw rhai o 'nonynt, hyd yr wythnos nesaf, er gwneud lie i Gyfarfodydd. Mai. Mae llythyr yr Hen Deiliwr yn werth aros wythnoa 1'w ddisgwyl-daw allan yn y nesaf.
At Olygivyr y ' Tyst Cymreig.'
At Olygivyr y Tyst Cymreig.' Anwyl Erodyr,—Derbyniais lythyr ychydig o ddyddiau yn ol oddi wrth y Parch. W. D. Williams, Deerfleld, N. Y., yn dyweyd ei fod yn bwriadu ymweled a Chymru yr haf dyfodol. Y mae yn weinidog ffyddlon a chymmeradwy, ac adnabyddus ond odid i lawer o weinidogion hynaf ein henwad yn y De a'r Gogledd. Gwn y caiff dderbyniad cynhes a charedig gan ein heglwysi pan ddel; ac y mae yn ei deilyngn. Fe gollodd y brawd ddau o feibion gobeithiol yn ddiweddar, ac y mae ei iechyd ei hun wedi bod yn dra llesg hefyd. Gobeithiaf y bydd y daith drosforol, ac awel mynydd-dir Gwyllt Walia, yn adfyw- iad mawr i'w feddwl, ac yn gryfhad i'w gyfansoddiad. G. GRIFFITHS. Cincinnati, 0., Ebrill 20fed. Y mae amrai o'm cyfeillion yn y ddinas hon hefyd yn ar- faethu dyfod tuag yna o hyn i ben y pythefnos ac yn eu mysg fr Mr John S. Griffith, a'i briod. Y mae ef yn fab i'r diweddar Barch. S. Griffith, Horeb, a hithau yn nith i'r Parch. B. W., Chidlaw. Cyfeiner y Gohebiaethau oil—To the EDITORS OF THE TYST CTMEBIG, 19, Chapel Walks, South Castle Street, Liverpool.
ETHOLIAD BRISTOL.
ETHOLIAD BRISTOL. Mae gorchfygiad Mr Morley yn Bristol yn ddigwyddiad blin iawn, ac yn un nad oeddvm mewn un modd yn barod i'w dderbyn. Mae cryn lawer o bethau vn cydgyfarfod i wneud yr amgylchiad yn un gofidus. Mae ei bod yn fudd- ugoKaeth Tori ar Ryddfrydwr yn ei gwneud yn ddiflas. Enillwyd y fuddugoliaeth hefyd ar adeg ag yr oedd o bwys mawr i'r blaid Rydd- frydig gadarnhau ei nerth. Oariodd y Toriaid y fuddugoliaeth yn hen dref ryddfrydig ac ym- neillduol Bristol, svdd wedi bod bob amser yr ochr iawn; llwyddasant i ddychwelvd dyn anghyoedd ac anadnabyddus fel Mr Miles yn erbyn boneddwr profedig fel Mr Morley. Nid oes genym ddim anmharchus i'w ddywedyd am Mr Miles, ac ni ddvmunem fod, ond v mae ei ddal ar gyfer Mr Morley yn ynfydrwydd. A gadael egwyddorion gwladyddol y ddau allan o'r cwestiwn, nid oes un gydmariaeth rhyng- ddynt fel dinaswyr. Mae enw Mr Morley yn adnabyddus trwy y wlad oil, a gellir edrych arno yn eiddo y genedl. Mae wedi cyhoeddi ei oIygiadau yn glir a diamwys ar holl gwestiynau politicaidd y dydd; ond pe nad agorasai ei enau erioed ar wladwriaeth, buasai ei enw yn nodedig yn mysg y dinasyddion gwerthfawrocaf a gyn- nyrchodd Prydain erioed. Nid oes yr un dyn- garwr mwy haelionus a llai ymffrostgar. Mae ar y blaen i'n marsiandwyr tywysogaidd mewn haelfrydedd, a sel, a gweithgarwch gyda phob achos sydd a fyno a dyrchafiad y wlad, yn anni- bynol ar blaid na dosparth. Ond gwelodd ethol- wyr Bristol yn dda ei wrthod drwy fwvafrif o yn agos i 200. v Ond pa fodd y bu hyn 1 Onid oedd yr hyder mwyaf am ei ddychweliad diogel wedi ei ddang- os P Eithaf gwir; a dichon iddynt fod yn rhy hyderus. Mae perygl i bleidiau, yn gystal a phersonau, gamgymmeryd eu nerth, ac ofnwn fod methiant y rhyddfrydwr yn ami yn codi oddiar hynv. Camgymmeriad mawr i'w tybied od dim a fynai y cwestiwn presenol sydd yn cyffroi y wlad a'r etholiad. Ni ddaeth yr Eglwys Wyddelig i mewn o gwbl. Collodd Mr Morley drwy i'r tafarnwyr uno fel un gwr yn ei erbyn. Creodd y ffaith ei fod yn