Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
19 articles on this Page
CYWteB ANNERCH FFKRYLLFARDD.
CYWteB ANNERCH FFKRYLLFARDD. (Gin Trebor Mai.) f d'annerch, frwd aweiiyd I 0 ddawn, yn auterth dy ddydd, Addewais, do yn driiau, Wueud newydd gywydd, a' gwau r! Fel dylai bardd, yn arddur, Ae yu ddbl, fel fi fy hun; 1. Oud diawcu, hen o hyd, Ydwyf 6, a difywyd, j Yn liwyd gan helbul llydan; A'm llafurio'n ciddio'cn c&u. Ci ( O! na chawn cyn rhych, envd i^ O gyrhaedd dwys bwysy fcyd, — Rhyw le i 'raorol aweu, Dan ddailiog adlonog len Llain o gwm pellenig gwar, Nad edwya neb end adar, Yno ifyw auaf a haf, Tn Ilawn dawn, a Ilyn danaf; Syllu'r drem—gwrande'r eUlYO, M Sibrwd dwr wrth yebryd dyu Mwynbau, a gwrando mewn hwyl, Ddooiau unigedd anwyl Gwnai corneint gwyn y cernau, A mbel noeth i'm lawenhau, Minnau wrth fy uhan mawu hen, Yn rbwyd wau fy nrud awen, Yn fy mwthyn gwyn gwenol, Darn tir a derweo tu ol, Heb ddelwau ar fy mhared— Dim ond ..nian 13,0 ar led Myrddiwn arluniau'r Mawr-dduw, 0 drwsiad hardd pictiwrs Duw OyDlluniodd, liwiodd yn lân, A'i law anwyl ei hunan. ->, Oud 0 ni chaf haf fel hyu, Goluel fyth, Dell glyd fwthyn Byw i boeni bob enyd Gaf drwy bwys gofidiau'r byd Anfelus drallodau filiwn, Mynwest oer yn lle'r mwyniant hwn. Daw- dydd syn ar fy ngwyneb, Diwrnod na bwy 'nabod neb Fy nhynged yw aafn augau, Hyny Bydd yn agosbau, A myn'd yn isel fy mhen, I'r ddaar dan wraidd YWen. Wedi oeri 'ogrudd diiioD, .B(,ff'wn gael o hael Jaw Ion Dy ango' bacb diyngan, Newydd, cul, yn niwedd CäD, A dim n6 i ond y m&a wellfc, SÜ'Id unig sidan-weilt. Uwch fy mhen, Iwyd awenydd, Blodau fo nodau fy nydd ] A obael yn ddifrycbeulyd O'r drafael 'madael â myd, Pawb yn ffiya'd wrth fyu'd i fedd, A Duw'n dduw, dyna ddiwedd. (I'v barhau.)
JOHN Y PACKMAN.
JOHN Y PACKMAN. Packman llawn a gawn heb gur,—i lunio Dalenog ddyddiadur; Dawn ceiswiw YI1 dwyn cysur I dai pawb yw ei de pur. ROBYN DDU ERYRI.
BEDDARGRAPH
BEDDARGRAPH Y diweddar Mr Th,-mas Evans, Lerpwl, gynt o'r Garth Bangor. Qytnradwys, dy gamrau di-fo'u ysgeifn I wasgu'r priddelli Islaw dyma frawd o fri Mown wm htta tir y meini. TUDNO.
. CA, WNDYWYDD HYLL CYN DYDDIAU…
CA, WNDYWYDD HYLL CYN DYDDIAU HAF. Gwel englyn fy hen athraw, Trebor Mai, yn y Llais cyn y diweddaf. Am ha' awelon ywholai,-bin deg, P61 "hen dad" erfyniai Ond waetb p'r'uo. er ddymunai, Mae iaa" Mawrth cyn mis Mai. Gogledd Lloegr. DEwr MAWRTH.
BEDDAHGRAFF
BEDDAHGRAFF Mrs Margartt Hughes, Mtea y Caerau, Talsaraau. Is careg Maes y Caerau-gyrwyd hoff Fariraret H ugbeil o'i i'lodau Yoiayn hwn mae'n mwynhau Hfta IJØr byd wAu borau. Is Cireg Maes y Caerau-huna gwraig 0 gryf rag jriaethau Ar waedd lor, ca'i sya ryddhau 0 gwag hir i'w gyring orau. CYFFDY.
