Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

CONGL YR EFRYDYDD.

News
Cite
Share

CONGL YR EFRYDYDD. LLYWODRAETH Y MERCHED. WEDI i John XII. gyfarfod a'i angeu, cawn enwau cyfres o Babau a ddilynasant yn bur fanwl yn ol ei draed, gyda mwy neu lai o lwyddiant. Tculu Tusculum oedd wedi arfer dewis Pabau Rhufain, gydag ychydig iawn o eithriadau, er tua'r flwydd- yn 904, a pharhaodd eu dylanwad yn oruchaf yn y ddinas am yn agos i 150 o flynyddau Er wexli marw John XIII.. dewisodd yr Ymerawdwr Ben- edict vi. i'r orsedd; ond gan gynted fig y hu ianv Otho, ymgymerodd Crecentius, sef mab M arozia o'r Pab John x., a newid y Bud anffaeledig oedd ar orsedd St. Pedr, a chymerodd v lie -by .storm," a pharodd dagu Benedict vi., a gosod Cardinal Franconi yn ei Ie fel Benedict vn.; 1).. digon yw dywedyd iddo "ragori arnynt oil" mawn drygioni. Ac o'r diwedd gorfn iddo ffoi o Itali rhag dialedd perthynasau rhyw ferch ieuanc a ddianrhydeddodd; ond gofaledd yspeilio holl Eglwysi Rhufain o'u trysorau cyn dianc, yna ffodd i Caercystenyn a'r yspail gydag ef. Plaid Tuscul- Um oedd y gryfaf o hyd yn Rhufain, a gosodasant nai i'r creadur ffiaidd hwnw, John XII., yn Bab dan yr enw Benedict VIII. Ond y pryd hwn fe groesodd Ymerawdwr Germa-,ii, drps yr Alps i osed un arall i fyny dan yr enw John xiv., yr hwn a fuasai yn cymeryd gofal o iawnderau yr ymer- odraeth, a gorfu i Benedict ffoi; ond bu yr Ym- erawdwr farw yn mhen tua cbwe' mis, a daeth Benedict yn ol, a thrwy gymorth Crecentius, llwyddodd i gael gafael ar berson ei wrthwyneb- ydd, a gwnaeth iddo lyncu gwenwynheb feiddio anufuddhau. Felly y bu farw John xiv. Ond f„,uid hir y cafodd y gorchfygwrhwnfwynbau ffrwyth eifuddugoliaeth, oblegid yn ynwyddyn ddilynol cyfarfyddodd a'i angau bron yr un fath a'i ewythr John xii, sef trwy gael ei ladd am na buasai yn gadael gwragedd pobl eraill yn llonydd. Y mae'r modd y bu farw yn ddigon o esboniad i ni ar ei gymeriad yn ei-fywyd. Yr oedd ei ddryg- au wedi enyn digofaint y dinasyddion i'r fath raddau yn ei erbyn, fel y mynasant gael ei gorff, a thywallt eu llid arno drwy ei drywanu a'u bidogau, fel nad oedd dim llai na chant o a-reholl. ion arno; yna llusgasant ef drwy'r heolydd, ac yn olaf taflasant ef i hen bwll lie y teflid pob budreddi. Ar ol Benedict viii., cawn restr o Babau heb fod dim yn hynod ynddynt, ond dywedir eu bod yn well o ran eu moesau na rhai o'u rhagflaenor- iaid, a'r rheswm cryfaf dros gredu hyny yw, nad oes fawr o ddim yn cael ei ddweyd am 'danynt mewn un modd. Yma deuwn at Benedict ix. (1033-1046), nid oedd hwn ond deng mlwydd oed pan gyhoeddwyd ef yn Bab, ond cyn ei fod yn 14eg oed, yr oedd wedi myned tuhwnt i holl Babau Rhufain mewn drygioni ac afradlonedd. Erbyn ei fod yn ugain oed, yr oedd cynddaredd y bohl wedi ei enyn i'r fath raddau yn ei erbyn, fel yr erlidiasaut ef o'r ddinas, gan osod Sylvester iii. ar yr orsedd yn ei yr °edd gan Benedict lawer o gyfeillion a pherthynasau cyfoethog a dylanwadol yn Rhuf- ain, a thrwy eu cynorthwy hwy, llwyddoddi ail- gymeryd castell St. Angels. Ond gorfod iddo ffoi eilwaith, a daeth yn ei ol drachefn; a gyrwyd ef i ffwrdd y drydedd waith, ac wele yntau yn dychwelyd y drydedd waith; ac o'r diwedd teim- lodd ei bod yn anmhosibl dal yr awdurdod yn hwy, yna gwerthodd ei hawl