Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
-oS...-,,--_._---'-----_....-HYNAFIAETHAU…
-oS HYNAFIAETHAU PLWYFOL MON. 1 XITL. I Nil oes hefyd, byd a'i barn, Gydwedd yt', Ynys Gadarn, Am wychder, llawuder, a lies, MwycaL 'mbob cwr o'th mynwes, Dyffrynoedd, glyooeJd, glbaau, Pob peth yu y toraeth tau; Bara a cbaws, bir a chig, Pys-r, ad.a*, pob pasgedig Dy feicbiog ddeiliog ddolydd Ffrwytblou, megys Saron aydd, A pbruaau dy ddyffrynoedd, Crwm lwytb, niegys Carmel oedd. GRONWY OWEN. TRE' CARWEDD. Y dreflan hon sydd o'r un natur a'r un flaenorol, ac wedi ei rhoddi i deulu Frondeg, trwy dalu swm o arian, ac o'r diwedd treiglodd i etifeddiaeth Bodowen. Canfyddir oi bod gynt wedi ei dosranu i dair pennodiad y gyntaf, i Wele Meibion Moel; yr oedd ar y cyntaf yn llaw y tywysog, a'i atdaliad etifeddol (fel y gelwid hwy) oedd bum' swllt <u phump ceiniog bob tri mis. Y nesaf i bennodiad neu Wele Meibion Hwva, pa un a gynnelid yn amser Iorwerth III., gan Dafydd Dew, Howel Moel, ac aerod ereill o'r tir hwu, I pa rai a dalasant i'r brenin bob tri mis, tri swllt ac wyth a dimeu; y trydydd pen- nodiad a elwid Wele Garwedd oddiwrth ba un yr enwyd y dreflan, yn cynnal yn yr amseroedd byny y tirddeiliaid canlynol: —Lowarch ap Llowarcb, ac Iorwerth ap Llywarch, yn nghyd ag aerod ereill, pa rai oedd yn rhwym o dalu i'r drysorfa freiniol, bob tri mis bum' swllt a phump ceiniog, fel yr ymddengys ei fod yn y llyfr breiniol. Yr holl ffermwyr yn y dreflan hon oedd yn rhwym i roddi gwasanaeth yn melin eu harglwydd yn Rhossir, i woinyddu yn y Faenor, ac i dalu am bob rhyddhad ddeg swllt, a chymmaint a hyny am bob Amobrum, yn nghyd a chylnmeryd eu tro gydn'r march a'r rhaglot. leiiynau y dretian hon, fel y desgrifir hwyntgan yr rhai oeddynt yn trigo yn y Ile yw y rhai a ganlyn :-Dechroua yn Morfa Malldraeth, ymestyna heibio Rheol y Maescyd i gae Maes Clochydd, oddiyno gan fyned oddi- amgylcli Rhandir, i Crochan Caflo, ac wedi hyny, gyda ffos Caenewydd, yn syth i Borfa Malltraeth. Y mae y dosbarth hwn yn nghyd a'r un blaenorol, yn cael ei dorri i fynu yn fynych gan fryniau bychain; ond y mae y lie sydd yn agos i'r morfa, a'r mor yn wastad ac yn rhoddi ad-daliad da am lafur y ffermwyr, mewn Jd a gwair. Yr oedd yr oil o honi yn gystal a'r dosbarth blaenorol a enwyd, yn amser Mr Rowlands yn meddiant Syr Arthur Owen, Barwnig, ac yn cael ei gosod i dir-ddbiliaid yn fferwydd bychain am ardreth flynyddol, ac y mae yn cael gan y ffermwyr, Amaethiad da, dyma dir, Hau meilliou arwy a ellir: Lie bti gawn, a phlu gweunydd, Daw dail, a llygaid y dydd. Br caul dan aradr ac Hurjd o dtil gwlybyrog, Cloddio a rhwygo rbigol, Arwaiu d\Vr o waen a d6i A dl<>di'r sychdir sil, O'r llynoedd a'r lie anial; Ail yn Eidal neu Edan, Neu ail swydd y Nilus hêo," BRONDEG. Saif y palasdy hynafol hwn ar fin y ffordd sydd yn arwain o Niwbwrch i Llan- gaffo, ac y mae ei arvvynebedd celfyddydol a'i gyrn simddeuau hirion yn daugos y bu unwaith yn