Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Advertising
ESTABLISHED 1S6S. OWEN ROBERTS, ESTATE AGENT, 24, Netherfield Road South, Has large and small Dwelling-houses to Let in various parts of the town. G. H. EDWARDS & Co., 16, LORD STREET, ESTATE AGENTS, Have Cottages to LET in various parts of the town, renting from 2/6 to 8/6 per week, clear of taxes. Also larger houses at higher rents. H. E. WILLIAMS-, 10, CONYERS STREET, ESTATE AGENT, HAS large and small Houses To Let in various parts of the city and suburbs. fl city and suburbs. Houses bought and sold. Mortgages arranged, &c. ROBERTS & EDWARDS, ESTATE AGENTS, 64, Kirkdale Road, Liverpool. All classes of House and Shop Property carefully and economically managed. r7antpy THOMAS^ co~ I(V Estate Agents, &c., 28, LOW HILL, LIVERPOOL. UYMUNWN hysbysu ein cydgenedl yn y dref a'r wlad ein JJ bod yn casglu rhenti tai a siopau am yn ol 2t y cant. Yr ydym wedi cael blynyddau o brofiad gyda'r gwaith ae os bydd angen, rhoddwn bob sicrh.d am ddyogelwch yr eiddo a'r arian a gesglir genym. Bydd ya dda genym anfon rhestr o'r tai a'r siopau fydd genym ar werth neu ar osod. Cyfeirier pob gohebiaeth- 28, LOW HILL, LIVERPOOL. DAVID WILLIAMS, COAL MERCHANT, Office and Yard 199. CROWN STREET, LIVERPOOL. itesidence-S7, KINGSLEY ROAD JONES & LEWIS, COAL MERCHANTS, 197, CROWN STREET. (Late of 253, FALKNER STREET), LIVERPOOL. Agents for BREEZES. House Coal a speciality. «MJymdeithas yr Eisteddfod Geijedlaethol,* CYH OEDDIADA U. Cofnodion a Chyfansoddiadau Buddugo Eisteddfod Aberdar, 1885. t.d. cvii. 276. Pris5s. Cofnodion a Chvfansoddiadau Buddugol Eisteddfod Caernarfon, 1886. t.d. xcviii. 517. Pris, 6s. Cofnodion a Chyfansoddiadau Buddugol Eisteddfod Caerludd, 1887. Rhan I.-Barddon- iaeth. Rhan II.-Hanes Bywgraphyddol a Beirn. iadol o Gerddorion Gymreig, o'r Amseroedd Boreuaf hyd ganol y Ganrif Bresenol, gan M. 0. Jones (Treherbert), wedi ei olygu gan D. Emlyn Evans. Pris 1/6, Llian 2/-t.d. 160. Cofnodion a Chyfansoddiadau Buddugol Eisteddfod Gwrecsam,1888. t.d.lxii,512. Pris 6s. Cofnodion a Chyfansoddiadau Buddugol Eisteddfod Aberhonddu, 1889. Yn y Wasg, Pris, 6s. Hanes Llenyddiaeth Gymreig o'r flwyddyn 1300 i'r flwyddyn 1650 O.C. t.d. 488. Gan R. J. Pryse (Gweirydd ap Rhys). Pris, 10 s. Yn cynwys Hen Lenyddiaeth Lawysgrifol ACymry —HanesTair Eisteddfod Dadeni—HanesLlenorion Cymreig-Cyfraith orthrymus Harri IV. yn erbyn Llenorion Cymreig a'r Eisteddfodau-Hanes Eis- teddfod Caerfyrddin yn y fl. 1451-Hanes Cadeir- ■ iau Barddol Morganwg—Cerddoriaeth Cyfnod y Testyn-Hanes Llenyddiaeth Prif Feirdd, Traeth- odwyr, a Cherddorion yr 16fed ganrif—Hanes Llenyddiaeth y rhan gyntaf o'r 17fed