Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
o - Eisteddfod Cenedlaethol…
o Eisteddfod Cenedlaethol Lerpwl. HILLYST Y GADAlR ETO. CTSAT.IWTD cyfarfod o Bwyllgor Cyffredinol Eis- teddfod Lerpwl, 1900, nos Wener, yn r Common Hall, Hackios Hey, Mr Wm Evans, Y.H., jny ° Wedi cadarnhau cofnodiou r cyfarfod blaen orol a dewis dau aelod ne-wydd ar y pwyllgor. cyttwynwyd y penderfvniad canlynol oddiwrth y Pwyllgor Uen- yddol o berthyuas 1 adael teityn y gadair yn agored i unrhyw fesur — "Ein bod yn cydnabod gyda diolchgarwch dder- byniad llythyr Eifionydd, ac yn dymuno arno fod mor garedig a chyftwyno ein cais vr Orsedd pan gy- ferfydd nesaf, gan ein bod yn awyddus am gael dy- farniad yr Orsedd ei hun ar y mater. Cynygiwyd y penderfyniad gan y Parch D Adams, j yr hwn a ddywedodd mai peuderfyniad y pvv j llgor ar y cvntaf ydoedd cael barn yr Orsedd ac nid Pwyll- j gor yr Orsedd a'u bod yn dymuno pasio y pender- j fyniad uchod er mwyn cael atebiad uniongyrchol i w 5 cais. Mewn amryfusedd y gofyawyd barn Pwyllgor yr Orsedd yn lie yr Orsedd ei him, Eiliwyd gan y Parch James Davies.1 Mr Llew Wynne (yr ysgrifenydd c-, ffredinol) a gynygiodd y gwelliant canlynol: Gan ein bod. yn unol a phenderfyniad a basiwyd Chwefror 24ain, wedi 'anfon at Bwyllgor yr Orsedd i ofvn iddvnt ganiatau ein cais am gael rhoddi y wad air am y deruyn gore u 0 farddoniaeth ar unrliyw fesur,'ac i'ni dderbyn atebiad nacaol, ein bod fel Pwyllgor Cyffredinol (tra yn gofidio oherwydd y gwrthodiad) o'r farn mai anfuddiol fvddai dilyn y inater hwn yn mhellach." Darllenodd Mr Wynne lythyr oddiwrth Eifionydd rn hysbvsu tra parhao yr annghydwelediad hwn rhwng pwvllgor Lerpwl a'r Orsedd nad allai drefnn i'r Orsedd'ddyfod i Lerpwl i gyhoeddi yr Eisteddfod. Eiliwyd y gwelliant gan Caerwyn. Milwriai yr oediad yn erbyn trefniadau a llwyddiant y ddefod o gyhoeddi yr Eisteddfod; ni wnai swyddogion yr Orsedd STinud o gwbl nes terfynid yr annghydfod ac vr oedd vr Archdderwydd Hwfa Mon wedi datgan mewn llythT nad oedd yn foddla,wn dod i gyhoeddi'r wyl os 11a byddai i Bwyllgor Lerpwl gydsynio ft rheolau vr Orsedd. Siaradodd Mr I. Foulkes o blaid y gwelliant. Teimlai vn °ryf ar y mater, a'r unig betli mewn golwg ganddo ydoedd llwydd yr Eisteddfod. Yr oedd yn bwysig iddyut ddyfod i ryw benderfyniad ar unwaith er mwyn cael rhestr y testvnau allan bydd- ai pob dvdd o oediad yn sicr o bervglu llwyddiant vr Eisteddfod. Hyd nes y penderfynir y mater dan sylw, byddai'n fflnliawdd dewis eirniaid 11a ckwblhau Vrhestr. Yr oedd anrhydedd Pwyllgor Lerpwl yn y cwestiwn, oblegvdyr addewid a roed ynjFfestmiog i gvdvmffurfio a rheolau yr Orsedd. Mr Robert Roberts (y trysorydd), fel aelod o r ddirprwyaeth a fn yn Llandudno a Ffestiniog, a ad- gonai y Pwvllgor iddynt roddi eu gair i'r Orsedd ddwywaith y buasent yn parchu a chydymffurfio a'i rheolau: ac onibai hyny, ni chawsem yr Eisteddfod yma. Hwyrach y cawsem gyfres o gyngherddau ac iefallai