fan o fri, ac yn dwyn ar gof i lu ni yr amser yr oedd Bess yn teyrnasu." Yr oedd Lewis ap Owen ap Meurick, Ysw., Brondeg, yn cynnrychioli Ynys Mon yn y Setiedd yn y flwyddyn 1553; ac ar y 6ed o Orphenaf yn y flwyddyn hon y gwelodd yr Arglwydd yn dda ollwng fflangell drom ar y deyrnas hon trwy gymmeryd i ffordd y brenin ieuangc a daionus, Edward VI., yn un mlwydd ar bymtheg oed, ac yn y seithfed flwyddyn o'i deyrnasiad. Yr oedd y brenin ieuangc hwn a'i frycl ar ddi- wygio yr eglwys a gwneutbur daioni i'r deyrnas trwy eu rhyddhau oddiwrth iau y bwystfil o Rufain; ond cyn iddo allu cario hyny allan yn effeithiol, torwyd ef i lawr yn mlodeu ei ddyddiau. Etto, er mor ieuangc ydoedd, ac er fod yr ysbaid y bu yn teyrnasu yn fyr, derbyniodd y deyrnas ddaioni annhraetbol oddiar ei law. Yn ei amser ef y bu diddymiad ar y gyfraith greulawn a elwid Deddf y Chwe' Erthygl. Yr oedd hon yn 1. Yn traddodi i'r tan y neb a wadai draws- sylweddiad yn y cymmun,. 2. Yn nacau y cwppan (sef y gwin) i'r bobl oil ond i'r offeiriaid. 3. Yn gwahardd priodas i'r offeiriaid. 4. Yn rhwymo i gadw addun- edau o weddwdod. 5. Yn cadarnhau offerenau neillduol. 6. Yn rhwymo i gyffesu pechodau yn nghlust offeiriaid, fel peth hollol reidiol, ac yr oedd cospedig- aeth eichyll ar bwy bynag a droseddai un o'r penau a nodwyd. Yr hen Gymry a alwent y gyfraith hon "Yr Anghenfil chwe-phen," neu "Y fflangell chwe- chortyn;" ond amser a ballai i mi enwi ychwaneg. Yn ei le ef, ar y degfed o Or- y Z3 phenaf yn yr un flwyddyn, cyhoeddwyd y bendefiges Jane Grey, yn ol y defodau ar- feredig, yn frenhirves. Yr oedd hon hefyd, fel ei chyfyrder yr ydym newydd grybwyll ei enw, yn Brotestant o'r gwraidd ond yn mhen naw diwrnod gorfu iddi ym- ddiosg o'i dillad brenhinol, a Gorphenaf r. y 19eg o'r flwyddyn a nodwyd, dinasydd- iou Llundain a gyhoeddasant y bendeiiges Bab) ddol Mari (waedlyd) yn frenhines, yn nghq,Dol erechwen orfoleddus ei chan- lynwyr, a'r mis caulynol yr ydym yn cael Jane Grey ;t'i phriod wedi eu collfarnu i gael tori un penau ar y blocyn yn y Twr. Gwelir oddiwrth yr hanes a nodwyd mai amser byr a therfysglyd a gafodd yr lieu Brotestant o'r Frondeg yn y Senedd- dim ond o fis Mawrth hyd Gorphenaf yn yr un flwyddyn. Ond yn mhen cbwe' blyne id yr oedd amgylci-dadctu wedi newid-y Pabyddion wedi eu darostwng, a'r Protestaniaid, yn mherson y frenhines fawr Elizabeth, yn teyrnasu, a Haul y Cyfiawnder yn fflachio ei oleuni grasusol i bob goror o'r deyrnas y Beibl yn cael ei gyfieithu a'i argraffu yn iaith y werin, C, e M. a'r tlodion yn cael pregethu iddynt efengyl y tangnefedd yn ei phurdeb. Wel, boed felly i beirliau. 0 dan y frenhines ddiweddaf a nodwyd, Lewis ap Owen ap Meurick, Ysw., Bron- deg, oedd uchel-sirydd Mon yn y blynydd- oedd 1559 a 1571. Bu hefyd yn cyn- nrychioli yr ynys yn y Senedd yn y blyn- yddoedd 1572-1580; ac o dan deyrnas- iad Charles I. yn 1633, William Owen, Ysw., Brondeg, oedd uchel-sirydd Ynys Mon. (I'w barhau.)
