Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
A BYD Y GAN.
A BYD Y GAN. GAN PEDR ALAW, Mus.Bac. GWYL GERDDOROL STRATFORD.—Y mae hon bron gyda ni unwaith eto, a darperir yn fielaeth gogyfer a hi, fel arfer. Era pedair- blynedd- ar- ddeg y mae ei therfynau wedi eu helaethu. Cyn hynny yr oedd yn apelio at breswylwyr Stratford a'r mannau cylchynol; ond mor fawr ydoedd ei llwyddiant a'r dyddordeb a gymerwyd yn y cystadleuthau, fel y newidiwyd ei henw i Wyl Gerddorol Stratford a Dwyreinbarth Llundain." Cymer hyn i mewn Ogledd-Ddwyreinbarth (N.E.) ,ein dinas. Felly ceir fod y cylch yn un eang iawn, a'r gwaith da wneir drwy gyf- rwng y sefydliad hwn yn un pwysig a swerthfawr hefyd. Credaf fod yr wyl hon yn gwneud gwaith pwysicach ynglyn a cherddoriaeth i'r Saeson yn Llundain nag a wneir gan, hyd yn oed, ein Eisteddfod Genedlaethol i ni. Os yw hyn yn haeriad rhy feiddgar, mentraf ddweyd y gall ddal cymhariaeth ffafriol iawn a'r Eisteddfodau lleol neu Daleithol. Gobeithio fy mod yn camgymeryd, ond ni chredaf ein bod, fel cenedl, gymaint ar y blaen gyda'r gan er yr holl ganu geir drwy Gymru Beth ydyw y rheswm ? Yr hen atebiad ydyw ein bod yn symud gormod o fewn yr un terfynau. Meddwn unawdwyr ymhlith gweithwyr ein gwlad sydd yn -addurn ini; ac y mae ein canu corawl yn beth i ymfalchio ynddo; ond nid ydyw liynny yn gwneud cenedl gerddorol. Edrycher ar restr Gwyl Stratford-gwyl ,sydd yn apelio at gerdd-garwyr rhan dy- lotaf ein dinas. Gwelir ei bod yn tyfu o herwydd ei bod mor gyfaddas, o ran ei dar- ,h pariaeth, i angenion cerddorol y bobl; ac yn sicr y mae yn gwrteithio'r meddwl -cerddorol mewn modd a bar edmygedd i fcawb diragfarn. Cynygir y gwobrau canlynol i gorau Dosbarth 1. Am ganu "Once upon my cheek" (Dr. 'Calcott), a Rhangan, Canig neu Fadrigal o ddewisiad y cor-y "Daily Telegraph" tÜhallenge Shield. Dosbarth 2. Am ganu Break, Break" (Macfarren), a darn o ddewisiad y cor—y Daily Chronicle "Challenge Shield. Dosbarth 3. Am ganu Ah, could I with fancy stray (Hatton), a darn o ddewisiad y cor-y I" Throne Challenge Shield, rhoddedig gan Edward Cook a'i gyf. Dosbarth 5. I gorau gweithwyr un Cwmni, am ganu Born among us (Berlioz)—y Clarnico" Challenge Shield. Dosbarth 14 (bechgyn). I gorau plant ysgol, am ganu, The I year's at the spring" (Floyd)—y Spencer Curwen Challenge Shield. Dosbarth 15 (genethod). I gorau plant ysgol, am ganu Song of Angels (Schulthes) y Lady Walter Palmer Challege Shield. Sylwer y rhaid i'r corau, oddieithr y rhai plant, dalu entrance fee o ddeg swllt, saith-a- .