Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
21 articles on this Page
Advertising
AM BOB MATH 0 AR GRAFF WAIT H. EWCH I Swyddfa'r Darian.
Advertising
*~o 1 -1 PAPYR TAI YN Rhatach nag erioed. YN SWYDDFA'R DARIAN.
YR YMGAIS AT LOFRUDDIO YN…
YR YMGAIS AT LOFRUDDIO YN YNYSYBWL. Yn ein rhifyn diweddaf rhoddasom hanes cyflawn o'r amgvlchiad gofidus hwn. Dygwyd y carcharor o Haen ynadon Aberdar ddydd Mawrth yr wythnos ddiweddaf, ac o ftaen ynttdon Pontypridd ddydd Mercher, pryd y gohiriwyd yr achos am bymthegnos, hyd aes y byddai un o'r merched a saethodd efe yn abl i ddyfod o'r gwely. Deallwn fod yr ieuangaf o'r ddwy yn parhau i wella yn gyflym, tra nad yw yr liecif ato allan o berygL Y mae gohebydd yn ein h) sbysu fod Lewis, y troseddwr, wedi ei eni mewn amaethdy o'r enw Nantyhünglog, yn mhlwyf Llanddewibrefi, sir Abert.-in, a rhyw wyth miUdir o Dregaron, yn 1841. Mal enw ei dad yw David Lewis, ac mai enw ei fam oedd Catherine Lewis. Iddynt symud oddiyno i Dre ëar'fi tii /r ilwyddyn 1852, ac oddiyno i Brynaman yn 1866, lie y bu ei fam farw yn 1876, &c.
TORI YMAITH BEN EI PHLENTYN.i
TORI YMAITH BEN EI PHLENTYN. Yn Ilys yr heddgeidwaid yn Green- wich, ddydd Gwener diweddaf, dygwyd yn mlaen un Martha Howard, 27 oed, ac yn byw yn 20, Dolmain-road, Forest-hill, ar y cyhuddiad o lofruddio ei phlentyn pum' mis oed, trwy ei daraw a bwyell. Dywedodd yr heddgeidwad ei fod wedi cael ei alw i dy y garcharores a'i gwr y boreu hwnw, pryd y dywedodd hi wrtho, Lleddais fy mhlentyn, yr wyf eisieu fy nghrogi." Ar y ford yn ymyl, yr oedd y plentyn yn gorwedd yn farw, a'i ben bron wedi ei wahanu oddiwrth ei gorff. Yn y gegin, cafodd y fwyell mewn llyn o waed. Iddo dd weyci wrth y garcharores ei fod yn ei chymeryd i fyny am lofrudd- io ei phlentyn, pryd yr atebodd, Mi a'i gwnaeth I" Pan y daeth y meddyg yno, yr oedd y plentyn ar ei harffed, a dywed- odd wrth y meddyg, "Yr ydwyf wedi lladd Daisy, yr ydwyf wedi tori ei phen ymaith."
' CYFARFODYDD POLITICAIDD.
CYFARFODYDD POLITICAIDD. Cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus terfysg- lyd yn Abertawe ddydd Gwener di- weddaf, er cefnogi ymgeisiadaeth Mr. Meredyth, yr ymgeisydd Toriaidd, dan lywyddiaeth Mr. Charles Bath. Dywed- odd Mr. Meredyth fod yn ddrwg ganddo gael ar ddeall nad allai y Rhyddfrydwyr wrando ar resymau teg. (Llefau: Ar Ddwli." Dywedai fod amser wedi bod pan yr oedd y Toriaid yn fwyafrif yn Nghymru. Yn 1841, fod yn Nghymru 19 o Doriaid, a 10 o Ryddfrydwyr, a gellid gobeithio gweled sefyllfa pethau mor iachus a hyny yma ar ol yr ethol- iad. (Chwerthin mawr). Pan y cynyg- iwyd y penderfyniad o wneud pob ym- drech er ei sicrhau fel aelod, yr oedd mwyafrif mawr yn ei erbyn, er i'r llyw- ydd gyhoeddi yn wahanol.
YR ALMANAC HYNAF YN Y BYD.
YR ALMANAC HYNAF YN Y BYD. Y mae yn yr Amgueddfa Brydeiaigf Llundain, Almanac yn 3,000 o flynydd- oedd o oedran, yr hwn y deuwyd o hyd iddo yn yr Aifft. Cafwyd ef ar gorff Aifftwr, yr hwn, y mae yn debyg, a fedd- yliai yn fawr o hono. Y mae y dyddiau wedi eu hysgrifenu mewn eoch, ac fel ereill o lyfrau yr Aifft. wedi ei ysgrifenu Z-1 ar papyrus. Y mae hefyd wedi ei ysgrif- enu yn golofnau, Y mae yn ca.darnhau dyddiad llywodraethiad Rameses FftWr, tra nid yw ya cynwys dim arall o ddr ddordeb.
