Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
----LLYTHYRAU PENAGORED.
LLYTHYRAU PENAGORED. XXII.—At Ddarueswyr Llyfrau CYMRAEG. Gyveillion Aniiysbyk,—Ie, anhysbys, gan nas gwn yn y byd pwy ydych. Ofnaf weithiau mai plant y dychymyg yw y rhan fwyaf ohonoch, —heb fodolaeth sylweddol, neu heb fodolaeth o gwbl ond jtfe mreuddwydion dynion caredig. Gwyn fyd na throai Esgob Llanelwy ei athrylith hedegog i ystadegu allan gyfrifon o ddarllenwyr llyfrau Cymraeg, er mwyn i ni gael gwybod amcan pa le yr ydym. A fyddai y dadleniadau yn llai truenos na chyfrifiad crefyddol Lerpwl 1 ac oni fyddai hi yn Gymru Dywyllaf mewn llawer ardal ? Betb bynag am hyny,—ac heb ymhelaethu ar yr amcan nes i mi weled a gymer yr Esgob talentog y gorchwyl mewn Haw o wneud cyfrifiad yn ol y ddawn a rodded iddo,—da genyf gael y cyfle i alw sylw o'r newydd at y pwnc. Eleni dechreuwyd agor gwaith i ni, fel darllenwyr Cymreig, mewn cysylltiad &'r Undeb Darllen Gartref." Y mae yr Undeb hwnw wedi bod yn dra llwyddianus yn mhlith y Saeson, ac wedi bod yn foddion gras i lawer un o'r pechaduriaid hyny a elwir yn "ddarllenwyr achlysurolyr hyn o'i egluro yw, dynion yn tori dail llyfrau new- yddion ar brydnawn Sul. Yr hyn y mae yr Undeb wedi ei wneud yw rhoi bl&s darllen i rai o'r oferwyr hyn, heblaw dwyn rhai mwy cyd- wybodol i ddarllen yn fwy manwl a threfnus. Bellach, y mae cangen Gymreig i'r Undeb hwn. Yn ystod y gauaf hwn golygir darllen—i ddechreu—cyfrol o Oriau Ceiriog, Llyfr_ y Tri Aderyn, a Chaneuon Islwyn. Er mantais well i'r darllenwyr cyhoeddir bob mis attodiad Cym- raeg i gyhoeddiad Seisnig yr Undeb, yn cynwys nodiadau ar y llyfrau a'u hawdwyr. Yr wyf yn meddwl mai dyma'r cyfle oedd eisiau ar lawer o'n pobl ieuainc. Fel y dywedais dro yn ol, wrth gerdded llwybr cyfocbrog, y mae genym bellach arddangosfeydd digon llewyrchus o draddodi a gwrando darlithiau. Y mae ein Cymmrodorion wedi ac yn gwneud gwaith golygus yn hyn. Ond gwn y teimlai llawer fel fy hunan, nad oedd digon o ddifrifwch gweithio yn y sefydliadau hyn. Nid oes esgus mwy i neb ddweyd nad oes iddo bob rhwyddineb i ddyfod yn gyfarwydd yn llenyddiaeth ei wlad. Y mae Oriau Ceiriog, a Thri Aderyn Morgan Llwyd, a Chantuon Islwyn yn ddewis da i ddechreu. Yn y cyntaf ceir naturioldeb wedi troi yn ganu fel beb yn wybocl-Iliw dyddanus Taryniau Cymru, ac adlais ei hen alawon—a cherdd y bugail ar lethrau y Berwyn yn cyfarch y wawr ac yn llonyddu gyda'r nos. Yn yr ail ceir gobeithion ac ofnau diwygiwr cyn dydd y Diwygiad—a'i feddyliai cyfriniol yn llawn o ddyeithr swyn, fel un wedi bod mewn byd na welir mohono bob dydd. Islwyn, yntau wedi bod mewn byd lawn mor anngbynefin, ac yn chwilio am "dragwyddol heol" i'w awen anaraf, ryddfreiniol. Os bydd ein bechgyn a'n merched ieuainc wedi dyfod yn gyfarwydd a'r tri wyr hyn «rbyn i Mai nesaf roi gwrid ar ei