YR HEN ABBOT 0 CANTERBURY.
YR HEN ABBOT 0 CANTERBURY. Aeth boneddwr at frenin unwaith, gan ymgrymu o'i flaen, a chyfarchodd ef fel y canlyn Boneddwr.-O, Frenin, a wyddost ti pa faint o wasanaethyddion sydd gan yr hen Abbot o Canterbury ? Brenin.—Na wn i. Bon.—Cant. Bren. Y mae hyny yn fwy nag sydd genyf fi yn cael eu cadw yn fy mhalas. Bon.—A wyddost ti pa sawl cadwyn aur sydd yn cael eu gwisgo gan yr hen Abbot ? Bren.—Na wn i. Bon.—Haner cant. Bren.—Y mae hyny gryn lawer yu fwy nag a geir yn mhlith jewels y Goron. 0 Ymwelaf a'r hen Abbot o Canterbury, am hyn y mae wedi byw cyhyd yn ei foeth- ineb, a meddyliwyf ei fod wedi byw yn ddigon hir bellach. Parotoer i mi fy ngherbyd, a mi a fynaf ei weled ef ar un- waith. Pan gyrhaeddodd y brenin yr heu Abbot o Canterbury, dywedodd: Bren.—Pa fodd, y Tad Abbot, yr wyf wedi clywed dy fod ti yn cadw cystal a gwell ty na mi. Y mae hyn yn drosedd, ie, yn drosedd uchel yn erbyn y Goron. Abbot.—Fy Arglwydd, ni weriais i ddim ericed ond yr hyn a ystyriais oedd yn eiddo i mi fy hunan. Ymddiriedaf ,na wna dy Fawrhydi ddim niwed i mi am ddefnyddio er cysur a dyddanwch ereill yr hyn ag wyf wedi ei enill yn onest. Bren.—Ie, y Tad Abbot, y mae dy ym- esgasodiad yn fawr ond y mae diogelwch y deyrnas yn gofyn am i ti golli dy fywyd, ac y mae yn rhaid i ti farw. Ond gan dy fod yn ddyn ag y prisir dy arabedd, a'th fod o ddysg mawr, rhoddaf i ti un cynnyg er achub dy fywyd. Abbot.—Enwa hwnw i mi, fy arglwydd. Bren.—Bydd yn rhaid i ti, pan ddeuaf i'r lie hwn etto, a sefyll yn mhlith fy urddasolion, atteb i mi dri o gwestiynau. Abbot.—Enwa hwynt, fy arglwydd. Bren.—Gofynir i ti yn gyntaf, pa faint wyf o werth, a hyny i'r geiniog; yn ail, pa faint o amser a gymmer i mi deithio o amgylch y ddaear; ar yn drydydd, pa beth fydd fy meddwl pan fyddaf yn siarad a, thi. Abbot.-O y mae y gyfyniadau yna yn gelyd i fy arabedd gwan i; ond os rhoddi di dair wythnos i mi i'w hystyried, ceisaf dy foddio. Bren.—Rhoddaf i ti dair wythnos o am- ser, a hyny o amser a fydd gymmaint ag a gei di fyw; ac os y pryd hyny na elli atteb fy nghwestiynau, eiddo'r Goron fydd y cyfan o'th lywodraeth. Wrth feddwl fod yr hen Abbot yn rhodio mor wyneb-drist a digalon, daeth un o'i fugeiliaid atto. Bugail.—Pa beth yn awr, arglwydd ? Abbot.—Trist iawn-trist iawn yw'r newydd, fy mugail, nid oes genyf ond tair wythnos i fyw etto, os na fyddaf yn alluog i atab i'r brenin dri o gwestynau. Bug.—Beth yw'r cwestiynau hyny, fy arglwydd Abbot ? Abbot.