Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
EISTEDDFOD GADEIRIOL ABERDAR
EISTEDDFOD GADEIRIOL ABERDAR Dymuna pwyllgor yr eisteddfod uchod hysbysu y bydd y contralto song, sef y I LOBt Chord, i'w chanu yn Dghyweirnod F (Y13 ol copi No. 1 gan Boosey and Co., JLlundain), ac nid yn ol y programme I Hefyd, mai 1 Napoleon's March acrots the Alps' gan Michael Watson, fydd y chwar- cuawd berdonegol Dros y pwyllgor, ERYR GLAN GWAWR, Ysgrifenydd.
HOLWYDDOREG AMDDIFFYNOL EIN…
HOLWYDDOREG AMDDIFFYNOL EIN HEGLWYS. Fe ddarfa i chwi, Mri Gol., yn eich rhifyn diweddaf, brofi fod oich colofnau yn rhydd i Eglwyswr yn gystal ag Anghydffurfiwr ar bwno mawr y dydd—y Dadgysylltiad, a thrwy byny, yr ydwyf fel Eglwyswr selog am i chwi gyhoeddi yr holwyddoreg an mhrisiadwy canlynol, a gyfansoddwyd gan un o ddysgawdwyr anfarwol yr Eglwys yn Aberdar, ao a fa yn faes llafur plant ysgol j yr Eglwys yno y Sabboth o'r blaen. Er mwyn fy nghydgenedl anwybodus mewn pethau Eglwysig—y Cymry—yr ydwyf wedi gwneud cyfieithiad llythyrenol o'r trysor llenyddol, fel yr ymddangosodd mewn uewyddiadur Saesonaeg. Rbag y tybir fy mod wedi gwneud cam a'r gwreiddiol, trwy ei fod mor ddwfodreiddiol a chlasurol go- beithio y rhoddweh y Saesonaeg gwreiddiol i mewn yn ogystal. Credwyf y rhoddir taw ar walchod Cymdeithas Rhyddh&d Crefydd ar ol hyn. EGLWZSWR I'K CARN. G. Pwy a'ch gwnaeth chwi, fy mhlant i ? A. Duw, syr G. A yw Daw yn dda ? A. Ydyw, syr. G. A yJym ni oil yn dda ? A. Nac ydym, syr. G. Beth ydym nil ynte? A. Pechadar- iaid, syr, G. Da iawn. blant da Yn awr, dywed wch pa. le yr ydym yu byw? A. Yn Aberdar, syr. « G. A oes lleoedd addoli yn Aberdar ? A. Oes, syr tair Eglwys. G. A ellwch chwi eu henwi ? A. Gallwn, Byr St loan, St Elvan, a St. Mair, G. Oni fyddai yn bechod i gau y lleoedd 11a hyn ? A. Byddai, syr. G. A oes yna bobl yn ymdrechu eu cau, a'n hysbeiiio ni o'r lleoedd da hyn? A. Oes, syr. G. Oni ddymunent hwy eu troi yn mu. seums nou rywbeth arall pe yn bosibl? A. Gwnant, syr. G. Onid ydyw y bobl hyn yn ceisio aiD hysbeiiio o'n harian hefyd ? A. Ydynt syr. G. Yr arian sydd genym i dalu ein periglor da, onide ? A. Ie, syr, G. Pwy ydynt, fy mhlant da i ? A. Pobl Cymdeithas Rhyddhad Crefydd, syr. G. Beth ydynt-a ydynt yn bobl dda? A Nac ydynt, syr, G. Beth ydynt, ynte ? A Lladron, syr. 0. Beth hefyd, a ydynt yn bobl eirwir ? A. Nac ydynt, syr, ond pobl anwireddos. G. Beth a ddywedasoch chwi? A. Cel. wyddwyr ac ysbeilwyr, syr. G. Da iawn, blant da. Peiliwch chwi anghofio'r ffeithiau hyn. Yn awr eto:— Onid ein dyledswydd ydyw gwneud yr oil a allwn i wrthwynebu y bobl ddrwg hyn 1 A Ie, syr. Ydyw, fy anwyl blant; y mae yn ddyled- swydd arnom, ac yr ydwyf am i chwi gofio hyn oil wedi yr eloch gartref, a dweyd wrth eich tadau a'ch mamau am beidio rhoddi eu henwau wrth unrhyw ddeisebau a ddyg y bobl ddrwg hyn iddynt, a gofalwcb ddyfod i'n cyfarfod ni nos Fawrth, yu y Neuadd Ddirwestol. Y SAESONAEG. Q. Who made you, my children? A, God, sir. Q. Is God good ? A. Yes, sir. Q. Are we all good ? A. No, sir. Q. What are we then ? A. Sinners, sir. Q. Well done, good children. Now tel- me-where do we live in ? A. Aberdare, sirl Q. Are there any places of worship in Aberdare ? A. Yes, sir; three churches. Q. Can you name them? A. Yes, sir; St. John's, St. Elvan's, and St Mary's. Q. Wouldn't it be a sin to close these good placea ? A. Yes, sir. Q Are there any people trying to close and rob us of these good places ? A. Yes, air. Q Would not they like to turn them to museums or something else, if possible ? A. Yes, air. Q. Don't these people try to rob us of our money, too ? A. Yes, sir. Q. The money we have to pay our good vicar, is not it ? A. Yes, sir. Q. Who are they, my good children ? A. The people of the Liberation Society, sir. Q. What are they-are they good people ? A. No, air. Q. What are they, then? A. Thieves, sir. Q. What else; are they truthful people ? A. No, sir story-tellers. Q. What did you say ? A. Story-tellers and robbers, six. Q Well done, good children. Don't you forget these facts. Now again :-Isnt it our dnty to do all we can to oppose these wicked people ? A Yes, sir. Yes, my dear children, it is our duty, and I want you to remember all this after you go home, and tell your fathers and mothers not to sign their names to any petitions these wicked people will bring them, and to mind to come to our meeting on Tuesday night at the Temperance Hall. RHEOLAU Y GRAWYS. 0 Y.—Y mae ein harweinwyr offeiriadol dnwiolfrydig hefyd wedi rhoddi i ni y rheolau syml oanlynol am dymor y Grawys, y rhai y byddai yn dda i gorff ac eneidiau pawb eu mabwysiadu: 1. Codi haner awr yn gynt bob boreu, a rhoddi y cyfryw adeg at ryw ddefosiwn grefyddol. 2. Adrodd yn ddyddiol Salm lii, a hyny ar eich penliniau, mewn cyfeiriad penodol at eich prif bechod neu demtasiwn, 3 Bod yn biesenol mor amled ag y galloch yn ngwasanaeth yr Eg. Iwys ar ddyddiau yr wythnos. 4. Bod yn bresenol yn y cymun santaidd unwaith yn yr wytbnos. 5. Neillduo rhyw an ymborth neu ddiod (megys ynienyn, siwgr, gwiQ, neu ddiod), neu ryw ymarferiad (megys ysmocio) i ymwrthod ag ef. 6. Ymwrthod a phob ymbleserwaith arferol (yn enwedig y rhai a arweiniant i demtasiwn), ac oddiwrth bob vmweliadau pleserol yn y prydnawniau. Darllen y Beibl, a llyfrau da ereill, yn fwy mynych nag arfer. Oyngor.—Nodwbh rai o'r rheolau uchod yn nechreu y Grawys, a phenderfynweh eu cadw.—E. 1'B, C.