ganrif, etc., etc. ''Alcestis" gan Euripides, Ch wareugèrdd Roegaidd, wedi ei throi i'r Gymraeg gan Proff, D. Rowlands, B.A. (Dewi a'r Parch. D. E. Edwardes, M.A., gyda Rhagarweiniad gan Proff. T. F. Roberts, B.A. Pris, 5s. Syr Hugh Owen Ei Fywyd a'i Waith, gan W. E. Davies, gyda Rhagair gan Lewis Morris, M.A., a Darlun o Syr Hugh Owen. t.d. 140. Pris, Is. Pedwarawd Otterynol (violin, Viota, Vioiin- oello, Pianoforte), gan J. T. Rees. Pris 5s, neu yn Rhanau, 2s. yr un. SYLWER.—Gellir cael yr oil o'r CyhoMdiadau uchod o Swyddfa'r Gymdeithas, gan E. Vincent Evans (Ysgrifenydd), 27, Chancery Lane, London, neu o Swyddfa'r OymrD. LLENYDDIAETH a CHERDDORIAETH GYMREIG 1'vr oasl our HUGH EVANS, 444, STANLEY RD., KIRKDALE. Ctdwir y gwahanol Ganeuon a Darnau Cerddorol Cymreigmewn Btoo. Telir eylw prydlawn i bob Archebion gyda'r Post. TAI A SIOPAU AR OSOD. Y mofyner t HUGH JONES 376, Netherfield Road, North. ADVICE to those about to Marry, A and who are Married. If you want SUBSTANTIAL HIGH-CLASS & STYLISH HOUSE FURNISHING GOODS, AT ECONOMICAL BATES, COME TO GRIFFITHS & DAVIES IOR CABINET FURNITURE. COME TO GRIFFITHS & DAVIES FOR CARPETS. COME TO GRIFFITHS & DAVIES FOR FLOOR CLOTHS. COME TO GRIFFITHS & DAVIES FOR BEDSTEADS. GRIFFITHS & I)A)TIES, General Drapers aqd House Furnishers, 392,394, 396, 398, SCOTLAND RD., LIVERPOOL. BENSON EVANS' GASTROCYNE ( Cofrestredig ). y FEDDYGINIAETH FAWR RHAG DIFFYG TREULIAD, Cur yn y Pen, Poen ar ol Bwytch Cyfog, Penysgafnder, Dwfr Poeth, Llosg Cylla, Gwynt, &c. Clywir MUoedd yn ewyno o dan yr anhwylderau hyn yn ddyddiol, ac eto heb dderbyn un rhyddhäd. Y MAE 'GASTROCYN E' Y Feddyginiaeth neillduol at yr anhwylderau uchod yn unig, ac nid ydyw yn gwella pob peth, fel mae rhai cyfferiau yn hdni gwneud. GWEITHREDA 'GASTROCYNE' Yn wahanol i ddim erioed a gynygiwyd i sylw y cyhoedd hyd yn hyn. Y mae yn myned at wraidd y DRWG, ac yn effeithio yn uniongyrchol ar y BWYD yn y cylla, a thrwy hyny yn Uadd elfenau Diffyg Tkbuliad (yr hwn sydd yn achosi yr holl anhwylderau eraill). Canoedd o Dystiolaethau o bob rhan ov wlad. Dywed un:—'• Esmwythaodd y dose gyntaf y boen fawr oedd arnaf." Un arallY mae eich Gastrocyne' wedi rhodd mwy o ryddhad i mi nag a gefais gan un physygwr er*s wyth mlynedd." Os yn Ddyoddefwr, itarTREIWCH UN BOTELAID. MEWN POTELAU (13 doses), Is. lie. a 28. 6c. yr un (40 doses). PERCHENOG T. BENSON EVANS D I N B Y C H WHOLESALE AGENTS— EVANS, SONS & CO., LIVERPOOL. JOHN THOMPSON, „ DAVID JONES & CO., FRANCIS NEWBERY & SON, LONDON. HORENDEN & SONS, „ OLDFIELD PATTISON, MANCHESTEK.
I"Teulu Min y Morfa."I
