Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

CWRS Y BYD.

News
Cite
Share

CWRS Y BYD. Heddwch Rhai o wersi'r Rhyfel. YR oedd arnaf ofn yr wythnos ddiweddaf nad oedd gwir yn y newydd a daeuid fod argoelion setlo yn y Penrhyn, yn benaf am y teimlwn yn sicr na syflai y perchenog mwy na phost llidiart. Erbyn hyn, y mae wedi syflyd ychydig—ychyd- ig bach hefyd, ond digon i ddibenu y streic, neu y cload allan, fel y myner ei alw, canys yr oedd yn dipyn o bob un. Ymddangosai y ddwyblaid am y prysuraf i daro gyntaf, a thrwy frys afresymol, y meistr a lwyddodd. Beth bynag am y dynion, ymddygodd Arglwydd Pen- rhyn ya annoeth hyd yn bresenol bron. Ymddygodd trwy yr holl drafodaeth fel pe buasai ef yn perthyn i urdd o fodau uwchddynol. Efe a'i stiwardiaid oedd yn iawn, a'i holl weith- wyr yn cyfeiliorni efe oedd yn deg, hwythau yn annheg; a bu agos i'w anffaeledigaeth "ei ddinystrio. Ond a fu, a fu ac a ddarfu, a ddarfu. Pan egyr Chwarel y Penrhyn yr wythnos nesaf, bydd llawer ar ol o'r nifer a drowyd allan un mis ar ddeg yn ol. Fel y gloch yagol y cyf- .eiriai Glan Geirionydd ati, bydd cloch y chwarel hefyd yn aneffiethiol i'w gwahodd mwyach at ..eu gwaith, cauys ohonynt erbyn hyn :— Mae rhai inewn bedd yn gorwedd, A'r lleill ar hyd y byd. Nid oes un gloch a ddichon Eu galwheddyw 'nghyd. Gellir dybynu ar hyn, mai nid ar chwareu bach y bydd streio na chload. allan yn Chwarel y Pen- rhyn eto. Yr oedd y ddwyblaid wedi dyhys- byddu eu nerth yn lied lwyr a phrawf o hyny ydyw'r ffaith nad oes fawr ddim o wahaniaeth rhwng telerau yr ymheddychiad a'r telerau y buwyd yn dadleu yn eu cylch o ddechreu yr an- il ghydfod. Y gwir yw, yr oedd crib y ddwyblaid wedi tyfu'n rhy hir ac ar ol i'r naill a'r llall gael y boddhad o weled crib ei wrthwynebydd" wedi ei dori, fe gyiner o chwarter i haner canrif cyn yr ail dyfa. Ac erbyn diwedd y cyfnod hwnw, ni fydd gan yr un Arglwydd Penrhyn hawl i lywio rhwng dwy a thair mil o weithwyr. Cyn y byddo'r ganrif nesaf yn ddeg neu ugain oed, bydd dosbarth Argl. Penrhyn wedi dilyn y Tylwyth Teg i wlad hud a lledrith. Mor angenrheidiol ydyw darllen y ddwy ochr. Dywedai'r Daily Chronicle fod y dynion wedi enill a geisient, yr hyn nis gall fod yn wir, fel y gwelir wrth gyferbynu, mewn colofn arall, yr hyn a ofynent a'r hyn a gawsant. Da fod gan- Adynt hwythau, fel Die Nansi, nn llygad mawr i weled yr hyn a ddymunent ac un llygad bach i weled yr hyn a gaent. Ond os cyfeiliornodd y Chronicle ar du y gweithwyr, nid gwell y Times ar yr ochr arall. Dywed ef fod y dynion wedi myn'd at eu gwaith ar y telerau a gynygiwyd 9 iddynt ddeuddeng, mis yn ol, ac a gynygiwyd drachefn yn mis Mai. Nid yw hyn ychwaith yn gywir—buasai'n rhyfedd cael cywirdeb o'r Times pan fo meistr a gweithiwr yn ymryson A'u gilydd. Enillodd