gyrddau cystadleuol, oud ni chaem Eisteddfod Gauedlaethol heb gynorthwy awdurdodau'r Eis- teddfod. Siaradodd y Parch W 0 .Tones yn erbyn y gwell- iant. Yr unig ffordd i gael ymwared o'r rheolau a'r cadwvnau trahaus hyn ydoedd gwrthryfela yn eu herbyn, a chredai fod y gwrthvyfel wedi cychwyn. Yr oedd yll gywilydd ganddo ef fod pobl Cyrnru wedi cvmervd eu rhwymo cyhyd o amser wrth y rheolau plentynaidd hyn. Ni chydnabyddai ef hawl vl. Orsedd 0 gwbl i benderfynu y cwestiynau hyn, a gwell fuasai ganddo oliwng gafael o'r Eisteddfod not rhoddi i mewn iddynt ar y pwyntyma. Yn bersonol. tueddai ef i feddwl na ddylasent ond yn unig hys ]-rsu vr Orsedd o'u bwriad, ac nid gofyn eu cais. Nid Lerpwl fvddai yr unig le i gymeryd y cwrs hwn? Dywedodd y Parch Owen Owens, yn gymaint a'n bod wedi rhoddi ein gair wrth wneud cais am yr Eis- teddfod. na welai un cwrs aurliydeddus yn agored iddynt ond derbyn y gwelliant, myned yn mlaen i gvvblhau y rhaglen, a gofalu am lwyddiant yr Eis- teddfod. Parch R A Jones a wrtlidystiai yn erbyn lleiafnf y Pwyllgor Llenvddol yn ceisio troi y Pwyllgor y Pwyllgor Llenvddol yn ceisio troi y Pwyllgor Cyffredinol i wrtliod y penderfyniad a basiwyd gyda rsiwyafrif mawr. Nid" oeddynt eto wedi cael atebiad i'r cais a ddanfonwvd ganddynt i'r Orsedd, a'r unig beth a ofyneut yn awr oedd cael gohirio y mater hyd lies y derbvnient yr atebiad hwnw. Parch 0 L Roberts a siaradodd i'r un cyfeiriad Tybiai nad oedd an gen brysio, fod digon o amser ganddynt i wneud po01 trefniadan ar ol Eisteddfod Caerdydd.. Mr O G Pritchard a amlygai syndou na ystynd atebiad Pwvllgor yr Orsedd yn foddhaol a therfyn- ol. Pe apelid at'vr Orsedd yn Nghaerdydd, nid <>edd vn debyg yr elai yn erbyn barn mwyafrif mawr ci phwyllgor. yn clywed gwr oedd yn feyw ar bregethu tangnefedd yn cymhell Pwyllgor Lerpwl I i wrthryfela. Mr Wm Evans (Elm Bank), a gredai y byddai <-ohirio'r mater yn mhellach yn gwrs annoeth iawn, Úwell fvddai .gadael pethau fel y inaent, a myn'd rhao-om* i ddwyn y rhaglen allan. Pe gellid cael y testyr.au allan erbyn Eisteddfod Caerdydd, caem gyfteustra rhagorol yno i ddwyn ein Heisteddfod i Éylw. Fel aelod o'r Pwyllgor Ariauol, oedd tan y fath gvfrifoldeb, apeliai yn daer am i'r annghyd- fod ddod i derfyn, am y byddai'n sicr o beryglu llwyddiant yr wyl. Pedrog a sylwodd fod cymaint o swn mewn ambell araith a draddodwyd nes yr annghofid y p1'if bwyntiau. Yr oedd yr Orsedd ei hun er's dwv neu dair blynedd yn trafod y priodoldeb o adael y gadair vn agored i unrhyw fesur, ac apel- iai ef at Bwyllgor Lerpwl i beidio ymvryd yn y mater, eitlu* gadael i'r beirdd benderfynu y pwnc. G of'ynodd Mr J J Thomas pa beth a fwriadai y pwyllgor Llenvddol wneud os byddai atebiad yr 9 Orsedd vr un ag atebiad ei phwyllgor? Mr Wm Jones (Breeze Hill), hefyd a wasgai'r un cwestiwn fel un o'r pwys mwyaf i'r pwyllgor, Ni chaed atebiad i'r gofyniad amserol, ond nad oedd y Pwyll- gor Llenyddol wedi