LLINELLAU
LLINELLAU A gyfaneoddwyd ar ol bod mewn cyfarfod cenhadol. Hawddamor ddedwydd forau—uchalfraiot, Daw'n chwilfriw holl futiau "erfe'ddif 1 coelgrefy ldau ;—owympaut oil, I ddifaogcoll a u gorseddfeinciau. TI1 hwnt i'r weH ion 'ydd tint yr India A'i rymus awen odu'r Messia; Yr Oen a la jdwyd a'r lawn a lwydda Taleitbiau iesin t^lwytbau Asia, Yno dêl newydiiion da" -am y" SANT, A mil a miuiuit eu mawl bosatra*. Haul y cyfiawnder ei loewder leda, O'i ddwyfol asur fe ddeifiol ysa Deyrnas y Gwyllwch—du, hirnosgolla Ei goruehaifaeth—a'r Gwir a chwyfia Faner W«D heulwen ba' — ar Seion ij'ynydu A gwyd o'r newydd yn Gadarn hoewa'. At Dduw ryw awr daw'r ddaear a'i mawrion, A ipas a ddyga y gorseddogion 0 4an yr Iesu yu dyner weision Cyn hir pob rhandir hyd draethau's- w u Ion A 3^0 ei gariad o dftn ei goron, A IWltem awyr i'w holl gaseion 'I e>rua» bedd fydii teyruas Ion ;—njyrdd yn wir Heb ond a fegir yn bendefigion. Liani wfst, HENRY GWTNEDD HUSHES, .J-
ENGLYN.
ENGLYN. Cyfaasoddwyd yr pngljn isod mewn canlyuiad i mi gael cewid fy nrbigle amryw weitbiau y misoedd aetbant heioio, ac yn ddiweddaf i Babilon, Corr.s. I rhyw drigle, ar dreigliad—siome iig, Symudir fi'n wastad Gwir drwpgl wyf, ac ar draws gwlnd,—Sul a gwyl, U bobol aawyl I 'rwy'n Babiloniad. ALWENYDD.
MARWOLAKTH CHWILFRYN MON.
MARWOLAKTH CHWILFRYN MON. Yo y glyn ca'dd Cbwilfryn glwy', -ninatu sydd Yn ein isiom a'u gofwy Ni cut beirdd madtilodadwy Hen wladJtou ci weled mwy. DEWI GLAN DUXAS.
-----------IBETHESDA A'I HAMGYLCHOEDD.
BETHESDA A'I HAMGYLCHOEDD. Yr wyf yn cymmeryd hamdden i anfon gair i chwi o'r dref uchod. Y mae llu o bethau wedi digwydd yno y dyddiau di- weddaf, ond un o brif ymddiddanion y dyddiau bya ydyw y Town Hall, ac y mae eisieu y cyfryw yma hefyd. Yr achos i'r eisteddfod farw oedd dim lie i'w chadw, a chynnaliwyd cyfarfod yr wyth- nos ddiweddaf i'r perwyl o edrych i'r pwngc—J. J. Evans, Ysw., yn y gadair, a deaiiwn fod Arglwydd Penrhyn wedi tan- ysgrifio mil o bunnau atti, yn nghyda'r tir. OFFEIRIAID HARRI AC OFFEIRIAID AARON. —Bu y Parch. E. Gurnos Jones yn tra- ddodi ei ddarlith ar y testyn uchod, a chlywsom ei bod yn un deilwng, ac hyder- wn ei fod ef yn well darlithiwr nag ydyw e fardd. CYNGHERDD.-Nos Lun, y 24ain o Chwefror, cynnaliwyd cyngherdd yn y Farchnadfa gan gor Mr John Thomas (Eos Bochlwyd). Y llywydd oedd Arthur Wyatt, Ysw., ac elai yr elw i gynnorthwyo cor Eos Bochlwyd i fyned i Eisteddfod Gwrecsam, ac hyderir y deuant yn ol a chan' punt i'w canlyn. EISTEDDFOD ANNIBYNOL BETHESDA.—Y mae hon ar y rhiniog. Deallwn fod llu o ymgeiswyr i fewn am y tlws aur, ac yn eu plith clywsom fod Gaerwenydd, Caer- onwy, loan Mados;, Gwilym Jones, John Bangor Jones, Hugh Jones, &c., ond gwybydded Ogwenydd mai nes penelin Mag arddwrn.—Gohebydd,
CAERGYBI.
