Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
.f A DDYLAI FOD EGLWYS SEFYDLEDIG?
.f A DDYLAI FOD EGLWYS SEFYDLEDIG? • 1. Na ddylai—o herwydd y mae cysyllt lad y Uywodraethau gwladol A'r grefydd Sristionogol wedi profi yn ddinystr iddi yn mhob amgylohiad o ddyddiau Cystenyn Fawr hyd yn bresenol. 2. Naddylai—olherwydd y mae bodolaeth teelwys wladwriaethol yn y deyrnas yn rhwyBtr ar ffordd y deiliaid i fwynhau y bendithion oenedlaethol a aderbymant, ar dir cyfartal, so felly, yn trawsweithio yn erbyn trefn Rhoddwr pob bendith. 8. Na ddylai—o herwydd Eglwysi gweig- ion a obapeli llawnion yw y rheol, yn enwedig yn Nghymru, ac yn y Dywysogàeth hon y mae carcharau gweigion a I menyg gwynion.' Lloegr, Eglwysi llawnjon, car. charau llawnion. Beth am y berthynaa ? Sefydliadan y Llywodraeth yw y naill a r Ban. 4. Na ddylai-o herwydd y mae ei bodol. aeth yn cynyrchti anghydraddoldeb ore- fyddol, drwy fod y Llywodraeth yn oynal ac yn noddi un sect ar draul anwybyddu y cweddill—rhoddi crelydd mewn enw yn § £ £ ac ysbeilio y trethdalwyr o'nhariani gynal yr offeiriaid mewn byd da ac helaeth- wyoh beunydd. G. Na ddylai—o herwydd gorfodir pawb i dalu y ddegfed ran at ei chynal, pa un bynag a fyddact yn credu ynddi ai peidio be os byddant yn perthyn i enwad arall, rhaid iddynt dalu at gynal yr Eglwys yr un fath. I 3 6. Na-ddylai-o herwydd y mae dylanwad vn y Llywodraeth a'r gyfraith wladol i lygru crefydd, ac i agor llifddorau psohodau oyhoeddus, a darostWDg moesan cymaeith as; megys ag y bu mewn cysylltiau a r Babaeth ar y cyfandir, ac hefyd yn Lloegr pan oedd yr boll wlad yn meddiant yr Eglwys Sefydledig.. .t. 7. Na ddylai-o herwydd ei bod wedt llvncu i fyny waddoliadau oyhoeddus perth- ynol i'r plwyfi, a'r offeiriaid yn ymbesgi arnynt ar draul esgenlnso y tlooion, y rhai a haner newynant ar y t&l plwyfol yn yr Union.. • 8. Na ddylai-o herwydd ei bod yn sef ycllu mewn plwyfi gwledig a thenau eu poblogaeth offeiriad, yr hwn a drawsargl- wyddiaetha ar y bobl, er cyrhaedd ei tunoanion ei hun. Proffesa fod gofal eneid- iWy plwyfolion arno, ond y manan y gwelir of amlaf yw, a'i wialen bysgota ar lanau yr afonydd, yn dilyn cwn hela, neu yn cynffom itr mawrion. 9 Na ddylai—o herwydd fod eisieu y gwaddoliadau sydd yn ei meddiact i hyr. wyddo addysg yn y wlad. Gwaddoliadau, can mwyaf, a roddwyd gan ein blaenafiaid, y rhai oeddynt A mwy o arian yn eu llogell. au nag o grefydd yn eu oalonau, pan tua bydreLbywyd yn oeisio prynu teyrnas nefoedd." Hefy4, y mae -eihoffeiriaid yn cymeryd eu rhyddid i bregethu pob math o atbrawiaethau, a chyflawni pob math o ddefodau ffol,_yn ddigosb, a thrwy hyny, golli symledd yrBfengyl. 10. Na ddylai-o herwydd y mae ei chy- sylltiad A'r Llywodraeth yn ei gwneud yn dymhorol, anianol, a llygredig. Y mae yn darostwng cenadan y nefoedd yn gydstad A gweision eteill y Llywodraeth, sef milwyr a ceddgeidwaid, ac y mae yn dysgu diogi crefyddol i'r bobl, trwy ddweyd yr enillant deyrnas nefoedd ar gefn y plwyf. 11. Na ddylai-o herwydd y mae hanes- iaeth yr oesoedd yn ei obondemnio; ac y mae llwyddiant y cenedloedd Rydd wedi eu rhyddhau yn profi mai anffawd fawr oedd ol obysylltiad A'r Llywodraeth ar y cyntaf. 12. Na ddylai-o herwydd yn olaf, y mae yr Eglwys Sefydledig yn ymosod ar hawliau cydwybod, drwy hawlio pawb yn aelodau o honi, boddlon neu anfoddlon, agorfodi pawb i'w chynal. Y mae yn gosod baich arianol 0 117,025p ar y wlad i gynal ei hesgobion, th't rhai Bydd yn gweini arnynt, i wneud dim. Nid lies y bobl a llwyddiant crefydd sydd mewn golwg ganddi, ond dal i fyny safle o uwohsfiaeth ao anrhydedd, a llanw ooffrau ei swyddogion & thrysorau a chy- loeth. Dyna y gwir ddarluniad o honi, ac am hyny, y mae mwyafrif y bobl wedi ei gadael. Brydeiniaia I pa. hya y gaaewen i r pren upas yma i ddifirwytho y tir ? Torer ef i lawr y flwyddyn hon. a phnrer ef gan dan dadgysylltiad a dadwaddoliad. Y mae iheswm, cyfiawnder, chwareu teg, llais y wlad, crefydd, a Duw ei hun, yn galw am hyny. Fe ddaw i lawr. Y mae y fwyell wedi ei gosod ar wreiddyn y pren gan Mr Dillwyn, Mr Richard, a Mr Dick Tedy. z mae hawliau gwladwriaethol yn galw am hyn, y mae hawliau cymdeithasol yn galw am byn, ao y mae hawliau crefyddol yn Salw am hyn hefyd. Y mae yn ormod o'r ydd, bellach, i osod y wlad i gredu y ffol- inebau a bregethir yn y cyfarfodydd amddi- ffynol a gynelir ar hyd a lied y wlad. Os ydyw yr Eglwys Sefydledig amfyw. gwnel- ed ei hun yn Eglwys Esgobaethol ansefydl- JKlig, no yna gall fyw mewn heddwoh &'i phymydogion, a chaiff ei haelodau ei hun ei dhynal. Os bydd hyny yn ormod gwaith iddynt, gadawer iddi farw, ao ysgrifener ar ei bedd,' A'r wlad a gafodd lonydd.' Os ydyw I M.' yn dewis cael dadl ar y Swnc, wele fi yn barod, a chymeraf ei deuddeg apostol ef yn sylfeini iddi. Os bydd Mri Gol. yn foddlon, dysgwyliaf iddo ef ei hagor yr wythnos nesaf, drwy ein hanrhegu Ag ail lith. D.
