Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

Y GOLOFN DDIRWESTOL.

News
Cite
Share

Y GOLOFN DDIRWESTOL. (GAN Y PARCH. D. S. DAVIES). Yn ydym yn ddyledus i'r Brewers' Guard- ian, un o bapyrau y fasnach dra pharcbus a dyngarol sydd yn galw ei hun mewn modd arbenig "y fasnach," fel pe na byddai un fasnach onest arall yn y byd— mae arnom ddyled i'r papyr hwnw am rai gosodiadau hynod a chywrain, mewn per- thynas i'r cymeriad moesol a gynvrchir ac a feithrinir gan wahanol fathau o ddiodydd. Dywed ein cyfoesolyn brag- awl, fod ysgrifenydd Ewropaidd ar iechyd- aeth ymarferol, yn gosod allan fod "y diodydd a yfir yn ffurfio i raddau helaeth gymeriad pobl. Tuag at ddeall cymeriad pob gwlad dylid dangos ar y map mewn amryw liwiau, pa ddiodydd a yfir yn y wlad bono. Yn y gwledydd lie na yfir ond ycbydig, neu ddim cwrw, megys yr Eidal, Ysbaen, a Deheudir Ffrainc, y mae'r bobl yn benboeth, llawn o ddych- ymyg a bywiogrwydd. Yn Germany, lIe yr yfir cwrw Bavaria, yr hwn sydd yn anhawdd ei dreulio, y mae'r bobl o gym- eriad breuddwydiol, arafwch mawr, a myf- yrdod tawel. Yn Ngogledd Ffrainc a Germany, ac yn Belgium, He yr yfir cwrw pur (true beers), y mae cymeriad o egni a phenderfyniad mawr; a geIlir dweyd yr un peth am Brydain Fawr, lie mae y diodydd yn gryfach nag mewn gwledydd eraill." Dyna ni bellach yn adnabod gwir ffyn- honell mawredd Prydain Fawr. Nid y Beibl ydyw, fel y cawsom bob amser ein harwain i dybio gan yr hanes bychan tyner a hudol am y frenhines a'r penaeth anwaraidd hyny; yr achos (o'n mawredd) yw ein cwrw cryf! Gallwn olrhain ein rhinwedd cenedlaethol mewn Uinell union- gyrchol o'r barilau a lanwyd gan fonedd- igion o fath Mr. Bass, Mr. Alsopp, a Syr Andrew Barcley Walker. Ond yr ydym yn dyheu am fwy o wybodaeth. ]ihaid y gallai diodydd eraill gynhyrfu agweddau eraill o ddyrchafiad moesol. Os gellir cael egni a phenderfyniad mawr allan o ddiod chwerw, paham nad ellir cael gwir dduwioldeb alJan o hen bort-wine, a bodd- lonrwydd tawel o champagne, a haelfryd. edd graslawn o gin 1 Mae'r syniad o yfed moesoldeb yn un dymunol iawn; ac er y byddai ar y cyntaf yn ymddangos yn ddyeithr i ofyn am noggin o onestrwydd, neu l-asied bach o ddiweirdeb, yn oer, heb ddim siwgr; diau y cynefiaem ag ef yn I- y iuan. The Argus, Liverpool, Ebrill 6. Gofynwycl y cwesti wn hwn gan Oheb- ydd Llundain y Liverpool JSLurcury: "Pa gynifer o ddarllawyr sydd i gael eu hanfon in Deddf-wneuthurfa?" Yn sicr y mae hyd nod y hitter-beer yri cael ei gynrych- ddigonol gan ddau Bass a dau ?>to ymc^engys ein bod i gael Bass. Mae sedd Syr Charles Alder]ey yn North Staffordshire, i gael ei chymeryd gan ddarllawydd—Mr. Han- burg. Ac am ei sedd ef yn Famworth, y mae un o.feibion yr aelod dros Derby yn c3rnyg) e* hun. Mae hyn, yn wir, yn ormod. Mae pawb yn gwybocf y gall Mr. Bass, hynaf, gyfrif ar ryw ugain o ffryndiau i duebu fel y bydd ef yn ceisio ganddynt. Ai nid Parliament y faril yw hwn ? (Is not this the bung Parliament?) Yn ddiweddar agorwyd addoldy newydd cynulleidfaol yn Stannary, Halifax. Dy- wed adroddiad atn dano yn yr Halifax Times, fel hyn:—"Yn mysg y penderfyn- ladau a basiwyd pan iiuriiwyd yr eglwys, y mae iia yn gofyn fod y gweiaidog yu llwyr-ymwrthodwr, acmai gwin anfedd- wol sydd i fod ar fwrdd yr Arglwydd, a'r Gobeithlu (Band of Hope) i fod yn rhan annatodol o'r Ysgol Sabbathol. Dywed- wyd fod yr holl aelodau yn cael eu rhwymo i fod yn