EISTEDDFOD GADEIRIOL TREDE.…
EISTEDDFOD GADEIRIOL TREDE. GAR. Cynaliwyd yr eisteddfod fawreddo 1 uchod dydd Llun diweddaf yn Neuadd Ddirwestol y dref, o dan Dawdd prif foneddwyr y cylch oedd. Llywydd, y Parch T. Theopbilus, Ficer Tredegar. Llywyddwyd yr a^ Idaug- os?a gelfyddydol oedd yn nglyn a'r eistedd fod gan Mrs Colqahonn, Bedwellty House, Tredegar. Beirniaid—y farddoniaeth a'r rhyddiaeth, y Parch Evan Rees (Dyfed); y ganiadaeth, Mr R. C. Jenkins, R.A.M., Llanelli; y map drawing, Mr W. S. Williams, Tredegar; y traethawd, Mr John Williams, survfyort Tredegar. Cyfeilydd, Mr G. G. Golding, Tredegar. Arweinydd y dydd, Mr Illtyd J. David. Am haner awr wedi wyth o'r gloch y boreu ffurfiwyd yn orymdaith hardd, cynwysedig o swyddogion a pbwyllgor y sefydliad ac ereill, gan gyohwyn oddiwrth y Coffee Tavern hyd at y Persondy, preswylfa y IIywydd, ao oddiyno yn ol ar hyd y brif heol i'r Neuadd Ddirwestol, yn cael en blaenori' gan seindorf bres perthynol i Wirfoddolion Tredegar. Am 10 o'r gloch agorwyd yr eisteddfod, pryd y cafwyd gan y llywydd anerchiad hirfaith a gwir ddyddorol, ac mewn arddull cdealladwy ac hyawdlog. Cyfetadleuaeth y Map Drawing; ymgeis wyr, J. Jackson, F.C.W., Annie, a Junior. Y wobr oedd 7s 60, ond rhoddodd y pwyll- gor 10s 6c i'r buddugol, Master Phillips, Tredegar. Beirniadaeth yr Englyn i'r I lrferthyr Ex. press," gwobr, 2s 6c, 30yn cynyg. Englyn- ion cyffredin oeddynt y rhai hyn oil, ond y goreu oadd Gwynfardd, yr hwn ni atebodd i'w enw. Cystadleuaeth ar yr unawd i Baritone, Ffarwel,' gwobr 10s, buddugol o 14 oedd Mr John John, (gynt o Aberdar, ond yn awr yn Mliontypridd), sef mab Mr Thos. John, overman yn Mhwll No 9, Abernant. Dy- wed odd y beirniad fod y datganiad hwn yn ardderchog. Adroddiad I 0 haul aros t' 0 Athrofa'r Beirdd, goreu o 10 oedd Mr D. Williams, Sirhowy. Cystadleuaeth i gorau o blant ddim dros 15 ced na thros 3J 0 rif, gwobr 2p. a 30s i'r arweinydd. Y darn oedd I Mwy sydd eto i ga.n!ya' tri chor yn cystadlu, sef Saron, Tredegar Glanowy, perthynol i Silo, Tre. dÐgar; a Blodau'r Oes, Dowlais; ond rhacwyd y wobr rhwng Saron dan arwein. iad Mr John James, a Glanowy dan ar- weiniad Mr James Lewis, a rhocidwyd 10s i Mr Simon John RobertP, arweinydd cor Dowlais. Cystadleuaeth ar yr anthem Dyrchafwn Fawl' (John Ev^ns, A.C., Tredgar), gwobr 5p, a 10s i'r arweinydd, gan gorau o'r un gynulleidfa, ddim liai nn 30 mewn rhif. Pump cer yn cynyg, sef United Brethren; Tredegar; Tabernael, Rhymni; Penuel, Tredegar; Carmel, Sirhowy; a Nazaretb, Poatlofityn; ond y buddugol oedd Taber- nacl, dan arweiniad Mr E. J. Evans.
CYFAEF D Y PBVDNA WR.