CAERGYBI. CYFARFODYDD PREGETHU.—Yr wythnos ddiweddaf cynnaliodd Bedyddwyr King's- land a Methodistiaid Calfinaidd Armenia eu cyfarfodydd pregethu adfywiadol, pan y cafodcl y naill weinidogaeth y Parchn. W. Thomas, Rhydwyn; C. Davies, Bangor; T. Hughes, a R. Thomas, gwein- idog eglwys Bethel (B). Yr oedd y gen- adwri yn allu Duw, ac ymunodd 13 o bersonau. Cafwyd annerchiadau da odiaeth gan y Parchn. J. R. Davies, gweinidog Seilo (B), a R. Thomas, a'r Mri. J. Ellis, cenadwr y morwyr, a D. Edwards, Tre-arddur, ar y dyledswyddau gofynol hyny a geidw draed y Cristion. ar lwybr gorch'mynion Duw er etifeddu bywyd trag'wyddol a gogoniant. Canodd Seiriol Wyn y llinellau swynol hyny Y Ddafad Golledig." Yn y cyfarfod arall cafwyd gwasanaeth y Parchn. James Donne, Llangefni; R. Owen, Llangrist- iolus; J. R. Hughes, Brynteg, a Mr Thomas Jones, diacon o'r cyfundeb hwn driga yn Nwyran. Yr oedd y cynnull- eidfaoedd yma yn anarferol o luosog, y weinidogaeth yn nerthol yn wir, oblegid daeth 58 i geisio aelodaeth. Cafwyd an- nogaethau gwir dda i'r dychweledigion er ymgadarnhau ohonynt yn y ffydd a gwisgo am danynt arfogaeth Daw yn erbyn cyn- llwynion yr un drwg, gan y Parchn. W. Lloyd (A), J. Bartley (W), 0. Hughes M.C.), Saunders (B), H. Jones, ac R. Jones (M.C.). Cafodd y Bedyddwyr fenthyg addoldy y Trefnyd^ion Calfinaidd, am ei fod yn fwy, a theimlir yn ddiolch- gar am hyny, a chafodd y Methodistiaid Calfinaidd hwythau fenthyg y Tabernacl newydd (A.), Heol Newry, er tori tori gwrandawyr enfawr Armenia yn ddwy. Hefyd, cynnaliwyd cyfarfodydd gweddio gan y naill blaid a'r llall am ddau o'r gloch bob dydd yn ystod wythnos y cyf- arfodydd ac yr oedd y cynnulliadau yn lluosog.—Trebor Mon. A, ,—
CAERNARFON.