flodau, bydd cenedl gyfan gymaint a hyny yn fwy cyfoethog, a gwladgarwch gymaint a hyny yn gallach a chryfach. Gobeithio y byddis yn foddion ar gwmniau bychain, os na cheir ond ychydig mewn manau i gymeryd at y gwaith. Dichon na fydd ond dau a thri, neu ddwy a thair, mewn ambell ardal. Peidied yr ychydig hyny a digaloni, a thori pen y gymdeithas am fod mor lleied ohoni. Y mae yn y byd ormod o ddiystyru rbif bysedd un llaw; tra mewn gwirionedd y cymdeitbasau bychain, hawdd eu rhifo, ydynt yn ami y mwyaf matiteisiol i ddadblygiad personol. Yn y lluaws wrth geisio peidio gwneud cam k neb, gwneir xsam â. phawb. Ond yn y ewmni bychan, prin, y mae pob un yn y golwg a phob un yn teimlo fod yn rhaid iddo lanw ei le. Feallai, ysywaeth, na fydd ond un darllenydd mewn llawer pentref neu ardal. Na ddigaloned hwnw chwaith. Bydd ef, a chydwybod dda, a phleser deall, yn dri chydymaith hapus i dde- chreu ac erbyn i Morgan Llwyd, ac Islwyn, a Cheiriog ymuno &'r cwmni, bydd yno haner dwsin go barchus. Diau mai i rywun unig felly y bydd yr attodiad Cymraeg, y soniais am dano uchod, yn fwyaf o les. Caiff esboniad ar eiriau annghyfarwydd, a brawddegau dyeithr, a drych- feddyliau estronol: ac os na fydd yr esboniad yn ei foddloni, bydd yn sicr o beri iddo ystyried, a, chwilio, a mynu rhyw oleuni drosto ei hunan. Hoffwn wybod, gyda Haw, a yw profiadau rhywrai craill yr un fath a'm profiad personol i. Sef yw byn Fod llawer mwy o ddarllen llyfrau Cymraeg yn y Gogledd nag yn y Debeudir, a mwy o ymhyfrydu mewn llenoriaeth Gymreig. Feallai mai fi sydd wedi damweinio yn ffortunus i fynu y Gogledd. Ond yn sicr-nid wyf yn rhy foddion cyffesu chwaith—yr wyf wedi cyfarfod a. llawer mwy ar gyfartaledd o fechgyn ieuainc yn y Gogledd yn gallu rhoi barnddeallus ar bynciau ein llenyddiaeth gartrefol, nag a gaf yma yn y Deheudir. Ar y llaw arall, credaf fod yma fwy o gydnubyddiaeth a llenoriori Seisnig. Os felly y mae, cymered bechgyn y Gogledd fantais ar y -fantais sydd ganddynt yn barod i fyned rhag- ddynt ac os yw hyny yn eisiau, i groesi'r ffin yn amlach. Ond am danom ni yma ;—wel, nid wyf fi yn myned oddicartref i ddarlithio fy nghymydogion, ar ddnll rhai o Gymry goleuedig yr oes hon. Os difrio, difrio gariref. Caf gyfle, yn awr ac eilwaith, i siarad wyneb yn wyneb a'r forodorion hyn. Ond am danoch chwi, blant y Gogledd, anaml yr wyf yn cael golwg ar y Wyddfa ac am hyny rhaid i mi ddweyd fy nghyfrinach wrUiych ar gyhoedl gwlad. Ewch i ddarllen, gymmrodorion ieuainc ac os am wybod rhagor yn nghylch y pa fodd, ys- grifenwch at y ProfF. J E. Lloyd, M.A., Aber- ystwyth. Yr eiddoch, yn llyfrbryfol, < Pwyll O Ddyfed.
[No title]
o Caerlleon.—Oalwad.—Deallwn fod y Parch. Elias Davies, Brymbo, wedi cydsynio a galwad un- frydol yr Eglwys Gynulleidfaol a gyferfydd yn Al- bion Park, yn y ddinas hon.—Limn.
NODION 0 FANGOR.
