Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

RHAMANT GYMREIG,

News
Cite
Share

RHAMANT GYMREIG, NEU HELYNTION Y TEULU GORTHRYMEDIG. PENOD VI. Wele y brysgenadydd swyddogol wedi cyr- haedd at y gwmniaeth, a'r hen Wilson yn el gyfarch fel cadwelnydd y Mllwriad Robin- son crechwenat Wilson yn orfoleddus with anerch y cenadydd gyda'r gelrlau, Do, syr, cawsom ddyn o'r fawn ryw i sefyll yn lie Johnny anwyl, a dacw ef, Llewelyn Jones o'r Hafod, gwnalff filwr da." Y cadwelnydd yn ateb, Buaswn yn cymeryd Wilson leuane yn garcharor cyn y nos, onl buasal ei fod wedi llwyddo i gael arall yn ei le nid oes neb i'w hebgor ag y syith ei goeibren, heb iddo gael dyn i wasanaethu droeto. Anfonodd y mll- wriad fi o garedlgrwydd at deulu y Plascoch, rhag lddynt ddyfo4 i drafferth drwy esgeulus- dod. Y mae anufyddion ir rhestriad milwrol coelbrenol hwn, oes lawer o honynt, yn eu daeargelloedd cystuddlol; y mae rhyw banlc gwyllt wedi ymaflyd yn mechgyn y wlad fel nad yw ei Fawrhydi George III. wedi cael haner y nifer gofynol o filwyr; rhald cael llanw pe llenwid hwynt a merched a gwragedd fel yr Amazonesiu gwrol, neu bydd Bona greulawn wedi llwyr oresgyn Prydain ac holl Ewrop." Wilson yn tynu allan y papyr hwnw a lawnodwyd gan Llewelyn, ac yn ei gyflwyno i'r cadwelnydd, yr hwn a sylwai yn mheliach, Gwna Llewelyn Jones fflwr rhagorol, gwell na Johnny Wilson eiddil a phlentynaidd yr olwg; y mae ei edrychiad mawreddog a gwrolfrydig, ei dremiad eryraidd, a'i chwim ysgoglad yn ddigon i greu balchder o hono yn mynes unrhyw swyddog ag y byddo ef yn filwr odditano." Wilson yn gorchymyn yn awdurdodol i Hopcyn Jones, Yn awr, Hopcyn, rhald ymadael, gan ein bod wedi cyrhaedd hyd y llecyn penodedig ni thal i ti ystyfyngu ac ocheneidio rhagor, neu bydd diwedd yr helynt yn chwerw i deulu yr Hafod." Llewelyn yn sisial, a'r dwfr yn llanw yn el lygaid, Nis gall fod yn llawer chwerwach, syr, y mae chwerwodd wermodaidd gofidus wedi ei dywallt hyd yr ymylon i gwpanau teulu an- ffodus yr Hafod!" Y cadweinydd brysgenadol yn gorchymyn yn unol ag awgrymiadau Wilson, "Rhald cychwyn bellach, mae'r amser panodedig i fod yn y dref bron ar ben dych- weled y tad at ei deulu yn llawen, a dlolched yn orfoleddus am ei fod wedi cael yr anrhyd- edd o fagu bachgen 1 fyned i wasanaeth ein Grasusaf Frenin." Llewelyn ac Hopcyn yn ymgofleldio gydag anwyldeb hiraethua cariad angherddol, a'r tad yn sylwi, "Nis gallaf fyw wedi colli mab mor dyner a ffyddlawn a thydi. Nid yw yr Arglwydd yn cysgu, bydd yn sicr o ddial dy golledigaeth ormesol! Llywelyn, 0 Llewelyn fy mab ffarwel fy mab Fy nhad, 0 fy nhad, er eich mwyn chwi a fy mam, fy anwyl fam (pa Ie y mae fy mam?) a fy mrodyr yr wyf fi yn myned heddyw, er cadw ymaith y dialydd bydd eich Llewelyn yn cofio am danoch ac yn eich caru fel cynt! Gofiwch fi at fy Marl ffyddlawn, a dywedweh wrthi meddal Llewelyn, a chyn Iddo orphen ei ymadrodd, dyna Wilson yn ysbar- dynu el geffyl, a'r cadweinydd yn cracio ei chwip yn arwydd i gychwyn ar amrantiad. Dyna Llewelyn ar gefn el geffyl eilwaith, ac yn gwasgu llaw el garladus dad yn y fath fodd gwresog ac hlraethus, nas medr neb wneud el Syffelyb ond y mab ufydd a chalon ffyddlawn. Lethal Hopcyn ail esgyn ar gefn Bocser, hen