—Yn gyntaf, i ddyweud wrtho pan y bydd yn sefyll yn mhlith ei urddas- olion, pa faint ydyw o werth,yn ail, dyweud wrtho pa faint o amser i deithio o amgylch y byd; ac yn drydydd, pa beth fydd ei feddwl ar y pryd y bydd yn siarad a mi. Bug.—Cod dy galon, ymwrola, fy argl- wydd Abbot; oni wyddost ti erioed y gall dyn call ddysgu arabedd oddiwrth ffwl ? Y mae dynion yn dyweud fy mod i yn debyg iawn i ti yn fy ymddangosiad. Dyro fenthyg i mi dy wisg ac un o'th weision, a mi a safaf yn dy le o flaen y Brenin, ac a attebaf ei gwestiynau. Abbot.-Gwas ti a gei, a dillad taraw- iadol a roddaf i ti, cymhwys i sefyll o flaen y Brenin yn fy nghymmeriad i, arglwydd If 2iI:ini\o!.JlUl --c Abbot. Dos, a thi a gei dy wobr, os gelli achub fy mywyd. Pan ddaeth y tair wythnos i ben, dyma'l' Bugail o flaen y Brenin yn nghymmeriad Abbot, ac yn ateb cwestiynau y Brenin. Bren.—Croesaw i ti, Syr Abbot, yr wyt wedi cadw y dydd appwynfciedig yn ffydd- lawn. Yn awr, ateb fy nghwestiynau yn gywir, ac arbedir i ti dy fywyd, a dych- welir yn ol i ti dy fywoliaeth. Bug. (yn nghymmeriad Abbot).—Wei, fy arglwydd, i ateb yn gywir,rhaid dyweud y g-Wlr. Bren.—Bydd yn rhaid i ti ddyweud y gwir. Yn awr, dywed i mi pa faint wyf o werth, a hyny i'r geiniog. Bug.—Naw darn ar hugain o arian.— Bradycbodd Judas ei Arglwydd am ddeg ar hugain o arian, ac oddiar y Tryd yr wyt ti wedi bod yn foddion i fradychu yr eglwys, yr wyf yn meddwl dy fod ti yn un darn llai o werth nag ef. Bren. (yn eb.werthin).-Wei, wel, y Tad Abbot, nid oeddwn yn meddwl fy mod yn werth can lleied. Ond yn awr, yr ben hen walch, dywed i mi pa faint o amser a gymmer i mi deithio o amgylch y byd. Bug.—Bydd yn rhaid i ti godi gyda'r haul, a cherdded gyda'r unrhyw nes iddo godi boreu dranoeth, a thi a fyddi wedi teithio o amgylch y byd mewn pedair awr ar hugain. Bren. (yn chwerthin). Ni ddaeth i'm meddwl erioed y gallaswn deithio mewn can lleied o amser. Ond yn awr y mae'r cwestiwn caletaf o'r cyfan yn dod-bydd hwn yn sicr o roddi eithaf prawf ar dy arabedd, Pa beth yw fy maddwl yn awr ? Bug. —Y mae yn dy ben di mai yr hen Abbot o Canterbury sydd o dy flaen, ond yr wyt yn camsynied-yr hen fugail ydyw; ac fel na bydd i ti gael dy dwyllo, edrych arnaf (gan daflu ei wisg oddi am dano),ac yr wyf yn dyfod i ofyn am bardwn i'r hen Abbot ei hunan. Bren. (yn chwerthin yn galonog).—Ti a gei bardwn. Dos a dywed wrth yr hen Abbot dy fod wedi dwyn pardwn llawa a rhydd iddo oddiwrth y Brenin. Ac am danat ti, mi a roddat i ti anrhydedd yn fy nheyrnas am y digrifwch a greaist ger fy mron.