NODION 0 FANGOR. RHYW wythnos o siarad yw hon wedi bod. Y Nhw yn deyd fod rhyw bregethwr Ymneillduol o fri ac enwogrwydd yn myn'd drosodd i'r Eglwys. Yr oedd dyn ar ei waethaf rywfodd yn gorfod dal ei anadl pan yn clywed fod y pregethwr o fri yn byw mor agos at ddyn-yn Bethesda, medda Nhw. Yn y Deheudir y byddem yn arfer clywed am y trych- inebau hyn yn y gorphenol, ac yn rhyw edrych arnynt fel ar ddaeargrynfau Deheudir America,-fel pethau yn perthyn i bobl eraill. Ond yn Bethesda -bobl anwyl! Beth nesaf, tybed ? Mawr yw y dyfalu, y chwilio, a'r holi pwy yw y gwr? Pa enwad sydd i gael ei fylchio ? Ai Indipendia, ai Shon Gorph, ai y Welshlions, ynt'e teulu'r dwr? Myn rhai ei fod mor bwysig a Chwymp Adda taera eraill mai y Weslas sydd agosaf at yr Hen Fam, ac mai gwr o'r gwersyll hwnw yw. Dywedir fod hyd yn nod rhai o deulu'r Hen Gorph yn edrych yn syn, ac yn sibrwd Tybed ?" pan yr enwir rhai o'u harweinwyr. Digon tebyg fod y gwyr parchedig o'r gwahanol enwadau yn mwynhau yr helynt cystal a neb a gobeithio na bydd iddynt gymeryd y sylw lleiaf o'r papyrau newydd sydd yn galw arnynt i wneud ymddiheurad. Tybed nad oes gan weinidog yr Efengyl ormod o barch iddo ei hun ac i'w swydd i fyn'd i waeddi yn ngwyneb pob hen wrachan a feiddia siarad, "Nid y fi." Mae rhywbeth o'i le hefyd yn yr Ymneillduwyr yma sydd yn barod i goledd pob rhyw hen stori fel hyn. Os bydd pregethwr yn teimlo ar ei galon i fyned trosodd at Eglwys Loegr,—wel, rhwyddhynt iddo-eled drosodd ac os bydd yn gallu gwneud hyn ac edrych yn ei wyneb ei hun heb wrido pan na bydd neb ond efe a'i Dduw yn bresenol, rhaid ei barchu. Ond paham y gwneir cymaint o stwr bob tro y sonir am hyn, sydd yn ddirgelwch i mi. Ai ofn am Ymneillduaeth Cymru sydd? Nid wyf na phrophwyd, na rnab i brophwyd, ond mentraf ddywedyd hyn, Pwy bynag a dry ei gefn ar Ymneill- duaeth Cymru, pwy bynag sydd yn darogan ei bod yn darfod o'r tir, pwy bynag a'i gorthryma, y mae y nefoedd wedi ei harddel, ac y mae gan y nefoedd waith iddi yn Nghymru yn y dyfodol. Gan hyny, nid oes achos ofni wrth glywed amfcell i stori fel hyn ar hyd a lied y wlad. Gyda llaw, Mr Gol., beth am danoch chi, Gymry Lerpwl ? Y mae dydd y cyfrif wedi eich dal, ac yr ydych wedi eich cael yn brin,—ac yn brin iawn os ydyw cyfrif y Daily Post yn gywir. O'r miloedd Cymry sydd yn eich dinas, mor ychydig sydd yn mynychu moddion gras yn y capeli Cymreig Ai drwg hyn i gyd, ynte colli yn mysg y Saeson y mae y Cymry ? Rhyw dipyn o bagan ydyw y Sais wddi y cyfan gwaed Hengist a Horsa sydd yn ei wythienau ef ac os ydwyf yn cofio yn iawn, 'doedd gan y ddau hen frawd uchod ddim rhyw lawer o barch i foddion gras. Ac y mae arna i lawer o ofn fod eu hepil yn llygru yr hen genedl sydd yn eu mysg. Cofied. bechgyn Cymreig Lerpwl mai difrifol o beth yw symud yr hen derfynau. Helynt ofnadwy.