Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
[No title]
Y mae yr awdl hon drwyddi yn llawn o brydferthion o'r fath ag a, ddifynwyd uchod ac nid oes ynddi braidd uu gwall mewn iaith na chynghanedd. Condemniai y beirniaid yn Eisteddfod Pwllheli linellau fel hon— A'n ewybr o bren i bren." Ond bychan yw. Eto, nid wyf yn gallu gweled priodoIdeb yr ymadrodcl- Corau adar cwriedig Ac Enaid ogrwn ei ddagrau." Sonir yn ami am wylo yn hidl," ond ni welais erioed gyfeiriad o'r blaen at ogrwn dagrau." Cawn ddau englyn unodl union yn dechreu fel y canlyn, gan osod y rhagwant ar y ,chweehed yn lie y pumed sill, yn ol y rheol gyffredin,- Ond ha! nid oes yma swn—y tonau." Eto,- c, Yn nghrwydriadau llwybrau llaid—os & dyn." Credaf fy mod wedi nodi pob peth a ellir yStyried fel brychau yn yr awdl orphenedig a gwir brydferth hon; ac er nad ydyw mor hysbyddol o'r testyn, ac mor athronol a llawn ag awdl Elias, fy marn onest yw mai hi yw y deilyngaf o Gadair y Gordofigion yn y flwydd- yn 1878. Buasai y saith awdl oreu yn y gystadleuaeth hon yn gwneuthur cyfrol o farddoniaeth ag a fuasai yn anrhydedd i Gymdeithas y Gordofigion. Meddaf, Yn ngwyneb haul a liygad goleuni," rhodder y Gadair i Mabon, a'r gan- moliaeth uchaf i Elias, a'r pump a'i dilynas- ant mor agos at y gamp.—Yd wyf, foneddig- ion, yr eiddoch yn ostyngedig, ELIS WYN 0 WYRFAI. At Bwyllgor Eisteddfod y Gordofigion, Rhagfyr 18fed, 1878.
COLEG Y GWEITHIWR.
COLEG Y GWEITHIWR. G A NAP OORWYNT. LLYTHYR XVII. Ap Corwynt.—Yn gymaint a bod amryw ohonoch yn dra hoff o rodio llwybrau bardd- oniaeth, i agor y cyfarfod heno, y mae yn dda genyf eich hysbysu i mi ddarllen beirn- iadaeth Elis Wyn o Wyrfai, yn y Genedl ddiweddafc, ar awdlau Cadair y Gordofigion ar Unigedd," mewn perthynas i ba rai y mfte cryn ysgrifenu wedi bod yn y GWLAD- OARWR yn ddiweddar. Gyrwyd un-ar-bym- theg o awdlau i'r beirniaid (Elis Wyn a Hwfa Mon), a barnodd Elis, fel y g*yr llawer Qhonoch, awdl Mabon yn oreu, tra Hwfa yn barnn mai Elias oedd y goreu; Yn gweled fod y ddau feirniad fel hyn yn annghytuno, apwyntiwyd Cynfaen yn ganolwr, ac efe a <trodd y fantol o blaid Mabon, sef rhyw ddyn ieuanc o sir Fon. Yn ei feirniadaeth, y mae 3Slis Wyn yn dyfynu darnau o'r ddwy awdl. Dyma fel y dywed am awdl Elias :—" Dyma awdl o deilyngdod uchel iawfc, yn arddangos athrylith naturiol gref wedi ei chyfoethogiA. gWybodreth eang ac addfedrwydd barn. Y mae cynllun yr awdl yn dda, a gweithir ef allan yn fanwl yn ei nodwedd naturiol, athronol, moesol, ac ysbrydol. Y mae yn llawn o swynion awen danllyd a theimlad aagerddol." Yna, ceir y sylw a ganlyn gan Elis Wyn yn agos i ddiwedd ei feirn- iadaeth :—" Credaf fy mod wedi nodi pob peth a ellir ystyried fel brychau yn yr awdl orphenedig a gwir brydferth hon ac er cad ydyw mor hysbyddol o'r testyn, ac mor athronol a llawn ag awdl Elias, fy marn yw mai hi yw y deilyngaf o Gadair y Gordofigion 'yn y flwyddyn 1878." Sylwer ar y frawddeg uchod, ac er nad ydyw mor hysbyddol