Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
20 articles on this Page
UNDEB Y BEDYDDWYII.
UNDEB Y BEDYDDWYII. Dechreuodd yF Undeb uchod eu eyfarfod elehi ar ddydd Llun, Ebrill 27ain, yn nghapel John Steet, Bedford Row, (capel yr Anrh. a'r Parch. B. W. Noel;. Yr oedd nifer lluosog o weinidogion a dirprwywyr yn bresenol. Cynwysai y programme Anerchiad y Cadeirydd, Adroddiad Blynyddol, a darlleniad papur ar Acldysg Wladol. Da genym ddeall oddiwrth yr adroddiad fod yr enwad yn myned rhagddo. Y flwyddyn a basiodd ychwanegwyd 7,757 at eu hael- odau cyfanswm yr eglwysi yn Mhrydain Fawr a'r Iwerddon ydyw 2,411, o gapelau 2,642, o aelodau 221,524, ac ordeiniwyd 88 o weinidogion. Maent hefyd yn gweithio a'i holl egni gydag adeiladu capeli, codwyd 25 o gapeli newyddion, gyda 33,623p o draul, helaethwyd neu gwellhawyd mewn rhyw fodd 81 eraill, am y swm o ll,230p yn gwneyd y cyfanswm yy 44,853p. Yr oedd araeth y cadeirydd yn gynwys- edig o olygialau y Bedyddwyr ar fedydd, a nodiad- au ar brif bwnc y dydd, sef dadgysylltiad. A gan- lyn ydoedd prif benau y Parch S. Green, B.A., ar Addysg wladol :—Y dylai Addysg Ddyddiol y genedl ieuainc gael nawdd y Llywodraeth, bod eu Haddysg Grefyddol i fod arwahan yn hollol a'r Llywodraeth, a'r pwys neillduol sydd ar eglwys Crist i addysgu y rhai ieuainc yn addysg ac athrawiaeth yr Ar- glwydd.'
EGLWYSI RHYDD Y METHODISTIAID…
EGLWYSI RHYDD Y METHODISTIAID UNEDIG. Cynhaliodd yr enwad yma eu Cyfarfod Cenhadol blynyddol yn Exeter Hall, pryd y cafwyd cynnull- iadau da. Llywyddwyd gan A. Sharman, Ysw., Sheffield. Darllenodd y Parch S. Barton, yr Ad- roddiad. Cyfeiriodd at waith y gymdeithas yn Awstralia, Jamacia, &c., cfec. Cyfanswm y derbyn- iadau am y flwyddyn a aeth heibio, ydoedd 10,052p 8s 4c, y treuliadau oeddynt 9,642p 14s 8c. Yr ar- eithwyr oeddynt y Parchn R. Chew, J. G. Rogers, B.A., J. S. Withington, J. Gutteridge, a Mri T. Cuthbertsen, a H. T. Mawson.
CYMDEITHAS GEISTIONOGOL Y…
CYMDEITHAS GEISTIONOGOL Y DYNION IEUAINC. Cynhaliodd y gytr deithas uchod ei chyfarfod blyn- yddol elani nos Lun, Ebrill 20fed, yn Exeter Hall. Yr oedd y neuadd yn orlawn. Yr oedd yn bresenol lu mawr o weinidogion o bob enwad. Cadeirydd larll Shaftesbury. Darllenodd Mr Shipton yr Ad- roddiad. Nifer y cymdeithasau trwy'r holl fyd yw 736, a 58,430 o aelodau, a 191 o gymdeithasau oddi- wrth ba rai ni dderbyniwyd ystadegau. Yn nechreu y flwyddyn yr oeddynt mewn dyled i'r Trysorydd o 782p, y treuliau angenrheidiol oedd 3,123p, yn gwneyd y cyfanswm yn 3,905p. Derbyniwyd trwy roddion 751p, tansgrifiadau hlynyddol 84lp, eto at y llyfrgell &c. 572p, trwy arwerthiadau 1,090p, yn gadael 641p yn ddyledus i'r trysorydd, ac yn gwneyd cyfanswm y treuliau yn 3,905p. Gan fod sefyllfa y drysorfa wedi gwella cymaint er y llynedd, teimlai y Pwyllgor yn hyderus am gefnogaeth y rhai a'i cyn- northwyasant y blynyddoedd a basiodd. Yna cafwyd areithiau grymus gan y Parchn Dr Muller, R. D. Wilson, a Spurgeon, ac wedi diolch i'r Cadeirydd am ei garedigrwydd yn llywyddu, terfynodd y cyfarfod. (Parhad yn nhu dalen 4)
TREWEN, CEREDIGION.
