Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

ODDIWRTH EIN GOHEBYDD: I .'CYFFREDINOL.…

News
Cite
Share

ODDIWRTH EIN GOHEBYDD: CYFFREDINOL. j A WYR y Celtiaid oil mai Celtiad yw M Gladstone ? Wel, os na wyddant, dyn4 newydd iddynt. Y mae efe yn hanu q Ysgotland, ac y mae gwaed coch y Celt yd rhedeg yn ei wythienau. Un o'r Celtiaid hefyd yw ei wraig, sef aelod o hen deulu Cymreig o Benarlag — chwaer i'r diweddar Syr Stephen Glynn; ac y mae si ar led yn awr fod Mr. Gladstone yn myned i gynyg ei wasanaeth gwleid- yddol i Geltiaid Ysgotland. Y mae efe am roddi i fyny ei sedd dros Greenwich, ac am gynyg myned yn aelod seneddol dros Edinburgh. Yr esboniad a rydd rhai Toriaid ar ei waith ef yn rhoddi fyny Greenwich yw fod Mr. Gladstone yn ddigon craff i ragweled fod perygl na ddewisid ef dros y lie hwnw y tro nesaf, am ei fod ef wedi bod mor egniol a difrifol yn erbyn rhyfel, a bod nifer fawr o bobl Greenwich yn cael eu bywioliaeth drwy weithio arfau a llongau rhyfel. Nis gwyddom pa faint o wirionedd sydd yn y* chwedl yna, ond y mae y ffaith fod Mr. Gladstone am gynyg dros fwrdeisdref yn Ysgotland yn peri tipyn o benbleth i mi. Yn awr y mae Ysgotland oil yn swnio yn uchel am gael dadgysylltiad yr Eglwys Bresbyteraidd oddiwrth y Llywodraeth; ac y mae y pwnc wedi cael ei addfedu yno i'r fath raddau, fel y gofynir, yn ddiau, i bob aelod Rhyddfrydol a fydd efe yn ffafriol i ddadgysylltiad. Yn awr, y mae Mr. Gladstone yn gwy- bod hyna cystal a neb yn yr holl deyrnas; gwyr y byddis yn bur debyg o ofyn iddo, os cynygia sefyll dros Edinburgh, a fydd efe ynbleidioliddadgysylltiad yn Scotland; ac eto wele efe, yn ngwyneb hyn oil, yn debyg o gynyg a ehario bwrdeisdref Edin- burgh. Pa gasgliad ydym ni i dynu oddi- wrth hyn oil ? Wel, y casgliad wyf fi yn dynu yw y daw Mr. Gladstone a mesur i'r senedd dros ddadgysylltiad yn Scot- land. A'r dyn a roddodd i ni ddadgys- ylltiad yn Iwerddon, yw y cymhwysaf o'n holl seneddwyr i roddi i ni yr un peth yn Scotland eto. Yna daw tro Lloegr a Chyinru yn olaf. Y mae ar y blaid Iiydd- frydig eisieu rhyw Ull pwnc mawr i'w gwasgu at eu gilydd, ac i roddi bywyd a nerth ynddynt fel plaid ac nis gwyddom am yr un pwnc a wnai hyny yn fwy effeitliiol yn awr na chri y dadgysylltiad yn Scotland. Y mae y blaid Jiyddfrydig yn awr neb yr un cynllun, ac heb yr im arweiuydd. Y mae yn wir fod ArdaJydd Ilartiagton yn arweinydd mewn enw; ac yr ydyai yn ddiolchgar iddo am y gwasan- e, aeth gwerthfawr a wnaeth i'w blaid; ond tra bydd Gladstone yn y senedd, a Lhra bydd gan y Eiiyddfrydwyr bynciau y gall efe dafiu ei holl enaid iddynt, y mae yn anmbosibl iddynt gael yr uu arweinydd gwirioneddol ond efe. Y mae ei oed a'i brofiad, ei ddysg a'i dalentau, ei gyd- wybodolrwydd a'i ddefnyddioldeb yn hawl- io iddo y fiaenoriaeth o flaen pnwb arall ac y mae yn anmhosibl i Ilartington wneud cyfiawnder ag ef ei hun nac a'i blaid pan y bydd Gladstone yn bresenol. Y mae y darllenydd, ond odid, wedi sylwi fod yn anhawdd iddo wneud dim yn dda iawn pan y gwyr fod rbywun gwell nag ef uwch ei ben yn edrych arno. Clywsom weinidog gyda'r Annibynwyr-pregethwr rhagorol, a gwr oedd wedi bod yn y wein- idogaeth am flynyddau, yn dweyd na tedr- odd erioeddeimlo yn hollolrydd pan yn pregethu yn mbreaenoldeb ei hen athraw y Parch. M. D. Jones, Bala. Dywedai fod meddwl am wybodaeth ddiderfyn, a gallu aruthrol y gwr hwnw, yn peri iddo yn wastad deimlo yn wylaidd ger ei fron. Y mae hwna yn deimlad cyffredinol yn mysg dynolryw, oddieithr ambell un, sydd yn ddigon gwyneb galed i gredu nad oes neb tebyg iddo ef ei hun. Yr un modd gallem feddwl nad yw sefyllfa Hartington, fel ar- weinydd cydnabyddedig y blaid Rydd- frydig, i eiddigeddu wrthi tra mae yn ym- wybodol fod yno ddyn llawer cymhwysach nag efe i lanw y swydd. Cymered Her- cules ei Ie, ynte. Ac yr ydym yn mawr hyderu mai i ddwylaw Mr. Gladstone y disgyna awenau llywodraeth y deyrnas hon yn yr etholiad cyffredinol nesaf, er mwyn iddo dynu i lawr rai o'r beichiau trethi trymion a osododd Arglwydd Cae'rmochyn a'f blaid ar ein gwarau, ac er mwyn gwel* ed a oes dim modd rhoddi bywyd eto yn masnach y wlad, ac adfer llwyddiant eto yn ol i'r orsedd. Ac os na ddaw rhyw gyfnewidiad buan yn y cyfeiriad hwnw, bydd masnach Prydain wedi cymeryd ei liadenydd, a chanoedd o filoedd o'i gweith- wyr goreu wedi ymfudo i wledydd tramor; a bydd estroniaid yn anfon i ni ein haiarn, a'n glo, a'n sidanau, a'n brethynau o bell- afoedd y ddaear. Y mae yn ffaith fod ein masnach yn wastad yn farwaidd pan y mae y Toriaid mewn swydd. Esboniwch cnwi y ffaith fel y fynocb, dyna hi. Cofied y Celtiaid hyny erbyn yr etholiad nessf

CYFARFOD CHWARTEROL UNDEB…

MAR WE IDD-DEA. MASNACH AMERICA.