DARGANFYDDIAD TRUENUS GER…
DARGANFYDDIAD TRUENUS GER YSTRADGYNLAIS. Boreu dydd Gwener diweddaf, deuwyd o hyd i gorff marw dyn anadnabyddus mewn beudy perthynol i Glyn Llech, y tu uchaf i Ystradgynlais. Symudwyd y corff i lawr i dafarn Price's Arms, Coel- bren, hyd nes cynal y trengholiad. Bernir fod y trancedig yn oddeutu 45 neu 50 oed yn 5 troedfedd a 9 modfedd o daldra, gwallt tywyll, cernflew, a. mous- tache, a'r oil yn britho; corff main, ysgafn, a hen g6t dywell am dano. Yr oedd ganddo hen got lwyd a'i grys o dan ei ben, tra yr oedd hen fox hat a hefyd Scotch cap wrth ei ochr. Yr oedd yr het wedi ei phrynu yn Nghaerdydd, a'i llythyrenau "J.O.L." wedi eu hysgrifenu o'i mewn. Ymddangosai ei fod wedi marw o eisieu ymgeledd. Bernir hefyd ei fod yn wallgof, cyn y bu- asai yn cymeryd ei grys gwyn er ei roddi o dan ei ben. Cynaliwyd trengholiad dydd Sadwrn diweddaf, a dygwyd y rheithfarn o farw- olaeth o newyn ac angen.
OFFEIRIAD WEDI MYNED I'W LE…
OFFEIRIAD WEDI MYNED I'W LE EI HUN. Yr ydyin yn cael ar ddeall fod y Parch. Owen King, curad Llanfarnam, wedi hysbysu ei gynulleidfa ei fod wedi penderfynu gadael Eglwys Loegr er ym- uno ag Eglwys Rhufain.' Ordeiniwyd ef yn ddiacon gan Esgob Llandaf yn 1884. Onid oes Huaws yn ein cymydogaethau yn eithaf cymwys i'r un lie 1
Y CHOLERA.
Y CHOLERA. Oddiwrth yr adroddiadau swyddogol sydd wedi eu derbyn yn nghylch y chol- era yn Spain, yr ydym yn cael mai rhif yr achosion ddydd Gwener diweddaf oeddynt 416, o'r rhai y bu 162 farw. 0 Palermo, yr ydym yn cael fod yr achosion yn cynyddu. Cymerodd cy- maint a 150 o achosion newyddion le dydd Sadwrn, a bu farw 44 o honync.
MR. W. ABRAHAM YN Y PENTRE.
MR. W. ABRAHAM YN Y PENTRE. Nos Iau diweddaf, anerchodd Mr W. Abraham gyfarfod o Ryddfrydwyr y gy- mydogaeth yn Neuadd Gyhoeddus y lie. Cymerwyd y gadair gan Mr. Jones, f Coffi Tafain, yr hwn, yn ei sylwadau rhagarweiniol a ddywedodd fod y dosbarth uchaf wedi cael yr ymddiriedaeth o gy- nrychioH y dosbarth gweithiol yn y Sen- odd am ddigon o amser,*a'i bod yn bryd belfach newid y rhan fwyaf o honynt. J Ar y penderfyniad cyntaf^ sef ym- ddiHedaetii y cytarfod yn y blaid Rydd- frydig, siaradodd Mr. John Jenkins, Mr. Oliver Cromwell, a Mr. Randell, cyf- reithiwr, Llanelli. Slaradodd Mabon yn effeithiol anarferol, yn cario y cyfarfod yn hollol gydag ef. Pasiodd y cyfarfod bleidlais o ymddiriodaeth ynddo, ac o benderfymad i'w gofnogi fel ymgeisydd heb neb yn groes. Nid oes amheuaeth bellachnad Mabon ywdewisol ddyn yCwm ac y mae ei bleidwyr yn barod i gymeryd test ballot vote o etholwyr y cwm unrhyw adeg yn erbyn unrhyw ymgeisydd arall er penderfynu y pwnc. UN OEDD YNO.
CHWILIO AM ARDD EDEN.