CAERNARFON. YMDRECHFA AREDIG ARFON. — Dydd Gw&ner diweddaf, ar faes pertbynol i Wm. Heyward, Ysw., Pen y bryn, ger dref hon, cynnaliwyd yr ymdrechfa uchod, pryd y daeth unarbymtheg o gystadleuwyr i'r maes. Wedi darllen y rheolau gan Mr livan Hugh Owen, arwerthwr, aethpwyd yn mlaen gyda'r ymdrechfa. Am bedwar o'r gtoch, dyfarnwyd y gwobrau fel y canIyn :-Gwefydd Llwyncelyn, ger Ban- gor, a Thanydderwen, Llanddeiniolen, yn gyfartal, a rbanwyd y wobr a'r ail rhyng- ddynt; William Evaus, Mon, yn drydydd, a gwedd y Garth,Llanwnda,yn bedwerydd. Ennillwyd y wobr gyntaf am y wedd oreu gan Mr Humphreys, Parciau, ger Caer- narfon, ac eiddo yr Hendy oedd yr ail. Wedi i'r beirniaid egluro ychydig yn nglyn ag ymdrechion aredig yn y dyfodol, ym- gynnullwyd yn mhalas Mr Heyward, lie yr oadd digen o ddanteithion wedi eLi parottoi. Wedii bawb ddiwallu eu heisieu, cliriwyd y byrddau, pryd y cynnygiwyd diolchgarwch gwresocaf i Mr a Mrs Hey- ward am y dauteithion rhagorol, ac ym- wahanodd pawb wedi eu llwyr foddloni. Da genym ddeall fod Mr John Williams, Treffynon, o'r lie hwn, wedi ei ail ethol i edrych ar ol yr ystafelloedd Ceidwadol. Hefyd, daeth aelodau y gymdeithas i'r penderfyniad o estyn amser agoriad yr ystafelloedd, yr hyn a wneir bellach o ddeg o'r gloch yu y boreu hyd banner awr wedi deg yn yr hwyr. MARWOLAETH MR WILLIAM JONES, CAE- HOPSYN.—Am ddeuddeg o'r gloch nos Iau diweddaf, ehedodd rhan anfarwol y Crist- ion uchod, i'r wlad na bydd rhaid ymadael mwy. Adnabyddid ef bob amser fel dyn didwyll, ac un hynod ofalus pa lwybr i gerdded yn ei yrfa ddaearol. Dydd Mercher diweddaf hebryngwyd ef i dy ei hir gartref yn mynwent Caeathraw, gan dorf enfawr. Gwasanaethwyd ar yr ach- lysur gan y Parch. David Morris, yn nghyd a diaconiaid y lie. Gadawodd wraig rinweddol yn nghydag wyth o blant i alaru ar ei ol. GWLEDD ARDDERCHOG.—Ar yr achlysur o ymuniad Mr It. Heyward mewn glan briodas a Miss Pearson, merch Cadben Pearson, Bryn Saint, y lie hwn, gwa- boddodd Mr William Heyward, tad y priodfab, ei boll weithwyr i fwynhau eu hunain ar y danteithion rhagorol oedd wedi eu parottoi gogyfer a'r amgylchiad. Wedi i bawbddiwaIlu eu hangen,a chlirioy byrddau, cymmerwyd y gadair gan Mr John Heyward, yr hwn a ddywedai fod yn dda ganddo weled y gweithwyr yn mwyn- hau eu hunain mor rhagorol. Yna cafwyd can hynod swynof, a therfynwyd trwy i Morris Jones, goruchwyliwr y gwaith, gynnyg diolchgarwch i Mr William Hey- ward, a rhoddi tair banlleg galonog.— Gomer.
CERRIG-Y-DRUIDION.
CERRIG-Y-DRUIDION. CYFARFOD ADLONIADOL.—Cynnaliwyd yr uchod ar nos Wener diweddaf, yn y Club- room, Lion Hotel, dan lywyddiaeth y bardd Llew Hiraethog. Adroddwyd Ewyllys Adda gan Eryr Hiraethog, a datganwyd yn bur fedrus achymmeradwy gan y Mri R. Evans, Ysgoldy, ac E. Thos. Edwards. Buwyd yn areithio yn ddifyfyr a pharodd y testyn a'r areithio adloniant eyffredinol. Y H lul" ydoedd y testyn, loud" asynod" ydoedd y rhan fwyaf o'r areithwyr, ac un o weision y Llew ydoedd y buddugwr. Cafwyd annerchiad rhagor- ol gan Mr Wm. Jones, Bwlch Hafod Eiuion, ar gyfarfodydd adloniadol, a derbyniodd gymmeradwyaeth gyffredinol. Ca.fwyd annerchiad gan Llygadog hefyd ar wahanol faterion, megys yr iaith Gymraeg a chyfarfodydd adloniadol, &c. Derbyn- iodd yntau gymmeradwyaeth mawr, a.c ymwabanodd y gynnulleidfa wedi eu boddio yn fawr.-Cohebydd.
DOLYDDELEN.