-DYFAIS MR FLEUS AT ACHUB…
DYFAIS MR FLEUS AT ACHUB BYWYDAU. 4* Berehenogionglofeydd Mynuy a'r Deheudir yn gyffredinol, ac at eiddo Cwm Rhondda yn neillduol. FONEDDIGION,—Mewn canlyniad i bender- fyniad a basiwyd yn nghyfarfod misol glowyr y glo ager yn ngkymoedd y Rhondda a'r Ogwy, ayddiedig Chwefror y 4ydd, pryd y Cynrychiolid tua 12,000 o lowyr, y mae eenyi y gorchwyl o alw eich cydymdeimlad toner a'ch sylw neillduol at y ddyfais dra ayddorol a gwerthfawr hon i aohub bywyd- au. Y mae y penderfyniad fel y o"nlyn I Fod y cyfarfod hwn, yn ctedu y gallai cfyfais Mr Fleus fod yn foddion i achub Naawa o fywydau gwerthfawr a gollir yn bresenol drwy effeithiau dilynol ffrwydriad- an o nwy, yr hyn sydd yn ami yn fwy dinystriol nag effeithiau cyntaf y danchwa eJ hun, a dyiruna ar y goruchwyliwr i ymdreohu gosod y mater hwn gerbron meistri y oymoedd hyn, i'r dyben o'u cy- zahell i ffurifo gorsafaa (station») yn y dos- baxth, lie y gellid cadw nifer o'r offerynau, alle y gal lai dynion gael eu hyfforddi yn y gWersi gofynol i'w defnyddio yn briodol.' Foneddigion, credaf y bydd i ohwi gyd* synio a'r oyfarfod parth defnyddioldeb a gwerthfawredd y ddyfais fel moddion i gadw bywydau. Cafwyd profion ymarferol pendant o'i barodrwydd a'i effeithiolrwydd yn y cyfeiriad hwn yn y gwaith da a wnawd yn nglofa Seaham ar ol y danchwa echrydus yn 1880. Trwyddo ef y galluog- wyd tri o ddynion, i'r dyben o adferyd yr awyriad (ventilation), i fyned trwy bedwar can' Hath o dagnwy mewn glofa oedd wedi bod yn gloedig am wyth mis cyfan. Ar ol y danchwa a gymerodd le yn nglofa Silling worth hefyd yn Ebrill, 1882, bu nifer o ddynion, drwy otferynoliaeth y ddyfais hon, yn alluog i -fyned i'r pwll pan yr oedd yr awyr yn angeuol lygredig, a buont yn gweithio am bedair awr i waredu y glowyr oarcharedig, pump o'r rhai a gariwyd allan ganddynt. Gellid yn y oysylltiad yma gyfeirio at dancbwa glofa Lycett, ac amryw fanan ereill, lie, drwy ei offerynoliaeth, y oyflawnwyd pethau anhygoel ao anmhosibl hebddo. Yn gwybod y pethau hyn, onid ydyw yn drueni mawr, ie, yn dorcalonns, meddwl fod bywydau y tri dewrddyn a ffarfiasant ran o'r blaid ymchwiliadol gyntaf a ddisgynodd my i lofa Penygraig ar ol y danchwa ddiweddar, wedi eu haberthu, a dweyd dim am y posibl- rwydd fod rhai o'r trueiniaid ereiil yii fyw, ac yn ddichonadWy eu gwaredu. Y mae yn wybyddus ddigon ddarfod i un dyn ddyfod allan yn fyw yn mhen rhai dyddiau ar ol y danchwa flaenorol yn yr un lofa.. Beth bynag am hyny, y mae yn Mcr. po bnasai nifer o offerynau Mr Fleus gerllaw, na fuasem heddyw yn galaru yn herwydd colli y tri bywyd a nodwyd. Yn ngwyneb y tanchwäau mynych a gy- merant le yn ein plith, a'r canlyniadau gresynus a'u dilynant, a gaf fi, ar ran y glowyr, eich gweisioD, jddyrcuno arnoch i gymeryd dyddordeb ymarferol mewn ffurfio neu hyrwyddo rbyw gynllun a fydd yn effeithiol i ddcfnyddiad y ddyfais ragorol hon er achub bywydau. Nid yw i mi i nodi allan beth a ellid ei wnend. Yr ydych chwi yn feirniaid. llawei galluokach. Eto, yn absenoldeb oynllun effeithiolach, gallai yr hyn sydd eisioes wedi ei awgrymu gan y Swyddfa Gartrefol fod o wasanaeth; hyny yw, fod oynllun cyffelyb i'r un y ffarfiwyd gorsafau bywydfadau (life boat stations) gyda y fath ganlyniadau buddiol, i gael ei fabwys. ladu er ffurfio gorsafau lie y gallai offerynau Fleus gael eu hystorio mewn rhifedi digonol, a'u cadw yn barod at ddefnyddiad union- gyrchol; a lie y gallai hyfforddiant i ddyn- ion parth eu defnyddio yn briodol gael ei roddi allan drwy gynllun rheolaidd. Trwy offerynoliaeth y cyfryw drefniant, gellid ffurfio owmni gwaredol mewn amser byr ar ben unrhyw bwll y byddai tanchwa wedi dygwydd. Dylai Cymru, ao yn neillduol Owm Rhondda, gymeryd dyddordeb mawr yn r peth hwn. Hysbysir fi fod owmni wedi ei ffurfio yn ddiweddar, gyda swyddfa yn 27, Martin's LaBe, Cannes Street, Llun- dain, i'r dyben o gario allan awgrymiad yr Ysgrifenydd Cartrefol. Amcana y gym- deithas hon sefydlu gorsafau ar y llinellau « osodwyd gan y Swyddfa Gartrefol, a gofyn i berohenogion glofeydd am danys grifiadau cymedrol yn flynyddol, y rhai a roddai iddynt hawl i ddefnyddio yr offer- ynau pan y dygwyddai yr angenrheidrwydd poenus am hyny gymeryd lie Gyda'r cwmni hwn, neu hebddo, nid yw y mater, bellach, ond un o gydgQrfforiari (organization) syml, a chredwch ft, foneddig ion, fe deimla miloedd ar filoedd o'ch gweithwyr yn ddwfn ddiolebgar os bydd i ohwi yn garedig symud yn y mater. Pe unwaith y ceid yr offerynau wedi eu pwr oaBO. a'r gorsafau wedi eu sefydlu, teimlaf yn sior y ceir nifer digonol o weithwyr i ymgymeryd yn wirfoddol & derbyn. yr hyfforddiant angenrheidiol i'w defnyddiad priodol. Yr eiddoch, W. ABRAHAM. Swyddfa y Mwnwyr, Pentre, Chwefror y 18fed, 1884,