CYFAEF D Y PBVDNA WR. Yn absenoldeb C. M. Warmington, Ysw. 1 Q.C., y llywydd apwyntiedig, cymerwyd y gadair eto gan y Ficer. Darfu i Mr Warm ington anfon saith gini i'r pwyllgor, Argl- wydd Tredegar 5p, a'r Ficer 1p. Wedi awerchiad byr gau y llywydd parchns, oafwyd anerchiadau barddonol gan Twynog Jeffreys ac ereill. Cystadleuaeth yr unawd i denor I C&u y Tywysog; gwobr 10s; goreu o saith John Thomas, Rhymni. dan feirniadaeth Eos Morlais. beirniadaeth y traethawd ar I Ddyled. swydd y genedl Gymreig i gefnogi yr Eisteddfod;' gwobr lp; y buddugol o saith oedd Daniel Jones (D ablolo) Merthyr. Beirniadaeth yr englyn i Joseph Cham berlain, Ysw, A. S; gwobr 2s 60; goreu o 25 oedd Edmygydd—Evan Jones ('Hedydd Cynou) Trecynon Abardar. Beirniadaeth yr englyn ar 'Amynedd;' gwobr 3a; goreu o 51 oedd .Aaron, ond ni atebodd i'w enw. Cystadleuaeth yr unawd i soprano « The beaut ous cradle;' gwobr 10s; tair yn cynyg—cydfuddugol Mrs Price Rhymni a Mrs Lloyd Tredegar. Beirniadaeth y 40 Uinell 0 farddoniaeth wedi ei gyfaddasu i fod yn adroddiad-yr awdwr i ddewis ei destyn; gwobr 10s; y buddugol o 40 oedd Dyehrynedig, ond ni ateboda i'w enw. Ei destyn oedd I Dinas ar dfl,n.' Beirniadaeth yr ymdaith (march) oreu i'r Ysgoliou Sabbothol, yr awdwr i ddewis ei eiriau ei hun; gwobr 10s; goreu o 20 T. Price, A.C., Rhymni, a rhoddwyd ail wobr o 5s i John Evans, A.C., Tredegar. Beirniadaeth y traethawd ar Hanes Tredegar' (Seisnig); gwobr 5p; tri yn cynyg—goreu Herodotus, sef Evan Powell, Charles Street, Tredegar. Darllen cerddoriaeth ar yr olwg gyntaf -unrhyw lais. Hen Nodiant; gwobr 10s 6c; goreu Evan Evans, Rhymni. Beirniadaeth Dyfed ar destyn y gad- air, sef Pryddest ar Obaith,' heb fod dros 300 llinell; gwobr 5p a cbadair dderw gwerth 2p 2s. Ymgeisiodd 26 ond y buddugol oedd Ap Llawddog, sef y Parch W. Parry Huw, B.A., gwein- idog capel Beulah, ger Castellnewydd- Emlyn. Gynrychiolwyd ef gan y Parch S. Griffiths, Abersychan. Pan yn myned trwy y seremoni o gadeirio, ffurfiwyd cylch o'r beirdd canlynol :-Twynog Jeffreys, D. W. Davies, Rhymni; Hywel Morganwg, 'Hedydd Cynon, Tiberog, Gwilym Rhondda, Hilyw, Gwentwyson.'Dewi Mai, Talmai, Myfyr Ddu, Griffith Mathews, loan Gwent, Ap Noah, Carnelian, J. Volander Jones, Gwyddoufryn, Myddfai, Teganwy, loan Llyfnwy, Trychalaw, Ac. Dyrchafwyd y cledd uwchben y cynrychiolydd gan Twynog a Tiberog, ac yna gofynwyd gan Dyfed mewn llais eglur ac awdardodol dair gwaith, A oes heddwch a'r dorf yn ateb yn gadarnhaol, Oes 1' yr hyn oedd yn cadarnhau fod awduraeth y bryddest yn genuine. ï na cafwyd anerchiadau i'r buddugol gan y beirdd, a chwareuodd y seindorf bres See the conquering hero comes.' Hefyd canwyd can bwrpasol i'r amgylch- iad ar yr alaw Hen Wlad fy Nhadau,' gan Win. Powell, Tredegar, a'r dorf yn uno yn y gydgan. Yn wir, ni aethpwyd trwy y seremoni yn well mewn un Eisteddfod Genedlaethol erioed. Cystadleuaeth y deuawd ar y 'Cup of Bliss' Blodwen); gwobr 108 6c; goreu, Mr Ifor Abraham a Mr Lloyd, Tredegar. Beirniadaeth y contralto solo, ''Rwy'n I cofio'r adeg ddedwydd;' gwobr 10s; yr oreu o'r ddwy a ymgeisiodd ydoedd Mrs Price, Rhymni. Cystadleuaeth y prif ddarn corawl O Alar Du,' er coffadwriaeth am y di- weddar Silas Evans (Alaw Ddu), gan gorau heb fod dan 120 o rif; gwobr 20p, a lp i'r arweinydd; tri chdr yn cystadlu, sef Cor Undebol Sirhowy a Tredegar, Gwent Harmonic, a'r Dowlais Choir; ond y goreu oedd Cor Undebol Sirhowy a Thredegar, o dan arweiniad Mr Wil- liam Jones (Gwilym Howy). Wrth roddi ei feirniadaeth, dywedodd Mr Jenkins:—Rhaid i mi ddweyd fy mod wedi cael fy moddloni yn fawr gan bob un o'r corau. Am y cor cyntaf, ni chlywais well canu erioed,-yr oeddynt yn cydleisio i'r dim, ac yn cadw mewn ton drwyddo, ond un slip bach, a gresyn iddo gymeryd lie; ond ar ol hwnw, yr oeddynt yn myned yn mlaen yn alluog dros ben—geirio yn eglur, yr hyn sydd yn bwysig iawn mewn canu cystadleuol. Yr oedd pob part yn gwneud ei ran yn dda heb fod yn tramgwyddo y llall. Yr oeddynt wedi bod yn hynod o ddoeth i gadw eu lleisiau nes dyfod at yr ex- pression, ac yr oedd hynyna yn finishing da; yr oeddynt yn diweddu fel y de- chreuasant. Am yr ail gor, yr oedd yn canu gormod ar y dechreu, fel, pan ddaeth at yr alargo yn tudalen 4, yr oedd yn cael ei ddisplacio; y bass yn taflu y seiniau ereill allan o'r swn, fel nas gallem eu clywed. Ansefydlogrwydd oedd yn peri hynyna. Yn y major key yr oeddynt yn sharp. Yr oeddynt yn fforsio gormod ar eu lleisiau. Yr altos yn rhy gyflym, a'r sopranos dipyn yn ansicr. Ond canu da ar y cyfan. Aeth cor rhif 3 allan o'r pitch, ynte yr oedd yn canu yn dda. Y cor cyntaf yw y goreu o lawer. Yr oedd y neuadd fawr yn orlawn yn mhob un o'r cyfarfodydd, a throdd allan yn llwyddiant yn mhob ystyr. Arwein- iwyd gweithrediadau yr eisteddfod gan Mr Illtyd J. David mewn modd meistr- olgar, yr hwn oedd yn un o'r rhai goreu a welsom erioed at y fath orchwyl. Yn yr hwyr, cynaliwyd cyngherdd fawreddog, pryd y gwasanaethwyd gan Madame Williams-Penn, Eos Morlais, ac R. C. Jenkins, R.A.M.