TREWEN, CEREDIGION. Traddodwyd darlith yn y lie uchod, nos Wener, Ebrill 17eg, gan y Parch Thos. Selby Jones, gwein- idog y lie. Y testyn oedd Brenhinoedd Prydain Fawr, o amser William y Gorchfygwr hyd ein dydd- iau ni.' Yn absenoldeb S. Davies, Ysw., Cilfallen, (yr hwn oedd i gymeryd y gadair, ond oherwydd am- gylchiad annisgwyliadwy, methodd a rhoi ei bresen- oldeb), cynygiwyd gan Mr O. Davies, Llwynbedw, ac eiliwyd gan Mr J. P. Lloyd, Pen'ralltybie, fod y Parch J. Williams, Castellnewydd Emlyn, i ymgy- meryd a'r gorchwyl yn ei le, a chydsyniodd a?r cais; ac md oes angen dyweyd iddo ei llanw yn anrhyd- «ddus, oblegid llenwa'n llawn bob cyleh y try ynddo. Cafwyd darlith ragorol dda; llefarodd y darlithydd leuanc am agos i awr a haner yn gryf, nerthol, hy- awdl, a meistrolgar, ac fel dywedodd y Cadeirydd Os gwna weithio ei hunan ymlaen fel darlithydd,' 'does dim dadl y gwna efe un o ddarlithwyr penaf yr oes.' Wedi terfynu y ddarlitb, a chael araeth fer a phwrpasol gan y Cadeirydd, cynygiwyd diolchgar- wch y cyfarfod i'r darlithydd gan y Parch W. Bees, Llechryd, ac eiliwyd ef gan Mr T. Cunllo Griffiths; hefyd i'r Cadeirydd gan y darlithydd ei hun, ac eil- iwyd gan Mr W. Jones, Coleg Caerfyrddin. Terfyn- wyd y cyfarfod trwy i gor Trewen ganu ton Ynys Mon,' dan lywyddiaeth eu medrus a deallus flaenor Mr Thomas Jones. Cafwyd ton hefyd ar y dechreu gan blant yr ysgol dan lywyddiaeth eu hathraw Mr John Jones. Ymadawodd pawb wedi eu llwyr fodd- loni. Yr elw tuag at yr ysgol ddyddiol yn y lie.— Aelod.
I YB YMGEISYDD RHYDDFRYDIG…
YB YMGEISYDD RHYDDFRYDIG NESAF DROS SIR FEIRIONYDD. Da genym 'ddeall mai Morgan Lloyd, Ysw., y I. Dadlcuydd fenwog g, fydd' yv1 yiTfgeisydd ategaf dros y sir hon. Y mae yn frodor o'r sir, wedi ennill iddo ei hun safle uchel fel gwr o dalent, ac y mae yn Rhyddfrydwr o'i febyd. Cadwed y Rhyddfryd- wyr yn unol, a gofaler am fod yn effro a pharod.
CYFARFOD YMADAWOL I MEURIG…
CYFARFOD YMADAWOL I MEURIG AMAN YN MIDDLESBRO'. ON TEES. Nos Lun, y 27ain o Ebrill, cynhaliwyd cyfarfod yn addoldy yr Annibynwyr yn School Croft, Middlesbro, i ffarwelio a Mr Morgan Evans (Meurig Aman), ar ei ymadawiad i'r Amerig. Cym- merwyd y gadair gan Mr P. M. Williams (Pedr Mostyn). Yn ei anerchiad datganodd y Cadeirydd y gofid a deimlai ar ymadawiad ei gyfaill ieuanc. Cyfeiriodd at y Dysteb a gyflwynasid yn ddiweddar yn yr un He, fel prawf o'r edmygedd a deimlai pawb tuag ato. Yr oedd efe wedi enwogi ei hun'mewn gwneuthur daioni. Bu yn ffyddlawn fel aelod eg- lwysig, yn ddefnyddiol fel athraw yn yr Ysgol Sab- bathol, yn ymdrechgar gyda'r c6r Cymreig, yn llaf- urus gyda'r Gymdeithas Lenyddol, ac ennillodd iddo ei hun 'radd dda I yn mhob cylch y troai ynddo. Trwy ei ddiwydrwydd a'i foesgarweh yr oedd wedi ymddyrchafu o fod yn gollier tlawd i sefyllfa o ym- ddiried. Yr oedd hefyd wedi cyrhaedd enwogrwydd fel lienor. Nid yn unig bu yn ymgeisydd llwydd- ianus yn yr Eisteddfodau yma ac acw, ond safai ei lythyrau ar Gymry Gogledd Lloegr yn gofgolofn o'i dalent hanesyddol, yn gystal ag o'i galon wladgarol. Yr oedd ei arafwch yn hysbys i bob dyn.' Ennillai ei onest wen deyrnged o serch i ba le bynag yr elai. Teimlai pawb y golled a gaent trwy ei ymadawiad. Gan nad oedd dim yn tycio i'w gadw yma, gollyng- eut ef ymaith o'u dwylaw gyda bendithion fyrdd ar ei ben, a chydallr dymuniadau goreu am ei Iwyddiant yn mhob ystyr. Ar hyny daeth y beirdd yn mlaen, ac yn mhlith eraill traddodwyd yr Englynion a ganlyn:- Anhawdd i Meurig heno-yn wir roi I'n araeth wna'n boddio Ni all brawd wrth golli bro Neu dalaeth ddim ond wylo. Ymadaw ag hen gym'dogaeth—a char Sy'n ch werwi yr alaeth; Eto troi raid at y traeth A morio mewn Ilym hiraeth. 