Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
24 articles on this Page
- , I YR WYTHNOS. ,.
I YR WYTHNOS. YB ydym yn cael fod y Barnwr W. 'B. Owen, a apwyntiwyd yn lie y Barnwr Cox, wedi dechreu ar ei orchwyl. YB ydym yn ca.el fod hoddgeidwad o'r enw William Smith, yn preawylio yn Woodlands, Staindrop, nos Sadwrn di- weddaf, wedi ymweled a thafarn er gweled fod pob peth yn iawn; ond wrth asio tip glo, derbyniodd gawod o geryg, a syrthiodd i'r llawr. Pan y cyrhaedd- odd cynorthwy, cafwyd ei fod yn eithaf marw, ac un ochr i'w benglog wedi ei tharaw i mewn. Tarawyd Dr Middleton hefyd i'r llawr a phriddfaen. Mae tri glowr o'r enwau Joseph Lawson, Wil- liam Leddle, a Joseph Hodgson, wedieu cymeryd i fyny. MAB negro a gymerwyd i fyny-, yu Avoudale, yn agos i Cincinnati, America, wedi cyfaddef ei fod ef a chjrfaill arall wedi llofruddio negro arall, ei wraig, a merch yr oeddynt wedi ei mabwysiadu, fel y gallent werthu eu cyrff i sefydliad meddygol, gan yr hwn y cawsant 15 doler yr un am y cyrff. Cymerodd y llofruddiaethau le yr wythnos ddi- weddaf. Bu Thomas Michael, Cwmaman, yr hwn a gyhuddir o fod wedi achosi marw- olaeth y deg person a gollasant eu byw- ydau yn nglofa y Garnant, Ionawr yr 16eg, o flaen yr ynadon yn Llandilo ddydd Sadwrn diweddaf. Gohiriwyd yr achos hyd ddydd Sadwrn nesaf. DYDD Mawrth diweddaf, yn nglofa y Bute-Merthyr, cyfarfyddodd dyn ieuanc o'r enw Kinsey &'i ddiwedd, trwy i siwr- nai o ddrams fyned drosto, a'i ladd yn y man. BoREU dydd Llun diweddaf, o fewn i furiau carchar Taunton, dienyddiwyd Charles Kile, labrwr, am lofruddio Albert Miles, yn Bath, Ionawr yr ail. MEWN canlyniad i orlifiad pwll y Winches, perthynol i gwmni Plymouth, Merthyr, yn nghyda chrynhoad nwy, y mae y gwaith wedi ei atal, a rhyw 300 o lowyr wedi eu hatal. 0 Hong Kong, dyddiedig dydd Llun, yr ydym yn cael fod berwedydd yr ager- long Kotsai wedi ffrwydro dydd Sul diweddaf, tra yroedd ar daith oddiyno i Macao. Lladdwyd 17 o'r teithwyr, o'r thai yr oedd 8 yn Ewropeaid, a'r gweddill yn frodorion. Aeth y Hong yn adrylliau. Y MAE llithriad tirol wedi cymeryd lie yn nghloddfeydd ceryg Benchenetts, yn agos i Brenne, trwy yr hwn y lladdwyd pump o'r gweithwyr, UADDWYD un Jeremiah O'L&ry, 19 oed, ar reilffordd Caerphili, 1" Pentre- bach, Pontypridd, ddydd lau diweddaf.
LLOFRUDDIO TEULU CYFAN.
LLOFRUDDIO TEULU CYFAN. Mae hanes llofruddiaeth teulu cyfan wedi ein cyrhaedd 0 Hermans^dt, yn Transylvania, Vienna. Nos* Iau, yeh- ydig cyn deg o'r gloch, gwelwyi tan yn anead-dy meddyg. Pan y torodd j swyddogion y drysau, cawsant y Doctor,- ei wraig, ei blentyn, a'i wasanaethferco, &'u gyddfau wedi eu tori, yn nghydag amryw niweidiau ereill ar eu cyrff. Wadi eu llofruddio, a chyflawni ysbeil- iad, yr oedd yr ysbeilwyr wedi gosod tAb. o dan y gwelyáu; wedi cloi y drysau, a dianc.
