Skip to main content
Hide Articles List

8 articles on this Page

EISTEDDFOD LLANDDEWI-BREFI.…

CYFARFOD CYSTADLEUOL BRYMBO,…

CYFARFOD CYSTADLEUOL EG. LWYSIG…

FFESTINIOG.

News
Cite
Share

FFESTINIOG. CAU CYNNAR.—Dyma fasnachwyr Ffes- tiniog o'r diwedd wedi ymuno gyda'u gilydd i gau eu masnachdai yn rheolaidd am wyth o'r gloch, bob nos. Dechremwyd1 eu cau yn niwedd y flwyddyn ddiweddaf. Mae eich gohebydd wedi talu sylw manwl pwy sydd yn cau a phwy sydd yn peidio, ac nid ydwyf wedi canfod ond ychydig yn rheolaidd. Os oes undeb yn mysg y masnachwyr, fel y mae lluaws yn dyweud, mae arnaf ofn na phery undeb yn hir, am nad oes yn eu mysg ddigon o'r peth a elwir yn gydweithrediad. SEFYDLIAD CYFREITHIWR.-OS collasom un cyfreithiwr, cawsom arall. Yr ydwyf wedi cael ar ddeall fod Mr G. H. Ellis, o swyddfa Mri. Griffiths a'i Fab, cyfreithwyr, Dolgellau, wedi ymsefydlu yma fel olynydd i Mr Ellis Roberts. Nid oes genyf ond dymuno llwyddiant a hir oes i'r cyfreith- iwr ieuangc yn ei gylch newydd. cYFARFODYDD GWEDDIO.- Yr wytbnos ddiweddaf, cynnaliodd yr oil o'r gwahanol enwadau gyfarfodydd gweddio. Yr oedd y gweddiau yn effeithiol, a'r capelau yn bur lawn ar y cyfan. YMFUDIAD PATAGONAIDD. Cyn diwedd yr wythnos hon bydd llu mawr 6'r Ffes. tinogiaid wedi ffarwelio a Ohymru i fyned i dreulio y rhan nesaf o'u bywyd yn Patagonia. Nid oes genyf ond disgwyl y rhydd Duw gymhorth iddynt ar for a thir. Yr wyf yn meddwl y gaUaf ddyweud nad oes yr un plwyf yn Nghymru mor bleidiol i'r Wladfa ag ydyw plwyf Ffestiniog, ac etto mae yma rhyw gorachod yn lledaenu chwedleuon ofergoelus am y lie yn mysg y lluaws; ond pan eir i ymresymu gyda'r cyfryw, nis gallant gael sail i'w dywediadau. Ond mae un cwest- iwn ttg yr wyf yn sicr braidd y buasai llaweryn caru cael attebiad iddo, a dyma fo: Paham nad oes mwy o lythyrau yn dyfod o'r Wladfa ? Os oes rhywun a all roddi attebiad i'r gofyniad uchod, carwn yn fawr ei weled ar un o dudalenau y Llais, os y canniatta Mri. Gol. Wel, nid oes genyf ond disgwyl y bydd i lai o ofergoelion gael eu lledaenu am y lie, am eu bod yn creu arswyd yn mysg yr ymfudwyr. Mae pob cenedl o'r bron wedi cael gwlad i ymfudo, a dyma Cymru o'r diwedd wedi cael un. Y mae wedi myned yn llawn eisoes yma, ac felly y mae yn rhaid i ni fyned i rywle. UNDEB GWEITHWYR GOGLEDD CYMRU.— Cynnaliodd yr undebwyr eu cyfarfod chwarterol yn yr Assembly Rooms, nos Wener, y 7fed cyfisol. Yn absenoldeb Mr John Lloyd Jones, Nantlle, llywydd yr undeb, llanwyd ei swydd gan D. G. Wil- liams, llywydd cangen yr undeb yn Ffes- tiniog. Oferedd i mi geisio dodi dim o'r areithiau i mewn, am fy mod yn faith eisoes. Yr areithwyr oeddynt, Mri. W. Griffiths, Talysarn W. J. Parry, Beth- esda; Robert Parry, Llanberis; R. Parry, Bethesda; a llu ereill o Corris, AberJly- feni, a pharthau ereill o Feirion ac Arfdn. Cafwyd cyfarfod da, er bod y noson yn un hyijod o oer. CHWAREL Y "WELSH L-LATI, Nos Wener diweddaf, oddeutu naw o'r gloch, daeth rhai cannoedd, os nad miloedd, o dunelli o graig i lawr yn y chwarel uchod. Yr oedd y graig wedi cracio ers amryw o fisoedd yn ol; a nos Wener, yn bur ddi- rybudd, daeth i lawr. Claddwyd amryw o arfau perthynol i'r gweithwyr o tani. Trwy fod y cwymp yn un o'r rhai mwyaf a fu yn y Rhiw, ofnir y bydd i rai ugein- iau gael eu troi allan o'u gwaith. Ym- ddengys fod y cwmni yn prysur barottoi gogyfer a chlirio ymaith.-Hebt)g.

Advertising

ABERYSTWYTH. S

[No title]

Advertising