DOLYDDELEN. CYNGHERDD. Cynnaliwyd cyngherdd yn ysgoldy y lie hwn nos Fercher, y 23ain cyfisol, o dan arweiniad y digrifol Elis o'r Nant, er budd i Ehedydd Elen, y telynor dall, pryd y cymmerodd y personau can- lynol ran yn y gweithrediadau, sef Ehed- ydd Elen, Alawydd Eryri, Crych Elen, Eos Curig, Llew Ogwen, Miss Mair Wil- liams, William Morris, Prysorydd, ac Ap Machno. Y darnau a ddatganwyd oedd- ynt, "Boddlondeb," gan yrelen Glee Party; Maria Morgan," gan Ehedydd a Mr Williams; Mi gollais y tren," gan Ap Machno; Mi fynaf fod yn ddyn," gan Ehedydd Eleii; Fe ddaw Llewelyn etto'n ol," gan Crych Elen; "Can y Plisman," gan Prysorydd; "BugailHafod y Cwm," gan Alawydd Eryri; "pennill- ion gyda'r delyn gan LIew Ogwen ac Ap Machno, ac Alawydd Eryri; Y Dder- wen," gan William Morris. Dyma y cyngherdd mwyaf afreolus y buom ynddo erioed; yr oedd yno ryw las lafnau yn curo eu traed, ac yn eistedd ar y desciau ysgrifenu ac yn dodi eu traed ar y meinc- iau. Hefyd cafwyd prawf amlwg o genfi- gen y blaid Radicalaidd.-Moelwynawg iVyllt.
EBENEZER, LLANDINORWIG.
EBENEZER, LLANDINORWIG. Ni fu yr hen ddiareb erioed yn cael ei gwirio yn fwy nag yn yr ardaloedd yma eleni, sef Gauaf glas mynwent fra,s." Nid oes neb yn cofio cymmaint o farwol- aethau sydyn, ao heb glefydau heintus, ag sydd wedi eymmeryd lie yn ardal yma er's llai na mis yn ol. Yn eu mysg yr oedd Mrs Mary H. Owens, wedi cyrhaedd yr oedran teg o 80 mlwydd. Daeth Mr a Mrs William Owens i'r ardal yma er's yn agos i 50 mlynedd yn ol, o'r lie a elwir y Lion, Aberffraw, Mon, ac y mae iddynt amryw feibion a merched, un o ba rai sydd wedi hynodi ei hunan, sef Mr Henry Owens, Slate works, Aberystwyth. Bu farw yr hen chwiler dduwiol mewn llawn gobaith ffydd am adgyfodiad gwell. Y geiriau olaf a ddaeth dros ei gwefusau oedd-"Mi a wn i bwy yr ymddiriedais."— R. (ip Prys.
FFESTINIOG.
FFESTINIOG. CWRDD TE.—Dydd Sadwrn cafoad y Methodistiaid wledd ragorol ode a bara brith yn ysgoldy Tyddyn Gwyn, fel cyd- nabyddiaeth o'u hymdrech i dalu ymaith ddyled capel Bethesda. Wedi canu yr hen emyn "I Dad y Trucareddau, &c." eisteddodd olYadwar i bump cant wrth y byrddau, ar ba rai y gweinyddwyd gan amryw foneddigesau. Yn yr hwyr cyn- naliwyd cyfarfod cyhoeddus, o dan lyw- yddiaeth y Parch. T. J. Wheldon. Yr areithwyr oeddynt y Parch. Robert Jones, Cae Clyd Richard Owen, Griffith Davies, Robert Evans, Thos. Williams, Croesor, a'r Parch. D. Morris, Caeathraw. Adeil- adwyd y capel yn y flwyddyu 1869, a chostiodd 2447p, ac erbyn hyn y mae wedi cael ei gwbl dalu am dano, a Ip 1Cs ltc yn ngweddill yn nwylaw y 4 trysorydd.—Hebog.
