Skip to main content
Hide Articles List

7 articles on this Page

TERFYN STREIC Y PEP HYN.

News
Cite
Share

TERFYN STREIC Y PEP HYN. TELERAU'R CYTUNDEB. CYFARFOD MAWB YN METHESDA. Nos Sadwrn, yn Neuadd y Farchnad, Bethesda, cynaliwyd cyfarfod mawr o weithwyr Ohwarel y Cae i ystyried amodau cytundeb a ffarfiwyd mewn cynadleddau diweddar, ac a arwyddwyd ar y 18fed cyfisol gan Mr E. A. Young asr ran Argl. Penrhyn, a chan Mri W. H. Williams, Robt. Davies a Henry Jones ar ran y chwarelwyr. Llywyddwyd gan Mr Wm. Evans, Bontuchel, a chydag ef ar y llwyfan yr oedd Mr D. R. Daniel, y trefnydi Mr W. J. Williams, ysgrifenydd yr Undeb; Mr Lloyd Car. ter, un o gyfreithwyr ystad y Peorhyn a Mr Holmes, Leicester, ar ran Cynghrair yr Hosaneu- wyr. Sylwodd y Cadeirydd fod yn falch ganddo gyf. arfod cynifer o'i gydweithwyr ar achlysur cyflwyn- iad amodau cytundeb i'w hystyriaeth. Balch yd- oedd hefyd o weled Mr Lloyd Carter yn eu plith, yr hwn a gyflawnodd wasanaeth gwerthfawr wrth geisio cyflafareddu rhwng y ddwyblaid. Credai eu bod fel gweithwyr yn ddyledus iawn iddo ef am yr hyn a wnaed i osod y telersvu presenol gerbron. Galwyd yn nesaf ar Mr G. Edwards i ddarllen y telerau ac er budd ein darllenwyr yr ydym yn eu gosod yma'n gyfochrog a gofynion y dynion pan ddechreuodd yr annghydfod :— Gofynion y Dynion ar TtleravJr Cytundeb ddechreu'r Annghydfod. Presenol. J.-Cyflog safonol o 1-4.-Fod y cyflogau i 5s 6c y dydd i chwarel- barhau yr un cyfartaledd wyr, mwnwyr. a llifwyr ag oeddynt cyn y streic, yn y felin. sef y chwarelwyr 5a 6c y 9 —Pvflno- i«if v cvfrvw dydd' a dosbarthiadau • u ■Ar' v.nA TTn ini; r>n eraill yn ol yr un cyfar- l beidio bod y taledd (sef labrgreigwyr, 48 y dydd, pan yn 4g 7c Hafurwyr, 3s 7c) .dSrth ad7 "Y an eraill i dderbyn yn ol nach camatau yr un cyfartaledd. 3. -Gofyn am lOp y cant o godiad yn nghyf- logau gweithwyr y Felin Fawr, megys gofaint, seiri coed, &c. 4.—Gofyn am 6ch y dydd o godiad yn nghyf- logau seiri meini. 5.—Rhoddi 103 y bunt o 5.-Rhoddir ystyriaeth poundage i brentisiaid, j achos y prentisiaid. fel y byddo hyny'n gym- helliad iddynt gynilo eu ceryg. 6.—Gofyn am osodiadau 6,-Rhoddir bargeinion misol i rybelwyr, a'u misol i rybelwyr cymhwys gosod ar yr un tir i enill yn ddiymdroi mor fuan cyflogau a chwarelwyr yn a<r y gwel y rheolwyr hyny gyffredinol. yn ymarferol. 7.—Gwneud i ffwrdd a, 7.-Fod gosod bargein- cbyfundrefn y canolwr ion iw adaol yn nwylaw'r (middleman), yr hon gyf- rheolwyr, y rhai a gyflog- undrefn sy'n creu ac yn ant yr holl beraonau sydd parhau sweating system i weithio ar y cyfryw far- yn y chwareh. geinion ac i weled fod pob gweithiwr yn derbyn ei gyfran deg o gyflog. 8.—Pan y byddo cwyn 8.-(a) Fad cwynion un- gan weitbiwr neu weith- rhyw weithiwr, cnw, neu wyr, fod gan y dynion fel ddosbarth i gael eu cyf- cyfangorph hawl i gymer- lwyno ganddo ef neu hwy yd y mater mewn llaw a'i yn y lie cyntaf i'r rheolwr gyflwyno trwy bwyllgor Ileol. Os bydd pender- neu ddirprwyadth i sylw'r fyniad hwnw yn anfodd- rheolwyr hyny yw, fod haol, yna gellir cyflwyno r achos un dyn i'w wneud cwynion i'r prif reolwr, yn fater yr oil os bernir y yn bersonol neu drwy cyfryw achos yn deilwng. ddirprwyaeth a benodit yn y fath fodd ag a farno r gweithwyr yn oreu, and i gynwys dim mwy na phump o weithwyr