rhoi ystyriaeth i hyny, ac mai mater i'w benderfynu fydd hwnw ar ol dyfarniad yr Orsedd. IBu dadleu brwd wed yn, ac anhawdd gwybod ar adeo-au pwy oedd yn siarad. Cafodd y Cadeirydd ■-ryn waith i gadw'r"ddysgl yn wastad. Ar derfyn y drafodaeth fywiog, sylwodd Mr Llew Wynne ar teryglon y cwrs newydd a gynygid. Wrth apelio am vr v dries id dwyn y mater yn mlaen yr Orsedd ei hun oedd i benderfynu'r pwnc, a gvvrthdystiai yn erbvn gwneud Lerpwl yn faes brwydr y Mesu--au. Meddai lleiafrif y Pwyligor Llenyddol hawl i lym wrth eu barn, ei dat»a» a'i chymhell vn y Pwyllgoi ■O vffredinol. Hawdd oedd diystyru yr Orsedd. ond fe' y drafodaeth fywiog, sylwodd Mr Llew Wynne ar teryglon y cwrs newydd a gynygid. Wrth apelio am r wyl v dylesid dwyn y mater yn mlaen yr Orsedd ei hun oedd i benderfynu'r pwnc, a gwrthdystiai yn erbvn gwneud Lerpwl yn faes brw-rdr v Mesu--au. Meddai lleiafrif y Pwyligor Llenyddol hawl i lym wrth eu barn, ei dat»a» a'i chymhell vn y Pwyllgoi ■O vffredinol. Hawdd oedd diystyru yr Orsedd. ond fe' cyfnerthid gan Gymdeithas yr Eisteddfod, yr hon a gynygiai wobrau hael bob blwyddyn. Credai ef yn sicr y byddai'r helynt hwn yn rhwystr ac aflwydd i'r Eisteddfod. Pleidleisiwyd, a chaed S4 o blaid a :>9 yn erbyn y gwelliant. Cynygiodc1 Mr Wynne welliant arall i'r perwyl eu bod Vn cvmetyd pleidlais o aelodau yr Orsedd trwy gylciilythyr yn hytrach nag aros am ddau fis i'r Orsedd gyfarfod.—Eiliwyd gan Mr Wrn Griffith. —Siaradodd Mr J Harrison Jones yn erbyn hyn.— Collwyd y gwelliant. Cariwyd y peadertyniad gwreiddiol gyda mwyafrif, Cymeradwywyd nifer 0 destynau ychwauegol oddi- wrth y Pwyllgor Cerddorol. Gohiriwyd testynau Pwyllgor Celf hyd y cyfar- fod nesaf.
Nodion o Faelor.
Nodion o Faelor. JVos Sadivrn. ER gwlyped ydoedd hi, aeth llawer i grwydro o'r (i,ffryn y.-na advd(i Llun. Rhai i Eisteddfodau Broughton a'r Bala, rhai i Seiat Lerpwl, rhai i lan v mor i chwilio am le sych, ac eraill i'r yspleddach yn Mharc Wynnstay. Pob un yn ol ei ffansi. Nid rhyw lawer o lewyrch fa ar yr Eisteddfodwyr yma, ac ychydig iawn a glywir am danynt, ond fod ami i gystadleuwr siomedig yn eu plith ac ambell un wedi cael cam. Llongyfarchwn g6r bach yr Adwy ar eu llwyddiant yn y Bala, tan arweiniad Wm Crewe ond am G6r IVIelbion y Poncie yn yr un lle-wel, gresyn na fuas. ent wedi aros adref i ddysgu tipyn o synwyr eyff- redin. Bel i'r newydd ddaeth o'r Bala godi cywilydd arnom fel ardal. 'Ofer cladl wedi barn,' ac os nad oedd gen- ycli ymddiried yn Mr D Evans, paham yr aethoch yno o gwbl ? Drwg iawn genyf am yr helynt blin, a bod bechgyn y Poncie wedi ymddwyn mor ffol. 0" nad ydych yn foddlon i gymeryd eicli cuio, a derbyn y gurfa deg yn anrhydeddus, da chwi na soniwch am ganu by tli. Llawenhawn wrth ganfod y llwyddiant anarferol sydd ar Demi y Plant Gobaith yr Oes yn y Rho yma. Dyma hwy wedi eure/r byd yn grwn, ac wedi derbyn y Faner Gydgenedlaethol. Peiriiwcb^ bodd- loni ar hyn ac aros yn yr