—Organydd yr Hen Fam yma wedi Iluchio ei gylchau. Pe digwyddasai hyn mewn capel Ymneillduol, wrth reswm cythraul cmu" fuasai wedi ymyryd-yr hen gono corniog ei ben a fforchog ei ewin fuasai wedi rhoi ei fys yn y brwas ond nid rhaid myned mor uchel yn nghylch bodol- aeth yn yr Hen Fam i wneud helynt. Rhaid cael creadur o fodolaeth ysprydol i'w gwneud hi yn ddrwg yn mhlith yr Ymneillduwyr yma allwn ni feddwl, ond y mae cnawd ac esgyrn ar lun a delw Deon yn ddigon galluog i'w gwneud hi yn ffair glin yn yr Hen Fam. Dyma i chwi yr helynt mewn byr eiriau :—Yr oedd organydd yr Eglwys Gadeir- iol wedi ymgymeryd a chwareu ar organ capel y Methodistiaid, neu, fel y myn rhai pobl ei alw, capel y Presbyteriaid Seisnig yn Menai Bridge, nos Lun. Y Sabboth dywedodd y Very Rev.-bedi hwna yn Gymraeg, deudwch 1—y Deon, nad oedd yn ei gymeradwyo am fyned i gapeli Ymneillduol i chwareu, a'i fod wedi penderfynu cael cyfarfod o'r Chapter ar ei achos. Ymddengys nad oedd yr organydd yn foddlawn i gael ymyryd ag ef yn y wedd hon, ac anfonodd ei ymddiswyddiad i mewn. Beth fydd diwedd y pethau hyn, nis gwyddom, ond yn ddianmheu bydd yr helynt yn fel ar fysedd y Dadgysylltwyr, a gwneir defnydd ohono i ddangos eangder ysbryd y gwyr Eglwysig yma. Gyda llaw, Mr. Gol., beth ydyw y Chapter yma? -rhyw enw lied ryfedd, onide ? Ai rhywbeth tebyg i gyfarfod swyddogion yr Hen Gorph ydyw ? Ai waith yn yr achos yma, mae'n debyg, fyddai barnu pa un a ddylid tori yr organydd o'r seiat ai peidio. Wel, wel, helynt o beth-dim gwell gwaith gan nifer o wyr Eglwysig—gwyr yn meddu urddau Eglwysig yn gystal ag urddau colegawl—gwyr o ddysg ac o ddawn, yn eistedd a gwedd ddifrifol ar eu gwynebau (fyddant hwy mewn gwenwisg, deudwch?) i ystyried pa gosb ddylid ro'i ar ddyn am fyned i ehwareu organ i gapel Ymneillduol. Beth fasa'n dwad ohono deudwch, tasa fo wedi myn'd o amgylch y 'stryd hefo organ a mwnci ? 0 ran hyny, fasa hyny ddim yn bechod. Myn'd i gapel Ymneillduol oedd y drwg. Nid dyma y ffordd i gael Cymru i gredu fod yr hen Eglwys yn cael ei gwneud i fynu o "anwyl gar- iadus frodyr," mi wna lw. -:0:-
O'R DDAEAR MAE POBPETH YN…
O'R DDAEAR MAE POBPETH YN D'OD. O'R ddaear mae pobpeth yn d'od, I'r ddaear mae pobpeth yn myn'd I bawb ac i bobpeth sy'n bod Mae'r ddaear yn fam ac yn ffrynd Ni wahardd i'w phlant roddi tro, A myned i'r nen gyda 11am, Oblegyd mae'n gwybod yn dda Y deuant yn ol at eu mam. Y dail sydd yn edrych mor hardd A phe baent yn fyw ar y coed, Ogwyddant eu penau i lawr Pan ddeuant yn addfed mewn oed Mewn hiraeth am fyned yn ol, Hwy wywant a gwyrant yn gam, Gollyngant eu gafael o'r coed, I A syrthiant ar fynwes eu mam. Defnynau o wlith ac o wlaw, Mewn cariad at frenin y dydd, Godasant yn enfyss o'i flaen, A'r heulwen yn lliwio pob grudd; Ond wedi cael cusan o serch, A phrofi llesmeiriant eu 11am, Disgynant mewn cawod o wlaw Ar fynwes garedig eu mam. Fel hwythau, o'r ddaear daw dyn, Er hardded ac uched ei ben Ar luniaeth o'r ddaear mae'n byw, Fel deilen ar gangen o bren Ac er iddo grwydro yn hir Hyd Iwybrau o wynfvd a cham, Dychwela ar ddiwedd ei ddydd I gysguyn mynwes ei fam.- R. J. Derfel.
GLANAU'R MERSWY.