Advertising
EISTEDDFOD FAWREDDOG FERNDALE. CYNEL IR yr Eisteddfod uchod yn yr Assembly Hall, dydd Llun, Mai 5ed, 1884.. Beirniad y cyfansoddiadau: y Parch J. O. Jones (Ap Owen), Ferndale. Beirniad yr hosaoau: Mrs Dr Parry, Rock House, Ferndale. Beirniad y ganiadaeth: Mr D. Rosser (Asaph Cynon), Pontypridd. Arweinydd: Parch Mr Hughes, Ferndale. Cadeirydd: Mr D. Davies, Manager, Ferndale. Phir DESTYNAU. I'r cor, heb fod dan 60 mewn nifer, a gano yn oreu I Clyw, 0 Dduw, fy llefain' (D. Jenkins, Treoastell); gwobr, 12p., a lp i'r Arweinydd. I'r oor (jar un gynulleidfa, heb fod o dan 2Q o nifer, a gano yn oreu I Blodeuyn baoh wyf fi mewn gardd' (Gwilym Gwent) gwobr 3p, a 5s. i'r Arweinydd. I'r parti o wrywod, heb fod dan 12 mewn nifer, a gano yn oreu I Oydgan y Morwyr gwobr lp 10s. Am y Traethawd goreu ar I Gymeriad yn ngoleuoi y Testament Newydd;' gwobr lp. Am y Bryddest oreu ar 'Distawrwydd yn y nef,' gwel Datgaddiad, heb fod dros 60 Hinell, gwobr .Sl. Y mae y Programmes yn awr yn barod ao i'w cael am geiniog yr un, trwy y post ceiniog a dimai, gan y Mri H. DAVIES, 99, Lake Street, Ferndale; a JOHN HO WELLS. 74, Dyffryn Street. Ferndale. Y mae doethineb yn well nag aur.' PAVILION, BRYNMAWR. CYNELIR EISTEDDFOD IFORAIDD Fawreddog yn y lie ucbod dydd Llun, Mawrth 31ain, 1884.a PRIF DDARNAU. I'r c6r heb fod dan 60 mewn rhif, a gano yn oreu I Halelujcth Chorus' (Handel), gwobr JHO a chadair â. phhte cerfiedig i'r arweinydd. I'r parti heb fod dan 20 mewa rhif, a gano yn oreu I Nant y Mynydd,' gwobr .£2. I gõr 0 blant, heb fod dan 30 mewn rhif, ao heb fod dros 15 oed, a gano yn oreu 'Come, come away,' gan R. Davies (Cymro Bach). Caniateir pedwar mewn oed i gy- northwyo. Gwobr XI 10s, a baton i'r ar weinydd. Cadeirydd :—Thomas Morgan", Ysw., Coalbrook Vale. Arweinydd:-Mr Charles Hicks, Brynmawr. Cyfeilydd Mr B. L. George, Brynmawr. Beirniaid :-y oanu: Mr Thos. Ricbardp, Hirwain, near Aberdar; y farddoniaeth a'r adroddiadau, Parch Eli Asaph Edwards Brynmawr. Tryaorydd :—Mr David Burrows, Over. man, Coalbrook Vale. Ysgrifecydd :—Mr Lewis Wm Lewis, Overman, Nantyglo. Programs, lc yr un, trwy y post, ltc, i'w cael gan yr ysgrifenydd, y trysorjdd, a chan Mr D. Jones, Swan Inn, Brynmawr. T. E. JONES, TOBACCO MANUFACTURER, ABERAVON, PORT TALBOT, AND AT No. 2, TERMINUS BUILDINGS. MILL LANE, CARDIFF. The Tobacco manufactered at hip Fac- tory is the best and cheapest in the market. Y mae Tybaco Mr J E. Jones, Aberavon, wedi ei brofi yn ddiamheuol y Tybaco goreu yn y wlad. RHYBUDD. PRIZE DRAWING GILFACH GOCH. Dymnnir hysbysa fod y uohod wedi ei gohirio hyd y 7fed o Ebrill, 1884, er mwyn caei yr oil o'r llyfrau i law. jw-Tarian V Gweifihiwra m bob math 0 argraffwaith rhad, Ymddyddan rhwngGwr a Gwraig. Y GWR.- Y moddion goreu eto. Benditb ar ben Doctor Goodman, ddyweda i. Bum bron a myned o'm cof rhwng colli fy nghwsff. a anwyd trwm yn y fargen wrth gerdded a'r babi yna am oriau bob nos i lan ac i lawr yr ystafeU. Garw na fuaswn yn gwybod am Bowders Doctor Goodman yn gynt. I WRAIG.