Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

Dwr, is Hg svdct vn perthyn yn agos lawn i'w gih,ld: ydvw dvfeisiad pylor, a dvfeisiad gvnau. Y blaenaf o'r ddau oedi d frisiad pylor. Y mae yn anhawdd dweyd pwy a ddsieisiodd hwn eto, gan y bernir fod y Chineaii yn aduabyddus ohono oesoedd lawer cyn ei fod yn adnabyddus yn mysg cenedloedd Ewrop. Dywed rhai ei fod wedi cael ei ddwyn i Ewrop gyntaf gan v Croesgadwyr, v rhai a'i derbyniasant oddiwrth yr Arabiaid. A dywedir, yn mhellach, fod yr Arabiaid yn ei ddefnyddio yn ngwarehae Mecea yn y dwyddyn 690, a'u bod hwy wedi cael y wybodaeth ohono oddiwrth yr I diaid. G llai hyn i gyd fod vn wir ar rvw olwg, a bod pylor yn d'iyfa s Kwropeudi Ilr yr an pryd. Yr oedd math o nwydd a elwid "Y Tin Groegaid l" yu cael ei ddefnyddio yn y zh feloedd yhwng < Cristiouogion a'r Sara- ceoiaid Yn 01 Gibbon, defnyddid ef yn ngwarchaeadau Co st-^ntiuople yn y seith- L-4 a'r wythfei gsnrif Itefcyddid ef, dra- dhefa, gan v CMiphiaid Mahometanaidd yn orbyn y Oroesgadw\r yn y drydedd ganrif ar ddeg a'r be,twaredd-ar-ddeg. Def- nyddid ef hefyd, weithiau, Yil y rhyfeloedd EwropeniHd fr oedd vn gyfansoddedig, fel y bemir, o naphtha, brwmstan, a phyg. Y or vbwy Iliad o ntaf am bylor y gellir dibynu arno yw un gwaith a ysgrif- 40wvd can Roger Bacon yn y flwyddyn 1216, Ue y dywed y gellir gwneyd y fath dan o greighalen a defnyddio ereill ag a lyag yn y pellder a fynom, ac y gellir gyBeathvr own a fflUchiadau tebyg i daran- au a mellt yn yr awyr, ond yn fwy arswydus o gymaint ag y gellir dinystrio dinasoedd a' byddinoedd trwy ei nerth. Efallai mai Bacon ei hun oedd y dyfeisydd ohono. Y Mae yn debyg na chymhwys- wyd ef yn ebrwydd at ddybenion milwrol ar ol ei ddyfeisio, ac oherwydd hyny, gallwn gredu y rhai a ddywedant mai yn y bedwaredd ganrif ar ddeg y darganfyd^- wyd y gallu rhyfeddol sydd ynduo i ddinystrio, o leiaf yn gyffiredinol, er fod Bacon wedi ysgrifenu, fel y dywedwyd am dano, yn nechreu y drydedd-ar-ddeg, ac mai dyma, hefyd, y pryd y cymhwyswyd ef at ddybenion milwrol. Dywedir y dar- ganfyddwyd y nerth ffrwydrol sydd ynddo mewn modd damweiniol. Fel yr oedd un Schwartz yn gwneuthur arbrofion arno gyda mortar a phestl, cymerodd ffrwydriad Ie, a chwythodd y llestr i gryn bellder. Yn fuan ar ol dyfeisio pylor, dechreuwyd dwyn gynau a magnelan i arferiad. Dy- wed rhai fod Edward III. yn eu defnyddio yn erbyn y Scotiaid yn y flwyddyn 1327. Nid oes, efallai, sicrwydd digonol o hyn, ond y mae sicrwydd ei fod yn eu defnyddio yn erbyn y Ffrancod yn mrwydr Cressy, yn y flwyddyn 1346. A dywed Russell yn ei Modern Europe, a Hume yn ei History of England, mai dyma yr amgylch- iad pwysig cyntaf i wneuthur y cyfryw ddefnydd ohonynt. Nid oedd y gynau a'r magnelau cyntaf ond rhai hynod afrosgo a diddefnydd, debygid. Ond o'r adeg hono hyd heddyw, y mae gwelliantau dirif, yn mron, wedi eymeryd lie yn eu gwneuthuriad. Gellir dywedyd fod y ddwy ddyfais hyn wedi eyfnewid yr holl gelfyddyd filwrol yn hollol, gan eu bod yn dwyn galluoedd mor nerthol ac mor ddi- nystriol i weithrediad, y cyfryw na wyddai yr henafiaid ddim am danynt. Un arall o ddvfeisiau pwysicaf gwydd- oniaeth ydyw dyfeisiad y telegraph, trwy yr hwn y gellir danfon cenadwriaethau i barthau pellenig y byd trwy offerynoliaeth trydan mewn ychydig iawn o amser. Yr oedd trydan yn bod trwy yr oesoedd. Bu y patriarchiaid yn edrych gyda syndod a braw ar y fellten yn hollti bron y cwmwl; ond ni ddychymygent y gallesid gwneyd i'r elfen hono a achosai y fellten fyned ar genadwri dros ddyn i adrodd newyddion un wlad mewn gwlad arall filoedd o filldiroedd o bellder. Yn ddiweddar iawn, mewn cymhariaeth, y daeth y ddyfais hon i weithrediad. Gellir cael prawf o fodolaeth trydan mewn modd tra chyffredin fel hyn rhwyger darn o hapyr yn ddarnau man, a rhodder hwy ar fwrdd, yna eymerer darn