'E gyfyd hen adgofion-yr oes faith Ar draws fel llinynon; Yn gwlwm am y galon, Er ei dal rhag hwylio'r don.-Deivi Alaw. Dafnau oerion dwfr hiraeth—o'i fudaw Gyfodant yn doraeth; Nis gall Etna roi araeth Heno i chwi, nid dyna'i chwaeth. Haws wylo mewn dwys alar-a gofid Am gyfaill digymar Anfynych ceid fwynach car I'n mysg, nac un fwy moesgar. -Rhys Etna Jones. Cafwyd anerchiadau wedi hyny gan loan Glan Ter, Gwerllwynfab, Mri D Howells, T Clark, Ed- ward (Davies, John Clark, J Thomas, a Shadrach Morgan, yn y rhai yr amlygid y teimladau mwyaf cynhes, a'r dymuniadau mwyaf haelfrydig. Canwyd darnau pwrpasol i'r amgylchiad gan Mr John Evans Stockton, Miss Howells, Miss Griffiths, Miss Clark, a Mr J H Davies. Dymunwn i'n cyfaill fordaith dawel, a bywyd hir a defnyddiol yr ochr i'r Atlantic. -Gohebydd.
BEDDARGRAFF
BEDDARGRAFF Mr Rowland Owen, Pwllheli. DYN gonest, heb ond un gwyneb-pa wr Mwy Parod ei ateb ? Mor chwith yw bod heddyw heb Ffrwyth hynod ei ffraethineb. EMRYS.
BEDDARGRAFF
BEDDARGRAFF Henry a Letitia Thomas, Ywenfach, yn mynwent Cwmifor. Yma o'r byd yn rhwymau'r bedd-rhoed chwi Frawd a chwaer i orwedd Uwch oer ing, o'r llwch ar wedd Ion deuwch yn y diwedd. Athrofa Pontypool. IFORWYSON JAMES.
CENDL.
CENDL. Y Casghad Cenhadol. 'Ar Sul, Ebrill 12,1868, gwnaeth y gynnulleidfa yn Carmel, Cendl, ei chasgl- iad blynyddoi at y Genadaeth ac wedi dyfCild a'r oil o'u cyfraniadau ati am y flwyddyn, cafwyd eu bod yn cyrhaedd i'r swm anrhydeddus o zC54 15s 7 c. Mae'n debyg nad oes nemawr o eglwysi y llywodr- aeth yn cyfranu swm mwy na hwn yna mewn blwyddyn at y Genadaeth; ac, os nad wyf yn cam- gymmeryd, y mae y swm uchod yn fwy na ehyfan- swm casgliadau yr holl gynnulleidfaoedd Cymreig (yr Annibynwyr) yn Liverpool at y Genhadaeth am y flwyddyn a ddiweddai Mai ibo7. Y Parch. W. Jones, y Cenhadwr.—Iaij, Ebrill 30ain,_ traddododd ^r (Jones ara^bh Genha^Sf yn Carmel, Cendl, i gynnulleidfa luosog; a barnai y rhai oedd yn ei gwrando ei bod yn un o'r areithiau cenhadol goreu-os nad yr oreu-a glywsant erioed. Gresyn yw na chai holl gynnulleidfaoedd ein henw- ad trwy yr oil o Gymru y cyfleustra i glywed y cyf- ryw araith. Nid oedd eisiau symbylu pobl Cendl i gyfranu at y genhadaeth-ni edrychid ar araith Mr Jones yn Cendl fel swmbwl i'r difater a'r esgeulus, ond fel gwledd i'r gynnulleidfa am ei haelioni a'i ffyddlondeb cyffredin tuag at yr aehos cenhadol. Darlith y Gohebydd.-Bu Mr J. Griffiths-y I Go- hebydd'-yn traddodi ei ddarlith ar Ddwy flynedd yn America,' yn Cendl, nos Fawrth, Ebrill 13, 1868. Traethodd lawer yn ei ddull priodol ei hun am am. rywiol bethau nodedig a welodd yn ystod ei arhosiad am ddwy flynedd yn America, er mawrddifyrwch ac addysg i'r gynnulleidfa. Gellid meddwl nad oes yn America ddim lie gwell nac sydd yn Mhrydain i hen lanciau gael gwragedd, oblegyd y mae y Gohebydd" a'i 'Ewyrth Sam' ar ol eu holl dramwyadau yn y wlad fawr hono wedi d'od yn ol i Gymra wedi'r cwbl yn eu cyflwr henlancyddol. Pob un sydd am gael idea dda a chywir am brif hynodion America, a hono yn cael ei rhoddi mewn flfordd eglur a dyddorol i bawb, myned glywed y I Goheby-dd.' Llywyddwyd yn ddymunol iawn gan y Parch W. Jones, (M.C.); ac yr oedd yn bresenol y Parchn R. Hughes, Cendl; V?"* ^ones3 Jones, a T. F. Nathan, Brynmawr j a Mr Eees, y curad; i gynnal breichiau'r darlithydd -pe buasai achos am hyny. Rhwydd hynt i'r Go- hebydd fel darlithydd eto, medd y-Cofnodydd.