. LLOFBUDDIAETH AC YMGAIS…
LLOFBUDDIAETH AC YMGAIS AT HUttANLADDIAD YN L'ERPWL. ^Cymerodd amgylchiad gofidus le boreu dydd Sul diweddaf yn nghlafdy Mill- road, L'erpwl, He y mae tlodion perth- ynol i Undeb West Derby yn cael gweinyddu arnynt. Trwy ryw ffordd, cafodd un Thomas Rutherford, yr hwn a fu yn y tlotdy, fynedfa i'r sefydliad rhwng dau a thri o'r gloch yn y boreu, ac a weithiodd ei ffordd i ystafell un Ann Grove, un o'r gweinyddesau, a chydag ellyn efe a dorodd ei gwddf o'r naill glust i'r llall. Yna ceisiodd ddi- nystrip ei fywyd ei hun, trwy dori ei wddf. Yn ystod yr ymdrech a fu rhyng- ddynt, gallodd Grove roddi gwaedd, yr hyn a ddygodd swyddogion ereill i'w hystafell. Yno y cawsant hi yn ei gwaed, ac yn mhangfeydd olaf .marwolaeth. Methai ddweyd dim, ond cyfeiriai at fongl yr ystafell &'i llaw, lie y cafwyd tutherford yn gwaedu, a'r ellyn wrth e ocqr. Bu farw Grove yn fuan, ond y mae Butherford eto yn fyw, ond mewn sefyllfa beryglus iawn.
-Y SENEDD.
Y SENEDD. Yn Nhy y Cyffredin, dydd Mercher diweddaf, rhoddodd Mr Rendel rybudd y byddai iddo yn fuan alw sylw y ty at sefyllfa. bresenol Coleg Aberystwyth, a chynyg peHderfyniad mewn cysylltiad fig ef. Yn Nhy y Cyffredin, dydd Iau di- weddaf, gofynodd Mr Henry Richard i Ig-Lywydd Bwrdd Addysg pa bryd y dysgwyliai efe y gallai ddwyn o flaen y Tt y mesur mewn cysylltiad ag addysg uwchraddol yn Nghymru, yr hwn a addawyd yn Araeth y Frenhines. Mewn atebiad, dywedodd Mr Mundella nas gallai nodi y dyddiad, ond ei fod yn go- bqithio yn lied fuan i roddi rhybudd am ei ddyfodiad, er fod rhai pethau i'w pen- derfynu eto.
, j AT LOWYR Y BHONDDA. i
j AT LOWYR Y BHONDDA. i GYFEILLION,—Bydded hysbys genych ] y cynelir cyfarfod misol y dosbarth dydd Llun nesaf yn y lie arferol yn y Ton, Ystrad, i ddechreu am 10.30 yn y boreu. ] —Mabon, I
DYODDEFIADAU MAWRION AR Y…
DYODDEFIADAU MAWRION AR Y MOR. Y mae manylion pellacH wedi eu cael yn nghylch colliad y llong Ada Barton, perthynol i Nova Scotia, yn yr Atlantic, yn nghyda naw o fywydau. Dywed Cadben Smith, perthynol i'r agerlong Parklands, yr hon a gyrhaeddodd i Cork, ei fod wedi gweled yr Ada ar y 15fed cyfisol, wedi ystorom ddychryn- llyd, a thri o'r dwylaw ar ben yr hwyl- iau, a chyda chryn anhawsder iddo ef a'i swyddogion eu hachub. Dywedai y dynion a achubwyd eu bod wedi bod ar ben yr hwyliau am bum' diwrnod, yn yr oerfel, heb fwyd na diod, a bod y cadben ac wyth ereill o'r dwylaw wedi eu golchi dros y bwrdd.
LLOFRUDDIAETH PLENTYN YN ,…
LLOFRUDDIAETH PLENTYN YN ROATH, CAERDYDD. Dydd Mercher diweddaf cynaliwyd trengholiad yn Nghaerdydd ar gorff plentyn a gafwfd- yn ngaidd un John Stephenson, grocer, Cecil-street, Roath. Dywedodd y tad fod ganddo ferch o'r enw Agnes Amelia, 19 oed. Fod ei mam wedi marw er's peth amser yn ol, a'i fod yntau wedi ail-briodi. Ei fod wedi drwgdybio fod ei ferch mewn sefyllfa na ddylasai er's peth amser,\svi fod wedi ei holi yn nghylch hyny, ond ei bod wedi gwadu yn benderfynol. Galwodd ar feddyg, ond nas gallai hwnw sicrhau dim am dani. Iddo eylwi ei bod yn edrych yn hynod ddrwg ddydd Sul, ond ei bod yn'edrych yn-well yn y prydnawn. Yn ofni ei bod wedi rhoddi genedigaeth i blentyn, iddo fyned boreu dydd Llun at ei ferch oedd wedi priodi, a gofynodd iddi fyned i edrych hynt ei chwaer. Gwnaeth felly, a dywedodd wrthi ei bod wedi rhoddi genedigaeth i blentyn, a'i bod wedi ei roddi yn yr ardd. Iddo fyned i'r ardd, a chael y corff fel yr hys- byswyd. Iddo fyned eilwaith at ei ferch briod, a gofyn iddi gymeryd y corff, yr hyn a wnaeth. Iddo fyned at Dr Campbell, a dywedodd yr oil oedd wedi dygwydd. Fod y ferch yn awr yn y gwely, ond ei bod nos Sadwrn wedi ei gynorthwyo yn ei fasnach. Ei chwaer briod a ddywedodd ei bod wedi myned i siarad a'r garcharores, ei chwaer, ar archiad ei thad, boreu dydd Llun; iddi gyfaddef ei bod wedi rhoddi genedigaeth i blentyn, a'i bod wedi tori ei wddf A siswrn. Iddi fyned i'r ardd a chael y plentyn, a chael y siswrn yn ystafell ei chwaer, a'i roddi i'r heddgeidwaid. Wedi cael tystiolaeth, y meddyg, dychwelodd y rheithwyr farn o Lof- ruddiaeth Wirfoddol" yn erbyn Agnes Amelia Stephenson, yr hon sydd yn awr yn glaf yn ei gwely, yn nhy ei thad, a'r heddgeidwad yno yn gwylio.
