Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Am Gymry Llundain.

News
Cite
Share

Am Gymry Llundain. CAU Y DRWS.-Son am gyfarfodydd pen tymor sydd i'w glywed y dyddiau hyn, ac mae'r Undeb yn dirwyn ei gwaith i derfyn nos Sadwrn nesaf, 28ain. CAPEL MOORFIELDS." Mae'r ddeadell ynglyn a'r Eglwys hon ar fin symud o Little Alie Street. Maent wedi llwyddo i sicrhau hen gapel Whitefield yn Leonard Street, City Road, a sicr bydd y lie hwn yn llawer mwy cyfleus na'r adeilad yn Little Alie Street. EISIEU ENw.-Gwelir oddiwrth yr hys- bysiad mewn colofn arall mai Wltilefield's Tabernacle" y gelwir y lie yn Leonard Street. Mae'r enw yn debyg o beri pem- bleth i ieuenctyd y blynyddoedd hyn. Rhaid cofio mai'r adeilad yn Tottenham Court Road fydd ar feddwl pawb os cerir ef ymlaeik ar yr enw yna. Onid gwell fuasai White- field's Old Tabernacle ? CYNGERDD. Er mwyn cael dechreuad llewyrchus yn y lie newydd trefnir i gael Te a Chyngerdd yno nos Ian, Ebrill 2fed, a disgwylir iddo fod ar raddfa eang. Mae nifer o gantorion gwych i ganu, a llywyddir ar yr oil gan Mr. J. Jay Williams. Mr. EBENEZER HUGHES (Un o Ysgrifenyddion Eisteddfod City Road). WALHAM GREEN.—Y Gymdeitbas Ddiwyll- iadol.-Nos Fercher, yr lleg cyfisol, cawsom: ddadl fywiog ar destyn tra amserol, sef, A ddylid diddymu Ty yr Arglwyddi ? Agor- wyd gyda phapurau galluog dros y naiU ochr a'r llall, sef Mr. R. T. Williams dros yr ochr gadarnhaol, a Mr. J. J. Evans dros y nacaol. Wedi clywed y papurau caed syl- wadau peJlach ar y cwestiwn gan y ilywyiid, ynghyda'r Mri. R. Morgan a W. J. Llewellyn. Wrth bleidleisio ar y diwedd caed foi y mwyafrif y tro hwn o blaid peidio diddymu Ty yr Arglwyddi. R CITY ROAD.-Ceir noson lawen yn City Road nos Iau nesaf. Mae'r gwyr priod yn credu eu bod mor groesawgar a neb yn y lie, ac er profi hynny rhoddant Swper Goffi ar raddfa eat g i'r aelodau nos Iau nesaf. Chwi fechgyn leuainc a merched ewch yno yn Uu er mwyn y wers. JEWIN. -Nos 1au nesaf cynbelir cyfarfod terfynol y Gymdeithas Lenyddol yu y lie hwn, ac mae arlwy gerddorol o'r radd 01 eu wedi ei threfnu, a blaenorir hynny gan bryd o de moethus tan gyfarwyddyd merched ieuainc dengar y lie. DEWI SANT, PADDINGTON.—Cyngerdd.—O^ dan nawdd y Gymdeithas Lenyddol a Cher- ddorol, cynhaliwyd cyngerdd o radd uehel. yn neuadd Dewi Sant, Mawrth lOfed Tref- nydd y cyngerdd oedd Mr. David Jenkins,. Sheldon Street, un o weithwyr dihafal yr Eglwys yn Paddington. Trodd y cyngerdd hwn allan yn Ilwyddiant mawr. Cafwyd cerddorion o fri i wasanaethu ynddo, ac y mae ein rhwymedigaeth yn fawr iddynt am* eu cymwynasau. Llywydd ac arweiuydd y cyfarfod oedd Mr. John Williams, Ifield Road. Wele restr o'r artistes Misses V- Muller, L. James (R.A.M.), L. Fairney, (R.C.M.); M. Williams (R.A.M.) J. M. Horstead Mri. D. J. Davies, R. G. Davies, E. Jones, D. Woodroffe, Shirland Road Glee

CYMRO O'R WLAD AR YMWELIAD…