Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
15 articles on this Page
CWRS Y BYD.
CWRS Y BYD. Y diweddar BirCh Elias Owen. •OYMEKIAD hynaws a dyddan iawn oedd awdwr y Stone Grosses, marwolaeth yr hwn a gofnodid yn ein rhifyn diweddaf. Yr oedd yn un o bump o frodyr a lanwasant gylchoedd pwysig yn ngwasanaeth yr Eglwys yn Ngbymru, fel offeiriadon neu mewn cysylltiad ag addysg. Yn ddigon rhyfedd, Annibynwr oedd eu tad, a chyfaill neillduol i'r anfarwol Williams o'r Wern. Bu ef farw yn Had ieuanc, a throdd ei feibion eu traed at yr Eglwys Sefydledig. Yr oedd Mr Eiias Owen, pan welais ef gynt-jf, dros 30ain mlynedd yn ol, yn ysgolfeistr yn Li an- llechid, ger Baugor. Gwelais efnesafyn Nghaer- sws, air Drefald wyn. Efe oedd curad y lie a Oheiriog yn oruchwyliwr Reilffordd y Fan, gerllaw. Yn naturiol, yr oedd y ddau yn gryn gyfeillion, a'r ddau yn gyfeillion hefo'r bonedd- wr llengar Mr Nicholas Beunet o Drefegiwys, pedair neu bum milldir o Gaersws. Yr wyf yn cofio cyflwyno diwrnod i fyned gyda'r ddau i weled Mr Bencet. Aethom gyda thtga y Fan nes cyrhaedd y pwynt agosaf i Lanyrafon ac yr oedd genym tua dwy filldir wed'yn i gerdded ar y ffordd waethaf y bum yn ei throedio fawr erioed. Yr oedd hi mewn manau mor byllog a chleiog a rwbelog, fel y gorfodid ni i gymeryd y cae am y gwrych yu ei lie. Ond cyrhaedd- asom ben y daith ar ol hir faeddu, yn llaid i benau'n gluniau a chawsom groesaw na fu'r erioed ffashiwn beth gan ein gwesttywr twym- galon. Pan gwynem wrtho ein trybini ar y iffordd, cysurodd ni trwy adrodd y rhamant oanlynol am FFYRDD SIR DREFALDWYN. Yr oedd teithiwr un tro, ecai, yn myn'd ar hyd an o'r ffyrdd hyn, a gwelai het a'i gwyneb yn isaf ar y llawr o'i flaeri yn nghanol traeth iJyw." Pan geisiodd ei chodi, daeth llais dyn oddi tani yn gwaeddi, "HowId on; help imi godi, ys gwelwch chi'n dda." Dychrynodd y teithiwr yn dost, ond cafodd ddigon o nerth i beidio rhedeg i ffwrdd,ac wedi ymbaJfalu, llwydd- edd i gael gafael yn ngholer cot y truan suddedig, a phan yn dygnu arni i geisio ei godi i'r Ian, dyti draohefn, "Byddweh yn dringar— mae yma geflfyl o tana i! Gyda chwedlau a donioldeb cyffalyb y buom yn ymddifvru trwy'r prydnawn ac wedi gweled y casgliad godidog o lyfrau sydd yn Glanyrafot) (geiwir y plasdy tlws felly am y saif -ar fin yr afon Hafren), a gweled hefyd y wenynfa fawr neu apiary sydd gerllaw'r ty, dychwelas- am yn mrig yr h wyr wedi treulio diwrnod nacheir and anfynych mewn oes ei hyfrytach. Bellach .dyma'r ail o'r pedwar wedi croesi at y mwyafrif. Gobeithiaf fod Mr Bennet yn iach a chysurus. Bendith nefoedd a daear fyddo'i ran y mae'n nn o'r Cymry m wyafgoleuedig a llengar a ad- jwaenais erioed.
YN EFENECHTYD.