unfan, gan dybiecl eicli bod wedi cyrhaedd pell yc atit, ond ewch rhag job a myn- wch ddal ar y blaen i chwifio'r faner yn Maelor. Ben- dith arnynt. Dioleh i'r nefoedd, ciliodd yr ystorm, chwalodd y cymylau, a daeth heulwen eilwaith o ganol awyr las, gan ysgafnhau calonau a dymchwel pryder o ami i fynwes. Y mae'r helynt yn yr Hafod wedi dirwyn i'r pen, y ddwy blaid wedi eu huno, a'r gweithiwr wedi cario'r dydd. DYFFRYNWR. BWLCHGWYN, GER GWRECSAM. Cungherdd —Cynaliwyd Cyngherdd Mawreddogyn nghapel yr Annibynwyr nos lau, pryd y gwasanaeth- wyd gan Gor Meibion Bwlchgwyn, o dan arweiniad Me W Roberts, Miss N Thomas, Rhostyllen, ac am- ryw gantorion ileol Cy nerwyd y gadair gan y Parch E Anwyl. (M.C.) Coedpoeth, ac arweiniwyd gan y Parch J T Hughes, gweinidog y lie. Yr oedd y tyw- ydd dipyn yn anffafriol ond daeth cynulleidfa dda yn nghyd i fwynhau'r wledd mewn adrodd a chanu. Canodd y Cor Meibion yn dda. Yn sicr y mae gan Mr Roberts leisiau rhagorol o dan ei arweiniad, a gall trwy ymroddi wneud cor diguro o honynt. Nid yw Miss N Thomas yn ddieithr yn yr ardal. Bu yma yn byw am dymhor gyda'i rhieni; ond dyma'r cyfle cyn- taf i ni yn Mwlchgwyn gael y pleser o wrando ami yn canu mewn cyngherdd; ac yn sicr dymuniad pawb a'i clywodd ydyw Melus, moes mwy." Storm o Fellt a Tharanan.— Nid yr un peth sydd yn cynhyrfu awen pob bardd. Y mae beirdd y blodau, beirdd yr afon, beirdd y ser, a beirdd yr haul; a llaw- er iawn, fe ddywedir, o feirdd y lloer. Can rhai i'r dydd a chan eraill i'r nos, rhai i'r boreu, a rhai i r hwyr. Y tyner sydd yn rhoddi testyn i'r naill, a r mawr'eddog o'r ofnadwy tebyg i ystorm o fellt a thar- anau yrwan, sydd yn rhoddi testyn i r llall. Dyma beth a gynhyrfodd awen un o feirdd y Bwlch yma'r dydd o'r blaen a thebyg gen i fod yr englyn byrfyf- yr a ganlyn a gyfansoddwyd ganddo yn rhoddi iddo ei le yn y rheng flaenaf yn mysg beirdd y mellt a'r t'rane," Beth yw twrw poeth taran-yn rowlio Ar rail fav, r pendryfan ? Mae yna rhyw foch mewn rhyw fan Yn 'rawyr uchod yn rhochian. Yr Eiste(ldfocl. -Y mae yma gryn gynhwrf y dydd- iau hyn yn nghylch Eisteddfod y Gwyr Ieuainc a fwr- iedir gynhal yma mewn pabell eang, ar y 21ain cyf. Gosodir y babell i lawr yn ymyl un o r manau prydferthaf yn Nbgymru, a di-gwylir y bydd cynulliad 'po'oloedd lawer i ivy I, peby'l," yn Mwloh Gwyn eleni fel y llynedd. Y mae yma chwech o gor- au o wah .nol fanau o Gymru a L'oegr, wedi anfon eu henwau ar y brif Gystadleuaeth G rawl. Y mae yna saith o clraethodau a chwech o brydde tau ac am yr unawdau a'r hosanau, y deuawdau a r psdolau mul, yr englynion a'r crysau, yr adroddiadau a'r socasau, wel y maent bron yn ddirif- Yr ydym ni yma wedi gwneud ein gorea gias, ac yrwan yr ydym yn disgwyl am gynorthwy oddiwrth garedigrion yr Eisteddfod o bob pirth o'r byd. He y siaredir Cymraeg, ae y ffvvertbir Yarmouth bloaters, a chaws Caerphili. ° A z u,,z. (Da, genym fydd clywed yn ami odiiwfth Alun Gol.)