. YSTORM DDYCHRYNLLYD YN AMERICA.
YSTORM DDYCHRYNLLYD YN AMERICA. Yr ydym yn cael fod ystorm ddy- chrynllyd wedi cymeryd lie yn Georgia ac Alabama, ac amryw dalaethiau ereill, ddechreu yr wythnos ddiweddaf, a bod dinystr dychrynllyd wedi ei achosi gan hyrddwynt. Mae nifer mawr o dai wedi eu chwythu i lawr, a lluaws o fywydau wedi eu colli. Y cyfrif sydd wedi dyfod i law ydyw, fod y golled ar feddianau yn dros filiwn o ddoleri, 5,000 o dai wedi eu llwyr ddinystrio, a thros dri chant o bersonau wedi eu lladd.
YR ALCANWYR.
YR ALCANWYR. Os drwg fu hanes y fasnach yr wyth- nos ddiweddaf, nid cystal ydyw yr wyth. nos hon. Mae prynwyr fel yn ddifater, a'r cyflogwyr yn gofyn yr arian a osod- wyd allan ar weithio y Ilafnau yn ol gydag ychydig elw, a'r gweithwyr yn penderfynu na cha na meistr, na phryn- wr, na neb arall, fyw ond efe ei hun. Y mae undeb yn dda, a chasglu a chy- norbhwyo y naill a'r llall yu dda, pan y mae aflwyddiant yn teyrnasu; ond tra fyddo y cyflogwyr yn ddystaw, nid yw undeb yn werth. Felly, gwel larllyn' mai dieffeithiol fyddai i ni ateb ei ofyn- iadau. Os yw gweithwyr yn dewis byw yn gaethion, gadawer Ilonydd iddynt hyd nes y bydd iddynt lefain fel plant Israel yn yr anialweh gynt. Nid un- waith, ac nid ugain o weithiau, yr ydym wedi ysgrifenu mai goreu oil po agosaf fyddo cysylltiadau pob dosbarth o weith- wyr &'u gilydd, ac yn enwedig gwahanol gangenau llafurwaith i fod, nid yn unig yn un &'u gilydd fel cangenau, ond fel un corff, yn cynorthwyo eu gilydd, i amddi- ffyn iawnderau, cyflogau, ie, ac iawn- derau breiniol y ddynoliaeth,-L. A.
[No title]
Y MAE Mr D. Kealing, Bootle, wedi a.ddaw 1,OOOp. tuag at Goleg Aber- 0 ystwyth, os parha i dderbyn grant y Llywodraeth. Y mae yn hysbys hefyd Eod Mr D. Davies, A.S. wedi addaw 500p. yn y flwyddyn am chwe' blynedd ar yr un telerau.
[No title]
GENEDIGAETH. Chwefror9.1884, priod Mr David RobertPi Belt Court, Treoyoon, Aberdar, ar fab, a jelwir ef yn David Livingstone Roberts.
IGORLIFIAD GLOFA YN SIR FFLINT.'
GORLIFIAD GLOFA YN SIR FFLINT. Yr ydym yn cael fod dwfr wedi gor- lifo glofa cwmni y Dublin Main, North- op, a'r holl weithwyr wedi eu gyru allan o waith. Mae y dwfr wedi codi-yn awr 90 o latheni i fyny y pwll. Mae pumpio wedi ei roddi i fyny, a'r glowyr hefyd wedi rhoddi i fyny gweithio yn yr unig lofa arall yn y lie, o herwydd nad oes ond ychydig latheni ar y goreu rhwng gweithau y naill lofa a'r Hall.
