Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
THE SECOND NUMBER OF TIIE ILLUSTRATED MAG a Z THE WELSH REVIEW, Edited by ERNEST BOWEN ROWLANDS, Is now ready, PRICE SIXPENCE, and contains:- THE ISSUE IN THE FOREST OF DEAN. by W. T. STEAD LOCAL GOVERNMENT, by E. VESEY KNOX, M.P. THE DRINK QUESTION AND LEGISLATION, By W. S. CAINE, J.P. THE EISTEDDFOD) Illustrated by Paton and Pilotell. ) ITS HISTORY, by T. MARCHANT WILLIAMS, B.A. AS A DRAG ON NATIONAL PROGRESS, by DAVID DAYIBS. THE VIEWS OF "THE MEMBER FOR TREORKY," Illustrated by J. M. Staniforth. The Drama OW ATN SEITHENYN, Chaps, iii. and iv. a Complete Story by E. hedlormie, "The Overseer's Wife a Story by A. M. Binstead; Welsh Notes; Reviews, etc., etc. Procurable at all Booksellers, Railway Bookstalls, and the Publishers-Messrs Regan, Paul, Trench, Trubner and Co. Paternoster House, Charing Cross Road, London. BANK HOLIDAY Y NADOLIG. Gyfarfod Cysiadleuol BLYNYDDOL YN Y ROTUNDA LECTURE HALL, CHYMHERDD MAWREDDOG, YN HOPE HALL. HOPE STREET, Ddydd Sadwrn, Rhagfyr 26ain, 1891. BBIRNIAID Y GERDDORIAETH: Mr J. T. Rees, Mns.Bac. Mr Bennett Williams GANTORION: MISS ELEANOR REES, Miss Eleanor Jenkins, R.A.M Mr William Evans, R.A.M. (From the Crystal Palace Concerts), Mr Bennett Williams. Y Cyfarfod i ddechreu am 2; a'r Cyngherdd am 7.30 Drysau yn agored am 1.30 a 7. -TOCYNAU.- Reserved Seats (numbered) i'r Cyngherdd yn unig: 3/- .r r r Cyngherdd (Body), yn cynwys mynediad i Gyfarfod y Prydnawn 2/- Cyngherdd (Gallery), neu Gyfarfod y Prydnawn yn unig, SWLLT. I'wcaelgan HUMPHREY WILLIAMS, 112, Huskisson St Y Genhadaeth Dramor (Cangen y Merched). NOS FAWRTH, RHAGFYR 8, 1891, YSGOLDY CAPEL Y M.C., PRINCES RD, traddodir d DARLITH THOS. E. ELLIS, YSW., A.S., AT Yr Hen a'r Newydd yn Affrica." Oymerir y Gadair am 7 gan William Evans, Ysw., Y.H. Tocynau, Is. Eglwys Gynulleidfaol Great Mersey Street. -CYFARFOD TE TCHYNGHERDD.— CYNELIR YR UOHOD DDYDD MERCHER, RHAGFYR. 2, 1891. CANTORION: Mrs. ALLTWEN WILLIAMS, Miss ANNIE PARRY, TENORYDD Y BRYNIAU, EOS EILIAN, ac eraill. Tocynau i'r Te a'r Cyngherdd, Is. yr un. Addoldy Annibynol Marsh Lane, Bootle. CYNHELIR -TEp. PARTY- Y lIe uchod, DDYDD MERCHHR NESAF, BHAG. 9. Te ar y byrddau o 4 30 hyd 6 80. Am 7 30 cynhelir CYNGHERDD MAWREDDOG YN —STANLEY HALL. STANLEY ROAD,- Pryd y gwasanaethir gan MRS. WILLS HLRPIIR, MR. JOHN HENRY DEW. MISS MEGAN JONES, K.A.M. (Prize Medallist). MISS LIZZIE DAVIES, a MR. J. R. JONES &0 eraill. Mynediad i'r Te ar Cyngherdd I/ I'r Cyngherdd yn unig, 6c. Newydd ei gyhoeddi. Pris Swllt. ARGRAPHIAD TONIC SOLFFA 0 "HARLECH CANTATA. Y Gerddoriaeth a'r Geiriau Seisnig gan JOSEPH SKEAF, Wedi