—IE, yn wir, y maent wedi bod 0 fendith x ni ein dau, ac i'r babi yn enwedig. Yr oedd yn y fath boen, druaa; ond ar ol y Powders yma, y mae yn cysea fel oen bob nos. & Doctor Goodman's INFANTS' mm. I BLANT YN TORI DANEDD. Y maent yn gwnenthur tori danedd i blant yn esmwyth, cyflym, a diogel, ac yn atal yr oU glefydau peryglus ag y mae plant yn agored iddynt yn ystod amser tori danedd. TYSTIOLAETH PWYSIG. Anwyl Syr,—Yr wyf yn ddiolchgar i chwi am dynu fy sylw i ac ereill at eich Powders rhyfeddol. sef Doctor Goodman's Infants' Powders. Y maent wedi eu profi yn fendith i fy nheulu. Y mae Íf mhlant wedi bod yn dyoddcf llawer wrth tori danedd gyda Fits, y Frech Goch, Scarlet Fever, Inflamation, a gwahanol Rashes. Yr wyf, dan bob amgylchiad, yn rhoddi iddynt eich Powders gwerth- fawr chwi, ac nid wyf erioed wedi cael fy siomi. Y maent rhagor nag unwaith, wedi gweithredn bron yn wyr thiol. Gallaf eu cymeradwyo i sylw pob mam, Arwyddwjd, Canton, Caerdydd. A. JENKYNS. Mewn blychau, Is. 1!c Ss. 9c., a 4s. 6cL, ac i'w oael gan bob Druggist, neu oddiwrth y perchenog:— x JACOB HUGHES, Laboratory, Penarth, Cardiff. RHYFEDD Fel y mae y clefydau poeous a pheryglus canlynol, sef DROPSY DDWFR A DROPSY WYNT Grafel, Diffyg Dwfr, Chwydd yn y Traed, Cluniau, Ymasgaroedd, &c., Gwynt a llawuder yn y bol, Curiad y Galon, Cramp a chwsg yn y Cluniau, Diffyg Anadl, &c., Yn cael eu gwellhau yn wyr thiol gan v Pills hynod, HUGHES'S Dropsy- Pills! -=- Y mae canoedd lawor yu iach heddyw trwy eu oymeryd. Gwragedd mewn canol oed a ddylenfc eu cymeryd yn ami er oadw draw y doleriau uchod. Fel esiampl, weleia ganlyn fel prawf o'u heffaith hynod:- 'ilko GWELLHAD GWYBTHIOLI SYR,—Y mae fy mam dros 60 oed, ao yr oedd mewn oyflwr anobeithiol iawn hyd nes iddi ddeohreu defnyddio eich Pills ohwi, sef Hughes's Dropsy PiUs. Chwydd mawr yn ngwahanol ranau o'r corff, poen- pen, diffyg dwfr, byrdra anadl, Yn awr y mae yn gwella yn dda. Grcnant. E. DAVIBB. LLAIS O'B AMERICAI [ SYR, Rhyfedd yr effaith sydd yn eich Pills clodfawr, sef Hughes's Dropsy Pills. Yr oeddwn wedi bod yn dyoddef am tlyu. yddan gan y Dropsy, Chwydd Mawr, Diffyg Anadl, Gwynt, &c, ao yn cadw y gwely am lawer o amser, a'r dootoriaid wedi fy rhoddi i fyny, ond wedi oymeryd dau flyohaid o'oh Pills chwi, daeth y chwydd i lawr saith modfedd mewn deg diwrnod. Yn awr yr wyf yn holliach. Clod i chwi am erioed en darganfod. ANN MORGANS. J Trunbill, Ohio, America. wa RHYBUDD. Er mwyn siorhau pawb rhag twyll, gofaler cael y Trade Mark, sef llun Diamond a'r geiriau Dropsy Pills oddifewn ar bob blwoh, ac enw Jacob Hughes ar stamp y Llyw- odraeth. Heb hyn twyll ydw. Ar werth trwy yr hoU deyrnas am Is lie, 2s 9o, a 4s 6c; trwy y post, Is 3c, 28 llo, a 4a 9o, oddiwrth y percbenog- JACOB HUGHES, Chemical d Medical Laboratory, Penarth Cardiff. Y mae pob Chemist yn eu gwerthu. "ELI AT BOB CLWYF." Gomer's Balm (Copyright Registered). IACHAWR RHYFEDDOL! At bob math 0 glwyfau ar y traed, clunian, gwddf, pan, &c; Erysieplas a manau llidua a digronedd ereill y croen, oornwydon crawnllyd, bronau a phenbronan dolnrus ac archolledig, traed chwysedig a dolurus, piles, toriadau allan yn mhenau aa ar wynebau plant a rhai mewn oed, llygriad plant, llosgiadan, haul losgiadau, &0 j brychni y wyneb, gwddf, &c, dwylaw tor- ladol, malaithau (chilblains), llygaid ao amrantau dolurus. crafu, croen garw ax y gwyneb, dwylaw, Ac, sourvy y oroen, 4o. • D. B.-Dymunol yw parhau gyda defoydd- 1 iad o r Balm hwn hyd nes fod iaohad llwyr wedi ei gyrhaedd. Mewn hen glefyd a t phan y bydd y gwaed yn ddrwg, cymorer y f pelenau llwyddianus, Hughes's Blood Pilla I yr un amser. [ Cyfarwyddiadaa Uawn ar bob blwch. I Ar werth gan bob fferyllydd am 7^0, I lie, a 2s 9o, trwy y post, 8!c Is 3o, a 2a 1 le Gofyner i'r fferyllydd i anfon am pan nad yw yn ei feiddiant. Na thwyller 1 chwi. RHYBUDD.-Y mae y teitl 'Gomer's Balm' yn copyright, ac unrhyw ddynwared- iad a gosbir. Dim yn bur heb y teitl hwn ar bob blwob. PERCHENOG A'R DAEDANFYDDWR JACOB HUGHES, T Medical Laboratory, M Home and Foreign Export Depot PENABTH Home and Foreign Export Depot PENABTH CARDIFF. « 1;
