Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Advertising
For a Supply of ilBSPill I ) UNST.6ND.aBDISBD 1MEDLK, delivered to time, with JULL WARRANTY, APPlpRBETH aZ POCOCK, LTD., ALBJBBT EMBANKMENT, S.E. West Gentral and Northern Depot: REGENTS BUILDINGS. Telephone Nos. :-Head Depot: 1249 Hop. Northern: 1676 Holborn. WAKEFIELD ST., KING'S CROSS. nBB^aDHgH9BgggBgB9eDBHKsa^BBBHBaaBannaBEK[ajgniHHBHDHBH(nra^KBmramBatssnK3i!DR9RnnHeHHBnBaHHMHB^raKBagHHBEan UNIVERSITY COLLBOE OF WALES ABERYSTWYTH. One of the Constituent Colleges of the University of Wales PRESIDENT—The Right Hon. Lord Rendel. PRINCIPAL- T. F. Roberts, M.A. (Oxon), Ll.D (Vict). rnHE next Term begins on January 14th, 1908. A X number of Entrance Scholarships and Exhibi- tions, open to both Male and Female Candidates above the age of 16, are offered for Competition on Tuesday, September 15th, 1908, and the following days. Students are prepared for Degrees in Arts, Science (including the applied Science of Agriculture), Law and Music. Sessional Composition Fee, £ 10, with additional Laboratory Fees for Science Students. Registration Fee, 21. Men Students reside in Regis- tered lodgings in the town, or at the Men's Hostel. Warden: Prof. J. W. Marshall, M.A. Women Students reside in the Alexandra Hall of Residence for Women. For full particulars respecting the General Arts and Science Departments, the Law, Agriculture, and Day Training Departments, the Department for the Training of Secondary Teachers, and the Hostels, apply to J. H. DA VIES, M.A., Registrar. d. FRANCIS WILLIAMS (late 14, Golden Square), Now with Messrs. APSEY & BOLLER, Late 14, GOLDEN SQUARE. mfII\E:S, 230, EDGWARE ROAD, W. —.►»<«— West End Cut and finish in Latest Style and of Best Materials, at Moderate Prices. Mr. Williams will be pleased to call with samples on receipt of card. D. COOKSEY & SON, Inexpensive and Modern Funerals. (Price Liiit on application.) 266, UPPER STREET, ISLINGTON, and 52, AMWELL STREET, PENTONVILLE. Carriage Department 97. CHAPEL STREET Telephone Nos. 30 and 601. NORTH
.PLA'R FFIGYRAU.
PLA'R FFIGYRAU. Ar ol bod yn chwareubeth diniwed am nsoedd lawer y mae argoelion fod y Ddir- prwyaeth Eglwysig am droi i fod yn flinder gwladol, ac yn ddirmygedig gan genedl gyfan. Y rheswm am hyn yw, nad ydyw'r ffigyrau a ddygir ger bron gan y gwahanol dystion yn rhai y gellir dibynnu arnynt gyda'r manylrwydd a'r sicrwydd ag a ddis- gwylir gan y cadeirydd ac adran o'r Dir- prwywyr; ac maent wedi awgrymu y priod- oldeb o gael cyfrifiad crefyddol dros Gymru gyfan Yn naturiol rhaid i unrhyw gyfrif- iad a wneir yn swyddogol fod yn gyfrifiad manwl. Rhaid i bob enwad gael ei hadran, a phob plentyn gael ei gyfrif, beb son am ddosrannu'r crefyddwyr proffesedig, gwran- dawyr achlysurol, a'r afradloniaid. Heb hyn amhosibl fyddai boddloni y naill adran na'r llall. I wneuthur cyfrifiad manwl a therfynol o'r nodwedd yna byddai'r gost yn enfawr. Ac ar ol yr holl draul a fyddai cefnogwyr yr Eglwys yn barod i roddi Dadgysylltiad a Dadwaddoliad pe profai'r ffigyrau yn an- OY ffafriol iddynt; neii a wnai'r Ymneillduwyr daw a son am ryddid crefyddol pe dangosai'r cyfrif fod en ffigyrau hwy yn anghywir a thwyllodrus ? Dim o'r fath beth. Byddai'r cyfan yn yr unfan, a gall y cadeirydd a'r Dirprwywyr wneud yr