o'r testyn, ac^ mor athronol a llawn ag awdl Elias." Wei, yn enw pob rheswm dynol ac angylaidd, beth oedd yn awdl Mabon yn gor- bwyso mewn teilyngdod eiddo Elias 1 Cyd- nqbydd y beirniad nad oedd awdl Mabon mor hysbyddol o'r testyn, ac mor llawn ag eiddo Elias," ac eto, dyma Mabon yn enill y g&mp Os oes rhywun yn gweled cysondeb yn y fath ymddygiad, methwyf fi yn lan ei gSnfod. Wel, rhaid cael golwg ar y ddwy awdl, ac yna ca y wlad fwrw barn arnynt. Bydd yn dda genym eto weled beirniadaeth llwfa, gan ei fod ef wedi gosod Elias yn ■o*eu. Y mae un peth yn hollol sicr, sef fod Hwfa yn ddigon galluog i eistedd yn y gadair feirniadol a chan nad faint o ddysg- awdwr yw Elis, buasai yn well genyf fentro a? farn Hwfa y mynud yma. Diau y ceir clywed rhagor am yr helynt hwn yn y dyfod- yr oe(idwn yn tybied nas gallai lai bod yn ddyddorol i chwi gael y manylion uchod parth y feirniadaeth. Creginfardd.—Daiawn, Ap Corwynt. Nid oedawn wedi gweled y feirniadaeth hyna, ond gwelais un arall, yr wythnos hon, ar y pryddestau ar "Orchfygiad y Twrc" gan Arwystl neu Gurnos, yr hon sydd yn galw am sylw neu ddau'. Yn ei sylw ar John Bull, ceir yr hyn a ganlyn ganddo Gall dryw bach hedeg o amgylch y berth ond Thaid cael eryr i fyned i gymdeithasu ag ysbrydoliaeth dystaw yr haul gwyn uwch y cymylau." ■" Gorchfygiad y Twrc" oedd y testyn, a dyweded Shon ben Tarw, neu rywun arall, pa, angen oedd myned i'r Ian tua'r haul gwyn i ddarlunio gorchfygiad 1 creadur mor ddu a'r Twrc I Well dona, Gurnos dyna. sylw gwreiddiolfawr Hani gyrhaeddol dihafaledig ydoedd hwna Yn wir, fechgyn, y mae rhywddrewianaeleyn nglyn a'r sedd feirniadol yn ddiweddar ag sydd yn galw am wyntylliad hyd yn Abred. Y mor afiach a Chors Fochoo-mor Ilygredlg a'r Twrc ei hunan—mor gabidwlaidd a Twm ben Ffrimpan-ac y mae eisieu rhyw ystorm ysgethrin i buro awyr ffurfafen y sedd feirn- iadol rwan. Dewch, fechgyu, gwedwch air -o'ch meddwl. Huw Ffradacn.—Be gest ti weud fod Gurnos a Haw yn y fusnes 1 Onid Arwystl 4t hun oedd y beirniad ? Creginfardd.-Y mae genyf fi ddigon o evidence dros y peth ddywedais i, os bydd galw am dano-pryd y mynot ti. Ond tybiaf fi, fochgen, benodi brawd i swydd feirniadol y dylai ei chyflawni heb ymofyn cynorthwywr. Wn i ddim be gebyst sydd ar y dynion. Rhyw feirniad tua Chwmnedd, pa ddydd, yn condemnio cyfansoddiad, am fod un linell yn cynwys sill yn ormod, pan nad ydoedd felly mewn gwirionedd. Tybiai y beirniad hwnw fod y gair and yn ddeusill. Pa beth ddywed y beirniad hwnw am y gair hyna mewn llinell fel hyn?- Ami ydynt ei ymledion. Yr wyf yn ofni fod yn rhaid i ni gadw Council of War, a threfnu mesurau cywirlym i fombardio brau bebyll y cwcylliaid beirn- iadol sydd yn fflabergostio'r wlad y dyddiau rhai'n. Huw Ffradach.