GLANAU'R MERSWY. [Gan GWYLIWR]. Nos Fercher, y 25ain cynfisol, cynaliwyd cyngherdd hwyliog yn yr Albert Hall, Cazneau Street, ar ran Achos Cenhadol Portland Street, o dan lywyddiaeth Mr William Venmore. Methodd y Walton Male Voice a hel et: hunain at eu gilydd erbyn amser dechreu, ond daeth pedwar o'r aelodau i'r adwy ac erbyn yr alwad nesaf yr oedd Mr W. W. Jones a'i lanciau cerddgar wrth law, a chanasant yn ardderchog y darnau "Gwyr Philistia," "On the Ramparts," a Comrade's Song of Hope." Cafodd y cantorion a ganlyn dderbyniad cynes Miss Robinson, Mr Cuff, Mr R.G. Jones, a Mr Wartnaby, y chwareuydd medrus ar y mandoline. Enillodd Miss Dora Gray uchel gymeradwyaeth yn ei datgan- iad o "Terence's Farewell," Queen of the Earth," a "Dafydd y Gareg Wen." Y mae ei mynegiad yn glir ar bob gair, ei llais yn beraidd, a'ihymddyg- iad yn ddirodres. Difyrwyd llawer gwrandawr wrth wrandaw Mr Henry Hallard yn dynwared "Morgan Esq. Jones" yn dweyd ei hanes. Sylwai'r cadeirydd fod yr achos yn Portland Street yn deilwng o'r holl ymdrech ar ei ran; ac mai i Mri H. E. Williams a R. G. Jones yn benaf yr oedd y diolch am godi y cyngherdd. Deallaf y bydd yr elw o leiaf tua £15, a gwna y cyfeillion yn Portland Street waith mawr gyda swm o'r fath. Peth newydd iawn yw clywed y Ceidwadwyr yn y Neuadd Drefol yn gwaeddi eu bod yn cael eu "gwasgu," fodd bynag, dyna fel yr oedd pethau ddydd Mercher, y 25ain, mewn cyfarfod neillduol a alwyd gan Faer y Ddinas i ystyried y priodoldeb o ad-drefnu terfynau y wards, ac i apelio yn erbyn arferiad yr Henaduriaid o bleidleisio ar yr achlysur o ddewisiad eu cyd-Henaduriaid.. Ar y penawd blaenaf, collodd Mr A. B. Forwood, A.S., ei gynyg- iad gyda 22 yn erbyn 20; a chariwyd yr ail benawd ar gynygiad Dr. Commins a chefnogiad Mr Lynskey, heb y drafferth o bleidleisio arno. Nid yw hyn ond dechreuad gofidiau. Nos Sadwrn, yn Crosshall Street, cynaliwyd Dosbarth Demi Gymreig Deheubarth Lancashire, y Brawd W. Philip Jones, D.B.D., yn y gadair. Rhoddwyd adroddiadau calonogol gan y Dosbarth Brif Demlydd a swyddogion eraill. Galwai rhai sylw at y ffaith er fod yr aelodau yn lluosogi mai ychydig a wneid mewn ffordd o achub hen feddwon. Hysbysodd y Brawd Morris fod pethau yn wahanol yn Nghyfrinfa "Mona," fod yno nifer wedi eu hachub yn ddiweddar oeddynt unwaith yn feddwon cwbl ddiamddiffyn, ond bellach wedi ymuno a chrefydd gyda'r naill enwad neu y llall. Ar gynygiad Cyfrinfa Mona penderfynwyd Fod y Dosbarth Demi yn awdurdodi y Pwyllgor Gweithiol i gymeryd mesurau er ymuno a'r Uwch Demi yn Nghymru, neu i sicrhau Uwch Demi i ni fel dosbarth. Ymddengys fod tai-dorwyr wedi ail ddechreu ar eu gorchwyl mileinig eto yn Everton. Nos Sabboth diweddaf torasant i dy Mr McAllister yn Eastbourne Street, tra yr oedd ef a'i deulu yn yr addoldy, gan ladrata tua gwerth JE5 o ddillad a phethau eraill. Da y gwna eraill fod ar eu gwyliadwriaeth. Ddydd Llun, o flaen Mr Stewart, ynad y ddinas, trosglwyddwyd Miss Lavinia Mason i sefyll ei phrawf yn y Frawdlys, ar y cyhuddiad o saethu un o'r enw George Stewart gyda'r bwriad o'i ladd tra ar fwrdd un o longau Llinell Allan lie