ei droi i'r Solffa gan Mr Rd. Jones A.C. (Alaw Daron). Gostyngiad i Lyfrwerthwyr a Chorau. Pob archebion i'w danfon i Mrs Skeaf, 63, Grove Street, Lerpwl. MERSEY VIEW GARDENS AND BRIDE ROAD, BLUNDELLSANDS. JOHN THOMAS,- Gardener, Florist, &c. Large Variety of Window and Table Plants, Cut Flowers, Wreaths, Bouquets, Crosses, Sprays also Plants on Hire for Decoration. Gardens attended to by day-work or contract. Estimates Free. The West of EqglaijOlotli Establishment. (Established 1856. O. P. OWEN & Co., 9, SCOTLAND PLACE, BYROM STREET. YR HEN FASNACHDY mwyaf adnabyddus yn Lerpwl, Cymru, a rhanau helaeth o America, am YBRETHYNAU OREU. TORIAD £ 1 OREU. GWNEUTHURIADl TTOREU. FFIT OREU. Ac am y Prisiau mwyaf rhesymol. DEUWCH A GWELWCH. Gwilym Evans' Quinine Bitters. Meddyginiaeth. Lysieuol. Meddyginiaeth Bur. Meddyginiaeth Anffaeledig. MAE QUININE BITTERS "GWILYM EVANS yn gwella doluriau a chlwyfau yn yr Ymysgaroedd, yr Arenau, a'r Afu, ac yn feddyginiaeth sicr iddynt. Pe cymerid QUININE BITTERS GWILYM EVANS yn amserol, symudid ymaith yr achos, a darfyddai y son am annhreuliad ymborth, poen yn y ddwyfron, cur yn y pen, diffyg anadl, &c. ANMHRISIADWY YW rhag peswch blin, fflem, a llysnafedd yn mhibellau'r gwynt, poeri gwaed, ac arwyddion blaenaf y darfodedigaeth. Hefyd y maent yn ddiaili wella ansawdd y gwaed, i fwrw allan bob anmhuredd allygredd ohono, ac i iachau a nertbu cylchred- iadau bywiol y corph. Defnyddir TQUININE BITTERS GWILYM EVANS gan gleifion yn mhob gwlad, sydd yn dyoddef oddiwrth nychdod, gwendid a llesgedd. MAE QUININE BITTERS GWIL\ M EVANS Yn Gwella GWAED ANMHUR DOLURIAU Y FREST ANHWYLDERAU Y CYLLA GWENDID GIEUOL ISELDER YSBRYD DOLURIAU YR ARENAU GWENDID CYFFREDINOL DOLURIAU YR AFU, ETC., ETC. Yn Gwella DIFFYG TREULIAD GWYNTOGRWYDD LLOSG CYLLA PRUDDGLWYF CLEFYD YR YSGYFAINT CWSG ANESMWYTH POERI GWAED DIFFYG ANADL, ETC., ETC. I TYSTIOLAETH BWYSIG. CURIAD Y GALON. CURIAD Y GALON. CURIAD Y GALON. CURIAD Y GALON. CURIAD Y GALON. CURIAD Y GALON. 46, Bryncelyn, Penygraig, Pontypridd, Awst 18ain, 1889. ANWYL SYR ,—Ychydig fisoedd yn ol yr oedd fy mywyd yn faich, a'm cyflwr yn druenus, oherwydd y cyflymder a pha un y curai fy nghalon ar brydiau, gan fy ngwneud mor ofnus fel na allwn syflyd o'm cadair ar ol i'r pwl fyned heibio. Blinid fi gan yr anhwyl- deb ar adegau pan wrth fy ngorchwylion, pan fyddwn yn bwyta, a phan yn y gwely. Daeth mor boenus fel yr ofnwn yn ami pan yn bwyta fy mod ar dynu fy anadl olaf; ac yn fynych pan yn y gwely nis gallwn gysgu am oriau, gan deimladau pruddglwyius ac ofnau parhaus. Nid oedd bywyd fel hyn yn ddy- munol, felly penderfynais roddi prawf ar