Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

GWYL DEWI.

News
Cite
Share

GWYL DEWI. DATHLU COFFA YR HEN SANT YN LLUNDAIN. Ceninen werdd rhowch imi,] Ar Ddygwyl Dewi Sant, A chawl, ac uwd, a llymru, A straeon, lawer cant, Am hen wroniaid Cymru,- Eu sel a grym eu ffydd, A'u dawn i ysbrydoli Calonau'r Cymry sydd." Dyna fel y cana'r bardd offeiriad Myfenydd .am Ddygwyl Dewi, ac yn yr ysbryd hoenus ilawen yna y bu llawer o Gymry'r ddinas yn dathlu ei goffa yn ystod yr wythnos a aeth heibio. Myn llawer ei wneud yn ddydd o alar ac -ochain, a thynnu gwyneb hir, fel pe buasai'r lien Sant yn un o'r piwritaniaid culaf, neu yn berson mor anaturiol ag y gall meddwl pabyddol ei bortreadu yn ei ing a'i alar. Ond diolch, mae'r Cymro yn fwy llawen ei ysbryd na hynyna, a dathla ei goffadwriaeth mewn mwyniant a hedd; mewn cawl, ac iUwd a llymru, a straeon yn unigedd y wlad, mewn gwledd a chan ac araith wladgarol yn y prif drefi ac ymlith y Cymry sydd ar wasgar. Yn Llundain dechreuwyd ar y dathlu nos lau, Chwefror 28ain, trwy gynnal gwasan- .aeth.au crefyddol yn Eglwys Gadeiriol St. Paul ac yn y City Temple. CITY TEMPLE. Dyma un o brif demlau ymneillduaeth yn Llundain, ac ynddi y mae ymneillduwyr Cymreig y ddinas o flwyddyn i flwyddyn wedi bod yn cynnal eu cyfarfod pregethu. Pan gychwynwyd y cyfarfod cenedlaethol yn St. Paul rai blynyddau yn gynarach, yr oedd apel arbennig wedi ei gwneud at boll Gymry'r ddinas, o bob sect i ymuno yn y dathliad. Rhoddwyd addewid y cawsai rhai -o'r tuallan i gylch Eglwys Loegr gael cymeryd rhan yn y gwasanaeth, ond buan y -caed allan fod y cynulliad yn cael ei ddef- nyddio er manteision enwadol a phrofi fod yr Eglwys yn llawer mwy cadarn nag y -credid yn gyffredin. Pan wnaed hyn, trefn- odd yr Ymneillduwyr Gymanfa arall yn y City Temple, a daw'r miloedd yno i gyd- .addoli ac i wrando ar bregethiad yr efengyl yn yr hen iaith. Eleni yr oedd y cynulliad yn fwy nag arfer, pob sedd o'r adeilad eang wedi ei llanw, ond cynulleidfa o bobl ieuainc oedd hi gan mwyaf. Dechreuwyd y gwasanaeth am 7 o'r gloch, o dan arweiniad y Parch. Thomas Jones, gweinidog poblogaidd y Wesleyaid yn City Road. Darllenwyd gan y Parch. Herbert Morgan, Castle Street; gweddiwyd gan y Parch. J. E. Davies, Jewin. Pregethwyd gan y Parchn. D. Gwynfryn Jones (W), Llandudno, ac Owen Evans (A), Lerpwl, a gollyngwyd y dorf trwy weddi gan y Parch. D. Oliver, Mile End. Gwasanaethwyd wrth yr organ gan Mr. E. Jones, Fatmouth Road, ac arweinid y canu gan Mr. Maengwyn Davies. Ond beth ellir ddyweyd am werth cenedl- aethol, neu ysbrydol, y cynulliad ? Fel y dywedwyd yr oedd yn un o'r rhai harddaf a gaed, ond rhaid addef ei fod ym mhell ar ol mewn dylanwadau daionus. Cwyno a beio wna'r mwyafrif fuont yno. Yr oedd y canu yn hynod o sal a dieffaith, ac er i Mr. Davies guro a gwaeddi am well hwyl, fel pe mewn rehearsal wledig, llac a difywyd oedd y .,cyfan. Yr oedd rhyw brudd-der llethol tros y cyfan fel pe bae'r holl dorf wedi dod yno i alarnadu yn hytrach nag i dderbyn ysbryd- iaeth o'r newydd i gadw yn fyw eu hysbryd cenedlaethol a chrefydd ei tadau. Yr oedd y pregethau yn draethiadau "cymeradwy i gymanfaoedd diwygiadol. Addoliad cyffredinol oedd pwnc ymdrin- iaeth y cyntaf, yn seiliedig ar holiad y wraig o