yr oeddynt yn gyd-swyddogion. Haerai y ferch ieuanc fod Stewart wedi addaw ei phriodi, ond yn ddiweddarach wedi dadgan ei fwriad o'i gadael, ac na fwriadai hi wneud dim ond ei ddychrynu. Fodd bynag, diangfa gyfyng a gafodd ef am ei fywyd, gan i'r belen fyned i'w ysgwydd. Yr oedd rhestr enwau y rhai a gymerent ran yn yr achos uchod braidd yn 6d. "Stewart" oedd enw yr ynad a'r erlynydd, ac wrth ei swydd yr oedd y garchares yn "stewardes," y ddau gyfreithiwr, un yn "Moss" a'r llall yn "Berry." "Craig" oedd enw y meddyg, a "Mason" y gelwid y garchares. Ond nid yw digwyddiadau o'r fath yn 6d yn Llys Dale Street. Yr wythnos o'r blaen, cyhuddid Mr Coward o guro ei wraig, Mr Drinkwater o fod yn feddw, ac anfonwyd John Goodfellow i garchar am saith niwrnod fel diogyn nad oedd yn dda i ddim. Cyfarfu Llengarwyr Parkfield--(cynulliad lied luosog a chyfrif y merched)-nos Wener diweddaf, i' wrandaw ar y Parch John Hughes, M.A., yn Jysgu iddynt "Y gelfyddyd o ddarllen." Caraswn, pe ba'i ofod, roddi prif bwyntiau y ddarlith ragorol a gwir fuddiol hon fel y cyterbynai yr hen lyfrau a. llyfrau diweddar gan nodi pa rai a ystyriai ef yn ddodrefn arosol yn nheml ilea yr anghenrheid- rwydd am feithrin chwaeth lenyddol uchel, drwy yr hon y gellid arbed darllen Iluaws o lyfrau diwerth. Mewn gair, yr oedd dan ei benau-pa beth, pa fodd, a pha bryd i ddarllen-gryno(leb o gyfarwyddiadau nas gall neb ieuanc eu hebgor.
: o : NEWYDDION CYMREIG. j
o NEWYDDION CYMREIG. ADDAWA boneddwr haelionus dir i adeiiadu Neuadd i Lysoedd Sirol Mon, yn y Gaerwen. Dyma wrth- ymgeisydd canolog i Gaergybi, Llangefni a Beau- maris. Ymdrechir cael Arglwydd Faer Llundain i lyw yddu un o gyfarfodydd Eisteddfod y Rhyl. Bwriada y Parch E. Penllyn Jones, M.A., B.D., cofrestrydd a phrif lyfrgellydd Coleg Aberystwyth am yr ugain mlynedd diweddaf, symud i weinidog- aethu i eglwys Seisnig yn Mangor-is-y-coed. Bwkdeisdrefi CAERFYRDDI. Ddydd Sadwrn, etholwyd ymgeisydd Rhyddfrydol tros Fwrdeisdrefi Caerfyrddin t.wy y tugel. Yr ymgeiswyr oeddynt Uchgadben Jones, a Mr. Lewis Morris. Gwrthod- wyd i'r Undebwyr gael pleidleisio. Safai y ffigyrau fel y canlyn: Jones, 1,115; Morris, 591. Un rhan I o dair o'r etholwyr bleidleisiodd. Gwrthododd etholwyr Caerfyrddin am mai Llanelli ddewisodd I ymgeisydd y tro o'r blaen, ac fod hen addewid i Gaerfyrddin gael dewis y tro hwn; a bygythiant ymraniad. Dychrynwyd ardalwyr Moss wrth glywed fod gweithwyr y nos wrth dd'od gartref yn y boreu wedi d'od o hyd i gorph Mr. Wm. Jones, glowr. Tybir iddo farw o glefyd y galon ar y ffordd gartref o Wrecsam. Agorir reilffordd o Treuddyn i Coedtalon yn mis lonawr nesaf. Cynwysa y Gardener's Chronicle ddarlun o Mr. Owen Thomas, benodwyd yn arolygwr y"gerddi Brenhinol yn Frogmore. Bwriada y Parch. R. Williams, M.A., Wisconsin, gymeryd gofal eglwys y Methodistiaid yn Aberd) fi am y gauaf. Boreu ddydd Sadwrn cyfarfyddodd un o weision y Railway Hotel, Bangor, o'r enw Wm. Phillips, a damwain ddifrifol llithrodd yn yr orsaf tan wegeni a agerid i fynu at y Ilwyfan. Maluriwyd ei fraich ddeheu fel y bu raid ei thori ymaith yn y penelin, ac y mae yn rhyfedd na fuasai wedi ei la-dd yn y fan. Ddydd Iau, llosgodd plentyn rhsvng saith ac wyth oed, geneth fach Wm. Jones, i farwolaeth yn Mhen- rhyndeudraeth. Ymddengys iddi fyned i'r ardd a rhoddi tan mewn hen ddeiliach oeddynt wedi eu casglu i'w dillad hithau gymeryd tan a bu farw mewn poen dirfawr. Yr oedd ei mam oddicartref ar y pryd. Dangosir cydymdeimlad dwys a'r teulu. Damwain Angeuol.