Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

, AT LOWYR MYNWY A DEHEUDIR…

News
Cite
Share

AT LOWYR MYNWY A DEHEUDIR CYMRU. ADKODDIADAU ABCHWYLWYB GLOFAOL I, kl MAWRELYDL-YR ORlAU HMON.- Y GOSTYNGIAD BYGYTHEDIG. Oddiwrth adroddiadau blynyddol Archwylwyr Glofaol ei Mawrhydi am y flwyddyn 1876, cawn allan rhai ffeithiau « daflant beth goleuni ar sefyllfa bresen- •1 pethau yn y rhan hon o'r Deyrnas Gyfunol yn ughy(Wu effaith andwyol ar raniu ereill or wlad. Cawn fod 133, 125,166 o dynelli o lo wedi eu codi yn y deyrnas y flwyddyn ddiweddaf; yn rhoi #15,651 o dynelli yn fwy na'r flwyddyn flaenorol, a 7,535,058 yn fwy na'r flwydd- ya cyn hyny. Yn y Western Mail am ddydd Mercher y 6ed cyfisol, cawn y sylwadau canlynol Allan o'r 133,125,166 o dynelli a godwyd yn y Deyrnas Gyfunol yn 1876, codwyd y* Neheudir Cymru, Mynwy, a Fforest O Dean, 18,596,290, yn erbyn 14,885,196 yn 1875. Gwelir felly, tra nadywy cynydd tros y deyrnas ond llai na thynell ar bob cant, eto, y mae y cynydd yn Neheudir Cymru, Mynwy, a Fforest o Dean, yn 3,711,094, neu yn gyfartal i 25 y cant; mewn geiriau ereill, pe iynid allan y dosbarth hwn, ceid allan fod pob dos- barth arall wedi lieihau, tra y mae Myn- wy, a Deheudir Cymru wedi cynyddu mewn modd gwyrthiol, pan ystynon y ffaith fod yn yftwyddyn ddiweddaf 27 o lo- feydd wedi eu cau ag oeddynt yn gweithio y flwyddyn cyn hyny. Dengys y cynydd hwn, yn ngwyneb isel brisoedd eithafol, fywiogrwydd rhyfeddol yn masnach Mynwy a'r Deheubarth; pa rai, yn y flwyddyn ddiweddaf, a ddygodd i'r farch- aad agos un rhan o saith o gyflenwad yr boll deyrnas, tra yn y iwyddyn cyn hyny na ddygasant ond un rhan o naw. Yn bresenol, allforia Caerdydd fwy o lo nac hyd yn nod Newcastle, er, wrth reswm, maedda Newcastle Gaerdydd yn ei masnach gartrefol. Y mae y prisoedd yn bresenol yn gwella, a phe ceid 11a o gyflenwad, codent yn gyflym, a rhodflent ^anlyniadau hapusach i'r glowr, y mars- landwr, y llong-lwythwr, a phawb perthynol Pr cynyrchiant. Mor belled, da. Ie, da iawn onide, fod toerchenogion ein glofeydd wedi dyfod yn 11 feistri ar fasnach lo y deyrnas; ond y drwg yw nad ydynt wedi boddloni gwneud hyn o fewn terfynau i allu caniatau i'r gweithiwr gadw ei safon teilwng, ac enill bywioliaeth deg a chy- surus iddo ef a'i deulu. Nac ychwaith, fel y mae lie i ofni, heb fod yn achos i feistri ereill y deyrnas orfod dilyn yr un cwrs, a thynu eu gweithwyr hwythau i lawr yn is nac yr oedd eu trefniadau lbl-.enorol yn caniatan iddynt wneud. W rth anerch glowyr Northumberland, bythetuos yn ol, cawn Mr. W. Crawfcrd, ( Durham, yn cydmaru cyfartaledd hiriau j glowyr Durham ag eiddo glowyr Deheu- ( dir Cymiu, ac yn dweyd fod y blaenaf yn ( bresenol yn derbyn 4s. a 7c. y dydd