Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

I LLYTHYR CARDI.

News
Cite
Share

LLYTHYR CARDI. BORE LLUN, MEDI 12, 1875. MR. GOL,-M ae rhyw ysfa wedi fy nharo y boreu newydd hwn i ddweyd gair am y creaduriaid dwydroediog rhyfedd hyny sydd yn codi eu hunain i sylw yn ein gwlad y dyddiau hyn, sef, Y COEG-FEIRNIAD A.'R CKACH-FEIRDD. Dyma y bodau hyny sydd yn fwrn ar gylla pob gwir lenor a bardd yn mhob oes o'r byd. Ond credwyf fod mwy o honynt y dyddiau hyn nag erioed. Maent yn heidio ein dyffrynoedd, a'u henwau hwy sydd fwyaf amlwg yn ein cylchgronau misol a'n newyddiaduron. Ac 0 y fath show out a wnant o honynt en hunain. Maent yn ddigon i hel dyn- ion anllythrenol i gredu eu bod yn or- aclau ar bob pwnc yr ymdriniant ag ef, gan faint eu chwyddiaith a'i bombast- eiddiwch dihafal, bosh, humbug, ydyw y cyfan yn y diwedd. Os ewch i'w teimlo a'u profi, cewch eu bod yn perthyn yn agosach na brodyr i "goden fwg." A'r peth tebycaf iddynt ydyw hono, a Jack y Lantern, neu y ffug oleuni sydd yn ein corsydd ar rai amserau o'r flwyddyn. Dyma y bodau sydd yn credu fod Tyd- ain Tad Awen wedi eu cenedlu bwy yn feirdd, ac yn rhywbeth uwchlaw y cy- ff redin o ddynion. Ond ha! nid oes yr un spark o awen wedi ei osod erioed yn eu heneidiau gwagsaw, gwyntiog. Maent mor amddifad o hono a chopa'r Mynydd Du; ond y maent wedi darllen, clywed, neu freaddwydio unwaith fod rhai bod- au dwydroedig, fel hwythau, wedi cael cloi ond nid oedd y rhai hyny yn cario nog i ddal het rhwng eu hysgwyddau, ond penau yn ]lawn synwyr, barn, a deal], a chaionau wresog, gynes dan eu bronau, ac nid lwmp o iaoesol annheim- ladwy fel a feddiana y tylwyth yma. Unig nod y dosbarth yma yn ei hoes drafferthus, yw cyhoeddi, yn ei hym- drechiadau hynod, TVcle iii:" mae duw- ies enwogrwydd wedi galw arnom i rodio i'w theml i dderbyn nod o anfarwoldeb a chlod." Sa ha! rhaid eich ail foldio, ac ail furniteisio eich garets cyn y cewch roddi eich traed halogedig ar un o'i Ihvybrau cysegredig. Pe bae eneidiau cant a haner o filoedd o honoch yn cael eu rhoi yn yr un corff nis gellir gwneuthur bardd o hono wed'yn. Mae eich eneid- iau mor fychain fel y gall llon'd byd o honoch ddawnsio ar flaen nodwydd ddur, a chael digon o le heb berygl iddi fyned yn rou; rhyngoch. Nid oes un pwll glo na shop crydd, teiliwr, tincer, na chob- ler, heb fod rhai o'u brodyr yn y gym- deithas urddasol hon. Gallasai llawer bachgen wneud crydd, teiliwr, neu gob- ler dil, oni bai ei grachyddiaeth fardd- onol yn adeg ei addysgiaeth wrth y lap- stone neu yr ystyllen bressio: ac o her- wydd y camgyfeiriad a roddodd i'w fyw- yd, mae y dydd heddyw yn waeth na bod yn ddim byd, yn sport, acyn brixiwr i'r holl genhedioead gwareiddiedig. A phe bae yr Exquimauxs yn cael ei hanes yn eu byd thewllyd, chwarddent am ben y fath fiolineb a lol botes wedi ei wneud gan ddyn yn Nghymru. Ac yn wir, os gwelwch chwi yn dda, mae y dosbarth yma, bob copa walltog, yn cario ffugenwau hirwyntog. ISTiu oes un cwm, afon, na nant, na mynydd yn Nghymru na chaiff ei anfarwoli gan- ddynt hwy yn y drefn a ganlyn :—1., Cwmbach, Richards, R. Gilfach Goch, Edwards, J. Sol. Daves, D. Wind Jones, R. Fern Price, T. Mill Bee, acyny blaen yn dragwyddol nes Synu, pensyfardanu dyn," a'i yru o'i hwyl yn gyrbibion wyll ulw las. Yr oeddwn yn cbwertbin yn iachus y dydd o'r blaen wrth ddarlltn beirniad- aeth na, coeg-feirniadaetb, wys? yn un o'r papyrau yna. Rhoddais raff i hyny o ddarfelydd sydd genyf i geisio tynu dar. lun o'r coeg-feirniad hwn yn darllen ei di ash ar y shibboleth dan sylw. Fel y dychymygais, dacw ef yn d'od yn mlaen i'r platform,un Haw fel drontol ar ei ochr, ac yn llaw arall bapur mawr pwysig, sef tynged y cystadleuwyr yn eisteddfod canwyll frwynen. Torsythagydagawdur- dod cardinal, a siarada mor bwysig a phe bae pob gair o'i enau yn creu seren. A dywed fod llinellan yn y gan arall yn tynu dagrau o'i lygaid wrth ei darHen gan y newydd-deb a'r teimlad dwys a redai trwyddynt, a hyny yn gelwydd bob gair. Byddai yr un peth i'r hurtyn pen- ffol ddweyd fod "teimlad byw" mewn coes mandrel, a thlysineb barddonol mewn coes mochyn a hyny. A phe bae y coeg-feirniad hwn mor gall a pheidio difynu rhai o'r cyfansoadiadau enwog dan sylw, ni buasai yn bradychu cymaint o'i anwybodaeth yn y gangen bwysig hon. Nid oes dim celfyddyd, awen, na dim ynddynt; maent yn un chaos afiun- iaidd drwyddynt draw; a gallwn eu dar- llen hyd foreu y mil blynyddoedd heb golli deigryn o gwbl. Ond y r oedd rhy w dynerwch gwyryfol yn perthyn i'r beirn- iad dan sylw; wylodd ef lond tegell ,ddwywaith wrth eu darllen. Ond, o ran hyny, efallai ei bod yn well yn llawys- grif y bardd buddigol nag wedi i ddiawl g n y wasg roi ei fysedd duon arnynt a'i llychwyno; collasant bob teimlad a thy- nerwch o'r G- G- i swyddfay DAMAN. Tebyg ydyw fod y bywyd wedi ffoi neu farw ar y mynydd wrth groesi, druain o Jaonynt. 1

TALHAIAEN.

JOHN BUNYAN.

TYSTEB CARADOG.

MAE NHW YN DWEYD.

SALEM, ABERDAR.

-------COED-DUO N.

AT Y BEIRDD.

[No title]

ADGOFION MEBYD Y BARDD.

YR YSGRIFBIN.

Y MORWR.

YR UCHEDYDD.