Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

lloffion o'r Eisteddfod.

News
Cite
Share

lloffion o'r Eisteddfod. [Gan EIN GOHEBYDD NEILLDUOL,] GALLWN ddweyd yn ddibetrus mai 'Steddfod dda a llewyrchus oedd hi ar y cyfan, yn rhagori mewn lluosogrwydd, yn nifer a safon ei chystadleuwyr, ac yn ei chy tausoddiadau —a barnu oddiwrth y beirniadaethau—ar bob Eisteddfod ddiwedd&r. Nis gallem ddymuno gwell canu corawl, ac ni chJywsom ei debyg erioed tra'r unawdau, &c., yn llawer uwch na'r cyffredin. Er fod Mackenzie a'i gytifeir,niaid wedi ceisio diffodd y tan oedd ynddo, a difodi yr yapryd Cymreig a nodwedda'n canu cor- awl. Beirniedir y beirnisid hyn yn livin gan gantorion a phapurwyr y De, ac nid heb achos. ■ Vr hyn yr wyf n'n fethu ei ddeall yw, paham yr eir yn bar- haus i not Saesori di-gydymdeimlad fel hyn i feirn- iadu yn eLo. Gwyl Genedlaethol ar draul darostwng ac anwybyddu'r Cymry ? Yr oedd iaith yr Eisteddfod hefyd wedi ei chau allan bron yn llwyr eleni. Yr oedd yn gywilydd tneddwl fod yr hen iaith yn cael ei chlwyfo yn nhy ei charedigion. Pa reswtn fod y fath faldordd Seisnig yn cael ei oddef ar y Uwyfan cenedlaethol ? Mae Pwyllgor Casnewydd i'w gondemnio yn llym a didrugaredd am fradychu ein huoig Sefydliad Cen- edlaethol i ddwylaw ein gelynion. Allan o 13 o lywyddion, nis gallem ddisgwyl an- erchiad Cymraeg ond gan un, er oywiiydd wyneb i'r pwyllgor. A phan ddaeth yr un hwnw i'r llwy- ¡ fan, och ni i ni ddaeth sill o iaith ei hm dros ei I wefu,sp.ac efe yn neb Ilai na Dr John Rhys o Rydychen. Am yr arweinyddion wel, mae uwchlaw'm dir- nadaeth i paham yr eir yr holl ffordd i'r America i not dyn i'r fan yma i siarad Saesueg Fe bechodd Cynonfardd bron yn anfaddeuol ffordd yna diolch fod Mabon yno i roddi tipyn o Gymraeg i ni. Ni chiywais cyn lleied o Gymraeg erioed yn y beirniadaethau cerddorol. Yr oedd hi'n waeth nag yn Llandudno. Ni chawsom un gair o Gym- raeg ar yr un o'r cystadleuon corawl. Gwelir felly mai 11 wyf an Seisnig oedd yno, ond cynuMeidfa hollol Gymreig a gwell oedd gan rai a honant fod yn wladgarwyr ac yn Gymry o waed eoch cyfa gynffona i'r Saeson na boddhau'r Cymry. Rhaid cael diwygiad yn hyn o beth, neu fe gyll y 'Steddfod ei faamcan a'i dylanwad. Da gan fy nghalon oedd gwrando un anerchiad Cymraeg yno. Diolch o waelod calon i Llawdden am ei nerth moesol a'i yspryd Cymroaidd yn meidd- io traddodi araith Gymraeg ar Iwyfan i-nor Seisnig aidd. Yr oedd ei yspryd hynaws ar dan, ac nid rhy- fedd iddo gael gwraudawiad astud a chodi'r fath hwyi. Y mae, fel y dywedai un chwaer yno, yn lwmp o hyawdledd." Dywedai mai'r ffurf ucbaf ar farddoniaeth oedd emynyddiaeth a chododd i hwyl arigerddol wrth adrodd yr hen emyn anwyl gyda'r fath arddelitt.d ac erllirliad:- Er nad yw'm cnawd ond gwellt, &c. Adroddodd y ddwy linell olaf lawer gwaith dros. odd nes tynu dagrau o lygaid llawer. Dyma un o'r peths.u goreu yn yr holl Eisteddfod. Dyma gyfieithiad Llew Llwyfo o'r emyn uchod Although my flesh be grass, Although my bones be clay, I'll sing, as lightnings pass, He washed my sins away The Rock of Ages stems the flood, And lightning flames are quenched in blood. Ceid