ddirwestwr, ac yn bleidiol i gau tafarnau ar y Sabbath, fraw trwy eu holl wersyll. Nid dyna y pwnc yn awr ger bron y wlad, ac nid oes deddfwriaeth union- gyrchol i fod gyda golwg arno; ond yr oedd tafarnwyr Bristol am gael cynrychiolydd yn y Senedd agymmerai ofal eu helpu hwy. Dyma un o ddiffygion y Bhyddfrydwyr—troant vn an- ffyddlon i ymgeisydd fyddo yn unffurf yn ei olygiadau a hwy ar bethau yn gyffredinol, os digwydd iddo anghytuno a hwy mewn un peth. Nid yw y Toriaid byth yn syrthio i'r camgym- meriad yna. Mae yn Bristol ganoedd o Doriaid sydd yn ddirwestwyr, ac yn selog dros gau y tafarnau ar y Sabbath, ond ni roddodd yr un o honynt ei bleidlais i Mr Morley; ond dyma dafarnwyr Bristol, a fynent gael eu galw yn Bhyddfrydwyr, yn troi yn erbyn Rhyddfrydwr trwyadl, yn unig am nad oedd o'r un farn a hwy ar un pwnc, a hwnw yn bwnc nad oedd yn un- iongyrchol ger bron y Senedd. Y mae fod Mr Morley wedi ei wrthod drwy gynddaredd y ta- farnwyr yn llawer mwy o anrhydedd iddo na phe buasai wedi ei ddychwelyd i amddiffyn eu masnach hwy. Ni buasem yn cymmeradwyo i Mr Morley na neb arall wneud rhyw lawer o dwrw yn nghylch y Sunday Closing Bill ar hyn o bryd, rhag rhanu teimladau, a gwanhau nerth y blaid Ryddfrydtg ar fater ag y mae y wlad yn disgwyl, a'r Senedd yn addfed i roddi ei dedfryd arno. Mae o bwys i gyfeillion rhyddid ddeall eu gilydd yn iawn, a pheidio ymranu ar gwestiynau ailraddol. Mae nifer mawr o Ryddfrydwyr Merthyr ac Aberdar yn frwdfrydig dros y Per- missive Bill. Nis gwyddom yn sicr pa beth yw barn Mr Henry Richard ar y pwnc ond gallem farnu oddiar ein hadnabyddiaeth o hono ei fod yn barod i wneud unrhyw beth i attal meddw- dod, a gwaredu y dosparth gweithiol o afael y drwg. Ond byddai yn ddrwg iawn genym weled y cwestiwn hwn yn cael ei wthio yn amlwg iawn ar hyn o bryrl, yn enwedig os byddai perygl i Mr Richard golli pleidgarwch neb wrth ddatgan ei hun yn ei ffafr. Nid dyna y mater sydd yn uniongyrchol ger bron, a phaham yr eir i ranu teimladau y Rhyddfrydwyr ar fater nad oes deddfwriaeth uniongyrchol i fod arno? Yr ylym yn condemnio Bhyddfrydwyr tafarnol Bristol am bleidleisio yn erbyn Mr Morley o blegid ei olygiadau ar yr un cwestiwn yna, pan yr oedd ef a hwythau yr un farn am gynifer o bethau. A chondemniem hefyd ddirwesbwyr selog Merthyr pe gwr-thodent bleidleisio gyda Mr Richard hyd yn oed pe nad elai llawn mor bell a hwy mewn gwahardd trwy gyfraith y fasnach feddwol. Yr ydym yn dyweyd hyn nid am fod arnom ofn Mr Richard yn y mater yma, ond y mae arnom ofn gweled cwestiynau yn cael eu gwasgu ar ymgeiswyr, ac y byddai iddynt ddatgan eu hunain yn gryf arnynt yn debyg o ranu y blaid Ryddfrydig, a pheri i Dori i fyned i mewn rhyngddynt. Mae Bristol wedi dysgu gwers ar y mater yma a ddylai gael sylw y blaid Ddiwygiadol yn mhob man. Mae y profion yn dyfod yn eglurach bob dydd fod moddion pell o fod yn anrhydeddus wedi eu defnyddio yn Bristol i sicrhau y fuddugoliaeth i'r Toriaid ac nid yw yn sicr na all eu llawen- ydd eto droi yn dristwch. Gobeithio nad yw y siomedigaeth wecli diflasu Mr Morley fel na chynygia eto. Byddai yn ddrwg iawn genym hyny. Y mae ei eisiau ef a Miall, a Richard, a Uu o'u cyffelyb yn y Senedd, ond nis gellir dychwelyd y fath Ym- neillduwyr trwyadl heb gynhyrfu i'w waelodion gynddaredd yr Eglwyswyr.
