Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Y BRIFDDINAS.!

News
Cite
Share

Y BRIFDDINAS. [ODDIWETH EIN GOHEBYDD NEILLDUOL.] Arddangosfa y Darllawyr. — Cynaliwyd yn ystod yr wythnos hon, yn y Neuadd Amaeth- yddol, y bumed arddangosfa flynyddol. Yr ydoedd llawr y neuadd fawr yma yn orlawn o bob math o nwyddau sydd yn cael eu defnydd- io yn y fasnach hon, ac y mae gofyn mawr wedi bod am leoedd i arddangos nwyddau yno gan wahanol bersonau yn y fasnach. Yr ydoedd y lleoedd oil wedi eu cymeryd i fyny er's talm, ac hysbysir y gallesid gosod llawer o leoedd yn ychwaneg yno pe buasai lleoedd i'w cael. Fe brofa hyny, meddir, fod y sefydliad yn cael sylw a chefnogaeth y masnachwyr yn y gwa- hanol nwyddau sydd yn cyfansoddi y fasnach. aeth. Yr ydoedd yr orielau bron yn wag, pa- ham na fuasid yn defnyddio y lleoedd hyn, sydd yn ofyniad na pherthyn i mi i ymholi llawer yn ei gylch. Mae yr olygfa ar y lie yn hynod o brydferth ac yn Uawn gorwychder, fel ag y mae y gwirod-dai yn gyffredin, ond i ddyn ystyriol beidio ag ystyried gyda difrifol- deb, oeth ydyw yr effeithiau a gynyrchir ar ddynoliaeth yn gyffredinol drwy eu hymarfer, ni fyddai yn anmhosibl iddo i fwynhau ei hunan yn yr olygfa ardderchog. Gellir canfod yno holl nerthoedd y fasnachaeth wedi cydgyfarfod i un canolfan. Canfyddir yno nifer helaeth iawn o wahanol beirianau sydd yn cael eu def- nyddio yn y gwahanol fragdai yn mhob parth or deyrnas, ac hefyd rai a anfonir i wledydd tramor. Mae yno lawer iawn o hopys, neu lysiau'r cwrw, yn cael eu harddangos gan fas- nachwyr enwog yn yr adran hono, ac fe edrych- ir ar hyny fel un o arwyddion yr amserau, am fod cymaint o undeb a chydweithrediad cyd- rhyngddynt. Cwynir yn fawr fod y deuddeg mis diweddaf, wedi bod yn amser hynod o drallodus i'r bragwyr, am fod y prisiau yn uchel ac yn anhawdd ei gael, ac y maent vn hyderu bod amser mwy llwyddianus yn y dy- fodol. Ymddengys fod bwriad y Llywodraeth i ymwneyd a chwestiwn y trwyddedu gyda y Byrddau Sirol, wedi creu cyffro ac ofnau nid bychan yn y sefydliadau eymdeithasol perthynol i'r fasnachaeth. Y mae Undeb Cymdeithasol y Darllawyr wedi dechreu sefydlu undebau sirol i fod yn ganghenau o undeb y bragwyr. Yr amcanion mewn golwg ydyw ffurfio yn undebau i gydweithredu 1 amddiffyn buddianau y fas- nach, pa rai, meddir, sydd mewn perygl bygyth- iol oadiwrth ddeddfwriaeth addawol mewn cysylltiad a llywodraeth leol, a mesur y byrddau eirol. Ymddengys yn debygol eu bod yn deddfu eu hunain fyrddau sirol cyn y daw mesur y Llywodraeth yn ddeddf. Y maent yn ymchwilio am y cynlluniau goreu i atal lledaen- lad neu ychwanegiad mesurau i gau y tafarnau ar y Sabboth. Pwnc arall sycld i gael ystyr- iaeth hefyd ydyw, Beth ydyw y moddion, neu y drefn oren i wrthweithredu effeithiau camddar- luniaeth titotalaidd, ac