geffyl ffyddlawn y teulu, gan lewygon llesg- aldd calon ofidus gydag ymdrech adnewyddol a chymhorth mabaldd llaw garedig ei Lew- elyn wele ef ar gefn hen geffyl cywlr-droed yr Hafod, ac yn cefau. ar y cwmnlaeth yn unig i ddychwelyd gaitref yn ol y gorchymyn swydd- ogol a chaeth-felstradol a dderbyniodd. Wilson a'r cadweinydd yn gwaeddi eilwalth am i Llewelyn fryslo, gan arafu i ddyagwyl ei ddyfodlad; a Llewelyn a'i dad yn ymadael mewn pang o anobaith pruddglwyfaidd. Pa beth i wneud wedi colli fy mab fel hyn —fy anwyl Lewelyn," meddal Hopcyn, fel yr oedd y marchogwr mabol yn cefnu ar ei dad i ddilyn el gymdeithlon diamynedd, pa rai oeddent yn bfoeddlo drachefn am iddo fryeio l'w daith. Llewelyn ffyddlawn wedi lddo fyned encyd yn trol i edrych am ei alarus dad, ac yn gwaeddi,— "Ffarwel fy nhad! O! fy nhad ffarwel! DtJrwd! Mab yr Hafod yn clustfelnio a glywai air ffarwelol arall o enau ei dad gofidus, a'r awel deneu orllewinol yn dwyn i'w glustlau y geiriau olaf,- "Nis gallaf fyw wedi colli Llewelyn fy mab!" Gyda'r gelrlau olaf hyn, all dremiodd Llewelyn tua chymydogaeth hir-gofus yr ymadawiad, a gwelai ei dad yn syrthio mewn llewyg oddlar ei geffyl, a'r hen Focser syn- wyrol gall yll. aros ar y foment, ac yn syllu yn wyneb gwelw el dad syrthiedig. Yna cynyg- iodd Llewelyn ddychwelyd ar ffrwst at el dad anffodua i'w gynorthwyo pryd y tynodd y cadweinydd ei gleddyf miniog allan gan fygwth ei drywanu trwy ei galon os yr ail gynygial drol i ddychwelyd; yntau yn parhau i aflonyddu gan wvlio cyfieusdza i ddlanc er cynorthwyo ei dad, ond yr hen gadweinydd gwaedlyd yn chwifio el gleddyf yn fygythiol, gan regu ar ei enaid y byddal Llewelyn yn gorff marw, os y syflai gam tuag yn ol. Mab yr Hafod yn tremio drachefn a thra- chefn tua throed y mynydd, a gwelai ei dad yn paihau yn ddiymadferth, a'r hen Focser yn sefyll yn wyltwr ffyddlawn yn ei ymyl, a llefai Llewelyn allan,— "Y mae mwy o ddynoliaeth yn yr hen Foeser ftyddlawn nag yn yr un gwr golndog a gamenwir yn fonedaigion. Pa fodd yr ad- dalaf iddo am ei garedlgrwydd a'i gywitdeb I'm hanwyl dad yn ei galedfyd presenoll" Y cymdeithion yn brysio rhag blaen ac yn dyfod i glwyd y mynydd, a Wilsoa yn sylwi wrth y cadweinydd yn gyfrioachol,- "Cawn lonydd ganddo bellach, gan eln bod yn myned allan o olwg y llanerch ymadawol; Ah; nis gall Llewelyn weled ei dad eto, yr ydym yn colli golwg ar y lie." Llewelyn gyda chalon ddolurus a llygaid gwlybion yn tremio ar el dad a'r hen Focser am y tro olaf, ac wrth eu colli yn y pellder yn sylwl yn hiraethus,- "O! y fath olwg galon-rwygol a gefaisar fy ffyddlawn dad; a raid 1 ml edrych ar fy nhad yn marw ac ni chaf ei gynorthwyo yn el orlau olaf? Nis gallasal diafllaid y pwil brwmstanaldd wneud mwy yn fy erbyn na'm rhwystro 1 gynorthwyo fy nhad!" Yr hen Wilson yn chwerthin gyda'r arddull mwyaf crechwenus a Judasaldd, nas medr neb el efelychu ond yr arch-gythraul ei hun, gan rhwystro 1 gynorthwyo fy nhad!" watwar Llewelyn yn el hlraeth dolefus. Y cadwelnvdd vn svlwi.