[No title]
Yn Nhy yr Arglwyddi nos lau, cyflwynwyd Bil Diddymiad Treth Eglwys Orfodol i bwyllgor neilldu- ol, trwy gynhygiad larll Malmesbury. Yn Nhy y Cyffredin yr un noson, aed yn mlaen gyda y ddadl ar yr EGLWYS WYDDELIG. Condemniai Syr M. Hicks y penderfyniadau. Pleidiai Syr C. O'Loghlen hwynt yn gryf. Nid oedd araeth neb yn creu dydd- ordeb mawr am y rhan gyntaf o'r ddadl, oddieithr un Mr Baxter, yr hon oedd yn un glir a meistrolgar iawn dros ddiddymiad yr eglwys. Teimlai amryw o'r aelodau awydd siarad, ond methent gael cyfle. Cyfododd Mr Eaton dair neu bedair gwaith, ond ni allai dynu sylw y cadeirydd. Gellir barnu am dymher y ty trwy i Arglwydd Claude Hamilton gael ei oddef i siarad am awr. Protestiai Arglwydd Elcho yn erbyn y penderfyniadau, eu hawdwr, a'r amser eu dygid hwynt ger bron. Siaradai yn nesaf am y gwahanol newyddiaduron, pan y gwaeddid yn uch- elwawdus, Y Dydd, (organ byrbarhad gwyr yr ogof), nes y gosodwyd ef mewn cyfyngder beth i ddyweyd 1:1 y nesaf, a'r unig beth a allasai ddyweyd na wnai ddilyn arweiniad Mr Gladstone. Bu tipyn o ysbaid cyn i neb godi, trwy fod Mr Gladstone yn disgwyl i Mr Disraeli siarad yn ol y drefn gyffredin. Modd bynag, dyna Gladstone ar ei draed yn nghanol cymmerad- wyaeth uchel yr Wrthblaid. Achwynai na fuasai ef yn ol trefn gyffredin yn cael cloi y ddadl. Gwnaeth nodiadau miniog ar y cyhuddiadau a ddygwyd yn ei erbyn gan Mr Disraeli ac eraill, ei fod mewn cyngrair a'r Pabyddion i ddinystrio Eglwys Loegr. Cyfeiriai yn y modd mwyaf brathiog at araeth Iarll Derby yn Nhy yr Arglwyddi, a phan y dywedodd ei fod yn gwrthod yn y modd mwyaf pendant gymeryd y word of command' o'r ty arall, cyfarchwyd ef gan y Rhyddfrydwyr gyda tharanau o gymmeradwyaeth. Gwnaeth apeliad at barch y ty i uniondeb a thegwch, a thaer hyderai na byddai iddynt ar ol dechreu ar y gwaith mor effeithiol, mewn un modd lacio eu gafael, fel y byddai i heddwch a theimlad da gael eu hadferu yn y Chwaer Ynys. Pan y cododd Mr Disraeli, gelwid am ranu y ty, ond trwy iddo addaw bod yn fyr cafodd fyned yn mlaen. Nid oedd yn gallu cael fawr o ddylanwad er dadwneyd rhesymau yr Wrth- blaid. Eisteddodd i lawr trwy ddyweyd fod cynhyg- ydd y penderfyniadau mewn effaith yn amcanu at un o'r chwyldroadau mwyaf pwysig wrth ddadgy- sylltu yr Eglwys a'r Llywodraeth. Tynwyd gwell- iant Syr F. Heygate yn ol, ac