YN EFENECHTYD. JPLWYF bycban, mewn encilfa o'r neilldu yn un ,o'r glynoedd sydd yn ymganghenu o Ddyffryn x Olwyd, ydyw Efenechtyd, a rhoddwyd ei fywol- iaeth brin i Mr Owen er ei belpu, gydag- arol- ygiaeth ysgolion, i gynal teulu lluosog. Derais lawer cyfle i gymdeithasu âg ef yn y lie nwn. Ni fyddem byth yn cwffwrdd ^'rpynciau a gynyrchant ddadl boliticaidd neu enwadol. I beth a gwnaem ? Buasai'n hawddach cuddio'r Graig Lam a, meillion, neu nofio llong yn Rhyd y Gaseg, nac i'r naill argyhoeddi'r Hall. Ond ystyron enwau lleol, ff/nhonau cysegredig, ben goelion gwlad, a symudiadau llenyddol y dydd, iyddai testynau yr ymgom hir. Y mae ei lyfrau a'r erthyglau yn y gwahanol gyhoeddiadau yn safon. Yr oedd yn diboeni n a dadfeilio er's misoedd, a'i air mynych fyddai H ami gnoo a dyr y gareg." 11 Trech Gwlad na Phapyr Newydd. Y lIfAE'R drychfeddwl o Newyddiadur Saitb Niwrnod wedi diftodd. Y cyntaf i ddtflanu oedd y Mail, a dilynwyd ef gan ei gyd bechadur y Telegraph yr wythnos ddiweddaf. Fydd fawr iawn o golled ar ol y ddau. Mae hi'n ddywed- iad gan yr Iuddewon, os na fedr dyn wneud ei fywoliaeth mewn pum niwrnod o'r saith, nad yw yn haeddu byw. Eisiau cwtogi oriau llafur sydd ac nid eu hestyn. Pe gweithiai pob segur byddai tair awr yn y dydd o'r chwe diwrnod yn hen ddigon at waith. Dyma un o'r bendithion a addewir i'r byd gan Gymdeithasiaeth-gwneud llafur yn fendith ac nid yu felldith, yn bleser yn lie gwae. Wrth Iafur golygir llafur yr ym. enydd cystal a llafur rhanau eraill y corph. Modd bynag, trech gwlad na newyddiaduron y tro hwn. Beth nesaf ? Mae eisiau carthu newyddiaduron o'r hyn a elwir yn sporting new, a hanes yr bapchwareuon a'r betio sydd yn llenwi eu colofnau. Mae eisiaa rhagor o berchenogton papyrau newydd tebyg i Mr Ho- ward James y sonir am dano yn Dilyn y Meistr, digon egwyddorol i ymaberthu er mwyn ei adarl] enwyr yn y mater hwn, ac egwyddori y cyhoedd i'w gefnogi. Pa les ydyw addysg gre- fyddol ar yr aelwyd, tra y rhoddir yn nghyr- haedd y plant newyddiadur yn cynwys hadau gwenwynig betio a hapchwareuon ? Brenhines 80ain Oed. YR oedd ei Mawrhydi y Frenhines Victoria yn syrhaedd 80in mlwydd Mai 24ain, a dathlwyd yr amgylchiad gyda mwy o rwysg a tbeimladau yn mysg ei deiliaid trwy yr holl deyrnas nag y gwnaed erioed o'r blaen. Yn naturiol cyn- ydda'r dyddordeb o flwyddyn i flwyddyn. Nid oes yn hanes y byd enghraifft o frenhinea yn cyrhaedd ei phedwar ugain mlwydd oed, ac yn teyrnasu am 62 mlynedd a'r teyrnasiad hwnw mor hapus i'r teyrn a'r deiliaid. Ac y mae ei- Mawrhydi yn dal pwys ei hoedran yn rhagorol, er na ddaw henaint ei hunan i'r llys brenhinol mwy nag i'r tlotty. Yn yr achos hwn, ofnir fod pilenau yn tyfu tros ganwyll y llygaid, ac y rhaid wrth driniaeth lawfeddygol i gadw'r golwg. Caffed y dirionaf o frenhinesan'r ddaear fyw tra byddo gan fywyd y wreichionen leiaf o ddyddanwch iddi. Cysgu a'r traed yn oerion- 0 FEWN Ilai na dwy filJdir o Ddinbych ar yr hen ffordd oddiyno i Lanelwy, y mae cotty bychan—fawr fwy na thy pobty—A wasanaeth- ai gynt fel trigfa i'r dyn a gadwai'r "giafc dyrpeg yn y