Adroddiad y mynont. Mae IIais Cymru ar y cwestiwn hwn wedi ei wneud mor glir a phendant fel mai ofer fyddai unrhyw gyfrifiad cyffredinol o'r fath. # O'r cchr arall, beth pe cawsem gyfrifiad o'r holl addolwyr yn holl eglwysi ac addoldai Cymru ar Saboth neillduol. Gallesid ei wneud yn ddirgel ar gynllun cyfrifiad y Daily News o addolwyr Llundain rai blyn- yddau yn ol; neu benodi Saboth arbennig a phenodi cyfrifwyr swyddogol ym mhob tref a phentref drwy bob Sir. A fyddai rhywbeth hannerog o'r fath yn ateb un diben ? Prin y gallwn gredu hynny. Ni wnaeth ffigyrau Llundain ond dangos mor ddifater ac anwar ydoedd trigolion y ddinas, a sicr y cawsid yr un arwyddion o ddifater- wch yn holl drefi Cymru. Yn wir, mae'r ffigyrau a gyhoeddwyd yn ddiweddar am drefi fel Caernarfon a lleoedd ereill yn y Gogledd yn tystio yn groyw nad yw hanner nifer yr aelodau yn abl i fynychu yr addoldy ar bob Saboth. Yn ein barn ni mae'n rhy hwyr o'r dydd i ofyn am ffigyrau ar bwnc fel hwn. Os nad yw'r Ddirprwyaeth yn barod i roddi'r ystyriaeth priodol o'r hyn y mae'r gwahanol enwadau wedi baratoi, gwell fydd rhoddi pen ar y prawf a gadael y cyfan yn ddisylw. Ni fyddai'r gwaith ond gwas- traff ar arian a gwastraff ar amser, a'r oil i ddim ond i ychwanegu at ffaeleddau y Ddirprwyaeth ryfedd hon.
NODION EISTEDDFODOL.
NODION EISTEDDFODOL. Deallwn fod y pwyligor ynglyn ag Eis- teddfod City Road yn teimlo'n wir foddhausv ar lwyddiant yr wyl, ac fod gweddill rhag- orol yn llaw'r Trysorydd ar ol talu yr holl ofynion. Gofyna'r ysgrifenyddion ar i ni gywiro un gwall yn ein hadroddiad. Yr oreu am ganu'r unawd contralto ydoedd Mrs. Margaret Davies, Harringay, a'r goreu am gystadleu- aeth y drawing oedd Miss Muriel Evans, Poplar. Un o blant ardal Ystumtuen, ger Aber- ystwyth, yw Mr. Ebenezer Hughes. Daeth i Lundain rhyw 14 mlynedd yn ol, ac mae wedi glynu yn ffyddlon i'r achos yn City Road ar hyd yr amser, ac wedi gweithio yn galed drwy eisteddfodau a chyngerddau i gasglu arian lawer tuag at leihau dyled y capel. Yn ei waith dyddiol cynrychiola'r ffirm Mri. Lidstone & Holme, Old Street, a gwna fasnach helaeth ymhlith y llaethwyr Uym- reig. Mae'n adnabyddus i gylch eang o'i gydgenedl, ac mae ei sirioldeb a'i natur dda yn ei wneud yn hoffus gan bawb. Un o blant City Road yw Mr. Eddie Evans; yn Gymro pybyr er wedi ei eni a'i fagu yn Llundain. Mae'n eisteddfodwr gwych o'i goryn i'w sawdl, ac yn un o'r rhai ffyddlonaf gyda'r gwyliau blynyddol hyn a geir ynglyn a'i fam eglwys. Mae'n adrodd- wr o gryn fri, ac wedi ennill ami i wobr ar Iwyfan yr Eisteddfod ei hun. Rhyfedd mor ychydig o gefnogwyr ac hyrwyddwyr ein heisteddfodau Ileol sydd ar bwyllgor yr Eisteddfod Grenedlaethol Mae yna lu o fechgyn gweithgar o'r tuallan i'r pwyllgor sydd i wneud gwyl 1909 yn Hwydd- iant, a goreu po gyntaf y ceir rhai o honynt i uno a hyrwyddwyr yr wyl genedlaethol. Ni ddylid cau neb allan; oherwydd mewn lie mor wasgarog a Llundain rhaid i bob cwr o'r ddinas gael ei chynrychioli yn briodol. Hyd yn hyn nid oes yr un sibrwd aim ymddangosiad rhaglen Gwyl 1909. Mae'n hen bryd i'r pwyllgor bellach roddi cyhoedd- usrwydd i'r adran lenyddol, os ydynt wedi penderfynu ar destynau. Mae'r Pasc yn awr yn agoshau, ac ar ol hynny daw prysur- deb yr haf, fel na bydd modd i'n chwilotwyr fyned ati cyn y gauaf nesaf.