[No title]
Teimla yr awdurdodau yn Canada yn ddigon tawel am sefyllfa y wlad, fel ag i ganiatau i ddwy fyddin gael eu galw oddiyno.
----------YSTALYFERA.
YSTALYFERA. Yr J!¡rh 19S yn yr lwerddon.-Nos Lun, Ebriil v 27ain, cynhaliwyd cyfarfod yn Zoar, capel y Bcd"- yddwyr yn y lle uchod, i'r dyben o gynnull preswvl- wyr Ystalyfera i ddeisebu o blaid dadsefydliad a dadwaddoliad yr Eglwys Esgobaethol yn yr Iwerdd- on a dwyn i mewn gydraddoldeb crefyddol i Witli yr holl enwadau. Cyhoeddwyd y cyfarfod yn yr holl gapelau a thrwy hyny daeth cynnulleidfa luosog yn nghyd. Cymmerwyd y gadair, am 7 o'r gloch, gan Mr John Lewis Cwmtwrch. Cytunwyd yn unfrydol a phenderfyniadau o'r wedd a ganlyn :—Fod cyflwr yr Iwerddon yn bre-- enol yn galw am sylw difrifolaf ein Seneddwyr yn ddioed mai un o brif achosion cyflwr annedwydd yr Iwerddon ydyw bodolaeth yr Eglwys Sefydledig yno ein bod yn anghymmeradwyo cynllun y Weiu- yddiaeth bresenol i wella cyflwr yr lwerddori ein b' d o'r farn mai'r ffordd fwyaf effeithiol i symmud y drwg ydyw yr un a gynhygir gan Mr Gladstone ein bod yn arwyddo Deiseb i'w hanfon i'r Senedd yn dymuno arnynt basio deddf yn gydfynedol a'r pen- derfyniadau osododd Mr Gladstone ger bron y TV. Siaradwyd yn gryf o blaid y penderfyniadau uchod gan v Parchn. C. Williams, O. Jones, B. Thomas, J. Jenkins, T. Evans, J. Jones, a T. Thomas. Meistri J. Davies, G. Davies, R. Thomas (Adolphus), W. Bowen, a James Williams. Cafwyd cyfarfod brwdfrydig ac y mae gobeithion da am Ddeiseb wedi eu Uawnodi gan lawer o gan. noedd os nad railoe dd. -Franc on.
[No title]
Daliwyd 16,941 o bersonau yn Llundain y llynedd am feddwded.
C TFAIiFO DTD D MAI.