yna cymerodd yr ym- raniad le ar benderfyniad cyntaf Mr Gladstone ;— Dros y penderfyniad 330 Y n erbyn 265 Mwyafrif 65 Derbyniwyd cyhoeddiad y rhifedi gyda banllefau o gymeradwyaeth oddiwrth yr Wrthblaid. Yna cyfododd Mr Disraeli, a dywedai fod y bleid- lais y daeth y ty iddi yn awr wedi newid perthynas Llywodraeth ei Mawrhydi a'r Ty presenol, fel y dy- munai gael gohirio yr eisteddiad hyd ddydd Llun i ystyried yr hyn a wneid. Cydsyniodd Mr Gladstone, ond rhag i un trie gael ei chware gan y Weinydd- iaeth, rhoddodd rybudd fod y mater yma i gael y flaenoriaeth ar bob cwestiwn arall. Ymohiriodd y ty am dri o'r gloch y boreu. Nos Lun, yn Nhy y ey ffreclin, cyfododd Mr Dis- raeli, i egluro y cwrs oedd ef wedi gymeryd ar ol y bleidlais nos lau. Yn y lie cyntaf, mawr ganmolai y gwasanaeth oedd y Weinyddiaeth wedi wneyd, trwy basio Bil Diwygiadol, llywodraethu yr Iwerdd- on, ac yn neilldnol ei gwladlywiad tramor. Dywed- ai iddo fyned at ei Mawrhydi a chynyg eu swyddi i fyny, ac iddi hitbau wrthod derbyn hyny, gan ddat- gan ei boddlondeb i ddatod y Senedd mor gynted y caniatai gwaith cyhoeddus i hyny. Yna hysbys- odd i'w Mawrhydi awydd y Llywodraeth am i'r apel- iad yma gael ei wneyd at yr etholwyr newyddion, ac i hyny gael ei wneyd gyda chydsyniad y Senedd yn yr Hydref nesaf. Nis gallai ganiatau i Mr Glad- stone fyned yn mlaen gyda'r penderfyniadau y noson hon, ond cae y nos gyntaf wrth law y llywodraeth. Penodwyd ar nos lau. Pan y cododd Mr Gladstone, croesawid ef a chymmeradwyaeth hir a gwresog oddiwrth yr Wrthblaid. Am y ganmoliaeth oedd y Prifweinidog wedi roddi i'r Weinyddiaeth, nid oedd am wadu nad oedd amryw adranau o'r Weinyddiaeth yn cael eu cario yn mlaen yn dda, ond yr oedd ad- ranau eraill nas gallai eu canmol na thebyg i hyny, sef yr adranau yn nglyn a threuliau y wlad. Con- demniai yn fawr y gwastraff oedd yn myned yn mlaen yn nglyn a'r fyddin a'r llynges. Am y cyfeir- iad a wnaeth yr aelod anrhydeddus (Mr Disraeli) at ddadgysylltiad yr Eglwys Wyddelig, mai canlyniad hyny fyddai i'r holl sectau Protestanaidd gael en llyncu i fyny gan grombil ddifaol yr Eglwys Babydd- ol. Ni chlywodd ef erioed y fath ganmoliaeth eith- afol i'r Eglwys Babyddol. Yr oeddym ni wedi arfer meddwl fod yn natur y grefydd a broffeswn rywbeth yn sierwydd rhag hyny. Beiai yn fawr ar y cynllun a gymerodd y Llywodraeth. Gofynai