Skip to main content
Hide Articles List

15 articles on this Page

Y GYFRAITH NEWYDD YN ERBYN…

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Y GYFRAITH NEWYDD YN ERBYN CYDFRADWRIAETH. P ASIWyD eyfraith yn y senedd-dymor diweddaf yn erbyn cydfradwriaeth gweithwyr, neu ryw rai ereill, i ddrvgu meddianau neu unrhyw waith oddi- wrth yr hwn y deillia budd i'r boblog- aeth. Enw y gyfraith yw, Conspi- racy and Protection of Property (38 & 39, Vict. ch. 86.) A.D., 1875." Dyddiwyd y gyfraith Awst 13eg, 1875. Cafodd awdurdod yr orsedd y pryd hwnw. Cynwysa un-ar-ddeg o adran- au. Yr adran gyntaf a rydd enw y gyfiaith. Yr ail a ddywed ei bod i ddvfod i weithrediad Medi laf, 1875. Eglurwn yr adranau o dan ei rhifnodau. 3. Ni bydd cytundeb rhwng dati, neu ragor o bersonau i wnend gweith- red, neu beri iddi gael ei gwneud, gan fwiiadu neu barhau dadl mewn gwaith rhwng meistri a gweithwyr, i gael ei chospi fel cydfradwriaeth, os na bydd y weithred yn un gospadwy fel trosedd yn ha eddu cosp ar berson y troseddw (crime.) Os bydd y weithred yn un n o'r fath, bydd y troseddwr yn agored i gael ei garcharu gan y llys am dri mis, neu ragor, fel y byddo y gyfraith yn caniatau. 4. Y mae yr adran hon, sef y bed- waredd, yn rhoddi awdurdod i gospi dyn a doro ei ymrwymiad i gyflenwi tref neu ardal a nwy (gas), neu ddwfr, o ugain punt, neu dri mis o garehariad, with o'r without hard labour. 5. Y mae yr adran hon yn rhoddi i ynadon awdurdod i gosbi dyn fyddo wedi cytuno, neu wedi cael ei hirio i wneud gwaith, ag ugain punt o ddi- rwy neu garchariad o dri mis, with or without hard labour, os bydd efe ei hun, neu mewn cytundeb ag ereill- trwy beidio gwneud ei waith yn ol ei gytundeb-yn peryglu bywyd, neu yn achosi niwaid i gyrff dynion, neu yn peri dinystr i feddianau gwerthfawr. 6. Os bydd meistr mewn rhwymau cyfreithiol i'w was, neu ei brentis, mewn modd gwirfoddol yn esgeuluso rhoddi iddo ymborth, dillad, meddyg- iniaeth neu lefy angenrheidiol, heb es- gusawd cyfreithlon, trwy yr hwn es- b geulusdra y gwneir niwaid pwysig a pharhaol i'r gwas, neu y prentis, rhaid i'r meistr a wnelo felly dalu ugain pint o ddirwy, neu gael ei garcharu am, nid rhagor na chwe mis, with or without hard labour. 7. Y mae yr adran hon, sef y seith- fed, yn bwysig iawn i weithwyr. Yn 01 hon cospir dyn gan yr ynadon ag ugain punt o ddirwy^ neu dri mis o garchariad, with or witl Olt liard la- bour, am orfodi unrhyw weithiwr neu unrhyw berson i beidio gwneud, neu i wneud yr hyn y mae gan y person hwnw bawl i'w wneud neu i beidio ei wneud. Y mae ffiirf y gorfodaeth angbyireithlon fel y canlyn yn yr ad- ran :— (1) Defnyddio moddion gortnrecnoi, bygythiol, tuag at berson gweithgar, neu ryw un arall, neu tuag at ei wraig, nen ei blentyn, neu a ddinystria eiddo y gweitbiwr, neu ryw un arall neu, (2) Yn gildynus addilyna y gweith- ,iwr, neu ryw un arall o le i Ie, neu, (4) A guddia offer gwaith, dillad, neu bethau ereill fydd yn eiddo i'r gweithiwr, neu ryw un arall, neu a'i hamddifada o'r pethau hyn, fcl na all -eu defnyddio yn ei waith neu, (4) A wylia neu a gylchyna dy, neu le arall lie y bydd y gweithiwr, nei ryw un arall yn aros, neu yn gweithio, neu a wylia ar arweinfa i'r lie y byddo efe neu, (5) A ddilyna y cyfryw weithiwr neu berson, gyda dau neu ragor o bersonau, mewn modd atreolus, ar hyd heolneu ffordd. 8. Yr adran hon a rydd awdurdod i ynadon i leihau swm dirwyon, i ddim llai nag un rhpn o bedair o'r dirwyon 0 dan gyfreithiau neu weithredoedd seneddol ereill. 