y dynion ddigon yn ngeiriad yr adran sydd yn cyfeiro at eu hawl i ffurfio undeb yn y chwarel, fel mai arnynt hwy eu hunain yn unig y bydd bai os na wnant ddefnydd o hyny. Beth bynag, na sonied y naill ochr na'r llall am fuddugoliaeth. Colli ddarfu'r ddwy—coll- edion y cymer rai blynyddau iddynt eu had enill. Ond y mae un peth gwerthfawr na chollodd y dynion-eu henw da. Aethant trwy y brofed- igaeth danllyd am un mis ar ddeg heb lychwino eu gwisg fel gwladwyr, heb golli eu hunanbarch fel dynion, na chyflawni gweithredoedd y buasent yn gofidio o'u herwydd yn mhen blynyddau eto. Y mae Cymru yn falch o'i chwarelwyr bob amser; a bydd yn falchach ohonynt o hyn allan. Gellir amheu doethineb decbreuad y streic ond pe byddai ar Brydain eisiau prifweinidog doeth, ac y mae ganddi yn fynych y dyddiau hyn, hi a ddylai wybod am Mr W. H. Williams, Moses Chwarelwyr y Penrhyn." Esgob Colenso. MA* y dyn a faeddwyd yn fawr gan ei gydoes- wyr fel pe byddai'n dechreu cael y parch a haeddai. Yn y Temple Magazine am y mis hwn, ceir erthygl gan Dr. Farrar ar Esgob Colenso o Natal. Mae'r Esgob wedi marw er's llawer blwyddyn bellach; erlidiwyd llawer arno gan bobl na ddarllenasant erioed ddim o'i waith, ftwyraek na welsent erioed yr un o'i lyfrau. Bu y sectyddion cul ac anwybodusyn chwerwon wrtho oherwydd ei syniadau ar Genesis a rhif- yddiaeth, er fod holl esbonwyr goleuedig y byd erbyn byn o'r un farn ag ef. Yr oedd esgobion Eglwys Loegr ar y pryd yn greulawn wrtho, a buasent yn ei grogi pe gwybuasent sut. Dyma engraipht neu ddwy o'r dull y trinid y dyn meddylgar, tawel, tyner, Ymwelodd a, Dr. Farrar pan oedd efe yn Ysgol Harrow ac yr oedd hi'n ddefod os byddai esgob yn bresenol yn y capel gofyn iddo roi'r fendith arferol ar y diwedd. Gofynwyd iddo yntau, a thra idododd hi ond y mae'r canlvniad bron yn anngbred- adwy-cafodd Dr. Farrar luaws o lythyrau oddiwrth rieni yn gwrthwynebu i'w plant gael eu bendithio gan ddyn a alwent hwy, yn eu dygn anwybodaeth, yn heretic Cyfarfu Esgob arall unwaith yn ngorsaf Ruston, yr hwn a brysurodd ato gan ysgwyd llaw yn galonog &g ef, ac er mawr syndod iddo, a'i cyfarchodd, "Esgob Calcutta, onide?" "Nage," ebe Colenso, "Esgob Natal." Bn agos i'r esgob Seisnig syrtbio i'r ddaear, pan ganfu ei gamsyniad, a'i fod wedi cymeryd Colenso am un o oreuon y ddaear. Rhyw fodau go ffaeledig ydyw esgobion hefyd, ar y cyfan. Y Mil Blynyddoedd. MAE prophwyd newydd wedi codi yn mysg y Saeson, neu yn hytrach y mae hen brophwyd wedi ymddangos o'r newydd. Edward Bellamy ydyw ei enw. "Looking Backwards" oedd teitl y gyfrol a gyhoeddodd rai blynyddau yn ol. Gosodai y prophwyd ei hun yn y fl. 2000, ac oddiyno siaradai &g un o fywolion yr oes bresenol. Yr oedd yn son am bethau rhyfedd iawn a ddarganfyddwyd rhwng hyn a hyny, neu