QUININE BITTERS Gwilym Evans, ac yr wyf yn teimlo yn ddiolchgar fy mod wedi cael fy nhueddu i wneud hyny, canys y mae yn dda genyf allu hysbysu fy mod erbyn hyn yn hollol rydd oddiwrth y teimladau prudd ac ofnus oedd yn fy llethu, ac yr wyf yn gallu mwynhau cwsg melus naturiol. Bum am fisoedd yn dyoddef cyn rhoddi prawf ar y QUININE BITTERS, ond dechreuais deimlo cyfnewidiad er gwell pan yn cymeryd yr ail botelaid. Hyderaf y bydd i'r dystiol- aeth wirfoddol hon fod yn gymhelliad i ddy- oddefwyr eraill i roddi prawf teg ar QUI- NINE BITTERS Gwilym Evans. Yr eiddoch yn ddiolchgar, WILLIAM JENKINS. QUININE BITTERS GWILYM EVANS. Gochelwch gael eich twyllo. Gofynwch am Quinine Bitters Gwilym Evans, ac os na fydd enw Gwilym Evans yn ysgrifen- edig ar stamp y Llywodraeth ar bob potel. twyll a ffug ydynt. Pris Poteli. 2/9. Eto, dwbl faint, 4/6. Blwch yn cynwys tair potel ddwbl, 12/6. I'w gael yn mhobman. Goruchwylwyr yn mhob parth o'r byd. Os ceir unrhyw anhawsder i'w gael, dan- fonir ef am y prisoedd uchod yn rhad a dyogel trwy y post i unrhyw gyfeiriad yn y Deyrnas Gyfunol, yn uniongyrchol oddiwrth y percheaogion— Quinine Bitters Manufacturing Company, Ltd., LLAMELLY, SOUTH WALES. Gellir cael Quinine Bitters Gwilym Evans yn America oddi- wrth y prif oruchwyliwr-R. D. Williams, Medical Hall, Ply- mouth, Penn. AT EIN GOHEBWYR. Dylai pob gohebiaeth ein cyrhaedd fan bellaf fore ddydd Llun a phob newydd a hysbysiad erbyn bore ddydd Mercher. Gwaith a Swydd yr Henuriaid.Ceisiwn wneud lie i'r ysgrif ddyddorol hon ar Swyddogaeth Eglwysig yn ein rhifyn nesaf. Chamberlain. Y n ein nesaf.
CYMRU A'R GYMDEITHAS DDARLLEN.
CYMRU A'R GYMDEITHAS DDARLLEN. YN ein rhifyn diweddaf cafwyd sylwadau ar ymweliad Syr Owen Roberts, Cymro y dylai Cymru fod yn falch ohono ac- o'i waith, a Chymdeithas Genedlaethol ein tref. Yr ydym am fanteisio ar y cyfle i alw sylw ein darllenwyr at symudiad yn ein plith sydd yn llawn o ysbryd Cymru New- ydd, ac a ddylai fod yn bur fendithiol i'r wlad. Mae'n debyg nad oes neb a wAd fod safon diwylliant yn mhlith y werin, ag ystyried ein dygn anfanteision, yn hynod uchel yn Nghymru. Ni raid ond brasgamu drwy golofnau unrhyw bapur newydd Cymreig i weled yn eglur pa bethau sydd yn myned a bryd ein pobl-cyfarfodydd llenyddol, darlithiau, dadleuon y beirdd a brwydrau diniwed y cerddorion. Ar yr un pryd, ofnwn fod mewn un cyfeiriad lai o gynydd nag y gallesid ei ddisgwyl nad oes mewn gwirionedd gymaint ag a fu o ddarllen ar lyfrau sylweddol. Dywedir yn wir am y Groegiaid, y genedl fwyaf diwylliedig fu erioed yn llwybro'r ddaearen, nad oeddent yn orhoff o ddarllen mai drwy wrando ar areithwyr, edrych ar