HELYNT CHWARELWYR DYFFRYN…
CNid ydym yn gyfrifol am syniadau em gohebwyr.) HELYNT CHWARELWYR DYFFRYN NANTLLE. FONEDDIGION,-Dichon y byddai ych- ydig nodiadau ar yr helynt hwn yn dder- hyniol gan ddarllenwyr lluosog y Llais; ac er mwyn bod yn fyr, y pwngc mewn dadl sydd gan y chwarelwyr yma ydyw, byrhau eu horiau gweithio. Cof gan lawer i helynt o gyffelyb fwriad ac amcan gymmeryd lie yma, rai blynyddau yn ol, pryd y llwyddwyd, yn rhinwedd dewrder a phenderfyniad, i gael ) r hyn a ofyn- wyd a diau y buasai yn llawer gwell i'r llwfr-ddynion hyny a safasant yn erbyn yr hyn y maent yn ei ofyn yn bresennol fod wedi ymladd eu hochr yn deg o blaid y o yr hyn oedd mor gyfiawn iddynt gael y pryd hyny ag ydyw yn awr. Ond gan fod yn bossibl i ddynion ddyfod yn ddyn- ion, yn 119 parhau i fod yn anifeiliaid o ddynion cynffonog, yr wyf ar y tir hwnw y t, yn caniattau iddynt fyned i'r maes, os metha cyflafareddiad, ond cofio ar yr un pryd fod gan y meistri hawl a phriodol- deb. Gwyr llawer mai yr hyn a gafwyd o'r blaen oedd, dechreu chwech boreu Sadwrn yn lie pedwar—myned adref han- ner awr wedi pump yn yr haf, diddymu y mis pum' wythnos, ac un neu ddau o bethau dibwys ereill; a'r hyn a ofynir yn awr ydyw, awr uiniaw yn nhymhor gauaf yn lIe hanner awr—dechreu gweithio han- ner awr wedi ebwech y boreu yn yr haf, a saith. boreu ddydd Llun- -rhyddid i gael diwrnod o ben iiis-myned i angladdau bob of yi-I i'r goruchwyliwr, a gwneud cabanod fel He i fwytta, ymdwvmno, a gorphwys yr awr giniaw y tymhor gauaf. Dyma y telerau a roddir gerbron y meistr- adoedd, ac fe all d nad ydynt oil y rhai mwyaf doeth u, rhesymol y gallesid meddwl am danyat. Yn awr, clorianwn hwy oIl-go sod vn hwy dan lywodraeth ein barn, yn deg a dibartiaeth, modd y gwypom faint o ddefnydd ymresymiadau anwrthwynebol sydd ynddynt. Yn 1. Yr awr giniaw yn y gauaf."—Mae y gofynlad hwn weli ei drwytho o hawl a phriodoldeb o ochr y gweithwyr. Nid oes dim yn diystyru dynoliaeth y chwarelwyr yn fwy na'r hanner awr druan dlawd, yn y gauaf oer, wedi bod dan wlawogydd t,Y trymion, rhew ac eira, gwyntoedd a chorwyntoedd yn ffyrnig lasu gwynebau a dwylaw dynion yn aml--ou traed wedi bod am ddwy neu dair awr yn eistedd yn eu gwaliau oerion, yn myned mor oer weithiau a darn o faen,—ond hanner awr o amser i fwytta, ymdwymno, a gorphwyso Ond y mae hyn yn amser cla, o'i gyferbynu i'r hyu ydvw i'r sreigwyr a'r labrwyr, y rhai sydd yn t gorfod dyfod i fyny o'r tyllau tua 80 Hath ar hyd ysgolion, a mawr y chwythu a'r tagu fydd arnynt yn ami erbyn y deaant i fyny, er mwyn cael tamaid cyn i'r gloch ganu eilwaith. Mae yn wir ylladr^ttir tippyn yn ychwaneg yu lynvuh ind coiier mai lladrad ydyw hyny ac nid hawl. Gallwn ysgrifenu cyfrol fechan ur rea vvm a chydwybodolrwydd y gofyniad hwn ond y mae mor oleu ac eglur, fel nas gall llygaid a clialon bur byth ei wrthod. Yn 2il, dechreu gweithio hanner awr wedi chwech." Nid yw y gofyniad hwn i'm tyb i yn gynnyrch llawer o bwyll, barn, a doethineb. Nid wyf yn gallu gweled dim ynddo yn tueddu at walla amgylchiadau y chwarelwyr byn. Mae yn wir y caent orphwys yn eu gwelyau hanner awr yn hwy, ond pa fantais sydd o hyny