C TFAIiFO DTD D MAI. Er mai Cyfarfodydd Mai y gelwir y cyfarfodydd uchod dechreuasant cyn diwedd Ebrill a, pharhan.ts hyd fis Mehefin. Nis gallwn roddi adroddialdliawn o'r holl gyfarfodydd oherwydd prinder lie, ond ceis- iwn roi crynodeb byr o'r prif gyfarfodydd ac helaeth- wn arnynt; yn ol en pwys. Declireuwn gyda CHYMDEITHAS Y TjtAETilOPAir CKEFYDDOL. Cynhaliwyd y 69ain o gyfarfodydd y gymdeithas uchod yn Exeter Hall, nos Fawrth, Ebrill 28ain. Cadeirydd, Duncan McLaren, A.S. Wedi cami pen- nill, ac i'r Parch Canon Champneys weddio, darllen- odd Dr Davies, ysgrifenydd y gymdeithas, yr adrodd- iad: hlynyddol. Sylwodd yn helaeth ar effeithiau llyfrau, traethodau, a newyddiaduroh o duedd niw- eidiol ar feddyliau dyriion, ac mai amcan y gymdeith- as oedd gwrthweithio y dylanwad drwg yna, drwy ddosparthu Ilyfrau a thraethodau addysgiadol a chrefyddol er puro eu chwafeth. N ifer y cyhoeddiad- au a argraffwyd dros y gymdeithas am y flwyddyn a basiodd oedd 40,991,763, a chyfrif y rhai agyhbedd- wyd mewn gwledydd eraill, cyrhaedda 46,991,763; a chyfanswm y rhai a gyhoeddwyd er ffurfiad y gym- deithas ydynt 1,238,990,000. Rhoddodd ystadeg- aeth fanwl o'r nifer a wasgarwyd yn ngwahanol wledydd y byd a dytvedai fod: y gwaith a, wnaeth- pwyd gan y gymdeithas ya Arddangosfa Paris yn un o ryfeddodau'r oes.' Mae sefyllfa arianiol y gym- deithas hefyd yn ffafriol iawn, cyfanswm y derbyn- iadau am y flwyddyn a basiodd ydoedd 113,092p, sef 2,317p yn fwy na'r flwyddyn flaenorol, a'r treuliadau yn 112,323p. Yr areithwyr oeddynt y Parchn W. R. Forrest, Dr Winslow, Dr Mullens, a H. Hulleatt; condemniasant yn y modd cryfaf ymddygiadau y personau hyny oeddynt yn gwneyd eu goreu er lled- aenu novelau a llyfrau sydd yn crebachu meddyliau dynion, yn lIe darparu rhywbeth a rydd faeth iddynt. Cymhellasant yn daer ar i'r rhai a allent fwrw rhodd i'r drysorfa, wneyd hyny, canys ni ellir cario y gwaith ymlaen heb arian. Ai nid oes angen am gymdeithas o'r fath yn Nghymru, pan y mae llyfrau mor wenwynig eu natur yn cael eu gwasgaru, ac yn wir yn cael derbyniad mor groesawus, ar hyd a lied y wlad? Wedi y diolchiadau arferol i'r Cadeirydd, aci'r Parch J. Tittcomb weddio, terfynodd y cyfarfod.
[No title]
'A gaf fi baentio eich gruddiau fv anwylyd,' ebai gwr serchog wrth ei wraig. Na' meddai hithau, yr ydych wedi gwneyd hyny yn ddigon ami eisoes, trwy beri i mi wrido o'ch achos.'
ENGLYN I'R TE.
ENGLYN I'R TE. Buddugol yn Eisteddfod Dylife, dydd Gwener y Groglith, 1868. Buddiol yw'r Te lie byddo-goruchel Ceir iechyd pur ynddo Yn brif ddiog-ceir ein bro Yn chwerthin yn iach wrthe. Machynlleth. REES JONES (Alarch Glan Dyfi).
TREHERBERT A'I HELYNTION.
TREHERBERT A'I HELYNTION. Ail agoriad.-Wedi hir ddisgwyliadau, gorphen- wyd helaethu terfynau Carmel, capel yr Annibyn- wyr yn y lie hwn. Ac ail agorwyd ef nos Sadwrn a'r Sabbath a LluD, y 25ain, 26ain, a'r 27ain o Ebrill, pryd y gweinyddwyd gan y Parchedigion H. Oliver, B.A., Casnewydd, O. Evans, Hanbrynmair, J. Rogers, Aberhonddu, Phillip Davies, Glandwr, J. Davies, Caerdydd, E. G. Jones, Treorci, a Probert, Ystrad Rhondda. Yr oedd y cynnulliadau yn hynod boblogaidd bob dydd, a'r dylanwadau dwyfol yn nglyn a r traddodiad o eneuau y cenhadon yn amlwg. Cafwyd casgliadau rhagorol dda. Cyfarfod dau fisut yr atlirawon.—Yn Horeb, dydd J\bril,1,2pui°' °ynhaliodd 7 cyfundeb Calfinaidd o ddosbarth Ehondda eu cyfarfod athrawon cyffred- inol yn y capel uchod, pryd y daeth cynniyehiolwyr naw ysgol yn nghyd erbyn 8 o'r gloch-rhai wedi dyfod yn brydlon y pellder o ddeng milldir. De- chreuwyd trwy ddarlten a gweddio gan frawd o Pen- ygraig; ac yn oi y drefn arferol, fe bennodwyd llywydd. Wedi anerchiad byr. ond cynnwysfawr, darllenwyd cyfrifon ac ystadegau y gwahanol ysgol- ion yn absennoldeb yr ysgrifenydd cyffredinol gan Mr Jones, Treorci. Cafwyd fod yr ysgolion i raddau helaeth ar eu cynnycld mewn niferoedd a llafur. Yna rhoddwyd areithiaa galluog gan amryw o ath- rawon ar Ddyledswydd athrawon ac aelodau eglwys- ig i fod yn ddirwestwyr; a diweddwyd oedfa felus a buddiol. Yr Ysgol Frytanaidd.