CHWILIO AM ARDD EDEN. Y foneddiges ieuanc gyfoethocaf yn yr Unol Dalaethau ydyw Miss Catherine Wolfe. Nid ydyw wedi rhoddi ei seich- iadan ar unrhyw wryw. Y mao fel pe wedi penderfynu mynu allan y man y safa* gardd Eden arno. I'r dyben hwn, r.p\' flwyddyn yn ol, rhoddodd 25,000p. o'r neilldu, a phenododd y Parch. Wm. Hays Wend i fyned allan, fel ail Colum- bus, i wneud y darganfyddiad. Y mae y boneddwr parchus newydd ddychwelyd i America, wedi deg mis o drafferth af- lwyddianus yn nghymydogaethau tardd- leoedd y Tigris a'r Euphrates. Dywed 1-1 rnai y Tyrciaid a fuont yn rliwystr iddo i benderfyuu y lie. Y mae yn cael ei hys- bysu ei bod yn bwriadu aufon ail barti o ymchwiiwy-, ond nid yw yr un parehedig yn cael ei enwi fel yr arweiuydd nesaf. °
Advertising
MOUSTTAIL^ ASH. RVpDED hysbys y cynelir EISTEDD- tOD Fawmldog yn y lie nchwl dvd i c.llaH> W36, 0 clan nawdd <"yfriIlf. lllodeuj f\ y Duffrvn. Beirniad,—T. Price, A.C. 1 r corT ddim dan 50 mewn rhif, a gano yn oreu (iobaith }r Cyfkwn,' tpia H. Ellis fAsaph GI*u F^rwd), gwobr 6p. 6s., a Timepiece i'r «.rwemy«ld. 1 r cor, (idim dan 50 mewn rhif, a gano Yt1 oreu 'Ccnwch fa.wl i Dd»w,' gan y diwe<idar J. Ambrose gwobr 3r. I'r cor n M..t'1t, o dau 15 oed, a gaao yn orctt Gost«g, F<n o Odlau r Eleo^yl, gw<.bi'ij\ 10s., a Chrorftiaiic i^ifckpipt i'r urwemydii. Aai y gwo<lclill o'r testyn.m gwel y program. Pros y pwyllgor, D. E. Coxjkman (Eos Henn). BE TKESDA, J^L ANGEN EC H. j CyrteHr EISTEDDFOD yn y lie acbod dydd Sadwrn, RJiJigfyr 25mii, 1685.. lioir? wl y catu,—Mr. J. Watkins, A.C., Trefocrts, ( I'r cor, dlim dan 80 o rif, a gaao yn oieu Tlie Kcmvors ttra Tdjin3! (Creatioa), gaoisr 20p. a baton i'r ai woinyd }. I'r cor, ,l.\im dan 30 na thros 50 o rif. a r a.uo yn oreu Pebyll yr (Dr. Tarty j, gwobr 5p. ri jK-vrti o wry wod, t'.uvm (iin 20.a. thros 26 o rif, a gano yn orw yTc g^u y Myacwl (Parry>, gwobr 2p. I'r cor o blaiit, <MIm dari 33 SK"i] J'llif. na thro.<; 15 \led. a. gt'n'j yo "FCU 'Goatvg, For' (Odlaur P.f'jcigyll, gv ubr I p. 5& 0' Programs, yu cynwys. yr aU o'r te&tyuaa, i'w emal gaa yr yegrifenyd^i'^n.— D. Luwn, Bridgend Strocfc. 12-Dc24] D. L. Miiariclir Jcfousc. T^ISIEU YN UNIONGYRCHOL, Go.. uchwylwyr i gyaryckioli -Cymdeithas Gy. feiHgar Yswiriol yn Llandain a'r aethiu amgylchj^nol. Anfoner yn y lie eynfca* trwy lythyr i'r crfetrÜvl canlynol;—Goaeva Maii&«f, Swaosea Royal Frieudly Society, 60, Fi-is./oiy 1 'a. yeœ<tl1t. L<«ideas, E.C. DARLLENWCH A CHYMERWCH GYNGHOK! Os ydych yn dyoddef oddiwrth unrhyw anhwylder, nac oedwch er dim i gymeryd Gwilym -Evans' QUININE BITTERS'! Sydd fath o Tonic llysieuol, so yn hollol yr hyn y goeodix allan gan an dyfeisydd enwog. GWILYM EVANS' Quinine Bitters. Dyma feddyginiaeih y oarem argyrahau i gylw y Cymry yn mhob man. Dymanem gyfeirio aft y ddatpariaeth ddiSoant, di- dwyil, ymddiriedoi, a'r mwyaf gwecthfawr a Desiol ag y gwyddom am dam. GWILYM EVA" Quinine Bitters. Mae yn gyfansoddedig o lyslaa, wadi ei ddarparn mewn dull gwyddonol a ohelfydd gyda'c gofai a'r maovlwch mwyaf 'sydd yn ddichonadwy er siorhau ei iwyddiatifc. GWIL YM EVANS' Quinine Bitters Yw y ddarpariaofch gvfaddasaf ar gyfer' holl fiahwylderau y Cylla-psiriaut mawr trealiawl y cirff, o'r hwu y gwaagerit holl ranau meitliriaol ymbortb trwy y cyfas- soddiad. GWILYM BVANS' Quinine Bitters I ay mad ymaith holl ganlyniadaa an- nhceuliad ymborth, gwyiitogrwydd, diffyg arch waefcb, bias anhyfryd yn y genan, bcathiadau poeaog yn y frsst a'r oohrau, a rixaoau ereill o'r corff. GWILYM EVANS' Quinine