Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

Y PULPUD: Y LLWYFAN: Y WASG.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Y PULPUD: Y LLWYFAN: Y WASG. PKEGETH AR GYNYDD GAN Y DIWEDD- AB BARCH. EVAN ROWLANDS, PONTYPWL. Yn cynyddu gan gynydd Duw," COL. II. 19. MÅB cynydd yn naturiol i greadur wrth ymborthi aI drugareddau Duw. Garw dy fod yn ei.anghof- io drwy ymdroi yn dy bechodau, fel mochyn wedi Ilenwi ei fSl yn ymdreiglo yn y dom. Fe ddylit ti fod fel yr iar. Pob dyferyn o ddwfr mae hi yn -yfed, cwyd ei golwg tuag y nen. Mae cynydd moesol pan mae y dyn ystyriol yn aanfod y morgrug a'r gwenyn mor ddiwyd yn yr haf. Mae yn barod i ddywedyd, Mae yn gywilydd i ddyn fod yn segur. A pban edrycho ar gefn y dyn diog oil yn garpiog, a maes yr oferddyn heb na ohlawdd, na chae, na chlwyd, dyna wers iddo tod yn well ei foesau na hwnw. A phan edrycha ar y meddwyn a'i lygaid cochion, a'i wyneb yn gripiau, a'i harddwch wedi colli, mae yn meddwl as yn penderfynu mai gwell iddo gadw oddiwrth y fath deulu. Hefyd, y mae cynydd grasol, drwy yr hwn y mae yr enaid neu y dyn yn gweled daioni Duw tuag ato, a'i rwymau iddo; ei gariad ato, ei serch Jn cynyddu arno ef a'i bethau, yr hwn a eilw y tMtyn yn gynydd. Athrawiaeth I. FOD EGLWYS DDUW, NEU DDYN- KHt DUWIOL, YN AC I GYNYDDU AR GYNYDD Duw. 1. Mae natur y cynydd yma yn cael ei osod allan mewn pedair o gymhariaethau—y lili, yr yd, y winwydden, a'r olewydden, yr hon sy'n eynyddu yn fawr ac yn hardd. Mae yn cynyddu i wtered; mae yn lledu ei gwraidd (Hosea xiv. 5—21); yn tyfu i fyny (adn. 6); ac mae ei ohanghenau yn lledu. Mewn harddweh fel yr olewydden, ei harogl fel Libanus, ei choffadwr- iasth fel gwin Libanus. Cynydd mewn gras. Cynydd mewn mesur. Pan ddychwelwyd di at Grist, nid oedd duwiol dristweh ond gwan iawn— fel llin yn mygu, neu hedyn bach gwan, ond yn awr mae wedi cynyddu ar ei ddegfed a thrigain. Yr wyt yn fwy gofalus i ryngu bodd Duw. Mae dy ofnau wedi cael eu symud i raddau; dy sel yn fwy bywiog, a'th ddymuniadau yn fwy nefolaidd, fel nad ydwyt yn ol am un dawn, yn dysgwyl am ymddangosiad ein Harglwydd Iesu Grist, 1 Cor. i. 7. Dyma gynydd fine. 2. Mewn trefn rasol. Nid oedd ei wybodaeth ef ar y cyntaf ond gwan a chymysglyd iawn, ond yn awr mae yn deall yn well am bethau, ac yn medru gwahaniaethu yn well rhwng pethau. Nid oedd ei grefydd ar y cyntaf ond rbyw wan feddwl, ond yn awr y mae mewn ymarferiad. Yr oedd ar y dechreu yn dymuno myned yn mlaen, odd yn awr y mae yn penderfynu myned yn mlaen. Yr oedd ar y cyntaf yn meddwl yn dda, ond yn awr y mae yn gwneud yn dda yr oedd ganddo awydd ymdrechu o blaid y ffydd, ond yn awr y mae yn ymdrech. Yn y dechreu yr oedd yn mawr ofni uffern, ond yn awr y mae yn casau peehod yn fwy nag ofni uffern. Pryd hyny yr oedd ei ofn yn gryfach na'i obaith, ond yn awr mae ei obaith wedi cario'r dydd. Yr oedd yn ofni Duw yn fwy na'i garu, ond yn awr y mae yn eigaru yn fwy nag y mae yn ei ofni. Yn flaenor- ol nid oedd ffydd ond hanesiol, ond y mae yn awr yn brofiadol. Y Gair yn flaenorol yn y glust, ond yn awr yn geni yn y galon. 