yn hyf yn mha le y cai yr aelod anrhydeddus yn holl hanes y wlad hon, engraifft o Weinidog wedi cael ei orchfygu gyda mwyafrif o 60 a 65 yn cynhyg datod y Senedd. Yr oedd yr holl gynghorion a roddodd i' w Mawrhydi yn tueddu yn hollol at ei gadw ef mewn swydd. Beth bynag a wneid, yr oedd y Rhyddfrydwyr yn benderfynol i fyned yn mlaen gyda y ddau bender- fyniad arall, a chyda y gwaith oedd yn canlyn hyny.. (Cymmeradwyaeth). Gwnaeth Mr Low araeth gon- ] demniol iawn ar ymddygiad y Llywodraeth. Ed- rychai ar yr holl drafodaeth fel cellweiriad a'r ty. Gofynid i'r ty oddef i'r Weinyddiaeth gario yn mlaen fesurau pwysig yn nglyn a'r Iwerddon ac Ysgotland, ac edrych ar ol achosion cyhoeddus y wlad am fis- oedd eto-ie, Gweinyddiaeth oedd wedi ei chondemn- J io gan fwyafrif o 65 o bleidleisiau. (TJchel gymer- i adwyaeth). Dywedai Mr Bright fod rhai o'r aelodau 3 wedi derbyn datganiad y Prifweinidog .gyda syndod, a rhai gyda gwrthuni. Barnai y byddai i'r wlad S hefyd ryfeddu at hyn. Fflangellai Disraeli yn ddi- 1 arbed am ei ymlyniad didor wrth ei swydd. Yna atebodd Mr Disraeli. Dywedai fod eisiau dod a bil bychan yn mlaen er cyfnewid dyddiad y cofrestriad. J. 3 cyn y gellir cymeryd i mewn, yr etholwyr newyddion yn yr etholiad nesaf. Yna ymffurfiwyd yn Bwyllgor Darbodaeth. Cynhygiwyd codi treth yr incwm i 6cj, a benthyg l,000,000p. Wedi tipyn o wrthwynebiad,. pasiwyd hyn. Bu"dadl arall yn Nhy y Cyffredin nos Fawrth, ar sefyllfa y Weinyddiaeth. Cyfeiriodd Mr Gladstone at y gwahaniaeth rhwng yr eglurhad a roddodd Mr Disraeli a'r hyn a ddywedodd aelod arall o'r cyngor, sef Due Richmond, yn Nhy yr Arglwyddi. Yr hyn a ddywedai y Prifweinidog ydoedd, iddo anog ym- ddatodiad, ond ar yr un pryd iddo gynhyg rhoi ei swydd i fyny; a'r hyn a ddywedai Due Richmond oedd i ymddiswyddiad y Weinyddiaeth gael ei roi i mewn heb un cyfeiriad at ymddattodiad, ac mai ar yr ail ymweliad a'i Mawrhydi y cafodd y Prifwein- idog ganiatad i wneyd fel y mynai, naill a'i apelio,. at yr etholwyr presenol, neu at y rhai newyddion. Os oedd eglurhad Due Richmond yn gywir, daliai Mr Gladstone fod y Llywodraeth wedi ymddwyn yn groes i'r cyfansoddiad. Ceisiodd Mr Disraeli esbonio- pethau, ond gyru pethau yn dywyllach a wnaeth. Holwyd ef yn mhellach gan Mr Bright, Mr Bonverie, Mr Lowe, ae amryw eraill, ond nid oedd dim i gael allan o hono.