ARCHWILIAD Y GLOFEYOD AR RAN…
ARCHWILIAD Y GLOFEYOD AR RAN Y GWEITHWYR. GAN MABON. Cyfraith y Mwngloddiau, rheol 30: I Gall y personau a gyflogir mewn glofeydd o bryd i bryd benodi dau o'u nifer i archwilio y lofs ar eu traul eu hunain, a cha y portonau penodedig ganiatad o leiaf unwaith y mis, yn gyfeilliedig, os teimla y perohenog, y goruchwyliwr, neu y rheolwr, y lofa yn ofynol ganddo ei hun, neu un neu ychwaneg o swyddogion y lofa, i fyned i bob rhan o'r lofa, ac i archwilio y pyllau, y lefelau, y lleoedd gweithio, y ffyrdd awyr, yr offerynau awyru, hen weithieoedd, a'r peirianau, a ch&nt gan y perchenog, goruchwyliwr, rhe olwr, a phawb personau yn y lofa, bob rhwyddineb i'r dyben o wnQUaJ cyfryw ar. chwiliad, a chAnt wneud adroddiad gwirioa- eddol o ganlyniad y cyfryw archwiliad, a oha y cyfryw adroddiod ei groniclo mewn llyfr a gedwir wrth y lofa i'r dyben hyny, a'i ardystio gan y persouau a wnaethant y cyfryw. Gellir canfod oddiwrth fanylrwydd y rheol hon, ao oddiwrth ddarllen adroddiad y dadlenon a gymerasant la yn y senedd pan y pasiwyd hi, mai yr amcan mewn golwg wrth ei sefydln ydoedd rhoddi man tais ac hawl i'r gweithwyr i foddloni eu hunain parth gwir sefyllfa, neu yn fwy ym- arferol, dyogelwch sefyUfa y glofeydd y gweithiant ynddynt, Nid gorfodol mo honi i'r gweithwyr, ond caniataol; byny yw, nid yw y gyfraith yn gorfodi y gweithwyr i gario allan y rheol hon, ond yn rhoddi hawl a mantais iddynt i wneud hyny os yr ewyll. ysiant. Y mae felly yn fater o rydd ewyllys i weithwyr pa un a wnant hyny ai peidio. Nid felly o du y meistri; y mae arnynt hwy orfod i roddi y caniafcad hwn o leiaf un waith yn y mis, os gwna y gweithwyr ei hawlio. Ond unwaith y byddo y gweith- wyr yn defnyddio yr hawl a roddir iddynt gan y gyfraith y maent yn dyfod yn ddyled- wyr iaai, a hithau, bellach, yn ei gofyn o I adroddiad gwirioneddol o ganlyniad y cyfryw archwiliad yn ysgrifenedig mewn llyfr a gedwir wrth y lofa i'r dyben hyny, ao &'u henwauyn ardystiedig wrtho.' Felly, unwaith wedi gwneud yr archwiliad, nis gellir ysgoi hefyd gwuBud yr adroddiad, ac y mae y neb a wnelo hwnw yn rhywbeth ao nid yn un gwirioneddol o'r canlyniad, yn droseddwr cyfraith. Gan fod y gyfraith yn gosod cymaint pwye ar fod yr adroddiad o ganlyniad yr archwiliad yn un gwirioneddol, credwn hefyd, er nad yw yn dweyd hyny mewn geiriau, ei bod yn golygu i'r archwilwyr gael y glofeydd yn eu sefyllfa wtrioneddol, er iddynt wneud eu hadroddiad arnynt. Os nid felly, nid mantais mo'r hawl, ond an. fantais, lie bynag y'i defnyddir; oblegyd lie bynag y gwnoir adroddiad penodol 0 sefylia unrhyw lofa ar adeg neillduol, pryd na fy.ldo y sefyllfa hono yn ddaugosiad priodol o wir safyllfa gyffredinol arferol y cyfryw lofa, gosodir y oyfryw archwilwyr mewn gau sefyllfa, ac i ddwyn camdystiolaeth i I sefyllfa arferol y lofa yn nydd angenrhaid gwybodaeth o'i gwir sefyllta arferol hi ac felly, yn dwyn nerth i droseddwyr yn nydd ea gweuaid, a rhyddha-I, lie, hebddi, ni fyddai ond carchariad. Unig amcan pob archwiliad gonest a theg yw cael allan wis sefyhfa y glofeydd; ac nid oes dim mwy naturiol nag i'r archwilwyr feddwl, ac i'r gwoithwyr, drwy eu hadroddiad hwythau, i farnu mai cyflwr y gwaith ar ddydd yr ar- chwiliad yw ei sefyllfa arferol a chyffredin, ac nid oes dim yn fwy annaturiol na medd- wl fod y gyfraith sydd yn dal yr archwilwyr yn gyfrifol am wirionedd eu hadroddiad, yn golygu fod yr adroddiad a wneir yn ddim ond adroddiad o sefyllfa wirioneddol arferol cyffredin y gwaith. Pe amgen, byddai y cyfryw adroddiad yn gamadroddiad, a'r camadroddiad yn gamarweiniad, a'r cam- arweiniad yn eagor ar luaws o beryglon. Fully, ni phetruswn ddweyd wrth ein oyd. weithwyr, os na cheir manteision i wneud yr adroddiad yn adroddiad gwirioneddol o wir Befyllfa arferol y gwaith, mai gwell yw heb ei wneud o gwbl. (I'w barhau).