0! am gynydd, frodyr. 3. Cynydd mewn nerth. 0 ymborthi ar laeth at y bwyd cryf; o fod yn faban yn ddyn nerthol i orchfygu yr un drwg; ac o ddyn nertbol yn dad oryf a phrofiadol, yn enill tir gryfach, gryfach, o nerth i nerth. Yr oedd ar y cyntaf yn blentyn egwan bron a chwympo bob cam, ac yn cwympo yn ami iawn, ond yn awr y mae yn fwy gofalus. Nid yw yn cropian, ond yn cerdded yn syth. Nid yw yn maglu ar draws y gorchymyn hwn a'r llall, ond y mae ei ufudd-dod yn barhaus a gvamtadol i'r holl orchymynion. Nid yw yn ym- dynu ag addewidion Duw, oblegid ei fod ef yn gidarn yn y ffydd. 4. Mewn ymarferiad, yr hyn yw ymestyn at berffeithrwydd, pan y mae y bwrhd bob dydd yn barhaus. Drwy ymarferyd ffydd yn ol nerth gras, i ymarferyd a chadw cydwybod bur a di- rwystr tuag at Dduw a dynion, ac yn myfyrio ar haelioni. Mae y dyn drwg yn ymwroli pan y maa'n myned at ryw orchestwaith; y mae fel llew, ie, fel Goliah, nid yw yn ofni byddin. Nid y dyn sydd yn cuddio ei ddysgeidiaeth yw yr Yllolor mwyaf ei ddefnydd, ond yr hwn sydd yn dwyn allan bethau newydd a hen. Nid y dyn sydd yn cuddio ei gyfoeth yn ei goffrau sydd yn gwneud y defnydd goreu o honynt, ond yr hwn aydd yn eu rhoi allan at ryw achosion da. Mae cynydd mewn gras yn profi gwirionedd dy grefydd. Yn lesu Grist y cei ddrych o gynydd, Luc ii. 40. 5. Menn ffrwythlondeb a defnyddioldeb. Gan gynyddu yn eu hen ddyddiau yn dirfion ac iraidd, fel y bo y crop olaf yn well na'r cyntaf, fel y dy- wedodd yr Arglwydd wrth eglwys Thyatira Mi a adwaen dy weithredoedd di.a bod y rhai diweddaf yn fwy na'r rhai cyntaf," Dat. ii. 19. Ac yr wyf fi fy hun yn eredu am danoch eich bod chwithau yn llawn daioni. ac yn abl i rybuddio eich gilydd," Rhuf. xv. 14. Diolch a ddylem i Dduw. oblegid bod eich ffydd chwi yn mawr gynyddu, a chariad pob un o honoch yn chwanegu," 2 Thes. i. 3. 6. Cynydd mewn cysur. Pan y mae galarwyr Seion yn myned yn fwy na llon'd eu galarwisg- oedd, ac yn cael gwisg newydd o fawl i Dduw. Fel Mordecai, yn lie sachlian yn cael gwisg freninol; yn lie lludw, anrhydedd; yn lie dagrau gofid, olew llawenydd. Fe gynyddodd Hannah o gystudd meddwl i alar, o alar i weddio, o weddio i ddysgwyl yn ddystaw, o hyny i gredu, ac o gredu i dderbyn, ac o dderbyn i lawenhau. Dyma gynydd noble, yn cyrhaedd 5 gradd yn ysgol Iesu Grist. 7. Cynyddu mewn profiad. Mae yr anwylddyn (favourite) yn cynyddu yn fawr drwy y rhoddion (favours), y perlau a'r swyddau y mae y Tywysog yn roddi iddo ef. Mae y Cristion yn cynyddu ao yn d'od yn gyfoethog mewn profiad. Mae yn galw un oedfa yn Ebenezer-hyd yma y cynaliodd yr Arglwydd; un arall yn Naphtali—Mi a ym- drechais gyda Duw; un arall yn Joseph-Yr Ar- glwydd a chwanega; un arall yn Penuel-Yr Ar- glwydd a'm gwaredodd i o safn y new rhuadwy. Dyma gynydd, o ysbryd caethiwed i ysbryd