I "Teulu Min y Morfa." Gan ISALAW. PENNOD XXV. LLAWENYDP MIN Y MORFA, A CHADI JONES. YR oedd pobpeth yn bendramwnwgl yn Min y Morfa. Llythyr newydd dd'od o Lundain oddi- wrth Tudur yn dweyd fod Gwen yno yn ddyogel. Addawai Tudur y manylion yn ei lytbyr nesaf; teimlai, meddai, fod yr hyn a yrai, er yn fyr, yn ddigon ar y pryd. Nis gwyddai yn iawn pa bryd y deuai Bob, Gwen, ac yntau yn ol; yr oedd ganddynt amryw bethau i'w gwneud cyn cycbwyn. Oedd, yr oedd yn Nhyddyndicw lawenydd ond gwell genym i'r darllenydd ei ddychymygu nag i ni geisio ei ddarlunio. Mor fawr a cbryf oedd y llawenydd yn y tyddyndy gwledig nes y rhedai megys tros y rbiniog i'r buarth. Brefai y gwartheg yn y cywair lIon, ac fel pe buasent wedi cael tamaid melus odiaeth, cnoent eu cil yn llawer cyflymach nag arfer. Canai y gath ei grwndi ddigrif tros yr holl gegin ac edrychai y ci fel creadur wedi haner golli ami hi gan rhyw ysprydiaeth dyeitbr o ymbyfrydwcb. Ond yn benaf obonynt oil, teimlai Smoilar fod rhywbeth ar droed, ac yn ei ddull mulaidd daeth dan ysnwffian at ddrws y ty; a chan nad oedd neb yn d'od ato, tarawodd yr "Hen Ganfed," nes oedd y ty yn diaspedain. Tynodd hyn Domos Gruffydd o'i wal ato, tan chwerthin yn galonog. Wel, yr hen ful," meddai gan ei gyfarch, yr wyt titba wedi dwad yma i fwynbau dipyn o'n llawenydd. Mae Gwen bach yn saff wel di. Ydi mae hi yn gwbwl ddiogal." Ac heb yn wybod yn iawn beth oedd yn wneud, gan gymaint dylanwad y newydd cysurlawn arno, aeth i nol llythyr Tudur i'w ddangos i Smoilar,a bu agos iddo gynyg benthyg ei spectol i'r mul- syn,fel y gall'sai graffu a deall pob gair o'r llawen chwedl. "Ond tyr'd hefo mi i'r stabal i gael feed," ebe'r perchenog. Yroedd Smoilar yn deall byn o Gymraeg, beth bynag am y llythyr a chan- lynodd ei feistr yn ewyllysgar. Ar y ffordd, neidiodd yr hen geiliogwydd, yr hwn yntau hefyd oedd yn llawn afiaeth a direidi y boreu hwnw, ar grwper Smoilar. Ar ol y fath luniaeth, ftwrdd a'r mul yn ei ddychryn, nerth y carnau, 3,'r ben geiliogwydd ar ei gefn ar hyd y ffordd tua Tbyddyndicw. Pwy oedd yn d'od i'w gyf- arfod ond Dafydd Tomos a phan welodd yr hen rychor Smoilar yn myn'd heibio fel mwg mell- dith, a'r hen geiliogwydd yn gwneud excursion ar hyd ei gefn, o'i gynffon i'w goryn, chwarddodd nes oedd bron a thori ar ei draws. Ar fengoch i, wel!" ebai, "y mae hyn gystal a mountibancs Ar ei ffordd i'r Min yr oedd Dafydd Tomos, yn ol ei arfer dyddiol, er ymholi os oedd rhyw newydd o Lundain, a llonodd yn ddirfawr pan glywodd fod pobpeth mor galonogol. Yna gwa- hoddwyd ef i eistedd yn yr hen gadair ddwy- fraich wrth ochr y t&n a chymeryd mygyn." Ymollyngodd gwr y ty i'r gadair ar yr ochr arall, tra yr eisteddai Elin Gruffydd rhyngddynt yn prysur wau hosan, ac yn dal pen yr ystori. Ar ol i Dafydd