Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

ABERTAWE—YR UNDEB CYNULTEID-.…

News
Cite
Share

ABERTAWE—YR UNDEB CYNULTEID- FAOL. Heddyw (dydd Llun) yw dydd cyntaf i'r Undeb Cynulleidfaol Lloegr a Chymru i dde- chreu yn ein tref, er fod lluaws o weinidogion dyeithr yn y gwahanol gapeli ddoe a nos Sadwrn yn pregethu. Dywedir y bydd yma tua chwech neu saith cant yn ystod yr wythnos gan hyny, nid ffol o beth yw cael cyfarfod yr Undeb yma i'r dref, am y bydd yn rhaid i rywrai gyfranu yn helaeth ar eu cyfer; oblegyd otale y ceir bwyd i ddigoni tyrfa mor fawr, heblaw pethau ereill, yn nghyd a'u treuliau yma ac yn ol, a hyny i'r dyben o drefnu peth ddylai yr eglwysi wneud, a pha beth ddylent gredu, er nad ydyw pleid- wyr yr Undeb yn unol ar pa fodd y gweithred- ant yn y pethau hyn yn mhlith eu hunain. Yn y Cronicl, Awst, 1870, tudal. 222, cawn yr hyn a ganlyn ar y pwnc uchod :—" Cwynai Cynad- ledd Merthyr am na buasai arweinwyr cynull- eidfaoliaeth yn deall eu gilydd yn well. Dywedir en bod hwy yn ymranu gyda eu cynlluniau, ac mewn canlyniad yn rhanu yr eglwysi a'r cynull- eidfaoedd. Ai tybed y buasai Undeb Cynulleid- faol i Gymru yn atal hyn? Ond prawf gwael gafwyd o hyny yn y gynadledd ei hunan. Ni chytunwyd ar y dechreu nac ar y diwedd. Os ceir Undeb, yn mha gymeriad y byddai y cen- adon yn dyfod iddo? Taerai y Parchn. Edwards, Aberdar, a Thomas, L'erpwl, nad oeddent yn cynrychioli neb ond eu hunain. Ond os oeddem yn deall y Parchn. Ambrose, Porthmadog, a Matthews, Castellnedd, mynent hwy eu bod yn cynrychioli yr eglwysi a'u cynulleidfaoedd, ac y dysgwylir iddynt hwy ddwyn eu treuliau. Tori- aeth o'r fath gulaf yw dadleu am i bob mater gael ei benderfynu gan yr Undeb cyn ei ddwyn i'w ddadleu ger bron y cyhoedd; ond trwy dru- garedd y mae y peth yn anmhosibl." "Pa fodd y mae i Annibynwyr gydweith- redu'i" gofynai y Cronicl, ac atebai mai "trwy drin eu materion yn swyddfaau y wasg," a dywed, "Gellir gyru cenad o bob rhan o Gymru i'r un a ddewisir o swyddfaau y wasg am gein- iog. Ni bydd dim colled am dano gartref, ac ni bydd raid i neb dalu ffyrling am fwyd na gwely iddo, a bydd yn sicr o draetliu ei genadwri yn fwy ystyriol, pwyllus, ac eglur, nag y gwnai y cenadon a anfonid i gyfarfodydd yr Undeb." Y mac y Christian World am yr wythnos ddi- wcddaf wedi talu cryn lawer o sylw i'r Undeb, yn neillduol mewn cysylltiad a'r papyr y mae y Parch. Baldwin Brown i'w ddarllen ar y pwnc o'r Doctrinal Articles a'r Test Deeds. Y mae yn symi am hyn, gan fod y dyn parchus a galluog uchod bob amser yn erbyn pob math o gaeth- iwed, ac yn erbyn yr Union. Gofynai hefyd, "Pwy sydd i fod yn awdwyr neu farnwyr ath- rawiaeth cynulleidfaoliaeth?" Dywed hefyd y byddai yn llawer mwy cydweddol rhwymo yr oes ddyfodol i siarad as ymwisgo nac i feddwl, fel yn bresenol. Dywed y Cronicl, fel y cyfeir- iasom ato, "Dadleuid yn Merthyr y buasai gan