--ETHOLIAD BWRDD GWARCHEID-WAID…
ETHOLIAD BWRDD GWARCHEID- WAID MERTHYR TYDFIL AM 1884. MRI GOL.Yr wyf ar fedr er ys rhai blynyddoedd i anfon llith i'r DABIAN ar y pwnc o etholiad y Bwrdd uchod, ond hya yma, heb ddwyn hyny i weithrediad; ond eleni. am fod cyfnewidiad pwysig wedi cy. meryd lie, yr wyf yn barnu na ddylaswn fod yn ddystaw yn hwy. Yn ol yr hen dre n, nid olddid yn ethol ond dros un flwyddyn; o hyn allan, fe fydd y rhai a etholir i eistedd am dair blynedd, i'ch cynrycbioli neu ynte, fel y mae gyda rbai o'r aelodau presenol, i'ch camgynrychioli; ac am byny, yr wyf yn enw dynoliaeth yn galw arnoch i fod yn ofalus i bwy y byddwch yn rhoddi eich ymddiriedaeth eleni. Y mae lie i ofni nad ydyw hyd yn nod rhai o'n gweithwyr, mewn cylchoedd gweithfaol fel Aberdar a Merthyr, ag sydd mor agored i ddamweiniau, yn talu sylw dyladwy i'r cwestiwn pwysig hwn. Fel y mae y ddeddf yn bresenol, nid oes neb yn ddigon call i eistedd ar y Bwrdd heb ei fod yn byw mewn ty yn 30p y flwyddyn o rent, neu ynte fod ganddo 500p o eiddo personol; o ganlyniad, t mae hyn yn an. fanteieiol ar lawer pryd i gael dynion eyf- addas yn mhob ystyr i sefyll; ond credwyf y bydd i'r Weinyddiaeth bresenol, os y ca hamddeh i hyny, iefieithio y cyfnewidiadau angetrheidiol, yn nghyda dwyn y tagel (ballot) i weithrediad pan yn ethol i'r Bwrdd hwn, fel ag y mae yn bresenol yn yr ethol iadau seneddol a'r Bwrdd Ysgol, &c. Fel y mae yn hyabys i chwi yn Aberdar ac i ninau yn Merthyr, yr ydym bob blwyddyn yn cael ein blino gan ddosbarth o greaduriaid sydd yn cymeryd arnynt i'n cynorthwyo i lanw y papyran pleidleisio drosom Ond gan fod Ty y Cyffredin wedi' penderfynu fod y bleidlais yn eiddo i ohwi eich hunain, yr wyf yn ostyngedig yn dy muno arnoch i anfon y cyfryw rai at eu busnes hyd nes y daw y tugel i weithred. iad ac yna, her iddynt gyda eu hystranciau mileinig. Pe yr ewyllysiwn, gallaswn fod wedi danfon rhai o'r dosbarth a nodaeom i newid tipyn ar yr awyr, ao efallai y gwnelai hyny les iddynt. Hefyd, yr wyf o'r farn na ddylai yr vnadon heddweh (ex officios) i eistedd ar unrbyw fwrdd heb eu bod yn cael. eu hethol fel rhyw bechaduriaid ereill; ond goddefer i mi, fel un sydd wedi bod ar y Bwrdd am y chwech mlynedd diweddaf, i ddweyd gair o fy mhrofiad gyda golwg ar y boneddigion hyn, yr ex ojficios-fod rhai o honynt, beth bynag, yn ymddwyn fel bon eddigion a Christionogion at y weddw a'r amddifaid. Yr hyn sydd yn fy mlino ydyw canfod rhai o'r dosbarth yr edrychir arnynt genym fel elected guardians, a chan y rhai y maent yn gynrychioli fel personau cymhwys i lanw y swydd, bob amser yn erbyn y tlawd a'r angenus; a phan y byddo cynygiad o flaen y Bwrdd i godi eyflogau (salaries) y swyddogion, byddant bwy yn ddieithriad yn cefnogi hyny. Yr wyf, o ganlyniad, eto yn eich cynghori, fel gweithwyr yn neillduol, gan mai eich mater chwi yn benaf ydyw, i gymeryd. hyn at eich ystyriaeth ar unwaith, oherwyddfe fydd yr etholiad i gymeryd lie tua diwedd Mawrth neu ddechreu Ebrill. Yr wyf yn awr yn terfynu fy llith dan yr ystyriaeth fy mod wedi gwneud fy nyled- Rwydd tuag atoch, drwy eich cyfaroh yn y ffurf hon. Ar yr un pryd, tegwch a mwy afrif y bwrdd presenol ydyw nodi eu bod yn bleidiwr y gwan bob amser. 3, Glebeland, Merthyr. DAVID DAVIES.
-iCOLEG GOGLEDD CYMRU.