Bitters. Nid oes gyffelyb i'r Phfsigwriaeth hon i hwylyeu cylctirediadau hylifau bywiol y oylaosoddiad, cryfbaa y giaa a'r oybyrao, livwiogi yr y&brydoedd, adioai y moddwl a'r tymbecMi. GWILYM :mv AJrS. Quinine Bitters A symucSa ymaith wendid yabryd, meddyl- iaa ac ofn&u pryderus, dyobuiygiaa ofer, owsg aztestawyth, a breuddw^aoa oyn- hyrfas. GWILYM BVANST Quinine Bitters Sydd ddarpariat-th ddi-ail i baro a fifrwyth- Joci y gwao v, rfaag y manwynioe, oarnwyd- ydd, olwyfaa, a tharddiadaa M y oroen. GWILYM EVANS* Quinine Bitters Yw y ddarpatiseth ngoraf allan rhag holl auhwylderan a dolariaa yr Afu, yr Arenaa, a'r Dwfr, megys y Olcfyd Melyn, y Dropai, y Ctyd a'r Mwyth anysfewythder yn y meingefo, poeasm yn y lwyuaa, fej. GWILYM EVANS" Quinine Bitters. Y mio yo rhagori ar bob Bitters ereill mewn jmrdeb a rbinwedd. N Hi oes yo. ddynti yr uu gronva o weuwyn, haiarn, arian byw, na cbySeiriaa oysglyd a gwan. ychol o na math. GWILYM EVANS' Quinine Bitters. Yn gymyesiad ffodaa, yK cyawyselfensu gweithgar y Uyai&u a gydnabyddtr yn ddi eiLhriad y mwyaf rhinweddai o'r holl lysian arferol oc adnabyddus y a y gelfyddyd feddygol. set Qu iuiee, Saras parilia, Gentian, Burdock, Dandeliou, Saffron, a L& vender. GWILYM FAVAKM Quinine Bitters. Bitif y ddarpariftetb boa ar ei pixon ei hanan mown rh&^<uciaetbaa meddygol, a'i chlod yn awr yu oduabyddos trwy wledydd EwTop, Asia, Awstralia, America, yr Aifft, a 5>baiih&M. ereili o'r byd. GWILYM EVANS' Quinine Bitters. Fel darpariaeth feddygol, y mae wadi der- byn y oymeradwyaethaxx ucholei- oddiwrth feddygon, arddausoddwyr, ffaryllwyr, a uifer fawr iawa o dystiolaefchaui oddiwrth ddyaioo oredadwy øyd, i ea tmwiia wedi oadl Jiwyt woiihtui arwydii, yu dyation o ersiii wesli dl iswbl iaohaa gallddi. CYFARWYDSIADAU I'W PWROASU. G«fyner yn eghir nca QUININE BITTERS GWILYM HVAWS. Y mae a,r westh gan treryUwy-r a gwerthwyr Braint Fe*.k«ygini»efc]iau ferwyV deyraas, ar Gyfandir Kwrop, yn America, Aifrica, yr AitFt, Cyprus, Australia, &c., mewa potelaa 2s. 9c. a 48. 6s., ac mewn biy<jlutu ifia 6c.. yr un. Gellir arbed swllfc wrth bryntl potel 4s. 6s., y mae ya cynwys (Iwvwai(h cym&int &'r botel 2s. 3c. Er cael y gwir Bitters, gofvnor fel hya,—'Potelaid o QUININE BITTERS G W ILYM EYANS,' A gofaler am wolei fod «bw 'GwrLYM; Kvajts, F.C.S., M.P.S^' briatiedig ar Stamp y Uyw- odcaetii ox, w-ltif pob potei. D. S..—0>i Usiin lir aiahawsder {iwixawi, gellir eu cad oddiwrth. yr awdwr,ya ild:3ratil trwy y j Pcwt, o*a. y prmaedd a ttodwyd. HUGHES'S Blood Pills Y FEDD Y GINI AETH RHYFEDDOL AT Y GWAED, Y OROEN, Y NERVSS, XR AFU, A'R OYLU". HUGHES'S Blood PiUs YN Effeithio yn Rhyfedd SCURV7, ARY CLEFYO Y BRENIM, MANWYNIAU, CLEFYDAU'R CROEN, TAKDDIADAU AR Y CSAWDr PENDDYNDOj, COR.NWYPON", CLwrFm* HUGHES'S BloodPills Hynod fel yr laciiant DIFFFG TBAUL. DYSPEPSIA, BILIOUSNESS. POKN PEN, II POEN OEFNt "a A'R OQEEAU; LUMBAGO. PLEUKISY, FITS. GOUT. NERVOUSNESS. CLEFYD MELYv, GKAFRL, BE" DDISTE^LPSa, SPLKEN, hLi8Tt ^^Miloedd yn cael iachad yat flynyddol trwy gymeryd HUGHES'S BLOOD PILLS DarUener tystioiaetli noa ddwy a gaaiywr TYSIIOLAETH Y PAROS. J. BEV A.N. WAIJNARLWYDD. Yr wyf wedi bod va dyoddef ya fawe iawn am hir amaer oddiwrth Qdiffyg Treal- iad (itidigestion) a chlefy d. yr &fa (Liver complaint) Cefaisgyngo? i gymeryd eicit Pma, sef flUUHES'S BLOOD PILLS, ao yr wyf yn tystio en bod wedi gwaen i lies mawr iawn i mi. Yr wyf yn well nag y byddwn am hir B.msat. Mi a ddylwn fod wedi rhoddi gwybodaeth yn gyuQ, ood fy mod am roddi paa,%f eithaf arnyat. maent yn