Syr Wm Harcourt yn Nantyglo.
Syr Wm Harcourt yn Nantyglo. MEWN araith rymus yn Nantyglo nos Fawrth, condemniai Syr William yu llym ddatganiad Ar- glwydd Rosebery y rhaid i'r Blaid Ryddfrydol ddy- chwelyd at yr hen Ryddfrydiaeth a goleddid cyn 188(;, a dywedodd yn bendant nad oeddynt am droi'n ologwbl. Nid oedd ganddynt ddim i edifarhan o'i blegyd. Glynasant wrtit Mr Gladstone tra y bu byw, ac ni chefnent ar ei egwyddorion ar oleifarw, Yn mlaen ac nid yn ol, y maeyn rhaid i'r blaid fyn- el. Profasant golledion, a gorchfygwyd hwy yn ami; enillasant frwydrau heiyd, ac y mae buddug- oliaethau mwy ynleu haros. --0--
,Y Marchog Cymreig newydd,
Y Marchog Cymreig newydd, Y mae sail dda i gredu y bydd Dr Isambard Owen yn mhlith v rhai a dderbyniant Urdd Marchog gan y Frenhines ar achlysur ei phen blwydd, rhestr o ba rai a ymddengys yn mhen yehydig ddyddiau.
Eisteddfod Cenedlaethoi Caerdydd.
Eisteddfod Cenedlaethoi Caerdydd. C YNE LfR yr Eisteddfod y flwyddyn lion, fel y mae'n hysbys, yn Nghaerdydd, ac y mae'r amser yii iieshau. Dygir ni i'r drydedd wythnos o Orphenaf yn bur fuan bellach. Mewn ysgrif alluog—rhy faith i'w chyhoeddi yu ein colofnau, mae'n ddrwg genym ddweyd, ac ni fynem ei chwtogi-dadleua Idriswyn yn gryf dros waith y pwyllgor yu caniatau gwerthu diodydd o fewn terfynau'r babell. Y mae llawer ellid ei ddweyd y naill ochr a'r llall, ac yr ydym yn cydymdeimlo i raddau helaeth a Phwyllgor Caer- dydd. Gwnaeth y gwahanol gymanfaoedd enwadol a'r cymdeithasau dirwestol yn iawn brotestio yn erbyn gwaith y pwyllgor a gwneud eu goreu i'w wrthwynebu yn hyn o beth Ond peth arall ydyw boycotio'r Eisteddfod, yr hyn a siaredir gan rai pobl. Rhaid cofio mai gyda mwyafrif bychan iawn y pasiwyd v penderfyniad yn y pwyllgor, a buasai niweidio'r Eisteddfodyn gam .dybryd a lleiafrif y pwyllgor, y rhai sydd yn ddirwestwyr selog ac yn Eisteddfodwyr aiddgar. Cofier hefyd fod y rhai hyn mor gyfrifol am lwyddiant yr Eisteddfod a'r rhai a bleidiodd y drwydded. Ermwyn y rhai hyn, yn ogystal ag er mwyn yr Wyl Genedlaethol, dy- ledswydd pob Cymro gwladgar ydyw gwneud ei oreu i ddaU fynu freicliiau Pwyllgor Caerdydd, a sicrhau llwyddiant yr Eisteddfod. Penderfynodd y pwyllgor, trwy fwyafrif o ddau, wrandaw. ar gynrychiolwyr Eglwysi Rhyddion Caer- dydd nos Wener nesaf o berthynas i'r drwydded a rhoddodd y Prifathraw Edwards rybudd o gynygiad i dynu'n ol y penderfyniad a basiwyd i wneud cais am drwydded. Disgwylir y dadleuir y mater allan yn deg a therfynol.