o gwyr; ac wedi ei rwbio yn dda a darn o wlanen a sychwyd yn dda o flaen y tan, dalier y cwyr at y darnau papyr, a cheir eu gweled yn y fan yn ehedeg at y cwyr; ac wedi glynu wrtho am fynud, ceir gweled rhai darnau yn neidio ymaith yn sydyn oddiwrtho, tra y disgyna ereill oddiwrtho gan eu pwysau. Yr oedd y briodoledd hon o eiddo y trydan yn hysbys i'r Groeg- iaid. Ond heblaw hyn, a bod ychydig o sylweddau ereill yn meddu y briodoledd hon, nid ydoedd yn wybyddus am drvdan hyd yr eilfed ganrif ar bymtheg. Ond oddiar y pryd hwnw, y mae gwyddon- iaeth wedi gwneuthur cynydd hynod gyf- lym gyda golwg ar yr elfen hon. Dechreu- wyd tynu sylw cyffredinol ati yn nechreu yr eilfed ganrif ar bymtheg gan un Dr. Gilbert, meddyg Seisnig. Wedi hyny bu Boyle, Guericke, Newton, ac ereill, yn cydweithredu er eangu gwybodaeth ddynol ar y pwnc dyddorol hwn. Tua chanol y ganrif ddiweddaf, bu Mr. Benjamin Frank- lin yn gwneuthur lluaws o arbrofion gyda'r elfen hon, a darganfyddodd fod yr hylif trydanol yn hollol o'r un natur a'r mellt; ac oddiar y wybodaeth a enillodd trwy yr arbrofion hyn, dyfeisiodd foddion i ddiogelu tai rhag mellt, trwy roi arweinyddion i'r mellt ar hyd-ddynt, yr hyn a barai fod y mellt, i fesur, yn ddiberygl. Ond nid oedd yr amser wedi dyfod eto i wneuthur y defnydd ohono a wnawd ar ol hyn. Tua dechreu y ganrif hon, rhoddwyd symbyliad newydd i astudiaeth ddyfalach o'r elfen hon, a'r defnydd ellid wneyd ohoni. Ac y mae darganfyddiadau Folta, Oersted, Ohio, a Whpatstone, yn cyfansoddi sill holl gyfundrefn y telegraph, er fod ar brofion Dr. Watson, yn Lloegr, a Franklin, yn America, wedi awgrymu y posiblrwydd o drosglwyddo cenadwriaethau trwy drydan fel moddion. Efallai mai y ceisiadau cyntaf i wneuthur y drychfeddwl yn was- anaethgar i hyn ydoedd y rhai a wnawd gan Lesage yn Geneva, yn 1774, a chan Somond yn Ffrainc, 1787. Yn y flwyddyn 1819 y gwnaeth y Proffeawr Oersted, W o Copenhagen, ei ddarganfyddiad mawr am ddylanwad y rhedlif galvanaidd ar nod wydd y cwmpawd. Erbyn 1821, yr oeiri pob peth angenrheidiol er eyfansoddiad y telegraph wedi ei ddarganfod, ond nid oedd pwysigrwydd y darganfyddiadau yn cael eu deall ond gan ychydig iawn. Ond erbyn y flwyddyn 1837, yr oedd holl drefn- J iadau y telegraph wedi ei dwyn mor syml y gallasai uorhyw un a allasai ddarllen ei weithio. Ac yn mis Gorphenaf y ft. wyddyn hono, gosodwyd y gwifrau i lawr rhwng gorsafoedd Eufjton Square a Camden Town, pellder o fUlfJir a cb warter; ac ar y 25ain o'r mis • hvynW, yr anfonwyd y genadwri gyntaf r'nwng y gorsafoedd hyny. Yn y flwyddyn 1839, gosodwyd y gwifrau ilawr ar l',nell ffordd haiarn y Great Western can billed a Slough, pellder o tua 18 milldir Ond nid ar unwaith nac heb gryn lawer o wrthwynebiad y daeth y ddyfais, o'r di- wedd, i gael ei gwerthfawrogi. Erbyn hyn, y mae telegraphs y deyrnas wedi myned i ddwylaw y Llywodraeth, ac mor emg y mae y ddyfais werthfawr hon wedi cael ei dadblygu fel y mae yn y deyrnas hon yn awr 24.000 o filldiroedd o linell, a 108,000 o filldiroedd o wifrau ar waith n trosglwyddo newyddion o'r naill fan i'r llall Y mae nifer y cenadwriaethau a ddanfonir trwy y telegraph oddeutu 20,- 000,000 yn flynyddol. Y cyfryw ydyw c nydd a gwasanaeth y ddyfais ardderchog hon. Fel hyn, yr ydym yn gweled fod llwydd- iant mewn un darganfyddiad yn symbylu meddyliau dynion i wneuthur ymchwiliad- au newyddion, efallai mewn cyfeiriadau newyddion, a bod y naill ddarganfyddiad hefyd yn awgrymu darganfyddiadau ereill, ac yn rhoi manteision i ddyfeisio offerynau a pheirianau newyddion. Yr ydym, gyda hyn, yn gadael y rhan flaenaf o'r testyn, ac yn prysuro yn mlaen at yr ail ran ohono, er y buasai yn ddigon dyddorol olrhain y cysylltiad sydd rhwng dargan- fyddiadau a dyfeisiau ereill a'u gilydd. (Pio barhau.)

Masnach yr Haiam a'r Glo.

Beirniadaeth Awdlau Cadair…