—Cyfarfyddodd gwr ieuanc tua deg ar hugain oed, o'r enw Morris Williams, Caellwyngrydd, ag un o'r damweiniau mwyaf echryslawn ag y mae genym hanes am danynt yn Chwarel Bethesda. Ymddengys ei fod yn hongian wrth raff yn ol y dull arferol o dynu'r graig, tua ehanol dyfn ei fargen a thra felly, ymollyngodd darn mawr o graig oedd uwch ei ben, gan syrthio arno a'i falurio yn erchyll, a thorwyd y rhaff oedd yn ei ddal, nes syrthio ohono yn nghanol y trwfl ceryg i'r gwaelod. Dywedir fod rhanau o'i gnawd i'w ganfod yma ac acw hyd y ceryg. Gadawodd wraig a thri o blant ar ei ol. Nos Sadwrn diweddaf, yn Neuadd y Farchnad Bethesda, bu y chwarelwyr yn cynal en cyfarfod chwarterol yn nglyn a'r Undeb. Ton dipyn yn wylofus oedd gan y llywydd a'r ysgrifenydd pan yn cyfeirio at ansawdd yr Undeb yn ein plith ofni braidd yr oeddynt fod y zel yn otri yn hytrach nag i'r gwrthwyneb. Mae gan y cyfeillion sail deg i gwyno ond nid i synu, a hos ein hanes ni ydyw fflachio a filamio gyda phob achos am enyd fechan, yna yn diffodd o'r golwg. Dyna un o'r nodweddidn amlycaf yn ein carictor, ac hwyrach mai i natur ein galwedigaeth y mae i ni briodoli y rhan fwyaf o'r achos ohono; ond na ddigaloner, gofala y chwarel- wyr am eu gwaith pan y bydd galw arnynt. Cy- merodd y cyfarfod dan sylw gyfeiriad lied newydd y waith hon. Baich yr areithiau ydoedd galw ar holl chwarelwyr Gogledd Cymru i ddathlu gwyl llafur yr haf nesaf, ac hefyd godi cwestiynau y chwarelwyr yn gwestiynau Seneddol. Cynygiwyd penderfyniad yn nglyn a'r mater cyntaf gan Mr. R. M. Pritchard, Waenwen, mewn araith bert a phwrpasol. Sylwodd yn gryf ar y lies a ddeilliai o gynulliadau mawrion i drafod pynciau gweithfaol. Eiliwyd ef gan Mr. D. Jones, Llanllechid, a char- iwyd y penderfyniad yn unfrydol. Yn nglyn a'r ail fater cynygiodd Mr. J. O. Williams, Pendinas, mewn araith Radicalaidd iawn, ac efe yn Dori os iawn yr hysbyswyd ni, ei bod yn hwyr bryd i ni fynu cael gwrandawiad, a chael dadleuwyr dros ein hawliau yn Senedd ein gwlad. Dyma'r ffordd y credai ef y bydd i ni gael ein hawliau oreu. Siarad- odd yn ddoniol odiaeth ar werthfawredd byrddau cyflafareddol. Eiliwyd y cynygiad gan Mr. R. Hughes, Penybryn. Darllen papyr wnaeth y brawd yma, ac yn sicr bydd yn werth i bob chwarelwr ei ddarllen os ca gyfle. Pasiwyd y penderfyniad hwn eto gydag unfrydedd. Hyderwn nad annghofir mo'r penderfyniadau hyn adeg yr etholiad. Beth, tybed, a fwriedir rhoddi nifer o gwestiynau fel "prawf" i'r ymgeiswyr nesaf dros Arfon, er edrych a fyddent yn iach arnynt ? ac os na fyddent, a oes genym fel gweithwyr berson cymhwys i dd'od yn mlaen drosom ? Ai ynte am anfon y penderfyn- iadau hyn i'r cyhoedd a gadael rhyngddynt I hwy ? -Bethesdiad. o
FFESTINIOG A'R CYFFINIAU.