wedi eu dethol o'r un dosbarth a'r person neu'r personau sy'n gwneud y gwyn, yr hwn neu'r rhai sydd i fod yn gynwysedig yn y ddir- prwyaeth. (b) 0 berthynas i gwyn- ion y mae'r gweithwyr yn gyffredinol yn rhoddi llais iddynt, neu a fabwysiad- ant ar ran cydweithiwr, criw, neu ddosbarth a gyf- lwynasant eu cwyn dan adran a, ac yn teimlo'n anfoddhaol ar y dyfarn- iad, gallant eilwaith gyf- lwyno'r cyfryw i'r prif reolwr trwy ddirprwyaeth i gynwys dim mwy na chwech o'r gweithwyr i'w penodi yn y fath fodd. ag a farno'r gweithwyr yn oreu. (c) Yn derfynol, mewn modd cyffelyb, yn mbob achos o bwys gellir apelio at Arglwydd Pen- rhyn un ai trwy berson unigol neu ddirprwyaeth yn erbyn dyfarniad y prif reolwr ond rhaid i'r rbesymau am yr apel yn mhob achos gael eu cyf- lwyno'n gyntaf i Argl- wydd Penrhyn mewn ysgrifen. 9-Fod yr holl ddynion 9. — Bydd i'r holl gyn- pan ail ddechreuir gweith- weithwyr a ddymunant 10 i gael myned yn ol yn weithio yn Chwarel y un cyfangorph heb i bob Penrhyn gael myned yn un yn unigol orfod gofyn ol yn un cyfangorph mor am waith. bell ag y byddo hyny'n ymarferol, a'r gweddill gan gynted ag y gellir trefnu gwaith iddynt, a chaniateir amser rhe ymol i'r rhai a ddichon fod yn awr yn gweithio yn mhell i ddychwelyd. Ar ol darllen y telerau uchod, fe'a heglurwyd gan Mr W. H. Williams. Sylwodd fod derbyniad y telerau /n dibynu ar y gweithwyr. Amcan y c tu deb oedd dwyn y ddwyblaid mor agos "t eu gilydd ag yr oedd hyny'n bosibl; ac er y dichon i'r down dybio nad oeddYDt vn euiIl yr oH v gofyn eat am dano, eto rhaid rhoddi ffordd rhyw gymaint i tarn personau na feddeat fudd yn y rn-,iter. Oyrr.hellai y dynion ya ddifrifol i ystyrie i y telerau ya fitawl cyn doi i unrhyw benderfyniad, a pheidio casaiaUu 1 deiml\dau lywodraethu en barn. Mewn atebiad i gwestiwa ar adran a, sylw- i odd Mr Williams y rhaid iddynt oil deimlo fod darpariaeth yma at undeb gwirioneddol.-Gofyn- odd un sut yr oedd Cymro uniaith i osod ei gwyn gerbron y prif reolwr, yr hwn sy'n Sais. Atebodd Mr Williams fod hyn wedi achosi cryn anhawsder i'r arweinwyr, ond yr oedd sicrwydd Mr Carter ganddo na byddai un anhawsder i sicrhau gwasan- aeth cyfieithydd mewn achosion lie byddai angen hyny.-Owestiwn arall ofynwyd oedd, a fyddai pwyllgor i apelio ato os methai dyn gael dirprwy- I aeth i gymeryd ei achos i fynu. Atebwyd os oedd y dynion yn dymuno dewis pwyllgor fod perffaith hawl ganddynt i wneud hyny. Eglurodd Argl. Penrhyn a Mr E. A. Young nad oedd rheol yn gwahardd pwyllgor i gyfarwyddo dirprwyaeth, a cban nad oedd un dymuniad i ymyryd &'u hawl, busnes y dynion oedd ethol pwyllgor. Gwnaed hyn yn glir fis Mawrth diweddaf,—Y cwestiwn nesaf oedd, a fyddai i'r awdurdodau beidio dial ar ddyn neu griw a osodent eu owynion gerbron. At- ebwyd gan Mr Carter na chedwid yr un "rhestr ddu," aj na ddyoddefai neb am osod cwynion ger- bron y rheolwr.-Gofynwyd amryw gwestiynau yn nglyn a safon cyflogau. Yr oedd anfoddlonrwydd lied gyffredino) yn cael ei amlvgu yn nglyn S'r ad- ranau hyny, a honai un neu ddau eu bod yn hollol yn yr un safle ag ar ddechreu'r annghydfod. Eg- lurodd Mr W. J. Williams y byddai'r ffigyrau yn yr adrariau uchod (1-4). yn sylfaen i weithio ar- nynt yn y dyfodol.