fan. Preswylid y cotty un adeg gan gawr o ddyn o'r enw Sam, a bod ffcaeth ac ysmala tros ben oedd Sam. Syt yr ydech chi'n gallu gorfedd i gysga mewn lie mor fychan, Samwel ?" ebe cyfaill wrtho un trof "Mi ddeyda i chi," meddai yntau, mae traed y gwely yn union gyferbyn &'r tfenest, a mi fydda'n agor bono a rhoi'n nhraed allan." "Dyar anwyl, fydda nhw ddim yn oerion iawn?" "Na fyddan, neoo dyn, mae'r celiog I yn clwydo arnyn nhw, wyddoch," ebe'r palwr gwyneb galed. Mewn ymgom hefo Mr Matthews, Amlwch, I yn Llansannan ddydd y dathliad digwyddais adrodd y chwedl nchod a dywedai yntau na fynai ei dad yn nghyfraith, y diweddar Mr Thomas Gee, ddim byd ar ei draed wrth gysgu a chwanegai Mr Howell Gee mai yr un modd yn union yr oedd Dr Rees (Hiraethog), yr hwn yn fynych fyddai'n llettya tm gronglwyd ei gyfaill croesawus y cyhoeddwr o Ddinbych. Oadw'r traed beth bynag yn gynes ydyw dy- muniad cysgaduriaid yn gyffredic, ond cafodd y ddau wr anwog a nodwyd oes faith ac ich fel arall. Nis gwn beth a fu hyd einioes y Sclm ddoniol. Damheg y Banadl a'r Eithin- Bu cystadleuaeth gynt rhwng llwyn o fanadi a thwmpath o eitbyn blodeu prun oedd felynaf. Dyfarnwyd yn ffafr y banadl; a byth er hyny, y mae'r eithin yn rhyfeddol o bigog. 11 A ddarlleno, ystyried Ii A ystyrio, gwnaed A wnel, parhaed.
Buddugofiaeth Fawr y Rhyddfrydwyr…
Buddugofiaeth Fawr y Rhyddfrydwyr yn Soutfiport MARWOLAETH Syr Herbert Naylor-Leyland a achlysurodd yr etboliad hwn a gymerodd le ddydd Ma wrth. Teimlai yr holl wlad y dydäor-I deb dyfnaf yn y frwydr rhwng Syr George PiS- kington, y Rhyddfrydwr, a Mr C. B. Balfour, yr Dndebwr, yr bwn sydd yn gefnder,i Mr Arthur Balfour, arweinydd Ceidwadol Ty'r OyfFredin Rhoed pob egni ar waitb gan y ddwyblaid yn yr etbolaetb, a pbleidleisiodd mwy nag erioed o'r biaen va yr etholiad hwn. Mynegwyd y canlyn- iad yr un noson, a dyma'r ffi^yrau :— Pilkington, R. 5,635 Bilfour, U, 5,052 Mwyafrif Rhyddfrydol 583 Yn etholiad 1882, cafodd Curzon, y Ceidwadwr, fwyafrif o 584, a 761 yn 1895 tra yn Awst, 1898, enillodd Syr H Naylor-Leyland y sedd i'r Rhyddfrydwyr gyda mwya.frif o 272. Gwelir feliy fod y Rhyddfrydwyr yn cynyddu yn yr etbolaeth, ac yr oedd cadv? y sedd a dyblu'r mwyafrif blaenorol yn fuddugoliaeth ardderchog | iddynt. o 'I
Mr Lloyd Ceorge a 0Chlerc…
Mr Lloyd Ceorge a 0 Chlerc yr Ynadon Dygodd Mr Lloyd George, A.S., gyhuddiad I pwysig yn erbyn Clerc yr Ynadon yn Mhorth- I madog dydd Gwener diweddaf, sef ei fod yn I cymeryd mantais ar ei swydd i wrthod caniat- au gwys yn erbyn rhai ag oedd ef yn oruchwyl- iwr iddynt. Ymddengys i ryw fater gael ei godi i fynu yn y llys dro ) n ol o berthynas i le peryglus yn High Street, a gorchymynodd y llys i'w clerc ddyfod a gwys allan yn erbyn y perchenogion i'w gorfodi i wneud y lie yn ddyogel. Ni wnaeth y clerc hyny, a gwrthod- odd wneud hyny ar gais Mr Lloyd George, fel cyfreitbiwr yr acbwynwyr. Dywedodd Mr George befyd fod y cyhoedd wedi dyoddef gormod oddiar law y clerc, ac na fedrai ym- ddwyn yn foneddigaidd tuag at ei gydddynioIl. Penderfynwyd fod i'r wys gael ei thynu allan y diwrnod hwnw.