LLANBERIS. ''
LLANBERIS. TYSTEB.—Rhai o brif arferion yr oes hon, meddir, ydyw tystebu, marwnadu, a chanu clod, ac y mae pawb o'r gwrth- ddrychau yn meddu graddau mwy neu lai o deilyngdod; ond a thysteb y Parch. W. Edwards, M.A., diweddar gurad Lldn- beris, ond yn awr ficer Penmachno, y mae a fynwyf yn bresennol. Nos Iau diwedd- af, ymgyfarfyddodd torf luosog i ystafell eang a pliryefei-th y Royal Victoria Hotel, i'r d ben o gyflwyno tysteb i'r Parch, W. Edwards ar yr aehlysur o'i ymadawiad a'r lie. Cymmerwyd y gadair gan H. Rees, Ysw., diweddar brif feddyg Chwarel- au Llanberis, yr hwn a draddododd an- nerchiad llawn o deimlad Cymreig, a chafodd dderbyniad tra brwdfrydig. Diolchai am yi anrhydedd o gael ei dde- wis yn gadeirydd. Yn mysg ereill yr oedd y boneddigion canlynol ar yr esgyn- lawr:—y Parchedigion W. Edwards, M.A.; John Lewis, B.A., Penmorfa R. J. Ed- wards, B.A., Waenfawr; Mr. R. Hughes, M.P.S., Dolperis; Mr D'ouseley a'i fab, Bryn Du Mr G» E. Davies, Blue Peris; a Mr W.' Thomas. Hefyd, gwelais y boneddigesau a'r boneddigion canlynol yn yr ystafell:—Miss Williams, Royal Victoria; Mrs Humphreys, Caernaifon; Mr Davies, Blue Pens Miss Mary Wil- liams a Miss E. Owen, Royal Victoria; Mrs Armsden, Mrs W. Thomas, a Miss Catherine Hughes. Dyma gipdrem ar y gweithrediadau :-Anne rehiad gan Mr M. Evans can gan Miss J. E. Evans an- nerchiad da ryfeddol gan y Parch. J. Lewis; can, yn wir dda, gan Miss E. Armsden can, nes gwefreiddio y gynnull- eidfa, gan Mr J. E. Griffith; annerch- iad yn y ddwy iaith gan y Parch. R. J. Edwards, er mawr foddhad pawb; can gan Miss S. A. Tortington, yn dda iawn; araeth benigamp gan H. Hughes, Ysw., M. P. S.; can gan Miss J. E. Evans, encorwyd ac ail ganodd; caed annerch- iadau barddonol gan y beirdd Selvetus ac Alarch Gwyrfai, y rhai a dderbyniwyd yn wresog; deuwyd at brif orchwyl hapus y cyfarfod, sef eyflwyniad annerchiad (illu- minated address) wedi ei fframio yn fedrus a hardd, pa un a ddarllenwyd yn Gymraeg a Saesoneg, gan Dr. Rees, y cadeirydd; daeth i ran Miss Mary Williams i anrhegn y parch us foneddwr ag oriawr a chad wyn aur, gwerth 26p., yr hyn a wnaeth gyda sylwadau pwrpasol; cyflwynwyd ei ddar- lun, gwerth 5p. 5s., iddo gan Miss Tonny Williams, a chydnabyddodd Mr Edwards hwynt gydag annerchiad byr, ond pwrpas- ol. Diolchai am danynt i'w edmygwyr Vi ewyllyswyr da, a diolchai yn arbenig iddynt am yr hyn oedd tu cefn i'r rhodd, sef y teimlad caredig; can gan Miss E. Armsden, yn hynod swynol annerchiad barddonol gan Selvetus ac Alarch Gwyr- fai can gan Mr J. E. Griffith, yn cael ei ddilyn ar yr harmonium gan Mr Jones, B. S., Nant Peris, yn ardderchog; unawd gan Miss J. E. Evans, yn rhagorol; an- nerchiad gwir farddonol gan y bardd Al- arch Gwyrfai; unawd gan Miss E. Arms- den can gan y Cor yn wir fedrus, dan arweiniad Mr W. Thomas. Cynnygiwyd y diolchiadau arferol gan y cadeirydd a Mr G. D. Davies, yn arbenig i Miss Wil- 0 liams am wasanaeth yr ystafell. Yr oedd y cyfarfod yn un o'r rhai goreu a gynnal- iwyd erioed yn Llanberis.—loan Wyn.