—Gwell i ni ohirio mater- ion barddol hyd y gynadledd nesaf, gan fy mod yn gweled yma frodyr o'r gwahanol weithfeydd, y rhai nad ydynt yn teimlo rhyw ddyddordeb mawr yn neddfau cerdd dafod. John Ffoslas. —Rwy'n meddwl, boys, ych bochi wedi boddran digon sha beirniaid a rhw stramyddian felly. Ma isha cal bara- graff nawr, a rwy i 'n cynyg fod un ohonoch i ddod yn mlan & thicyn o hanes yr wsnoth- oes rhyw dwryn o leuni wedi tori ar ein gwlad ni ? John Sgadan.—Nac oes, machan i, ddim ifflyn o oleuni i'w wel'd yn un man ac wn i ddim beth a ddaw o'r byd, a be nawn ninau fel gwithwrs. Os dim, mae hi 'n dwyllach nag oedd hi-'stvngade yn mhob man-ond falla gweta rhywun ohonoch air sy wedi darllan mwy na fi. Agrippa.—Fel y dywedodd John, rhyw ddigalon y w y rhagdrem ar bethau yn mhob cyfeiriad. Yr unig wawrsydd weditorisyddyn America, er nad yw hono ond rhyw wanaidd iawn. Y mae, er hyny, yn dda ei gweled hi er gwaned ydyw. Ar Gyfandir Ewrop, marwaidd a digyffro iawn yw masnach. Y mae yn debyg fod arlywydd newydd, o'r enw M. Grevy, wedi ei ethol yn Ffrainc yn lie Mac Mahon, yr hwn a ymddiswyddodd, ar gyfrif annghydwelediad rhyngddo a'r Wein- yddiaeth Ffrengig. Trown i'n gwlad ni-son am ostyngiadau sydd yn mhob man. Dyna ddeg y cant yri cael ei wasgu ar weithwyr Plymouth ac Abernant, heblaw manau ereill, ac yr ydym yn deall fod y cyfryw ostyngiad wedi ei dderbyn mewn gwahanol fanau yn Lloegr. Yn ychwanegol at hyn, y mae y gauaf presenol wedi ac yn bod yn un anarfer- ol o galed a heddyw ddiweddaf (Sadwrn), dyma drwch o eira gwyn yn disgyn am y drydedd neu y bedwaredd waith i fantellu yr hen ddaearen. Y mae yn anhawdd cael neb byw i gofio gauaf caletach na hwn. Yr wyf fi yn cofio am fwy o drwch o eira, ond nid wyf yn cofio am rew yn parhau cyhyd ag eleni. Y mae caledi dirfawr a phrinder eithafol fel cydymaith i'r oerni i andwyo'r gwan a'r newynog. Rhyw ardrem niwlog welaf fi yn mhob cyfeiriad. Ceubrenfardd.—Yr wyf fi yn gweled fod chwarelwyr Gogledd Cymru wedi ffurfio math o Undeb Ymfudol, i gynorthwyo pawb o'u brodyr fyddont yn dewis ymfudo i'r Gorllewin, ac yn rhoddi o chwech i saith punt yn llogell pob un. Paham nad allem ni ffurfio rhywbeth cyffelyb yn ein mysg fel glowyr ? Gwn fod canoedd ohonom a ym- fudent boreu yfory pe caent afael ar fodd i dalu'r cludiad, a phunt neu ddwy dros ben. Wrth gwrs, goreu gyd pa fwyaf fydd gan ddyn wrth ei gefn wedi cyrhaedd y wlad draw. Credu wyf fi, pe &i dyn yn ddigon pell i dalaethau gorllewinol America, ac i Texas, y c'ai le braf i fyw, a digon o game ac anifeiliaid gwylltion i'r rhai fyddai a delight ganddyht yn y dryll. Y mae yno foch a da gwylltion, y rhai, ond eu dal, fyddent yn gynysgaeth dda yn nghegin teulu. Cacwnfardd.—Dyna beth ofnadw, ddoch chi, yw fod ein glad ni miwn doi ryfel ar hyn o bryd-un yn Affghanistan, a'r llall a Brenin y Zulu, yn Neheubarth Affrica- gwario miloedd, ie, a miliwna o buna sha ffor na, pan ma plant llafur gartra dan drad angan a thlodi. Tysa getyn rheitach gwaith iddyn nhw i roi yr arian hyny i'n helpu ni, y coliars, i fynd sha Merica neu Ariatrohelia, er gwella'n byd. Os oes hawl gan y Llyw- odraeth fynd yn nghyd a nithir deddfa am ladd pysgod a lladd adar, rwy'n shwr bod hi'n reitach gwaith iddyn nhw nithir deddfa i drio cadw dynon yn fyw. Sparbilfardd.