y cymerai ef vn ganiataol oedd neu a fyddai wedi eu cyflawni ffrwyth ei ymresymiad oddiwrth yr byn aeth heibio, wrth gwrs, ac nid gweledigaethau goruwchnaturiol i'r dyfodol ac ar y cyfan, ymddangosent yn ddigon tebyg i gywir. Rbywbeth yn go debyg ydyw'r llyfr hwn. "Equality" ydyw ei enw math o atddodiad i'r llall. Prophwyd daioni ydyw Bellamy, pro- phwyd eydraddoldeb. Cefais bleser mawr wrth ddarllen y llyfr wedi ei ymylu hefo gofid hefyd imi ddyfod i'r byd yma gan' mlynedd yn rhy gynar, reu fod yr oes yn ganmlwydd rby fer, Dyma rai darogan awdwr llyfr Oydraddol- deb Y ffactris yn balasau hyfrydwch mell- dithion ein gwareiddiad, megys rhyfel a phob math o greulondeb, yn bethau wedi myned heibio, a'r unig olion ohonynt i'w cael mewn museums gyda hen offerynau poenydio eraill pob addurn difudd wedi diflanu merched yn d erbyn cyffelyb barch, ac yn gyfartal, a. dynion y corph dynol wedi cyrhaedd sefyllfa nodedig am ei harddweh a'i burdeb, trwy ymarferion iach, a chyfathrach ddilwgr y pellwelyr wedi gwneud i'r llygad yr byn a wnaeth y pellsein- ydd i'r glust, a gellir gweled ar draws y blaned fel y clywir yn bresenol y peiriant hedeg wedi ei berffeithio ac yn cael ei ddefnyddio mor gyffredin a'r ddeurod yn awr; crefydd wedi cerdded allan o gredoau culion sect, a dyfod yn addoliad dilys i Dduw, yr Hwn nid yw'n adna- bod sect y Senedd, fel yr ydym ni yn ei gweled, wedi diflanu ni fwyteir dim cigfwyd y boblogaeth wedi ei gwasgaru ar hyd y wlad pob caledwaith ftarm wedi dyfod yn ysgafn, trwy gymhorth trydan. Mae rbai papyrau yn galw yr hyn a ragfyn- egir yn "Fil Blynyddoedd." Dipyn yn faterol ydyw er hyny yn ochr yr olygfa a gafwyd yn Patmos. Degymu yn Llanberis. YCHYDIG fisoedd yn ol, mi bigais lyfr tra dy- ddorol i fynu ar stondin ben lyfrau. Hynaf- iaethau a Thraddodiadau Plwyf Llanberis a'r amgylchoedd, gan William Williams, Llanber- is," ydyw enw'r gyfrol. Yr olwg gyntaf arni, mi dybiwn mai un o lyfrau y ganrif ddiweddaf ydoedd-rhywbeth yn henafol yn ei gwisg ond y mae'r print yn glir a darllenadwy, ac erbyn edrych yn fanylach, yn 1892 yr argraphwyd hi gan Richard Owen, Eryri Printing Office," a swllt ydyw'r pris. Gobeithio nad oes yr un ty yn Llanberis heb y llyfryn. Y mae gyda'r mwyaf dyddorol o lyfrau Ileol a ddarllenais. Yn un lie dyfynir o 11 gof restr (terrier) y Llan, yr hon a dynwyd allan yn y flwyddyn 1776 lie y dywedir fod ugain o goed onen yn tyfu yn y fynwent, a'u bod wedi eu prisio yn werth pedair punt. Rhoddir rhestr fanwlo "Ddodrefn yr Eglwys," sef bedydd- faen, cloch, tair rhaw, dwy (dau ?) gaib, elor, brethyn du, pwlpud, darllenfwrdd, canwyllbren, gwenwisg, Beibl Cymraeg, Llyfr Gweddi Gyff- redin Cymraeg, Llyfr Homili, clustog y pwl- pud, meinciau neillduol, cwpwrdd er cadw llestri cymundeb, cwpan