wr y chwareugerddi, a chlustfeinio ar athronwyr, yr aethant mor graff a byw eu meddwl. Ond cofier mor brin oedd llyfrau yn y dyddiau hyny, ac mor ha wad mewn dinas fechan oedd cael gafael ar bawb a chanddynt genadwri oedd yn werth ei gwrando. Y diffyg dyfalbarhad y cwynir mor fynych o'i blegyd yn nglyn a phethau Cymreig ydyw yr achos ein bod ar ol yn y fan hon eto angen sydd am drefn i symbylu ieuenctyd Cymru at ddarllen, ac i gadw'r hwyl yn ddidor ar ol rhoi cychwyn iddi. Dyna y mae Undeb Myfyrwyr Cymru a Chymdeithas Ddarllen Genedlaethol Llun- dain yn ceisió ei wneud. Corff ydyw yr olaf sydd yn cynwys erbyn hyn amryw fil- oedd o aelodau ei amcan ydyw creu chwaeth at ddarllen yn mhlith y bobl ieuainc a'r dosbarth gweithiol yn y wlad. Tynir allan restrau o lyfrau ar eu cyfer, cyhoeddir cylchgronau bychain yn trin y llyfrau hyny o fis i fis, a rhoddir tystysgrifau ar derfyn y tymhor darllen. Amcan yr Undeb Cymreig —a ffurfiwyd drwy uno cymdeithasau bech- gyn y colegau a'u gilydd-ydyw cymhwyso y cynllun yma at anghenion Cymru maent wedi dechreu ar eu gwaith er's mis yn llawn gobaith ac egni. Cyhoeddwyd ganddynt restr o lyfrau Cymreig—OriauW Hwyr, Caniadau Islwyn, Llyfr y Tri Aderyn, Tra yn yr Eidal, Cvmru Fu, a Goronwy Owaill sydd i fod yn faes llafur am yr wyth mis nesaf. Mae y Gymdeithas Seisnig yn derbyn y rhestr yma fel ei heiddo hi, yn cyhoeddi attodiad o bedwar tudalen yn esbonio y llyfrau Cymreig, ac yn anfon hwn gyda'r cylchgrawn Seisnig at bob aelod fyddo'n dy- muno ei gael. Felly gall unrhyw Gymro am swllt neu ddeunaw (ag i'r trefniadau priodol gael eu gwneud) fyned trwy gwrs cymysg o Gymraeg a Saesneg, neu gwrs Cymraeg hollol,a chael cynorthwy llenorion profiadol bob cam o'r daith. Gobeithio ein bod wedi codi awydd yn ein darllenwyr i roi prawf ar gynllun mor ddeniadol,—os ydym, ni raid ond anfon at Proffeswr Lloyd, Aberystwyth, i gael pob cyfarwyddyd angen rheidiol. Gresyn, yn wir, fod ein cydwladwyr mor anwybodus yn nghylch y trysorau llenydd- ol a berthyn iddynt fel cenedl. Llawenydd i ni yw deall fod Mr O. M. Edwards yn llwyddo, drwy golofnau Cymru, i enyn cymaint o ddyddordeb yn ngorphenol y wlad. Ond ni thai darllen cylchgronau yn unig rhaid ymboeni uwchben llyfrau a rhoi i amynedd ei pherffaith waith cyn wired a bod elw i bob llafur, nid oes elw o fath yn y byd i'w gael heb lafur drwy chwys dy wyneb y bwytei fara yr enaid, yn ogystal a bara y corph. Da genym fod Cangen Gymreig eisoes wedi ei sefydlu mewn cysylltiad a'r Gym- deithas Genedlaethol ac nid oes genym ofn prophwydo iddi lwyddiant mawr- Gwneler yr un peth yn ddioedi yn nhref- ydd a phentrefydd Cymru yn gyffredinol.