Corph-Losgiad.
Corph-Losgiad. MYN'D ar gynydd yn gyflyrn y mae eorph-losgiad yn y wlad hon, a chorph-losgfeydd yn cael eu hadeiladu'n barbaus, Corphoraeth Hull oedd yr awdordod cyboeddus cyntaf i adeiladu corph- losgfa, gan fod rhai Woking, Mancairdors, Ler- pwi, a Glasgow yn eiddo i'r Uymdeitnas brorpn- losgawl, ond bwriada Leicester, Southampton, ac un neu ddau o leoedd eraill ddilyn esiampl Hull. Yn ystod y chwarter canrif y buwyd yti llosgi cyrph yn Woking, llosgwyd 1,391, y rhit yn codi bob blwyddyn. Ni losgwyd ond tri y flwyddyn gyntaf, tra y llynedd llosgwyd 240 yno. Gwelir felly fod y wlad yn graddol ddygymod a'r dull newydd o yinddwyn at ein cyrph brau a darfodedig.
--0---Marwolaeth Eos Bradwen.
--0- Marwolaeth Eos Bradwen. DDYDD Linn bu farw Mr John Jones (Eos Brad- iven), y bardd a'r cerddor, yn Nghaernarfon, yn G6 oed. Ganed ef yn Nghorris, Meirionrdd, ac wedi treulio rhai blynyddau yn y chwarel symudodd gadw siop yn Aberystwyth. Oddiyno aeth i gaim yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy, a bu fyw wedi hyny yn Rhyl a Chaernarfon. Yr oedd yn ddatganwr poblogaidd yn ei amser, a chyfansoddodd rai darnau hysbys, megys cantawd Owen Glyndwr," a'r gin swynol Bugeiles y Wyddfa." Cymer yr angladd le yn mynwent Llanbeblig ddydd Gwener.
-:0._-Eisteddfod yn yr Almaen.…
0 Eisteddfod yn yr Almaen. DAL i weithio'i hun yn mlaen y mae'r Eisteddfod. Wedi ymsefydlu yn bur dwt yn yr Alban a'r Iwerddon, dyma hi o'r diwedd wedi cael lie i roi ei throed i lawr yn yr Almaen. Cynygia yr Ymher- awdwr William wobr flynyddol o hyn allan i gorau meibion y wlad a gystadla am dani. Cynaliwyd yr Eisteddfod gyntaf ddydd Gwener diweddaf mewn neuadd a godwyd yn arbenig ar ei chyfer, ac i ddal chwe' mil o bobl. Daeth iddi 18 o gorau o wahanol ranau'r wlad, yn cynwys 2,780 o leisiau. Aeth y Caisar a'i briod a llu o dywysogion i'r wyl. Y beirniad ydoedd Richard Strauss. Hwyrach y ceir Eisteddfod Gyd-Genedlaethol yn y man.
Cohebiaethau.