IBHAI 0 HAERIADAU ANWIREDDUS…
BHAI 0 HAERIADAU ANWIREDDUS CYMDEITHAS Y DADGY8YLLTIAD. LLYTHYR I. -io. Drwy ddamwain, yn ddiweddar, daeth pamphledyn i'm Haw yn dwyn y penawd uchod. Deallwyf ei fod wedi ei daenu yn ddirgel&idd yn mhiith y frawaoliaeth Eglwysyddol. Ai tybad eu bod hwy mewn angen am eu hargyhoeddi a'u cadarnhauyn y ffydd ? Afreidiol ceisio dyf ilu pwy ydy w yr awdwr; ond os na ellir dywedyd Ti yw y gwr,geliir penclerfyuu gyda sicrwydd -mawr ei fod wedi yfed yn helaoth o'r yabryd a nodweddir Lord Randolph Churchill yn y Senedd. Ni feddyliais erioed fod yr Eglwys- wyr mor groendenea. Gwarchod pawb, y maent wedi eu gyrn i bangfaydd o natur ddrwg gan Fisher a Mathews. Rhaid fod y brodyr hyn yn gosod eu bysedd ar ryw glwyf dolurus. Y mae yr Eglwyswyr bellach wedi codi at eu gwaith yn liawn bvwyd a gweithgarweh. Y maeut yn synu yn aruthr fod teb yn beiddio amheu eu gonestrwyddj unplygrwydd, a'u cyfiawnder. I Nid gwaeth y goriest er ei chwilio.' Dy wedai Dr Johnson unwaith fod rhyw ddyn wedi cymeryd yn ei ben i frolio ei onest- rwydd wrtho. Ood,' ebai. y Dr,' yr oedd wn yn gofaiu bob tro y cyfarfyddwn ag ef i fotymu fy llogellau yn ddyogel' 1Y cyntaf yn ei bawl a dybir ei fod yn gyfiawn, ond ei gymydog a ddaw ac a'i chwilia.' Y mae liuaws o off eiriaid erbyn hyn yn barod am ddad^ysylitiad, ond na sonier wrthynt am àdadwaddaliad beth t cymeryd oddiarnynt flesh pots yr AifftI Ai tybed fod awdwr y pamphledyn o dan sylw mor ddall ao anwybodus, fel na wyr am luaws o offeiriaid yn derbyn gyflog, ac felly yn bwyta bara yr Eglwys i roddi dat ganiad i egwyddorion hollol wrthwynebol i ysbryd y Diwygiad ? Mae Cardinal New man yn sant o'i gymharu a'r dosbarth yma. Oes, y mae lluaws o offeiriaid Eglwys Loegr yn derbyn y gyflog ac ya bwyta ei bara i ledaenu egwyddorion Eglwys Rafain ? Galwed y darllenydd i gof y niferi llnosog o offeiriaid Eglwys Loegr sydd wedi myned troaodd i Eglwys Rufain yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf. Nid trwy alw yr Ymneillduwyr yn 'lladrou,' yn 'ysbeilwyr,' a geiriau gtaslawn cyffelyb y mae gwastad hau yr anghydfod hwn. Fel y dywedai Arglwydd Beaeonsfield, I 1 t is not calling your opponent names which settles a question.' Nid yn fuan yr anghofia Deon Bangor yr anffawd druenus a gyflawnodd &'i dafod yn Caernarfon. Ac ymddengys ei fod ef ei hun yn ei theimlo, o herwydd dywedir, cyn ei ymadawiad i'r Cyfandir, er adgyfnerthu ei bun wedi ei gabldraeth ar yr Ymaeillduwyr, ei fod yn edrych mor ddiniwed a'r oen. Y mae eifod ef yn pregethu ar gariad brawdol yn ddymunol iawn, ond dylid cofio cyn fod 'cariad' yn 'bur,' y dylai yn gyntaf oil fod yn • heddychlon,' yn ogystal a rhai grasusau ereill. Ac yn hyn y mae y Deon yn hynod ddiffygiol. Mewn perthynas i'r Eglwys Sefydledig, nid yw erioed wedi oymeryd gafael a meddiant o galonan y bobl. Eglwys Loegr yn Nghymru yw, a dim mwy na hyny. Yn ofer gan hyny y derbynia Cymru y oyd. ymdeimlad lleiaf:— Their lofty souls had microscopic eyes, Which see the smallest spec of distant While at their feet a world of agony, [pain; Unseen, unknown, unnoticed writhes in vain.' Fel yr ydych wedi sylwi wrth ddarlleu banes y naill gyfarfod ar ol y llall, fel y bydd pob oyfarfod yn gofyn prawf-dyma ei Alpha a'i Omega. Dyma fel y byddai yr Iuddewon yn amser ein Hiachawdwr yn 1 ceisio arwydd' yn ngwyneb y 1 gweithred oedd nerthol a roddai yn eu mysg. Ddar llenwyr anwyl, a ydych chwi erioed wedi meddwl pa mOl anhawdd ydyw dwyn profion yn ami. Rhaid i ni yn ami lechu a boddloni ar resymeg y ladies: I I know it, because I know it.' Meddylied y darllen- ydd am eiliad y benbleth, y dyryswch, v ca ei ddwyn iddo pan yn cael ei alw i bron y pethau mwyaf oyffredin a dystadl. A fedrem ni brofi fod y belen ddaearol yn gron -mai y ddaear sydd yn troi o amgylch yr haul, aojoid yr haul o amgylch y ddaear,fel y mae ein llygaid naturiol yn panderfynu gyda y fath sicrwydd. A fedrem ni brofi. y bydd i'r haul godi boreu yfory ? Pe baem yn cael ein gwasgu i brofi y pethau hyn, teimlem anhawsder mawr i waeud hyny. Eto, nid oes yr amhouaeth leiaf yn ein meddyliau y bydd i'r haul godi. Er na allwn fod yn sicr, eto mae yn debygol, ac yn debygol i'r graddau uchaf—nid yn sicr, ond i bob amoan ymarferol yn gysfcal a bod yn sior. Y mae yn anhawdd meddwl am ddim yn y byd hwn yn fwy sicr nag y bydd i'r haul godi boreu yfory, ond ni ellir cyrhaedd yn uwch na'r tebygolrwyid mewn perthynas iddo wedi y cwbl. Pe gelwir arnom i brofi fod y gloyn ddu, ni fedrhi yr un o