COLEG GOGLEDD CYMRU. Cynaliwyd cyfarfod lluosog o lywodraeth- wyr coleg newydd y Gogledd yn Maugor, ddydd Sadwrn diweddaf, i'r dyben o ethol cynghor, yn nghyda materion ereill Yr oedd larll Powys, llywydd y coleg, yn y gadair, yn nghyda'r ddau ia lywyddion,— yr Anrh. G. Osborne Morgan, A.S., a Mr R Davies, A,S. Oddiwrth adroddiad y trysorydd, Mr J. Robeics, A.S., cafwyd allan fod yr addew idion tuag at y coleg yn awr yn 30,463p., o'r hwn swm yr oedd 16,946p. wedi eu talu i'r ariandy. Cyfeiriodd y llywydd at y ffaith nad oedd nifer y cyngbor, o dan weithred y coleg, i fod ond 25 ond fod y llywodraeth wyr. yn eu eyfarfod diweddaf, wedi pasio penderfyniad yn gofyn am ganiatad y Llywodraeth i ychwanegu eu nifer i 31. Mewn atebiad i'r penderfyniad, fod y Llyw. odraeth wedi hysbysu os buasent yn gwasgu am 5 cyfnewidiad yn y nifer, y buas d yn ei ganiatau, ond ei bod yn meddwl fod y nifer gwreiddiol yn ddigon fod coleg y Deheu dir wedi cael caniatad i ethol cymaint yn fwy o berwydd fod poblogaeth y Deheudir yn fwy na chymaint arall a'r Gogledd. Cynygiodd Mr Thomas Gee, Dinbych, fod Cynygiodd Mr Thomas Gee, Dinbych, fod penderfyniad Caer i gael sefyll, a'u bod j n gofyn i'r nilex gael ei ychwanegu i 31, yr hwn a eiliwyd gan Mr R Pugh Jones, LIundain, canys os oedd y boblogaeth yn myned i effeithio ar nifer y cynghor, y gallai hefyd yr effeithiai ar swm rhodd blynyddol y Llywodraeth. Yn nesaf dechreuwyd ar etholiad y cynghor. Yr oedd 65 o bersonau wedi eu cynyg am 17 o seddau, sef 82 o Eglwyswyr, 21 o Fethodistiad, pump o Annibynwyr, pedwar o Fedyddwyr, dan Wee ley aid, 800 un Undodwr. Y canlyniad oedd, Mr W. Rathbone, A S Undodwr, 111 o bleidleis- iau Mr T. Gee, Methodist, 103 Syr R. A. Ounliffe. Barwnig. A.S., Eglwyswr, 100; y Parch G. Herber Evans. Caernarfon, Anni bynwr, 98 Mr R. W. Hudson, B.A Caer, Annibynwr, 86 y Parch S Davies, Bangor. Wesleyaid, 86; Cadben E. H. Verney, R.N. Bangor, Eglwyswr, 84; Mr Stuart Rendel A. S., Eglwyswr, 83; y Parch Getbin Davies, Coleg y Bedyddwyr Llangollen, 80; Parch Lewis Edwards, D.D., Bala, Methodist 80; Deon Bangor, 77; Mr J. R. Davies, M.A., J.P., Pont Menai, Methodist, 74; Parch Daniel Rowlands, M A., Coleg Normalaidd Bangor, Methodist, 68; Mr T. Merchant Williams, B.A Llandain, Methodist, 63; Mr Arthur Wyat, Bangor, Eglwyswr, 63; Mr R A. Jones, B A., bargyfceithiwr, L'erpwl, Methodist, 59; Mr John Rhys, M.A Proffeswr Rhydychan, Eglwyswr, 58. Derbyniwyd canlyniad yr etholiad gyda chymeradwyaeth—11 o Anghydffurfwyr yn erbyn chwech o Eglwyswyr. Yr oedd Mr Elis J. Griffiths, B.A., LI B., Coleg Downing, Cambridge, a'r Proffeswr T. Foulks, B A Coleg Caerdydd, wedi eu cynyg, pryd yr etholwyd Mr Elis J. Griffiths, Methodist, gyda mwyafrif mawr. Bu amryw betbau ereiil o dan sylw, a phenderfynwyd cael un Proffeswr i'r Gadair Geltaidd i berthyn i'r coleg.
.. CANTORION Y RRONDDA A'R…
CANTORION Y RRONDDA A'R EIS FOD GENEDLAETHOL. Nos Forcher diweddaf, cynaliwyd pwyll gor arall, i'r dyben c wuend trefniadau tuag at ffarfio c6r yn cynrycbioli y dyffryn yma yn J r eisteddfod uchod yn mis Awst nesaf. Etholwyd Mr T. Jones, Paris House, Tonypandy, i'r gadair. Yr oedd Mr D Leyshou Rees yn cymeryd y cofnodion fel yn y pwyllgorau blaenorol. Y peth cyntaf i'w ystyried y noson yma oedd derbyn atebiad y ddirprwyaeth a ddanfonwyd o'r pwyllgor y noson o'r blaen i siarad a Mr M. O. Jones, Treherberfc, yn gofyn am ei gydweithrediad er caelun cor o'r cwm, yn hytrach na bod dau, fel o'r blaen. Dywedai y Mri D L. Rees a Tom Felix eu bod wedi cael derbyniad croesaw- gar a boneddigaidd gan Yr Jones ac ar ol siarad ar y mater mown gwabanol agweddau, fod Mr Jones wedi addaw, os oedd cor o'r dyffryn yn myued i gystadlu eleni o dan arweiniad Eos Cynlais, Ead oedd yo ei fwriad ef i fyned o gwbl, ao nad elai efe ddim yn un o ddau gõr yn y dyfodol; os oór o gwbl, cael yr boil ddyffryn yn rhydd i wneud un c6r nerthol. JDywedai Mr Felix fod Mr Jones wedi addaw gwneud ei oreu er hwylysu y pymudiad, ond nad oedd yn addaw canu gyda y c6r. Goiynodd y cadeirydd a oedd y ddir prwyaetb