— "Llewelyn bach, eel waith amgen y plentyn- eiddiwch hyn yn fuan lawn, pryd y caiff dy lygald dremio ar faes y galanas, i weled mil- oedd o feirwon a chlwyfedigion, heb amser genyt i roddi mwy o ystyriaeth na chydym- deimlad i ocheneidiau a gruddfanau nac i grawciad brain." Llewelyn yn ysgwyd el ben ac ocheneidio yn bruddaidd, gan sibrwd iddo ei hun elriau olaf ei dad, a Johnny druan mor ddiofal ac anystyr- iol a'r llwdn iwrch pan yn ymbrancio ar foreu tesog yn mysg ei gymdeithion ar y pare ysblenydd. Yna meddianwyd Llewelyn a mudanrwydd pruddglwyfus, ac ni cheid gan- ddo air braidd hyd derfyn y dalth, tra yr ydoedd ei dri chydymaith yn fwy siaradus, cellweirus, a chalon-ysgafn nag y gwelwyd hwynt erioed. Cyrhaeddasant y dref ychydig o fynydau cyn yr amser penodedig, ac ym- ddangosasant o flaen yr awdurdodan milwrol, pryd y paslwyd Llewelyn gyda chymeradwy- aeth mawr i fod yn filwr yn lie Johnny Wilson yr etifedd leuanc llwfrllyd. Rhaid i ni yn awr adael Llewelyn yn yr orsaf filwrol o flaen yr awdurdodau, gan ddychwelyd gyda Wilson a Johnny i gofnodi yn mhellach helyntion y Plascoch a'r Hafod. Bu Wilson a'i fab yn gwledda ac yfed hyd at ormodedd, heb gymaiat a gwahodd Llewelyn i fod yn gyfranog o'r mwyniant arlwyedig. Yna dychwelasant yn y prydnawn dros. yr un ffordd ag y cychwynasant, a rhyfedd mor siaradus a chloch-uchel yr oeddent dros lawer o'r dalth ar eu dychweUad. "Cofiaf byth am wylofain chwerw Llewelyn wrth ffarwelio a ni i ymadael!" meddai Johnny. "0, mae ef wedi gwella yn weddol erbyn hyn, canys tros enyd y pery wylofaln," sylwai Wilson yn ateb iddo. "Y mae rhyw fraw ofnadwy fel yn gafaelyd ynof, fel yr ymdaena cysgodau yr hwyr dros y gwastaddiroedd odditanom, a'r banawg fynydd sydd o'n blaen. Ai nid ydych yn gweled golwg mwy dieithr ar y cymylau heno nag arfer; yn wir, yr oedd yr haul a golwg brudd a chuchiog arno wrth fachlud ychydig fynydau yn ol." "A ydyw y, pruddglwyf wedi ymaflyd ynot Johnny ? Yr oedd yn gryf ar Llewelyn a'i dad, a thebyg el fod wedi ymaflyd ynot tithau wedi i ti adael y dref y prydnawn," sylwai Wilson, gan chwerthin yn wawdus am ben ofnau ei fab. Y mae arnaf drueni dros Llewelyn druan yn ei le newydd, nid oedd yn adnabod neb o'r swyddoglon na'r milwyr, nac ychwalth, yn ymddangos wrth el fodd yn eu mysg; ond pa fodd y gallai delmlo yn ddedwydd wedi cefnu mor ddiseremoni ar el gartref?" "Gobeithiwyf nad yw Hopcyn wedi trengu ar y ffordd, deuwn o hyd i'r fan yr ymadaw- som yn mhen haner awr; ond rhaid ei fod yn ffuglo galar, nis gallasal fod ei hlraeth mor angerddol ag y mynasai 1 ni gredu el fod." "Fy nhad, credwyf ein bod ar fat wrth orfodi Llewelyn i fyned yn fy lie I; y mae rhyw anesmwythder enbyd arnaf, wedi i ml el weled yn wylo yn hidl pan yn ffarwelio a ni er's meityn. Chwarddwch chwi a fynoch, y mae agwead bygddu, guchiog, a brawychus ar bobpeth o'n hamgylch; y mae y gwynt yn chwlbanu heno yn fwy brochus nag arfer, ac fel y dywedasoch am y pruddglwyf, y mae y gwynt hefyd yn udo yn ddolefus fel pe yn nghanol y pruddglwyf." "A ydyw y llymald gwlrod a gawsom yn dechreu codi yn dy ben, Johnny? gallwn feddwl ei fod wrth dy glywed mor syfrdanus dy ymadroddion." "Nid felly fy nhad, nid yfais yr haner a alwasoch I mewn ar fy nghyfer, Mr. Odgen, y cadwelnydd oedd yn arfer a gorpben y gweddill. Ai nid ydych yn sylwi ar Brown yma, mor ofnus y mae yn el gerddediad 1 y mae fel yn arswydo gyda phob cam a roddo. Ai nid ydych yn credu fod