Samaria, pa un ai'r mynydd hwn yute Jerusalem oedd y man mwyaf priodol i addoli ynddo. Dywedai Iesti Grist yn ei ateb i'r wraig," meddai,"beth yw nodweddion yr unig addoliad cymeradwy gan Dduw. (1) Nad yw yn dibynnu ar y lie na'r amser. Calon yw'r cwbl. (2) Fod addoliad bob amser yn ddiwylliant. (3) Mai nid ofn yw'r addoliad yma; ac yn (4) nid swn na ffurf, eithr Sancteiddrwydd a Gwirionedd." Athrawiaeth yr lawn oedd gan Dr. Evans, yn seiliedig ar Y Gair a wnaethpwyd yn gnawd." Rhoddodd i ni (1) bortread o natur yr ymgnawdoliad, (2) profion a thystion o'r Ymgnawdoliad, ac yn (3) nodweddion y Gair—yn llawn Gras a Gwirionedd. Addefai ar y dechreu fod yr hen athraw- iaethau yn ddigon iddo ef, ac fel engraifft o'r hen ddiwinyddiaeth ar ei goreu yr oedd y bregeth hon, ac yn amheuthyn o beth i'w chlywed o bulpud mor newydd a phul- pud y City Temple. SANT PAUL. Yr oedd torf enfawr wedi ymgrynhoi i'r hen Eglwys Gadeiriol fel arfer. Mae'r Eglwyswyr yn curo'r Ymneillduwyr mewn trefn a phybyrwch. Yr oedd degau o stiwardiaid, llawer o honynt heb fod yn perthyn i'r Eglwys wladol, wedi dod ynghyd yn brydlon, a gwisgai pob gwr ei geninen i ddangos mai dathlu gwyl genedlaethol yr ydoedd, a gofalent fod y lleoedd yn cael eu llanw yn rheolaidd. Tra 'roedd y torfeydd yn dylifo i mewn caed detholiad hapus o gerddoriaeth ddyrchafedig gan gerddorfa bres y Grenadier Guards, tan arweiniad Dr. A. Williams. Cyn decnreu'r gwasanaeth. cododd y dorf i gydganu "Hen Wlad fy Nhadau," a gwnaed hynny. gyda hwyl gan yr adran Gymreig oedd yn y lie, ac wedi gorphen a'r anthem genedlaethol wele'r cor yn ymdeithio i fewn tan ganu Deuwch hil syrthiedig Adda Daeth y Jubil fawr o hedd, ac 'roedd yn amlwg fod yma ymarferiad wedi bod gan y cor, oherwydd canasant gyda hwyl a dylanwad. Yr oedd y dethol- iad o emynau a tnonau yn hynod addas- tonau llawn a bywiog, ac emynau calonogol, teilwng o bobl yn cadw gwyl eu cenedl. Pregethwyd eleni gan y gwir barchedig Ddeon Bangor, gyda hyawdledd ar Undeb yr Eglwys. A oedd yn bosibl uno Cymru yn grefyddol? Doedd wiw i ni ddyweyd nad oedd. Bu adeg yn ei hanes-yn oes yr hen Sant y coffeid ei fywyd y noson honno— pan yr oedd Cymru grefyddol yn un, yr oedd yn un yn adeg Esgob Morgan, ac os cadwodd yn un am fil o flynyddoedd gallai eto ddod yn un yn ysbryd yr Hwn a addol- ent yn awr. Boed iddynt sicrbau yr undeb hwnnw oedd ei weddi a'i genhadaeth yn yr wyl eleni. Gwneid casgliadau yn y ddau gynulliad tuag at y treuliau. Mae treuliau yr wyl yn Sant Paul yn cyrraedd dros gan punt, tra nad yw eiddo yr ymneillduwyr ond rhyw chwarter y swm. Er hynny cwyno yr oedd trefnwyr y ddau gynulliad nad oedd y casg- liadau eleni i fynu a'r disgwyliadau. GWLEDDOEDD GWYL DEWI. Trannoeth i'r cynulliadau crefyddol bu Cymry'r ddinas yn mwynhau gwleddoedd ar raddfa lied eang. Yn unol a thraddodiad Cymdeithas YR HEN FRYTHONIAID ymgynullasant yn yr Holborn Restaurant, ond nid oedd y nifer eleni mor lliosog ag y gwelsom mewn blynycldau gynt. Y Gym- deithas hon sydd a rheolaeth Ysgol y Merched yn Ashford, a dyma'r 192ain ciniaw blynyddol yn ei hanes. Eleni llywyddid gan Arglwydd Harllech, ac ymysg y gwahoddedigion oedd Mr. W. It. M. Wynne, Dr. Henry Owen, Mr. W. Goscornbe John, y Milwriad R. Owen Jones, y Milwriad Laurie, Sir