PORTMADOC.
PORTMADOC. YR EGLWYS NEWYDD.-O'r diwedd, wele hir-ddisgwyledig ddydd agoriad yr eglwys uchod wedi ei bennodi, sef Mai y 4ydd, pryd y cymelir gwasanaeth Saesneg y boreu, a Chymraeg y prydnawn a'r hwyr. Efallai y bydd nodi y Salmau a'r hymnau a genir ar yr achlysur yn dderbyniol gan rai o ddarllenwyr y Llais, ond gan fod y Cymraeg heb eu dewis, gwell gohirio hyd oni bydd y ewbl i'w cael, pan yr yni- drechaf anion trefn y gwasanaetb. Bydd y corau canlynol yn cynnorthwyo cor y lie: sef eiddo Tremadoe, Penrhyndeudraeth, Criccieth, a Beddgelert. Mae cor y He a Tremadoe yn ymgynull bob wythnos i'r eglwys i barottoi ar gyfer yr agoriad. Y gwasanaeth Saesneg sydd yn cael ei ddysgu yn breseno), dan arweiniad Mr John Thomas, yr hwn a haeddai glod dir- fawr am ei sel gyda'r eglwys yn y He hwn en dros ugain mlynedd, yn enwedig y 0 canu a'r ysgol Sabbothol.-Ylltyr Madog. t
"TREMADOG.
TREMADOG. HIRHOEDLEDD.—Mae y dref fechan fyw- iachus hon yn hynod am hirhoedledd ei thrigolion. Y gauaf diweddaf claddwyd hen wreigan adnabyddus a elwid Betti Robert yn gant ond tair oed, ac y mae yma dair o hen wragedd etto wedi eu gor- j hoedli hithau, a'u hoedran yn 90, 88, a 85 mlwydd, ac mewn gweddol iechyd. Tybir fod a fyno purdeb y dwfr ag iechyd „ y lie, yn nghyda'r gwyntelliad (current of jf n y air) sydd drwy y dyffryn. DYDD GWYL DEWI SANT.—Yr Ymrysonfa Aredig, a'r Clwh er Cospi Lladron.—Cyn- naliwyd y cyfarfod hwn ddydd M-ercher y Lludw, sef y laf o'r mis presennol. Yr oedd yr ymrysonfa mewn cae gerllaw Pontwyddyn, wrth y dref bon, a'r ciniaw mewn cyssylltiad a'r gymdeithas uchod yn y Maddock's Arms Hotel, am dri o'r gloch. Ceir manylion gweithrediadau y dydd yn y nesaf.- Gohebýdd,
ROBYN DDU ERYRI, A'I GYFEILLION…
ROBYN DDU ERYRI, A'I GYFEILLION YN MERTHYR, HIRWAEN, A. 'I CHAERDYDD. Difyrwaith hyfryd i feddwl dyn, yw diolchgar gydnabod y rhadlawn gym- mwynasau a dderbyniodd oddiar ddwylaw cyfeillion ac y mae'r fath fwynhad mewnol yn cydfyned a'r gorchwyl fel y digonol wobrwyir y ddyledswydd yn y cyflawniacl. Dyledus hefyd, wrth dalu diolchgarwch i gyfeillion, yw ystyried fod yr hell gysuron a fwynhawn, trwy ba foddion bynag eu tarddir i ni, yn rhoddion oddiwrth Awdwr pob daioni. Yr oedd dyfodiad clefyd dychrynllyd i'm teulu, a marwolaeth fy anwyl Myvanwy, yn nghyd- | a'r costau trymion cyssylltiedig a hyny, yn amser adfyd galarus i mi; ond tueddwyd calonau cyfeillion i siriol weinyddu i mi gysur, gan yr Hwn a wnaeth y naill ar gyfer y llall, a'r Hwn a'u llwytha beunydd a daioni. YN MBRTHYR TYDVIL Caniattaodd y pwyllgor eu neuadd brydferth i mi i areithio, Chwefror 7, yr hyn oedd gyfartal anrheg i ddau gini, ac ymgymjnerodd W. L. Daniel, Ysw., i'r boll lafur o drefnu y cyfan angenrheidiol at gael i mi gyfarfod llwyddiannus. An- fonodd y