Undeb Cynulleidfaol Cymreig ddylanwad mawr i ffurfio cynllun addysg y Llywodraeth, &c. Y mae bod undebau yn cymeryd arnynt i ddewis dros Gymru, i wylio symudiadau y Llywodr- aeth gyda'r Ysgrif Addysg, bersonau nad oes genym feddyliau uchel am eu barn na'u rhydd- frydiaeth, yn wir, y mae hyn yn peri i'r ddaear deimlo, yn debyg fel y gwnai y nef wrth sylwi ar yr eglwys nad oedd nac oer na brwd." Dyna farn y Cronicl, ac yn agos yr un fath y traethai y Christian World ei farn, a dywedwn mai dyna farn lluaws mawr heblaw ein hunain yn Abertawe am yr Undeb, yr hwn a gostia o chwech i saith cant o bunau. Dywedir wrth bob un a dderbynir yn aelod nad oes yr un gyffes ffydd ond y Testament-mai gair Duw sydd i fod yn rheol ffydd ac ymarweddiad. Derbyniasom aelodaeth yn eu plith am ein bod yn hoffi yna ond yn ami cawn mai traddodiad- au a "rheolau.ag y mae yr eglwys hon wedi penderfynu arnynt" sydd i fod yn ben yn lie gair Duw ac os na chredwn ynddynt, dywedir wrthym nad oes genym grefydd. Y mae ein blaenoriaid yn ami yn cwyno am na dderbynir yn yr eglwys yr hyn a benderfynir ganddynt yn eu cyfarfodydd chwarterol, &c. Os llwyddir i gael Undeb Cymreig, gwae ni os beiddiwn godi ein llais yn erbyn unrhyw beth a benderfynir ganddynt. Credwn fod mwy o angen sobrwydd a phurdeb cymeriad, a theim- iad dros ogoniant y Brenin mawr yn ein plith nag sydd o undeb cynulleidfaol. Y mae un o'n capeli wedi myned yn agos gwag, ac yn suddo dan faich o ddyled o eisieu hyn, a gwelwn wein- idog o dref arall yn dyfod yma i godi yr achos, ebe nhw, tra y mae yr achos yn gwywo ganddo gartref. Y mae mwy o Eglwyswyr yno nag sydd o aelodau gan yr holl enwadau ereill gyda eu gilydd, ebe offeiriad yn ein clyw ni y dydd arall. Priodol y dywedodd y bardd:— Ymhwrol y mae pawb am arian, Heb yr aur bydd pawb ar ol." Pe gwnelid sylw o achosion fel hyn yn y cyf- arfodydd undebol, gellir dysgwyl rhyw ddaioni i ganlyn am yr arian a werir; neu os na wneir, llawer gwell fuasai cadw y canoedd punau, a sefydlu haner dwsin o genadon cartrefol yn ein plith. Bu Ysgol Sabbothol yr Alltwen yn Ebenezer y Sabboth cyntaf cyfisol yn canu ac adrodd, a'r hen batriarch P. Griffiths yn llywyddu. Caw- sant y cyfarfod boreuol a'r prydnawnol at eu gwasanaeth eu hunain. Adroddasant yn dda, ac yr oedd y canu yn orswynol. Pregethodd Mr. Griffiths yn yr hwyr. Dywedodd yn y prydnawn iddo fod yn holi ysgol yno 56 mly- nedd yn ol. Rhyfedd mor.gadarn y mae yn dal. Er ein bod yn hoffi pynciau, a phob peth da eysylltiedig a'r Ysgol Sul, eto nid ydym yn hoffi gweled excursion, trips yn myned oddicartref ar y Sabboth, gan fod y rhai hyny sydd yn cyflawni en. dyledswyddau ar y reilffyrdd yn cwyno eu bod yn gaeth ar y Sabbothau heb i hyny gy- meryd lie. DISGYBL.

[No title]

.CAERGYNYDD A WÍL-ÕÎJi NANT.

Y NADOLIG YN AGOSHAU.

[No title]

EISTEDDFODAETH.

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]