CWRS Y BYD.
CWRS Y BYD. TARDDIAD CYMREIG Y LYTTONIAID. ERBYN chwilio, cawn fod cryn gysylltiad rbwng rhai o hynafiald yr Arglwydd Lytton, a fu farw yn Mharis yr wytbnos ddiweddaf, a Chymru. Syndod yn y byd iddo fabwysiadu y ffugenw Cymroaidd Owen Meredith" wrth ei weitbiau llenyddol. Hen nain iddo oedd Anne, merch Meredith ap Tudur a cbwaer i'r enwog Owen Tudur. Priododd yr Anne hono un o'r enw Syr Wm. Norreys, ac wyr o'r briodas hon a newidiodd ei enw trwy gyfraith o Norreys i Robinson. Plllas y Robinsons am genedlaethau oedd y Gwersyllt, air Ddinbych, a'r Monachdy. Yr olaf a arddelodd yr enw oedd gefnder i Lytton, Strode-Lytton, Ysw., yr hwn a gymunroddodd iddo etifeddiaeth Knebwortb a newidiodd y penteulu ei enw drachefn o Robinson i Lytton. Yr oedd hwn yn hendaid i'r Seneddwr hyawdl a'r nofelydd enwog, Syr Bulwer Lytton, tad y diweddar Arglwydd Lytton (Owen Meredith). Pan gofier cysylltiadau agos Bulwer-Lytton a. Cbymru, y mae'n syn na fuasai wedi gwneud defnydd helaeth o'i hanes a'i tbraddodiadau yn ei ramantau lluosog. A fyno wybod rhagor ar hyn, ac y mae lluaws yn cymeryd mawr dyddor- deb mewn achyddiaeth a gwehelyth, ymofyned a Powys Fadoc, y Royal Tribes of Wales, neu Burke's Peerage. Y Cl A'R GORFRAN. GAN fod y tymhor caled hwnw sydd yn gwneud y tlawd yn dlotach yn ymyl, digon amserol a fydd rhydd-gyifeithiad o'r ddamheg ganlynol, yr hon a welais yn ddiweddar yn Little Folks:- Yr oedd bi'n amser i'r ci gael ei giniaw, a safai yntau yn nrws ei genel yn y buarth yn cyfarth am dano. Yna daetb y forwyn o'r palas & dysgl- aid o esgyrn danteithiol a gweddillion bias us eraill y bwrdd, gan eu dodi ger ei fron. Ar gangen uwch ei ben, yr oedd corfran (neu jackdaw) newynog yn ei wylio yn bwyta, ac yn mawr hiraethu am damaid i dori ei eisiau. O'r diwedd, nis gallai ddal yr olygfa yn hwy, ac ebedodd i lawr i'w ymyl, gan ei gyfarch, O Mistar Dash anwyl, gadewch imi gael un tamaid bach yr ydw'i bron llwgu'n wir, syr mae'r ddaear cyn g'leted a haiarn, a fedra'i yn 'y myw gael cymaint a phry' genwair yn lle'n y byd. Rhowch imi darned, da chwithau." Nid da gan gwn gael eu cytbryblu ar eu ciniaw, ac ar y cyutaf ni wnaeth Dash ond chwyrnu ar y cardotyn ond wedi craffu ar ei lygaid pwl a'i blu llipa, cymerodd J drugaredd arno. "W el, helpa dy hun, ynte," ebai, mae yma ddiyen ini'n dau." 0 fel yr oedd v cmidur bycloan yn mwynhau yr arlwy. Ac wedi bwyta ei gwala, sychodd ei phig yn ei phlu, a dywedodd, Diolch yn fawr i chwi, Mr Dash anwyl—mi fuoch yn garedig iawn wrtha i." Yna hI a ehedodd yn ol i'r pren. Diar mi," ebe Mr Dash wrth orwedd yn gysurus ar ol ciniaw yn nghanol gwellt ei gerel, "Fedddiais i 'rioed o'r blaen gymaint gwell ydyw'r