AT LOWYR DOSBARTH CWM ABERDAR.…
AT LOWYR DOSBARTH CWM ABERDAR. Bydded hysbys y cynelir cyfarfod misol y dosbarth uchod dydd Llun nesaf, Mawrth y 3ydd, yn y Railway Inn, Trecynon, Aberdar; y cyfarfod i dde. chreu am 11 o'r gloch y boreu. Mae taer ddymuniad 'ar i bob glofa anfon cynrychiolydd i'r cyfarfod hwn, yn gy. maint a bod rhai materion pwysig i'w trafod.—YSG.
JONAH YN MOL MORFIL.
JONAH YN MOL MORFIL. Yn y newyddiadur a elwir The Herald of Wales, y mae hanes rhyfedd am forfil y Tay, yn ystumog yr hwn y deuwyd o hyd i ddyn byw. Dywedir i'r ystumog a rhyw dair tynell o goluddion gael eu hanfon o Aberdeen i Glasgow ddyddiau yn ol, ond gohiriwyd gwneud arehwiliad o honynt am rai dyddiau. Yr oedd nifer fawr yn bresenol trwy wahoddiad pan yr aethpwyd at y gorchwyl o agor yr ystumog. Oddeutu canol dydd gwnawd agoriad eang yn yr ystumog, pryd y daethpwyd ar draws rhyw sylw- edd caled; ond erbyn i'r agoriad gael ei wneud yn fwy, synwyd yr holl wyddfod- olion wrth ganfod yno ddyn, yn gorwedd mewn dull esmwyth, fel pe yn cysgu. Bernid ar y cyntaf fod y dyn wedi marw, ond wedi gwneud ymchwiliad manylach, cafwyd ei fod yn fyw, ond mewn cyflwr o gwsg annheimladwy. Yn yr ystumog hefyd yr oedd ugeiniau 0 fan bysgod, yn nghyda lluaws 6 bethau ereill, megys llogell-ryfr, &c. rCeisiwyd trwy amryw foddion ddeffroi y cysgadur, ond ofer fu yr oil. Mynai rhai o honynt mai Jonah oedd y person. Mae h^es maith yn cael ei roddi, ond trwy nad ydym o'r braidd yn credu y chwedl, yr hon a ymddangosodd i ddechreu yn y Glasgow Evening Telegraph, ni chy- lpeddwn y manylion. N '7
.'""——♦ '' LLEFARYDD NEWYDD…
—— ♦ LLEFARYDD NEWYDD TY Y CYFFREDIN. Pan y cynygir diolchgarwch i'r Llefar- ydd ar ei ymddiswyddiad, bydd i Mr Parnell gymeryd y cyfle. i hysbysu y rhesymau nad all efe a'i blaid gydolygu yn y bleidlais. Dywedir na fydd i un- rhyw wrthwynebiad gael ei gynyg o du y Ceidwadwyr yn erbyn etholiad Mr Arthur Peel fel Llefarydd y Ty; eto bydd i Syr Stafford Northcote ddweyd ychydig eiriau a wna yn rhwydd i'w plaid hwy gynyg eu Llefarydd eu hunain yn y senedd newydd. Mae y Ty heddyw (dydd Mawrth) yn myned at y gorchwyl o ethol y Llefarydd newydd.
Y RHYFEL YN SOUDAN.
Y RHYFEL YN SOUDAN. Yr ydym yn cael fod y Cadfridog Gordon wedi cyhoeddi anerchiad o Khartoum, yn hysbysu y gwrthryfelwyr fod y Sultan, llywydd y ffyddloniaid,' yn bwriadu anfon yno fyddin fawr i gymeryd y wlad. Mae yn eu hanog i dderbyn telerau heddwch, er achub eu hunain oddiwrth y Tyrciaid. Mae bryshysbysiad wedi ei dderbyn o Suakim, yn yr hwn y rhoddir ar ddeall fod y milwyr Prydeinig yn myned rhag- ddynt o Trinkitat i Teb, i'r dyben o gladdu y rhai a laddwyd yn y frwydr yn yr hon y gorchfygwyd y milwyr o dan Baker Pasha. Dysgwylir y bydd i Osman Digma ymosod arnynt ar y daith. Dywedir fod byddin y gwrth- ryfelwyr yn 20,000. Mae yn cael ei hysbysu fod Tokar wedi ei roddi i fyny i ddwylaw y gwrth- ryfelwyr, ond nid yw y newydd eto wadi ei gadarnhau. Un genad a ddywed fod y milwyr yn Tokar wedi dechreu ymuno a'r gwthryfelwyr cyn iddo ef ymadael, a bod y llywydd mewn cynghord chynrychiolwyr Osman Digma am roddi i fyny y lle y boreu canlynol.
