Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

------.-YMYLON Y FFORDD. -

News
Cite
Share

YMYLON Y FFORDD. Nos Sadwrn, Hyclref 20fed. Ni ddarllenais yn ddiweddar ddim gyda chymaint o hyfrydweh a thraethodvn bycban o eiddo y Parch T. Johns, Llanelli, ar Y BEIBL CYMRAEG, a ddaeth i'm Haw ddoe. Mae yn cynwys cronfa o wybodaeth fuddiol a dyddorol, y dylai pob darllenydd eu gwybod ond yr hon sydd yn ddyeithr i'r rhan fwyaf, y mae arnaf ofn. Nid oes neb sydd yn arfer dar- llcn v Tyioysydd, na vvyr mor fedrus ydyw Mr Johns i ysgrifenu yn hyfforddiadol. Mae yn peri fod ei dda-rllenydd ya teimlo ei fod yn eistedd fel dysgybl wrth draed ei athraw t,Y i ddorbyn addysg, a'r addysg hono yn cael ei rhoddi yn y fath fodd nas gellir pcidio ei gwrando, na methu ei deall. Mae y wy- bodaeth a geir yma am y Beibl, a'r hen gyf- ieithiadau ohono, a'i gyfieithad i'r G Y111- raeg, a'r personau fu a'r llaw benaf yn hyn, y nifer o gop'iau obono a gyfieithiwyd cyn sofydliad y Feibl Gymdeithas, a chan bwy y cyhoeddwyd bwy, a'r nifer a argraffwyd or hyny,_ yn anmhrisiadwy werthfawr. Dylai y ffeithiau a geir ynddo fod yn wybyddus i bob darllenydd o'r Beibl Cyniraeg. Yr oeddwn wedi meddwl wytbnos i heno i gyfeirio at gyfarfodydd yr TJndeb Cynull- eidfaol yn Sheffield, oni buasai i'r mater avail y cyfeiriais ato fyued yn feithach na'ra bwriad dan fy llaw. Un mater y cyfeiriwyd ato oedd yn ngtyn a GWASANAETH CYHOEDDUS. Yr oedd y penawd i'r papyr a ddarllen- wyd yn un maith iawn. Y cynlluniau doeth ac annoeth a ddefnyddir or gwneyd addoliad a gwasanaeth yr Eglwys yn boblogaidd. Cyfansoddwyd y Papyr gan Mr T. Walker, o Lundain, ond analluogwyd ef i fod yn bresenol gan waeledd, a darllenwyd y papyr gan Dr Hannay. Y mae y papyr yn un meddylgar iawn, ond nid yn cymeryd i fyny y cwbl a ellid ddysgwyl oddiwrth y penawd. Cwyna nad yw v gwasanaeth yn ddigon eang, ac y dylid edrycb ar ganu a chantio yn fwy fel rhan o'r gwasanaeth, ac nid fel y gwneir yn awr yn rbywbeth er cael ychydig seibiant a chyfnewidiad. Barnai y dylasai y gweddiau fod yn symlach, ac yn fwy uniongyrch, ac yn myned i fewn yn helaeth- ach j amgylchiadau a phrofedigaethau dyn- ion. Ni chymeradwyai ddefnyddio ffurfiau, o leiaf, ni fynai i'r eglwysi ollwng eu gafael o weddïau rhydd, sydd yn gallu myned ar unwaith at amgylchiadau dy'nion ar y pryd. Nid oedd ereill yn gweled cymaint o niwed mewn ffurf, os gellid taflu ysbryd iddi ac nid oedd rhai yn petruso dadleu dros ych- ydig o'r peth a gyfrifid yn sensational, or nad oedd hyny yn derbyn cymeradwyaeth ond yehydig. Barnai y rhan fwyaf fod defnyddio moddion, er peri cyffroad, yn milwrio yn erbyn ysbrydolrwydd crefydd. Pan y cytfyrddai yr Efengyl a chalonau dyn- ion, y byddai iddynt addoli. Mater angenrheidiol iawn, a theilwng o sylw eglwysi Cymru, yn' gystal a Lloegr, ydyw yr un y darllenwyd papyr arno gan y Parch A. Rowland, sef, DYLEDSWYDD AELODAU AT YR EGLWYS, sef, eu dyledswydd at yr eglwysi y maent yn aelodau ynddynt. Cyfeiriodd yn arbenig at ddau ddosbarth y rhai na wnant ddim gwaith, a'r rhai y mae yr holl waith a wnant y tuallan i'r eglwys. Disgynodd yn drwm iawn ar y rhai olaf, yn arbenig. Nid oedd yn dyweyd nad oedd gweinidogion a diacon- iaid weitbiau yn hwyrfrydig i ymddiried gwaith i aelodau newyddion, ac yn edrych yn lied eiddigus, bwyracb, ar ambell un lied brysur, a dybid am ymwthio yn mlaen, a bod rhai oblegid hyny yn cael eu gorfodi i fyned y tuallan i'r eglwys i weithio, neu fod yn segur. Ond eithriadau yw y cyfryw. I Mae ambell i aelod yn gweithio yn mhob I man ond gartref. Gwelais ambell ganwr cyn hyn a ganai yn y cyngerdd, a'r cyfar- fod cystadleuol; ond na roddodd "help erioed i'r canu yn yr eglwys gartref. Adwaenwn aelodau a ddilynai gyfarfodydd yr Young Men's Christian Association, ac a weithient drostynt, ond na ddeuent yn agos z, i'r Ysgol Sabbothol, na'r cyfarfodydd gweddi, yn yr eglwysi lie yr oeddynt yn aelodau. Cadwent winllanoedd ereill, ond eu gwinllanoedd eu bun nis cadwent. Mae o bwys i