Skip to main content
Hide Articles List

8 articles on this Page

EISTEDDFOD LLANDDEWI-BREFI.…

News
Cite
Share

EISTEDDFOD LLANDDEWI-BREFI. | BEIRNIADAETH Y FARDDONIAETII. 1 Y GAREG DDALA." John y Packman yw yr unig ymgeisydd ar y testyn hwn. Geill "te pur Llan- rwst fod yn rhagorol, old nid oes dim yn gampus yn yr englynion. Dylai nifer fechan o englynion fod yn gelfyddydol a grymus. Rhoddwn y wobr i'r Packman, ar yr ammod iddo gyhoeddi llai o anwir- edd yn ei ddyddlyfr. "YSGOL NEWYDD Y BARDD." Eginyn.—Cynghanedd wan yw Uchel yw o'r radd uwcha," heblaw ei bod yn ddiystyr. Uchaf, ac nid uwchaf yw yr uchelradd. Llinell wan yn ymyl trangc yw hon-" Rhydd i bawb nid sect na rhyw," ac nid oes synwyr ynddi. Ni pherthyna yrtmglynion hyn i Ysgol Ne- wydd Llanddewi, mwy nag i'r Brifysgol yn Aberystwyth. Ap Bi-efi.-Rhagora Ap ar ei gydym- geisydd, er nad oes yn yr englynion hyn ddim neillduol. Dylasai y gair Llanddewi fod yn yr englyn cyntaf. Nid yw Ag em braf i Gwm Brefi yn rammadegol. Cyssylltiad ac nid arddodiad ddylasai fod yn ei deebreu-and ac nid with. Dylasai fod yn A gem braf i Gwm Brefi." Heb- law hyny, enw benywaidd yw gem, a thrwy hyny cymmysgir y rhywiau. Ap Brefi yw y goreu. "y MAWN." Tudno Bacit.-Annhei lwng iawn o'r gwir Dudno. Gwallus mewn sillebiaeth, meddwl, a barddoniaeth. Giaich y Mynydcl.—Gwallus etto. Gad- awodd lythyren allan o air; ac ni wna edd ac aidd gyd-odli. llinell ddi- ystyr yw hon-" Lied pedair i chwi mod- fedd," os nad olygai o bedair i chwe' modfedd." Araclwr Bach.-Gwryweiddia yr "ael- wyd yn yr ail bennill—" Ar aelwyd lan dymunol." Yn yr un pennill dywed— I'r hen a'r ieuanc iddynt hwy ft Mae'n taro'n fwy naturiol." Gofynwn Mwy naturiol na pha beth ? Methwn a deal! y drydedd linell yn y trydydd pennill, ac nid yw meddwl yr awdwr yn cael ei gyfleu yn y ddwy linell olaf. j1([ynycldfab.-Dywed hwn fod tan mawn yn gryfach na than glo Ond yn y llinell ganlynol dywed-" Mae gwres lie bo yn groeso." Ni ddefnyddiasid y gair groeso pe na bnasai ei eisieu i atteb gwres." Llinell wan iawn yw yr ail yn yfenhill olaf. Mynyddfab yw y goreu. t YR ANGENRHEIDRWYDD AM BONT." John y Packman.—Yn sicr ddiamheu, ni ddytai bardd mor wael a'r packman antuno i gystadleuaeth. Gobeithio fod ei de yn rhagori ar ei rigymau. Yn mhell -islaw sylw. Mynyddwr.—Y pennill blaenaf yw y gwaelaf o lawer. Geilw y bont-bren bre- seraiol yn bont-bren coed A welodd ef bont-bren haiarn, neu bont-bron geryg rywbryd? Mae geiriau fel "fanawl spio" yn wrthnn iawn. Sonia am feddrod dyfrllyd llaith," fel pe gellid cael dwfr heb fod yn llaith. Mae dwfr llaith yr un peth ag eira gwyn a thin poeth. Brefian.—Gwallus mewn diwyg, synwyr, grammadeg, ac ystwythder. Gydag et y mae Brefi yn nant, cornant, ac afon; ac wedi hyny, gesyd hi yn frenhines i deyrn- asu ar y lie. Tra-mynycha rai o'i feddyl- iau. Road Surveyor.—Lied dda. Pan byddo llifddyfroedd 'n y lie." Mae sill- golli fel uchod yn feius, canys ni ddichon yr n lechu yn nghesail yr dd. Rhaid croesi y Brefi a'i thon." Y Frefi ddylasai ysgrifenu, oanys treigla y "B i "F." Rolin Sponc.-Penuillion da a llithrig ar yr odl ddyblyg; ond nid yw Robin yn ddifai. Camsilleba y geiriau hyn- "crefi," "ceilanai," "fynu." "Gan hyny, FE welwn fod angeu yn bod." Rhagenw unig y trydydd person yw fe," ond pwy ydyw J "fe" yn y linell uchod? Llinell drwsgl ac an-Nghymreig yw hon- "Yr ardreth y gwan ni wna lethu." Y mae'r corfan yn feius yn hon—" Yn unol gyda'r bont pawb weithio." Ond er y gwallau hyn, Robin yw y goreu. "CAPEL BETHESDA." homo.