YSTORM 0 FELLT A THAR AN AU…
YSTORM 0 FELLT A THAR AN AU YN CYDWELI. Ymwelwyd & Chydweli nos Iau di- weddaf gan ystorm ddychrynllyd o fellt a tharanau. Deffrowyd yr holl drigolion am rhwng dau a thri o'r gloch. Yn ystod yr ystorm tarawyd clochdy yr hen Eglwys, a chwalwyd amryw droedfeddi o hopo. Cafwyd darnau o hono wedi eu taflu i'r pellder o 300 Hath. Gwnawd niweidiau mawrion i'r Eglwys ei hun, trwy syrthiad y meini, &c. Cyffrowyd nifer o drigolion Lady Street, a Cause- way Street hefyd, trwy fod meini mawr- ion yn syrthio trwy doau eu tai, na wyddent o ba Ie.
ARJHWILIAD GLOFA'R GELLI.
ARJHWILIAD GLOFA'R GELLI. Yr ydym ni sydd &'n henwau isod yn weithwyr yn y iofa uchod, ac wedi ein penodi gau ein cydweithwyr i archwilio y oyfryw ar eu rhan, yn oyboeddi ffrwych y oyfryw archwiliad fel y canlyn:— Pyllau (shafts), leflan^favib), planes, oyfar- par awyrn (ventilating apparatus), peirian- waith {machinery)—yr oil yniawn. Cawsom wythien y chweoh yn hollol glir oddiwrth nwy, ac mewn cyflwr da. Dosbarthwn wythien y ddwy a naw yn ddwy gylchdaith (district) yn ol enwau y fire men, John Davies a Thos. Sairlook Cylch daith John Daviea,—nwy doriad (blower) oryf yn heading Emerson, heb fod yn hollol Slir ar y 15fed, o herwydd ychydig esgeulus od ar ran y glowyr yn xnherthynas &'r brattice, ond yn hollol glir ar yr 16eg, pryd yr oedd wedi ei adosod yn ei le priodol ac aiferol. Nwy doriad bychan yn heading William Williams (Jonah). Cylchdaith Thomas Sairlock.-Nwy-dor. iad byohan yn heol Edward Jones, yn troi. oddiar deep Thomas Lewis. Nwy doriad bychan yn heol Edward Owens yn troi oddiar deep Thomas Lewis. Nwy doriad bychan yn deep Thomas Lewis. Nwy doriad bychan yn heol James Jones yn troi oddiar heol Baker. Casgliad bychan o nwy yn hen Deep Schoolmaster. Hen weithleoedd yn hollol glir oddiwrth nwy. Yr awyrffyrdd mewn sefyllfa deg iawn, ac wedi gwella llawer. Arwyadwyd,—JOHN THOMAS, JOSIAH HAMMWSON. Dyddiedig Chwefror 15fed a'r 16eg, 1884. O.Y.-Rhag i neb gael ei gamarwain, bydded hysbys nad ydys yn cyhoeddi ad. roddiad ond am y lleoedd hyny y daeth. pwyd i gyfarfyddiad Ag ychydig nwy. Y mae yr boll leoedd na chrybwyllir yn hollol glir oddiwrth nwy yn ei wahanol agweddau. Ymae y nwy-doriadau bychain orybwyll- edig yn cael eu teneuo au gwneud yn hollol ddiniwed yn y fan. J. J.
PENILLION
PENILLION Ar briodas Mr Daniel Jones & Miss Christmas, Aberdar. < Priodas arall eto, Dau arall wedi myn'd, Mae'r hanes wedi cyrhaedd Am danat, yr hen ffrynd; Ond hanes bendigedig Yn wir yw'r hanes hwn, A hanes pur ddyddorol I lawer ydyw, gwn. Nid yw yn newydd sydyn Os yw yn newydd gwyn, 'Roedd llawer un yn dysgwyl Am dano'n hir cyn hyn; -Ar lanau D&r a Cbgpnon Yr oedd Miss Christmas gnn Yn Frs Jones yn barod Ar dafod llawer ac, -Dedwyddach fyddo'ch dyddiau, > Melnsacb fyado'ch oes, Mi wn 'does an o honoch Mor ffol a thynu'n groes; Mae dau yn well o lawer I hwylio'r cwch yn mlaen Pan fyddo'r gwynt yn curo, Pan fyddo'r 'storm ar daen. Y mwsig yn bereiddiach A fydd i'r cerddor cu. A mwy o feddylddrychau 0 lawer yn y Glee; Bydd gwenau ei anwylyd Yn rhoddi nerth i'r g&n, A'r discords wedi toddi "• Yn awn y plantos man. Yr enw teg enillodd Miss Christmas yn y byd A fyddo yn ei banes Yn Frs Jones o hyd; A'r oerddor fyddo'n esgyn Yn uwch dros risian'r gerdd, A ffawd yn gwenn'n gyson Uwchben ei einioes werdd.—T..