gael gwybod pa bryd y dis- gwylid Gwen gartref, decbreuodd draethu hanes -yr hyn a ddigwyddodd yn yr ogof, gan roddi i Tomos Gruffydd yr ymdrafodaeth fu rhwng Obed Jones a Benja, yn nghyda'r manylion parthed y llongddrylliad. Gan nas gwyddai, yr hyn a wyr y darllenydd, beth oedd yr ymddyddan rhwng Obed Jones a Benja, nis gallai ddweyd wrth Tomos Gruffydd ond hanes lied garpiog. Gwyddai Dafydd Tomos ddigon i dynu ei gasgl- iadau ei hunan, yn ngtyn &'r hen Feibl, y drwydded briodasol, a'r sachau; ac er mai "dyn rhyfadd gynddeiriog" oedd Obed Jones, nid oedd am iddo gael y clod i gyd. Yr oedd yn bwriadu gwneud ei ran yn y busnas," a mynai wybod yn y pen draw y dirgelwch yn ngltn a'r pethau a ddarganfyddodd ef a Wil ar y traeth y dydd o'r blaen, ar fengoch i, wel "Hwda di, Tomos," meddai, "a ddaru ti ddangos y 11 un hwnw ge'st di yn y cwpwrdd prfes yn yr Hafod A ur i Mari Lewys, dwad ?" Na ddaru mi." Pa'm na fasat ti'n gneud wel yr oeddan ni'n gofyn iti ? 'Fasvra ni yn leicio clowad be fasa Gwraig y Bennar yn 'i ddeyd." Wel byn y mae hi 'rwan, Dafydd Tomos. Yr oeddwn i yn 'nabod y gwymad yn y llun ar unwaith pan welis o, a dychrynis mor gynddeir- iog nes rhoth rhwbath dro oddimiawn i mi. A rhag ofn dychryn gomrod ar fam Tudur, druan, a hitha yn amal mor wacbul, peidis a'i ddangos iddi. Gwelodd Elin 'ma fo." "Do," meddai y wraig, "a llun da ydi o hefyd. Y fi stopiodd Tomos ei ddangos i Mari Lewys rhag ofn iddi fyn'd yn sM wrth ei welad. Peth drwg iawn ydi cynhyrfu pobol yn ddiachos." Gwnaethoch yn gall ar y fan 'ma. Rbyfadd na fasa rhwfun yn meddwl am deimlada pobol miawn peth wel hyn. Ond y pwnc oedd, yntS 'rwan ?—cael y 'maen i'r wal' heb feddwl am deimlada' neb ie, tawn i byth i geibio, wel!" Yr wyt yn dy le, Dafydd," meddai Tomos Gruffydd, dyna sut yr oedd hi." "A ydi Elin yn gwbod am y busnas 'ma? A ydi yn gwbod y cwbwl, dwad ? Ydi, Dafydd. G-Wyr yr hyn a wn ina. Ni byddaf byth yn celu dim oddiwrth fy ngwraig." Na fyddi, Tomos Rbaid imi gadw llawer oddiwrth Betti acw, er mai hen hogan go lew ydi hi hefyd. Y mae yn tendiad yn iawn ar Wil a fina, ond y mae yn gythril am hel straus er na chlywis i ddim ei bod yn deyd dim drwg am neb. Ond waeth heb a deyd y cwbwl wrth y gwragedd 'ma, am eu bod yn eu hidlo yn nhai eu cym'dogion." "Rhag c'wilydd iti, Dafydd Tomos, yn sbarad wel 'na am dano' ni y merched ac yn anad neb yn rhedag i lawr. dy wraig. 