Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

HELYNTION Y BYD.

News
Cite
Share

HELYNTION Y BYD. CETEWAYO MEWN PERYGL. Yn yr Inkandla Bush mae efe. Un lwcus iawn ydyw Ceto am lwyni i lechu yn eu cysgod, ond mae ereill yn dra ifortunus i osod y llwyni ar dan hefyd. Mae Zibebu wedi tyngu trwy lw y myn ef osod y llwyn (bush) lie mae yn llechu yn awr ar d&n, ond cael cenad gan John Bull. A dywedodd gwas John (Mr Osbourne) wrtho pwy ddiwrnod fod y final message wedi ei danfon ato i'r Bush am iddo ildio yn ddioed. Ac os na wrendy Ceto ar leferydd John, caiff Zibcbu fod at ei ryddicl i danio ar ei loches pan y myno, a sicrwydd am ddigon o'r milwyr Prydeinig, sydd yn gweryru yn awyr y Zululand, i'w helpu i goncro yr hen ryfel- wr. Wel, wel, y mae cwmwl du yn ymgasglu uwchben Ceto. A phwy "\vyr nad y neb a'i pesg- odd A,, ychain, ac a phasgedigion breision," a ddyry help eto i ollwng ei waed, a'i ddarnio eto yn aberth ar allor mympwy LLIFDDWFR MAWR. Yn Spaen, yr wythnos o'r blaen, disgynodd eawodydd aethus o wlaw ar Dalaeth Castellon, nes chwyddo yr afonydd dros eu glanau, a gorlifo rhanau helaeth o'r tir megys dylif. Aeth ag am- ryw filldiroedd o'r railwmj track ymaith yn hollol. Cariodd ddwy bont fawr i ffwrdd oddiar eu syl- feini. Boddwyd darnau helaeth o bum' pentref, a chollodd lluaws o'r preswylwyr eu bywydau. Safodd, traffic y rheilffyrdd yn y fan. Gwnaed colledion mawrion yn y meusydd a'r gwinllanoedd. Nid oes neb yn gallu dyfalu maint y colledion, a gadael allan werth bywydau y dynion foddodd. WeI, onid ydyw dwfr yn elfen ddinystriol arswyd- us ? Y mae hi yn waeth na than, os gwaeth hefyd. Pan gyneuo tân, ie, ond ycbydig, a de- chreu llosgi, y mae yn angerddol ofnadwy. Eto, gellir ei ddofi ef yn nghynt, a'i ddiffoddi yn rhwyddach nag y gellir gosod ffrwyn yn mhen y llifeiriant. INFORMER GWYDDELIG. Mae hwn wedi ei daflu i garchar yr wythnos ddiweddaf. Enw yr adyn dau-wynebog ydyw William Lamie. Dygodd dystiolaeth yn erbyn ei frawd-yn nghyfraitb, Joe Poole, o'i fod yn euog o ferthyru Kenny. Yr oedd wedi arfaethu dianc o'r wlad cyn dydd prawf Poole, pe gallasai gael seib- iant; a dyna ddyryswch anaele a barasai hyny i vrfv llys barn yn nydd y prawf. Ond daeth arol- ygydd yr beddgeidwaid i wybod ei fwriad, a myn- odd warmnt i ddal ei gorff, ac i osod yr edlych yn ngharchar a'r 23ain cyfisol, gwysir Poole ac yn- tau i ymddangos o flaen eu gwell. A chan nad pa un a gondemnir Poole yn euog ai peidio, yn frad- wr y cyfrifir Lamie. A pha un o'r ddau gymeriad ydy'w yr atgasaf—llofrudd ynte bradwr ? Y mae llawer o Wyddelod cyffelyb, draw ac yma, yn ar- fer gwisgo y ddau, nid yn y byd yn unig, ond yn yr cglwys hefyd. CLOD CHWAREIAVYR. Cenir clod chwarelwyr Gogledd Cymru gan fon- eddig a gwreng. Y mae dyngarwch meibion llafur y mynyddoedd llechi yn dal i dynu sylw ar- glwyddi a phendefigion y Deyrnas Gyfunol. Mewn cyfarfod cyhoeddus a gynaliwyd y dydd o'r blaen yn Mhontypridd yn achos y Coleg Deheuol, ac Arglwydd Aberdar yn gadeirydd, wrth anerch y gynulleidfa oedd yn ei wydd, daeth i'w gof hen engraifft o haelioni chwarelwyr Arfon, Meirion, a Mon, yn amser y dirwasgiad masnachol a strike fawr y glowyr yn y Deheudir. Dywedai iddynt ddanfon canoedd o bunau i ofal ac ymddiriedaeth Arglwyddes Aberdar i'w rhanu yn ol yr angen i'r rheidus a'r angenog oeddynt yn ymyl marw o lendid danedd. Cyrnhell i haelioni at y Coleg Deheuol yr oedd y pendefig anrhydeddus, gan awgrymu y ffaith gyda llaw yn swmbwl i gnawd eybyddion. A chaffaeliad n narferol fyddai gallu denu calonau haelfrydig chwarelwyr Bethesda, Llanberis, Talysaru, Ffestiniog, Corris, ac Aber- gynolwyn at unrbyw symudiad da yn ogvstal. Y mae calonau diail yn eu mynwesau, fel nad oes tin gwaith da saif o'u blaen heb eiorphen, os mynant. I A gwyr pawb Avyr eu hanes, cystal ng Arglwydd Aberdar, mai gwir yw y petb. Dyna'r temlau ardderchog maent wedi godi i addoli, heb ofyn help llaw Ysgotyn, Gwyddel, na Sais yn brawf diamheuol. A phan wasgo gorthrwm a chyfyng- der arnynt i ymfudo o'u gwlad, iint ymaith i wlad arall yn ddystaw a diseremoni, heb gardota cym- horth wrth ddrws neb ond eu drysau eu hunain. MAllER. SHALAL- HAS-BAZ.

Adolygiad y Wasg. ----

Advertising

L LIT II 0 AMERICA.