Cohebiaethau. CYFARFOD LLANSANNAN. SYR, —Gair neu ddau am y cyfarfod hwn, os gwelwch yn dda. Yr oedd y cynulliad yn ar- dderchog. C/nrychiolid pob doabarth, er ger- wined yr hin, gydag un eithriad. Yn mh'le y oedd Esgob Llanelwy, a'i Ddeon, a'i Giuoniaid, a'i olynwyr 1 O fewn yebydig filldiroedd i'w balasdy, yr oedd lluaws o oreugwyr y genedl yn cyfarfod i dalu parch i gofladwriaeth gwyr o athrylith fu o fendith yn eu dydd ac sydd o fen dith i'w holafiaid. Odd nid oedd ei arglwydd iaeth yno, na gair o apology oddiwrtho Yr oedd ei gymydog, yr Hybarch Benjamin Hughes, yno—gwr llawn cyn drymed ag yntau yn y Glorian Fawr, "ac iddo bareh gan bawb a chan y gwirionedd ei hun." Nid yw'r efengyl yn talu'n ddigon da i Esgob Mechodistiaeth yn Llanelwy allu cadw un ceflfyl cliwaitbach dau ond cymeradwyodd Mr Hughes ddyhead y genedl a'i bresenoldeb urddasol. Yr oedd yno hefyd amryw glerigwyr o'r un ffydd a'r Esgob, ac y mae'r symadhd tan ddyled fawr i resth n- Llat sarmdti am ei gyd weithrediad yu yr achos. Ond pa le yr oedd ei ordinary- yr Esgob? C^rodd ei wahcdd yn dasr, ond ni ddaeth. Pabam, tybed ? Fe ddaeth un o Farnwyr gallu- ocaf ei Mawrhydi i'r wyl; fe ddaeth un o breg- ethwyr galluocaf Cymra, ac un o'i beirdd gloew- af, yn unswydd o ganol bywyd prysur yr hoil ffordd o L.miain yno fe ddaeth ugeiniau eraill <> belider mawr, t^n la o anfanteision, i dalu gwarogaeth i symudiad newydd y bydd ei ddy- latiwad yn fendith annhraethol i'r geoedi gresyn, er ei fwyn ei huu, nad allasai'r Esgob rid wards fforddlO teirawr neu bedair pe ond i ddangos ei wyneb ar amgylchiad mor nodedig. Pe yu Sais fel ei ragflaenoriaid, Short a Lux- moore, ni fuasai undyn yu rhyfeddu at ei absen- oldeb. Ddeugaia mlynedd yn oi, aefcb y genedl i gwyno'n dost am Esgobion Cymreig ac mewn eydsyniad â'i chais, penodwyd Cytnro yn Esgob Llanelwy yn 1870, y diweddar Eigob Joahua Hughes, ac o hyny allan, Cymry, mewn enw bath bynag, a benodwyd i'r pedair esgobaeth Gymreig. Disgwylid y buasai'r esgobion brod- ijrol mewn mwy o gydymdeimlad a'r dyheadau cenedlaethol, ond digon prin y cyflawowyd hyd yn nod hyny bach. II Mae'n wir fod yr hin yn anffafriol, a'i bod yn gwlawio'n drwm er's dyddiau, ond nid lwmp" o siwgr ydyw Esgob Llanelwy i gymeryd ei doddi gan wlaw. Gwir hefyd nad oedd pob un o'r pump yr an- rhydeddid eu corfadwriaeth yn gweled lygad yn llygad a'i arglwyddiaeth ar bob pwnc ond "dyn a'n helpo, pe chwiliem am enwogion )-n mysgy dosbarfch cul, vhagfarnllyd, chwerwlys yr eithin, a gymerad- wyir ganddo ef, buasai llechen las o chwarel Nant- glyn yn hen ddigon da i'r lot. Ni wiw disgwyl yr ii pawb trwy ein rhidvll ni bach. Pe buasai cyhoeddiad cyfeillion fel Due West- minster neu larll Powys yn Llansannan, dichon y buasai yno ragor o urddasoliou eglwysaidd. Y hwv 3-n "wyr mawr," wyddoch. Onid oes amrywiaeth mewn mawrodd-inanvredd gwaedol- iaeth, mawredd urddas, mawredd cyfoeth, mawredd avlirylith, mawredd daioni. Y ddau fawredd olaf anrhydeddid yn Llansannan. Yr oedd dau o'r pump a goffheid yn Llansannan yn ddaufrawd, Henry a William Rees. Ni chododd Cymru erioed eu cyffelyb; ac feti codwyd yn ymyl Llanelwy; ond ni welodd urddasolion y lie hwnw yu dda roddi cymaint a'u presenoldeb yn y cyfarfod i'w coffhau. Yr oedd y ddau Newman yn gewri mewn dysg, ond yn blant mewn athrylith, o'u cym- haru a'r ddau Rees. (^-dnabyddir Tadar Aled y bardd mwyaf a fagodd Gwlad y Beirdd yn y canrif- oedd rhwng Dafydd ap Gwilym a Goronwy Owen William Salesbury a ddysgodd gyntaf ysgrifenwyr y Testament Newydd i siarad yn Nghymraeg; ac yr oedd awen Glan Aled gyda'r felusaf a'r buraf a gan- odd erioed yn yr iaith. Dyma'r pump y cynullodd miloedd o Gymry gwladgar, crefyddol, i gadw eu henwau yn wyrdd- las. 'Doedd dimdrwg yn hyny, oedd? Onid dyled- swydd ydoedd? Ai dyledswydd yr Esgob oedd cadw draw ? Aeth y cyfarfod yn mlaen yn rhagorol hebddo: mae y Cymry wedi dysgu myn'd yn mlaen yn awr heb help eu hesgobion. Heb eu help ddywedais i ? er gwaethaf eu danedd ddylaswn i ddweyd; ac yn mlaen yr at.-Yr eiddoch, ANTI CHWERWLYS YR EITIIIN. -o-
w.".... i-restiniog.