haedda pob cvDmoliaiebh; all Sollaf ond ea rccommendio i btwb addiac brofiad penoaoi. PARCH. J. D^VL^, UPPES CFF-LPSK BRECON. Gtoddefwoh i mi roddi haaes yr offiMth 8t; gafodd eioh Pills, saf U s; U tlKS'S BLOOD PILLS, arnaf. Mi a gefr*xs lexaid, ac oymerais hwynt yn 01 y cyfarwyddyi, ae yn tar faan mi a'a yn syera&L ymaith y poon mawr ap, oedd rhweg fir ysgwyddau, a'r diffyg teael av, oedd yn ty mlino am amser rnaith. Yr eediS heSaitih gwyrfchiol yu peri syndod !aa..n?r i mi, ao yr wyf yo cure la y «dy.:oej.fii kwy C-AOL eu cyojervd gan bob dyoddefodd oddiwrth! Ddiffyg Traul. (i weudid lv*.rv&3. foea, P': R, a Glwendid Ybbryd. Mae dyloiss arnaf ea recommettdio i ereill. \$* haedda y olort mwyaf a gwybodxAKL, M7.t daaynt trwy y by t. -J HANES RBTFSOO. AawylSyr,—gticy f hyeljj^ f.J;t eich tiUGHE'e*' KL(K) i.1 PILL^ effaith wyrthiol arnaf. Vr dy- oddef am fisoedd od iiwrth afieefay'V. v ?v u croen, y pen -yr oed ) ty wimon y« M'mm oraeh, hyd at fy agka^iwn a'm f; yr oedd yr iaflatomatiou ya iy It Lm hamraaCiau tfel nas gaiiwo. a -1I.:r. y eoleuai; yr oeddwa yu oor ac V-& heb ddim chwaetb M fwy d -k f. Cr.( Nott;, eich Pills gwertbfiwr amser, daetimm ya boil t ivl, (Signed j Haverfordwest. Li c v TRAPE MA K |"Hughes's Mils* p-RHHrsfi- Y maeUwyddiaant y r, llawor i'w dyn wared ".<, r; Mark, sef lion caion air hl:¡'" '> v ■> I ydyw. Ar werth am ,s. post, 1/3, 2,:> 1 Gyda'r Post a JACOB HIM 1 £ ES^ J Cbonical and Jfmwi': .A' i; '\n's PEN A "R T H, 0 A V■.LA?; [ HOliK ANro s, •??% Qafgaoc iV Chcaa 4 i a*?.
YR W YT BLNOS.
YR W YT BLNOS. Yn Bournemouth, prydnawn dydd Sul diweddaf, cymerodd damwain Ie i gwch, -trwy yr hon y collwyd tri o fywydau. YN meddau henafol Tennessee, ceir .penglogau dynol sydd rai fodfeddi yn hry na phenglogau dynol presenol. Fe ddywedir fod y penau dynol yn lleihau yn gyflymach yn ein dyddiau ni na'r cyrff. MEWN cyfarfod a gynaliwyd ddydd LIun diweddaf, gan lowyr Yorkshire, yn Bamsley, penderfynwyd gwneud cais at y meistri glofaol am 15 y cant o godiad yn y cyflogau. BOltEu dydd Sadwrn diweddaf, deuwyd o hyd i gortf dyn yn ddi-ben yn un o dwmels Dover. Yr oedd yn amlwg ei fod wedi cael rhedeg drosto gan gerbyd- res. Y MAE Mr. Howard Grubb, Dublin, newydd dderbyn archeb oddiwrth awdur- dodau llyngesol y wlad hon am yr ys- bienddrych (telescope) rawyaf yn y byd fr Royal Observatory yn Greenwich. YN nglofa y Deep Duffryn, Mountain Ash, nos Iau diweddaf, cyfarfyddodd William Davies, glowr, Victoria Street, Miskin, â. niweidiau angeuol, trwy i gareg yn pwyso oddeutu haner tynell, syrthio arno, Bu farw ar ei ffordd i'w gartref. Gadawodd weddw a dau o blant. DYDb Iau diweddaf, yn Trecynon, Aberdar, bu farw plentyn o'r enw Wil- liftm Percy Morgan, mewn canlyniad i niweidiau a dderbyniodd ar yr 16eg o'r mis diweddaf, trwy dynu starch berwedig dros ei wyneb, ei fynwes, a'i freichiau. Dyoddefodd y bychan yn fawr. Dydd Sadwrn diweddaf, trwy ddam- wain, cymerodd Mrs. Evans, priod y Parch. D. Jenkyn Evans, curad St. Dewi, Uwynhendy, ddogu o cadolie acid yn lie gwin. Anfonwyd am y meddyg ar un- waith, a choleddid peth gobaith am ei gwellhad, oud bu farw prydnawn dydd Bul. Y MAE Arglwyd.l Rosebery wedi aw- grymu y dylai Deddfwrfa y wlad hon atal gorweithio yn mhob rhan o lafur- waith y wlad. Os ydyw hwn i ddy- too yn un o bynciau rhyddfrydol y dydd, Did oas amheuaeth na fydd yn un poblog- aidd. YR ydym yn cael fod Mr. Erlwin James, yr hwn gynt fu yn oruchwyliwr tanddaearol yn nglofeydd Risca, wedi marw yn dra disymweh yn Nantymoel, Glyn Ogwy, dydd Mercher yr wythnos ddiweddaf, mewn canlyniad i dorrad alestr gwaed. Yr oedd yn awr yn oruch- wyliwr glofa y Wyndham, Cwmogwy. DYDD Gwener diweddaf, bu farw Arglwydd Erne, yn nghastell Crom, swydd Fermanagh. Yr oedd yn ei 83ain mlwydd oed. Y mae yn cael ei ganlyn gan Arglwydd Crichton, yr aelod dros Fer- managh. Yr oedd y trancedig yn dir- ieddianydd poblogaidd, a chymerai ddy- ddordeb itiawr yn ei ddeiliaid. Dywk!