mab- wysiad; o ysbryd ofnus i ysbryd cariad'ac ymddir- ied. 8. Iletvn cymeradwyaeth. Yn d'od o sefyllfa o ffieiddiad i sefyllfa o gariad; d'od o sefyllfa anhardd i un Mn a hardd. Megys Abraham, yn cael ei alw yn gyntaf yn was, yna yn gyfaill 1 Dduw. Unwaith yn d'od o ffydd i ffydd, neu o nerth i nerth, yna o gariad i ewyllysiad i gyflawn ymroddiad. Ni gawn ddrych o hyn yn nghodiad Esther. Mae y cynydd yma idd ei briodoli i dri pheth 1. Natur gwir ras. Mae gras fel ly surdoes a'r hedyn mwstard, ac fel yr ^d, yr hwn sydd drwy effaith natur yn marw, yna yn egino, gwreiddio, tyfu, ffrwytho, yna y dywysen yn ymddangos, yna yr £ d yn llawn ynddi. Mae gras fel afon, nid yw ond ffrwd fechan yn ei tharddiad. Yn raddol mae pechod yn cael ei ladd. Mae Duw yn dechreu ei waith drwy geryddu, yna argy- hoeddi, yna galar, yna casineb, yna ffieiddiad, yna ysgariaeth, yn nesaf marw i bechod. Mae cerydd yn dangos pechod, argyhoeddiad yn dwyn dyn idd ei ofni, mae'r galon yn gofidio o'i her- wydd, mae ffieiddiad ato yn peri i ddyn ei gasau ef, ysgariaeth yn ymadael ag ef. Dyma y wreich- ionen wedi dyfod yn eirias. Lie bynag y mae bywyd y mae yno gynydd. Mae y brigyn gwanaf yn tyfu, ond nid yw y gangen grin gryfaf yn tyfu dim mae y plentyn ond nid yw yr hen. Picture yn tyfu dim, ond myned y mae yn fwy anhardd a bratiog. Mae gras yn cynyddu o ddydd i ddydd am fod had Duw ynddo, ond nid yw crefydd y dynwared (counterfeit) yn cynyddu dim. 2. Mae y cynydd yma yn cael adfjwiocad yn y meddion. Yno mae yr enaid yn cael ei wneud yn ffrwythlawn fel gardd ddyfradwy, neu goed ar lan yr afonydd: Hwy a flodeuant yn nghynteddau ty yr Arglwydd." 3. Ond y mae i gael ei briodoli yn benaf i weithrediadau grasol Ysbryd Duw. Ni wna yr ordinhadau ddim lies oni rydd yr Arglwydd ei fendith arnynt, a dyferu yr olew drwy y pibellau euraidd hyn, Phil. i. 6, 19. 1 Thes. v. 25. CYMHWYSIAD. 1. At yr hwn nid yw yn cynyddu dim, ond mae fel hen gyff crin mewn perth. Mae yn anwybod- us, gwag; diras oeddynt, diras ydynt; nid ynt yn dysgu nac yn tyfu. Mae yr hwn oedd yn blentyn wedi d'od yn ddyn, eto yr wyt ti heb roi heibio dy bethau plentynaidd. Mae yn berygl dy fod dan felldith y ffigysbren, sef Na tbyfed ffrwyth arnat ti." Yr wyt fel y galed-flordd-y tir gwaethaf o'r pedwar mae yn yfed y gwlaw, ond nid yw byth yn ffrwytho. Yr wyt ddwywaith yn farw. 2. Mae eto rai gwaeth na'r rhai hyn, sef y rhai sy'n myned waeth-waeth, o ddrwg i ddrygau, yn myned yn nes at Satan. Dechreuasant rodio yn nghyngor yr annuwiol, yna i sefyll yn y ffordd, yna i eistedd yn stol y gwatwor. Yr oedd Ahab yn ddrwg yn y dechreu, ond gwnaeth ei wraig Jezebel ef yn waeth, a'r gau-broffwydi yn waeth na hyny; felly yn myned yn waeth-waeth, nes o'r diwedd iddo fyned i ogoneddu yn ei bechod. Cain, ebe Lamech, a laddodd ddyn, ac a wadodd; fe ofnodd, ftc a ddywedodd fod ei anwiredd yn fwy nag y gellid ei faddeu; ond ni wadaf fi y weithred, ac ni ofnaf y gosb alara