-chwech, a phum' swllt; ac os enillant y wobr, ni fydd honno yn un arianol, eithr yn un 0 anrbydedd. Campus, onide? Oni allai yr Eisteddfod leol, o leiaf, weithredu yn ol yr un cynllun ? Dosbarth 4. I Barti heb fod uwchlaw un-ar-bymtheg o leisiau a ganai yn oreu, "Hark, hear the village bells" (Caraffa), ynghyda darn o ddewisiad y parti-y ddau ddarn i'w canu heb gyfeiliant—gwobr Dwy bunt. Dosbarth 6. Corau Eglwysig (Dynion a bechgyn). Y darnau (1) Rejoice in the Lord (Sullivan) (2) Emyn-don, The day is past and over (Dykes). Gwobr Tair punt. Dosbarth 7. Corau Eglwysig (Lleisiau Cymysg). Darnau (1) 0 Jesus, Thou art standing (Edwards); (2) Emyn-don "Maidstone" (Gilbert). Gwobr Tair punt. Dosbarth 8. Corau Meibion. Y darn, The star of love (Buck), a darn o ddewisiad y cor, y ddau yn ddi-gyfeiliant. Gwobr Tair punt. Dosbarth 9. Corau Merched. Y darn, Turn, 0 Wheel (Wagner), ac un o ddewisiad y cor, y ddau yn ddi-gyfeiliant. Gwobr Tair punt. Nid oes gofod i fanylu ar bob adran, ond er cyfarwyddyd i bwyllgorau Eisteddfodau ac ereill, wele restr rannol o gystadleuthau ereill: — Corau genethod perthynol i Gymdeithasau (clubs), Orpheus with his lute (Sullivan). Corau bechgyn perthynol i Gvmdeithasau, Brigade Marching Song" (Miles). Corau bechgyn (lleisiau cyfartal), Sailing away (Smart). Corau genethod (lleisiau cyfartal), In the Forest" (Foster). Corau ysgolion elfenol (o'r wlad), Hark jolly shepherds (Newton). Y Beirniaid am 1908 ydynt-H. L. Balfour, Oscar Beringer, Percy Buck, A. L. Cowley, Ernest Fowles, Madam Larkom, G. Oakey, Sir Walter Parratt, A. W. Payne, a Dan Price. Nis gwn a oes corau Cymreig yn bwriadu cystadlu yn yr Wyl eleni; ond os nad oes, gobeithio y ca ei chynllun ystyriaeth fanwl gan gyfarwyddwyr ein Heisteddfodau, modd y galler eu gwella a'u gwneud yn gyfryngau gwell er llesoli'r gan yn ein plith fel cenedl. Y DEUDDEGFED o FAI.-Da gennyf allu hysbysu y cynhelir cyngerdd yn Llundain ar y dyddiad hwn, ym mha un y cymerir rhan gan aelodau y "Gaelic" a'r "Folk- Song Society—i'r olaf o ba un y mae Golygydd hynaws y cyhoeddiad Celtia, sef Mr. S. R. John, yn ysgrifennydd. Cenir yno amryw o hen Alawon Gwerin Cymru, rhai yr ydym mewn an gen i wybod am eu bodolaeth, cyn myned i gredu fod Alawon Cymru yr un a rhai ein cymdogion y C, Dywedir fod yn swydd Somerset gymaint a phymtheg cant o Alawon Gwerin wedi eu casglu, ac odid na cheir fod rhai o honynt yn wir werthfawr. Os yw hynny yn bosibl o fewn swydd fel Somerset, pa faint mwy posibl ydyw ynglyn a Chymru gerddorol ? Yng nghasgliad diweddar Mr. Lloyd Wil- liams a Mr. Somerville, cyhoeddedig gan Boosey a'i Gyf., ymddengys caneuon Cym- reig am y tro cyntaf, a diau fod llawer ereill y gellid eu casglu ar hyd a lied ein gwlad. Fel y sylwodd Mrs. Mary Davies y dydd o'r blaen, y casgliad goreu o ganeuon gwerin Cymru ydyw yr eiddo Miss Williams, Aber- pergwm-casgliad nas gwyr ond ychydig y dyddiau hyn am ei gynnwys. Y mae'r alawon ynddo fel y cenid hwy, heb gyfnewid- iad o gwbl; ac y mae yn fwy na thebyg y cynnygir gwobr cyn hir am drefnu cyfeiliant gyfaddas i rai o honynt. Yn y ffordd hon, a thrwy ymdrechion Cymdeitbas yr Alawon Gwerinol," y mae gobaith y daw llawer o ganeuon adnabyddus ein gwlad i arferiad.