'Does 'na ddim dynas well na Betti Tomos oddiyma i Aberdaron, o ddynas gwlad. Wn i ddim be fasa yn d'od o Wil a thitha, Dafydd, onibae hi," meddai Elin Gruffydd yn gynhyrfus. I Aros funyd, Elin bach," meddai Dafydd yn hamddenol. Yr oedd wedi penderfynu cadw ei dymher y tro hwn, er, pe buasai Tomos Gruffydd yn siarad fel hyn, buasai wedi gwylltio er's meityn. Aros funyd, Elin bach. Paii a bod yn galed wrtb dy hen ffrynd. Gwyddost ar y-gora. fy mod yn deudyd y gwir am Betti fod ei thafod fel clapar melin yn myn'd clic-clac-clic-clac o hyd; a wiw i mina ddeyd gormod wrthi am y rbeswm ei bod yn rhy ffond o fyn'd i ail-ddeyd petha a glywo yn y ty. Y mae yn ddyrias dda i Wil a mina—dynes riol ydi Betti-mam dda i Wil, a gwraig gariadus i mina-ond y mae ei thafod yn ysgw'd gormod yn ei phenglog. Ydi, gyma llw munyd 'ma." Ti sy'n deyd hy'na, Dafydd," meddai Elin, "amy rheswm ei bod ar dy gefn di o hyd am na fasa Wil a thitha yn d'od i'r seiat." "Na, chwara teg, 'rwan, Elin bach. Yr wyf cyn ffondied o Betti ag unrhyw wr o'i wraig— ond wyddost di ar gora fod yr hyn 'rwy'n ddeudyd yn eitha gwir. Wrth gwrs, pe ba rhw- bath yn digwydd i Wil ne mina, y mae yn gwbod ein holl amgylchiada i drwch y blewyn. G-w'l'- bobpeth fel fina am y tyddyn, sut rwy'n sefyll gyda'r mistar tir, a'r mân symia sydd arna i o bryd i bryd i'r gwahanol farsiands 'ma. Hi'n wir fydd yn cadw'r pwrs ac yn setlo hefo nhw bob amsar, ac un iawn am fargan ydi hi hefyd, chwara teg iddi. la, gwraig iawn ydi Betti-un o'r gwragadd gora a droediodd esgid 'rioed ond y mae ei thafod cyn hired a'r ffordd fawr oddi- yma i Griciath, ydi tawn i'n nego, wel 3" Nid wyt cyn waethed ag yi oeddat yn rhoi dy hun ar y decbra, Dafydd ac y mae yn dda gan i dy glywad yn canmol Betti wel hyn. Ia, dynas nobl ydi dy wraig, Dafydd Tomos, a gwn fod dy hoffder am dani yn fawr. Pan fydd rhwfun mewn c'ledi neu gyfyngdar, hi fydd y gynta i estyn cymhorth. Tasa dim ond y dydd o'r blaen, pan glywsom y newydd drwg am Gwen, druan, yr oedd yma gyda mi, nid i ista i lawr i glolian ond i neud gwaith y ty yn fy lie. Prin y deudodd air wrth neb, ond g'naeth y lie miawn 'chydig amsar yn dwt a threfnus. Na, Dafydd, nid oes isio iti gadw dim oddiwrth Betti. Gelli fod yn sicir ond iti ddeyd wrthi am beidio ei ail-ddeyd, y byddai wel dynas fud." "Hw'rach hyny," meddai Dafydd Tomos, ond wa'th heb ei pboeni gyda phetha diangen- rhaid. Ac y mae llawar o betha yn digwdd- felly y mae hi hefo mi, beth bynag-nad dymun- oli'r gwragadd wbod dim am danynt." "Wel, ti w'r ora, Dafydd bach. 'Pawb &'i fys lie bo'i ddolur,' meddai'r hen air, yntê, 'rwan?" Ia." Ar hyn, pwy ddaeth i mewn ond Obed Jones â golwgrbyfedd arno. Yr oedd Smoilar wedi rbedeg yn ddamweiniol ar ei draws ar y ffordd. Gorchuddid y gwr parchedig o'i goryn i'w sawdl gan laid, a thra yn ymsychu o flaen y tan, dy- wedai hanes y digwyddiad wrth ei gyfeillion, y rhai a wenent o glust i glust, yn enwedig pan glywsant fod eidracs wedi myned gyda'r awelon yn