bias sydd ar fwyd da wrth ini wahodd eraill i gyfranogi obono." LlinellHU llawn o elusengarwcb sydd gan Ceiriog O cofia, pan ganfyfldi y tlawd yn gofyn bwyd, Fod Duw yn edrych arllat ti trwy lawer gwyneb 11 wyd. ARDDERCHOG Lu Y MERTHYRI." HAI wchw beth ydyw'r newydd hwn o Fan- gor Fawr yn Ngwynedd ? Dr. Roland Rogers wedi addaw cymeryd rhan mewn cyngherdd yn Mhorthaethwy cyngherdd er budd cerddor ieuane addawol, ond yn cael ei gynal, fel mae gwaetha'r modd, mewn capel Ymneillduol Ry- feddwn i ddim na fu'r doethawr enwog yn cy- meryd rhan mewn cerddorfa mewn theatre cyn hyn, ac mi a'i gwelais fy hun droion yn arwain cor mewn Eisteddfod, ond y mae'r drychfeddwl am Organydd Prifeglwys Bangor yn croesi rhiniog capel Ymneillduol—ie, i fudd-gyngherdd cerddor ieuanc addawol, yn ddychrynllyd, yn anoddef- adwy, yn waeth, os oes modd, na pheidio talu'r degwm. Dyma ryfyg Rhaid rhoi stop ar beth fel hyn neu 0 leiaf amcanu a dyma'r dull yr amcanwyd. Danfonodd y Deon lytbyr at Dr. Rogers yn annghymeradwyo ymddygiad o'r fath, ac yn bygwth dwyn yr achos gerbron a special chapter of the Cathedral." Nid oes genyf yr amgyffred lleiaf beth ydyw y llys hwn a elwir yn chapter of the Cathedral a chan nad wyf, mwy n'am darllenwyr, bytb yn debyg o gael fy ngwysio ger ei fron, nid af i'r drafferth o ym- gynghori a'r Cyclopedia. Pa fodd bynag, ni bu Dr. Rogers encyd cyn danfon ateb i'r bygytbiad, gan ddywedyd na fynai ef i undyn gyfyngu ar ei hawliau ef fel proffesydd cerddoriaeth, acynrhoi rhybudd o'i ymddiswyddiad. YMOEISWYR SENEDDOL. TRA y mae gan Ryddfrycfwyr Bwrdeisdrefi Fflint ymgeisydd diguro yn Mr. Herbert Lewis, y mae cryn ansicrwydd parth yr ymgeisydd Ceid- wadol. Cyfarfu rhai o benaethiaid y blaid ychydig ddyddiau yn ol, pan y penderfynwyd gofyn i Mr. Pennant neidio eto i'r adwy; ond nid yw ef hyd yn hyn wedi cydsynio. Sonir am ddwyn yr Anrhyd. Mr. Mostyn, brawd Arglwydd Mostyn, allan yn erbyn Mr. S. Smith, yr aelod presenol, tros y sir. Y mae yr awdurdodau Rhyddfrydol yn Mhwrdeisdrefi Dinbych wedi ysgrifenu at chwe' boneddwr am eu cydsyniad i ddodi eu benwau gerbron y blaid a pban geir eu hatebiad gelwir cyfarfod o'r cynrychiolwyr i ddewis ycymhwysaf ohonynt. Deallwn fod Mr. 4 Caine, a Chymro adnabyddus o lan y Merswy, yn mysg y chwech. Yn Ngorllewinbarth sir Ddinbych, ycbydig erbyn hyn sydd yn credu y daw Mr. Taylor yn mlaen. Enwir Mr. Alun Lloyd a Mr. Isgoed Jones, Llanrwst; ond credwn mai cellwair y mae'r ddau, neu rywun arall ar eu rhan. Enwir hefyd Mr. J. Herbert Roberts, ond datganodd ef yn ddiweddar ei fwriad i gadw o'r Senedd yn bresenol. Pa fodd bynag, pan ddaw'r adeg, diau y ceir hyd i'r dyn iawn ac i'r dyn iawn, y mae'r sedd yn sicr.