-Eithaf gwir. Ond ychydig o sylw dyladwy a ga ffyniant a da fodolaeth y gweithwyr yn Senedd Prydain Fawr, yn enwedigol gan y Tories. Gwneir cyfrath i ysgar gwr a gwraig oddiwrth eu gilydd, ond ni wneir un gyfrath i gadw enaid a chorff y gwithwr gyda'u gilydd, trwy ddarbodi yn gysurus ar gyfer ei angenion tymorol. Cyf- reitha yn erbyn pollution of rivers, ond dim un gyfrath yn son dim am lJollution afon fawr tangnefedd, a llwyddiant masnachol 0 coeliwcb chi fi, ma'r byd ma beth ar- swydus o'i Ie, ac y mae cyfansoddiadau gwladwriaethol y ddiar yn bwdwr i'w syl- faen. Rhaid i ryw gonflagration ddod i buro awyr gorseddau'r byd, ac i losgi'r crin brenau sydd o'n cwmpas. Lewis Shrimps.—Dwy i ddim wedi wleua gair os tro, ond ma arna awydd dweyd gair bach u'm meddwl. Dyw hi o un use i chi fermanu a boddrach hyn a'r llall, a beio'r tyrnasodd, oherwydd fod masnach yn isel. Be well i chi o feio Prydan am hyn ? Rhaid i chi, hefyd, feio Germani, Awstria, Rwsia, a phob man arath, wath ma masnach wedi mynd yn llipa dros y byd mawr cyfan, ac nid yw ond bosh i neb feddwl y gall e, trwy y cynllun hwn ne'r cynllun arath, ddod a gwell llewyrch ar y byd. Mewh gair, y mae gallu un wlad ne un deyrnas, gyda golwg ar fasnach, yn depyg i ddylaawad dynon ar y tywydd. Meddylwch am y tywydd rhew ma. Beth b'ai prif ddynion y deyrnas yn galw cymanfa, ac yn consultio a'n gilydd pa fodd i gal gwared ar y rhew ? Be well fyddent, druain ? Wmffra Jones.—Dwy i ddim yn cydweld a'r hyn ddwedodd Mr. Shrimps am anallu Llywodraethau i ddylanwadu yn ddaionus ar fasnach y gwledydd. Y mae geuym ddigon o engreifftiau yn hanes y byd yn profi yn eglur fod mabwysiad mesurau o ddeddfwriaeth iachus wedi bod o fuddiant neillduol i'r deiliaid yn gyffredinol. Cofiwch am Alffred Fawr-gymaint o ddaioni a wnaeth ei gyf- reithiau ef i'r bobl, a gellid nodi lluaws o freninoedd a seneddwyr yn ngwahanol oesau y byd a effeithiasant ddaioni mawr i'r bobl. Beth am Joseph yn yr Aifft ? Oni b'ai am ei ddarbodaeth a'i gynlluniau ef, fe newynai gwlad yr Aifft a'r gwledydd cylchynol, a gwyn fyd. na ddeuai rhyw Joseph eto yn Brirne Minister ar Brydain Fawr, i ddwyn gwell byd a bwyd i'r deiliaid. Coded Rhag- luniaeth fawr rywun o gyffelyb fryd a gallu i ddwyn ein gwlad i drefn a ffyniant. Cofnodydd.—Yr ydym wedi cael Cynadl- edd ddyddorol a doniol heno. Gofalwch fod yn gynar wythnos i heno, pan (yr wyf yn gobeithio) y bydd yr eira wedi cilio oddiar y ddaear, a gwell mantais i ddyn ac anifail i ymladd am ei damaid. Bydd yma, hefyd, bynciau mawrion ar y bwrdd. Nos dawch i gyd.
EISTEDDFOD SILOH, MAESTEG.
EISTEDDFOD SILOH, MAESTEG. MR. GOL.,—Caniatewch i mi i hysbysu gair o berthynas i'r Eisteddfod uchod. Y mae y darn sydd i'w chwareu ar y flute i gael ei chwareu yn G. Y mae y copi priodol i'w gael gan Mr. W. Jones, band-master, Maes- teg. MORGAN JBRVIS, Ysg.
OOR Y PALAS GWYDR.