—Yn nglyn a'r adran olaf, rhoes Mri W. H. Williams a Lloyd Carter bwys ar y ffaith y caent oil yn un cyfangorph fyned i'r chwar el, ond er mwyn cadw cofrestr fod pob dyn i roddi ei enw a'i gyfeiriad yn y swyddfa, a bod dull yr ail fynediad i'r chwarel yn hollol yn nwylaw'r rheol- aeth.—Cyteiriodd un arall at y posiblrwydd i hen weithwyr gael eu gosod ar waelod y rhestr, ac felly fod yn fwy agored i gael eu taflu allan o waith na dynion ieuengach, ond dywedodd Mr Carter na byddai i un rheolaeth gyda synwyr cyffredin freu- ddwydio am ddanfon ymaith yn gyntaf y dynion oedd wedi gwasanaethu hiraf yn y chwarel. Ychwanegodd Mr W. H. Williams os byddai i'r telerau gael eu derbyn gaa y dynion y noson hono y bwriedid i'r chwarel fod ar lawn gwaith ar y laf 0 Fedi, neu gynt os yn bosibl. Mr David Hughes, Penybryn, Bethesda, a sylw- odd fod y ddirprwyaeth wedi gwneud eu goreu i'r dynion yn yr ymdrechfa, ac am hyny a'r ffaith fed eu henwau wedi eu harwyddo wrth y cytundeb, teimlai mai dyledswydd y dynion oedd derbyn y telerau. Fally cynygiodd hyny yn ffurflol.-Eil- iwyd hyn, a chan nad oedd gwelliant, cyhoeddwyd fod hyny wedi ei gario. Dilynwyd hyn gan fan- llefau uchel. Mr John Williams, Rvnys, a ddymunai ychwan- egu at y telerau ddeisyfiad difrifol y byddai i'r cytundeb gael ei gario allan yn yr ysbryd yn gystil a'r llythyren. Cyn ymwahanu, diolchwyd i Mri Carter a W. J. Williams am y rban a gymerasant i ddwyn y cytundeb oddiamgyJch. Wrth gydnabod hyn, sylwodd Mr Carter ei fod wedi ymdrechu gwneud pobpeth a wnaeth yn onest, Edrychai ar yr annghydfod fel csveryl rhwng gwr a gwraig, a hyd- erai fod yr heddwch a ffynai'n flaanorol wedi ei adfer- I ddangos hyn gofynoid am dair banllef i Arglwydd Penrhyn a Mr Young. Gwnaed byn, ond yr oedd rhai yn hwtio p%u enwyd yr olaf. Yjia rho^dwyd banllefau calonog i Lady Penrhyn a Mr W. H. Williams, ac ymwahanwyd. GLADSTONE Y CHWARELWYR A'R CYTUNDEB, Bu gohebydd yn ymgomio âMr W. H. Williams ddydd Llun o berthyn^s i'r telerau. ac mewn ateb. iad i gwestiynau dywedai Mr Williams ei fod yn ystyried fod y dynion wedi cael yr hyn ddeallir wrth vr hawl i uno yn hollol. Teimla yn sicr y bydd i'r dynion fod yn foddlawn ar y telerau wedi y gwelont yr adranau mewn gweithrediad, ond rhaid iddynt beidio camarfer yr hawliau a gan- iatawyd iddynt. Mae'r adran sydd a wnelo â'r rbvbelwyr yn cyfarfod dymuniadau'r dynion, os bydd y rheolwyr yn ffyddlawn i'w gario allan, a theimla'n hyderus y bydd iddynt wneud hyny. Enillwyd dau beth yn nglyn ag adran y canolwyr (middlemen) sef fod pob dyn i gael ei gyflogi gan y rheolwyr, ac hefyd y bydd y gyfran deg o gyflog yn cael ei roddi i bob dyn. Bydd i hyn roddi atalfa ar rai sy'n derbyn budd annheg oddiwrth lafur eu cydweithwyr. Yn nglyn a safon cyflog yr enillwyd leiaf, ond bydd i'r adran sy'n cyffwrdd a. hyn fod yn foddion i ddangos mai ar y fargen, ac nid ar annghymhwysder y gweithiwr,y mae'r bai os nad all wneud 5s 6c y dydd o gyflog arni, a bydd ganddo felly gwyn i'w osod gerbron. 0 berthynas i fyned yn ol at y gwaith yn un cyfangorph, mater yn codi o falcbder y pleidiau ydoedd hyn, ond can- iatawyd i ni osod a ddymunant am waith yn lie a apeliant am waith yn yr adran hon, a phen- derfynwyd y mater felly heb friwio teimlad neb, -:0:-

[No title]

Advertising

PWLPUOAU CYMREIG, Awst 2a.

Rhagolwg Cysurus.

Advertising

Family Notices