>iii fod iechyd Mr. Gladstone yn awr yn dda, a\ ynbryd yn fywiog. Fod ei lais hefyd wedi gwella yn weddol, er nad etc yn abl i ymgymeryd a thraddodi aureithiau meithion. Modd by nag, dys- gwylir y bydd yn abl i ymgymeryd ag ymweliad a r Ygotland o hyn i ddeehreu y mis dyfodol, ac yn addas i unrhyw waith rhesymol fel ymgeisydd Seneddol. DYDD Sadwrn diweddaf, hebryngwyd gweddillion hen frodor o'r Hafod i fyn- went y Gyfeillion, er eu claddu, ond wedi darllen y gwasanaeth,, ac i'r seremoni angladdol gael ei orphen, deallwyd fod y eorff wedi ei osod yn y beddrod chwith. Cymerwyd yr arch i'r eglwys am y nos, a gorchymynwyd tori bedd arall. Aeth- pwyd dros y seremoni yr ail waith boreu y Sabboth. Prydnawn dydd Sul diweddaf deuwyd 0 hyd i ferch^lleg, oed o'r enw Elizabeth Evan#, merch John Evans, glowr, Brith- dir, Maesteg, wedi boddi mewn llyn yn agos i'w chartref. Cychwynodd y ferch o ei thad er myned i Maesteg, nos Sadwrn, a chan na ddaeth hi yn ol, aeth y cymydogion i cinviiio am dani, a phryd- nawn dydd Sul daeth ei brawd hynaf o hyd i'w chorff mewn llyn yn agos i dy ei tlhad. Nos Iau diweddaf, cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus brwdfrydig yn nghapel Moriah, Bhymni, yn gefnogol i Mr. Warmington fel yr ymgeisydd Rhyddfrydol dros ran- harth Bedwellty o sir Fynwy. Cymer- wyd y gadair gan Mr. Twynog Jeffreys, llywydd Cymdeithas Ryddfrydol y lie. Cymerwyd rhan yn y cyfarfod gan Mr. Dixon, y Parch. George Owen, y Parch. J. R. Evans, Mr. John Jones, ac ereill. Pasiwyd y penderfyniadau arferol gyda brwdfrydedd anarferol. Nos Sadwrn diweddaf, yn fferm Bed- well Stud, ger Wrexham, daeth un o'r ,-gwasanaethyddion .0 hyd i ddyn a ym- ddangosai ar farw, mewn hen adeilad nad oodd neb wedi bod ynddo am beth amser. 'Cymerwyd ef ar unwaith i dlotdy Wrexham, lie y cafodd yr ymgeledd angenrheidiol. Yn fuan daeth ato ei hun 4ei ag i allu siarad, a dywedai ei fod wedi ] bod yn yr adeilad er ys pymthegnos, a -hyny heb damaid i'w fwyta. Ei enw ydyw James Edwards, 50 oed, wedi ym- •adael a'i wraig, yr hon sydd yn byw yn Birkenhead. j Y mae adroddiad y Local Government ] Board ar dlodi a thlodion y wlad hon yn dra boddhaol. Er yr holl farweidd-dra j maenachol sydd wedi cymeryd He yn y btynyddoedd a aethant heibio, yr ydym yn cael fod cyfanrif y tlodion wedi Ilei- bau yn 1834, o 14,422 mewn cydmariaeth i 1883, 0 19,847 mewn cydmariaeth i 1J582, o 21,997 mewn cydmariaeth i 1881, ac o 42,135 mewn cydmariaeth i 1880. Ond er y gwelliant sydd wedi cymeryd He, y mae yn ddychrynllyd < meddwl fod y bymthegfed-rhan-ar-hugain or boblogaeth wedi derbyn cynorthwy plwyfot yn 1884. Y MAE gwrthdarawiad newydd gy- meryd lie ar y rheilffordd yn agos i St. Paul, Unol Daleithiau, trwy yr hwn y lladdwyd pump o bersonau. CYMERODD ffrwydriad le yn ngweithfa bylor St. Petersburgh ddydd Sul di- weddaf, yr hwn a lwyr ddinystriodd un o'r gweithdai, ac a laddodd dri o'r gweith- wyr. Y MAE yn cael ei hysbysu fod mudiad ar droed i roddi arddangosfa fawr presenol Llundain ar agerlongan, a gwneud ar- ddangosfa yn mhrif perthladdoedd y deyrnas. Y mae hyn yn rhywbeth newydd mewn arddangosiadau.