ddarllen. wyr y DARIAN wneud, er y byddem oil yn credu hyny. Pwy o honom nad yw yn credu fod siwgr yn felus, ond pa nifer o honom fedrai brofi hyny pe y gefefrid arnom. Gwel y darllenydd pa mor anhawdd yw dwyn profion i wirionedd pethau mor symi a'r uohod. Pa faint fwy felly fyddai rhedeg 11 yn ol am ganrifoedd i chwilio profion mewa perthynas i Eglwys Loegr, tra y mae Jluaws mawr o ffeithiau cysylltiedig & hi wedi en gordoi gan dywyllwch .caddugoi yr oesau ? Nid yw o bwys genyf yn bresenol i dreulio amser i geisio chwilio pa un ai sefydliad o eiddo y Senedd ydyw, neu rywbeth tebyg i Topsy yn Nghaban F'ewyrfch Twm, 'I 'spose I grlw.' Un path sydd sicr, fod y fath sefydliad yn ein plith, a hyny er ys tua tair canrif. Pan y daeth yr hynaf o honom i'r byd, yma yr oedd, a phan y byddo yr ieuangaf o honom yn ymadael a'r byd, yma y bydd. Ond y mae arwydliiQn yr amseran yn cyfeirio at adeg yn 3 my I pan y bydd wedi ymddatod am byth oouiwrth y Llywodrasth. M&e offeiriaid a churadiaid mewn cyffro mawr y dyddiau presonol. a hyny am fod sail gref i dybied fod gobaith eu helw ar gael ei gymeryd oddiarnynt. 'Mawr yw Diana yr Ephesiaid.' Y mae yr ami gyfar- fodydd a gynelir as hyd a lied y wlad y dyddiau hyn mewn cysylltiad a'r Dadgy- sylltiad yn ffurfio prawf o ba ysbryd y maent.' Nid gwiw gwadu nad dynion sydd yn meddu dygasedd angeuol, yn angherddol a phoethlyd. yn eu digofaint a'u cabldraeth- au trychfiiaidd mewn oyffro gan genfigen a dygasedd, yn poethi gan ddigofaint afrad- lonus a gorwyllt ydynt 1 Ao eto, mynant i'r byd gredu mai hwy, a hwy yn unig, sydd wedi eu harfaethu i bregethu efengyl Ty- wysog Tangnefedd i'r byd II Mor annhebyg ydyw y naill i'r llall! Trecynon. J. W.
SIENCYN PENHYDD ETO.
SIENCYN PENHYDD ETO. MRI GOL.Dyma lith rhif III o eiddo y tragywyddol • Frodor o Lan Afan.' Mesura hwn eto golofn a haner o'ch papyr, a rhoddi ei hall lithiau at eu gilydd y maent yn agos gymaint 0 faint ag sydd 0 ffordd o Aberafon i'r Taibach. Gofala am ddigon o hyd beth bynag. Y mae ei gylla wedi cyfogi erbyn hyn 'does bosibl. Wedi yr holl ymdrecbion angenol a gomweh natariolhyn,—y mycydd hwn yn esgor ar ohwanen, math y wybedyn yn ymladd a'r gwynt, &c., llwyddodd yn yr orchest fawr hon yn y diwedd i adaei Sienoyn Penhydd bron yn yr un man ag y cafodd ef yn fath o drochwr, yn fath o Eglwyswr, ac yn fath D Fethodist. A dweyd y gwir, y mae Siencyn yn dyfod allan o dan ei law wedi ei spoilio. Corneli Sienoyn oedd yn grand o'r blaen, ond dyma'r brawd hwn wedi eu bwrw i ffwrdd, ac edrycha yr hen batriarch nid mwy yn ddyeithr, ond fel dynion ereill.' Y mae refino rhai cymeriadau yn eu niweidio, tra y mae polisho ereill yn gwneud drostynt. Methodd y 'Brodor' yma ar gyfrif yn y byd a graspw y meddylddrych am wir ddirgelwch hynodrwydd Siencyn. Peth blin yw gorfod dweyd wrth unrhyw un nad yw wedi deall ei bwnc. Rhaid dweyd hyn wrth y I Brodor:Cymeriad rhamantus, eceentrioy ac ar ben ei hun yn bollol oedd Sienoyn. Trueni na ohawsai fyn'd i'r byd yr hyn ydoedd, ac nid yr hyn y myn y 'Brodor'yma iddo fod. Trueni hefyd na chai fyn'd i'r byd heb ei dwistio, ei blygUj a'i osod i ddweyd pethau amheus iawn gan ddynionach fel y 'Brodor' yma. Y mae cymeriad gwreiddiol yn beth rare iawn y dyddiau yma, a phaham y lladratir hunan- iaeth Siencyn oddiwrtho? Onid ei ddy eithrweh a'i eccentricities yw ei werth marchnataol a'i ddifyrwch cymdeithasol ? Y mae y I Brodor' befyd yn siarad yn anmherthynasol iawn a'r hyn sydd mewn dadl. Gwyr darllenwyr y DARIAN sut i farnu drostynt eu huuam. Y mao ffeithiau hanesyddol yr hanesydd manylgraff Mr Bowen, ao ereill, a dyohymygion, cam gasgliadau, ac anwireddau noeth y Brodor' yma o'u blaen. Gwyddant sut i farnu. Nid ydyw wedi ei holl wrhydri llenorol, wedi llwyddo i sefydlu un ffaith fod Siencyn yn daenellwr yn fwy na throchwr, ei fodyn Fethodist dim mwy na'i fod yo Eglwyswr. Dim. Ffeithiau noeth a gyflwynwyd iddo ef ar awdurdod amryw 0 wyr galluog; atebodd yntau hwynt arwy ddyebymygion, a mil o gasgliadau anmherthynasol a disail. Gwir yw y ddiareb, one fact is worth a bushel of arguments, ond barna y 1 Brodor yma y dylid ei reversio, a dweyd fel hyn: I A long arqument is worth a bushel of facts,1 Dylid ei ddilyn ef yn debyg fel y darllenir yr Hebraeg-o chwith. Onid y pwnc oedd y traddodiad am fedydd trochiad Siencyn, ac onid ym hyn i bob meddwl olir, diduedd, diddiohell, diragfarn, difethodistaidd, gwir. ioneddol, oywir, a theg, wedi ei brofi yn onest gan Glan Afan ? Onid yw ffeithiau eglur fel hyn yn