i sicrhau gwrandawiad drwy y wlad, i gael llais y wlad o'u plaid. Y mae nifer lawer o undebau sirol wedi eu sefydlu yn barod, ac hefyd rai yn ychwaneg yn trefnu at hyny. Un o'r rhai diweddaf ydyw Kent, ac mae yr ysgrifenyddion yn cael eu talu am eu llafur o'r drysorfa. Yn y cyfarfod i sefydlu yr undeb, cafwyd yn fuan dri-ar-ddeg o bersonau yn bwrw i'r drysorfa JE20 yr un i fod yn dry- sorfa dyogelfa y gymdeithas. Y mac achwyn- iad mawr iawn, ac hefyd eiriau haerllug yn cael eu defnyddio am nad ydyw y masnachwyr mewn gwinoedd a gwirodydd yn cael yr hyn oil a ofynant fel eu hawliau gan swyddogion y gyllidfa, mae eu hymddygiadau yn gwrthod caniatau iddynt dderbyn archebion am y cyfryw yn yr Arddangosfa, heb iddynt gymcryd alian drwydded arbenigol at hyny, yn rhwystr mawr ar ffordd llwyddiant yr adranau hyny o'r fas- nach meddent hwy, y maent yn ystyried fod yr hyn maent yn dalu am eu trwyddedau lleol yn ddigon o swm heb ychwanegu rhagor, ond dal yn benderfynol mae y swyddogion am fod y gyfraith drwyddedol o'u plaid. Mae cynlluniau hynod ar waith hefyd yno i fyned cydrhwng llythyrenau y ddeddf hon drwy hysbysu fod post cards i'w cael gan y gwerthwyr i'r pryn- wyr i anfon eu harckebion iddynt drwy y llyfck- yrdy. Pa un a ydyw hyn yn gyfreitklawn sydd yn beth ag y gellid ymchwilio iddo, ond rhaid addef eu bod yn hynyd kyddysg yn y ddeddf, fel ag y mae Cymru yn eithaf profiadol. Yr ydoedd un yn arddangos yn ei gelifan yno, nifer lawer o wahanol fathau o winoedd a gwirodydd o wledydd tramor, a chyfarwyddiadau pa fodd i'w harchwaethu, mewn trefn i'w karbrofi cyn eu prynu yn nghydag hyfforddiadau ereill. Yr ydoedd un wedi gosod i fyny yno mewn Ilyth- yrenau amlwg y cwynion sydd yn erbyn swydd- ogion y gyllidfa, ac yn y diwedd yr ydoedd yr hyn a ganlyn :-H Rhyw ddydd dichon, efallai, y cawn ni fasnach rydd. Yn bresenol yr ydym yn meddu deddfwriaeth hen famgu, a gwein- yddiaeth hen wragedd yn atalfa." Gadael i Ryddfrydiaeth i egluro yn ymarferol felly pa beth sydd i'w feddwl wrth hyna, ydyw y goreu mae yn debygol; ond y mae yn deilwng o sylw, mai nid o dan gochl Ceidwadaeth yn unig y bydd Rhyddfrydiaeth yn cyfarfodji gwrthwyn. ebiadau, ond y bydd rhai yn ymddangos a mwgwd yn euddio eu gwynebau fel y mae drwgweithrodwyr yn arferol. Peidied nob a thybio mai chwareu y byddant, er hyny. Cyfarfod Pregcihu y Boro'Nos Sadwrn y 13eg cyfisol, a'r Sabboth canlynol, cynaliwyd cyfarfod pregethu er coffadwriaeth am agoriad yr addoldy a sefydliad y Parch R. L. Thomas yn weinidog yno. Gweinyddid gan y Parched- igion R. Thomas, Glandwr L. Probert, Porth- madog; a J. Rowlands, Chelsea, Llundain. Yr oodd nifer lawer wedi dyfod yn nghyd nos Sabboth, a rhoddid anogaeth gref i ddyfod yn brydlon borcu Sabboth. Qurna CYMREIG.

EGLWYS ANNIBYNOL LLANBOIDY,…

L LIT II 0 AMERICA.