--)--Cyffredinol
--)-- Cyffredinol Y mae Mr J Jones, postfeistr Caernarfon, wedi derbyn y swydd o bostfeistr Barnsley, swydd Yore. Y mae'r Parch E 0 Davies, cynorthwywr y Prif- athraw Edwards, a'r Parch J Puleston Jones wedi eu dewis yn ddarlithwyr yn Ngholeg y Bala. Blwyddyn i heddyw (Mehefin 1,1898) y cymerodd priodas y diweddar Mr Thomas Ellis le yn Aberys- twyth. Niweidiwyd amryw deithwyr ddydd Gwener ar y ffordd rhwng Llanfair ac Abergele trwy i gerbyd droi drosodd ar allt serth. Torodd lleidr i mewn i dy Mr Henry Edwards, crydd, Y Maes, Caernarfon, nos Lun; ac er pob ymdrech ar ran yr heddgeidwaid, y mae hyd yma heb ei ddal. Yr un noson, yn ngorsaf nwyddau y ffordd haiarn, torodd rhywun i mewn gan ladrata stampiau. Y mae tori i dai wedi dod yn beth cyff- redin yn y dref yn ddiweddar. Yn Eisteddfod Colwyn Bay y Llungwyn, hysbys- odd y beirniad ei fod yn dyfarnu'r gadair i 11 Puri- tan," ond ni wnai hwnw ei ymddangosiad. Yn gweled hyny, cyhuddwyd ef o lenladrata pedair tu- dalen o bryddest wobrwyedig yn Biwmaris beth am- ser yn ol. Gan na ddaeth i hawlio'i gadair, dyfarn- wyd hi i'r ail, sef Peniel," sef Bethel, Caerdydd. Tybed ai o ddifrif ai o fregedd y gwnaeth y bardd hyn ? Yr wythnos ddiweddaf bu ystad y Lodge, ger y Waun, dan forthwyl yr arwerthwr mewn 17 o ranau. Cafwyd prisiau uchel am rai ohonynt. Aeth fferm Weston i Mr E Williams, Croesoswallt, am l,900p Weston Cottage, am 900p, i Mrs Hopley, Dudles- ton Wernygro s, ty a 11 acr o dir, 880p tafarn y Plough, a rhes o dai bychaiu, 1,600p fferm Crogen Iddon, 3,400p, yr hon a brynwyd gan Mr E France Hay hurst, Davenham. Yn Lerpwl, ddydd Llun, dygodd Edward Evans gynghaws yn erbyn Wm. Williams, adeiladydd, Anfield, am iawn oherwydd niweidiau a dderbyn- iodd tra yn ei wasanaeth. Tystiai yr achwynydd i'r esgynlawr roddi ffordd dano tra yn gweithio ar adeiladau i'r diffynydd yn An field yn mis Mawrth. Niweidiwyd ef yn ddifrifol, a bu yn analluog i weithio oddiar hyny. Dywedai y diffynydd fod yr esgynlawr yn ddyogel, ac nad yn ei wasanaeth ef yr oedd, ond yu ngwasanaeth sub-contractor. Dygwyd rheithfarn o blaid yr hawlydd, a dyfarn- wyd iddo y swm 0 lOp.
Advertising
Total Abstainers and Life Assurance. UNITED KINGDOM TEMPERANCE AND GENERAL PROVIDENT INSTITUTION The OLDEST, the STRONGEST and the BEST OFFICE which offers SPECIAL ADVANTAGES to Abstainers. I The II Largest English Mutual Life Office. 9 FOUNDED 1840. i Total Accumulated Funds • • ••• ••• ••• IncotoG • • **• i-oOOjOOO Amount of Policies in Force 31at December, 1895 £ 14,000,000 Surplus Divided amongst Policy-holders, 1896 £741:845 se ¡ For the Society's Full Handbook, 48 pages, apply to the Representative,— JOHN HUGHES, 1 Venice Chamber?, 61 Lord Street, Liverpool, i ReiJidence-2, Elm Bank, Walton Breck Road.
—*r" Cyrddau y Oyfodol, &c.