OOR Y PALAS GWYDR. MR. GoL.,—Gan fod surplus o arian mewn Haw gan drysorydd. y cor uchod, credwyf y byddai yn dro teilwng o'r gefnogaeth wlad- garol a gafodd y cantorion y pryd hwnw pe trosglwyddent yr arian sydd weddill i drysorfa Eisteddfod y Deheudir, a gynelir yr haf nesaf. Nid yw yr arian yn werth ym- drafferthu gyda hwynt pe eu rhenid, ond byddent yn swm gryno a gwasanaethgar iawn at y mudiad uchod sydd ar droed yn bresenol. Pwy ddywed air nesaf ar y pwnc hwn? Maesteg. ALAW DULAIS.
YMOFYNIAD AM CHARLES PENNY.
YMOFYNIAD AM CHARLES PENNY. MR. GOL.Gwelais yn y rhifyn cyn y diweddaf o'r GWLADGARWE ymofyniad yn nghylch Charles Penny, yr hwn oedd yn gymydog tawel a charedig ond sydd erbyn heddyw, fel y mae yn ofidus i adrodd, yn mhlith Iluawa meirw Pwll y Ddinas. Gadaw- odd wraig a phedwar o blant bychain i wynebu y byd garw yn amddifaid. Brodor oedd Charles Penny o Canton, swydd Hen- ffordd. Treuliodd y rhan fwyaf o'i amser yn Blaenau a Thredegar. Daeth ef a'i deulu i'r lie hwn, o Dredegar, tua thair blynedd yn ol, a buont gymedrol gysurus hyd y 13eg o'r mis hwn, pan yr aeth y dydd yn nos dywell fel y fagddu. Tad yr amddifaid a Barnwr y gweddwon a fyddo yn llanw ei addewid i'r galarwyr truain. Lie rhyfedd yw y Ddinas y dyddiau hyn. Mae yma alar mawr yn mhlith cyfeillion y trancedigion, heb son am y perthynasau, pa rai ni fynant eu cysuro. Hefyd, y mae rhai dynion, wrth daenu anwireddau disail yn nglyn a'r ddamwain hon, yn gwneyd pethau yn llawer gwaeth nag ydynt. Bydded i'r cyfeillion hyn gymeryd yr awgrym yn garedig, a bod yn fwy gwyliadwrus o hyn allan. UN O'R DDINAS.
EIN BABDDFEIBNIAID.
EIN BABDDFEIBNIAID. MR. GOL.,—Ymddengys fod y pwnc hwn yn dyfod yn bwnc y dydd yn bresenol. Gwelir fod rhai o'n prif ysgrifenwyr yn ei ddwyn gerbron y wlad, a gellir mynegu na wnaed hyny foment yn rhy gynar ychwaith. Gresyn na fuasai wedi cael mwy o sylw ein cylchgronau a'n newyddiaduron yn ystod y blynyddau diweddaf. Bernir, er hyny, na fuasai wedi cael y sylw lleiaf yn bresenol oni buasai yr ^pnghydweliadau diweddar yn nglyn a chystadleuaeth Eisteddfodol. Y mae gwa- haniaeth rhwng barn y naill feirniad a'r Hall; wedi creu cyffro anarferol ar y maes cystadl- euol. Eithr nid yw yr holl annghysonderau ond enghreifftiau o rai a wyddid am danynt, gan ambell un, yn flaenorol. Yr ydys wedi ilwyddo i gadw llawer tro chwithig a gWyr- gam rhag dyfod o flaen llygaid y cyhoedd, mae'n wir eithr ni phrofai hyny na wyddai rhywrai am danynt cyn y panic diweddar. Gwir mai nid yr un safon sydd gan bob beirniad i brofi teilyngdod cyfansoddiad, ac ni chwynir cymaint oherwydd hyny, er na ddylai llawer o wahanol safonau fodoli i feirniadu cyayrchion o'r un natur eithr os gesyd beirniad safon i fyny heddyw, ni ddylai dynu hono i lawr yfory. Dylai y maen prawf fod yn faen sefydlog. Gesyd un beirn- iad bwysigrwydd neillduol ar gynghanedd