llefaru? Er pa bryd y mae sylfeini gwirionedd-ffeithan wedi pallu? Na, choelia'i fawr. Gwcll genyf gredu fod dosbrth uchaf y I Brodor" wadi oymysgn tipyn nag i'r rhai hyny fethu. Dechreaa ei draethawd rhif III drwy ddweyd fod oymeriad Siencyn yn wadiad ar y traddodiad. Dywedaf finau, nad oedd. Meddai, I Ac yr wyf yn mynod i brofi hyn y tro hwn.' Fiddlesticks; enghraifft 0 hy. awdledd y bedwaredd ganrif ar bymtheg 11 I Gwrthbrofi' oedd dechreu ei ymrosymiad myned i í brofi' y mae yn awr; i ba Ie ytro nessf ? Atolwg, pa faint o lo a godwyd yn Mhwil y Morfa yr wythnos ddiweddaf? Sut y mae Melin Gopr Taibach yn myn'd ? a ydyw y machinery mewn order gweddoj ? Sut y mae y water works yn lady pad yn d'bd yn y blaen ? Atabion i'r owestiynau hyn fyddai yn enghreifftiau o ddull y I Brodor' yma o brofi fod cymeriad Siencyn yn wadiad o'r traddodiad. Dnil newydd a gwreiddiol ydyw, a ohlywsom fod patent i gael ei dynu aroo; purion. Dwg enw Mr Mathews i fewn etc f el arfer. (Hynod mor hoff o hyn ydyw). Rheswm dros hyny ydyw, feddyliwyf, am y teimla ei. wendid ya fawr, ao fod tywod dan ei draod, a hwnw yn rhoddi ffordd. Cydymdeim- lwyf ag of yn ei wendid. Atolwg, y mae cwestiwa yn ddyledus iddo fan hyn, cyn myned yn mhellach. A ydyw tystiolaeth mil o Fathew&iaid mor bwysig, mor grod- adwy, mor gadarnhaol ag eiddo un cyd- oeswr galluog a Siencyn, fel y diweddar Barch D. Thomas, Aberafon, a'r Parch Mr Bowen? Dywedwch y gwir, Mr Brodor! Pa faint 0 ffordd sydd o Fargam i'r Pil dros y turnpike road? Sut y mae nhw tua Chyuffig yna ? A ydyw yr byn a ddywedic am Siencyn yn mben haner can' mlynedd wedi ei gladdu mor bwysig a'r hyn a brqftr am dano gan ei gydoeswyr ? Pwy wyddai fwyaf am Dr Samuel Johiison-lolo Mow- gauwg wedi lei weled enwaitb, nnu Bos- well? Pwy wyddai yn well am Siencyn ond ei gymydogion Davia Thomas a Mr Bowen? Tybed nad oes llygaid yn mbenau ereill cystal ag eiddo y brodoriaid yma ? Coi- hoda latheidi o ysbwriel anmherthvnasDl, yr hyn sydd yn gwrthbron ac yn profi,. dweyd a gwrthddweyd, ond sydd yn dangos nad yw calibre ei feddwl o nodwedd owoh. raddol. Y mae llyswenod da yn mhwil Cyjxffig,. meddui«nhw,' ond genau afon Tai- bach a'i piau am amrywiaeth o bysgod. Y mae y tin plate trade yn dal yn isel. Y mae Daniel y Constant wedi ei gladdu er's blyn- yddoedd. Dealled y darllenydd y npll newydd o I brofi a 1 gwrthbrofi,' yna bydd yn ein deall ninau. Dymnnwyf gywiro y Brodor eto—brawd yn yfflon ydyw yn gofyn ei gywiro. Fel rheol, y mae pob bywgraffydd trochyddol yn ofalus iawn yn croniolo y pryd a'r lie y ganed hwn a hwn, y bedyddiwyd et, ac yn mha le a chan bwy, a'r amgylchiadaa pertbynasol, yn debyg iawn i'r modd y cronicla Mr Bowen hanes bedydd Siencwt Penhydd, &c., &c. Arfesant fanylwch neill- duol gyda'r pethau hyn. Y mae eu hanes erioed yn dangos mai pobl fanwl ydynt. Cydmarer y gwahaniaeth sydd rhwng hanesydd trochyddol diduedd fel Mr Bowen yn cofnodi ffrwgwd fedydd y Dyffryn, i'r hyn y cronicla hanesydd Metbodistaidd pleidgar yr un banes, gan roddi lliw Method- istaidd ao anwireddus ar bethau plaen ao amlwg. Beth yw y rheol fethodaidd 2 Ai ooditio gwirionedd ? Ai dyma'r craffder ? Nid yw hanes Siencyn ioyd wedi ei ysgnt- enu ar dystiol»c-th ei gydfrodyr, cacys aelod ac aek>dau Methodistaidd a roddodd yr banes am fedydd drochyddol Siencyn acy mae yn lied debyg fod pobl yn fyw yn tfwr a wyr fwy o hanes Siencyn Penhydd ddeg. o wyitbiau na'i gofianwr na'r Brodor. DyiAalr pron' a'r I gwrthbrofi' eto. Y mae cystal brithyllod yn uant Ffrydwylk ag sydd o wningod ar borfa Margam and nid oes cystal pryf yn Margam ag sydd o byegod yn y Ffrydwyllt. Dyma'r duU Hebraeg, gyfeillion., Yr oedd Siencyn yn I gymeriad gwir onest.' Oedd; yr oedd yn onestach o'r haneifna fnoch chwi wrth ei faweiddio a'i lusgo o'ch ol. Ffei, 0 ohwi 1 Dylech gywril- yddio. Cydmarer yr hyn a ddywea Mr Bowen am dano a'i gydwybodolrwydd yn mhethau crefydd. Profir mai gwr gonest ydoedd, ao nid gwr Uechwraidd a thwyllod* rus fel y chwi, yn actio'r Invincible Gwydd- elig i luchio o'r llwyn at enwad parchus y Bedyddwyr, ac yn neillduol at Lan Afan, er fod Glan ar y gwir a chwithan ar y gena. Nid oes dim yn profi gonestrwydd a brein- iolrwydd Siencyn at ei Dduw yn bytrach na thuag at ddynion yn fwy na'i fedydd troch- yddol 1 B'le mae ei resymog e' ?' ebe Ned y crydd y tu cefn i ni. 1 Y mae hwnw lie y mae ei synwyr,' ebe ninau. Dyma graffder resymegol f I Trueni na alfasai fathu gair casach na I throchwyr I' Ond y mae yn deilwng o Invincible Gwyddelig