LLOFRUDDIAD MERCH IEUANC GER…
LLOFRUDDIAD MERCH IEUANC GER LEOMINSTER. Cymerodd llofruddiaeth dychrynllyd le yn agos i Leominster, swydd Hen- ffordd, nos Fercher yr wythnos ddi- weddaf. Y mae yn ymddangos fod dwy ferch ieuanc, oeddyntwedi bodyn casglu hops ar ffarm a elwir yr Holme, ger Weobley, perthynol i Mr. Rogers, yn yfed yn y prydnawn gyda dau fachgen ieuanc o'r dref. Ymadawsant yn nghyd er dychwelyd i'r frerm. Beth a gymerodd le wedi hyny, ni■ I yw yn hysbys, ond bernir i'r dynioit geisio treisio y merched wrth groesi y caeaii, y rhai a wrthwyneb- asant. Yr oedd ol ym-lrech galed ar y cae cyntaf wedi gadael ) r hoe!. Uaddwyd un fcnyw o'r enw Darby, 33 j oed, tra y derbyniodd y Hall niweidiau mawrion. Yr oedd talcen Darby wedi ei daraw i mewn, ei thrwyn wedi ei dori ymaith, a'i gen wedi ei anafu. Barn a y meddyg fod yr oil wedi ei gyflawni a phren a gafwyd yn ymyl, yr hwn oedd yn orchuddiedig a cwaed. Y maeun o r dynion, o'r enw Will Urns, wedi ei gy- meryd i fyay, ond y -iaae- yr. ail wedi dianc.
TAN^WA GLOFAOL YN NEW TREDEGAR.
TAN^WA GLOFAOL YN NEW TREDEGAR. Cymerodd tanchwa gyffrons le yn y lofa a elwir Pwll Eliiol, New Tredegar, ddydd Iau diweddaf, a hyny y mae yn ymddangos mewn canlyniad i gyfanswm 0 nwygael ei ryddhau trwy gwymp anferth yn y lofa. Araf iawn y mae y gwaith wedi bod yno er ys amryw wythnosau, ac mewn canlyniad ychydig o weithwyr oedd yn y lofa ar y pryd. Ni chollwyd yr un bywyd ar y pryd, ond cafodd deuddeg o bersonau eu newidio yn fawr, ac yn eu plith Wiiiiam Williams, yr hwn a sudd odd y pwll. Lladdwyd hefyd dau geffyi, a gwnaethpwyd cryn ddinystr ar feddianau. Y mae Lewis D. Perkins, William Thomas, Joseph Reed, Thomas Cook, a John Beaver, yn mhlith y clwyfedigion.
DIWEDDARAF.
DIWEDDARAF. Dydd Sadwrn diweddaf bu farw y IIanc, Lewis D. Perkins, mab i David Perkins, New Tredegar, 14eg oed, mewn canlyniad i'r niweidiau a dderbyniodd yn y danchwa uchod. Y mae William Williams, William Boylan, Joseph Reed, a'r bachgen Thomas Cook, hefyd mewn sefyllfa beryglus, tra y mae yr oil o'r lleill yn debyg o well a.
TROSEDD GLOFAOL.
TROSEDD GLOFAOL. Yn Ilys ynadon yr Ystrad, ddydd Llun diweddaf, cyhuddid Thomas Wil- liams 0 dori rheol 167 o Ddeddf Rheol- eiddiad Mwngloddiau. Hysbysid fod y troseddwr, yr hwn oedd yn labrwr, wedi ymgymeryd &'r gorchwyl o hitchio ar y 25ain cyntisol, a rhoddi arwyddion yn y pwll, yr hwn sydd yn 200 llath o ddyfn- der. Yr oedd yr hitchwr, y mae yn ym- ddangos, wedi i hoddi y tram ar y carriage yn y boreu, yr hon a ogwyddai i raddau drosodd, ac aeth un o'r dynion yn mlaen i wneud pethau yn iawn. Yn y cyfam- ser rhoddodd yr amddiffynwr arwydd i godi y tram. Ni chafodd yr hitchwr un amnaid o hyny, ac achubodd ei hun yn uuig trwy neidio i'r naill ochr. Pe bu- asai y carriage wedi myned droedfedd yn uwch, buasai yr hitchwr wedi colli ei ben. Wedi i'r ynad sylwi ar berygl y weithred, dirwywyd Williams i 40s. yn cynwys y eostau.
CYDWEITHREDIAD Y MEISTRI ALCAN.