i'r diwyd a'r gweithgar, heblaw hanner awr o fantais yn ychwaneg i'r diou ? Beth yw ychydig gysgu, ychydig hepian am ddim ond ban- ner awr yn ychwaneg ? Yn wir, byddai yn well gan yr hen gorph gael myned i'r gwely hanner awr yn gynt, os methu cael digon o orphwys y mae, a rhoddi ei orch- wylion chwarelyddol heibio am bump o'r gloch, yn lie hanner awr wedi pump. Gwyddom fod llawer o'r chwarelwyr yn dal itiroed(I bycbain. a llawer ereill yn byw mewn tai a gerddi; a da fuasai cael hanner awr yn ychwaneg i'w trin. Gall- esid felly blanu pytatws, hau a medi, teilo a llyfnu, a llawer o bethau ereill, yn haws o hanner awr bob noswaith. Yn sicr, gellid elw o honi yn y pen yma i'r dydd- rha.id prynu yr amser, canys prin ydyw. Ac heblaw hyn, oni fyddsi yn dippyn o gaffaeliad i fyned arnegeseuon, neu fyned i'r capel, neu ddarllen, neu ysgrifenu ? Yn wir, gellir ei gwneud yn hanner awr o werth mawr yn yr adeg yma; ond am dani hi yn y boreu, mae yn gywilydd i ddyn ymladd am gan lleied a hanner awr yn ychwaneg o gysgu. Yn 3ydd, Am saith bob boreu ddydd Llun." Yr wyf yn methu yn lan deg a gweled pa fantais a ddeilliai o hyn i gyffredinolwyr y chwarel- wyr yn y Dyffryn, a beth yw y rheswm anwrthwynebol a ellir roddi dros ei ofyn. Y rheswm, dybygwyf, ar yr hwn y seilid y gofyniad hwn ydyw, fod lluaws o'r gweith- wyr yn llettya yn y Dyffryn, ac yn myned adref i fwrw y Sabboth, a thrwy fod eu ffordd yn bell, yn methu cyrhaadd at eu gwaith yn brydlon boreu ddydd Llun. Mae hyn yn wir; ond coiier mai eithriad- au ydynt—mae y cyffredinolrwydd o'r chwarelwyr yn byw yn y dyffryn, a'r cymmydogaethau cyfagos ac felly nid yw y gofyniad yn deg, oni buasai mwyafrif y gweithwyr felly. Rheswm arall a dnyry rhai o blaid y gofyniad ydyw, y bydd pobpeth yn fwy anhylaw a didrefn foreu ddydd Llun na'r un boreu arall—y dillad o bossibl heb fod wrth law, y natnr yn fwy swrth a dioglyd, a'r wraig o bossibl ddim mewn rbyw hwyl dda i godi i wneud tatl--pobpetti gyda'u gilydd 115 yn ei gwneud yn ddigon anhwylus i fyned i'r chwarel at chweeh. Wel, yn wir, yr wyf yn ofni na ddeil y naill na'r llall o'r hesymau hyn bwyrau ymresymiadol yr goruchwvlwyr. Yn 4ydd. Rhyddid i gael diwrnod o ben iitis.Mae y gofyniad hwn yn eithaf rhesymol. Pen mis fyddai yn amser y tadau, ac y mae byny wedi gwreiddie mor ddwfn yn natur y chwarelwyr rywfodd fel mai gorchwyl anhawdd ydyw oael gan- ddynt ymryddhau ofldiwrth y dymuniad ac hefyd ni byddai canixttau iddynt y dy- muniad hwn yn ddim colled, am a wn i, i'r meistradoedd, gan mai ychydig iawn o waith a wneir y dydd cyntaf o'r mis, heblaw sefyll, siarad, a gwylied y stiward. Yn 5ed. Myned i angladdau heb ofyn i'r stiward.Nid wyf yn gweled llawer o bwys yn y gofyniad yma. Wrth gwrs, rhaid myned i angladdau, a gormes creu- Ion fyddai gwneud deddf i attal hyny; ond etto, gari mai gwasanaethyddion ydyw y chwarelwyr, credwyf mai teg a boneddigaidd ynddynt fyddai ymostwng i ddyweud o leiaf eu bod yn myned. Yn 6ed. "Gwneud cabanatt,Mae y gofyniad hwn yn angenrheidiol i'r chwar- elwyr, gan nad oes ganddynt un man diogel a phwrpasol i fwytta, ymdwymno, a gorphwys. Gwyddom cwt y boiler," fel y'i