rhywbeth yn ymddangos ar brydiau, ac yn medru aflonyddu ar ddyn ac anlfall?" "Y ffolog hurt, yr wyt yn syfrdanu yn rhwydd; gwell 1 tl fyned at Shan o'r Banwen i glywed ei chwedlau gwrachaidd, fel y bydd- ost. yn berffaith hyddysg yn yr athrawiaeth ddrychlolaethol." Gadewch i ni fryslo yn gynt, fy nhad, y mae arnaf ofn bod allan yn hwyr; y mae rhywun yn sicr o fod yn canlyn ar ein holau; ai nl chlywch cerddediad chwyrn rhyw geffyl yny pellder acw? Yr wyf yn haner greau er's tlpyn bod rhywun yn ein canlyn." er's tlpyn bod rhywun yn ein canlyn." -v V.' t "Taw a'th lol Johnny, yr wyt heno yn hynod o blentynaidd yn dy slarad; nid oes dim ond y gwynt yn oer-nadu o fiaen yr ystorm." "Oes, oes; lie drwg yw goireu y mynyaa hwn am ysbelliadau, gyrweh yn gynt fy nhad, neu bydd y sawl sydd ar ein hoi yn sicr o'n dal; dyna'r ceffyl yn codl trot, ac yn enill tlx arnom yn wir!" "Un o ebolion leuainc y Mynydd Du yma sydd ar grwydr, ac yn canlyn ein ceffylau, fel y mae yn arfer gan y rhai mwyaf dof o honynt. Yr ydym bron cyrhaedd i'r man yr ymadawsom a Hopcyn boreu heddyw." "0! fy nhad edrychwch yn ol, y mae rhyw hwdwch gwyn yn marchogaeth y ceffyl sydd ar ein hoi! Y mae yn enill tir yn rhwydd arnom, bydd wedi ein dal yn fuan; gyrweh yn gynt fy nhad, y mae ein herlynydd yn codi carlam." Wilson a'i fab yn gyru ar eu goreu ond yr erlyuydd dialgar yn enill tir yn rhwydd, a Wilson yn gwaeddl,- "Oes, fachgen y mae rhyw ddiafol yn ein herlid; rhyw ysbeilydd yw ac yn benderfynol o'r oruchafiaeth arnom." "Och! fy nhad, a glywsoch chwi yr oernad ellyllaldd yna, nid llals dyn ydoedd? Dyna ef eto, llals hen wrach dialgar vdyw!" Y ceffylau yn bermanu o chwys, a'r ewyn yn dyllfo i waered o'u genau yn dorchau g wye Ion, gan fel y carlament yn lluddiedig ac ofnus, ond yr oedd eiddo yr erlynydd yn ysgafndroed a gwisgl bron ar eu sodlau. Dyna oernad ddolefus drachefn, a Johnny yn gwaeddf,- "Merch Beblal el hun sydd wedi ein gorddiwes. O! fy nhad, nis gallaf yru gam yn mhellach. Ah! nhad dyma hi wrth ein sodlau; byddwn yn gyrff melrwon eln dau! "Saf dy dir Johnny, paid ag ildio dim," llefai Wilson yn ddychrynedig, tra yr atebld ef gan yr erlynydd a bloedd dialgar fraw- yehus,- Dial! dial? mynaf ddial! "Ysbryd ymadawedig Hopcyn o'r Hafod sydd yn ein herlid," gwaeddai Johnny, "O! dacw ef yn ddrychiolaeth gwyn dialgar! Ow'r nefoedd fawr! dyna el law ar fy ngeffyl," ychwanegai Johnny, gan syrthio fel pren oddlar gefn ei farch; ond yn mlaen y gyrai yr hen Wilson yn rhy ofnus i aros, ac yn cael ei ddilyn gan y dialydd, gan ddolefain,- "Dial! mynaf ddial cam y diniwaid Yr oedd yr elynydd eto yn enill tir yn rhwydd ar yr hen Wilson, a phob dolef o'i elddo yn helpu 1 enill yr oruchafiaeth, yna gwaeddai Wilson yn anobeithiol,- "O'r ellylles wen uffemol, gad lonydd I mi," ac ar y gair a chyda dolef annaearol arall,— "Dellaist tt, y dihyryn anferth; mynaf ddial arnat, y Judas bradychus," wele geffyl belddgar a chyflym-droed y dialydd yn gyf- ochrog ag eiddo Wilson, a'r marchogydd hwdwchaidd gwyn yn cydio yn ei awenau a chyda nald ddialeddol yn cydio yn ei wddf a thaflu yr hen Wilson i ganol y ffordd fel celain ddiymadferth.

[No title]

BEIRNIADAETH EISTEDDFOD ALBAN…

[No title]

LLAWRDYRNU SAMSON.