9. Yr adran hon a rydd hawl i'r person a gyhuddir i wrthod cael ei farnu gan yr ynadon, y rhai a allant ei erlyn ar gyhuddgwyn (indictment). 10. Yn ol yr adran hon gall yr yn- adon gospi yn ol y Summary Juris- diction Act. 11. Yn yr adran hon rhoddir aw- durdod i rai a rwymir mewn cytundeb- au at waith, yn ol adranau 4. 5, 6, y gyfraith hon, hwy, eu gwyr, nen eu gwragedd, i fod yn dystion mewn er- lyniad. 12. Rhydd yr adran hon awdurdod i unrhyw ddyn a erlvnir, yr hwn a deimla nad yw yn cael cyfiawnder ar law yr ynadon, i apelio at y Quarter Sessions." Ond rhaid i'r apeal fod, (1) Yn mhen pymtheg diwrnod ar 01 penderfyniad yr ynadon, ond nid cyn hyny na rhagor. na phedwar mis ar ol hyny. (2) Rhaid i'r apeliwr roddi hysbys- rwydd ei fod yn myned i apelio i'r parti gwrthwynebol iddo, ac i'r ynadon, yn nghyda'i resyman am apelio, yn mhen saith niwrnod wedi i achos yr apeliad gymeryd lie. (3) Rhaid i'r apeliwr yn ddioed wedi rhoddi yr hysbysrwydd yn nghylch yr apel o flaen yuad heddweh, yn gystal a meichiau, neu hebddynt, ymrwymo i brofi yr achos, ac i ymostwng i farn y llys arno, ac i dalu y costau a wely llys yn gyfiawn iddo eu talu. (4) Os bydd yr ynadon wedi car- charu yr apeliwr, gall ynad, os gwel yn dda, eiryddhau, ond iddo ymrwymo fel y dywedir uchod. (5) Gall y llys i ba un yr apelir ohirio yr apel, ac wedi clywed dadl ly yr apel, gall gadarnhau y farn flaenorol, neu ei diddymu, neu wneud cyfnewid- iad yn mhenderfyniad yr ynadon, neu .u hanfon yn ol at yr ynadon, a golyg- iad y llys ami, nsu orchymyn rhyw beth yn yr achos fel y byddo y Ilys yn gweled hawl eyfiawnder; ac os bydd yr achos yn cael ei anfon yn ol i'r ynadon (neu y court of summary Jurisdiction), rhaid i'r llys hwn o ynadon ail-wrando y ddadl a phenderfynu yn ol barn Ilys yr apel. 13. Eglura yr adran hon pwy yw yr ynadon, fel yn yr erthygl a roddasom yr wythnos ddiweddaf ar y gyfraith newydd yu nghylch dyledswyddau meistri a gweithwyr. 14. Eglnra yr adran hon pwy yw y "municipal authority." 15. Yn hon cyfeirir at "Act, relat- ing to malicious injuries to property, 24 & 25, Vict. chap. 97, sectiou f>8, i egluro beth a feddylir wrth y gair "malicious," sef bwriad drwg, yn y gyfraith hon. 16. Nad oes dim yn y gyfraith hon yn gymhwysiadol at forwyr, nac at brentisiaid ar y mor. 17. Wedi dechreuad awdurdod y gyfraith hon diddymir y gyfraith perth- ynol i droseddau tebyg i'r rhas a gosb- ir dan y gyfralth hon. Y gyfraith a ddiddymir yw 34 a 35, Vict., chap. 32. A chyfraith "Meistr a Gwas" 1867, oddieithr rhyw eithriadau ffurf- iol yn nghylch ynadon, a'u hawdirdod yn y wlad hon a'r Iwerddon, a hen gyfreithiau ereill yn rhai o'u hadranau perthynol i waith. 18. Ffurfo gymhwysiad y gyfraith at Ysgotland yw yr adran hon. 19. Felly yr adran hon a'r 20 a'r 21 at yr Iwerddon. Gwelir wrth adranau y gyfraith hon fod gofal mawr wedi bod, ac yn bod, i gadw y gweithiwr gyda ei waith, er mwyn cadw canlyniadau drwg oddi- wrth ereill; ond ychydig iawn a ddy- wedir yn nghylch y posiblrwydd i fawr- ion y wlad, y rhai a roddant waith, i wneud annhegweh a'r gweithiwr. Ac y mae ffurfiau en apeliad at lys uwch yn drwm ac anhawdd, fel ag i ladd ei obaith am gyfiawnder. Ond beth ly gwell a allesid ddysgwyl oddiwrth Dori- aeth, yr hwn sydd yn llywodraethu ein Senedd yn awr ?

+1 MASNACII GLO A HAIARN.

+ DAM WAIN DDYCHRYNLLYD MEWN…

CYFOETH DISYMWTH.

TAN MEWN" GLOFA.

-4 (tO RU CH W YLIWR GLO WYE…

MR DALZIEL AC UNDER Y MEISTRI.

DAL MORFIL YN YR HAFREN.

EISTEDDFOD TYNEWYDD.

ABERDAR—DARL1TII.

GWEI! Hi A'U H MARM NANTYGLO.\

PRIF YSGOL CYMRU.

[No title]

POXTARDDULAIS.

Advertising