ac oFetbod- syn llecbwraidd. I Os oedd Siencyn yn credu yn yr athraw' iaeth drochyddol, rhaid, gan hyny, mai rhagrithiwr ydoedd.' Na raid ddim. Dweyd peth croes i wirionedd ydyoh, a, gwyddoch hyny yn nodle. Y mae miloedd y dydd heddyw yn credu yr athrawiaeth drochyddol yn eich enwad y fynyd hon yn Nghymru, ac yn mhlith enwadau ereill, ond nad ydynt yn meddu ar onestrwydd a gwr- oldeb Siencyn. Mae eglwysi cyfain—rhai yn mhlith Annibynwyr America—mor fed- yddiol a'r Trochwyr mewn egwyddor. Eglwys droohyddol yw Eglwys Loegr, a chyfundeb diwygiadol yn hono oedd y di- wygwyr Methodistaidd yn amser Sienoyn, fel nad oedd angen iddo fyned allan 0 hono. oddigerth iddo ddewis. Path od fod eisieu adgofio'r Brodor am fedydd trochyddol a gymerodd le pwy ddydd yma yn nghapel Y, Groes. A aeth yr aelod hwnw, tybea, at eglwys y Bedyddwyr yn y Taibach, dywed- wch ? Naddo, choelia i. Y mae rhai pobl eisieu cuddio y gwir gymaint a allont, ond gwthia ei ben i fyny, er eu gwaethaf. Ni throes Sienoyn allan yn rhagrithiwr na thwyllwr gan y Trochwyr; ond o dan eich dwylaw chwi, o herwydd barbareiddiweh eich rhesymeg, aeth yn bob un o'r ddau, ac yn gythraul. Cymeriad gonest oedd Sienoyn; nid ore- adur Uechwraidd, yn earn bod dan len gael iddo ferthyru y gwirionedd. Pe buasai gwir gan y Brodor yma, gallasai feiddio dangos ei hun, ond gan mai anwir sydd ganddo, dewi?a guddio ei hun. Pethau amlwg rhoes Glan Afan i'r byd, yn ddidder- bynwyneb I Yo ngwyneb hanl-llygad go- leuni.' Fe wyr pob trochwr, gan y sylwa'r Brodor ar hyn, fwy am fedydd y Testament Newydd nag a wyr utIJ taenellwr am y bedydd Rhufeinig a phaganaidd. Nid y patriarch o Penhydd yw y cyptaf na'r diweddaf i'r trochwyr geisio ei bar- dduo.' Nid oes hanes idrochwyr ymdrecbu pardduo neb; bwy gawsant eu pardduo. Carwyr rhyddid ydynt ao oeddynt hwy. Eu hymdrech yw cael cywirdeb mewn hanes yn gystal ag mewn egwyddor,
, MORDAITH O'R YSTRAD I AW8-f…
MORDAITH O'R YSTRAD I AW8- f TRALIA. Medi 22ain, 23ain, a'r 24ain.—Dim yn neillduol i'w nodi. Medi 25ain.—Dim gwynt, a'r mbr yn dawel. Y mae yma ganoedd o adar yn ehedeg, ao hefyd yn cysgu ar wyneb y dwfr. Eu henwau ydyw cape pigeons ac albutresses„ ao y maent yn eu dal wrth osod rhaff neu linynau pysgota alian dros ochr y llong. Deliais aibutress, ac yr oedd yn debyg i wydd o ran ei maint, a phen fel pen parrot. Yr oedd yn meaur naw troedfedd ac un fodfedd ar ddeg o aden i aden. Dywedir fod ei groen yn worth pam' punt yn Llun- dain. Cefais gynyg deg swllt am un o'i thraed gan Ffrancwr i wneudpoueh tobacco. Medi 26ain, 27ain, 28aio, a'r 29ain.—Dim yn neillduol ond ein bod ar derfyn mis eto. [ Medi 30ain.-Y gwynt yn parhau yn gryf iawn, ao yn teithio deg milldir a haner yr awr. Yn rhy arw i gynal y gwasanaeth. Hydref laf.-Y gwynt yn parhau yn gryf iawn, ac yn teithio deuddeg milldir a harcw yr awr. Bu farw baban byohan i Mr Wil- liam Latham, o Staffordshir, heddyw. Hydref 2il, Bydd, 4ydd, 5ad, a'r 6fed.— Dim yn neillduol i'w nodi. Hydref 7fed.—Ni ohynaliwyd gwasanaeth heddyw eto oblegyd ei bod yn wlyb. Ni chawsom fawr o wynt trwy y nos, ond yr oedd awel wedi codi tua haner dydd. Hydref 8fed—Diwrnod ystormus iawn. Y gwynt yn rhy gryf, neu y llong yn rhy ysgafn, nes tynu y rhan fwyaf o'r hwyliau i lawr. Cafwyd cyngherdd gan y dynion ieuainc yn yr hwyr. Hydref lOfed.—Boreu braf eto. Y gwynt a'r m6r yr un modd ag yr oedd y ddoe, a'r haul yn dysgleirio yn arddercbog. Fel rheol, pan mae yr haul yn dysgVeirio yn gryf, Lid oes fawr obaith am wynt; ond y mae yma heddyw yn hollol wahanol. Y J mae wedi teithio fwy heddyw nag a wnaeth orioed o'r blaen. Hydref lleg —Diwrnod hyfryd-y gwynt ddim mor gryf heddyw. Y mae y cadben rhwng dau feddwl pa un ai myned trwy Bass Strait neu myned o gwmpas Tas- mania, ond yr olaf y mae yn ei gymeryd. Hydref 12eg.- Y diwrnod cyntaf er ys wythnos y codwyd yr hwyl uohaf i fyny, neu yn ol ei henw, Royals. Hydref 13eg.—Yr hin yn ffafriol, a ninau yn gyaarus iawn ar ymyl y wlad newydd. Hydref 14eg.—Qweled Hong o hirbeil yn y boreu, ac yn ymadael a hi yn yr hwyr. Y mae hyn yn ychydig o gysur i ni ein bod 0 yn medru myned os cawn wynt. Yr oedd yn oychwyn o Lundain & chargo i Sydney. Hydref 15eg.—Ymadael & Tasmania yn yr hwyr, ond ni welwyd dim tir. Hydref 16og.-Yr ydym wedi dechreu teithio y Pacific Ocean. Dim cymaint o wynt heddyw. Hydref 18fed.-Diwrnod hyfryd. Awel gref yn y boreu. Parotoi yr angoran heddyw. Cafwyd cyngherdd ar y poop am y tro diweddaf, lie y eyflwynwyd ein diolch garweh i'r cadben, meddyg, swyddogion, a'r morwyr trwy cheers. Hydref 19eg.