- Y cbydig yw nifer beirdd yr oes hon a fedrant ganu yn llithrig, synwyrol, a didramgwydd ar y tri tharawiad," ac nid yw Homo wedi dyfod i fyny a'n safon. Ni ddylai oelfyddyd geisio mygu natur. Ychydig o gelfyddyd a hardda ben y ferch ieuangc, ond gormod o hyny a wna olvVg hyll arni. Ceir yma rai corfanau cloffion. Adeilad, ae nid adailad, sydd iawn. Cydnabyddwn nad ydym yn deall tynu sylw yn fwyndeg fendigaid," er y gallant. fod yn hollol ddeuiiadwy i'r bardd. Gapelydd.—Pennillion tlws a naturiol, ond nid yilynt yn ddigon nodweddiadol. Gorchwyl hawdd yw tynu pen and into sketch o adeilad, a hwnw yn llawn bardd- oniaeth. Capelyddywy goreu, "PENNILLION I MR L. DAVIES (RHYSTYD)." Mi/ni'ddog.—Rhaid i ni wrthdystio yn erbyn cystadleuwyr a ddefnyddiant enwau llenyddol dynion cyhoeddus. Dyma yn y •YVcfo,ruuaeth hon John. y Packman, Robni Sponc, Tudno, a Mynyddog. Nid yw y Mynyddog hwn yn deilwng o'r gwir Fynyddog. Rhaid darllen y pennill olaf cyn gwybod i bwy y cana. Y mae dau wall yn y llinell hon-" 0 Llanfair a Llangeytho," a cheir tra-mynychiad yn y ddwy linell olaf. Mynyddwr.Dyma ffugenw bardd pobl- ogaidd arall o gir Ddinbych. Gwallus mewn diwyg, eglurdeb, ac ystwythder. Gwallus yw sillebu fel hyn :— "Ymlith," at dringo," "o gariad agofnan." Y mae y llinellau hyn yn annealladwy i ni c, Ac heddyw mae'n hwylio a'r awel o'i du, I arwain hyd lethrau dysgeidiaeth." Dyma linell hollol ddiystyr Yn llwyr yr ieuengtyd ef ddena ei bryd." Dyr- ysir ni gan yr ef a'r ei." Twin o'r Naitt.-Y mae Twm mor wall- us yn awr a phan yn byw yn Ninbych. Defnyddia "ei" unigol yn Ile "eu" lu- osog. Dywed yn y trydydd pennill Mae'r plant yn dod yma o rywle bob dydd." Felly; ond onid yw y plant yn myned i bob ysgol o rywle, Twm ? Y mae yn wallus yn ei odlau. Martin Luther.—Ceir amryw wallau yn y pennillion hyn "Daeth Rhystyd lan er rhwystrau," yn lie "i'r lan." "Gwr ddyry ,'¿'w gerddoriaeth," yn lie "yw." Gedy yr A allan o'r gair cynghaneddion. Bastardd yw pasio. Gwr parchus sydd yn perchen," yn lie yn "berchen." Ys- tyriwn y syniad canlynol yn eithafol:— "Mae rhywfodd mewn rhifyddiaeth Yn tynu sylw'r byd." 1 Ni wna l'hwbio Mr Davies a sebon meddal y daioni lleiaf iddo. Nid caeu clod yw neidio i'r uchelradd. Nid yw odlau Luther yn gywir. .Pentrefivr.-Pennillion tlws a thyner ond defnyddia yntau y bastardd-air pasio, a tberfyna y pennill olaf yn swta iawn., Er fod gan rai o'i gydymgeiswyr rai cry- bwyllion na cbeir ganddo ef, yr ydym, ar y cyfan, yn ei ystyried ef yn oreu. Cc PEN-NILLION I'R PARCH. A. OLIVER." Un hoffai wneud eu gwell.-Nid gorch- wyl anhawdd fyddai cyfansoddi eu gwell. Wele y pedair llinell flaenaf fel engraifft Wel tyred, fy awen, a thraetha yn hy' Dy deimlad heb deimlo'r un duedd, Ni ydyw dy wrthrych yn frenin o fri, Ond; etto inae'n wir ystyr bonedd." Nid oes rhith o synwyr mewn peth fel hyn, a gwastraff ar amser fyddai gwas- traffu beirniadaeth arnynt. Ond, dichon y daw yr awdwr i wneud eu gwell. Mgnyddwr.-Pennillion ystwyth a na- turiol, er nad yn farddonol iawn. Nid Cymreigaidd yw- Llama dros fynyddoedd bannog Anhawsderau." "Mynyddoedd o anhawsderau" fuasai oreu. Ceir tor-mesnr yn hon—" Ers meithion flwyddi oedd." Camsilleba y gair adeilad. Cyfaill.-Teimlwn fod rhyw anystwyih- der yn rhai o'r pennillion hyn, ac nid yw y meddwl yn toddi yn naturiol o'r naill linell i'r Hall. Buasai un perwydctiad yn ddigon yn hon—" Yn hael gwnaeth gyf- ranu." Ffyn baglau yw berfau cynnerth- wyol, ac nid oes eu heisieu ond pan fyddo diffyg yn yr aelodau. Gair trwsgl ydyw brudwriaeth." Buasai" brud neu brwt" yn well; ond defnyddiwyd ef i odli yn ddyblyg gyda 11 goffadwriaetli." Cyfaill yw y goreu. (l'w gorphen yn ein nesaj.) THALAMUS.

CYFARFOD CYSTADLEUOL BRYMBO,…

CYFARFOD CYSTADLEUOL EG. LWYSIG…

FFESTINIOG.

Advertising

ABERYSTWYTH. S

[No title]

Advertising