i Gregori vi. am ewm anrhydeddus o arian, a chael cadw rhan o drethoedd y Babaeth, a phalas Lateran i fyw ynddo. Felly gyda Bendict ix. y darfyddodd dy- lanwad mawr teulu Tesculum yn Rhufain. Beth oedd teimlad y byd y pryd hwnw wrth weled y fath annuwioldeb yn cael ei gyflawni gan swydd- ogion yr eglwys ? Teyrnasai dyehryn yn gyffred- inol dros y bobl, a chredent, Gan fod y fath ddrygioni anferth yn mben yr eglwys, ei bod yn anmhosibl i'r ddynoliaeth fodoli lawer yn ychwaneg, ac felly fod yn rhaid fod diwedd y byd gerllaw," Cyn gadael y penawd uchod, hwyrach mai nid annyddorol i rai o ddarllenwyr y CELT fyddai hanes y Babes Joan neu Johana fel y gelwid hi. Tua chanol y ttawfed ^anrif, gadawodd geneth ieuane o Germany (dywed rhai mai Scisnes oedd), ei chartref gyda'i chariad, sef myfyriwr ieuanc, ac aethant ill dau i'r Brif-ysgol i Paris. Er mwyn peidio bod yn warth, ymwisgodd hi mown dillad bachgen, ac fe ymgymerodd a dysgu yr un peth a'i chariad; ac adnabyddid hwy yn gyS'red- inl/1 fel yr "amvabanedigion." Aethant o Paris i Atben i ddysgu Groeg, ac oddiyno ar daith bererindodol i Rufain, at feddrod St. Pedr, Wrth weled cymaiut o swynion yn ninas y Pab, penderfynasant aros yno am ysbaid o amser. Uwyddasant drwy en dysgeidiaeth, eu gwyleidd- dra. eu moesau da, a'u hymddangosiad boneddig- aidd, i sicrhau lluaws o gyfeillion dylanwadol, a ly chawsant yn funn eu gosod mown swyddi parchus yn yr eglwys. Wrth reswm 'doedd neb yn ad- nabod Joan, yn amgen nag fel frater Johannes (y braicd Johannes), ac enwogodd7ti ei hun yn neillduol yn y ddinas, ac esgynodd o ris i ris yn yr oneina.iaeth, nes ar farwolaeth Leo iv., ethol- wyd hi yn Bab, dan yr euw John vii.; ac fe lyw- odraothodd yr Eglwys gydag anrhydedd ac urdd- asolrwydd. Ond yn anffodus, 'doedd cysylltiad Joan a'i chariad ddim wedi darfod; ac yn yr ail flwyddyn o'i thcyrnasiad, cafodd na fyddai ddim yn hir cyn bod yn fani. Gallesid cuddio'r ffaith heb uurbyw anhawsder pe ewyllysid;- ond fe ym- ddangosodd angel yr Arglwydd idcli mewn gwel- edigaeth. gun ddywedyd, "Johanna, ti a bechaist yn ddirfawr, ac oni wtiai di ymostwng o flaen y byd, a rhoddi geuedigaeth i'r plentyn yn ngwydd dy bob], ti a ddemuir ya dragywydi." Dychryn- odd y geiriau ]jyn Johanna yn ddirfawr, ac nid hir y bu cyn penderfynu beth i'w wneud. Ac yna pan ddaeth ei hawr i esgor. gorchymynodd Sarno gorymdaitii, ac fe gymerodd hithau ei lie ar en, blaen, wedi gwisgo ei hardd-wisgoedd swyddol; ac vn i ar ganol yr heol yn Rhufain, rhwiig Coliseuiu ac Eglwys St. Clement, rhodd- odd enedigaeth i facligen. Parlyswyd y bobl gan ddychryn, a bu Johanna farw mewn gwarth cyn symud o'r lie. Dyna fel y rhed y traddodiad, yr hwn a gred- wyd yn ddiameu am gymaint a 300 mlynedd, a hyny gan brif ddynion Ilys y Pab. Mor llwyr oedd eu crediniaeth yn y chwedl, fel yr ymdrechai doctoriaid dysgedig yn Rhufain ddangos daioni Duw yn cadw'r ,olyiuaeth apostolaidd yn ddi- fwlch hyd yn nod dan deyrnasiad merch! Ond y mae ysgrifenwyr diweddarach, yn barnu nad yw yn ddim ond gwatwargerdd wedi ei chyfan- soddi oddiwrthhanes Llarozia a Theodora, y rhai fu am dymhor maith yn llywodraethu'r cyfan yn y Vatican yn ol eu hewyllys eu hunain. DIONYSIUS.

"CADBEN MADOG."

TANBELENAU.

ABERGORLECH.

DB. KENNEDY A'R UNDEB CTNULLEID-FAOL.