am aaith awr o weithio, tra nad yw yr olaf yn derbyn ond 3s. a 6c. y dydd am ddeg awr. i(n New' Castle.Daily Chronicle, am y dydd Mercher canlynol, cawn un o feistri Northumberland yn cymeryd achlysur oddiwrth hyny i hysbysu fod eu gweithwyr hwy yno, y rhai oeddent yn bresenol ar y strike, yn cael, pan weith- ient ddiweddaf, 6s. y dydd am oddeutu chwech awr o waith. Tranoeth, cawn un o du y gweithwyr yn gwadu y gosodiad uchod, ond yn cyfaddef mai cyfartal- edd yr hiriau oedd tua 5s. a 6c. y dydd. Gwyr y cyfarwydd mai y ddau ddos- barth mawr hyn a nodasom ydynt y cystadleuwyr mwyaf sydd gyda'n meistri ni yn y farchnad lo. A phan ystyriwn y gwahaniaeth sydd rhwng yr hiriau gyda ni, a chyda hwy ac yn Northumberland yn neillduol, He y mae y gweithwyr hyd yma wedi mwynhau Tai a glo rhad, nid rhyfedd fod em meistri m wedi bod yn alluogi'w gwerthu hwy allan o'r farchnad, ac wedi adenill eu masnach ar eu phed- werydd Wedi cyrhaedd y sefyllfa hon, rhesym- 01 fuasai i'n meistri ni i ymfoddloni a chyduno i gadw yr hyn sydd ganddynt; ond yn He hyny, gwell yw ganddyntangh- ytuno yn hyn o beth, a gwerthu cynyrch llafur y gweithiwr am y fath bris na rydd dal teg am y llafur hwnw, na llog teg am eu cyfalaf eu hunain. Yn lie ym- foddloni, dyma gri wedi ei godi eto am weithio ychwaneg o oriau. Y cri mwyaf dyeithr o bob cri yn y cyfwng presenol. Y fath gri! pan y mae y marchnadoedd yn mhob man wedi eu gorlenwi a mathau o lo na chymerir ymaith er eu cael am ddim-glo y buwyd dair a phedair bly- neddyn ol yn cael o wyth i ddeg swllt y dynell am dano, heddyw yn cael eiolchi ymaith gyda'r afonydd. Eto, y mae yn rhaid, meddant, i weithio ychwaneg o oriau, er cynyrchu ychwaneg o hono. Dywedir hafyd fod hyn yn debyg o fod o les i'r meistri, yr hyn a amheuwn yn fawr. Pe byddai yn lies i'r meistri, a hwythau yn ddigon call i gadw y lies hwnw yn hytrach na'i roddi i rai ha pherthyn iddynt, byddai yn rhyw gy- maint o synwyr i ganiatau i hyn gymeryd lie, yn gymaint a bod yn rhaid l gvfalaf gael llog cyn y gall llafur gael tal, er y byddai yn anheg a'r gweithiwr i ofyn iddo lafurio ychwaneg neb ychwanegu ei dal yn gyfartaL Ond y mae ffeithiau yn profi nad ydynt wedi gwneud hyny yn ddiweddar, ac nid oes lie cryf i obeithio y byddant ddim callach 3m y dyfodol. Yr wyf o'r farn pe byddai yn bosibl cael y meistri, fel corff, i edrych ar y mater yn y goleu priodol, y gwelent y byddai yn fwy er eu afles nac er eu lies. Un en^raifft:—Dywedir mai drwy fod yr hiriau wedi eu gostwng yr oeddent yn alluog i barhau cynyrchu mai oblegyd hyny hefyd y galluogir hwy i werthu am y prisoedd a wnant. Yna daw i hyn: os drwy oriau hirion y gallant weithio glo yn rhatach, bydd i ryw un, yn ei awydd 1 fyn'd a masnach y