Griffith Thomas, Mr. John Thomas (Pencerdd Gwalia), Mr. John Francis, y Parch. Hartwell Jones, a'r Parch. Morris Roberts. &c. Caed ychydig areithiau ar y diwedd yn rhoddi manylion am waith yr Ysgol yn Ashford, a gwnaed apel am ychwaneg o gynorthwy er gwneud rhai gwelliantau ynglyn a'r adeilad. Caed caneuon gan gor o Ferched yr Ysgol, ond prif ddyddordeb cerddorol y noson oedd y detholiad o alawon Cymreig a roed ar y delyn gan Pencerdd Gwalia. Hwn yw ei ddydd pen blwydd yntau, ac eleni cyr- raeddai y 81 mlwydd o'i oedran, ac er wedi cyrraedd ymhell tros yr addewid, y mae'n parhau mor iraidd a sionc a phe ond tua deugain oed. Cynhelid gwledd Gymreig arall yr un noson yn YR HOTEL CECIL, lie y daeth dros dri chant o bobl ynghyd, tan lywyddiaeth Mr. Ellis J. Griffith, A.S., yr aelod poblogaidd tros Fon. Cinio'r Cymru Fydd y gelwir hon yn gyffredin, gan mai 'Cymdeithas Cymru Fydd fu'n offerynol i gychwyn y cynulliad rai blyn- yddau yn ol. Mae'r Gymdeithas wedi marw, neu o leiaf wedi myned i hepian, oherwydd yr unig awgrym o'i bodolaeth y pedair mlynedd hyn yw cinio Gwyl Dewi. Trefnwyd y cynulliad fel arfer gan Mr. Arthur Griffith, a threfnwr penigamp yw hefyd. Fel is-gadeirwyr caed y boneddigion a ganlyn yn llywyddu byrddau llawn Mri Arthur Rhys Roberts, Dr. D. L. Thomas, Mr. J. Hinds, Mr. J. T, Lewis, Mr. John Owen, Mr. Woodward Owen, a Mr. Philip Williams. Y prif wahoddedigion oedd Syr Alfred Thomas a'r Athro Henry Jones, o Glasgow, ac ymysg y rhai oedd yn bresennol gwelsom Mrs. Ellis J. Griffith, Mrs. Timothy Davies, Mr. Idris, A.S., Mrs. Idris, Mrs. John Hinds, Mr. D. Lleufer Thomas, Dr. Ivor Thomas, Mr. T. Davies, London Road, Mr. a Mrs. Gwilym Owen, Mr. a Mrs. Glyn Evans, Mr. T. D. Jones, Mr. Tim Evans, a Dr. Walter Davies. Yr oedd bwydres faith wedi ei pharatoi, ac ar ol gwneud cyfiawnder a honno, caed nifer o areithiau a chaneuon gwladgarol. Wrth gynnyg y llwncdestyn "Cymru" sylwai Mr. E. J. Griffith mai dyma'r ped- werydd tro iddo gael yr anrhydedd i siarad ar y fath bwnc yn y wledd flynyddol hon, Yr oeddem eleni wedi gwneud un cyfnewid- iad er hynny. Ar adegau blaenorol, yr oeddem wedi gwahodd pobl ddieithr i fod yn brif siaradwyr, ond eleni caed dau o'n henwogion ein hunain yno. Un yn arwein- ydd y blaid yn y Senedd, a'r llall yn ar- weinydd meddwl i bobl ieuainc yr Alban. Yr oeddem megys yn dod yn ol i diriogaeth mwy cartrefol, ac mae hynny yn nodwedd- iadol o honom yn awr. Rhyw ganrif a hanner yn ol yr oeddem yn hoffi canu yn y cywair lleddf a galaru am a fu, ond erbyn heddyw yr oeddem yn magu mwy o hunan- hyder ac yn dechreu hawlio ein lie ymhlitli cenhedloedd y ddaear. Syr Alfred Thomas, wrth ateb, a ddywedai nad oedd dim yn fwy pleserus ganddo nag ateb ar ran Cymru, a chredai fod gwawr well wedi dod ar ein gwlad yn ddiweddar, ac fod cystal si awns i'r Cymro yn ei wlad ei hun bellach ag oedd i'r Sais a'r Albaenwr. Y Proffeswr Henry Jones a ofidiai am nad oedd wedi meddwl am bwnc i siarad arno, eto fel Cymro yr oedd yn llawenhau ei fod yn bresennol yn nathliad Sant y genedl. Yr oedd cynulliad o'r fath yn ei wneud ef i fyfyrio am a fu, a'r peth cyntaf ddeuai i'w feddwl oedd nodwedd arbennig y Cymro yn yr oesau gynt. Brwydrau colledig oedd brwydrau y Cymro wedi bod erioed. "He