CYFARFODYDD MAI. CYMDEITHAS…
CYFARFODYDD MAI. CYMDEITHAS RHYDDHAD CREFYDD. CYNNADLEDD DAIRBLYNYDDOL. Yr oedd disgwyliad mawr am y cyfarfodydd eleni. Wedi chwarter canrif o lafur caled dan anfanteision a thrwy lawer o anhawsderau. Yr oedd y gynnadledd dairblynyddol y waith hon yn cyfarfod i gyd-lawenhau yn llwyddiant egwyddor fawr eydraddoliaeth grefyddol, sicrhau yr hon yw amcan y gymdeithas. Yr oedd y cynnulliad eleni y lluosocaf a gafwyd erioed. Golygfa ardderchog oedd yr un yn ystafell eaug y Cannon Rail, boreu ddydd Mawrth, Mai 4ydd. Yr oedd rhifedi y gwyr oedd yn nghyd yn fwy na phum cant; a'r rhai hyny o bob cwr yn y deyrnas, ac nid oedd Cymru heb rai o'i meibion i'w chynnrychioli-yn wir y maent yn britho y gynnulleidfa. Ar yr aswy i'r Cadeirydd heb fod "yn mhell iawn oddiwrth y platform wrth gwrs, y mae y Gohebydd, a Davies Ca erdydd, a Thomas Ler- pwl, a T. Gee (ieuaf), yn eistedd ochr yn ochr, wrth eu cefn y mae Trogwy, a T. Williams Merthyr, J. Mat- thews Aberystwyth, a Milton Davies Llanfyllin, ac i gyd yn gwrando fel rhai yn cymmeryd deep interest yn y ewbl sydd yn myned yn mlaen. 0 flaen llygaid y Cadeirydd, ac yn union ar y gadair o flaen Spurgeon y mae yr hen frawd Mr Griffiths o Abertawy yn edrych mor ddifrifol ag y gwelwyd ef erioed, heb fod yn mhell' oddiwrtho y mae Phillips Maesteg mor llygadlon a'r dydd siriolaf yn mis Mai. Ar y dde i'r gadair mi welaf Dr Rees o Abertawy, neu beth bynag mi a'i gwelais funyd neu ddau yn ol. Mae Samuel Abertawy, B. Hughes Newmarket, Davies Taihirion, Rees Caer, a llawer eraill yma, ond na all fy llygad yn awr ddisgyn ar y fan lie y maent. Wedi myned drwy ryw dipyn o drefniadau arweiniol yn fyr a threfnns, y mae y Parch. Mr Mursell o Leicester yn cael ei alw yn unfrydol i'r gadair am yr eisteddiad y boreu. Hen arwr y gym- deithas ydyw Mr Mursell. Gweinidog parchus gyda'r Bedyddwyr ydyw, ac un o'r rhai fu yn brif gefnogwyr i Mr Miall i gvchwyn y Noncon. a,c i sefydlu Cym"- deithas y Dadgyssylltiad fel y gelwid hi y pryd hwnw.. Mae bellach yn hen wr a'i wallt crych cyn wyned a'r gwlan. Rhoddodd araeth fer, fywiog, galonog. Pwy oedd yn gymhwysach i longyfarch y gymdeithas ar ei llwyddiant na'r hero fu yn gweithio yn ddifefl gyda hi o'r deehreuad. Y mae yn talu y compliment uchaf i' Mr Miall; a phrin y cafodd y geiriau ddisgyn dros ei wefusau nad oedd yn dwrf cymmeradwyaeth trwy yr hollle. Darllenwyd yr adroddiad gan yr ysgrifenydd Mr Carvell Williams. Adroddiad heb ddim o stiffness adroddiadau yn gyffredin. Yr oedd yr adolygiadau a wnai o weithrediadau y gymdeithas am y tair blynedcf diweddaf, a'r addfedrwydd cyflym sydd wedi bod ar rai o brif gwestiynau y dydd yn peri i'r gynhadledd deimlo fod y tair blynedd wedi eu taflu yn mlaen fwy na hanner canrif Mae llwyddiant y mesurau i agor y Prifysgolien i'r ymneillduwyr, dileu y Dreth Eglwys, ac yn neillduol dedfryd y Senedd ar yr Eglwys yn yr- Iwerddon, wedi bod yn fwy o ennill i egwyddorion Cymdeithas Rhyddhad Crefydd nag y meiddiai neb o'i chyfeillion mwyaf hyderus ei ddisgwyl o leiaf heb flyn. yddoedd lawer yn ychwaneg o lafur caled. Un o'r pethau hynotaf i mi yn yr adroddiad, a thrwy yr eis- teddiad oedd y ring o cheers oedd yn canlyn crybwyll enw Mr Gladstone. Pan y mae llawer o Ymneillduwyr- glasdwraidd