gywrain-blethedig, ar gorfaniad, ac ar odliad cywir. Ni ddyry y nesaf unrhyw sylw i'r teithi uehod. Rhoi meddwl a grym iddo fydd yr oil a ddysgwylia efe. Deil y llall yn dyn am gynllun trefnus—amddechreu, canol, a diwedd, a'r oil yn dal cysylltiad ag enaid y testyn y cenir arno. Bloeddia arall Bardd- oniaeth, I)arddoniaeth-trydan, trydan." Ni waeth pe caed y cyfryw o eigion y mor, tra y byddai ei design yn y lleuad—rhaid cael trydan. Hona rhai nas gall yr awdlwr weled ceinion y bryddest. Dywed y Hall na fedr y pryddestwr ganfod rhagoriaethau yr awdl. 11 ag Dadleua ereill nad oes y cysgod lleiaf o reswm dros osod neb i feirniadu awdl na phryddest heb ei fod wedi profi ei hun yn gampwr yn y naill neu y llall o'r Ilen-gangenau Hchod. Rhyfyga (-reill haeru nad oes Aeb yn gwbl 0 alluog i feirniadu unrhyw gangen o'n Hen- yddiaeth heb ei fod yn gyntaf wedi ei freintio & theitlau ac urdd-enwau yr ysgolhaig clas- urol. Os ydys am godi y Gadair i'w hen urddas cyntefig, rhaid cael diwygiad yn y senedd feirniadol. Os ydyw hi i fod yn eiddo cenedlaethol, gadawer i'r genedl gael cyfle i warchod ei bonedd. Paham na etholid ambell layman i bleidleisio dros ei frodyr yn y senedd feirniadol ? Paham na cha efe ei gynrychioli yr un fath a'r offeiriad a'r pre- gethwr ? Y mae ysblander llawer o'r cadeir- iau a gynaliwyd yn genedlaethol yn pylu i warth bythol yn nghanol y sawyr sectyddol sydd wedi eu canlyn olwyfanau yr Eistedd- fodau. Os na cheir diwygiad buan yn y cyf- eiriad yma, bydd yr ychydig ddyddordeb a deimla y wlad yn yr Eisteddfod wedi llwyr ddiffodd, Nid ydys yn haeru na ddarfu i'r beirniaid yn yr Eisteddfodau diweddar wneyd eu goreu i weini cyfiawnder rhwng yr ymgeiswyr. Pa fodd ynte y gwahaniaethent yn eu barn ? Dichon fod safon y naill yn dra gwahanol i safon y Hall. Y mae a fyno chwaethkHyiaxn- iad llawer o'n gwobrau hefyd. Yr hyn sydd fyw o flaen llygad un sydd farw oerllyd yn ngolwg y nesaf. Yr hyn sydd brydferth i un sydd hagr i'r Hall, &c. Y mae dwy o awdlau Birkenhead o flaen y cyhoedd, a gwyddis am fwy nag un layman yn y Deheudir a fedrant brofi drwy feirniadaeth deg fod un o'r cyfryw yn rhagori digon ar y llall, tra y methai rhai o'n prif feirniaid wneyd hyny. 0 safon, pa le'r wyt ti ? Gwyddom nad yr un cym- hwysder a foddlona bawb o'n cystadleuwyr, a gwyddom, hefyd, fod llawer o wahanol farnau am alluoedd eu gilydd yn mysg beirdd a beirniaid. Dymuna'r ysgrifenydd hysbysu, pe teimlai efe yr ysfa gystadleuol yn gafaelyd ynddo, i bwy yr hoffai ymddiried ffrwyth ei fyfyrdodau. I bwy, ynte ? I'r hwn sydd wedi profi ei hun yn feistr ar y mesurau y byddid yn cyfansoddi arnynt. I'r hwn a fedd ddigon q wroldeb moesol i edrych dros wen cyfaill—dros wg gelyn, a gwrando ar leferydd ei gydwybod, a chyhoeddi ei dded- fryd yn ol ei rhaith anrhydeddus hi, hwnw yw y barddfeirniad a gymeradwyir gan PHILOMATH.
GAIR AT Y CYMBO GWYLLT.