w." i-restiniog. TBMTIR dyn i gredu weithiau mai dyma'r ardal Gymreig fwyaf byw' a gweithgar sy'n bod. Mae llanw bywyd yn golchi dros holl gilfachau'r ardal, a phawb yn clywed swn y berw. Adwaenom bellach lawer o'r hen gychod sy'n gynefin a'r mor, ac allan gyda ni yn mhob tywydd ond y calondid mwyaf wedi pob gwyl a'i chanlyniadau yw gweled cynifer o gychod ieuainc yn cael eu gwthio i'r dwfn, a thal- entau newyddion yn bwrw rhwydau i bob cyfeiriad. Dyma lielfa fras dynwyd i'r Ian tua'r LIungwyn, ac ni chlywir fod rhwyd neb wedi tori:—Yn Ngholwyn Bay, Seindorf Arian.y Llan, Gutyn Eifiou, John 0 Davies, Cor Brynbowydd, cor meibion o'r un lie. Yn Nghonwy enillodd Llinos Moelwyn, Cor Tany- grisiau, Edw M Jones. Yn Ysbytty Ifau, Llinos Gwalia. Yn Nhrawsfynydd, enillwyd y gadair gan Mr T Lloyd Jones, swyddfa'r '_GIorian '-llawer o lwydd iddo. Enillodd Wm. Morgan ar englyn yn z, yr un lie. Yn y Bala enillwyd y gadair gan y Parch .J Owen (D.z¡jiwllt), Trawsfynydd; unawd bass, R Brothen Jones adrodd, 0 Morris, Glandwr. Caf- odd y cor plant hefyd 2p am golli gan Mr 0 M Ed- wards, A.S. Dyna gryn arwydd o fywyd, ac wrth fod mor fyw yn y cyfeiriad yna nid yw yn llesg mewn un cyfeiriad arall. Wedi'r Llungwyu a'i helyntion, bu'r wythuos ddi- weddaf yn gyforiog o 'vaith yn ein plith. Mae'r hosan wedi ei rhoddi ar y gweill gyda chronfa goffa Mr Thomas Ellis, a sicr genyf y caifE ei gweu yn ddiymdroi gydag edafedd aur parch a haelfrydedd.
ADNEWDDDU'R C VFAMOD.
ADNEWDDDU'R C VFAMOD. Daeth y Parch Hugh Pugh i'r Tabernacl nos Fawrth i adnewyddu'r cyfamod a dorodd beth amser yn 01. Traddododd ei ddarlith ar y Diwygiad yn yspryd y Diwygiad, a chafodd hwyl ryfeddol. Mae'r tan Cymreig yn llosgi ar allor teimlad y brawd an- wyl hwn, ac yn sicr ni allesid disgwyl ieuad mwy cymharus rhwng darlith a darlithiwr.
; CYMANFA GANTT.
CYMANFA GANTT. Mae yma lawer o ganu am wobrau, ond mae y Gan f J11 bwrw ei choronau gloewaf o hyd with draed yr J lesu yn yr ardal hon. Cynaliodd yr An• >ibyuwyr eu cymanfa ganu yn nghapel Jerumlem no.s' Sadwrn ddiweddaf Yr arweinydd eleni ydoedd Mr T Glyn- dwr Richards, Mountain Ash. Arweiuydd deheuig dros ben, ac yn siarad bob tro y byddai ganddo ryw- beth i'w ddweyd. Cafodd feistrolaetli drwyadl ar y gerddorfa a'r cantorion. ac mewn canlyniad caJwyd canu ardderchog.