FFESTINIOG A'R CYFFINIAU. Nos Fawrth, Tach. 23, traddodwyd darlith yn nghapel y Garegddu, gan y Parch. Abraham Ro- berts, Lerpwl, ar "Robert Moffat, y Cenhadwr." Yr elw i Mr. John Morris (Ty Mawr gynt). Cy- merwyd y gadair gan Robert Roberts, Ysw., gor- uchwyliwr chwarelau Mri. Oakley a'i Gyf. Cafwyd anerchiad rhagorol gan Mr. Roberts ar y priodol- deb i weithwyr y chwarelau ddarpar cronfa i gyfarfod a damweiniau, ac yn neillduol a henaint. Gresyn na cheid yr anerchiad hwn i'r Cymro gan nad oedd ond nifer fechan mewn cydmariaeth o'r chwarelwyr yn bresenol yn y ddarlith nos Fawrth. Credwn fod gweithwyr chwarelau Mri. Oakley wedi gwneud camgymeriad trwy wrthod cynygiad haelionus Mr. Dunlop i'w cyfarfod mewn tanysgrif- iad haelionus er darpar ar gyfer henaint. Yr ydym ni, chwarelwyr Ffestiniog, y dosbarth mwyaf di- amddiffyn yn y deyrnas i allu cyfarfod dim ond iechyd a gwaith i fyned ato bob dydd a'r diwrnod y bydd y rhan luosocaf ohonom yn methu dilyn ein gwaith dyna ni yn gorfod apelio at y swyddog plwyfol, neu am drwydded i'r Plas Mawr" sydd yn y Penrhyn. Y mae llawer o weithwyr gonest yn dyfod i'n cof y funyd hon sydd wedi gweithio haner cant o flynyddau a mwy, ond nid oes gan- ddynt yr un ddarpariaeth gogyfer ag afieohyd a henaint. Gwir fod Mr. Dunlop yn talu swm anrhy- deddus yn fisol i amryw hen weithwyr, a gwyddom hefyd ei fod yn rhoi gwaith i lawer o hen weithwyr sydd yn llawer mwy cymwys i fod yn y gornel gartref nag yn y gwaith; ond pa beth a wneir? Nid ydym yn gwybod fod yr un cwmni arall yn gwneud yr hyn a wna Mr. Dunlop i hen weithwyr; a dylem gofio nad oes ond tua thair blynedd ar ddeg er pan ddechreuodd ef gyflogi gweithwyr yn Ffestinio, tra y mae yma foneddigion eraill megys wedi eu geni yn freiniol i fwynhau elw da oddiwrth eu gweithwyr, ond erioed heb gydnabod hyny. Credaf mai ein dyledswydd ni fel gweithwyr ydyw deffro mewn yscyriaeth ddifrifol o'n sefyllfa ddiamddiffyn, a sefydlu rhyw gymdeithas a all ein cynorthwyo mewn angen gan wneud apeliad cryf at berchenog- ion y chwarelau am danysgrifiad da i gychwyn. Rhyw gynllun o'r natur yna a fyddai y moddion goreu i gael undeb cydrhyngom fel gweithwyr, yn lie ein bod yn talu ein harian i glybiau nad ydynt hyd yma wedi dwyn fawr o fudd i neb ohonom. Mewn perthynas i'r ddarlith, cafwyd cyfarfod rhagorol teilwng o'r darlithydd a'r testyn. Y mae Mr. Roberts yn prysur wneud enw iddo ei hun yn ein plith. Cyngherdd. Tach. y 26, cynaliwyd cyngherdd rhagorol yn yr Assembly Room gan gor o blant, oua 150 mewn nifer, dan arweiniad Mr. J. T. Rees, Booth, Aber- ystwyth, er dathlu Jiwbili y Tonic Solffa. Y dernyn a ddatganwyd oedd cantawd "Plant Llan," o waith Mr. Rees. Deallwn fod y naill a'r llall wedi rhoddi boddlonrwydd da i'r gwrandawyr. Hyd y gallwn gofio dyma yotro cyntaf i Mr. Rees ymddangos ya y ey-,iieriad oarweinydd yn ein tref, a sicr genym y bydd mwy o alw am ei wasanaeth yn y dyfodol.
Advertising
For Breakfast, Dinner and Supper, use only Ambrose Cocoas.