GAIR AT Y CYMBO GWYLLT. MR. GOL.A fyddwch gystal a rhoddi ychydig o ofod i mi o'ch newyddiadur gwerthfawr i gyfarch y Cymro yn yr adeg wasgedig hon sydd arnom fel gweithwyr. Llawer o ysgrifenu oedd gan yr arweinwyr pan oeddem ar uchel fanau llwyddiant—ein bod wedi cyrhaedd pinacl rhy uchel, fel na fuasai tlodi byth yn ein cyrhaedd mwy. Ond yr ydym wedi gorfod teimlo yn amgen- ach lawer erbyn hyn, nad oes yr un bryn yn rhy uchel i aflwyddiant ein cyrhaedd ond yr hyn sydd yn resynus yw, nad ydym wedi cael ein dysgu yn y ffordd y dylasem gael ein dysgu-i ddarparu ar gyfer aflwyddiant. Yr ydym wedi bwyta y dorth oedd genym, fel y wraig annhrefnus, heb feddwl am grasu un arall yn ei lie. Bu yr output yn gri mawr er rheoleiddio masnach, a bu yn lied lwydd- ianus i osod llawer meistr dan yr angen- rheidrwydd o dori ei gontracts. Dim ond hyny? 0, nage; yr ydym yn gorfod cyf- addef fod y saeth a anelasom megys oddiar fwa twyllodrus wedi troi yn ol atom ein hunain, ac yn parhau i lynu ynom a'n teimlad a'n gwaedd yn y presenol ydyw, 0 na ddeuai rhywun galluog o rywle i'n cyfar- wyddo, a phrescribo er ein gwellhad o'n cyflwr presenol. Ofer ydyw i chwi gymhell hwn a'r llall at y gorchwyl. Fy nhaer ddy- muniad i, yn nghyd a llawer ereill, ydyw am i chwi ddyfod i'r maes eich hun, a rhag ofn y bydd i chwi ddweyd fod eich hamser yn brin, dywedaf-Gadewch y lleol a'r personol, a deuwch dros y genedl; y mae eich cysyllt- iad y fath y gallwn dderbyn lies mawr trwoch. Er y bydd ambell un yn barod i ddweyd mai lies personol sydd mewn golwg genych, gadewch iddynt ddifyru eu hunain felly ond daliwch chwi yn mlaen, canys o hyn y daw i laweroedd ddaioni. Y mae yn eithaf amlwg mai ymfudiaeth yw yr unig agorfa sydd o'n blaen ond pa fodd y mae y dibrofiad a'r diallu i weithredu pan nad yw y pethau angenrheidiol yn ein meddiant. Da iawn genyf weled ysgrifau Luc y Labrwr at ei Huchelder Breninol Tywysog Cymru yn y South Wales Daily Nevjs, a'r darnodiad a. gawsom o araeth Arglwydd Derby yn y GWLADGARWR. Gan fod cynifer o leoedd yn cael eu cynyg gan wahanol ddynion i ymfudo iddynt, an- hawdd penderfynu pa le yw y goreu i ym- fudo iddo. Y mae i'r gwahanol leoedd hyn eu gwahanol adnoddau ac hinsoddau. Byddai gair oddiwrthych i'r perwyl hyn yn gaffaeliad gwerthfawr i ni fel Cymry. Llefara, y mae dy weision yn gwrando. Maesteg. CASWALLON.
AT B. A NICANOB.
AT B. A NICANOB. MR. GOL.Pa fwyaf y mae B. yn myncd rhagddo gyda phwnc ei feirniadaeth, mwyaf i gyd mae ei anallu cyneddfol yn dyfod i'rgolwg. Ni welais ddyn erioed o'r blaen wedi myned i gymaint o ddilemma, na neb yn gwneyd cybolfa mor druenus o'i dipyn beirniadaeth. Y ffol tra tawo a gyfrifir yn ddoeth." Gofyna n. i ba bwrpasyr anfonwydyr englyn dadleue i'r gystadleuaeth. Wel, er mwyn hyn yn uuig, sef profi eich gallu a'ch gonest- rwydd chwi fel rhyw fath o farddfeirniad. Dywed B. fod yr englyn ar Gariad y¡edi bod lawer gwaith o'r blaen mewn cysiadleu- aeth, ac wedi colli. Na fu, fy nghyfaill, mewn dim ond un cystadleuaeth erioed cyn eich un chwi, ac enillodd y pryd hwnw at nifer luosog iawn o gystadleuwyr, ac y mae yn oreu o ddigon ar ddim ag oedd genych chwithau yn