CYFARFOD PREOETHC.
CYFARFOD PREOETHC. Mae'r Bedyddwyr yn cynal eu cyfarfod pregethu blynyddoly dyddiau hyn.' Clywais ddywedyd fod v Parch J R Jones, Caerfyrddia f'Llwynpia gynt) yn neillduol o ddi-lanwadot vn Peron nos Wener. Mae Air Jones yn dyfod yma o dro i dro er's blynyddau ac heb lygru ei boblogrwydd hyd yn hyn, fel v gwelir. Bydd ei syniadau prydferth yn aros i ber- arogli awyrgylch ysbrydol yr ardal yn hir ac ym ddengys fod yr un mwynder i ddilyn yr vmweliad hwn hefyd.
YMADAEL.
YMADAEL. Mae r aaroddwr dyddan a llwyddianus Madog Fychan wedi ymadael o'n mysg. Ni chafodd fyned ar ei gythlwng chwaith, oblegyd trefnodd ei gyfeill- ion .swper a chyfarfod ymadawol iddo wrth gann'n iach.
GLAXDAVR.
GLAXDAVR. Goleuni dydd i Glandwr yw'r vsgoldv newrdd sydd wedi ei hadeiladn yno. a mawr "IV mintai v rhai sydd yn ei mynychti. Prydnawn Sadwrn di- weddaf eafwyd gwyl iawt,, o dC- yn Glandwr, ac eis- teddodd 400 wrth ybyrddau breision. Cafodd pawb eu digoni, ac yr oedd llawer ba-sgedaid o friwfwrd gweddill ar y diwedd. Yn yr hwyr cynaliwyd cyfarfod llennldol dan lywyddiaeth Mr Owen Jones, Erwfair. Prif Waith y cyfarfod oedd cyflwyno anerchiad a phwrs o aur i Mr Evan Jones (Pfriddlwyd gynt) fel arwydd o barch a gwerthfawrogiad yr ysgol o'i lafur a'i was- anaeth yn nydd y pethau bychain at yr achos yn y He. Bu'r arch yn nhy Mr Evan Jones am fiynydd- au maith, ac fel yn hanes Obededom cafodd ef a'i dv eu bendithio am hyny. Bydded i'w bryduawn fach- lud mewn gwenau. Cyflwynwyd yr aneirhiad (yn ei absenoldeb) i'w fab, Mr iiobt, E Jones, gau Mr Owen Morris, a'r pwrs aur gan Mrs Owen Roberts. Tymawr. Bendith ar ben cyfeillion Glandwr am beidio anngnofio un gofiodd am dauyufc hwy eyhyd. Cafwyd unawdau yn ystod y cyfarfod gan Llinos Gwalia. Mr W James Jones (y beirniad cerddorol), Mr Joiin Hughes, ac adroddiad penigamp gan Mrs Ha riles, Efriddlwyd. Cafodd llu i-aa Nvreii gwobr- wyo mewn can ac awen, adrodd, arlunio, (Src. Gwas- anaethwyd fel cyfeilydd yn garedig iawn gan Mr R E Jones, Brynbowydd. Cafodd Dewi Mai hwyl wrth feirniadu'r englyn i arolygwr yr ysgol, Mr II Ariauder Hughes. Mae'r cynyrchion hyn yn rhy aufarwol i fyned heibio idd- ynt yn ddisyhv. Wele un ohonynt Awen lan, rho glod i'r gwr Sydd yn freniu yn Glandwr Dyn yn caru gwneud rhyw les, A dyn a llon'd ei Eanc o bres Disgynodd cawodydd o englyn ion befyd ar ben v llywydd; hwyrach y bydd Ariauder a Dewi mor garedigagadaelini gael trem arnynt erbyn yr wythnos nesaf. Yn sicr, achos blodenog iawn sydd yma, a hyder- wn y daw ffrwyth ar ol y blodeu. Mae yum weithio difefl. ac mae gwaith gonest yn sicr o gael ei goroni. PRVDICKI. -(0)-