ddirwestwyr, ond wedi gwneud ymholiadau yn y lleoedd goreu, yr wyf yn cael nad oes sail i'r fath haeriad. Mewn gwirionedd, yr wyf yn deall y gall y mwy- afrif o'r aelodaeth, pan y mynant, dynu yn ol y penderfyniad a roddais uchdd. Ond y mae'r ffaith yn sefyll, fod yr eglwys hon mewn ffordd dra amlwg a diamheuol, wedi taflu ei holl nerth i'r mndiad dirwestol'yn ei holl agweddau. Nid oes trethoedd eisteddleoedd yn Stannary, ac ni bydd yno chwaith ar ol i'r gynulleidfa gymeryd meddiant o'i chartref newydd. Y mae'r bobl yn eyfranu yr hyn a ewyllysiant drwy yr hyn a adnabyddir yn drefn yr amlen;" ac er fod y treuliau bob amser yn drymion, y mae'r swyddogion wedi gallu dangos gweddill mewn Haw ar ddi- wedd pob blwyddyn. Neillduir yr eis- teddleoedd yn y capel i'r addolwyr rheol- aidd, ond pum' mynyd cyn dechreu yr addoliad, y mae yr holl adeilad mor rhydd i'r dyeithriaid ag i'r aelodau." Tafarnwyr a'u caethion.- Y mae un gohebydd yn ysgrifenu at Olygydd y Corisett Guardian am y drafferth a gafodd yn chwilio am damaid o fwyd yn nhafarn- au Dipton, pan ddychwelodd ar ol hir absenoldeb i weled eyfeillion bore oes. Geilw ei bun, Newynog yn methu cael bwyd." Crwydrodd allan o strydoedd Newcastle drwy'r wlad i Dipton, a dywed ei fod ef a'i gymdeitbion yn mwynbau'r daith yn "ogoneddus." Cyrhaeddasant y pentref; ond pa le yr oedd ei degwch ? Penderfynent chwilio ar ol cael einio da- canys yr oeddynt yn wir newynog. Yn mhen pellaf y pentref, tybient y caent eu diwallu gan licensed victualler. Aethant i mewn, gwelsant farchnadfa gwirodydd yno, ond dim victuals, h.y., bwydwr trwy- ddedig, ond.dim bwyd 11 "Oh, ewch i lawr i-, a chwi gewch rywbeth, 'chy- merwn ni ddim trafferth gyda chwi yma," meddai'r tafarnwr. Troisant i ben arall y pentref, ond gwrthodwyd bwyd iddynt. Gallasent gael cwrw, o chroesaw hefyd, y maint a fvnent, ond dim bwyd!! Troisant yn eu hoi i dafarn arall, ond dim bwyd!! i un arall—dim bwyd; ac i un arall fyth, ond dim bwyd!! Mewn un lie yr oeddynt yn rhy brysur; mewn un arall nid oedd ganddynt ddigon o fara; tra yr oedd y trydydd yn fwy tebyg i wai budr yr hwch fawr oedd yn rtioch-alt wrth y drws, nag i westdy at wasanaeth dynion. Holent y rhai a welent ar yr heol, ond ni cbawsant fwy o gysur na chlywed fod tlotdy yn Lanchester." Gadawsant y dref wedi eu llwyr ddeffro o'u breuddwydion. Ni welsant ddim ond ffeuau aflan gan faw a mwg, ac yn llawn o ddynion na ofalent am ddim oil tra y byddai cwrw o'u blaen. O'r diwedd cyfarfuasant mewn pentref arall a Samariad da, a gyflawnodd yn lletygar eu holl raid. Y mae yr un ysgrif- enydd yn gofyn, a oedd pobl Dipton yn canu, "Britons never will be slaves," ac ar yr un pryd yn caniatâu i'r tafarnwyr eu gorthrymu mewn bwyd a diod. Clywsom yn ddiweddar frawd enwog yn adrodd y drafferth a gafodd i gael llety noswaith i gy faill ar ymweliad ag ef. Daeth nifer o yniwelwyr ato ar un waith, a bu raid'iddo chwilio am le i un o honynt allan y noson hono. Cerddodd o un daf- uA; res i un arall, a chryn nifer o honynt-nid wyf yn cofio y rhif; ond ni chafodd lety iddo yn un o'r tai a honent eu bod yn gwasanaethu y cyhoedd. Digon 0 gwrw a gwirod, ond dim llety, na bwyd i ddyn dyeithr! !Mewn cwr o Ffestiniog y bu hyn. Rhaicl cael Uawer o gyfnewidiadau yn y deyrnas hon, cyn y bydd yn gymhwJs, na theilwng, na chysurus, i ddynion dyeithr deithio drwyddi. N (J bbao •' ;■ iW«3 LIlli \f)

YMYLON Y LLWYBRAU.

[No title]