—*r" Cyrddau y Oyfodol, &c. Gweler yr Hysbysiadau yn y rhifyn hwn. 31 eh. 3 &c-Cyfarfod Pregethu y Woodlands. A wst 7—Eisteddfod Gadeiriol Newmarket Tttah 7 &c,-Nodachfa Webster Road. Rhag. 26.—Eisteddfod y Temlwyr Da. yn Lerpwl 23—Eisteddfod Gadeiriol Rhyl
Lieol.
Lieol. Y DDIWEDDAR MRS MARY JONES, GAITSTON. --Bore' ddydd Mawrth. Mai 26, yn ei phreswylfod, 87, St. Mary's Road, Garston, bu farw Mary Jones, anwyl briod Mr John Jones, groser,yn 37 mlwydd oed, gan adael ei phriod a phump o blant i alaru ar ei [hol. Trydedd ferch ydoedd i William Hugh; s, Caerhug, Rhostryfan. Mae y fceulu yn deulu lluosog, a chyfrifol. Cafodd Mrs Jones gystudd blin a maith, ond dyodd- efodd y cwbl yn rhyfeddolo dawel a dirwgnach. NoR lau Mai 25ain, cynaliwyd gwaaanaeth yn y ty gan y Parch Owen Owens, gweinidog Anfield Road Lerpwl. Bore ddydd Gwener, Mai 26ain, symudwyd ei gwedd- illion o Garston, a ehymerodd yr angladd le tuag un o'r gloch y prydnawn, o dan Ddeddf Claddu 1880, yn mynwent Llanwnda. Yr oedd yno gynulliad mawr. Gwasanaethwyd wrth y bedd gan y Parchn. Richard Humphreys Bontnewydd, a Henry Jones, Prenteg. Siaradwyd hafyd yn y fynwent gan Mri. Reas EJlis, O. T no mas, a J. Hu. hes, (blaenoriaid) a Richard Williams, (athraw y dosbarth yr oedd Mrs Jones yn atlod ohono yn yr YHgol Sul) o Garston. Anfonwyd blodeuglym gan Mr John Jones a'r plant, Mis J. Hughes, (chwaer), Mr R. Jones, Misses M. J. Jones, a J. Jones, aelodau y dosbarth yn yr ysgol Sut, Misses M A a E J Williams, Miss Jane Evans, Mr a Mrs Rigby, Miss E Hesketh, Mr a Mrs W Lewis, a Miss E Lewis, Mr a Mrs Job Jones, a'r Misses Philips. Nos Sul, gwnaeth y Parch John Williams, Chadwick Mount, gyfeiriad at yr amgylch- iid yn ei brageth. Ddoe (Mai 31) cychwynodd Miss Jennie Parry (Telynores Lleifiad) adref o'r America. Disgwylir iddi gyrhaedd yma ddydd lau nesaf. --0--
Uenyddiaeth.
Uenyddiaeth. GWNAETH y QyrnraeS a'r Lladmerydd am Mehefin eu hymddangosiad yn brydlon a hoewder yn eu gwedd. Gwyneb-ddarlun y Gymracs ydyw Mrs Stephens, Rhuthin, a fu farw ychydig wythnosau yn ol, a cheir ysgrif dyner ami gan E.J. W. Ceir nifer o ysgrifau dyddorol eraill, a darlun o'r "Genhades leuanc." Deil y Misolyn hwn yn siriol a byw. Y mae'r rhifyn presenol o'r Lladmerydd yn llawn eystal ag arfer. Ceir ysgrif amserol gan y Parch J Morgan Jones, ar "Ddylanwad Gweddi," ac ar "Berthynas crefydd a gwleidyddiaeth," gan y Parch E. V. Humphreys. Parha Mr Job Owen, Llanberis, yn ei "Ymchwit i ddarganfyddiadau hynafiaethol," gyda chryn ddeheurwydd, Gwneir y gweddill o'r rhifyn i fynu o'r nodiadau arferol ar y gwersi, nodiad- au llenyddol, ac amryw fan nodiadau eraill, yn nghyda thudalen o faiddoniaeth syml a thipyn o solifa.