rSEION, TREALAW.
r SEION, TREALAW. Traddodwyd darlith yn y capel uchod nos Wener, Chwefror 22ain, ar Awyr, Dwfr, a'r Tide,' gan Mr B. Morgan (Auriga) Cadeiriwyd gan Mr Price, Post Office, Pen. ygraig. Rhanwyd awyr i'w helfenau priodol i eglurdeb mawr trwy offerynoliaeth appar- atus. Cynygiwyd diolchgarwch gwresocaf y cyfarfod i'r darlithydd gan y Parch Mr Rees, offeiriad, ao eiliwyd gan y Parch E. Richards, Ebenezer, Tonypandy. Da genym glywed fod Auriga wedi gadael y cyrff wybrenol, a disgyn i lawr i siarad am yr elfenau a ddefnyddir bob dydd gan ddyn ac anifail.—HYDROGEN.
Family Notices
GENEDIGAETH. t Chwefror 18fed, priod Mr George Wil. liams, furnaceman, Mount, Ystalyfera, ar ferch, a gelwir ei henw yn Mary. Gem eurog yw, mi wiria,-ac un bert, Gwyn byd a'i prioda! Hulied hael ddyfodol da Ei haelwyd byth yn Ngwalia. REES LLEWELYN. PRIODAS. Chwefror 7fed, yn Carmel, Pontypridd, gan y Parch B. D. Johns (Peiriander), Mr W. R. Thomas, Boot Exchange, Treharris, aMiss Rache: Jones, Factory, Quakers Yard. MARWOLAETH. Dydd Mercher, Chwefror 20fed, yn 12 mlwydd oed, bu farw, yn Hospital Aberdar, Elizabeth, merch Lewis Davies, Rachel Street, Aberdar, o'r typhoid fever. Pryd nawn dydd Sadwrn, claddwyd ei gweddill. ion yn Cemetery Aberdar, pryd y ewasan aethwyd ar lan y bedd gan Dr Price, Mr Evans, Gadlys, a Mr Harris, Heolyfolin. Y mae pedwar o blant i'n cyfaill eto yn yr Hospital, ao y mae yn dda genym ddeall eu bod yn gwella yn dda. Y mae clod mawr yn dayledus i Mr Grier a'i briod anwyl am eu caredigrwydd i'r plait bychain ydynt yn amddifaid o fam. Taled Duw iddynt yn ddeublyg.-O.
Advertising
YR ABERTAWE FREINIOL (THE SWANSEA ROYAL), A Chymdeithas Gyfeillgar Undeb Deheudir Cymru, SEFYDLWYD lee7., Wedi ei chofrestru dan Ddeddf y Cym- deithasau Oyfeillgar, 1875. PRIF SWYDDFA: 4, HEATHFIELD STREET, 'ABERTAWE.
PWTLLGOR LLYWOnEAETHOL
PWTLLGOR LLYWOnEAETHOL Cadeirydd-B. C. Hunter, Ysw., M.D., The Poplars, Pontypridd, Cyfreithiwr- W. L. Cox, Ysw. Trysorydd-Mr. J. M. Martin, M.A. Archwilwyr-Mri. Crabb a L arcombe Arolygwr y Goruchwylwyr-Mr. John Slee, Abertawe. Bankers-Bristol and West of England Banking Company, Limited. Ysgrifenydd—Mr. Frederic Lowes. Y mae amser i bob peth, ac i bob amcan. Gwneud pob peth yn deg yn ei amser yw un o orchest-gampau bywyd. Cydnebydd braidd bawb y priodoldeb o Fywyd Yswiriaeth; folly cyflwynir i sylw y darllenydd y rhesymau a ganlyn dros ymuno a'r SWANSEA ROYAL:- 1. Am mai hon yw yr unig Gymdeithas sydd wedi ei sefydlu yn Nghymru, a bod cefnogi sefydliadau daionus ein gwlad ein hunain yn ychwanegu at ei pwys- igrwydd, ei dylanwad, a'i chyfoeth. ?' 2. Am mai Cymdeithas Gyfeillgar yw hon, ac nid eiddo cwmni penodol (limited); o ganlyniad, nid oes perchen- ogion i'w talu, yr hyn a ddiogela ei holl gynyrch yn eiddo i'w haelodau. 3. Am mai un o brif amcanion sef- ydliad y Gymdeithas hon oedd llesoli y dosbarth gweithiol, a'i bod eisoes mewn modd arbenig wedi llwyddo yn ei ham. can. 4. Am,fod y Gymdeithas hon eisoes wedi talu uwchlaw JB120,000 (cant ac ugain mil o bunau) yn ddioed i gwtdd a'i gofynion. 