eich cystadleuaeth yn y Crown Hotel. Y ffaith yw, fod yn anhawdd cael englyn mor gynwysfawr o unrhyw gystadleu- aeth. Y mae yr englyn yn edrych ar y testyn o bedwar sane pwysig, neu yn cynwys pedwar meddylddrych eang a goruchel-Duw-dyn -daear-nefoedd. Fel ag y mae coron yn arwyddlun o urddas ac uwchafiaeth llywodr- aethol mewn brenin, felly, yn ffigyrol, y gellir galw cariad yn goron," am mai efe yw y briodoledd lywodraethol yn y natur Ddwyfol, canys, mewn gwirionedd, nid yw holl briodoleddau y Duwdod ond un canad yn ymddadblygu mewn gwahanol agweddau. Os nad cariad yw coron, neu briodoledd 1 v w- yddol y Duwdod, au ctjJ-U'ftuier Dwyfol yn lladd Adda ar y spot, ac ar y foment yr KTmfuddbaodd i'r jjorsh'-ai^n i Onid cariad hunan-gynhyrtiol Duw hefyd oedd achos yr "etholedjgaeth" hono, am yr hon y dywed yr apostol, pe hebddi, Ni buasai gadwedig un cnawd 7" Ac onid cariad- Crist at fyd oolledig a barodd iddu wisgo cnawd (" Yr Hwu hefyd ac Efe yn jjyfuethog, a ddaeth er mwyn ni yn dlawa, tel y cvtoetbt- ogid ni drwy ei dlodi Ef ") ? "Y mae Duw yn canmol ei gariad tuag atom ni," &c. in hyn y mae cariad," &c. Beth yw cariad yn y nef ? "Dedwydd gan nefolion." Am beth? Am brynu a gwaredu- cyfiawnhau, santeiddio "Vras a gogoniant." 4. Am nad yw Cynfaen wedi enill digon o gyhoeddusrwydd na phrofiad i'w gyfreithloni i eistedd yn y sedd feirniadol. Dyma yr umg credentials o gymhwysder a allwn ni eu der- byn.' Nid yw chwaeth, pleidiaeth, a hunan- les pwyllgorau, yn griUriom i fyned wrthynt o gwbl. o. Am fod Eiis >Yyn wedi bod yn euog o annghydvxlediadau dybryd mewn cysylltiad a'i gyd-feirniaid yn ystod y flwyddyn ddi- weddaf, yr hyn ni wyddern ni nes y pwynt- iwyd hyny allan i ni yn ddiweddar. 6. Am y dylasai y Gordofigion gymeryd pwyll wrth ddethol oauohvr. a goinri-. y eadeirio hyd oni chawsid canoiwr VgalYasai y wlad ymddiried yn ei far, a'r ymgeiswyr ymostwng iddi gyda thawelwch meddwl Y mae genym yn awr air o ofvniad i Nicanor. A ellwch chwi, syr, ein hysbyeu ni beth oedd testyn y siarad rhwng Cynfaen a'r Parch, Mr Nicholson, o L'erpwl, yn Ngorsaf Afmvxn, a hyny bedair awl" cyn i Cynfaen anfon ei (telegram tuag Eisteddfod y Gordofigion yn hysbysu mai Mabon oedd fuddugol ? Ai ni wyddai y beirniaid mai Bcrw lr[êm oedd yr ymgeisydd Mabon ?" Ai gwir mai Egkmjswr yw Tudno, ac ai gwir mai Egliajtm- yw Berw, ac fod rhywrai yn ei anog, ac yn barod i wneyd curo4 o hono ? Ar ol ateb y gofyniadau blaenorol, y mae rhagor wrth law y dymnnem gael tipyn o oleuni arnynt. Y mae Mr. B. yn camsynied yn fawr o barth personoliaeth Veritas, os wyf wedi dyfalu a chlywed i gywirdeb pwy ydyw Y mae Nicanor hefyd wedi camsynied lawa gymaint am ei alluoedd—am ei atkryUih a'i ysgolheigdod, ac os deil y ddadi yn mlaen tebyg yr argyhoeddir y naill a'r llall ohonynt' Dyma ni or diwedd wedi cael gafael ar feirmadaeh hir-ddysgwyliedig Elis Wyn, a UerM>r deallua far™ Pa nn ai awdl Elias neu Mabon," yn ol ystyr ac ansawdd y feirniadaeth, yw yr oreu. Y mae yn anhawdd meddwl beth alldd ogwyddo -Mabon> wedi iddo yn ei feirniad- aeth ddangos mor eglur, drwy v ffjuimnWn, uchelaf i awdl "lia* lasai fodyB oreu. Cysn&arer ei brif sylw-