Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

r rttrythtut,;i.

News
Cite
Share

r rttrythtut,;i. NOSON i'w chofio oedd nos dydd Iau yn Nhy y (yffredin. Yr Eglwys Wyddelig, bid siwr, oedd y testyn. Ni chlybuwyd ymadroddion mor gryfion o'r blaen o fewn muriau y Senedd-dy presenol. Dynoethodd Mr Bright ymcldygiad Mr Disraeli yn ddidrugaredd. Dywedai fod pob sail i ofni ddarfod i'r Prifweinidog dwyllo ei Mawrhydi, a bod y Gweinidog sydd yn camar- wain y Frenhines trwy dwyll, yn llawn cyn ddrwg a'r bradwr. Nid oedd gan Mr Disraeli ddim i'w ddywedyd mewn atebiad ond cyfeirio at ei gymmeriad ei hun, ac awgrymu nad oedd Mr Bright yn wr boneddig- Bu rhai o'r blaid ryddfrydig agos a gwneud llongddrylliad o'u liachos. Gorfoleddai Mr Disraeli oherwydd hyny, a daroganai gyda gwawd, inai dechreuad dyryswch oedd hyn oil. Dangosodd Mr Glad- stone fedr anarferol, a dygodd y Hong heibio i lawer craig. Perygl mawr y blaid ryddfrydig yn awr ydyw golwg ar y prif gwestiwn, taeru yn Z, nghylch manylion, ymranu, a rhoddi mantais i'w gwrthwynebwy. Amcan Mr Gladstone pan yn cynhyg ei ben- derfyniadau oedd arloesi y ffordd i ddeddfwriaeth effeithiol. Pe buasai ef a'i gefuogwyr yn ym- foddloni ar basio ypenderfyniadau yn unig, bu- asai yr holl lafur i raddau yn ofer. Buasai yn rhaid ail wneud y gwaith er cychwyn yn y Sen- odd dymhor nesaf, ac yn y cyfamser, buasai y drygau yn nglyn a'r Eglwys Wyddelig yn myn- cd yn y blaen fel arferol. Yr ystyriaethau hyn abarodd i Mr Gladstone gynhyg drachefn, fod y Ty yn dymuno caniatad ei Mawrhydi i ddwyn i mewn y Suspensory Bill. Swm a sylwedd y Bill hwn yw atal apwyntiadau i swyddau a bywiol- iaethau yn yr Eglwys Wyddelig o hyn i Awst, 1869. Hyny ydyw, atal ychwaneg o ddrwg, hyd nes y ceir amser i drefnu y mater yn drwyadl a hollol. Bellach, y cwestiwn ydyw, Beth wna y Wein- yddiaeth 1 A gynghorant hwy ei Mawrhydi i roddi caniatad ? Os na wnant byddant hwy a Thy y Cyffredin yn benben, ac os gwnant, pa fodd y disgwyliant gael eu galw yn anrhydedd us' ac yn I wii- anrhydeddus ?' Os cyduna y Weinyddiaeth bresenol, ar ol y pethau a ddywed- asant yn y Ty mor ddiweddar, i gynghori ei Mawrhydi i ganiatau dygiad i fewn y Suspensory Bill, bydd raid newid ystyr y gair honour, neu beidio ei gyssylltu ag enwau y Gweinidogion presenol. Disgwylid y buasai Mr Disraeli yn datgan ewyllys y Frenhines o barth y mater nos Lun, ond trodd y disgwyliad allan yn siomedig- aeth. Yr ydym yn y tywyllwch yn hollol am ewyllys ei Mawrhydi. Hwyrach y daw goleuni cyn yr awn i'r wasg. Hwyrach y daw etholiad cyffredinol ar ein gwarthaf yn ddisymwth. Byddai etholiad ar hyn o bryd yn anghyfleus ac yn wrthun-yn anghyf- leus oblegyd cyfyngder masnachol yr holl wlad, He yn wrthun, oblegyd bydd raid cael etholiad y flwyddyn nesaf o dan y Reform Act. Na ryfedded neb ar yr holl bethau hyny, os byddwn y dyddiau nesaf yn mhoethder ethol" iad. Gwna yr Eglwyswyr a'r Toriaid struggle ofnadwy yn yr etholiad nesaf.—Mae gobaith eu helw hwynt yn cael ei gymmeryd ymaith. Dywedir fod trysorfa o 50,000p. i gael ei sef- ydlu yn ddioed er gwrthwynebu mesurau Mr Gladstone. Dylai pob etholwr ymneillduol yn Ngliymru fod yn hollol barod i'r ymdrech, a dylai pob un fod mor onest a selog, a phe byddai y llwyddiant yn ymddibynu ar ei ffyddlondeb ef yn unig. Prin ydyw y gwaith, a marwaidd ydyw masnach er fod yr amser o'r flwyddyn wedi dyfod pan edrychid yn bryderus am adfywiad. Mae y cyfyngder yn un tra chyffredinol, ac ofnir gan fasnachwyr o farn a phrofiad nad ydym eto wedi gweled y gwaethaf. Mae yr hyder wedi ei golli. Adfywiodd marchnad y cotwm yn ddiweddar yn Liverpool, ond dywedir mai adfywiad twyllodrus ydoedd fod supply y Factories yn fwy na'r galw yn y wlad. Mae llawer o drafeilwyr dros dai yn Manchester yn teithio yn Ngwent a Morgan- wg, y rhai nid ydynt yn derbyn digon i dalu eu treuliau.—Mae y cyfoethog yn myned yn dlawd a'r tlawd yn dlotach-os na ddaw tro ar bethau yn fuan, bydd raid i ni oil ddech- reu byd o newydd.' Nos Iau, y 7fed o'r mis hwn, bu farw Henry Brougham, yn Cannes, Deheudir Ffrainc, yn y 90 mlwydd oed. Yn ystod y dydd, yr oedd wedi bod allan yn ei gerbyd, ao yn mwynhau ei iechyd arferol. Aeth yn gynar i'w wely, a phan aethpwyd i edrych ei helynt yn ddiwedd- arach yn yr hwyr yr oedd wedi marw yn ei gwsg. Dyn rhyfedd oedd Henry Brougham. Yr oedd yn greadur galluog i'w ryfeddu, yn llawn o uch- elgais, ac yn orlawn o weithgarwch, a hynododd ei hun fel cyfreithiwr, ac athronydd, ac areith- iwr, ac awdwr, a gwladweinydd. Yr oedd yn un o'r dynion hynotaf yn ei oes, a bydd ei enw fel un o enwogion Prydain, mewn coffadwriaeth hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.

TO THE RIGHT HON. W. E. GLADSTONE,…

CYNWYSIAD.