CYDWEITHREDIAD Y MEISTRI ALCAN. Cynaliwyd y cyfarfod mwyaf llwydd- ianus ac unfrydol a gynaliwyd erioed gan feistri y gweithfeydd alcan, dydd Sadwrn diweddaf, yn Abertawe. Cymerwyd y gtrlair gan Mr. James Spence, a eby- nrychiolid cymaint a 52 o weithfeydd. Dywedai y llywydd nad oedd efe wedi clywed am gymaint ag un weei tori y I cytundeb sydd rhyngddynt i leihau y I cynyrch, a chredai ei fod wedi ei gad w yn ffyddlou. Dywedai yn mhellach fod {?9 j 0 weithfeydd alcan yn Nghymru a Glou- j ccbtershire, yn gweithio 367 o felinan a t bod ^anddynt, gydag vchw&oegU t y diwrtfod hwnw,'75 o weithiau, yngv? jt io 354 o felinau, yn yr Undeb, ac nad oedd ond y nifer bychan o bedwar gwaith, yn gweithio 13 o felinau, y tu allan. Wedi cael anerchiadau oddiwrth Mri. Rogers, Thomas, Tregoning, T. D. Dan- iel, T. Chivers, G. B. Strick. D. W. Wil- liams, ac ereill, penderfynwyd cario allan y penderfyniad o atal y gweithfeydd un wythnos o bob pedair hyd ddiwedd Me- hefin, 1886. Penderfynwyd hefyd fod 2p. y felin i'w tanysgrifio gan y meistri er rhoddi tysteb i Mr. Spence fel cydnabyddiaeth am ei lafur di-ildio er dwyn oddiamgylch undeb a chyd-ddealltwriaeth cydrhwng y meistri.
RHYBUDD YN DOWLAIS.
RHYBUDD YN DOWLAIS. Achoswyd cryn gynwrf yn Dowlais a'r gymydogaeth ddydd Sadwrn diweddaf, yn herwydd i rybudd gael ei roddi i fyny yn y gweithfeydd haiarn, y byddai i bob cytundeb cydrhwng y cwmni a'u gweith- wyr derfynu yn mhen y pedair wythnos. Y mae gwahanol farnau yn nghylch am- can y rhybudd, yn enwedig trwy fod y fasnach yn ddiweddar wedi adfywio. Ofnir yn lied gyffredin mai gostyngiad cyflogau sydd mewn golwg gan y cwmni. Bydd rhwng tair a phedair mil o weith- wyr yn cael eu heffeithio beth bynag sydd mewn golwg. Nid oes dim o'r glowJr yn cael eu cynwys yn y rhybydd hwn. Dywed gohebydd yn ddiweddarach nad oes amheuaeth nad amcan y t liybudd ydyw gostwng cyflogau yr haiarnweitbr wyr. Fod rhybudd cylfelyb wedi ei roddi yn Cyfarthfa.
MARWOLAETH ARGLWYDD SHAFTESBURY.
MARWOLAETH ARGLWYDD SHAFTESBURY. Bu Arglwydd Shaftesbury farw yn Folkestone ychydig cyn dau o'r gloch prvdnawn dydd Iau diweddaf, a bu farw yn dawel a. di-frys. Yn ystod y boreu, darfu idde gyfansoddi dau lythyr, y rhai a ysgrifenwyd gan ei ferched. Ymddy- ddanai hefyd &g aelodau ei deulu yn hapns a chariadus, ac mewn pcdfaith feddiant o'i synwyrau. Yr oedd yn dys- gwyl angau, ac yr oedd ei dawelwch gyda'i 0 blant yn neillduol effeithiol. Ganwyd ei arglwyddiaeth ar yr 23ain o Ebtill, 1801, ac felly yr oedd dros 84 oed. Y mae yn cael ei ganlyn gan Arglwydd Ashley, yr hwn a anwyd yn 1831, a gad- awodd dri mab arall a dwy ferch. Ei ail fab ydyw yr Anrb. Evelyn Ashley, AS. Yr oedd ei arglwyddiaeth y n enwog am ei ymroad gyda phob mudiad da a dyngarol, ac yr oedd ei cnw yn un teulu- ol yn mhlith pob enwad o Gristionogion.
CYMERIAD HYNOD.
CYMERIAD HYNOD. Dai Pen Frenchman oedd dipyn o wag yn Aberdar ryw driugain mlynedd yn ol neu ragor. Cymerai arno ei fod wedi bod mor anffodus yn mrwydr Waterloo a cholli ei ben, yr hwn a dorwyd ymaith gan gleddyf un o'r gelynion. Pan yn y cyflwr hwnw, modd bynag, cly wodd ben yn trolio heibio iddo, a chan gredu mai ei eiddo ei hun ydoedd, ymaflodd ynddo a chlapiodd ef ar eiysgwyddau ar un- waith tra yr oedd y criawd a'r gwaed yn wresog, a darfu iddynt gydio yn lied dda Arferai nodi allan fel prawf o'r ffaith, y gwahaniaeth lliw rhwng y rhan uchaf a'r rhan isaf o'r wddi; trwy hyny, yr oedd yn llwyddo i gael gan lawer i'w gredu. "Yn mhob gwlad y megir gl-«w."