Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

I LLYTHYR CARDI.

TALHAIAEN.

JOHN BUNYAN.

News
Cite
Share

JOHN BUNYAN. Nos Lun, Medi 6ed, traddodwyd darlith ardderchog ar y testyn uchod gan y Parch. W. Harris, Heolyfelin, Aberdar, yn y capel lie yr arfera weinidogaethu. Dilynodd ei destyn yn ffyddlon o'i ened- igaeth mewn pentref bychan o'r enw Eletow, ger Bedford, yn y flwyddyn 1628, hyd ei farwolaeth. Fel y dywed- odd yi areithydd, mab i dincer isel ei amgylchiadau ydoedd Bunyan, a bu yn dilyn yr alwedigaeth hono ei hunan y rhan foreuol o'i fywyd, pryd yr arwein- ia.i fywyd oedd yn warth i neb ei arddel, ac enill iddo ei hun y cymeriad o fod yn bla ac yn felldith i'w gymydogaeth. Gan nad yn mheth bynag yr ymafaelai, yr oedd yn ei wneud a'i holl egni: pan yn pechu, yr oedd a'i holl galon yn y gwaith, ac yn hynodi ei hun yn fwy na neb arall yn ei bechod; a'r un modd wedi cael troedigaeth, byddai farw dros yr egwyddorion a bleidiai. Ymnnodd a'r fyddi'i yn ddwy-ar-bymtheg oed; wedi hyny cynghorwyd ef i briodi, ac er mor dylawd ei amgylchiadau, a drwg ei ly z," gymeriad, ydoedd, bu mor ffodus a chael yn briod iddo un o'r gwragedd mwyaf rhiuweddol yn y deyrnas, a'r hon a brofodd yn fendith anmhrisiadwy iddo, ac fel y dywedodd y darlithydd, byddai yn fendith i'r wlad pe byddei holl wrag- edd Cymru yr un stamp a hi, ond fel y mae yn resynus meddwl, y mae canoedd o'r dynion goreu a fuont ar y ddaear erioed wedi rhesu eu hunain yn mhlith y meddwon gwaethaf, ac wedi eu mell- dithio am byth drwy briodi a rhyw hychod bryntion, dioglyd, ac mnyben o fenywod. Gan nad pryd y daw ambel! i wr i'r ty, nid oes yno ddim ond yr an- nybendod, y bryntni, a'r sarugrwydd yn ei dderbyn, a'r canlyniad yw, y mae yn myned i'r dafarn i dreulio ei oriau ham- ddenol, lie y mae yn cael mwynhau ei hun ar aelwyd lan, a chael cyfeillion hawddgar i ymddyddan a hwy. G wyn fyd na chai Mr. Harris gapelaid llawn o'r menywod a nodwyd i draddodi y rhan hon o'i ddarlith iddynt, byddai yn well meddyginiaeth at eu cyfiyrau na Hollovja/is Pills, nac uurhyw gyffeitiau ereill. Ond menyw yn deilwng o'r enw gwraig a gafodd Bunyan. Bu yn fodd- ion i'w ddarbwylloi fynychu cyfarfodydd addoliadol, a'r bregeth gyntaf a glywodd oedd yn cael ei thraddodi ar y drwf o dori y Sabboth, yr hon a gafodd effaith ddyladwy arno. Yn fuan wedi ei droedigaeth, enwog- odd ei hun fel crefyddwr selog a brwd- frydig. Nid oedd dim canolog yn perthyn iddo, ond taflai ei holl enaid i ryw bwynt eithafol. Pan y pechai, gwnai hyny yn deil wng o Satan ei hun ond unwaith yr ymadawodd a'i fyddin, ymladdodd yn ei erbyn fel cawr, a phwy a wyddai yn well am wendidau yr henjorts, y rhai y bu efe gynt, fel cadfridog mawr, yn arwain ei fyddinoedd i'w hamddiffyn? Gwyddai y man i daflu ei bombshells i'w gwneud yn wenfflam ar unwaith, fel y gwnaeth gan- oedd o weithiau wedi byny. Pan yr oedd yn pregethu mewn anedd-dy un diwrnod, daeth swyddog y Llywodraeth a gwarant ganddo ato, a'i rybuddio i atal; ond nid yehydig a ataliai Bunyan i bregethu; trodd ei lygaid seraphaidd at y swyddog ac edrychodd trwyddo, ac heb yngan gair wrtho cafodd lonyda i derfynu ei bregeth; ond yn fuan wedi hyny, dygwyd ef o flaen yr ynadon am yr un trosedd, sef pregethu yr efengyl, pryd y dywedodd wrthynt mai pregethu a wnelai gan nad beth a wnaent iddo, a'r diwedd fu ei daflu i garchar. sef i hen gastell llaith a thywyll Bedford. Gor- fodwyd iddo felly i ymadael a'i briod a'i bedwar plentyn anwyl, un o'r rhai bych- ain oedd ferch fach ddall, yr hon a wasgai yn drwm arei feddwl. Ond buan y