Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

NODION 0 RYDYCHAIN.

News
Cite
Share

NODION 0 RYDYCHAIN. YN ystod y tymhor hwn y mae a.mryw ddigwydd- iadau pwysig wedi cymeryd lie yn Rhydychain. Tua dechreu'r tymhor teimlid pryder mawr yn nglyn ag afiechyd peryglus Dr. Jowett, Prifathraw Coleg Balliol, yr hwn, fel yr ydys yn cofio, oedd wedi addaw derbyn gwahoddiad ei gyfaill a'i gyn- ddisgybl Dr T. C. Edwards, i fod yn bresenol ar agoriad Coleg Duwinyddol y Bala. Fe fydd yn dda gan luaws o'i edmygwyr yn Nghymru ddeall ei fod eto yn gwella ac yn abl i fyned allan ychydig yn ei gerbyd. Ychydig ddyddiau yn ol fe fu farw Prifathraw Coleg Pembroke, y Parch Evan Evans, D.D., yr hwn oedd yn Gymro o waed beth bynag. Yr oedd mewn gwth o oedran, ac nid oedd wedi cymeryd rhan flaenllaw yn ngweithrediadau'r Brifysgol er's tro. Ymneillduodd y Parch H. G. Liddell, D.D., Deon Coleg Eglwys Crist, o'i ddeoniaeth ychydig amser yn ol; ac etholwyd Canon Paget, D.D., mab Syr James Paget, Meddyg y Frenhines, i'w swydd. Ymddengys fod Canon Paget yn un o ddynion mwyaf blaenllaw yr Uchel-Eglwyswyr yn Rhyd- ychain, er nad yw ond dyn cymharol ieuanc, ac ymddengys fod ei lyfrau wedi cael derbyniad da gyda llawer o Annghydffurfwyr hefyd. Yr oedd Dr. Liddell yn un o ddynion enwocaf Rhydychain. Dr. Scott ac yntau oedd awdwyr y Geirlyfr Groeg goreu sydd yn awr-Liddell and Scott's Greek Lexicon. Yr oedd, ac y mae, Dr. Liddell yn bur gyfeillgar a'r teulu brenhinol: yn ei goleg ef yr oedd Tywysog Cymru ac eraill o'r teulu brenhinol pan oeddynt yn myned drwy gwrs o efrydiaeth yn Rhydychain. Enillodd Cymro o Ddowlais-Mr D. Thomas, o Ysgol Llanymddyfri—ysgoloriaeth mewn Mesuron- iaeth yn Ngholeg Exeter. Clywsom fod Mr Thomas, pan yn dra ieiuanc, yn neillduol o alluog fel chwareuwr ar y berdoneg, ac nid yw ei gariad at gerddoriaeth na'i allu cerddorol eto wedi lleihau. Y mae tri o efrydwyr a gwaed Cymreig yn eu fwythienau wedi dyfod i Goleg Mansfield y tymhor wn. Y mae un ohonynt, Mr Hugh Jones o Awstralia, yn fab i rieni sydd yn siarad Cymraeg, ond nid yw ef ei hun wedi dysgu'r iaith. Y mae Mr Jones wedi bod yn yr Almaen er pan mae yn Ewrop yn astudio duwinyddiaeth yno, a bwriada aros yn y wlad hon am flwyddyn i barhau ei efrydiaeth yn Ngholeg Mansfield. Y mae un arall, Mr Davies, hefyd o Awstralia, yn Gymro o un ochr, a bu am beth amser yn genadwr yn yr India. Y Hall yw Mr Saer, yr hwn a aeth drosodd o Ddeheudir Cymru i Canada. Y mae wedi bod yn Yale University, ac y mae yn briod. Bwriada roi tro yn ngwlad Canaan cyn gadael yr Hen Fyd am y Byd Newydd. Y mae Dr. Fairbairn, Coleg Mansfield, yn dweyd ei fod wedi mwynhau ei hun yn fawr iawn yn nghyfarfod agor y Coleg Duwinyddol yn y Bala. Nid oedd erioed o'r blaen wedi bod mewn cyd- gynulliad mawr o Gymry, a'r hyn dynodd ei sylw yn neillduol oedd eu hastudrwydd yn gwrando yn ystod cyfarfodydd pur faith, rai ohonynt. Y tymhor hwn fe draddodwyd amryw bregethau galluog a nerthol gan Dr. Fairbairn, ar Grist mewn duwinyddiaeth ddiweddar." Ei amcan oedd dangos, yr hyn nid yw yn hollol newydd, fod tuedd gref yn yr oes hon i roi pwys neillduol mewn duwinyddiaeth ar Berson ae ymadroddion Crist ei hun. Tuedd oesoedd o'r blaen oedd edrych ar Grist nid yn gymaint yn ngoleuni hanes, o'i flaen ac ar ei ol, ond yn ngoleuni cyfundrefn o dduwinydd- iaeth. Y duedd oedd i ffurfio cyfundrefn o dduwinyddiaeth, megys, yn gyntaf, ac yna i wneud He cymwys i