Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

--Cawl Cenin.

News
Cite
Share

Cawl Cenin. DYDDIAU'R cawl yw y rhain. Caed cawl cenin ar bob bwydres Gymreig ar ddydd Gwyl Dewi; ond o bob cawl mae cawl y Ddirprwyaeth Eglwysig yn fwy cawledig na'r un. AETH chwe mil o bobl i Sant Paul i Gymanfa Fawr Gwyl Dewi, a thair mil o Gymry i'r City Temple. 'Roedd mwy o atyniad mewn cerddorfa bres na phregethau hirion y lie olaf. MR. LLEUFER THOMAS oedd yr unig un i siarad yn Gymraeg yng nghinio Gwyl Dewi nos Wener diweddaf. Gallai y Cymry ereill siarad Cymraeg hefyd, ond gan fod y Wasg Seisnig yn bresennol gwell oedd siarad yn yr iaith fain. TROI'R enwau Cymreig mewn dull gwreiddiol gan rai Saeson mewn llysoedd, ac nid oedd y Barnwr Vaughan Williams yn eithriad pwy ddydd ar y Ddirprwyaeth Eglwysig pan y galwai Flwyddiadur yr Anibynwyr yn "bloody adder." Gan yr honir fod llawer o gyfrwystra'u sarff ynglyn a'i gynnwys, feallai y gellir esgusodi'r hen wron. ADDEFIR yn lied gyffredin fod llaethwyr Llundain wedi troi'n gefnogwyr pybyr i'r blaid Doriaidd ar y Cyngor Sir ac iddynt 2gos oil werthu eu hegwyddorion yr wyth- nos ddiweddaf er budd a lies yr elw fas- nachol. Credent fod y Oyngor ar fin codi masnachdai gwrthwynebol iddynt, ac roedd hynny yn ddigon i bery pob un o honynt anghofio ei ymneillduaeth a'i ryddfrydiaeth ar unwaith. GWAITH digon anymunol mewn eglwys Gymreig yw ethol blaenoriaid, a dyna fydd un o orchwylion Eglwys Jewin yforu. Mae'n dra gwahanol mewn eglwysi Seisnig. Yno rhaid cymhell a gwasgu'r swydd ar bersonau adnabyddus, tra mewn eglwysi Cymreig rhaid didoli a dewis trwy gynllun y tugel. Mewn ami i le hefyd mae pleidwyr y gwahanol ymgeiswyr am Sulia-u lawer yn cymell pleidleiswyr i'w ffafr-ddynion, ac mae'r pybyrwch ar y diwedd mor ddifyr a hwyliog a phe baech yn cyhoeddi canlyniad etholiad cyffredinol yn y lie. Pob llwydd i Jewin ddod yn hwyliog drwy'r gwaith. GELLID meddwl mai gwr croendeneu iawn yw Mr. Ellis J. Griffith ar rai adegau. Ar 01 araith yr Athro Henry Jones yn yr Hotel Gecil, a'i gymhelliad amserol am Undeb yn y blaid Gymreig o'r un nodwedd a'r undeb a ddangoswyd yn yr etholiad cyfFredinol diweddaf. Cododd Mr. Griffith i hanner wawdio y fath syniad. "Mae'n debyg," meddai, "mai'r Ddirprwyaeth Eglwysig yw safon yr Athro dysgedig am yr hyn ddylai undeb fod," a chredai fod yr aelodau Cym- reig mor unol a'r gwyr hynny beth bynnag. Roedd clywed Mr. Ellis Griffith yn siarad gair tros y blaid yn y Senedd yn amheuthyn o'r fath oreu!

GWNEUD DEWI YN SANT.

Advertising