CYMRO O'R WLAD AR YMWELIAD…
CYMRO O'R WLAD AR YMWELIAD A LLUNDAIN. 1. Rhyw dro wedi'r diluw, yn Hafod y Waen, Preswyliai hen Gymro, pur onest, a phlaen, 0 Saisneg, nid ydoedd yn deall un gair Ei fyd oedd ei dyddyn, y farchnad, a'r ffair, 'Roedd Bess, yr hen ferlen, fel ewig ar ddol, Er gadael tri deg o flynyddau o'i hoi A chredai Shon Efan, fod Bess, er yn hên, Yn llawer cyflymach am deithio na'r tren. 2. Nid unwaith, na dwywaith, y rhoddodd ei fryd, Ar fyned i Lunden, i weled y byd. Ond, ni fynai gychwyn, mor belled o dre, Heb gwmni, yn gwybod holl hanes y lie, Gwnaeth amod a. Williams, o hen Shop y Post- Shon Efan wrth reswm, a dalai'r holl gost,— Cychwynwyd i'r station, ar fore dydd Llun, A Shon wedi gwisgo'n drwsiadus ei lun. 3. Clos byr, a botymau melynion i'w gau, A chot fain ei chynffon, hen ffasiwn fel tau, Hen wlawlen fydenwog,—un gref ydoedd hon, Heb law taflu cawod," gwnai'r tro yn lie ffon, 'Roedd ganddo bwrs ffustian, deng modfedd o hyd, A chortyn i gadw ei enau yng nghyd, A phawb yn y Station o'r bron yn gwneud gwenr Wrth weled Shon Efan yn mynd hefo'r tren. 4. Wrth godi dau docyn, cryn helynt a gawd Wrth ddatod y clymau, ar bwrs yr hen frawd, Ond, llwyddwyd o'r diwedd, i fyned i'r tren, A Shion yn rhyfeddu at gerbyd mor glên Yr anwyl a mina wel, wyddoch chi beth, Fe gostiodd cerbydau fel yma gryn dreth, Hwb, dyna fo'n cychwyn, mae'r ingen yn gre, Wel Llunden am dani hi bellach on'd te ? 5. Hylo beth oedd hwna ? a welsoch chi ffrynd, Y llwyn o goed derw fan acw yn mynd ? Wela hai! dyna eto, glawdd terfyn dirol, A gwartheg, a defaid, yn mynd ar yn 61! Dyn cato ni Williams, mae'r ddaear ar dro, A phobpeth yn rhedeg fel pe bai ar ffo, 'Rwy'n gweled y ddaear yn troi fel noe bren, Rhaid imi gau'm llygaid, mae cur yn fy mhen." 6. Agorodd ei lygaid yn Paddington draw, A gwaeddodd mewn syndod gan godi 'i ddwy law- Wel dyma go lwcus! wel ie myn gwair,- Digwyddais ddod yma ar ddiwrnod y ffair Wel wyddoch chi beth, mae ma bobol beth chwith, Os nad ydi'n llygaid i'n gweld petha'n frith Dyn cato ni, dyma le hollol ddi rôl- Oes yma'r un plismon yn edrych- ar ol ? 7. Ni wela i 'r un nifel yn agos i'r lie, Mi wranta fod rheini yng nghanol y dre, Hai cymer bwyll fechan, be haru 'r hen sgorn, Fe sangodd yn union ar fys bach y corn, Gadewch i ni droi i rhyw gornel fy ffrynd, I aros i'r dyrfa ddireol ma fynd Wel heddyw'n cystadlu am y mwya'u trwst Mae holl bobol Lloegar, Cymru, a Llanrwst." 8.. Wel Williams, mi hoffwn gael dysgled o de, Cyn i mi gychwyn o gwmpas y dre, Wel dyma gybolfa wela hwi, wela hai, Ni welai mo'r dyrfa'n mynd fymryn yn llai, Mae llawer heb neges, 'rwy'n sicir i chi, Mae pawb fel pe wedi dod yma am spri, Wel gwaed y gog lwyd-las! yr ydwyf o'r farn Fod un o asena y belo'n ddau ddarn 9. 'Rwy'n credu y buase yn llawer llai cost, I mi ddod a'r ferlen ar hyd y ffordd bost, A'i tybed fod yma rhyw hen labwst fel Will bedlar, sydd acw, yn trwsio am'brel ? Wel dyma hen geffyl a golwg ddi raen,— Bu hwn yn hen deithiwr rhyw dro'r oes o'r blaen,. Wel Williams bach anwyl, edrychwch am le, I ni gael cwpaned go gynes o de." 10. Wel dyma le fforddus, a thanllwyth o dan, A gwraig fach ddirodres, wynebus, a glan, A ydyw hi'n deall Cymraeg dybiech chi, Neu waeth i mi beidio ysgwrsio a hi. Beth gyst y pryd yma feddyliech chi, ffrynd ? Tae fater am hynny, mae'n rhaid i'r pres fynd, Mae'n werth talu tipyn am lety fel hyn, A'm traed i mewn slipars, a bwrdd llian gwyn 11. Gofynwch chi, Williams, am wely i'r wraig, Os nad ydyw'n dyallt 'r un gair o Gymraeg. Mae'r gwely ar ganol y llofft, welwch chi! Yn lie bod mewn cornel, 'run fath a'n ty ni, 'Rwy'n teimlo'n flinedig, mae'n well i mi fynd,— Mi gysgaf fel twrchyn-nos dda yr hen ffrynd."