wedi ofni dangos eu hochr trwy y blyn- yddoedd, dyma amddiffynwr galluocaf crefydd sefydl- edig ugain mlynedd yn ol, wedi dyfod yn brif offeryn. yn llaw Rhagluniaeth i ddwyn oddiamgylch ddadgyss- ylltiad yn weithredol. Darllenwyd y eyfrif arianol gan y Trysorydd, yr hwn, a ddangssai fod y gymdeithas mewn cyflwr iachusol. Siaradodd Mr Robinson, o Bristol, yn hyawdl fod yr Adrodddiad i gael ei dderbyn. Eiliwyd ef gan y Parch, J. Howard Hinton. Derbyniwyd yr hen frawd gyda, Hwra fawr yr oedd yn fwy nag a allasai ei deimladau ddal i weled yr olygfa oedd o'i flaen, ac wrth feddwl na chai weled eu gwynebau mwy canys pa modd meddai y gallai ddisgwyl gan ei fod yn ei 78 mlwydd oed. Wylai pawb wrth weled yr hen Hinton yn wylo. Cef. nogwyd y cynhygiad gan Mr Bordes, A.S. dros Leeds, Siaradodd Syr John Bowring, un o hen gefnogwyr y gymdeithas, ychydig eiriau yn danllyd dros ben. Dy. wedodd Mr Corderoy, brawd o Wesl.eyan, ychydig eiriau cryfion i ddatgan ei ymlyniad wrth egwyddorion y gymdeithas, a sicrhai fod miloedd o'i frodyr yn hollol o'r un olygiadau ag ef ar y mater. Dywedodd un Mr Lowe, o Ridley, ychydig eiriau a gododd dipyn o ddadl gyda golwg ar ddosbarthiad eiddo yr Eglwys Wyddelig yn ol awgrymiad. Atebodd Mr Miall yn glir a dealladwy. Dangosodd nad oedd Mr Gladstone yn darbodi gwaddoliad mewu un modd i'r Eglwys Wyddelig, ond i'r rhai sydd yn dal y bywiol- aethau a chyda'u marwolaeth hwy bydd yr eiddo yn dychwelyd yn eiddo y Senedd i'w ddefnyddio fel y barno oreu. Rhoddodd yr atebiad foddlonrwydd i bawb, Cynhygiodd Mr Duncan Maclaren, A.S., benderfyn- iad gyda golwg ar yr Eglwys yn yr Iwerddon. Siarad- wr pwyllog a synwyrol, fel yr Ysgotiaid yn gyffredin. Eiliwyd y cynhygiad gan Mr Spurgeon mewn araeth hyf, gryf, a doniol iawn. Ysgydwai yr holl gynnulleid- fa, a thra yr oedd pawb yn siglo yr oedd ef ei hun mor ddigynwrf a diysgog a'r graig. Mae wedi ei wneud i siarad, a gwna hyny heb boen iddo ei hun nac i neb arall. Syr John Gray, A.S., a gefnogodd y cynhygiad, Dywedai er ei fod yn aelod o'r Eglwys Sefydledig yn yr Iwerddon eto teimlai ei fod yn cael ei ddiraddio o blegyd sefyllfa yr Eglwys hono fel Eglwys y lleiafrif. Mr B. Whitworth, A.S., a ddywedodd ychydig eiriau byr a phwrpasol. Syr Frank Crossley, A.S., a alwyd i ddywedyd gair. Dygodd dystiolaeth ei fod yn ystod yr 16 mlynedd y mae wedi bod yn y Senedd wedi pleidleisio dros bob mesur gymmeradwywyd i'r Senedd, jan y srymdeithas hon. „ Mr H. Lee, o Manchester, a gynhygiodd bendertyn- iad o lawenydd am Iwyddiant y mesur er chaaymiad y Dreth Eglwys aci alw ar y cyfarfpd i barhau yr Srmdrech nes y byddo y dreth wedi ei llwyr ddileu. Dr Brock a eiliodd y cynhygiad. Rhol o ddyn braf, ic y mae edrych ar ei wyneb yn gwneud lies i ddyn. iraeth yn dan i gyd. G" ainidogion y Bedyddwyr oedd yn fwyaf blaeullaw rn y cyfarfod a laytnen Y, Annibynwyr. Pa fodd y nae hyn yn bod nid oes genyf amser yn awr i aros i nnofyn. t Wedi cynhvg penderfyniad yn cymmeradwyo cyfan-. oddiad y gymdeithas gan ryw frawd o Bradford yr lwn a eiliwyd gan Mr J. Matthews, Aberystwyth, ac vedi i Mr Mason Jones ddweyd gair, cariwyd y pen- lerfyniad. Mae yr ail eisteddiad heno am 6, T. Barnes, Ysw., LS., i fod yn gadeirydd. Mae y cyfarfodydd hyd yma rn fywiog a lluosog iawn.