aelodau ddeall, mai gan yr eglwysi y perthynant iddynt, y mae yr hawl flaenaf arnynt, ac mai with woithio mewn cysylltiad a'r eglwys, a than ei cbyfarwyddyd, y gwnant fwyaf o les, ac yr enillant fwyaf o barch a dylanwad. Mae yn cglur fod yr hyn y cyfeiriwyd ato yn yJTysT diweddaf, gyda golwg ar ANERCHIAD Y CADEIRYDD, yn cael ei deimlo yn Iled gyffredinol. Mae ei meithder yn cael ei deimlo yn boen gan lawer. Mae gan Mr Hewgill, o Farnworth, lythvr ar y mater yma, a rhyw bethau ereill cysylltiedig a'r Undeb, yn y Nonconformist am yr wythnos hon. Awgryma ef i wneyd ymaith yn hollol a'r anerchiad yn y cyfar- fodydd Hydrefol, a barna y byddai hyny yn ymwared i'r Cadeirydd, a pbawb arall, a thybia y gellid cymeryd yr anerchiad yn Mai fel wedi ei darllen, gan y bydd i'w gael ar y diwedd wedi ei argraffu. Dichon y teimlir fod hyn yn chwyldroadol, oDd yn sicr y mae ei :meithder yn peri ei bod yn faich i'r rhan fwyaf. Nid wyf yn gweled y byddai yn ddoeth ar un eyfrif eu taflu ymaith yn llwyr oblegid pe gwneid hyny, collid un elfen atdyniadol gref i'r cyfarfod- ydd ond gollid trefnu i adael allan ohoni yr oil na ellid ei ddarllen mewn rhyw awr o amser, gan y ceid y gweddill i'w ddarllen draehefn. Cyfeiria hefyd at y ffaith, mai ychydig nifer o'r gwyr mwyaf enwog sydd yn gorfaelu yr holl siarad, fel nad yw y lluaws brodyr sydd wedi dyfod yn nghyd yn cael cyfle i ddyweyd dim, ond dywed mai ar y lluaws y mae y bai am ei bod felly. Bydd galw o'r llawr am ryw frawd enwog gan ryw rai sydd yn credu ynddo, ac wedi i gyfeillion hwnw ei alw, bydd rhywrai sydd yn credu mewn rhywun arall yn galw am dano yntau, ac wedi eu dyhysbyddu hwy, os beiddia rhyw frawd heb fod mor adnabydd- us a phoblogaidd godi, y eyfarfyddir ef a'r floedd vote, vote, nes y mae y cyfarfodydd wedi myned nad ydynt yn ddim ond cyfleus- derau i ryw haner dwsin o frodyr enwog i draddodi anerchiadau cynhyrfus, ac ii mwy na phum' can brodyr adref heb gael cyfle i ddyweyd gair. Dadleua fod yn rhaid cael eyinewidiad, ac mai ar y lluaws brodyr y mae ei ddwyn oddiamgylch, ac nid ar yr ychydig sydd yn perchenogi -yr esgynlawr. Buasai yr Undeb Cymreig wedi myned yn ddrylliau yn erbyn y creigiau er's blynydd- au, pe cadwesid ef o fewn cylch y nifer fechan o bersonau, ag y cedwir Undeb Cynulleidfaol Lloegr a Chymru. Yr ooddem wedi meddwl cyfeirio at gyf- arfod blynyddol CYNGRAIR Y DEYRNAS GYFUNOL, a gynaliwyd yn Manchester yr wytbnos hon, ond gwelaf nad oes gofod wedi ei adael i mi ond i grybwyll am dano. Yr oedd y cyfarfod drwyddo yn un llwyddianus iawn ac ni bu cyfeillion y Cyngrair erioed yn fwy calonog, na'u rhagolygon yn fwy addawol. Llywyddid yn Nghyfarfod y Cyngor Cyffred- inol gan Syr Wilfrid Lawson, ac yr oedd yno deimlad cryf dros i bob mater arall roddi ffordd i'r un mater yma, ac na chef- nogid yr un ymgeisydd oni byddai ei bleid- lais yn ddyogel. Llefarodd Mr S. Pope eiriau doethineb ar y mater yma. Dywed- odd fod llawer oedd yn gwaeddi am hyn heb yr un bleidlais i'w rhoddi; ac os yr hyn gymeradwyai y Gynadledd fawr oedd i eis- tedd dranooth yn Leeds, mai rhoddi y bleid- lais iddynt hwy oedd hebddi oedd y pwnc cyntaf, byderai na wrthodent y cynyg, ac wedi iddynt gael y bleidlais y byddai gan- ddynt rywbeth i'w wneyd heblaw siarad a gwaeddi. Esgob Wilberforce oedd Cadeir- ydd y cyfarfod cyhoeddus, ac yr oedd Syr Wilfrid Lawson, Mr A. M. Sullivan, Mr T. Fry, A.S., Mr P. M'Lagan, A.S., a'r Parch Charles Garrett, yn mysg yr areith- wyr. Mae yr adroddiad, o'r hwn y darllen- wyd rbanau yn un maith iawn, ac yn cyf- feirio at y gwahanol fesurau sydd ar drood er rhoddi i lawr y fasnach, a'r help y mae y Cyngrair wedi roddi iddynt oil. Yn bri- odol y dywedodd Syr Wilfrid JjLawson mai Cyngrair addysgol ydyw, ac y mae wedi gwneyd ei waith yn effeithiol, ac oni buasai am ei ymdrechion diflino am ddeng mlynedd ar hugain i addysgu a goleuo y wlad ar ddrygcdd y fasnach feddwol, ni buasai y fath addfedrwydd yn y farn gyboedd i ddeddfu ar y mater. LLADMERYDD.

YMWELIAD A LLANWDDYN.