Grist a'i waith ynddi, yn lie edrych yn gyntaf i hanes y byd a gwel'd beth ddengys ffeithiau yn lie Crist yn yr hanes hwnw, ac yna, wedi cael y ffeithiau, mewn hanesiaeth ac yn yr Ysgrythyrau, ffurfio y gyfundrefn ar y rhai hyny. Ymdriniodd hefyd yn bur ddeheuig ag ysbrydol- iaeth, gan ddangos nad oes dim yn groes i reswm mewn bod i Dduw godi cenedl a dynion neillduol i ddatguddio ei feddwl i'r byd. Y Sul nesaf traddodir yr olaf o'r pregethau hyn. Pregethodd Dr George Adams Smith, awdwr llyfr ar Esaiah, un Sul yn Ngholeg Mansfield, a rhoddodd foddhad cyffredinol. Clywsom fod y Proff. Rhys wedi cyhoeddi ei Rhind Lectures ar gyn-drigolion yr Ynysoedd hyn yn un gyfrol, gwerth haner coron, os nad ydym yn camgymeryd. Ymddangosodd y darlithiau hyn yn y Scottish Review, a chawsant dderbyniad da iawn yn Alban. Ymddengys fod Mr O. M. Edwards yn darlithio y tymhor hwn ar gyfnod cyntaf hanes y Saeson yn yr ynys hon. Rhwng darlithio a golygu misolyn, y mae Mr Edwards yn bur brysur y tymhor hwn, ac nid ydym wedi gwel'd llawer arno. Y mae Cymdeithas Dafydd ab Gwilym wedi cynal rhai cyfarfodydd yn ystod y tymhor. Yn un ohonynt cawsom bapur gan ein cydwladwr galluog Mr J. Young Evans, o Ddowlais, ar y Symudiad Cenedlaethol Cymreig." Yr oedd yn bapyr hir a dysgedig, yn gosod allan yn dra galluog hanes Cymru a'i dyheadau Uenyddol a chymdeithasol, Darllenwyd yr un papyr o flaen y Pelican Club yn Ngholeg Corph Crist, pryd y siaradwyd gan un o athrawon y Coleg ac eraill yn dra ffafriol am y papur ac am Gymru, er y gellid gwel'd fod tipyn o ofn yn bod yn mhlith y Saeson rhag i'r Cymry ro'i gormod o le i'r iaith Gymraeg. Ond yr oedd yn hyfrydwch ar y cyfan i wel'd fod teimlad mor ffafriol yn ffynu tuag at Gymru yn y Brifysgol. Darllena'r awdwr athrylithgar yr un papur eto o flaen y Russell Club, Cymdeithas Ryddfrydol y Brifysgol, a chan fod y Gymdeithas hon yn cynwys rhai o efrydwyr galluocaf y lie, y mae'n ddianmheu y ceir ymdrinjaeth helaeth ar y mater yno. Y mae Mr J. Gwenogfryn Evans, M.A., wedi dechreu defnyddio Ffoddgraphyddiaeth atgopio y Liber Landavensis a hen lawysgrifau Cymreig eraill ac wrth son am lenyddiaeth Geltaidd, gallwn ddweyd fod yn mryd y Proffeswr Rhys gyhoeddi llyfr ar Y Tylwyth Teg Cymreig." Y mae Mr Standish O'Grady, yr ysgolhaig Gwyddelig adnabyddus, hefyd ar gyhoeddi Cyfres o'r Llaw- ysgrifau Gwyddelig yn yr Amgueddfa Brydeinig. Cynaliwyd cyfarfod gan Gymdeithas Aristotel- aidd Llundain yn Rhydychain ychydig amser yn ol. Darllenwyd papyrau gan rai o'r ysgrifenwyr mwyaf adnabyddus ar athroniaeth, megys Mr Shadworth Hodgson, Mr Bosanquet, a Mr Ritchie. Siaradwyd ar y pwnc, sef The origin of our perception of the external world," gan eraill heblaw'r rhai uchod, a chafwyd cyfarfod dyddorol iawn. Darllenir papyr gan Mr Ritchie, un o athrawon Coleg yr lesu, yn y Gymdeithas Athronyddol nos Wener nesaf, ar What is Reality?" Cynaliodd Mr William Davies a Mrs Davies (Mi>s Clara Leighton) gyngherdd yn y Neuadd Drefol, Rhydychain, nos Iau diweddaf. Yr oedd Mr David Hughes, Mr Barrett, Miss Dew, a Clara Novello Davies yn canu neu yn chwareu ar offerynau. Cafwyd cyngherdd neillduol o dda. Canodd Mr David Hughes un gan newydd o waith Mr William Davies ar Y Gof," cyfieithiad Seisnig o eiriau Hiraethog, Chwythu ei dan, dan chwibianu Ei fyw ddn, wna y g6f du, &c. a chafodd dderbyniad gwresog. E. A.

-:0:-Y WASG.

ETHOLIAD DORSET.

Advertising

I"Teulu Min y Morfa."I