y cwymp, ac nid oedd ganddo un yn sp&r i'w roddi i Dafydd Tomos na Tomos Gruffydd. Gresynai Obed am hyn, ond ymgysurai yn y dybiaeth y gofalai Rhagluniaeth eu cyrchu gyda'r awel a'u gadael wrth ddrysau rhywrai anghenus am luniaeth lenyddol o'r fath yma. Wrth "fwrw bara arwyneb y dyfroedd" fel byn yn ddamweiniol, hwyrach, wedi'r cyfan, y deuai llawer o les. Gofidiai na fuasai ganddo gopi o'r trac a roddasai i Job Dafis er i Tomos Gruffydd a Dafydd Tomos ei ddarllen. "Trac' i Job 'mrawd," meddai Dafydd, ho ho Un rhyfadd cyn—ddeiriog wyt ti, Obad. la, gym'a llw munyd 'ma;" a chwarddodd Dafydd Tomos nes oedd y dagrau yn treiglo droa ei ruddiau wrth feddwl fod Job wedi cael ei anrhegu A thrac'. Edrychodd Obed ar Dafydd Tomos yn ddifrif- ol, a dywedodd ei fod yn synu ato yn go.hoian felly, tra mai ei amcan ef oedd llesoli Job Dafis trwy roddi y pampbledyn iddo. Testyn y trac' meddai, oedd 'Y Goruchwyliwr Annghyf- iawn." Pan glywodd Dafydd Tomos y testyn, aeth yn saith waeth; ac onibae i Tomos Gruffydd guro ei gefn, buasai wedi tagu. Daeth ato ei hun, a dywedodd tan besychu, W'st ti be, Obed ? un rhyfadd gyn—ddeiriog wyt ti, ia, ar fengoch i, wel Yn duchw bach yn rhoi trac' i Job 'mrawd ac OJ y testyn—'Y Goruchwyl- iwr Annghyfiawn.' 'Tawn i byth drwy'r shimdda, un rhyfadd wyt ti, Obad, ia, rhyfadd gyn- ddeiriog Ar hyn, nis gallai Obed Jones ddal yn hwy gorfu iddo yntau cbwerthin o lwyrfodd ei galon am ben gorfoledd anngbymedrol yr hen rychor o Dyddyndicw. Yna cymerodd ei ffon, a chyfeir- iodd at y drws, gan ddweyd fod arno eisiau galw ar neges hefo Mr Humphreys, yr ysgolfeistr. Gof- ynodd i Dafydd Tomos a Tomos Gruffydd dd'od gydag ef, a chydsyniodd y ddau. Dywedodd Obed Jones wrthynt ar y ffordd fod arno eisiau cael siarad a rhywun heblaw yr ysgolfeistr, sef Cadi Jones, yr hon oedd yn gofalu am dy Mr. Wmffres. Wedi cyrhaedd y ty, cawsant fod yr ysgolfeistr gyda'i oruchwylion dyddiol a neb yn y ty ond yr hen chwaer. Gofynodd iddynt ddyfod i mewn, a pharodd iddynt ista i lawr." Am yspaid, ni ddywedai neb air; a disgwyliai Cadi wrthynt i ddweyd eu neges. Edrychodd Dafydd Tomos a Tomos Gruffydd ar Obed Jones gan ddisgwyl iddo ef ddechreu siarad, ac ebai Obed:- Y mae'n debyg, Cadi Jones bach, dy fod yn rhyfeddu tipyn gweled tri o ddynion fel hyn yn dod i udrach am danat, ac yn tybied fod gan- ddynt ryw neges heblaw holi am dy iechyd. Y cwestiwn mawr difrifol ydyw i ti a nina, a ydym yn barod i fynad fynu fry ?" Dychrynodd Cadi wrth glywed Obed Jones yn siarad fel hyn a meddyliodd ynddi ei hun, "Be di'r mater hefo'r dyn, deudwch ? Ydi o o'i go'?" Ia, Cadi bach, y mae hwn&'n cjvrestiwn difrifol iawn, ac y mae yn bwysig ini fod yn barod."