Advertising
YN EISIAU geneth tua 17 oed, at waith ty. Car- JL tref cysurus, teulu bychan. Ymofyner M, Cprnro Office. AR WERTH.—Y Gwyddionadur (yn rhanau cyflawn), Traethodau Dr Edwards, Geiriadur Charles, Esboniad Barnes, Buchdraeth J. Hughes, Hanes Methodistiaetb, a lluaws o hen gyfnodolion Cymraeg,—Mrs GRIFFITHS, 90 Rodney Street, Bir- kenhead. GWALIA HOME AND REGISTRY, 2,- Hope Place, Liverpool. YN EISIAU.— MORWYNION parchus i leoedd da. Ymofyner I', Arolyges, Miss JONES, 2, Hope Plaoe, LiverpooL TONIC SOL-FA.—For class or private tuition, terms, apply, R. G. DAVCES, (Examiner for T S. College), 28 Voelas Street, Princes Road. O.N Songs transcribed to T. S. Concerts arranged. COMFORTABLE LODGINGS for one or two young gentlemen, at 71 .Dorothy Street, two Doors from Edge Lane. RESPECTABLE APARTMENTS for two young" gentlemen. —34 Rupert Lane, Everton. WANTED Furnished Cottage, or apartments, three bedrooms, in North Wales, within 7(T miles of Liverpool.—Moderate terms.—Address S. Cymro office, Liverpool.
Family Notices
Eva.ns-Lloyd-Mai 20. yn nghapel M.C Nantglyn, gan y Parch Isaac Jones, M T Evans, Waen Dilen, ao A Lloyd, Blaenau, Nantgtyn. Kerfcot-Jones -Mai 19, yn nghapel M.C. Bodfari, gan y Parch V- W Roberts. G- Kerfoot, Cefn Meiriadog, a M E Jones, Glanclwyd, Bodfari. Phillips- Davies -Mai 30, yn y Tabarnacl. Netherfleld Road, gan y Parch 0 L Roberts. Walter Gwynnefred, Sheffield, ac Ann Jane, merch ieuengaf y diweddar William Davies y Willows. Williams-Parry-Mal 24, yn nghapel y Bedyddwyr, Rhyl, gan y Parch T Shanklmri, W Will-ams, Beacons Hill, Din- bych, a Jane Parry, Brondyffryn, Dinbych. tbarwolaetl)au. Davies-Yii ei phreswylfod, 129 Chatham Street, Emma, merth hynaf y diweddar John Davies o'r ddinas hon. Evans-Mai 29, yn 28 Cairo Street, yn 22 oed, Maggie, anwyl fe: ch Evan a Sarah Evans. Jones-MId 20, Mary Jone3, Codnys, Llanrhaiadr Dyffrya Clwyd, yn SO oed Jones-Mai 26, >n Plas Llwyd, Sefton Gate, LerpwJ, yn 26 oed, Arthur Edward, ail fab y diweddar Edward Jones, Y.H. Joiaes-Mai 29 yn 18 Shaftesbury Road, Great Crosby, yn 63 oed, Elizabeth, anwyl briod Edward Jones. Price-Mai 19, Lazarus Price, Picton, Llanasa, Claddwyd yn mynwent Llanasa Mai 23. itoberts-Mal 30, yn 28 Juliet Street, yn 62 oed, Griffith Roberts, anwyl briod Elizabeth Roberts. Roberts-Mai 26, yo Bahia, Brazil, o'r cryd melyn, pumed mab y diweddar Owen Roberts, Birkenhead. -=-=-=--=-=-=-
Advertising
PRETTY TEETH ARE ATTRACTIVE, W. JONES, Dentist, 29, HIGH ST., WAVERTREZ All Clients receive Mr. JONES'S personal attention, and the benefit of his 22 years experience as a Dentdst. Painless Extractions under Nitrous Oxide Gaw. HIGH CLASS ARTIFICIAL TEETH, natural Shape, and Colour, Ss. to 21s. each. Old Sets and Misfits re-made on New Setting at about the original cost. Repairs to Artificial Teeth and Plates, any Makers', complatatf in a day if required. Consuls lions Free. Telephone, No. 25 Wavertrea Siariedir Cymraeg neu Saesner. Pamphlet gr«Al4 Printed and Published by ISAAC FOULKES af his Printing Establishment, 8, Paradise Streat iø," the Parish of Liverpool, in the County 0{ Lancaster. Telephone 742G (Central.