llawer 0 ddifyrweh yno yn awr ac yn y man -rh,&i sylwadau dooiol. Os yw'r Eisteddfod yn hen," ebe rhywun, Vy suae heddyw mewn cas new- ydd." Yr oedd golwg urddasol ar yr Archdderw- ydd-yntau yn ei gas newydd am y tro cyntaf. Fedrai'r beirdd yn eu byw fyn'd i'w cas newydd, I ac ar 01 i ddwylaw tyner y rhianod hardd-deg eu cynorthwyo, anhawddach fyth oedd dod ohonynt. Afrosgo y cerddai y rhan fwy ohonynt yn y wisg ddwyieiniol o ddiffyg arfer mewn gwisg urddasol. Ond cerddai Fedrog a Dyfed fel pe wedi arfer a hwy er pan daflasant ymaith eu peisiau. Pan fo bechgyn Rhondda eisiau enc6r bloeddiant "Rhagor," ac ambell waith, "Rhagor, mynjawch." Cyferfydd Cynonfardd a'i feistr ambell waith. Pan oedd cryn dwrf a gwaeddi ddydd Gwener, ebe Cvnr.nfardd. Now. friends, let Done but the wise apeak." The i you dry up," bloeddiai rhyw gouar. Am v tro cvntaf, yr oedd gohebyddesau yn yr Eisteddfod eleni, yn cynrychioli papyrau America, Werddon, a Llundain, Edryfchai'r gohebwyr yn gariadus ar y gohebwragedd. Annibynwyr a Methodistiaid aent &'r holl wobr- wyon. P'le mae'r Bedyddiryr, ebe un. "Dan y dw'r," atebai'r Prifathraw Edwards (B). Pan hysbysodd Hwfa mai Mafonwy cedd enill. ydd y Goron, dringodd aeiod o'i eglwys i ben un o'r reiliau, chwifiai'i gap yn orphwyltog bron, a llefai, Well dene, Dafis bach 1" Fel arfer, Watcyn Wyn oedd y doniolaf o'r holl frawdoliaeth farddol. Ar ol i'r beirdd dywallt eu clodforedd ar ben y bardd cadeiriol, ebai Watcyn, Yr wyf wedi condenso fy englyn i i ddwy lein Odl Siob, fel awdl Sant, Goda'r gwr i Gadair Gwent. Mabon oedd digrifwas y 'Steddfod, ac yn codi llawer o hwyl ynddi. Yr oedd bob amser â'i joc yn barod, a gwrthsen i rywua neu gilydd. Mae'n rhan o'r ddefod bellach yn y Sowth, gynted daw Mabon i'r llwyfan, i rywrai waeddi, Pwy gor yw hwna, Mabon?" neu :Fain t o'r glooh yw hi, Mab- on ?" A Mabon yn ateb y cwbl yn ddifrif iawn. Pa le mac.r Amen ?" yw'r cwestiwn ofynwyd filoedd o weithiau. Caed hyd iddo yn y 'Steddfod daeth hefo Mabon o rywle. Pan oedd Mackenzie ar ganol traddodi beirniadaeth, "Amen I" ebe Mab- on, nes peri i Mackenzie edrych. Ac Amen fu hi n barhaus gan Mabon nes fwy nag unwaith beri i'r dorf floeddio Amen yn lie Hwre." Llefai yntau ar uchaf ei lais, A dyweded yr holl bobl- oedd, Amen." Y mae Mabon yn tewychu'n ofnadwy, nes yw cyn lleted ag y w o hyd, ac yr oedd golwg lawer brasach arno eieni nag erioed, a welais i neb yn -hwysu'n debyg iddo. Pan ddeaai Dyfed yn mhlith eraill yn mlaen i roi nerchiad barddonol, methodd wrthsefyll y dem- astw* o wneud sport o Mabon. Ac ebai, gan gyf- eirio ei fyB ato Cyhoeddus wr, ac iddo-gnawd enwog Yn dunell am dano Cywir wr, cavvraidd yw o, A'i flonegyn ei flino. 11 Chwarddodd pawb ar hyn, ond dyma Mabon yn codi'n araf o'i gadair, un llygad yn melltenu ti-Ir llall yn wincio, ac ebai :— Main wr, nid cawr yw o, A'i floneg heb ei flino. Dyma englyn Dyfed i'r Oadeirfardd :— Dyn gwlad, ie dyn y- G16b,-a dyn yw Gwyd yn uwch nag esgob Arwr yn glod i Ewroh Pwy yw efe ? J. T. Job

--:0:-Colofsi Dirwesi

----1)--Dyffryn Ciwyil

0: Cohebiaethau.

[No title]

Ehtetitifod Csnedlaethol Casnewydd.

-0--PEIRIANT CYWRAIN.