Skip to main content
Hide Articles List

10 articles on this Page

Yn KKhwmnl Natur a'i Phlant.

News
Cite
Share

Yn KKhwmnl Natur a'i Phlant. ■JSRBYN hyn dyma'r holl adar wedi cyrhaedd, a phrysurdeb mawr yn eu plith. Gallaf enwi y rhai .^canlynol fel wedi exi gweled genyf eleni:—Tinwen y Gareg, Chiff Chaff, Crac y Gareg, Crac yr Eith- in, y Wenol, Gwenol y Fondo, Gwenol y Glenydd, yr Asgell Hir, y Gog, Llwyd Eron, Penddu, Llost- rudd, Dryw yr Helyg, Dryw y Coed, Siglen Lwyd, Mwyalcheu y Graig, Ehedydd y Coed, Pibydd y Traeth, Gwibedog Brith, Gwibedog Manawg, Rlieg- en yr Yd, a'r Troellwr. Yr olaf, fel rheol, yw r diweddaf i gyrhaedd y wlad hon clywais a gwelais ef eleni yn hwyrddydd Ffair Galanmai. Ni chlyw- ais y Troellwr Bach neu yr Anhywel etc ni cheir ef yn yr nn man ag arfer, gan fod yr ochr a arferai fynychu wedi ei llosgi, a'r dram a'r eifchin wedi eu Æfa. Er yr holl astudio yn nglyn a'r pwnc dyddorol o fudiad adar, erys llawer iawn o dywyllwch arno ond fel y mae cyfaudir mawr Affrica yn cael ei agor allan gau y dyn gwyn, ceir goleuni chwanegol ar y mater o flwyddyn i flwnddyl), ac y mae'n sicr erbyn hyn mai yn y rhan hwnw o'r byd y gauafa y mwyaf- rif ohonynt. Syndod yw meddwl fod creaduriaid mor fychain o gorph, a'r mwyafrif o'r cantoriou, yn gallu ymlwybro drwy'r awyr yn ol a blaen l'hwng yr Ynysoedd hyn â Deheabarth Affrica, gan ddevus glanau Mor y Werydd neu ddyffryn yr afon Nilus i gyrhaedd yno, er mwyn ysgoi y Sahara tywodlyd. Deuaut drosodd yn ddystaw a diarwybod yn y nos. Yn gynar yn Mawrth, os eir allan i'r mynydd, gwel- I z, ir Tinwen y Gareg, y gyntaf i ddod drosodd o ynys- oedd Mor y Canoldir. Tua diwedd y mis gwelir y Wenol yn gwibio hyd y dolydd ac yn gynar yn Ebrill daw'r cyntaf o'r cantorion, sef y Chiff Chaff v' pwy rydd enw Cymraeg ar hwn ?) yna bob boreu gwelir rhywun o'r newydcl wedi cyrhaedd—Gwenol y Glenydd a Gwenol y Fondo, y Gog, ac yn y coed ceir ychwanegiad at y cor asgellog yn Ehedydd y Coed, Dryw y Coed, &c. Tua'r un adeg yn y dol- ydd clywir Crec Crec, Rhegen yr Yd, ac yn olaf daw y Troellwr i droelli yn min yr hwyr yn mysg y Grug a'r Rhedyn. Daw pob un ohonynt drosodd yn bur agos i'r adeg arferol. Is is gwelir hwy yn dod nac yn myn'd gwyddom iddynt gyrhaedd, ac yr ydym yn llawen o'u clywed a'u gweled, a theiml- wn eu colli yn yr Hydref. Wedi cyrhaedd, mynychant yr un llecyn ag ar- fer, gan nythu yn bur agos i'r un fan a'r flwvddyn ddiweddaf. Tuedda hyn ni i gredu mai yr un adar ydynt, neu o leiaf gywion a fagwyd yn y manau z, hyny y tymhor o'r blaen. Yn y mieri yn agos i'r ty ,bydd par o Lwydfron yn nythu bob blwyddyn, ac y mae par o Wenoliaid yn magn nythiad o gywion yn y beudy mewn fferm yn ymyl o flwvddyn i flwvddyn yn rheolaidd, gan ei osod ar yr un fan ag yr arferai fod. Y gred yw mai'r gwryw ddaw drosodd gyntaf. Trofwyd hyn yn hanes yr Eos a'r Gog. Dilyna'r fenyw yn bur fuan, ac yna cymharant i gyd ond y Gog. Beth ddaw o'r sawl nas gallant gwrdd a ehymhar sydd ddirgelwch. Tebyg eu bod yn crwydro o'r naill fan i'r llall yn ddigysur a digym- deithas. Rhaid fod yna rai felly, oblegyd pe dig- wydd damwain angeuol i rhyw un o bar, buan y bydd y sawl a adewir wedi eiail gymharn. Clywais gipar yn dweyd pe saethai Hebog gwryw na fyddai'r fenyw ddim tridiau cyn cael cymhar arall. Di- gwyddodd hyn dair gwaith yr un tymhor yn hanes un ohonynt. Sylwais fod llawer o'r adar brodorol wedi magu llon'd ty o blant" eleni. Gwelais amryw o gyw- ion y Fronfraith, y Deryn Du a r Robin Goch a bu un par o leiaf yn hynod ddiwyd. Gwelais gyw- ion Crac y Gareg, ond gan fod hwn yn ymfudwr rhanol feallai mai cywion par fun aros yn yr Ynys hon oeddynt. GWAS Y GOG. O

Dyffryn Clwyd.

RHUTHIN. i

LLANELWY.

LLAKELIDAN. )

Llythyr Lerpwl.I

Ar Finion y Ddyfrdwy.

[No title]

---0---Y MOR-GWISGOEDD Y MOR.

Advertising