trodd yr hen garchar yn fyfyrgll, lie yr ysgrifenodd ei lyfr bydenwog Taith y Pererin," ac amryw o lyfrau da eraill. Tri llyfr yn unig oedd yn cyfansoddi ei library, y rhai oeddynt bob amser ar y bwrdd ganddo—y Beibl, y Mynegai Ysgrythyrol, a Hanes y Merthyron gan Fox. Yn y rhai hyn yn unig y myfyr- iai, nid fel llawer o bregethwyr y dydd- ian presenol "yn codi eu testynau o'r Beibl, a phregethu o'r neivspaper, neu godi eu testynau o lythyrau Paul, a phregethu politics am eu bywydau." Cyn hir enillodd Bunyan serch y ceidwad gymaint fel y caniataodd iddo dalu ym- weliad a'i deulu anwyl yn fynych, a threuli i ambell noswaith gyfan gyda hwy; ond barnodd yr esgobion gelyn- iaethus ei fod yn cael gormod o ryddid, a danfonasant gwyn i Lundain yn ei erbyn; ac apwyntiodd yr awdurdodau swyddog i edrych i'r mater, ac un nos- waith ganol nos, pryd yr oedd Bunyan gyda'i deulu, yr oedd yn methu yn deg a ciiael ei feddwl yn llonydd i gysgu, a dj'wedodd wrth ei wraig ei fod yn rhwym 0 ddychwelyd tua'r carchar yr amser hwnw o'r nos. Teimlai yr hen geidwad yn lied anfoddlawn wrth Bunyan am ei aflonyddu o'i gwsg, a rhoddodd sen ysgafn iddo am na ddychwelai yn gynt, neu arcs hyd y boreu; ond nid oedd yn ystyried mai llaw fawr a thrugarog Rbagluniaetb oedd wed ashosi hyn er eu lles hwy ill dau. Cyn ameer agor y carchar yn y boreu, yn ddisymwth dyma y swyddog o Lundain yn dyfod, ac yn hawlio agoriad ar unwaith, a mynu gweled a oedd y carcharorion oil yn ddyogel, yn neillduol Bunyan. Yn y man hwn drylliodd y darlithydd Infidel- iaeth yn chwilfriw, a'i gau-resymau am gydgyfarfyddiad dygwyddiadau, &c. Wedi treulio dros ddeuddeg mlynedd yn yr hen garchar, cafodd ei ryddhau mewn dull hynod, drwy gyfryngwriaeth un dyn a fu yn foddion mewn rhyw ddull i achub bywyd y Brenin Charles, a'r hyn a ddewisodd fel tal oddiar law y brenin am y weithred oedd, cael chwech o garcharorion wedi eu rhyddhau, a dy- gwyddodd Bunyan fod yn un o'r cyfryw. Cyn ei ryddhau o garchar, etholodd eglwys fechan o Fedyddwyr yn Bedford ef yn weinidog iddynt. Traethodd Mr. Harris yn helaeth ar Bunyan fel duwin- ydd, areithiwr, a phregethwr dylanwadol, ac am y torfeydd mawrion a ymgasglent yn nghyd i'w wrandaw am saith o'r gloch y boreu, yn Llundain, pan ar ei ymweliadau blynyddol a'r lie; ac am y weithred ddiweddaf a gyflawnodd, sef cyfryngu rhwng un mab afradlon a'i dad, sef boneddwr cyfoethog iawn oedd we li digio bron yn anfaddeuol wrth ei fab drygionus, yn yr hwn amcan gogon- eddus y bu yn llwyddianus, ond costiodd hyny ei fywyd iddo yntau trwy gael ei wlychu a chael anwyd trwm wrth deithio y daith bell. Bu farw yn 60 oed, wedi ysgrifenu 62 o lyfrau. Yr oedd des- grifiad y darlithydd oarchus o Bunyan yn marw, a'r angylion yn gwylied ei anadliad olaf, ac fel pe yn cystadlu a'u gilydd am yr anrhydedd o gymeryd enaid mawr y breuddwydiwr grand i Wynfa, yn un o'r golygfeydd mwyaf ys- blenydd. mawreddog, aruchel, ac elfeith- iol. N¡d yn unig yr oedd y ddarlith drwydui yn hynod o ddyddorol, ond yr oedd yn orlawn o'r gwersi mwyaf gwerthfawr, a'r traddodiad yn rhagorol. Mewn y-tyr addysgia,dol. gallaf ddweyd yn ddibetras, fel ereiil a'i clywsant, mai hon oedd y goreu a glywais erioed—yn wir deihvng o'r testYJt a'r traddodwr. Rhoddir yr elw oddiwrthi i gynorth- wyo gweddw dlawd a saith o blant am- ddifaid a rhoddodd Mr. Harris ei lafur gwerthfawr am ddim at yr achos teilwng. Trecynon. W. D.

TYSTEB CARADOG.

MAE NHW YN DWEYD.

SALEM, ABERDAR.

-------COED-DUO N.

AT Y BEIRDD.

[No title]

ADGOFION MEBYD Y BARDD.

YR YSGRIFBIN.

Y MORWR.

YR UCHEDYDD.