5. Am y geuir ymuno a'r Gymdeithas hon gan bersonau o wythnos oed hyd dri ugain a phymtheg mlwydd oed, naill Tai am nifer benodol o flynyddoedd, neu ynte hyd eu marwolaeth. 6. Am y sicrha aelodau y Gymdeithas hon iddynt eu hunain, ar eu hymuniad a hi, y bedwaredd ran o swm eu Policies, yr haner yn mhen chwe' mis, a'r cyfan- swrn yn mhen deuddeg mist. 7. Am yr ymrwyma y Gymdeithas hon i dalu pob gofynion yn ddioed ar dd6rbyniad y tystioliaethau arferol. 8. Am y gall perthynas aelodau a'r Gymdeithas hon barhau er newid eu preswylfod, o herwydd fod ganddi or- uchwylwyr drwy holl ranau y wlad. 9. Am fod cynydd y Gymdeithas hon er ei sefydliad, mewn aelodau a chyfoeth, yn mhell uwchlaw dysgwyliadau ei hed- mygwyr penaf. 10. Am y dygir yn mlaen weithred- iadau y Gymdeithas hon gan foneddig- ion o ymddiried trwyadl, yn meddu pob cymhwysder gofynol i'r gwaith. Ar aelwyd chwerw marwolaeth—wele as a Mel o flwch Darbodaeth; Hynaws aeres Yswiriaeth Yn nydd ing i weini ddaeth.
Advertising
DISTEICT MANAGER: MR. CHEEN, Wood Road, PONTYPBIDD. Quininb Bitters FzL enghraifft o'r dosbarth o feddyghl- iaethau y carem argymhell 1 ayiw y Cyn:ry yn mhob man, dymunem gyfeurio at ddof- pariaeth ddiffuant, didwyflj ymddiriedol, a mwyaf gwerthfawr a llesiol ag y gwyddem am dani, se GWILYM EVANS, Yr hwn sydd yn fath o Tonic llysienol. M yn hollol vr hyn y gosodir allan—ei fod yn gyfansoddedig 0 lyaiau wedi ei mewn dull gwyddonol, a ohyda'r gofai mwyaf sydd ddichonadwy er siorhan d lwyddiant. Y cylia yw peiriant mnm treuliawl y oorff, ao o hono ef y Kwasceiii yr holl ranau maethlonol trwy y cyfan. soddiad. Os na chedwir hwn mewn trefn, syrthia yr holl gorff i ddyryawch. ao amoan penaf y Quinine Bitters yw oadw y oylla yn iachus, a phob organ yn szweithio yn hwylus ac yn eu He, a geilir yn deilwnfl BiWere y WdyginuSS deuluaidd oreu y gwyddis am dani. Cr« meradwyir hi yn ddibetrus at amihreuliad yn ei gwahanol agweddau, ao afieohyd « ddwyfron alr afu, yn nghydag anhwylderaa gewynol. Yr ydym am lawer 0 flynyddao wedi edrych gyda gradd helaeth o ddrW. hysbyaiedS. a thueddid ni 1 wneud hyny A'r fedd^I laeth hon, sef Quinine Bitters Gwibrai Evans, hyd nes y gwelsom y fath dysturi. uwthau pwysig a dylanwadol od^wrlh ddynion a wyddent mor dda, ao a wnaethani gymaint o vmchwiliad i'w h^TOP Dvmunem yn neillduol rybuddio y ov. ho^d x fod yn oohelgar yn en detholid • gyffedriau, ft dylect fod yn &wybod ihra* beth am ansawdd y dar^SiS^Z^S a fwriadant gymeryd cyn eu pwroasurS os, wedi ymchwiliad, y boddlonir hw ua eu rhinweddau, dylent fod yn ewyllvWhTi daiu pris teg am y oyfryw, a rhoddi iddt brawf teg a pharhaol, a pheidio oymeryti 1,K^e8 ? meddyg. iaethau lselbris, y rhadyn fynyoh a brtrfiS. *■d,iiwert2'ond Oddiwrth ein gwybodaeth bersonol am 9 darparydd a r perohenog, gwyddom ei fod ym ei broffeswiiaeth we oyrhudd rhydedd uwohaf yn y gangen fferyUol, M ystyrir ef yn un o fferyllwyr mwyStgole!! dig