cymuno, plat gyda'r toriad hwn arno HARD METAL," trensiwr, dwfrlestr pewter, dau lian main i roddi dros y bwrdd, un yn neillduol ar fwrdd ycymundeb Dyma yr hyn a ddywedir am y Degwm :— Yr hwn sydd yn saith o wahanol fathaa Gwartheg, defaid, wyn, gwair, geifr, gwyddau, ac yd. Cydnabyddiaeth yn unig a hawlir am y gwair, yr hyn sydd bedair ceiniog ar bob tydd- yn yn Nghwmwd Is-Gwyrfai. Hawlir hefyd gydnabyddiaeth am wair Glan y Bala." Perthyn i blwyf Llanberis y mae'r Wyddfa, Moel Eilio, Cwm Brwynog, Castell Padarn felly gwelir nad oedd gan yr awdwr brinder defnyddian hanes. Mr. John Burns a Lerpwh YR wythnos ddiweddaf, mewn ymgom 4 goheb- ydd neillduol i bapyr Ileol a ymwelodd ag ef, bu yr aelod tanllyd tros Battersea yn ei rhoid bi'n hallt, ac nii yn ddiachos, i awdurdodau dinas Lerpwl am eu hesgeulusdra gwarthus o'u cwrtydd a'u cwterydd ac yn dweyd fod Lerpwl, yn yr ystyr yma, yn waeth nag un man yn y deyrnas. Dywedai fod y farn lem hon yn seil- iedig ar ymweliadau personol & rhanau neillduol o'r dref, megys Christian Street, Baptist Street, -Ileoedd a gamenwir yn echrydus, ac ydynt yn nythfeydd trueni a thrawsder o bob math. Y mae ef o'r farn, tra pery perchenogion y cwrt- ydd aflan hyn, publicanod a darllawyr sydd yn ymfrashau ar drueni preswylwyr y cyfryw gyt- ian digysnr, nad ellir disgwyl am fawr iawn .Y o ddim gwell. Nis gall undyn wadu fod llawer iawn o waith ymgeleddu ar barthau belaeth o'r ddinas ond y mae rhanau ohoni yn baradwys rhagor oedd- ynt ddeugain mlynedd yn ol. Parod iawn ydyw Saeson Lerpwl i edliw i ni yr adeiladwyr Cymreig ond y fendith fwyaf a gafodd Lerpwl erioed oeJd y dosbarth hwn. Yr oedd y cwrt- iau mewn bodolaeth yn mhell cyn eu dyfodiad hwy yma a cbanddynt hwy yn ddian y cod wyd y tai gweitbwyr goreu a mwyaf cysurus yn y ddinas. r Catguddio'r Datguddiad. MAB hysbysiad yn y Drych fod gan y Parcb. Trogwy Evans, o'r Maesglas gynt, lyfr newydd allan o'r wasg. Datguddiadau y Datguddiad ydyw ei enw ac oddiwrth ei enw, gellir casglu Z, mai esboniad ydyw. Mae'n rhyfedd gynifer o esboniadau a vsgrifehwyd ar y Datguddiad. Clywais Owen Williams o'r Waenfawr yn dweyd un tro fod y pryd hwnw tua thri chant a haner ohonynt, ac enwodd luaws, megys gwaith Dr. Gill, Matthew Henry, Dr. George Lewis, Simon Llwyd o'r Bala, Christmas Evans, &c. "Ac y mae gynon nine un," ebe'r hen batriarcb, gan ymsythu, "ac mae'n Besboniad ni ar Lyfr y Datguddiad yn wahanol i bob one ohonyn nhw." Yna aeth i draethu ei olygiadan ar y bwystfilod, y cyrn, &c., a bu wrthi am tua haner awr, nes oedd dau neu dri ohonom wedi cysgn tan ei weinidoaiaeth. Mi fjasai'n dda genyf weled Datguddiadau" Trogwy, ond yn well gweled yr hen ymgomiwr dyddan ei hun.

|Cwibnodion o Ddyffryn Maelor.

Lleol.

-0--Marchnadoedd.

Advertising

:0:--OYDDIAU DYN.