gelwir, yn lie ag y dywed pob syn- wyr cyffredin am dano ei fod yn afiach i'r eithaf; felly, nid yw y cais hwn yn afres- ymol. Ond o'r ochr arall, nid yw yn deg i'r meistradoedd fyned i gostau mawr, heb gael elw cyfatfcebol i hyny. Mae gwneud tai bychain i dri neu bedwar cant o weithwyr yn gryn gost; a pha ddyn rhes- ymol yn y byd a ddymunai ddyrchafu ei hun ar draul darostwng arall ? Yr wyf o'r farn mai rheaymol a fyd lai i'r naill ochr a'r Hall fyddai fod i'r meistradoedd wneud y cabanau, as fod i'r gweitbwyr dalu rhent drostynt. Dyweder fod caban yn cael ei wneud i gyniawys ugain o weithwyr, ac fod ei rent yn bunt yn y flwyddyn ar gyfer bob person, neu geiniog yn y mis ac yr w-f yn sicr na byddai y rhent, a'r glo, a phobpeth yn ddim mwy na chwecheiniog yn y mis i bob person. Credwyf y buasai y pleidiau yn y ffordd yma yn cyfarfod eu gilydd ar dir cyfiawn- der. Bydd genyf air etto pan wastadheir pethau. IANTO COUND.
LLANAELHAIARN, A'[ HELY.NTION.
LLANAELHAIARN, A'[ HELY.NTION. FosiEDDiaioN,—Bum yn ddiweddar ar ymweliad i'r ardal gynyddfawr uchod, a synais lawer wrth weled cymmainfc o gyf- newidiadau wedi cymmeryd lie er pan gefais y pleser o dalu ymwelial1 o'r blaen a'r gymmydogaetb. IVrth ymholl, cefais allan mai yr achos o'r fath gynnydd ydyw y chwarel setts sydd yn nghesail hen fyn- yddoedd cribog yr Eifl. Deallaf wrth y pethau a glywais mai hou ydyw un o brif chwarelydd setts y deyrnas. Mae yma bentrefydd wedi eu hadeiladu megis mewn un dydd. Lie yr oedd gynt ond 0 ychydig o fythynod diaddurn yn cael eu preswylio gan bysgotwyr a phreswylwyr ereill glan y mor, mae i'w gweled yn bresennol heol- ydd llydain a theg a tai goreu a siopau ysblenydd. Gwelais, yn my&g pethau ereill, ysgoldy newydd wedi ei adeiladu yn ardderchog odditan ofal y bwrdd ysgol. Pan oeddwn y tro o'r blaen ar ymweliad a'r lie, yr oedd y plwyfolion yn cynaal eyfarfodydd i ddadleu hawliau y bwrdd ysgol. Yr wyf yn cofio yn dda fod yno p y dri neu bedwar o Jacks politicaidd, yn mysg ereill, yn dadleu yn groew y buasai tair ceiniog yn y bunt yn gwneud y tro i wneud a chynnal yr ysgol yn hwylus, ond mai y peth mwyaf tebygol faasai, wrth edrych ar ansawdd gynnyddol yr ardal a chymmeryd pobpeth i ystyriaeth, mai tua dwy geiniog yn y bunt a fuasai yn llawn ddigon. Yn awr, gan fod yr ysgoldy wedi ei orphen ac ysgol vn cael ei chynnal yaddo yn rheolaidd, a fuasai yn ormod i ni, fel darllenwyr Llais y TVIad, gael gwybod pa faint o dreth sydd ddigonol i'w chario yn mlaen ? Clywais hefyd fod y plwyfolion wedi dewis tri neu bedwar allan o'r pump aelod ar y bwrdd, heb fod yn tala yr un ffyrling o dreth y plwyf. Rhaid i mi addef fy mod yn methu credu hyny, ac nad yw ffermwyr a threthdalwyr ereill plwyf Llan- aelhaiarn mor wasaidd, a dyweud y lleiaf, ag y buasent yn cymmeryd eu cynnrych- ioli gan rai .'r fath, ond y buasent yn mynu anfon rhai o'u plith ei hunain i drefnu ei harian ei hunain. Gan fod Sdn ar led trwy ardaloedd ereill, feallai y bydd i rywun aduabyddus o'r ffeithiau uchod fod cystal a rhoddi ychydig o eglurhad ar y pethau a enwyd trwy gyfrwng y Llais, fel y gallwn fod o ychydig wasanaeth y naill ilr Ilail. M. N. 0.