ao addawol y dydd* FFEITHIAU AM QUININE BITTMRI GWILYM EVANS, Y maent yn oael eu oymeradwyo Ran feddygon a fferyllwyr i'w oleifioa ar 81 bob meddygunaeth arall fethu. Y maent yn oael eu oymeryd gan hen II leuano, oyfoethog a'r tlawd, a chin ddraian yn mhob sefyllfa ao o dan bob amgylchiad. Ni dyn mug yn Nghymru y iSeol^ adnabyddus, ond derbynir orders am d £ ■Canai' Y mae pawb sydd wedi en profi un waith p eu oymeradwyo i'w cyfeilhon, a thrwv hyn y mae y gofyn am danynt yn cynydS yn helaeth o flwyddyn i flwyddyn. Y mae hyn yn brawf teg o'i henei'thioldeb. canys paham y prycai neb y feddyginiaeS amJr f1^y^edd waith os na fuaa^l yn derbyn budd a Ueshad oddiwrthynj? Mam>TaiNuxTB HWOTA* TS OS9 Bbmu(M Quinine Bittar, Qtoihtm Bvant Y mae ynddynt gymysgedd oywraixn-i ohwerw a melns-lysiau, wedi ea hadSt= gydgymysgu mewn modd newydd, a dirgel, gan y dyfeisydd, Mr. GwflvS Evans, F.C.S. M.P.S., neryUydd SSS Y mae y gw^ianol lysiau wedi en mnowara ^?^/noda ohynwysa y QaiiS Bitters 3m ddiamheuol y ddarpanae^boMRI er Ilea y oorff dynol. Eu DHFNYDMOLDHB T* UN GYMMOMB. Hawdd iawn fyddai i unrhyw on brvna I ml?dZ^u?ethaa nohod wahanfa hawdd fyddai gwneud rhyw KvxnvsSS 2 honynt, ond anhawdd iawn fydSfSSi holl lysiau uchod at en gilydd amaifen rhesymol, ao anmhosibl fyddai en m&wM yn y modd oyfrwya a medrns y gwneu no Mr. Gwilym Evans, a chanddo ef yn y mae y dirgelwoh mawr o gyawtoow pethau hyn gyda y fath Iwyddianta'i faih bffaitb, Y maent wedi eu profi yn 1 symnd y dolurian a ganlyn Diwra TBKDIIIAD 4'1 cyn bwyd, diffyg arohwaeth, SSTMI nymunol yn y genau, gwres mawr yaw oylla yn aohosi y oorff i rwymo, yr iuJl yn drwm, a'r genau yn syoh, brathiadan poenus yn y freat a'r ochrau, a mynydi bigiadau fel pe bae pryfedyn yn y oylla. x mae un nen yohwaneg o'r poenan Uohod yn arwydd o ddiffyg treuliad, a goreu M @ptaf y dechreuir ar gymeryd Bitters Gwilym Evans. SYLWADAD CNMDIKOLI Gallai rhaidybio ei bod ya aumhoøiW « mi feddyginiaeth effeithio lleshad mewn oynifer o wahanol ddolurian. Y mae vt ateb yn syml a pharod, sef (1), bod tystiol. aethau pwysig i'w oael unrhyw amsw: ffll, fod y feddyginiaeth yn oynwys oynifer a wahanol lysiau; (8), y mae y driniaetti yn nn hollol resymol, sef symud aohos y vn gynt^ trwy gryfhau y oyfansodd&ad, ac felly amddinyn y rhanan gwanaf a mwyaf in I agored i afieohyd. Ar bob amgylohiad doeth ydyw yn gyntaf ohwilio aonos iolur, Cyfarwyddictdau i'w btmvatu^ Gofyner yn eglur am Quinine Bitten Gwilym Evans. Ar ol ei gael, edryoher J8 fanwl ar y label, a sylwer ar stamp y Llyw. odraeth sydd ar wddf y botel, a mroes gweled yr enw Gwilym Evans, F.G.8., M.P.S., wedi ei ysgrifenu yn llaWJÏØlÏi f p6T0h6P0ffi Gofalea pawb na ohymeront en twyllOi na derbyn oynghor 1 gymeryd mutorw foddion arall 0 dan yr hen esgus eiiouyn llawn cystal ac yn rhataoh, EsguS Kwael a thwyllodrus yw hwna. • Cofier bob amser fod efelyohiadau lawev i bob peth da, ao y mae Uuaws mawi a efelyohiadau i feddyginiaeth ardderehoiz a dihafal Quinine Bitters Gwilym E^aaT