—Gwynt cryf yn y boreu. Y morwyr yn golchi y masts i lawr, a phob peth arall, ar gyfer myned i'r portbladd. Hydref 20fed,—Diwrnod gwlyb. Am ddeuddeg heddyw gwelwyd llong o'r enw Walter Raleigh ryw dair milldir oddiwrth- ym, a tugboat yn ei thynu. Meddyliodd cadben yr agerlong ein bod yn myned i Sydney, ao felly daeth atom. Addawodd ein reportio i Brisbane. Dynion duon oedd- ynt ar y tug boat Yr oedd yma lawenydd mawr pan welsom rhyw fath o ddyn Gweled tir'a goleudy. Sydney—eaith mill. dir o Sydney. Hydref 21ain.—Diwrnod gwlyb iawn, a'r gwynt yn ein herbyn, ao yn agos iawn i dir, sef Sydney, heddyw ef). Myned allan i'r ocean, neu I Running th-i Eastern down fel y dywedant. Gweled amryw o agerlongau a llongau hwyliau. Yr ydym yr- un man heddyw ag oeddem y ddoe. Yn yr hwyr yr oedd yn gwlawio, ac yn goleuo yn anghyff. redin iawn. Am ddeg, trodd y gwynt o'n hochr, ac yr oedd pob un ar ei oreu, oblegyd gwaith datl ddiwrnodjbodd genym i Bris-, bane. Hydref 22ain.—Diwrnod brfli, 0.11 haul yn ymddangos yn glir, a'r gwynt yn parhau i chwythu o'n hochr. Y mae yn boethaoh bob dydd. Hydref 28a.in.Diwrnod hyfryd, ao yn dwym iawn. Dim gwynt yn y boreu, a'r m6r megys heb wrych ar ei wyneb. Canol dydd, oawsom awel eto, ao yn parhau hyd yr hwyr. Cawsom y boxes i fyny heddyw am y tro diweddaf i ni gael ein dillad allan er mwyn myned i dir, Y mae y morwyr yn cael llawer mwy o waith ar dywydd fel hyn o herwydd ei bod about ship mor ami, ac y mae hyny yn gofyn y dwylaw i gyd. Hydref 24ain>—Boreu hyfryaV ond dim gwynt. Bu farw menyw boreu heddyw ar enedigaeth plentyn. Ei henw oedd C. Johnston, Ó Yorkshire, Bo yn glaf am wythnos, ond yr oedd y meddyg wedi ei rhoddi i fyny er's tri diwrnod. Gadawodd bed war o blant bychain ar ei hoi, ac nid oedd yr hynaf ond pum' mlwydd oed. Y mae yma amryw yn wael iawn eto. Hydref 25ain.—Yn agos iawn i dir. I Gweled y myfiy^.doedd yn amlwg. Enw y He yw Cape Danger. Am wyth yn about ship i gael myned oddiwrth y tir, ac yn myned alian i'r illôr eto. Gweled golendy Cape Lianger am bymtheg milldir. Hydref 25.-About ship am ddan y boreu, ac yn myned yn ol eto i'r Cape, a gweled y goleudy eto, ond ein bod ddeg milldir nes yn ol. Am chwoch y boreu yn myned allan eto. Y mae y gwynt yn hollol yn ein her- byn, My mae y llong yn rhy ysgafn i deithio yr Australian Coast. Nid yw y cadben wedi bod yn Brisbane o'r blaen. 180 o filldiroedd sydd i Brisbane o'r Cape Danger, Canol dydd cawsom ychydig o wynt, a pharhaodd felly hyd yr hwyr. Yr oedd yn fellt a feharanau hyd boreu dydd Gwener. Hydref 26ain.—Boreu hyfryd, ond dim llawer o wynt. Y mae y current yn ein gyru yn ol dair milldir yr awr. Yr ydym bron i gyd wedi cael anwyd, o herwydd y mae wedi bod mor oer; ond jn awr y mae y climate wedi newid. Er y cyfan, yr ydym ni, fel teulu, wedi cael mordaith iachus. Hydref 27ain -Díwrnod hyfryd, ond y gwynt yn ein herbyn. Claddwyd dri o blant bychain heddyw. Hydref 28a.in.-Diwrnod gwlyb, a'r gwynt yn ein herbyn. Claddwyd menyw yma heddyw eto o'r enw Mrs Cooper, o Bir- mingham, a gadawodd briod ac wyth o blant bychain ar ei hoi. Ei dolur oedd twymyn yr ymenydd. Hydref 29"in.-Jiwrnod gwlyb a garw eto, ond yr ydym yn teithio yn dda. Am un o'r gloch gwelsom dir o'r enw Cape Mor. ton, ao yna yr oedd pob un a gwen ar ei wyneb. Am chwech o'r gloch yn yr hwyr cawsom ychydig o wyut i ryned i'r Bay, ond nid oadd ypilot wedi dyfod, ac felly arosas- om yn yr ymyl. Hydref 30ain.—Am un-ar-ddeg y boreu rboddwyd arwydd i fyny am y pilot. Aeth y first mate a pbedwar o'r morwyr allan mawn bad i'r goleudy, rhyw ddeg milldir oddiwrthym, i edrych am y pilot, Daeth- ant ag ef gyda hwynt. Cawsom ychydig o wynt am dri, ac yr oeddem yn Morton Bay am ohwech yn yr hwyr, Hey taflwyd y port angor i lawr, ac yna rhoddwyd cheers i bawb ar y bwrdd. Yr ydym wedi cael golwg ar y wlad newydd, ac y mae wrth ein bodd. Yr ydym yn gorwedd yn agos iawn i agerlong o'r enw Duke of Westminster, yr hon a aeth allan o Plymouth dair wythnos o'n blaen ci a phum' cant o ymfudwyr i Brisbane. Yr ochr arall y mae tref o'r enw Sandgate, yr hon sydd yn nghanol bush. Hydref 31ain.—Daeth meddyg o Brisbane i'n examino ni heddyw er gweled a oedd twymyn ar y bwrdd, ond nid oedd yr un yn glaf. Tachwedd laf.—Daeth y tug. boat i'n tynu i ben ein taith. Yr oedd y golygfeydd oeddem yn eu gweled wrth fyned i Ian Brisbane River yn ardderohog. Terfynaf, gyda rhoddi hanes y lie eto.—Yr eiddoch yn gywir, DAVID MORRIS a'r teulu.