-Dydd Mawrth, Ebrill 21, cymmerodd arholiad yr ysgoldy hwn le, pan y gwein- yddwyd gan yr arolygwyr cyffredinol; a chafwyd cymmeradwyaeth a thystiolaeth uchel ganddynt fod gwelliantau dirfawr wedi cymmeryd lie yn addysg y plant y flwyddyn ddiweddaf; a thystient fod yr ysgolfeistr yn haeddu clod am ei ymdrechion diflino1 i ddiwygio cyrnmaint arnynt yn ngwyneb yr anfan- teision a'r anhawsderau a wrthwyneba, o herwydd eyfyn-der a. by-chander yr ystafelloedd syddyn yr ysgoldy presennol. Hir .oes a llwyddiant i Mr Jones i feithrin a dadblygu galluoedd y to ieuanc sydd dan ei ofal; a chailed ar fyr ystafelloedd eangach i wneud ei orchwyl yn ddeheuig. Cyngherdd.-Nos lau, Ebrill 30ain, yn y National School Rooms, bu cyngherdd ardderchog o dan ar- weiniad meistrolgar Mr J.Lawrence (Cerddor Tydfil), a J. Evans (Cerddor Ogwy). Dywedir mai y cy- ngherdd hwn oedd y rhagoraf a mwyaf poblogaidd fu erioed yn y gymmydogaeth hon.—@ieddwyson.
MERTHYR TYDFIL.
MERTHYR TYDFIL. Yr Eglwys Wyddelig.—Nos Lun, Ebrill 27, cyn- naliwyd cyfarfod cyhoeddus yn yneuadd Ddirwestol, i gymeryd i ystyriaeth y priodoldeb o gefnogi pen- derfyniadau Mr Gladstone yn Nhy y Cyffredin. Yr oedd y neuadd yn orlawn. Cymerwyd y gadair gan W. Simons, Ysw. Wedi gwneyd ychydig nodiadall pwrpasol, cynygiwyd y penderfyniad cyntaf gan C. H. James, Ysw. Fod y cyfarfod hwn o'r farn, fod cynhaliaeth yr Eglwys Wyddelig fel sefydliad yn wreiddyn ffrwyth- Ion o anfoddlonrwydd a drwgdeimlad yn yr Iwerdd- on, o wendid i'r deyrnas, ac yn rhwystr difrifol ar ffordd llwyddiant gwir grefydd.' Profodd Mr James drwy ffeithiau seiliedig ar ystadegaeth, fod y Gwydd- elod yn gwella yn mhob ystyr, troseddau yn lleihau &c., fel yr oedd y senedd yn ysgafnhau y cyfreithiau gorthrymus arnynt. Eiliwyd y cynygiad gan y Paich Dr Emlyn Jones, mewn araeth ddoniol a barddonol iawn. Cynygiwyd yr ail benderfyniad gan y Parch F. S Johnstone, Fod y cyfarfod hwn o'r farn fod dad sefydliad a dadwaddoliad yr holl enwadau crefyddol yn Iwerddon, yn bethau ag y mae galwad arbenig am danyut, yn gystal fel gweithred o gyfiawnder i bobl yr Iwerddon, ag fel mesur heb yr hwn y bydd yn anmhosibl dwyn eu gwlad i sefyllfa foddlon a heddychol, a chynyrchu ynddynt ymddiriedaeth yn y llywodraeth Frytanaidd, ac felly ei fod yn rhoddi ei gymeradwyaeth a'i gefnogaeth fwyaf calonog i'r penderfyniadau a ddygwyd yn ddiweddar i'r senedd gan y Gwir Anrhydeddus W. Ewart Gladstone, ac yn datgan ei obaith y bydd i'r penderfyniadau hyn gael eu cario yn llwyddianus.' Eiliwyd y cynygiad gan y Parch D. Jones, B.A., Soar, a chefnogwyd gan Mr Gould. ° J S Cynygiwyd y trydydd penderfyniad gan W. L. Daniel, Ysw.,—'Fod deiseb yn cynwys y penderfyn- iad a basiwyd, i gael ei anfon, wedi ei harwyddo gan y cadeirydd ar ran y cyfarfod, i'r aelod dros y fwr- deisdref i'w chyflwyno i Dy y Cyffredin, a bod copi i gael ei anfon i'r aelod dros y sir, ac i'r aelod dros y fwrdeisdref, gyda dymuniad ar iddynt eu cefnogi, a chopi arall i'r Gwir Anrhyd. W. E. Gladstone. Eiliwyd gan y Parch C. Griffiths. Cynygiodd T. Williams, Ysw., Goitre, a chefnog- odd Mr J. W. James, ddiolchgarweh i'r cadeirydd, ac felly dygwyd i derfyniad un o'r cyfarfodydd cyhoedd- us mwyaf unol a brwdfrydig a gynaliwvd yn y lie. Can y Tafarnaii ar y Sabboth.-M.ae athrawon a chyfeillion yr ysgol Sabbothol yn Merthyr wedi bod ar hyd y dref fel llwynogod ar hyd yr wythnos braidd. Rhanwyd y dref yn fan ddosbarthiadau, fel na byddai y gwaith yn feichus ar neb. Wrth fyned oddiamgylch y tro cynfaf, yr oedd slip o bapur print- iedig yn cael ei adael yn mhob ty, fel y gallai pob penteulu arwyddo arno pa un a oedd am gau y tafarn- dai ar y Sabboth am 24 o oriau. Yna aent o gwmpas i gasglu y paparau. Er fod y mwyafrif o ddigon dros gau y tafarndai, drwg genym fod Ilawer wedi mynegu eu hunain yn neuters, ac amryw heb wneud un sylw o'r cwestiwn o gwbl. Dyma y ffordd i gael allan wir farn y cyhoedd ar unrhyw fater.