gwyr ieuaingc yn ei wasanaeth Mr Caleb Gwion Morris, a Mr Phillip Henry Davies, i drosglwyddo tocynau i bawb ewyllysgar i'w gwerthu; ymunodd gyda Mr E. Roberts, Mr Lumley, a Mr D. ETans, i dalu holl gostau argraffu hysbys- leni; a chyda Mr John Morgan, Mr T. Rees, a Mr Rees Evans, at roddi i mi fy angenrheidiau corphorol, fel nad oedd arnaf ond costau y tren. Anrhydedd i'r cyfarfod, ac i mi yn neillduol, oedd cael T. Williams, Ysw., U.H., gwaelod y Garth, yn gadeirydd, yr hwn yn hynaws a'm anrhegodd a phunt. Wrth ystyried mai isel yw cyflogau y gweithwyr, fod- Ilawer o honynt heb waith, ac amryw yn goddef eisieu cyfluniaeth rheolaidd, yr oedd yn syndod i gymmaint nifer o honynt brynu toeynau. Llawenychais weled yno rai o brif fasnachwyr y dref cefaia nifer, megys y Parch. J. M. Bowen, a Mr J. Williams, argraphydd, yn dra haelionus; ac er nad allodd y Parchedig J. Griffiths, Rheithior enwog Merthyr, ddyfod i'r cyfarfod oher- wydd damwain annymunol, gofalodd yn dirion am anfon i mi gini, fel drwy y cyf- raniadau oil, y cefais yn Merthyr ddeg punt, saith swllt, a chweeheiniog. YN HIRWAEN. Caniattaodd y diaconia.id, a'r parch- edig weinidog, i mi addoldy bardd Bethel, eiddo y Methodistiaid, i areithio, Chwef- ror 9. Ymgymmerodd Mr D. W. Jones (Dafydd Morganwg), a'r gost o argraphu tocynau a finnau gost yr hysbysleni; a chydag ef, gwnaeth Mr J. Evans, goru- chwyliwr y gwaith, a Mr Jeremiah Owen, eu rhan yn ddiwyd tuag at werthu tocynau. Anrhydeddwyd ni yn fawr drwy gael D. E. Williams, Ysw., U.H., yn gadeirydd; ac er mor ddigalon y gweithwyr oblegid gostyngiad yn eu cyflogau y Sadwrn blaenorol, daethant i'r cyfarfod yn gyn- nulleidfa hawddgar. Cefais groesaw mewn tai parchus, a chartref cysurus gan yr athrylithfawr Dafydd Morganwg a'i briod siriol, yn nghyda phum' punt a deg swllt oddiwrth y cyfarfod. YN NGHAERDYDD Mawrion yw'm rhwymau diolc.bgarwch i Mr David Evans, London-place, Dociaw, Caerdydd. Cefais yno gynnulleidfa o wyr deallus a manylgrapb. Daeth y Parch. edig S. Jones ddwy filltir o ffordd i lyw- yddu y cyfarfod; ao heblaw cael lie cysur- us a diddan yn nhy Mr Evans, cefais drwy ei ddylanwad caredig ef, oddiar ddwylaw cyfeillion, bum' punt a phedwar swllt, fel rhwng y tri dosbarth o gyfeillion cynhes eu calonau, y cefais 21p Is 66. Y mae derbyn y fath garedigrwydd, heb arnaf i dalu ond lp 19s 2c yn yr holl deithio; y mae mawr lafur W. L. Daniel, Ysw., yn Merthyr, Dafydd Morganwg, yn Hirwaen, a Mr D. Evans, yn Nghaerdydd, ac y mae canfod yn flaenllaw, o blaid llwyddiant y cyfarfodydd, wyr sydd a blynyddau lawer o'u cyfeillgarwch yn gymhleth a'r gyfran hwyaf o'm hoes, yn peri nad allaf gael geiriau i fynegi fy niolchgarwch yn gyfartal i deimladau fy nghalon. ROBERT PARRY (Robyn Ddu Eryri). Venn Wood Cottage, Marden, Hereford.