i ddim am y drwg a wnes, ac nid ofnaf ddim o'r gosb sydd yn cael ei bygwth. Felly y mae ambell i wrthgiliwr yr oes hon. 3. Mae basgedaid arall o ffigys gwaeth eto, sef y rhai sydd yn tyfu o dda ymddangosiadol i ddrwg cyhoedd a gwarthus—yr hwch oedd wedi ei golohi i'w hymdreiglfa yn y dom, y ci yn dych- welyd at ei chwydiad. Hwy a brofasant y rhodd nefol, ond y maent yn awr yn ei chablu, ac felly yn faen tramgwydd i eraill. Dyma life guard y diafol, a phrif helaethwyr ei deyrnas. Eto yn mhellach, at y rhai sydd yn d'od ar gynydd. 1. Pa faint yw dy rwymau i ddiolch? 0! ryf- edd, y tlawd yn cael ei wlleud yn gyfoethog; y dirmygedig yn barchus y gwan yn gryf, ie, tyfu mewn parch gyda Duw. 2. Yr hwn a symudwyd o'i sefyllfa naturiol i sefyllfa rasol, mae wedi pasio safn uffern, am hyny efe a all ganu. 3 Maent yn cynyddu i dderbyn mwy o ddaioni a thrugaredd. Pan mae eraill yn cynyddu, cynyddu i dderbyn mwy o ddigofaint y maent, fel Pharaoh a Thamar. Yn cael eu dymuniad i raddau, a hyny yn felldith iddynt. 4. Lie y mae y cynydd hwn, mae y spring fawr ffrwythlon i'w chael yn angeu, pan y daw y cred- adyn o anmherffeithrwydd i berffeithrwydd. o fod yn filwr i fod yn orchfygwr: "A bydd y llesgaf o honynt y dydd hwnw fel Dafydd, a thy Dafydd fel Duw." Un mynyd ar wely cystudd, yr ail ar yr orseddfainc aur; un yn mhlith dynion, yr ail yn mhlith an gylion un yn ofni, y Hall yn canu; un yn cario y cleddyf, y llall yn cario y palmwydd, ac yn gwaeddi, Iddo ef, yr hwn a'n carodd ac a'n golchodd yn ei waed." l1 Gwna fi fel pren planedig, 0 fy Nuw, Yn Ir ar lan afonydd dyfroedd byw; A'i wraidd ar led, a'i ddail heb wywo mwy, Yn ffrwythlon dan gawodydd marwol glwy'. Symudodd Mr. Rowlands o Leyn i Bont- ypwl yn y fl. 1829, sef y flwyddyn ybu ei ragflaenor, y Parch. Ebenezer Jones, farw, ac yn Nhachwedd y flwyddyn hono y cyf- ansoddwyd y bregeth uchod, pan oedd § £ e namyn dwy flynedd deugain. Bu yn llwyddianus nodedig am flynydd- oedd, ac aeth yr eglwys fel derwen fawr gauadfrig. Yn ei ddyddiau ef y cyfodwyd y capel presenol, ac y sefydlwyd achosion yn Nhrosnant, Cefnycrib, Abersychan, a Blaenafon; ond yn mhell cyn i'w nerth ballu, yr eglwys wedi syrthio ymaith mewn nifer, o herwydd ffurfiad yr eglwysi rhag- ddywededig, ac hefyd yn gymaint a hyny o herwydd sefyllfa drawsfynedigol swydd Fynwy, yr hon sydd bellach yn agos yn llwyr wedi myned drosodd o fod yn Gy- mreig i fod yn sir Seisnig. Cyflawnodd Mr. Rowlands ei weinidog- aeth yn ddifwlch hyd y fl. 1857, pryd y tarawyd ef gan ergyd o'r parlys. Cof yw genym ein bod wedi myned i roi tro am dano prydnawn Ebrill 22ain, 1861, a'n bod yn rhodio ac yn ymgomio yn yr ardd. Y bore canlynol, tarawodd y newydd ni a syndod a braw fod Rowlands, Pontypwl, wedi marw. Bu farw yn sydyn ac an- nysgwyliadwy yn ei saith degfed mlwydd namyn un, a chladdwyd ef yn mynwent Ebenezer. gerllaw porth y cape], Pwllglas, yr Wyddgrug. MYEDDIN,

MAR WE IDD-DEA. MASNACH AMERICA.