Y PARCH. D. PRICE.
Y PARCH. D. PRICE. Yr wyf wed derbyn nifer o lythyrau er ymddang- osiad y TYST diweddaf yn dymuno cael gwasanaeth y Parch. D. Price yn ystod ei ymweliad a. Chymru. Da genyf weled y fath awydd am ei .gael. Nis gallaf ateb yr holl lythyrau yn bresenol. Cyn gyn- ted ag y clywaf eto oddiwrth Mr Price trefnaf ef am y pythefnos cyntaf wedi ei laniad; ac yna caiff ohebu ei hun a'r cyfeillion yn y gwahanol fanau. Yr oedd yn llawen genyf dderbyn y llythyr cynhes o Ddinbych. Yr wyf agos yn sicr na bydd dim yn well ganddo na threulio y Sabbath cyntaf wedi gadael^Liverpsol gyda'i hen gyfeillion yno. MI THOMAS. 11, The Willows, Liverpool, Mai 4, 1868,
, LLANFAIRCAEREINION.
LLANFAIRCAEREINION. Cynhaliwyd cyfarfod yn y lie uchod Ebrill yr 22ain a'r 23ain, i'r diben o neillduo Mr R. Roberts, myfynwr o Athrofa Annibynol y Bala, i gyflawn waith y wcinidogaeth. Y gweinidogion a gymmer- asant ran yn ngwaith y cyfarfod oeddynt y rhaia- ganlyn :-Nos Fercher, pregethodd Mr Jones, Mach, ynlleth, a Stephen, Tanymarian. Boreu dydd Iau, am hanner awr wedi naw, dechreuodd Mr Evans Llanbrynmair. Traethwyd ar Natur Eglwys' gan Mr Peters. Holwyd y gweinidog ieuanc gauvir Jones. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr Evans Penarth. Pregethwyd i'r gweinidog gan Mr Stephen, ac i'r eglwys gan Mr Jones, Bala. Am ddau yn y prydnawn, dechreuodd Mr Roberts, Aberhosan, a phregethodd Mr Peters, ac Evans. Am ckwech, de- chreuodd Mr Evans, Foel, a phregethodd Mr Jones, ac E. Stephen. Heb law y gweinidogion crybwvll- edig. yr oedd yn bresenol yn y cyfarfod:-Mri Evans, AfftS'r Henffordd, Richards (W.), Jones (M.C.), C. R. Jones, Llanfyllin, R. aT° £ r?nes' 0 Athrofa y Bala, N. Watkins, Pen- f' G. Roberts, Maim, W. Griffiths, Llanbrynmair J. Humphreys (W.), C. Humphreys (W.) Yr oedd y cynnulliadau yn lluosog drwy y cyfarfod, ac yn neillduol y nos ddiweddaf. Gwnaeth Mr Roberts ddefnydd da o'r pedair blynedd a dreuliodd yn Ath- rofa y Bala. Y mddengys yn bresennol nas gall lai na bod yn hapus yn Llanfair, Siloh, aPeniel, oblegid y mae yr eglwysi a'r gwrandawyr yn ddieithriad yn teimlo yn gynhes iawn tuag ato.- Un oedd yno.
MANION 0 FYNWY.