Marohnadsedd
Marohnadsedd Oaer.—Mai 28 Pnsiau :—Gwartbeg blithion, 14p i 22p; cy3o, 12p i 19p hespion, 9p i 13p; heffrod, 8p i 14p styrcs, 6p i 8p; bustych, lOp i 12p. Defaid, 22s i 2Ss yr un. C'?_- •: 17 Gwenith gwyn, 4s L; y 75 pwys; coch 4s Ie i 4s 83; eeirch newydd, 28 6c i 2s 9c y 64 pwys; hen, Os Oe y 61 pwys haidd at fragu, Os 00 y 60 pwys; haidd at falu, 2s 6c i 3s 0o y 64 pwys; ffa newydd, 4s 6c i 4s 8c y 89 pwys; bea, 0s 0c y 80 pwys, indrawn, newydd, 93 6c hen eto, 93 63 i 9s 9c y 240 pwys. Amwythig,—Mai 27 PrIsiau :-Gwenith am lis 9c 1 12-4 Oc y 225 pwvs haidd afc fragu, 0i i 0s 0s y 280 pwys; eto at falu, Os i Os y 280 pwys; eeirch, 12s 6c i 13s 6c y 225 pwys; pys, 12s do i 12s 6c y 225 pwys ffa, 13s Oo i 14s Oc y 240 pwys. Sangror, Mai ZG. Ymenyn ffres, 11e i Is y pwys; wyau. 20 amis; biff, 7c i 10:; y pwys: molltgig, 80 i 11c: cig oen, 10c i Is 0c y pwys cig lloi, 8c i lie; pore, 6s i 8c mooh tewion, 3Jc y pwys. Cywion, 43 6c y y cwpl; ieir, 2s Oo yr un hwyaid, 2s 6c yr un. Amlwch, Mai 21 Ymenyn ffres, lIe y pwys; wyau tfres, 20 am tg biff, 78 i 9cy pwys; rnolltgig, 10c; cig oen, 11c y pwys; cig lloi, 7c i 9c pore, 6c i Se: cywion, 4s 0s y cwpl; ieir, Is 60 yr un hwy- aid, 2s 3c yr un. Jjlangefai, Mai 25 Ymenyn ffres, lie y pwys fwyau, 20 am swIlt; ieir, 4s Oc i 4s 6c y cwpl; hwyaid, 2s He i 3s yr un; moch tewion, 31 i3';C y pwys pyr •, 14s i 18s yr un biff, 6c i 8s y pwys molitgig, 7c t 9c; cig oen, lie cig lloi, 7c i. 8c pore, He i 8a. Caernarfon, Mai 27. Ymenyn, Is 2c i Is 3c y pwys wyau, 18 i 20 am swllt; biff, 8c i 10a y pwys molitgig, So i 10c mg oen, 11e i Is y pwys cig lloi, Oc i 0c pore, 6c i So eywion, Os Oc i 0" Oe y cwpl; ieir, Os 0c i 0s Oc y cwpl. galford, Mai So. Prisiau :-Biff, 5te i 7c molitgig, 6c i Sic cig oen, ge i 10 cig lloi, Oe i Oc y pwys. Moc-h, 83 4o i 8s 10c y scor. Birmingham, Mai 30. Biff, 63C i 7o y pwys; molltgig, 5c i 7e; c: oen, 7c i 10c cig lloi, 6c i 8c. Moch baewn, 8s -:c i 8 i 10s y scor perchyll, fls 2c i 10s Oo hychod, G- i 6s 6c y scor. lierpwl, Mai 30 Marchnad ansefydlog, a pbri.siau amrywiol. I:l rawn yebydig yn ddrutacb. Blawd yn gadarn, r tramor wed cod i ei bris. Ffa yn rhatach a lied d: sylw. Pys yn gadarn am y pris arferol. Haidd ya gwertbu'n wcddol am yr hen brisiau. Ceirch yn d • fywyd ac heb newid y pris. Blawd ceirch yn sefvdk'g am brisiau diweddar. I lihmdain, Mai m Ton v farohnad wenith yu gadarn ord lied dflyr.- taw. Indrawn yn gwerthu'n araf, AI wedi gostwn. 'él I bris. Haidd yn ffafrio'r prynwyr, a chcirch yn fywyd ac yn tueddu at ostwng.