FFUG ATHROFAU EIN GWLAD.
FFUG ATHROFAU EIN GWLAD. AT FECHGYN IEUANGC CYMRU BENBALADR. FONEDDIGION.—Haner can' mlynedd yn ol, nid gorchwyl hawdd fyddai canfod mewn gwlad, llan, na phentref, leoedd i gyfranu addysg yn Wynt i'r to oedd y pryd hwnw yn nwyfus chwareu ar lwyfan am- ser. Mewn ambell i gwmwd dinod, ceid odid hen gadben Hong benwaig, neu hen bensioner unllaw yn nghengl ysgubor neu rywle arall, yn agor rhyw ysgol fach,i ddysgu ysgrifenu a chownsio; ac os y deuid ryw dro yn ngyrfa ein bywyd athro- faol, o hyd i'r rule of three, dyna ni wedi dringo pen yr ysgol, ac yn barod, yn ein tyb ein hunain a'n rhieoi, i lanw unrhyw swydd o dan y Goron. Ond fe ddaeth tro sydyn ar fyd gwedi hyny, ac yn mhen ychydig flynyddoedd, llanwyd y wlad a'r trefydd ag ysgolion, ac y mae addysg bur yn cael ei chyfranu yn ein hysgolion yn y canghenau uchaf bron mewn meidron. iaeth. Ond tra mae'r wlad fel hya wedi ei chyflenwi ag ysgolion effeithiol a meistriaid trwyddedig, mae rhyw ysfa yn Bob y gof, Huw y saer, &c., i specula- tio opposition schools. Hnw, yn meddwl y byddai yn ysgafnach arno teachio na llifio, mae'n cymmeryd yn ei ben i fyned i ryw academi am chwe' mis, y ddegfed ran o dymhor yr efrydiaeth. Ond ni waeth am hyd y term, mae Huw wedi llyngcu yn ei feddwl ei hun, bob gwybodaeth a all dyn ei gyfranu iddo. Mae etc yn codi'r walat, ac ymaith y mae'n myned, i chwilio am lan neu bentref i ddilyn ei brofessieo. Y peth cyntaf y mae yn ei wneud, os y bydd yn feddianol ar dafod ffraeth (ac felly y maent fel rheol) yw, dechreu canmol ei hun a'i nwyddau, a phw-pwyo pawb ereill fel pethau rhy ddiwerth a gwagsaw i sylwi arnynt. Yn union dog fe welir yn'rhai o'r papurau dudalen gyfan, wedi ei llenwi 1 fyny yn advertisement. Os digwydd i Bob fod yn scholar, bydd efe yn dysgu yn ei academi, mathematics in all its branch. es, drawing, French, German, Latin, Greek, &c. At hyn, bydd yn rhaid cael square and mantle, a five quarters in the the year. Os y bydd yn digwydd mai cerddor fydd Huw, bydd yn yr yspaid pwysig o chwe' mis yn yr academi, wedi meistroli holl elfenau caniadaeth, chwar- euaeth, a cherddoriaeth. Bydd yn har- moniumist, pianist, organist, vocalist, a phob ist arall yn y drefn. Bydd yn dyegn counterpoint, simple, compound, triple, quadriple, quintiple, sexiple, &c., canons, fugues, musical forms, philosophy of the voice, accoustics, &c. Ond os gwesgir rywfaint ar wynt Huw gyda golwg ar rai o'r pyngciau uchod, chwi a'i clywoh ef yn fuan fuan yn dechreu ymesgusodi, pee