yn deall pa uti a oedd Mr Jongp yn barod i ymgymeryd A bod yn unrbyw bwyddog yn nglyn a'r symudiad? Ei reswm dros ofyn y fath gwestiwn oedd, ei fod yn ystyried Mr Jones yn berson tra chymhwys i gymeryd lie blaenllaw yn nglyn A symadiad o'r natur yma. Byddai yn gaffaeliad mawr i'r pwyllgor i gael dyn. ion o'i fath ef i ymgyiperyd o ddifrif a'r gwaith ac heb hyny, nad oedd yn gweled gobaith- am gario y symudiad allan yn llwyddianus. Dywedai Mr Felix ei fod yn meddwl ein bod i ddeall oddiwrth yr hyn a addawodd Mr Jones, sef gwneud ei oreu ar ran y c6r,' y byddai yn barod i ymgymeryd âg unrhyw .Y swydd y buasai y pwyllgor yn briodol yn ei gosod d&n ei ofal. Cododi Mr Rees, a dywedai ei fod wedi cael nodyn gan berson oedd yn bresonol oddiwrth Eos Cynlais yn ei bysbysu nad oedd yn ei fwriad i gystadlu yn L'erpwl eleni. Ar hyn cyfododd llawer o siarad, ac wedi llawer o ddadleu, barnwyd y byddai yn ddoetb enwi dirprwyaeth i fyned i siarad ag Eos Cynlais Gan nad oedd neb wedi bod yn gofyn iddo yn swyddogol dros y pwyllgor, ond ei fod wedi cymeryd yn ganiataol y by Mai iddo ymgymeryd a chor, enwyd y personau canlyuol i fyned i siarad ag Eos Cynlais, ac i ddymuno arno i ym gymeryd ag arwain cor:—Mri Tcm Felix, Tom Stephan (Telorvdd), David Thomas, grocer; Daniel Morgan, Treorci; T. Price, Treorci; a T. J. Davies, argroffydd, Ar ol siarad ychydig ar fan drefuiadan ereill, gobiriwyd y pwyllgor hyd nos Wener. Ailgyfariyadwyd nos Wener drachefn. Etholwyd Mr Jones Paris House, i'r gad air. Dywedai y cadeirydd fod yn llawen ganddo woled gwycebau newydd yno. Yr oedd yn amlwg fad y symudiad yn enill nerth Galwodd ar y cyfeillion fu yn siarad A Eos Cynlais i ddyfod yn mlaen i roddi hanes eu hymweliad. Dywedodd un o'r cyfeillion ei fod wedi gweled Eos Cynlais, ac ar ol llawer o siarad, fod yr Eos wedi addaw ymgymeryd ag arwain cdr ond er mwyn iddynt ddeall eu gdydd yn llwyr, nad oedd yn addaw myned i gystadlu os na fyddai argoel am g6r da. Cafwyd areithiau grymus gan Tom Stephens, Felix, Rowlands, T. Price, Tailor, D. L. Rees, Dl. Morgan, John Hughes, Hawkins, ae ereill, ar y ffordd fwyaf effeithioligario allan ysymudiad ynllwydd ianus, ac yn nghyloh cael lie i gynal re hearsals, &o. Penderfynwyd aDfon cais at y School Board i ofyn am gael eu caniatad i gynal cyfarfodydd y cdr yn un o'r Board Schools Enwyd cynrychiolwyr i fyned o flaeu y Bwrdd dydd Linn nesaf i'r dyben hwnw. Gadawyd pob pwnc o bwy& yn agored byd y cyfarfod nesaf, yr hwn a gy nelir yn yr un lie nos Fercher nesaf, Chwefror 27ain, am haner awr wedi saith, pryd y dysgwylir cyfeillion Treherbert, a phawb a deimlant ddydderdeb yn y sy. mudiad, i fod yn bresenol,
SIENCYN PENHYDD ETO.
q Methodistiaid gonest fel Siencyn fu rhai o brif ddynion y Bedyddwyr yn Nghymru, megys y llywydd Jones, Llangollen; Dr Daniel Davies, Maurice Jonee, &o., a 11a oedd ereill gyda hwy. Ie, dylai'r Brodor yma roddi heddwch i lwoh Siencyn bellach. Fe'i adgyfododd er mwyn ei bardduo a'i laweiddio, ao to lwyddodd yn hyny. Ym drechais inau ei ddangos ef beth oedd-yn wr gonest ger bron Duw, ond yn rhyfedd o ddyeithriol ger bron dynion. Beth yw hi ar y clychau ? A ydyw ffynon Cwm Brom- bil yn tarddu yn awr ? Peidied a fy anmhriodoli i eto i berson arall, fel y gwnaeth o'r blaen, ond dyna arfer pobl lechwraidd fel efe. Nid oes angen ar y Trochwyr (trueni na allasai ei enaid oul eu galw y peth y geilw hwy yn. ei feddwl yn --) ymdrechu bawlio neb yn annheg, fel yr arfera rhai. Hawliant gywirdtb bob amser, gan fod eu crefydd yn dysgu hyny, ac y mae hynhefyd yn fwy nag y myn rhai wneud. I Pa ddydd o'r mis yw hi, Ned ?' ebe Wil y gwandd y tu cefn i mL I Beth yw hi-mae yn bymthegfed dydd, mi wa,' ebe Ned. 1 Beth yw hi ar y lieuad-ar ei gwendid neu M ei chryfdwr ?' Ar ei gwendid, 'ddyliwn i,' ebe Ned eto. I Rbyw leuad fach gomon ei gwa'a yw hi; mae wedi 'ffeithio ar y Brodor yma i rywle, meddai nbw.' Both yw ergyd y gwynt Ned ?' ebe Wil. I Tua'r De,' atebai Ned. "Glywaisttiaraganwyll gorff Cwm Dyffryn?' 'Do. Mae rhywbeth mawr i ddygwydd.' ABEEAFON gycfc, LADY PAD yn awr.