MANION 0 FYNWY. Y marw ynfyw.-Mae yn gofos gan ddarllenwyr y TYSt a™ yr hanes galarus er ys tro yn ol, fod mab y Parch. R. Thomas, Hanover, wedi colli ei fywyd yn Corea, ynys yn perthyn i China. Hawdd credu • galarus hwnw beri tristwch nid bychan I ftlr Ihomas a'r teulu, ac nid bychan oedd y cyd- ymdeimlad a ddangoswyd tuag atynt gan gyfeillion yn mheIl ac yn agos. Da genyf hysbysu fod go- beithion yn awr fod y cenhadwr gobeithiol ac an- turiaethus hwn yn fyw yn y carchar yn Corea. Yr wyf yn gobeithio fod y newydd yn wir. Dywedir fod L °^faid Yn ddynion digon caredig ac felly os yw Mr Thomas yn fyw, nid yw yn debyg y ca ddim cam yno; ac er mai yn y carchar y mae, fe allai y ca gyfle fel y cafodd Paul yn Rhufain i wneud llawer iawn o dda yno dros Grist a'r efengyl. Mae Mr Thomas yn hollol gydnabyddus ag iaith y Coreaid. Mae hyny yn gryn lawer o fantais iddo. Pwy a wyr na cha Mr a Mrs Thomas weled eu hanwyl fachgen ar yr hen aelwyd yn Hanover eto cyn eu marw. Gobeithio yn erbyn gobaith y maent yn awr Hy- rheidiof yn cyn cael J sicrwydd angen- Y Strike.—Mae hon yn parhau heb fawr obaith am derfyniad. Pan fydd hyn yn cael ei ddarllen, bydd yn bedair wythnos ar ddeg er pan ddechreuodd. Deallwn fod porthladd Casnewydd yn dyoddef yn enbyd o herwydd y strike. Mae y llongau yn gorfod troi eu gwynebau i Gaerdydd, a manau eraill, o her- wydd nad oes glo i'w gael yn Casnewydd, Pa beth a ddaw o hyn yn y diwedd, nis gallwn ddyweyd. Mae yn ddifnfol iawn ar ganRoedd o deuluoedd yn y wlad yma, ac y mae yma fylchau yn cael eu gwn- eud yn amgylchiadau llaweroedd na chauir am am- ser maith. Mae dynion o Cornwall yn gweithio yn Caerphilly er ys wythnosau. Y maent yn cyseu a bwyta mewn He perthynol i'r gwaith, a heddgeid- waid yn eu gwylio. Ond yr hyn sydd yn ddirgelwch i ni yw y cant hwy insultio pobl lonydd y gymmyd- ogaeth ond os dywed rhywun bo arnynt hwy rhaid ei gospi yn union. Nid wyf fi yn deall pethau °6S °f Health yn perthyn i Gaer- P y'. PB oes> beth pe byddai y boneddigion hvn yn rhoi tro tua chymmydogaeth y pwll glo i edrv'ch pa fodd y mae Saith wedi eu Uadd.— Dydd Mercher diweddaf, fel yr oedd saith o ddynion yn dyfod i fyny i mi o'r pyl au perthynol i'r tynel newydd a wneir o Gaer- philly i Gaerdydd. Pan o fewn troedfedd i'r wvneb gollyngwyd hwynt yn eu hoi gyda nerth a cliyiivm- dra dychrynliyd, nes oeddynt yn ddarnau yn y gwaelod. Yr oedd y dyfnder yn 360 o droedfeddi. Dywed rhai mai ar y peirianydd yr oedd y bai, ac eraill mai ar y- gyrwr (driver) yr oedd yr hollfai; ond nid oes genyf ddim i- ddyweyd am hyn ragor na dyweyd mai digon diofal yw llawer Company, a llawer peirianydd, am. fywydau y rhai a weithiant tanynt. Ceir clywed rhywbeth ar y trengholiad dydd Mawrth pa fodd y bu hi ond pa fodd hynr-o- y bu, y mae'r trueiniaid wedi myned, ac nis o-eliir eu cael yn ol i'w perthynasau galarus. Yr oedd ni o honynt yn feibion yr Ynys Werdd, a'r pedwar eraill yn Saeson. Cross Keys.-Da. genyf hysbysu fod y Parch. D. Davies, Risca, wedi llwyddo i gael tir at adeilad capel newydd yn y lle uchod gan Arglwydd Tredegar. Dechreuir y capel yr haf hwn. Dymunwyf lwydd- iant i Mr Davies yn yr anturiaeth bwysig, ond gwir angenrheidiol hon. Gwelais Mr Jones, Machen, y boreu yma, ac y mae yn teimlo yn dra diolchgar i ohebydd y Fro, sef Bro Morganwg, am ei gefnog- aeth i'w Lyfr Hymnau. A oes dim posibl i oheh- wyr cysson y TYST gael cwrdd a'u gilydd rywbryd yn yr kaf i gydfwyta cinio a chydguro cefnau y gol- ygwyr galluog am eu Ilafur diflino yn nygiad allan bapyr newydd wythnosol ag sydd yn deilwntc 0'1' enwad y perthyna iddo ?