-:0:-DYFFRYN CLWYD.
-:0:- DYFFRYN CLWYD. YR oedd calendr y Frawdlys a gynaliwyd yn Rhuthyn yr wythnos ddiweddaf yn cynwys rhestr o droseddau duun anarferol; un ohonynt mor wrthun d ffiaidd, fel y mae'n glod i wasg newydd- iadurol Cymru na chrybwyllwyd ef o gwbl yn ua ohonynt. Rhoddwyd y gosb drom o saith mlynedd o benyd wasanaeth ar Barnwell, ysgolfeistr Llan- dyrnog ond bernir yn gyffredinol nad yw fymryn Ilai na'i haeddiant. Y mae'r lodes fach, 13eg oed, y gwnaeth ef gymaint cam a hi, yn fam; a chlywais fod ei baban a hithau yn dyfod yn mlaen yn burion. Dim diolch i'r humbyg rhagrithiol gan Barnwell. Dygwyd y pedwar dyn a gyhuddir o saethu'r cipar John Jones yn Llannefydd o flaen ynadon Dinbych ddydd Sadwrn, a gohiriwyd yr achos drachefn gan fod Jones yn dal mor ddrwg, fel nas gallai ddyfod i'r llys. Yn wir, dywedir ei fod yn ddrwg iawn. Erfyniwyd am feichiafon, ond gwrth- ododd yr ynadon ganiatau, oddigerth i Wm. Wil- liams, mab y Cynghorydd Sirol, a rhoddwyd meichiafaeth drom arno yntau. Lie rbyfelgar ofnadwy ydyw Dinbych; ao fel prawf o wirionedd yr hen ddiareb Adar o'r unlle hedant i'r unlliw,"—nid wyf yn sicr ai fel yna mae'r hen air ychwaith-yr oeddynt yn ceisio cael haner milwriaeth Prydain i wersyllu yn eu rhandir, fel y cofir, dipyn o amser yn ol. Cam gwag oedd hwnw. Ond i wneud y diffyg i fynu, y mae'r Cynghor Trefol wedi cael rhyw bel droed a elwir yn Waterloo House Dispute," a chicio hono y maent yn mhob cyfarfod. Dal i gynhyrfu yn eu mysg o hyd y mae'r hen Adda. Bu Mrs. Adams (nid Efa cofier) yn gwein- yddu'r ddysgyblaeth deuluaidd ar feili a dalodd ymweliad digroesaw a'i phreswyl. John Jones oedd enw'r beili-ond p'run ohonynt nis gwn. Aeth John i mewn i'r t)T trwy fyrstio drws y cefn; ac allan trwy ddrws y ffrynt tan waeddi Mwrdwr Mi glywais son am feili yn myn'd i dy yn Llan- elwy er's talwm, a'r tenant yn gofyn iddo yn bur ffeind, "Welodd rhywun chi yn dwad i mewn, tybed?" "Naddo," ebe'r beili, "mi gymeres i ddigon o ofal rhag hyny." "0, wel," ebe'r tenant, tan hogi ei gyllell, Mi gymra ine ofal na wel neb monoch chi'n myn'd allan." Fe aeth y truan dy- chrynedig hwnw "i ma's yn fwy chwim na John Jones. Yr wyf yn ysgrifenu y llinellau hyn fore ddydd Llun, a'r wynthrew ar fy nwylaw—dyna'r achos fod fy nodiadau mor wasgarog a didrefn. Y mae hi'n farug gwyn yma fel eira-y cebyst oeraf sydd yn disgyn arnom o'r awyr ond fel llawer o ymwelwyr annymunol eraill nid yw yn aros fawr-diolch i'r Tad am hyny. Fe ddaw'r Nadolig atom ar hyn, canys y mae pobl Clocaenog wedi cadw eu cy- farfodydd Diolchgarweh am y Cynhauaf yr wythnos ddiweddaf. CLYWKDOG.