llall, roi ymaith fuad yr oriau hir, ac mewn canlyniad, bydd yn rhaid i'r lleill ddilyn, ac ysgubo yrhyn y meddyliwyd a fuasai yn lies i'r meistri i logefiau y prynwyr, a gadael y gweithiwr druan yn ddyfnach mewn uodi ac angen. Am hyny, gyfeillion a chydweithiwr, yr wyf yn hyderu y bydd i chwi osod eich gwynebau yn erbyn gweithio un awr yn ychwaneg nac wnewch yn bresenol. Nid oes un lleshad i ddod i feistr na gweithiwr i'r glo fyn'd i lawr yn ychwaneg. Gwyr corffy meistri hyny yn ada, ac addefa rhai o bonynt yn rhwydd. Ni raid i feistri Mynwy a Deheudir Cymru ofni cystadleuaeth neb y tu allan iddynt eu hunain; y maent, yn gydmarol, wedi gwerthu pawb ereill allan ond oddiwrth y gys- tadleuaeth andwyol sydd rhyngddynt a'u gilydd, y mae perygl 1 ami un o'r gwein- laid sydd yn eu plith eu hunain fyned i'r Bankruptcy Cowt, a lluaws o'u gweith- wyr i'r tlotdy. Un gair cyn terfynu ar y gostyngiad bygwthedig. Gobeithio na chamddealla nob fi y tro hwn. Gwyr y sylwgar, erbyn hyn, nad yw yr hyn sydd wedi ei wneud yn y cyfeiriad hwn yn gydfynedol a medd- yliau y mwyaf rhesymol ac ystyriol, yn mhlith y meistri, chwaethaf y gweithwyr; a hyny am ei fod yn tori ar gytundeb pwyllgor y sliding scale. Nid fy mwriad yw beio nac anghymeradwyo neb o'r cyfeillion sydd wedi eu gorfodi gan am- gylchiadau i dderbyn y gostyngiad yn erbyn eu hewyllys na, fel y dywedais yr flaenorol, nid oes un dewyn a wyr sut y buasent yn byw i wrthwynebu. Ond, y mae yn gwestiwn genyf, pa un a ydym fel corff o weithwyr heb fod yn gyfrifol am yr amgylchiadau; ac mai nid ein an- ffyddlondeb a'n diffyg ymddiried yn ein gilydd sydd wedi ein harwain i'r am- gylchiadau hyn a wn oddiar ffeithiau, a lluaws oresymau, pe buasem mewn undeb a chydweithrediad a'n gilydd, na fuasem yn y drafferth bresenol. Gwyddai y bankers yn Llundain am gytundeb Caer- dydd, ac hefyd fod hiriau y glowyr ar eu iselfanau yn ol y cytundeb hwnw, a phe y gwyddent fod nerth miloedd glowyr Mynwy a'r Deheudir y tu cefn iddo, bu- asent yn petruso peth cyn gwneud yr hyn a wnawd. Ond y rhwyg yn y rhengoedd | )edd sylfaen eu gobaith hwy am lwydd- iant. O'r tu arall, buasai yn rhatach, yn idoethach, ac yn fwy rhesymol, i'r mil- Dedd sydd yn gweithio ar yr hen bris i gynorthwyo yr ychydig ganoedd sydd wedi eu gorfodi i dderbyn y gostyngiad, serch i hyny gostio swllt y bunt iddynt, nac iddynt oil golli dau swllt y bunt mewn cantyniad i'r hyn sydd wedi cy- meryd lie, a hyny oblegyd diffygy pethau a nodwyd. Ond, gwell hwyr na hwyr- ach. Deuparth gwaith yw ei ddechreu. Hai ati ynte, boys l unwch a'ch gilydd rhag dygwydd petn a fo gwaeth. Gower Road. MABON.

Y LLWYNOG.

CYFARFOD Y MEISTRI YN NGHAERDYDD.

CYFARFOD GLOWYR CWMPARC.1

Advertising

GWERSI I'R ALCANWYR.